Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

'YR YSBRYD SYDD YR AWRHOX.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

'YR YSBRYD SYDD YR AWRHOX.' Fel y dywedodd Paul am y sawl a fyno fyw yn dduwiol yn Nghrist efe a erlidir, ■ felly y dywedwn ninau am y sawl a fyno wasanaethu ei genhedlaeth mewn unrhyw agwedd, yntau hefyd a erlidir. Mae llawer" ffuria-r erledigaeth ond y ffurf fwyaf anioddefol o bob ffurf ydyw yr un a fyddo yn dyfod oddiwrth frodyr (gau), ac yn gynwys- edig mewn camddarluniadau, drwgliwiadau, ac ensyniadau parthed dybenion. Gwneir y teulu dynol i fyny o'r ddau ddosbartli hwn. Dosbarth y gweithwyr diwyd, difefl, a hunan-aberthol- y dosbarth a deimlant fel yr Athraw Mawr mai dyben uwchaf bywyd ydyw rho'i ac nid derbyn gwasanaeth. Y dosbarth arall ydyw y person- au hyny a ystyriant mai eu cenadwraeth fawr yn y byd ydyw, nid gweithio, ond gwylio y rhai a weithiant, a barnu eu dybenion, a rhoi pob atalfa a allant ar eu ffordd, ac ensynio fod eu holl weithgarweh yn tarddu oddiar amcanion o hunan-les. Nid yw y dosbarth olaf byth yn gweithio eu hunain, oddi eithr fod eu hymdrech diflino i atal rhai ereill yn weithio. Cyn belled ag y teilynga hyn ei alw yn waith, y maent yn weithwyr i bwrpas. Yn yr ymdrech hwn y mae eu llafur yn enfawr ymffurfiant yn cliques lluosog- cynlialiant mewn cornelau private' committees dirifedi, a chariant yn mlaen ohebiaethau eang a llafurfawr, ond strictly private. Pan y cyfar- fyddant yn y cynulliadau cymanfaol, neu gyrddau cliwarterol, neu bwyllgorau yr athro- fau, ymgrynhoant ynghyd i gornelau neilldu- edig, ymguddiant mewn dyblygion o fwg ty- baco. Yna cymerant symudiadau eu brodyr gweithgar mewn Haw. Beirniadant hwy; en- syniant yr amcanion gwaelaf iddynt. Awgrym- ant fod hawliau y bobl mewn perygl—fod awdurdod yr eglwys yn cael ei fathru dan draed —fod dybenion a hunan-les mewn golwg. Fel hyn yr ymarfogant i wrthwynebu gydag holl egnion malais bob mudiad a gynygir gyda'r dybenion puraf ac i'r amcanion goreu. Ond nid yn yr ymgynghorfeydd neillduedig hyn y terfyna eu gwrthwynebrwydd a'u gwen- wyn. Ant i dai dynion da a diniwed. Taflant allan ensyniadau gwael o barthed i amcan hwn a hwn yn dwyn y peth a'r peth yn mlaen. Drwgliwiant y person, camddarluniant ei gyn- llun, a chamgasglant ei ddyben. Llwyddant z, fel hyn yn ddichellgar i wenwyno meddyliau ynddynt eu hunain digon diniwed, nid yn unig yn erbyn cynlluniau a symudiadau amcanedig i sicrhau yr amcanion goreu, ond hefyd yn erbyn y personau a fynant, oddiar y dybenion goreu, fod yn flaenllaw fel gweithwyr gyda'r cyfryw fudiadau. Yr ydym yn gwybod nad ydym yn rhoi lliw rhy gryf ar bethan. Gwyddom am frodyr anrhydeddus yn ngwir ystyr y gair—brodyr na bu orioed rai purach eu hamcanion ac unionach eu dybenion-ond oher- wydd ensyniadau maleisus dynion drwg, diog, a diegwyddor, a gamfesurir ac a edrychir arnynt gydag amheuaeth yn eu holl symudiadau. Dyn- ion ydyw y rhai hyn ac y dylai Cymru fod yn falch o honynt—dynion a dreuliasant ac a ym- dreuliasant i wasanaethu eu gwlad yn wleid- yddol a chrefyddol, ac i wasanaethu eu henwad yn mha bethau bynag a dueddant i godi a dyr- chafu yr enwad ac a'i gwna yn fwy gwasan- aetbgar i lesoli eneidiau. Eto, dyma y dynion a erlidir ar bob llaw, a drwgliwir gan ddynion- ach diegwyddor—dynion o ran dim a wnant hwy y buasai crefydd a'i holl sefydliadau wedi marw er's llawer dydd. Eto dywedwn nad ydym yn lliwio yn rhy gryf. Degau o weithiau y cafodd yr ysgrifenydd alw arno i wrthweithio oddiar feddyliau dynion diniwed cldylanwad

------_-----__._n__---,._--"._'''-""'"-KEWYETH…

---';"'.""'""""--<;"C'"C=..",,,,----.r.;=,:.r.:::I'.-…