Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMEEIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMEEIG. At Olygwyr y TYST CYMEEIG. Fonecldi 'gioii,-Diolch yn fawr i Herber am godi i'r gwynt y mater hwn. Mae wedi bod ar fy meddwl am rai blynyddau, ac yr ydwyfwedi bod yn ym- ddiddan a llawer yn ei gylch. Hyd yr wyf yn awr yn cofio, ni chyfarfyddais ag un gweinidog, diacon, nac aelod, yn anghymeradwy y syniad. Diau y byddai yn dda, meddai pob un, pe gellid ei gael o gwmpas ond pwy wna gychwyn, pwy wna symud gyntaf ? Gan fod Herber wedi codi y mater i sylw, gobeithio na adewir iddo aros yn y fan yna. Os ydyw Herber wedi eifeddianu ag yebrydiaeth y peth, aed rhagddo, dalied ati i gynhyrfu a chynhyrfu, yna caiff yr hyn a ddymuna. Os yw Undeb Cyn- ulleidfaol Lloegr a Chymru yn allu mor bwysig a. defnyddiol, paham na allai Cymru gael mwy o 108 iddi wrth Undeb iddi ei hun. Unwaith y bu yr Undeb Cynulleidfaol yn Nghymru, a dim ond dau neu dri o weinidogion Cymru sydd wedi cael agor eu genau yn ei gyfarfodydd. Y mae eglwysi An- nibynol Cymru wedi dod yn rhy luosog a phwysig i fod yn fath o addenda yn yr Undeb Cynulleidfaol. Mae arnom eisiau rhyw fan cydgyfarfod—De a Gogledd; rhyw gyfrwng mwy effeithiol nag a fedd- wn, drwy ba un y gall ein tywysogion fod ini fel enwad y peth y gallent, yn eininucliadau enwadol, yn gystal a phregethu yn ein cymanfaoedd an cyf- arfodydd blynyddol. Gan mai Herber sydd wedi dechreu y peth, yn awr beth bynag, cymered genyf i roddi awgrym iddo am gynllun effeithiol a chyf- leus iawn i gael barn y -wlad yn fuan. Anfoned gylch-lythyr atysgrifenyddpobcyfundebynNghym- ru i geisio ganddo osod y mater ger bron y Gyn- hadledd nesaf, mewn ffordd o ofyniad byr; yna ceid gwybod barn y rhan fwyaf o weinidogion a diaeoniaid Cymru cyn pen tri mis. BYCHAN.
CYNHADLEDD ABERYSTWYTH UNWAITH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYNHADLEDD ABERYSTWYTH UNWAITH ETO. At.Olygit,yr y TYST CIIMREIG. Foneddigion,—Yr oeddwn wedi meddwl rhoddi heibio fy ysgrifell hyd nes y gwelais lythyr Mr W. J. Parry yn y TYST diweddaf. Gorfodir fi i ateb hwn er mwyn cyfiawnder a chwi a minau, ac nis r gallaf wneud hyny yn well na thrwy roddi hanes syml o'r hyn oil a ddigwyddodd mewn perthynas i'r pwnc dan sylw. Nid oeddwn wedi penderfynu myned i Aberystwyth o gwbl hyd nes i mi welcd y Parch. M. D. Jones yn Liverpool y Sabboth cyn y gynhadledd. Wedi i mi fynegu iddo fy marn yn onest yn nghylch y Coleg cymhellodd fi yn daer i fyned yno, ac yno yr aethuin heb yn wybod i mb o weinidogion Liverpool na Golygwyr y TYST. Aethum i'r capel yn Aberystwyth heb gynllunio dim a neb ar y mater. Gwrandewais ar ddarlleniad y cylch- lythyr yno am y tro cyntaf, a gwelais ar unwaith mai nid cynhadledd gyffredinol o'r enwad ond yn hytrach mai cyfa.rfod gohiriedig o Bwyllgor y Bala ydoedd. Teimlwn yn ddig am gael fy nhwyllo felly, He yr oedd yn edifar genyf fyned yn agos i'r lie. Pan glywais eiriad y pendcrfyniad cyntaf, a'r sylwadau annoeth a wnaed arno, nis gallwn lai na theimlo yn erbyn annhegweh ac afreoleidd-dra yr holl drafodaeth. Ni wyddwn fod Mr Lewis yn bwriadu cynyg gwelliant, ond pan glywais ei sylw- adau cymhedrol a rhesymol bernais yn y fan y dy- laswn ei gynorthwyo. Nid oedd y berw gwyllt a gymerodd le yn ystod y ddadleuaeth hono, na'r bitllyism a gymerodd le wedi hyny yn peri i mi newid dim ar fy marn. Yr oedd eyfaddefiad yr Ysgrifen- ydd yn nghylch nifer y cylchlythyrau a anfonasid allan, a'r brwdfrydedd annghymedrol a ddangosid, wedi fy sicrhau erbyn hyny, nad oedd y cyfarfod yn ddim angen na packed meding, li.y. cyfarfod wedi ei wneud i fyny yn un pwrpas i bleidleisio o du y mudiad, ac nid i ymresyinu. Pan aethpwyd i'mewn i'r capel eilwaith g-tfyr Mr Parry i mi wrthod yn benderfynol i'm henw fod ar y Pwyllgor Cyffredinol tra byddai gan bobl y Bala ddim i'w wneud ag ef. Yr oedd etholiad y Pwyll- gor hwnw fel y dangosais yn fy llythyr diweddaf yn 'hollol afreolaidd a dianghenrhaid. Ond yn y cynhygiad am Bwyllgor Gweithiol ar yr hwn yr oedd yr holl gyfrifoldeb i sefyll y dynoethwyd cyn- llun y Bala drwyddo. Cydsyniais, fel y dywed eich Gohebydd, i weithredu yn un o saith i ddewis dynion eraill yn lie y rhai a wrthodwyd gan y cyf.
YR ATHROFA OGLEDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ATHROFA OGLEDDOL. AT Y PABCH. J. THOMAS. Frawd anwyl,—Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am eich llythyr boneddigaidd, calon-agored, a gonest ataf yn y TYST ddoe ar achos y Colegdy newydd i'r sefydliad uchod. Mae yn ddrwg genyf nad ydych am gymeryd un rhan arbenig- yn y symndiad hwn- yr wyf yn teimlo yn wir fod hyny yn golled nid bychan i ni. Yr wyf yn cydnabod y cyfreithlondeb a'r doethineb o fod yr adeilad yn cael ei godi gan yr un cyfansoddiad ag sydd yn dwyn yn mlaeii am- gylchiadau rheolaidd y sefydliad, a bod gweithred- iadau y cyfansoddiad hwnw yn ddarostyngedig i feirniadaeth teg yr enwad i gyd. Nid oes genyf un amhenaeth nad yw eich llythyr yn amlvgiad cywir o'ch teimladau, gan gredu eich tystiolaeth na ddaw yr un gwrt-hwyncbiad oddi wrthych i'r symudiad. Nid yw hyny yn erthycl newydd ychwaith yn fy nghredo am danoch. Ond y mae dau beth yn eich llythyr nad wyf yn teimlo gogwyddiad i'w credu 1. Y bydd i chwi ymryddhau oddi wrth bob cyf- rifoMeb gyda phethau cyhoeddus o leiaf am bum mlynedd! 2. Y bydd i'r manteision addysg cyffredin a'r Brifysgol, sydd yn y dyfodol agos, i Gymru yn gwneud sefyclliadau Athrofaol fel y rhai prescnol sydd genym fcl enwad fawr yn llai angenrheidiol nag ydynt yn awr. Mae yn hawdd iawn i ni dynu darluniau parad- wysaidd ac euraidd iawn o'r dyfodol wedi cael yr holl fesurau addysg rydd yn awr yn yr esgoreddfa end nid wyf yn meddwl y bydd y gwahaniacth wedi hyny yn ddirfawr iawn rhagor sefyllfa presenol pethau. Wedi cael ysgolion dyddiol da o fewn cyr- haedd pawb, a'r cymhellion cryfaf i'r bobl oil ddan- fon eu plant iddynt, ni chyrliaedda addysg y corph mawr o'r dosbarth gweithiol fawr uwe-h na sefyllfa canolog y plant sydd yn awr o 10 i 14 oed yn yr ys- golion dyddiol. Bydd rhaid i bob plentyn wedi hyny druan ddechreu yn yr A. B. C., a bydd galluoedd y meddwl dynol yr un mor derfynol ag yn bresenol. Bydd yr achosion sydd wedi bod hyd yn hyn, yn galw plant o'r ysgol yn rhy fuan, mewn Ilawn weithrediad da; a bydd angcnion anorfod bywyd yn gwneud y bydd yn rhaid i blant y dosbarth gweithiol ddechreu ynill eu tamaid' mor fuan ag y byddant yn alluog i hyny. Bydd yr un achosion wedi hyny ar waith yn mysg y dosbarth yma, ag sydd wedi bod erioed hyd yn hyn yn eu mysg hwy a phob dosbarth arall hefyd—byddant wedi gadael yr ysgol yn anghofio Ilawer o'r hyn a dclvsgasaiit ynddi yn gynt nag y dysgwyd ef. Bydd ymffrost Aberclaronaidd (os gellir defnyddio y fath air) yr ysgolhaig hwnw, yn nyddiau Dorti Ddu, wrth. Gan ghellydd Pwllheli, yn eitliaf posibli'w ddefnyddio yn gyffredin—' Golly ng- ais yn anghof fwy na ddysgaist ti erioed.' A dau— un heb ddysgu dim, a'r Hall wedi gollwng y cwbl yn anghof—nid ydynt yn anghymarus i'w hieuo yn nghyd. Yn awr am y Brifysgol, bydd llawer o'r dosbarth canol o gymdeithas yn gallu ei chael—y dosbarth hyny fydd yn gallu gadael eu plant yn yr ysgol hyd 18 neu 20 oed, ac yn gallu gwario canoedd o bunau ar eu haddysg hwynt. Oad i'r dosbarth gweithiol, fel y Prifysgolion sydd, eithriad fydd plentyn i weithiwr cyffredin ynddi. Wei, o ba le y cawn weinidogion i'r eglwvsi yn y dyfodol ? Ai o'r dosbarth canol yn benaf ? Nage, yn ddiau. Os tynwn gasgliad am yr hyn fydd oddi wrth yr hyn fu ac y sy, ni allwn ond dyweyd-nage. A gadael allan o'r cyfrif y rliai sydd yn cael eu magu i'r weinidogaeth mewn sefydliadiiu gwladol o gref- ydd, ychydig o'r dosbarth canol sydd yn ymgeisio am weinidogaeth efengylaidd. Mae rhai. Bydd rhai eto. Fe allai y bydd mwy ar gyfartaledd nag a fu. Beth bynag am hyny, bydd corph mawr gweinidogion yr efengylyndyfod at y gwaith sand. aidd hwn oddirhwng dau gorn yr aradr, a'r efail, a'r gloddfa, a'r pwll glo, a'r myniawyd, a'r nodwydd, a'r gaib a'r rhaw. A pha ocdran y deuant ? Yn awr, os byddant yn cyehwyn i'r gwaith hwn trwy etholiad yr eglwysi, fel yr wyf yn hyderu y byddant, ac yn gobeithio y byddant, a bydd gogon- iant y weinidogaeth wedi ymadacl oni byddant, yna byddant yn dcchreu ar y gwaith wedi iddynt gael eu profi yn eu cymeriad crefyddol fel dynion pur, a ffyddlon, ac yn meddu cymhwysderau gobeithiol i'r weinidogaeth efengylaidd. Ac os bydd'hyn o brawf Z, eglwysig i fod arnynt, cewch hwynt yn gallu cychwyn eu haddysg rhagbarotoawl yn amrywio o'r deunaw i'r deg ar hugain oed. Bydd ambell un o dduwioldeb boreu, a rhag-addfedrwydd neillduol, yn cychwyn yn gynt ac mewn oed cymhwys i fyned trwy holl gourses Prifysgol gyda'r mantais mwyaf. Bydd y Uuaws fel arall. Yn awr, meddyliwch am 12 o ddynion ieuaingc, o 23 i 26 oed, newydd adael eu galwedigaethau, neu wedi llwyddo hwyrach i gael blwyddyn o ysgol rhagbarotoawl yn myned i Brifysgol-pa Ie y rhoddwch hwynt ? 0 ran gallu- oedd meddyliol a phrofiad dynol, y maent yn gyfar- tal hwyrach a'r rhai blaenaf yno; ond o ran ysgol- eigdod cyffredin, nid ydynt yn gymhwys ond yn mysg plant 12 a 14 oed yno. Rhowch hwynt yn mysg plant, bydd y cyferbyniad oed. mor anhyfryd a darostyngol, mewn ystyr, fel y byddant yn hollol an nedwydd yno. Yn mysg dosbarthau ereill, wedi cael dim ond ysgíîll erioed, byddant yn hollol allan o'u lie, gan na fedrant gydredeg yr yrfa addysgol a hwy. Bydd yn fantais fawr, dywedir, i gael Professors at bob cangen unigol o addysg.' Bydd, yn ddiau, i'r rhai fydd yn gallu defnyddio y fantais. I ddyn ieuange ymdrechgar, wedi bod yn yr ysgol yn ddi- baid o'i febyd byd 20 neu 22 oed, geill fedi y fantais o gael saith neu ddeg o athrawon, a deall y manyl- wch, a'r science, a'r chwaeth, a'r meistrolaeth, gyda pha un y geill dynion ddysgu caingc o wybodaeth trwy gysegru eu holl amser at hono yn unig ond i'r lleill, gwell iddynt yn ddiau genym gael un athraw neu ddau fyddo yn cydymdeimlo yn hollol a'u hamgylchiadau i fyned gyda hwy trwy bob caingc o wybodaeth a ddysgant. y Nid ychydig yw y dirmyg yn yr Eglwys Wladol gyda pliaun y sieryd yr Oxonians am y parsoniaid hyny sydd wedi cael eu haddys- yn Llanbed, a Bir- kenhead, a Lichfield, &c., gan eu galw yn Literates; ond byddai dwyn rhai fel hyn i'r un sefydliad yn ieuo anghymarus iawn, ac yn ffurfio canolfur o wa- haniaeth cymdeithasol tra chenfigenus. Nid wyf yn meddwl ychwaith y diolchai yr eglwysi byth am y fantais grefyddol a dderbynient o fod eu harwein- wyr i gyd wedi eu lefeinio drwyddynt a dylanwadau cymysglyd Prifysgol. O'm rhan fy hun, nid wyf yn meddwl fod un cyn- llun gwell na'r hwn sydd gan yr enwad er cym- hwyso dynion ieuaingc i'r weinidogaeth, ond ei ber- ffeithio a'i ddwyn yn mlaen yn y modd mwyaf effeithiol y gellir. Wyf, yr eiddoch yn gywir, Dinas, Tachwedd 6ed. E. WILLIAJIS.
AT OLYGWYR Y I TYST.,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT OLYGWYR Y I TYST., Foneddigion,—Byddaf yn ddiolchgar i chwi am roi lie i ychydig linellau yn unig yn y TYST nesaf mewn atebiad i lythyr Mr P. M. W. yn nglyn a myfi yn y TYST am ddoe. Nid wyf yn niyned i ad- olygu ei lythyr, oherwydd byddai yn rhaid i mi dystiolaethu yn erbyn ei lythyr fel adroddiad o ffeithiau, ac yn erbyn ei olygiadau ar y symudiad, ac ni arweiniai hyny ond i lythyrau ychwanegol a thacru y naill yn erbyn y llall, yr hyn beth nad oes genyf flas i'w ddarllen mewn eraill na thuedd ato fy hun; ac felly gadawaf y rhai oedd yn nghynhadledd Aberystwyth a darllenwyr y TYST i farnu pa un ai ei adroddiad ef o'r achos a'r lliw a rodda arno, ai yr eiddof fi, yw y mwyaf unol a gwirionedd. Ond y mae genyf air i'w ddweyd yn nghylch danfoniad y cylchlythyrau yn gwahodd i gynhadl- edd Aberystwyth. Yn fy llythyr i'r TYST, Tachwedd y 5ed, dywedais fel hyn,—Yr Adroddiad oedd gan yr Ysgrifenydd i weled pwy oedd yn meddu pleidlais yn ol rheolau yr Athrofa oedd Adroddiad 1868-yr I Olaf ag ymae hyd yn hyn wedi ei gael.' Adroddiad 1868, neu fel y mae ar wyneb-ddalen yr Adroddiad 1867-68. Yn awr nid yw dyn fel Mr P. M. W. heb wybod pan fydd blwyddyn cymdeithas neu sefydliad cy- hoeddus, yn gyfansoddedig o ranau o ddwy flyriedd o'r amseriad cyffredin, ei fod yn arferedig er mwyn byrdra a hwylusdod ei galw ar enw yr olaf o'r ddwy —byth ar enw y gyntaf o honynt. Yn unol a'r ar- feriad yna y gelwais yr Adroddiad yn Adroddiad 1868. Yn ei lythyr i'r TYST ddoe, dywed Mr P. M. W. fod ei enw ef fel tanysgrifiwr o 10s. dan y penawd Manchester, rhwng enwau Ellis Pughe, Ysw., ag enw Mrs Davies, Clifford Street. vVel, y mae Adr- oddiad 1868 ger fy mron, ac wedi edrych am y pen- awd, Manchester, yr wyf yn ei gael nid yn y seith- fed tudalen, ond yn yr 17eg; ac yr wyf yn cael enwau Ellis Pughe, Ysw., am 10s., a Mrs Davies, ond nid yw enw Mr P. M. IV. ynorhyngddynt, nag mewn un man arall dan y penawd, Manchester, am y swm o 10s. nag un swm arall. Pa fodd y mae cvsoni y ddau adroddiad yna? Nid oes genyf -yr un ffordd i'w cysoni ond trwy ddweyd mai Adrodd- iad 1869 sydd ger ei fron ef ac Adroddiad 1868 sydd o'm blaen inau. Yn awr y mae rhywun hwyrach yn barod'i ofyn—Paham na buaswn i yn cymeryd Adr- c' oddiad 1869 i weled pwy oedd yn meddu hawl i bleidleisio yn ol rheolau cyfansoddiad yr Athrofa ? Fy ateb yw hyn-Nid oedd Adroddiad 1869 pan ddanfonwyd y cylchlythyrau dywcdedig wedi ei gyhoeddi, nac wedi ei argraffu. Postiwyd genyf y. 18eg o Fedi oddeutu 200 o lythyrau er gwahodd i gynhadledd Aberystwyth, ond nid oedd Adroddiad 1869 wedi ei argraffu y pryd hwnw i fod yn llaw neb. Dywedais yn fy adroddiad i'r TYST mai Adr- oddiad 1868 oedd genyf yn rheol i weithredu wrth ddanfon y cylchlythyrau a gadawaf ddarllenwyr y TYST i farnu tegwch yr ymdclygiad o feirniadu dan- foniad y cylchlythyrau wrth Adroddiad 1869 a hwnw heb ei argraffu pan ddanfonwyd hwynt, a minau wedi dweyd mai Adroddiad y flwyddyn flaenorol oedd genyf. EDWABD WILLIAMS. Dinas, Tachwedd 13eg. D.S.—Pan ar ganol ysgrifenu y llythyr hwn cefais lythyr oddiwrth Dr. Rees, Abertawe, yn dweyd y bydd yn bleser ganddo gydweithredu yn ol ei allu o blaid y symudiad i gael Colegdy i Ath- rofa y Bala, a'i fod yn hyderu y derfydd pob ym- gecru yn fuan.' Yr wyf finau yn dweyd Amen, ac yn bwriadu gwneud yr Amen mor belled ag y mae a fynwyf fi ag ef.— W.