Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
14 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOSIIEN, SIR GAEBNABFON.— Cynlialiwyd cyfarfod pregethu blynyddol yn y lie uchod Tachwedd 8fed a'r 9fed, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Evans, Caernarfon; Griffiths, Portdinorwig; a James, Llanaelhaiarn. Cafwyd cynulliadau Iluosog. W AUNARLWYDD,-Y lOfed o'r mis hwn, traddod- wyd darlith yn y lie uchod, ar Ddyledswydd pawb i wneuthur daioni,' gan Robyn Ddu Eryri. Cymer- wyd y gadair gan y Parch. J. Hopkins, Corseinion. Traddcfdiad da, pethau cht, a gwrandawiad da, Ks-Kmio^raa-v —Argiwycld Ify(le.-TalodLI ein A.S. ymweliad a ni ddechreu yr wythnos ddiweddaf. Bu yn siarad ar ol ciniaw ar yr achlysur o ail-etholiad Mr Do Winton fel Maer. Dydd Mercher, cymerwyd ef drwy y Colegdy Newydd gan Proffessor Roberts, a chafodd gymaint o'i foddloni ynddo, fel yr addaw- odd gyfranu 25p. tuag ato. A chyda Haw, y mae gweithwyr wrthi yn ddiwyd er's wythnosau, yn rhoddi allan y grounds, fel i alluogi'r Trysorydd gweithgar, Mr Williams, i fod yn sicr o 200p. add- awedig Mr Morley erbyn y cyntaf o Ionawr.
LLANELLI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANELLI. CAPEL AL,S.—Traddodwyd darlith.aa Ddirwest yno nos Fercher, gan y Parch. M. Morgans, Penclawdd, ar gais Cymdeithas Ddirwestol y dref hon. Anercli- wyd y cyfarfod hefyd yn bwrpasol gan y Parch. T. Davies, Siloa, a chan y Parch. T. Johns, yr hwn oedd yn llywyddu. Dygwyd y rhan gerddorol yn benaf yn mlaen gan Band of Hope y Capel yn dra medrus, o dan lywyddiaeth Mr W. Hughes. Yr oeddyngyfarfodhynod ddyddorol, y cynulliad yn llll- osog, a'r araeth yn ysgrythyrol a grymus. Ardyst- iwyd gan amryw ieucngctyd ar y diwedd. Llwydd i'r skiff ddirwestol yn Llanelli.—
TALSARN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TALSARN. Traddodwyd darlith ar 'New Zealand,' gan y Parch. J. Owen, yn nghapel Talsarn, Llanddeusant, ar y 3ydd o Dachwedd, i gynulliad lluosog, er ei bod yn wlyb ao anffafriol i dd'od ynghyd. Cawsom ein boddhau yn fawr iawn gan y darlithydd. Bu yn siarad dros ddwy awr a haner; ac er y meithder, dywedai hyd yn nod rhai o'r hen bobl y dymunasent iddi barhau yn hwy. Dangoswyd arwydd o hyny oblegid wedi gorphen awd i dy y capel, pryd y daeth tyrfa yno i ymholi a'r darlithydd, ac i wrando arna. Y mae Mr Owen yn meddu cymhwysder fel darlith- ydd—dywedai yn araf ac eglur, gan osod yr hanes allan yn drefnus o flaen y gynulleidfa.
LLANIDLOES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANIDLOES. ErSTEDDFOb.-Ar y laf cyfisol, yn neuadd y dref hon, o dan lywyddiaeth galluog y Parch. Isaac Ed- wards, gweinidog y Bedyddwyr, cynhaliwyd eistedd- fod ddyddorol. Ei harweinydd oedd Mr J. E. B. Evans, C.M. (Y Llwynog). Y beirniaid ydoedd y Parch. J. Edwards, a'r Meistri J. Ceiriog Hughes (Ceiriog), J. E. B.Evans (Y Llwynog), J. Soltes,T. Jones, ac R. Mills, Ysw., y Maer. Y buddugoliaeth- wyr ydoedd Meistri T. Rowlands, Ilyrrwerthwr Isaac Francis (Garibaldi). Y buddugwrar yr englyn unodl union i'r Robin Goch ydoedd Mr David Pu(he (Dewi Glan Gwy), Abertrinant, Llangurig. °Yr oedd hon yn eisteddfod fywiog, ddyddorol, ac addyso-- iadol, a hynod o luosow.- Maldwyn. °
CAERSWS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERSWS. BWRDD Y GWAECIIEIDWAID.—Dydd Mercher di- weddaf cynhaliwyd cyfarfod pymthegnosol Bwrdd gwarcheidwaid Undeb y Drefnewydd a Llanidloes.' Yr oedd yn brssenol y Parch. J. Evans, Llywydd, a Meistri C. Morgan, Is-lywydd, a D. Smith, Ys- grifenydd, a T. W. Hare, Ysw., Capt. 0. M. Crewe Read, R.N., a'r Anrhydeddus C. R. D. H. Tracy, A.S., ex-officio a'r gwarcheidwaid canlynol :-R. Edwards, J. Hamer, W. Swancott, E. W. Savage, J. Moore, R. Lloyd, R. Morgans, R. Jones, J. Nutting, R. Thinsey, a J. Powell. Wedi i'r Ys- grifenydd ddarllen cyfrifon y cyfarfod diweddaf aethpwyd yn mlaen ag achosion y cyfarfod, a ther- fynwyd yn brydlawn ac heddychol, mewn undeb a brawdgarwch. 0
MERTHYR TYDFIL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MERTHYR TYDFIL. ADITLAM.—Y Sill a'r Llun, y 7fcd a'r Sfed cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y lie uchod. Prcg- ethwyd y Sul gan y Parch. W. Morgan, Aberafon, a J. Matthews, Castellnedd a nos Lun gan y Parch. Job Miles, Bethesda, a J. Matthews. Cafwyd cyn- nulliadau mawrion, pregethau grymus a dylanwad- ol, a gobeithiwn gasgliad da. CYFABFQD MISOI.—Cynhaliwyd cyfarfod misol yr Annibynwyr yn Nosparth Morthyr yn Tabor, Cefn, dydd Llun, yr Sfed cyfisol. Testyn y gyfeillach am 2 gloch oedd, Bod ymwneud a nioddion yn han- fodol er iechydwriaeth pcchadur.' Progethwyd yn yr hwyr, am 7, gan y Parchn. D. Thomas, Abercan- aid, a P. Howells, Ynysgau. Cafwyd cyfeillach a chyfarfod pregethu rhagorol.
ABERAYRON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERAYRON. Yn EELEDIGAKTII BOLITICAIDD YN NGIIYMEIT.— Cynhaliwyd cyfarfod dyddorol a brwclfrydig iawn nos Lun, Tachwedd yr Sled, yn yr Ysgoldy Brytan- aidd, Aberayron, fel math o gyfarfod parotoawl i'r cyfarfodydd a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar yr 16eg cyfisol. Cymerwyd y gadair ar yr achlysur gan Mr. B. Evans, Portland House, yr hwn a'i. llanwodd mewn modd teilwng o'i arabecld arferol. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parchn. W. Evans, (A); E. Morris, (M.C.) It. Thomas, (A.) Mri. J. H. Jones; W. Griffiths; W. J. Rees; D. Evans, ac eraill; pryd y pasiwyd yn unfrydol y penderfyniadau canlynol:—1. Fod y cyfarfod hwn yn gwresog gymeradwyo yr ymdrechion ag sydd yn awr ar droed tuag at gynorthwyo mewn modd syl- weddol y ffarmwyr a drowyd allan o'u lleoedd, ac eraill a ddrygwyd yn eu hamgylchiadau, ar gyfrif eu pleidlais yn yr etholiad diweddaf. 2. Ein bod yn penodi Mri. Morgan Evans, Oakford; J. H. Jones a W. Griffiths, Aberayron, i gynrychioli y cyfarfod hwn yn Nghynhadledd ddyfodol Aberys- twyth.—
CORWEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CORWEN. CYEAEEOD FFASIWN NEWYDD.—Darlith a chys- tadleuaeth Gymreig yn yr ysgoldy Brytanaidd. 10s., 7s. 6ch., a 2s. (ich. yn cael eu rhoddi yn wobr- wyon gan y Parch. E. P. Jones, M.A., Ph. D., i'r tri goreu am ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg. Daeth 20 o gystadleuwyr i'r ysgoldy fel y mynegasid yn yr hysbysleni erbyn 4 o'r gloch dydd Llun, Tach. Sfed. Arhelwyd hwynt gan Dr. Pan Jones ei hun, a chafodd ei foddloni yn fawr iawn yn yr atebion, fel yr addawod ddyfod yrna eto i roddi punt neu ddwy yn wobrwyon eto am yr un path. Am saith, yn yr un lie, darlithiodd y Dr. ar Grefydd a moesau ar y Cyfandir.' Cymerwyd y gadair gan y Parch. W. Williams. Dangosai y darlithydd fod yr hen iaith Gymraeg yn rhagori ar bob iaith bron. Caed cynulleidfa luosog. Y buddugwyr yn y gystadleu- aeth Gymraeg oedclynt :-Rhif. 1, Miss Owen, Cor- wen; a Hugh Edwards, Copyderi. 2, Richard Watkins, Griffith Humphreys, a Samuel Griffiths. 3, Misses M. S. Humphreys ac A. Hughes, a Thomas Jones. Gwisgwyd y buddugwyr ar ddiwedd y ddarlith gan amryw foneddigesau o'r dref. Ar ol y diolchiadau arferol aethom adref wedi ein boddhau. yn f awr.-
DINAS POWYS, GER CAERDYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DINAS POWYS, GER CAERDYDD. Cynhaliodd y Methodistiaid Calfinaidd ou cyfarfod blynyddol eleni yn y lie hwn nos Lun a dydd Mawrth, Tachwodd 8fed a'r 9fed. Nos Lun, pre- getliodd y Parchn. Ebenezer Jones, Skiwen, ar Yr hwn ni wnaeth beehod a T. Phillips, Llwyni, ar Ddeisyfiad y Canwriad.' Borou dydd Mawrth, am 10, y Parchn. E. Jones, Slriwen—■'Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef;' ac E. Mathews, Canton—' Daeth ato wraig a chandclifiwch o enaint gwerthfawr.' Am 2, y Parch. Phillips, Llwyni, ar Grist yn oleuni y byd.' Am 6, y Patch. E. Math- ews, ar fod Duw yn llefaru wrthym ni yn ei Fab.' Pregethu pur dda, a'r gwrandawiad yn astud a syml; ond dylasai fod rhagor o genhadon yn y cyfarfod, fel y buasai dau yn llefaru yn mhob oedfa. Rhyfeddol mor ddiymdrech a diegni y bu yr Annibynwyr yn yr ardal hon a gadael i'r enwad Annibynol farw, neu yn hytrach i rai i fynyi'r Methodistiaid. Tebyg nad oedd y Parch. J. Davies yn Caerdydd yr amser hwnw, onide y mae yn bur clebyg y buasai cymaint o fywyd, os nid mwy, yn achos yr Annibynwyr ag sydd o fywyd yn achos y Methodistiaid yn bresenol. Un oedd yno.
LLANBEDR, CEREDIGION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANBEDR, CEREDIGION. Tachwedd 9fed, cadwyd cyfarfod gwleidyddol yn y Royal Oak Hotel, Llanbedr, Ceredigion, gan gynifer o foneddigion rhyddfrydol yr ardaloecld- cadeirydd T. J. Hughes, Ysw., Castelldu. Anerch- odd y Cadeirydd y cyfarfod mown modd brwdfryd- ig. Appeliai at deimladau yr holl wyddfodolion ynghvlch. sefyllfa dorcalonus Tenantiaid gorthrym- edig Hen Sir Ceredigion. Yna pasiwyd y pender- fyniadau canlynol gyda'r brwdfrydedd cynhesaf a chalonog. Cyfododd y Parch. Joseph Jones, a chyn- nygiodd fod y cyfarfod hwn yn cydymdoimlo yn ddwfn a'r ymdrechion sydd yn cael eu gwneyd yn awr i roddi cynorthwy sylweddol i'r Tenantiaid gorthrymedig ac eraill, pa rai a gafodd eu hymddif- adu o'u sefyllfaoedd, ac hefyd eu colledu yn achos euvotcs yr etholiad diweddaf ac eiliwyd y cynnyg- iad gan y Parch. D. Davies, Soar, ac yr oedd pawb ag oedd yn y lie yn teimlo rhwymedigaeth neillduol arnynt i gynorthwyo achos a pliersoiiaii. mor deil- wng. 2. Cynnygiwyd ac eiliwyd fod dirprwywyr oddi yma i roddi eu presenoldeb, a gweini tros y cyfarfod hwn yn y Gynhadledd Fawr i'r perwyl a nodwyd, yr hon sydd i gael ei chynal yn Aberys- twyth, Tach. lGcg, erfynir ar bawb a allo rodcli en presenoldeb ymdreehu ffyfod yno. Cailf pawb ddy- fod gyda'r Gledr Ffordd Haiarn am Single Pair Ticket, i Aberystwyth ac yn ol dranoeth gyda'r unrhyw dren.—
PWLLDU, GER BLAENAFON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PWLLDU, GER BLAENAFON. CYFLWYNIAD TYSTEB I'R PAECII. WILLIAM JENKINS. ■—Cynhaliwyd y cyfarfod yn addoldy y Pwlldu, ar y oed o Hydrcf, 18G9. Cymerwyely gadair gan Walter Lewis, Ysw., Brynycwin, yr hwn a agorodd y cyf- arfod mewn araeth bwrpasol i'r amgylchiad yn drefnus a dyddorol; canlynwyd ef gan y Parch. R. Johns, gweinidog eglwys y Bedyddwyr yn Llan- wenerth, gan grybwyll yn fyr a chynwysfawr deil- yngdod ei gynorthwywr yn yr eglwys uchod i dder- byn y nod yma o barch gan ei ewyllyswyr da yn yr ardal a'r gymydogaeth. Traddodwyd amryw oar- cithiau gan wahanol gyfeillion Mr. Jenkins, a chyf- lwynwyd y Dysteb iddo gan Mr. John Davies, mab ieuengaf Mr. Davies, Arfesurydd gweithiau haiarn Blaenafon, yn saesoneg, mewn araeth dios a char- edig, gan grybwyll ei foddhad o gael yr adeg a'r anrhydedd o gyflwyno y rhodd fechan hon, i un a wir deilyngai y eyfryw, fel crefyddwr a gweinidog, llawn o addfwynder a thynerweh. I Mr. Davies a'i deulu y mae cin cyfaiil yn ddyledus gan mwyaf am y nod hwn o wir barch iddo, a gwynfyd na wel- wn yr un ysbrycl yn ymddangos yn ein gvvlad yn fwy ami, er cyrhaeddyd at wobrwyo teilyngdod. LLANTEISANT.—Cyrddau Blynyddol Bethel.—Cyn- haliwyd y cyrddau uchod ar y 7fed a'r Sfed cyfisol. Gwasanaethwyd yndclynt gan y Parchedigion can- lynol: -T. Howells, Merthyr D. Price ac R. Evans, Aberdar; W. C. Davies, a J. Jenkins, (B), Llantri- sant; E. G. Jones, Treorky, a J. W. Morris, Llan- haran. Cafwyd casgliadau, cynulliadau a phreg- ethau da. Griffiths.
FFESTINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFESTINIOG. DIBWEST.—Y mae achos sobrwydd a rhinwedd ar gynydd i racldau helaeth yn y gymydogaeth y dydd- iau presenol. Y mae ein heolydd yn fwy tangnef- eddus, y llwon a'r rhegfeydd a glywid amser yn o4 a hyny ar bob adeg o'r nos, wedi myned yn anaml- ach yn awr. Dichon fod ymweliad yr afiechyd sydd yn ein plith wedi creu peth ofn ac arswyd ar y dyn- ion mwyaf anystyriol. Oncl both bynag am hyny, y mae yn llawen genym weled fod dirwestwyr yr ardal yn bendorfynol o sefyll yn erbyn yr arferiad peehadurus o ddiota, cyfeddach a mecldwdod, ac i arfer eu holl ddylanwad er perswadio y meddwon i IT'oi o afaelion eu gelyn inarwol; ac er mwyn rhoddi eithaf cyfleusdra iddynt i ymuno a'r Gymdeithas Ddirwestol, yr ydym fel gwalianol enwadau cref- yddol, wedi penderfynu cynal cyfres o gyfarfodydd dirwestol, a hyny ar gylch yn y gwahanol gapelau. Nos Lun, y ,I ydcl cyfisol, cynhaliwyd un o'r cyfryw gyfarfodydd yn y Capel Gwyn. Yr oedd y lie yn orlawn. Siaradwyd ar ddirwest gan amryw o'r cyfeillion, ond yn fwyaf neillduol gan Mr. T. Morris, pregethwr ieuane gyda yr Annibynwyr, yr oedd yno bawb yn teimlo yn hynod selog a phonderfynol i fyned rhagddynt. Dylem dclyweyd hefyd fod y ddau Band of ITope wedi gwneuthur eu rhan tuag at ddwyn y cyfarfodydd yn mlaen yn effeithiol a dyddorol. Gobeithio ceir cefnogaeth pob gradd a sefyllfa. JJudwy.
BANGOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BANGOR. Y TYST YN EI DDILLAD NEWYDDION.—Y mae yn dda genyf gaely fraint o'cli llongyfarch ar y cyfne- widiad—a'r gwelliant hefyd, yn ol fy marn I—yn null eich papur, a gobeithio y bydd llawer yn ychwa- neg yn teimlo ac yn gweled y priodoldeb o roddi ceiniog yn mhoced ei ddillad newyddion, fel yr oedd hen bobi dda er's talm yn arfer gwneud. LLENYDDIAETH.—Diau nad oes un dref o faint Bangor a all ymfirostio o fwy a gwell llenorion na hi; ond er hyny yn awr, mae llenyddiaeth yn isel iawn ei phen yma. Bu yma gymdeithasau llenyddol llewyrchus iawn flynyddau lawer yn ol; ond y mae yr olaf o honynt wedi huno er's llawer dydd, a hyny o newyn yn y carchar; ao nid oedd ei holl gyfoeth yn ddim hanor digon i dalu ei dyled. Nid fy arncan ar hyn o bryd yw dangos yr achos paham y bu felly, ond gofyn ai nid oes tebygolrwydd i ni gael diwyg- iad ? TJn cam da at hyny fyddai cychwyn symudiad i gael Eisteddfod yma yn 1871. Diamheu nad oes un man yn y Dywysogaeth mwy manteisiol yn mhob ystyr, ac nid oes amheuaeth pe caem un na throai allan yn llwyddiant perffaith. Erfyniaf sylw Ap Vychan, Yr Hen Wyliedydd, Gweirydd ap Rhys, ac ereill o lenorion talentog ein dinas at y symudiad. Gan obeithio y bydd i un o honynt draethu ei len yn mheilach ar y mater y gorphwys yr eiddoch- Sen Wmffra Llwyd.
BLAENAU FFESTINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BLAENAU FFESTINIOG. Cyfarfu y Pwyllgor Gwleidyddol nos Eawrth, y 9fed o'r mis hwn yn Ysgoldy Frytanaidd Dolgareg- ddu, gyda'r amcan o benodidelegedes swyddol, &c., i fyned i'r gynadledd gyffredinol yn Aberystwyth. Etholwyd Win. Williams, Ysw., Baltic Hotel i'r gadair, yna penderfynwyd, yn 1. Fod y cyfarfod yn cyclymdeimlo yn ddwfn a'r Etholwyr hyny sydd yn cael eu gyru o'u tyddynod, ac yn cael eu niweidio mewn ffyrdd eraill oliervvydd iddynt bleidleisio yn ol argyhoeddiad eu cydwybodau yn yr etholiad di- weddaf. Yn 2. Fod y cyfarfod hwn yn ymrwymo i gydweithredu gydag unrhyw gynllun a fabwys- iedir yn y Gynhadledd tuag at gynorthwyo y c'yf- ryw rai, ac er amddiifyniad Etholwyr yn y dyfodol. Yn 3. Fod Samuel Holland, Ysw.; Dr. Williams, Ysw.; a Win. Williams, Ysw., Baltic Hotel, i'n cynrychioli yn y Gynhadledd. Bydd genym air yn mhellach ar hyn pan ddelo y boneddigion uchod adref o'n Senedd Gymreig yn Aberyatwth.— hebydd,