Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
CYNNWYSIAD:
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
CYNNWYSIAD: Crynodeb yr lythnos 1 Newythyr Zachry o'i Gadair Wellt 2 IIwnt ac yma yn yr America 2 Yr ysbryd sydd yr awrhon 2 Nodion Ada 3 Mantol y Beirdd 3 Rhen pfarmwr 4 Llythyr Lerpwl 4 Y Ser G-wibiog 5 Newyddion Tramor 5 Newyddion Cymreig o, 6, a 7 ..E'rtl¡yglau-Cynhadledd Fawr Aberystwyth 8 Y diweddar Barch. J. Williams, Gastellnewydd.. 8 Llythyr y Meudwy 9 Gohebiaetbau 10 kloffion, Barddoniaeth, a Manion 11 Cymdeithas yr Achosion. Seisnig 12 ^archnadoedd 12 ^ai*wolaethau, &c 12
- - ORYNHODEB YR WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ORYNHODEB YR WYTHNOS. Mae yr holl gyfFroi a bygythio a fu yn erbyn Dr. Temple wedi darfod mewn mwg. Pan ddaeth y peth i brawf, gwelwyd yn llaw pwy yr oedd y pen cryfaf i'r ffon; ac y mai i aw- durdod a phenodiad ei Mawrhydi, yr oedd -rhaid ymostwng os mynent aros yn yr eglwys, ar yr hon y mae hi yn ben. Bu cyfarfod sefydUad yr Esgob newydd, a siarad yn iaith anghydffurwyr, yn Exeter dydd Iau Tach. I Ifed, ac wedi iddo gael amser i eistedd i lawr yn mysg pobl ei ofal, nid oes petrusder y11 ein meddwl na bydd yn gymaint o eulun gan glerigwyr ei esgobaeth, ag y bu erioed gan ei ddysgyblion yn Rugby. Rhoddwyd i George Peabody gladdedigaeth anrtiydeddus, ni ddahgoswyd mwy o barch i 1111 tywysog yn yr oes hon a ddygwyd i'w gladdu. Yr oedd gwasanaeth yr angladd, yn 0 rilyvrbeth amgen na seremoni. Nid ffug oedd: y teimlad a amlygid, ond gwyddai pawb fod colli y fath un yn golled mewn gwirionedd i'r byd. Deallwn fod Mr. Peabody wedi gadael ^°>°°0p yn ei ewyllys, at adeiladu aneddau odion Llundain; yr hyn at y swm a gy- ranwyd at yr un amcan yn ei fywyd, a gyr- ha6^a Dyma un wedi rhoddi 4nner miliwn, er ychwanegu cysuron, a uniaru dyoddefiadau tlodion y brif ddinas. ae> eyfrifoldeb mawr yn disgyn ar y rhai y a fynant ag arolygu yr arian i fynu We ed fod y defnydd goreu yn cael ei wnend hoynt, OR(I pa foclcl bynnag yr ymddyga y aerbyniodcl yr ymddiriedaeth erys ei enw j am oesau fel gwir gymwynaswr far ° la°^1" Cynnulleidfaol wr ydoedd o £ a a P^roffes, ar tro diweddaf y bu yn, anvers, ei ddinas enedigol, eisteddodd mewn mundeb yn y capel cynnulleidfaol, a adeil- adodd er coffadwriaeth am ei fam; a'r He yr erys ei llwch, ar lie hefyd y dymunodd yntau i'w weddillion gael ei dwyn. N ae ymyred neb a'i esgyrn ef, a bydded y gwynt ar mor r, y yn esmwyth wrth y llyngeslong sydd i'w ddwyn drosodd i'r lie a brynodd yn feddiant beddrod Mae Mr. Gladstone yn credu mewn llywod- raeth rad, ac oblegid hyny y mae am ddileu pob segurswydd yn y wladwriaeth. Ond er ei fod yn eithafol ogynil ar y cyllid cyhoeddus y mae yn afradrus ar urddau a theitlau. Mae barwniaid a marchogion yn dyfod yn gawod- ydd ac y mae arglwyddi yn cael eu creu yn growpiau. Mae deg o bendefigion newydd yn awr yn aros i ddisgwyl myned trwodd i fywyd urddasol y Ty uchaf. Rhwng yr Esgobion newyddion y mae yn dyfod i ran y Prif weinidog i'w creu ar arglwyddi tymhor- ol y mae ei fawr allu yn eu galw i fod, bydd ty Dafydd yn myned gryfach gryfach, a thy Saul yn myned wanach wanach yn mysg pen- defigion y deyrnas. Am y tro cyntaf er dyddiau y chwildroad y mae dau o aelodau yr Eglwys Babaidd wedi ei codi i'r Ty uchaf, sef Syr John Acton, ae Arglwydd Edward Howard. Mae Mr. Gladstone am roddi prawf sylweddol nad ydyw am i neb oddef anfaintais wladwriaethol, oblegid ei olygiadau crefyddol. Myn ysgubo ymaith holl olion erledigaeth grefyddol. Mae y boneddigion eraill oil yn haeddu yr anrhydedd yma. Telir sylw i bob rhan or deyrnas yn y dyrehafiad yma, ac nid yw Cymru wedi ei anghofio oblegid yn mhlith eraill y mae Mr. Talbot yr aelod parchus dros Sir Forganwg wedi ei anrhydeddu, ac nid oes yr un ohonynt ag y bydd y teitl Lord yn gweddu yn well arno. Nid oes ynom un- rhyw wrthynebiad i Dy yr Arglwyddi, ond iddo beidio sefyll ar ffordd barn bwyllog ac addfed cynyrchiolwyr dewisedig y bobl. Ar y 9fed o fis Tachwedd y mae Maer Llun- dain am y flwyddyn ddyfodol, yn myned trwy brif heolydd y ddinas mewn rhwysg a rhodres teilwng o hanes a henafiaeth y faeroliaeth, ac yn cael ei ddilyn gan osgorddlu anrhydeddus, teilwng o gyfoeth a mawredd prif ddinas y ddaear. Adwaenir y dydd wrth yr enw Lord Mayor's Day, a mwynaeir ef gan bobl Llun- dain o bob gradd a dosbarth fel un o'u prif wyliau. Bu dinasyddion Llundain am gan- rifoedd, yn angelion gwarcheidwadol rhyddid Lloegr, a thrwy rinwedd y freinlen a ganiata- wyd iddynt gan "William y cyntaf, buont yn alluog lawer gwaith i ffrwyno brenhinoedd a brenhinesau trahaus a gormesgar, oherwydd paham, y mae pobl y ddinas fawr yn falch o'r faeroliaeth a'i thraddodiadau anrhydeddus. Ar yr wyl hon, yn ol hen arferiad, y mae prif swyddogion y llywodraeth, ac eraill, yn ciniawa gyda y Maer, ac yn areithio ar ol einiaw. Teimlid dyddordeb anarferol eleni yn y Lord Mayor's Day, am y disgwylid clywed syniadau Mr. Gladstone ar gwestiwn y tir yn yr Iwerdd- on. Dywedai y Prif "Weinidog ei fod yn achos o lawenydd digymysg iddynt oil, fod pobl yr ynys hon, agos yn ddieithriaid, yn parchu deddfau a sefydliadau y wlad, ond fod ein llawenydd yn troi yn dristwch mor fuan ag yr edrychwn ar sefyllfa yr Iwerddon. Y mae Lloegr wedi llywodraethu yr Iwerddon am 700 mlynedd, ond hyd eto, wedi methu cyr- haedd dyben cyntaf llywodraeth,—gwneyd y bobl yn foddlon i'n cyfreithiau a'n sefydliadau. Addefai Mr. Gladstone fod yr Iwerddon wedi ei tharawo gan afiechyd gwladyddol, a bod yn hen bryd i ni arfer pob moddion yn ein gallu i symud ymaith afiechyd gwladyddol yr Iw- erddon. Bu yr oracl yn ddistaw gyda golwg ar y feddyginiaeth. Ond yr oedd yn hawdd deall wrth ei awgrymiadau, ei fod ef a'i gyd- weinidogion yn benderfynol i wneyd cynyg teg i symud yr achosion o'r anfoddlonrwydd sydd yn mynwesau trigolion y chwaer ynys. Y mae Mr. Gladstone wedi ystyried yr afiechyd yn fanwl a difrifol, ac y mae genym sail i obeithio y bydd ei dalentau gwladweinyddol ef a'i gynorthwywyr yn ddigonol i ddwyn cwestiwn y tir i sefyllfa foddhaol yn ngolwg y Gwyddelod, heb wneyd un cam ag egwyddor- ion cyfiawnder, ac heb sathru ar hawliau eiddo personol. Cafodd Mr. Forster gyfleusdra yr wythnos o'r blaen i draddodi dwy araeth odidog yn Liverpool, y gyntaf,—mewn atebiad i ddir- prwyaeth yn erfyn ar y weinyddiaeth trwyddo ef, i gymeryd mesur y Prif Ysgolion i'w dwy- law eu hunain. A'r ail, yn yr Institute Schools, ar addysg plant y genedl. Y mae Mr. Forster yn hollol ryddfrydig ei syniadau ar y materion pwysig hyn, ac yn dra awyddus i ddyrehafu addysg pob dosbarth yn y wlad. Coleddem farn uchel am dano o'r blaen, ond y mae yn awr yn uwch yn ein golwg, ac yr ydym yn camsynied yn fawr, os na bydd genym achos diolch am weinidog Addysg mor gymhwys pan ddygir cwestiwn mawr addysg ger bron y Senedd. Yr ydym yn gorfod talu yn ddrud am ein glo. Dydd Llun diweddaf cymerodd tanchwa arswydus le mewn pwll glo, ger Wigan, a lladdwyd dim llai na saitharhugain o ddynion yn y fan.