Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
11 erthygl ar y dudalen hon
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
Gene&igaetlian, Priodasan, Marwolaethau GENEDIG-AETIIAU. Tach. 7, priod Mr R. P. Ellis,'56 Tliackeray Street, Prince's Road, Liverpool, ar fab. 9, yn. Pant I(ida, Abergele, priod Mr Thomas Matthews, ar fab. 10, yn 36 Warburton Street, Liverpool, priod Mr Edwin John Williams, ar ferch. 14, yn 82 Grey Rock Street, West Derby Road, Liverpool, priod Mr Lewis Parry, ar ferch. PRIODASAU. Tach. 4, yn eglwys Dolgellau, gan y Parch. E.Lewis, M.A., Mr Morris Jones, Flour Dealer, Fourcrosses, Blaenau Ffestiniog, a Miss Ann Mills, Upper Mills, Dolgellau. 9, yn Hawen, gan y Parch. J. Williams, yn mhresenoldeb Mr Morgan, y cofrestrydd, Mr David Jones, Berthfedwen, a. Miss Hannah Thomas, Felin Newydd. 9, yn nghapel yr 'Annibynwyr, Cadle, gan y Parch. J. Bevan, Waunarlwydd, yn mhresenoldeb Mr Daniel, y cofrestrydd, Mr'William Davies a Miss Elizabeth Richards, y ddau o Mynyddbach-y-glo, ger Waunarlwydd. 12, yn Bethel, Arfoii, gan y Parch. D. Griffith, yn cael ei gynorthwyo ;gan y Parch. R. W. Griffith, Mr Griffith Griffiths, Farm Baihf, Erw-pwll-y-glo, Caernarfon, a Miss M. Griffiths, Pen-y-groeslon, Bethel. —— 13, trwy drwydded, yn swyddfa y Cofrestrydd, Liverpool, Mr Edward Pugh, Plasterer, 24 Stanfield Road, a. Miss Margaret Roberts, 16 Thackeray Street, Toxteth Park. Y ddau o ardal Dolgellau. 12, trwy drwydded, yn nghapel y TabernacI, Bangor, gan y Parch. David Roberts, Caernarfon, ewythr y briodferch, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. David Roberts, Ffestiniog, Hannah Ellen, merch hynaf y Parch. Samuel Roberts, Plasllwyd, Bangor, a Mr Richard Davies, Architect, Erw Gron, Llanfairfechan. —— 12, trwy drwydded, yn nghapel y Wesleyaid, Dolgellau, gan y Parch. W. Tbonias, Mr Lewis Whit- hington, Meirion House, a Miss Jane Hughes, Gaerwen Cottage. Y ddau o Corris. MARWOLAETHAU. Hydref 29, yn 50 oed, Mr Thomas Holmes (Ap Richard), Coach & Horses Inn, Smithfield, Llanidloes. 30, yn 28 oed, o'r da^fodedigaeth, Miss Jane Jones, Dross- maker, Llanfachraith, Mon. Yr oedd yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibynwyr, ac yr ydym yn dra hyderus ei bod wedi newid ei sefyllfa am un lawer iawn yn well. Tach, 6, yn 67 oed, Mr Thomas Evan, Mynyddbach- y-glo, ger Waunarlwydd. Claddwyd ef y dydd Llun canlynol yn Cadle, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. Bevan. —— 7, yn nhy ei dad, Mr John Edwards, Bronder- fel, Llandderfel, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd trwm, Mr William Edwards, yn 29 oed. Claddwyd ef y dydd Mercher canlynol yn mynwent y Llan. Dar- llenwyd yn y ty cyn cychwyn gan Dr. Pandarus Jones, a gweddiwyd gan y Parch. T. Davies, Llandrillo. Er fod y dydd yn oer a gwlyb, daeth tyrfa fawr lawn i'w hebrwng ef i dy ei hir gartref.' Boed heddweh i'w weddillion, a'i fedd yn anwyl a chysegredig. 9, yn 16 mlwydd oed, Mr Thomas Evans Lewis, mab hynaf Mrs Lewis, Maengwyn Street, Machynlleth. Dyoddefodd gystudd trwm a maith yn dawel ac amyn- eddgar. 10, yn 16 oed, Elizabeth, merch Mr Evan Mer- edith, Flen Square, Caersws. 13, yn 17 Bridge Street, Runcorn, yn eidrydedd flwyddyn, Harry Edward, bachgen hynaf Mr Henry Davies, Outfitter, 6,e,. —— 14, yn 4 Great George Street, Liverpool, yn un mlwydd oed, Elizabeth, unig ferch Mr W. Jones. *a:r"rr,
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BEDDGELERT.-Cynhalioddy B. B. Band gynghcrdd nos Sadwrn, Tachwedd 6ed, 1869, yn yr Ysgol Fryt- anaidd. Aethant trwy eu gwaith yn anrhydeddus. Yr oedd yn dda genyf weled cyr.ulliad mor dda, a phawb i'w gweled yn cael eu boddhau. Yr oedd y Band yn chwareu yn dda, ond yr oeddynt yn canu yn lleisiol yn well. Yr oeddynt dan anfantais, trwy eu bod yn chwareu a chanu bob yn ail.—Owran- clawr. LLANELLI, BBYCHEINIOG.—Nos Fercher, y 3ydd cyfisol, yn nghapel yr Annibynwyr yn y lie uchod, traddododd y Parch. J. Davies, Caerdydd, ei daar- lith gampus ar Ddygwyddiadau rhyfedd y blyn- yddau hyn,' i gynulleidfa luosog. Cymerwyd y gadair ar yr achlysur gan G. L. Hiley, Ysw., yr hwn a'i llanwodd yn mhob ystyr gyda'r doetliineb a'r medrusrwydd mwyaf. Yr oedd yn bresenol hefyd amryw weinidogion o wahanol enwadau. A chwedi cyflawni y seremoniau arferol ymadawodd y gynulleidfa wedi ei boddloni yn neillduol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
VERDICT, NOVEMBER 11TH.—"The inquest on the body of Albert Edward Johns, the child of R. Johns, tailor, of 7 Morley-street, Plymouth, who was burnt to death the previous day, was held yesterday at the Cambridge Inn, before J. Edmunds, Esq., coroner. It was shewn that the deceased, in the absence of its mother, must have lit some matches which were on the table, and thus set fire to the room. The jury, by their foreman, Mr. Rolestone, in returning a verdict of Accidental Death,' recommendedthe use of Bryant and May's Special Safety Matches, which light only by friction on the box in which they are contained. In this the coroner concurred."
CYMDEITHAS YR ACHOSION SEISNIG…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMDEITHAS YR ACHOSION SEISNIG YN NGHYMRU. Yr ydym yn dymuno galw sylw Eglwysi Annib- ynol Cymru at y Gymdeithas hon eleni fel arfer, a hyny y tro hwn yn y modd taeraf a difrifolaf. Amlwg yw, fod cyfnewidiad pwysig a chyfivm yn cymeryd lie yn iaith ein gwlad, yn neillduol yn ein trefydd a'n cymydogaethau gweithfaol. Mewn llawer o fanau, yn Morganwg a Mynwy yn neilldu- ol, ugain mlynedd. yn ol, nid oedd angen darllen y testyn yn Saesonaeg, yn awr nid 008 angen ei ddar- llen yn Gytnraeg. Mae amryw gymydogaethau wedi cyfnewid yn hollol a thrwyadl, ac oni buasai i'r eglwysi ddangos mwy o ysbryd cristionogaeth nag o ysbryd ieithgarol, buasai y capelau wedi eu gwaghau erbyn hyn, a'r cymydogaethau hyny heb un achos Annibynol o'u mewn. Er troi achosion Cymreig i fod yn Saesonig, nid yw hyny wedi profi yn ddigonol i gyfarfod a chynydd yr iaith Saesonaeg yn Nghymru. Mae profiad y blynyddoedd diweddaf a sylw ar arwyddion yr amserau yn ein gorfodi i gredu, a chymhell y grediniaeth hono ar yr eglwysi, mai dyledswydd fiaenaf a phenaf Annibynwyr Cymru, os mynant gadw Annibyniaeth yn y wlad, yw darparu lleoedd i addoli, a gweinidogaeth Saes- onaeg yn y manau hyny lie y preswylia Saeson digrefydd, ac y siaredir y Saesonaeg gan blant y Cymry. Oni buasai y Gymdeithas hon, ni buasai genym, fel enwad, gynifer o eglwysi ac aelodau Saesonig yn Nghymru ag y sydd. Mae cynifer o eglwysi ne- wyddion wedi eu ffurfio yn ystod y flwyddyn hon, heblaw y rhai fwriedir eu ffurfio o hyn i ddechreu yr haf nesaf, fel y mae yn anmhosibl i'r Gymdeithas gyfarfod a'r holl ofynion heb ychwanegiad mawr at y cyllid presenol, goddefer i ni felly, dros y Gym- deithas, yn enw ein Meistr, ac er mwyn eneidiau anfarwol, eich cymhell chwi, frodyr, sydd wedi eich bendithio a da y byd hwn, a'r eglwysi yn gyffredin- 01, i gymcryd y mater hwn dan eich hystyriaeth ddifrifolaf, ac i wneyd yr hyn a alloch yn y gwaith pwysig hwn. Tra y mae enwadau ereill yn effro ac yn gweithio, na fydded i ni gYSgll nes colli y maes a'r safle a enillwyd i ni gan ein tadau. Mae i bob oes ei gwaith neillduol. Ein gwaith ni yw, gofalu na byddo i ddy- lifiad ein gwlad gan iaith estronol yrnlid Annibyn- iaeth o'r tir. Mae amryw bersonau ac eglwysi yn gwneud yn rhagorol. Ai gormod fyddai gofyn casgliad at y Gymdeithas o hyn hyd ddiwedd mis Mawrth nesaf, gan bob eglwys nad yw hyd yma wedi gwneyd dim. Ddiaconiaid a Gweinidogion, yr ydym yn attolygll amoch, dygwch y mater ger bron yr eglwysi yn ddioed, yna credwn y caiff y Gymdeithas y cydymdeimlad a'r cymhorth a deil- ynga. Dros y Pwyllgor, D. SEYS LEWIS, Cadeirydd. D. JONES, Ysgyifenydd. T. WILLIAMS, Trysorydd. T. REES, Abertawy. Anfoner y casgliadau a'r cyfraniadau i'r Trysor- ydd, T. WILLIAMS, ESQ., Goitre, Merthyr Tydfil. r tY.!I,
Y EAHCIINAD YD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y EAHCIINAD YD. LLUNDAIN, DYDD LLUN.—Gwerthai gwenith am ostungiad o un i ddau swllt y chwarter. Gostyng- odd haidd swllt y chwarter, ond cododd ceirch o 6c. i Is. y chwarter. Gostyngodd blawd Is. y sach, a blawd Americanaidd Is. y baril. LIVERPOOL, DYDD MAWRTII.—Yr oedd cynnulliad da yma heddyw, ond yr oedd y gofyn am wenith yn araf am 2g. y cant yn is. Blawd o 6ch. i Is. yn is. Masnach araf mewn ceirch a blawd-ceirch. Gwen- ith Indiaidd mewn gofyn lied dda, am 3c. y cant, chwarter o ostyngiad.
Y FARCHNAD ANIFEILIAID.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y FARCHNAD ANIFEILIAID. LLUNDAIN, DYDD LL-UN.-Nifer yr holl anifeiliaid tramor a ddaeth i Lundain yn ystod yr wythnos ddi- weddaf, oedd 11,021. Yr oedd y fasnach mewn gwartheg yn ddifywyd, a'r prisia.u 2c. yr 8 pwys yn is. Yr oedd masnach y defaid yn farwaidd, ond y prisiau yn sefydlog. Yr oedd galw da am loi bychain, a chedwid at y llawn prisiau blaenorol. Yr oedd galw cymedrol am foch, a chedwid at y prisiau blaenorol. LIVERPOOL, DYDD LLUN.—Yr oedd y cyflenwadyn cynwys 3,395 o wartheg a 9,218 o ddefaid. Yr oedd gwartheg a defaid da yn brin y canolig a'r, gwael yn helaeth, a'r prisiau yn ffafrio y gwerthwyr. Yr oedd nifer dda o brynwyr wedi dyfod ynghyd, a chlirwyd à furchnad yn dda. Cig eidion da, 7c. i 7!c. eilraddol, 6te. i 6 £ -c.; gwael, o 5c. i 6c.; cig defaid, o 7c. i 9c. y pwys.
GWER.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWER. Town Tallow, 48s gc y cant; rough fat, 2s 4c yr 8 pwys; Russian candle, 48s 3c y cant; melted stuff, 35s Oc.
IMARCHNAD GWLAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARCHNAD GWLAN. LLTTNDAIN, DYDD LLUIIT.-YR oeclcl y gwlan tref- edigaethol a chartrefol yn gwerthu yn fywiog, a'r prisiau ychydig yn uch. Gwlan cartrefol yn sef- ydlog.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
LLANELLI. OYNHELIR Cyfarfodydd Cydnabodedigaeth y Parch. T. Johns, yn Nghapel Als, ar yr 22ain a'r 23ain cyfisol. Dechreuir am 7 o'r gloch y dydd cyntaf. Bydd Mr Johns a'r eglwys yn ddiolchgar am bresonoldeb pawb gweinidogion a welant yn dda ddyfod.
LLYTHYR GOHEBYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR GOHEBYDD. Yn cynnwys hanes am feddyginiaeth ryfeddol a dderbyniodd cadben llong ryw gymaint o amser yn ol, a'r hwn sydd yn deilwng o'i gofnodi drachefn a thrachefn. Ar ol i bawb a phob peth fethu er syndod i bawb, meddyginiaethwyd ef trwy y Fywydol Elfen Dym- gyrchiad y corff dynol, gan Mr. Joseph Thomas, (Josephus Eryri), Professor of Remedial Power of the Electric Fluid, and the true Life Element, and Practical Phrenologist, 33, Clarence Street, Mount Pleasant, Liverpool. Mae yr hanes fel y canlyn.
AT Y CYHOEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT Y CYHOEDD. FONEDDIGION,—Digwyddodd i gadben llong yn bur anffodus amser maith yn ol, gael ei daraw gan y parlys (palsy), mor drwm echrysla,wn a niweidiol yn ei ochr dde, o'i ben i'w draed, nos oedd ei aelod a'r droed, a'i fraich a'i law, a phob rhan o'i ochr hyd at hanner ei gorff yn hollel ddiffrwyth. Yr oedd y cnawd yn eiddil a churedig, ac yn oer, a lliw'r croen yn welw ac annaturiol, oil fel yn farw, vn enwedig pan ym- drechai symud. Nis gallasai sefyll am funud, a syrthiai o'i eistedd fel pren heb roddi ei bwysau ar rywbeth a'i cynhaliai. Byddai yn rhaid symud ei fraich a'i law ddiffrwyth oddiwrth ei ystlys ddiffrwyth gyda'r llall. Disgynai fel yn farw a gwywedig oddiar ei glun pan yn eistedd, byddai yn rhaid gafaelyd ynddi i'w chodi, ni allasai symud mwy na chareg, na chynal ei phwys. Yr oeddpoen anioddefol yn ei ben yn barhaus bob amser; nid oedd munud o esmwythdra iddo yn y gwely nac un man arall, a'i feddwl wedi ei sefydlu yn ddiysgog ryw fodd ar wrthddrychau nad oeddynt yn perthyn mewn modd yn y byd i'w syniadaeth; ym- ddangosont yn barhaus o fiaen ei olwg dydd a nos lIe bynag y byddai; nis gallasai ymgysuro mewn dim. Nid oedd un amser yn teimlo awydd at fwyd, nac yn gallu bwyta na chysgu ail i ddim. Yr oedd ei barabl wedi ei niweidio i raddau mawr, a'i gyfansoddiad wedi ei anhwylio yn hollol. a'i nerth wedi llwyr ballu 0! mor druenus oedd ei gyfiwr ac heb un gobaith byth am wellhad. JJarnodd meddygon da fu yn gweinyddu iddo ei fod yn anfeddyginiaethol; ond yn ffodus iawn, hysbyswyd ef pan yn y cyflwr anedwydd yna, fod Mr. Thomas wedi llwyddo trwy ei fedrusrwydd tra rhagorol gyda'r Fywydol Elfen, i adferu lluawS mawr o gleifion a fiinid gan wahanol anhwylderau; ac yn eu mysg lawer o'r un anhwylder ag yntau, a chan waethed, eriddynt gael eu hystyried gan y meddygon enwocaf yn anfeddygin- iaethol. Pan wybu hyn yna, gwnaeth brawi dioed ar ei feddyginiaeth ef. A llawenydd mawr genyf allu hysbysu y cleifion yn mhob man yr adferwyd ef, er gwaeled oedd wedi bod yn barhaus am nifer o dymhorau, ac er i'r meddygon ddywedyd pan aeth atynt, nad oedd yn ngallu neb mewn modd yn y byd wneyd dim lies iddo. Daeth wrth barhau i fyned ato bob dydd am yspaid 0 amser i allu nid yn unig sefyll heb ddim arall i gynal ei bwysau, ond hefyd i gerdded rhai milldiroedd heb flino; a daeth ei fraich a'i law oedd mor ddilfrwyth a gwywedig; yn alluog i wisgo am dano ei hun, a diosg ei wisgoedd, a chylymu careiau ei esgidiau, a'u dattod, ac i dorri bwyd ei hun, a bwytta a mwynhau hyny. Daeth hefyd i allu amddiffyn ei hun, gydag unrhyw beth, pe buasai ei fywyd mewn perygl. Symudwyd yr holl boenau o'i ben a manau eraill yn llwyr yr oedd hyny ei hunan yn fyrdd mwy gw erthfawr nag a ellid ei draethu. Daeth ei feddwl, yr hwn oedd wedi sefyll mor ddiysgog felly ar y gwrthddrychau crybwylledig, yn rhydd a galluog i arsyllu a dirnadu pob gwrthddrych fel eu gilydd yn berffaith naturiol a rheolaidd. A daeth trwy drugaredd i fwynhau ei fywyd, ac yn alluog i hwylio llong etto fel o'r blaen i barthau pell- enig y byd. Mae y cyfryw:feddyginiaeth yn anrhaethol werthfawr ac anmhrisiadwy. Nid rhyfedd fod Mr. Thomas yn gallu meddyginiaethu cymaint o anhwyl- derau eraill, a farnwyd gan y meddygon enwocaf yn anfeddyginiaethol, pan yn gallu adferu iechyd a bywyd i gleifion o'i fath ef, a fu hir amser mor ddrwg ac an- obeithiol. Cynghora bawb sydd yn methu cael gwellhad brysuro i wneyd prawf ar fedrusrwydd tra rhagorol Mr. Thomas. Hona y meddygon eu bod yn gallu defn- yddio y Fywydol Elfen i wneyd lies fel efe. Tystia ef iddo gael digon o brawf na allant. Dealler ei fod ef yn gweinyddu ar y claf yn wahanol i bawb arall, a gall y baban mwyaf eiddil oddef myned dan ei driniaeth of. Hyderwyf y bydd i'r hysbysiad a'r dystiolaeth hon fod yn foddion i eraill wybod am r. Thomas, a gwmeuthur prawf am adfywiad bywyd ac adferiad iechyd, megys y gwnaeth yr uchod. Yr Eiddoch yn barchus, GOHEBYDD. O.Y.—-Gall y sawl a chwenycho gael enw priodol y cadben a iachawyd, ond anfon at y Profieswr Thomas.