Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Y PARCH. J. WILLIAMS, CASTELLNEWYDD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PARCH. J. WILLIAMS, CASTELL- NEWYDD WEDI MARW. Ie ddarllenwyr, brawddeg bur liynod onide ? Williams Castellnewydd wedi marw. Un a anwyd mewn ffarmdy o'r enw Ffrwdwen, yn Mblwyf Llandeilo-fawr, ac a fagwyd yn Brown lIllI, yn mhlwyf Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin, Wedi marw. Un a ddechreuodd ar ei ddyled- swyddau cyhoeddus fel crefyddwr a phregethwr leuanc gyda sel a brwdfrydedd diail. Wedi illarw. Un a ymsaethodd i'r golwg yn ffurfaf- On yr Eglwys Gymreig fel seren lachar a goleu nes yr oedd yn hawdd ei ganfod o bell ac o agos. Wedi marw. Un a gododd obeithion ^yinru i sefyll ar flaenion en traed ac i ofyn Irlewn syndod beth fydd y bachgen hwn. Wedi ?narw. Un deitliiodd fro a bryn—tir a mor— twyr a boreu, heb achwyn erioed, am a wn i, ei fod wedi blino. Wedi marw. Un weithiodd yn galed mewn lluaws o gyfeiriadau mewn amser ac allan o amser. Wedi marw. Un siar- adodd—un bregethodd—un ddarlithiodd—un daniodd ac un wefreiddiodd gymanfaoedd a chynulleidfaoedd lluosog Cymru, nes yr oedd- yit fel dail crynedig y goedwig o flaen yr awel, Yn symud ol a gwrthol wrth sigliad ei law a ^Wareuad ei dafod. Wedi marw. Un yr oedd oywyd yn dawnsio ar bob ysgogiad a pliob Slgliad pob gewyn yn ei gyfansoddiad. Wedi marw. Un oedd wedi ei gyfansoddi gan natur y fath fel yr oedd yn medru byw mwy mewn bhvyddyn nag a fedr nifer luosog o ddynion ei fTvv mewn pedwar ugain xnlynedd. Wedi marw. ^n o'r dynion mwyaf byw a fuodd byw erioed ar wyneb y ddaear, wedi darfod byw yn ei ffurfwedd ddaearol, ac wedi ei symud o'r byd "Wil i randiroedd tywyllion ac anadnabyddus wriogaethau y byd ysbrydol. Ac y mae y ffalth fod Williams Castellnewydd tuedi marw Y tystio yn bur uchel mai ein dyledswydd niiiau yw trefnu ein tai, canys marw fyddwn ac byddwn byw. Ydyw mae ein cyfaill Williams Castellnewydd wedi huno. Ac fel y dywedodd 1111 yn Capel Iwan dydd yr angladd, yn ddigon Priodol, yr oedd yn gyfaill. Yr oedd darlun byw o gyfeillgarwoh yn ei ysgogiadau. Yr oedd arogl cyfeillgarwch yn ei eiriau. Ac wrth u.fuddhau i'w egwyddor gyfeillachol aethai ar ten i ofid ei bun er mwyn diofidio ei gyfaill. *a beth bynag oedd ei gryfder, a pha beth bynag oedd ei wendid; pa beth bynag ganmol- adwy, a pha beth bynag oedd heb fod ynddo, S^daf y cyduna pob un oedd yn adnabod Mr. Williams yn weddol dda ei fod yn gyfaill cynes a thwymgalon iawn. Yr oedd caredigrwydd, bonder a serchowgrwydd yn elfenau ag oedd Wedl eu cydwau a'i natur y fath fel yr oeddent yn dyfod i'r golwg yn mhob gair, pob gweith- y) a phob ysgogiad o'i eiddo yn hollol natur- a diymdrech. Collodd gweinidogion ieu- lngc, ac yn neillduol pregethwyr ieueingc oedd yn bwriadu am y weinidogaeth, gefnogydd ^yo-dlon a chyfaill twymgalon iawn pan goll- Sant Mr. Williams. Gwn am luaws o ddynion enangc llafurus, talentog, a chyfrifol, yn llanw yiehoedd pwysig yn y weinidogaeth Gymreig eddyw, yn ddigon boddlon i dystio i sylwedd- irwydd y gosodiad uchod. Ac o'r braidd y /ddwn yn foddlon ildio fy mod yn myned yn ffty bell pe dywedwn nad oes un gweinidog eadyw yn fyw wedi bod mor active ac ym- recnol i godi dynion ieuangc i'r weinidogaeth, c yn ol ei allu, i gael lleoedd iddynt ar ol eu a Mr. Williams, Castellnewydd. Cefnog- ej Uaws ar eu eychwyniad allan, darlithiodd °ysur arianol, siaradodd drostynt o flaen yllgorau y colegau, cymeradwyodd hwy i bv -in°l eg]wysi> a rhoddodd ei bresenol deb ^ywiog gyda hwy ar ddyddiau eu hurddiadau. U byddwn yn dweyd yr un newyddwrth ddar- ^J*yr y TYST CYMEEIG pe dywedwn fod Mr. siaradiuyr mwyaf ffraeth, arp'fi e^eithiol, a didaro a esgynodd erioed i'r yn ■ gymreig. Yr oedd wedi ei eni a'i fagu j^aradwr. Y mae y gallu siaradol yn nod- a<j -arbenig o deulu Brown Hill. Yr wyf yn Rvfl °d ° honynt sydd yn siarad mor y^ nes y maent braidd yn ymylu ar fod yn ^ed^f Wy. Gwir nad yw hyny yn un rhin- odd °nd y mae yn brawf i'r neb a wrandaw- arnynt yn siarad eu bod yn feddianol ar SyffY speech, neu beirianau ymadrodd di- 'Wilv Ond er mor gyflym y siaradai Mr. ^ealia?S' oe(^ yn ddigon pell o fod yn an- yn f y* Yr oedd yna rywbeth mor nodedig rawddegau byrion, ei ysgogiadau bywiog, ei aceniaeth groyw, ei bwysleisiau cynaniaethol, a seiniadol, a'i gwnaiynun o'r siaradwyr mwy- af bywiog, effeithiol, boddhaol, a dylanwadol a fum yn wrando erioed. Nid yn yr areithfa yn unig yr hynodai Mr. Williams (i hunan fel siaradwr. Adwaenwyf luaws y mae yn dda gan fy nghalon i gael y pleser o wrando arnynt yn y pulpit, ond mor fuan ag y deuont tu allan i ddrws y lie cysegredig hwnw, y maent yn hollol ddilun a diawdurdod fel siaradwyr. Ond am Mr. Williams, pa un bynag ai ar y stage am ddeg o'r gloch boreu dydd y gymanfa, ai yn darlithio Dyn yn Arglwydd y Greadigaeth," ai yn y Town Hall yn dadleu hawliau gwleid- yddol ei gyd-ddyn, ai yn gwerthu neu brynu anifail ar ben ffair, ai yn adrodd hanesyn difyr a diniwed yn y cornel wrth y tan mawn, nid oedd wahaniaeth ar y ddaear pa le, yr oedd ei allu siaradol diail fel ffynon yn byrlymu i'r golwg yn ddidor didrai a didrwbwl. Yr oedd yn ddyn cyflawn iawn mewn ardal, a theimlir colled fawr ar ei ol yn y cyfeiriad hwn. Ond nid fy mwriad wrth ddechreu ysgrifenu oedd rhoddihanes by wyd Mr. Williams, ondynhytrach ychydig o hanes ei farwolaeth a'i gladdedig- aeth. Teg yw dyweyd ei fod yn ddiweddar wedi ymddrysu ychydig yn ei amgylchiadau bydol. Yr oedd lluaws o betbau yn cydgyfar- fod a'u gilyddiddwyn hyn oddiamgylch, megis caredigrwydd ei natur, teulu lluosog, gormod o heiyrn yn y tan ar yr un pryd;' yn nghyda meddwl yn bur debyg byw rai blynyddoedd yn mhellach. Ond y mae yn dda iawn genyf fod yn alluog i ddyweyd oddiar dystiolaeth y rhai oedd gyfarwyddaf ag amgylchiadau mas- nachol Mr. Williams mai yr unig drueni yw, iddo gael ei gymeryd yn wael i'w wely yn yr adeg y cymerwyd ef. Mae yn fwy na thebyg pe cawsai rodio oddiamgylch yn y mwynhad o'i iechyd arfercd y buasai pobpeth yn wastad a boddhaol. Nid oedd mor iach a hoew ag arfer- 01 er ys wyth neu naw mis. Cafodd gystudd trwm am y pum' neu chwech wythnos diwedd- af y buodd byw. Bu farw, fel y dywedasom o'r blaen, tua naw o'r gloch boreu dydd Mawrth, y 9fed cyfisol. Hebryngwyd ef y dydd Sad- wrn canlynol gan dyrfa luosog anarferol i dy ei hir gartref, yn mynwent Capel Iwan, lie y gorweddai ei briod er ys yn agos i saith mlynedd yn flaenorol. Darllenwyd a gweddiwyd yn y ty yn hynod o effeithiol a thoddedig gan y Parch. W. E. Jones, Treforis. Dechreuwyd yr oedfa yn y capel gan y Parch. D. Evans, Pant- ycreigiau. Ar gais Mr. Williams ei hun ryw fis cyn ei farw, yn nghyda dymuniad y teulu ar ol hyny, pregethais inau ychydig oddiwrth y frawddeg-" Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith." Cyn mynecl dywedoddy Parch. O. Thomas, Brynmain, ychydig eiriau taraw- iadol a thoddedig. Ar lan y bedd siaradodd y Parchn. Philips, Horeb, a Williams, Trelech. Cyn ymadael canwyd, ar gais y teulu, yr emyn canlynol—"Ymadael wnaf a'r babell 'rwy'n trigo ynddi'n awr, &c.; yr emyn mae'n debyg a ganwyd ganddo ef ei hun y nos cyn ei ym- adawiad, a gobeithio erbyn hyn ei fod wedi syl- weddoli y rhan ddiweddaf o hono yn ogystal a'r rhan flaenaf. Ac yria i gysgu rhowd Williams anwylgu, Hyd foreu y codi caiff orwedd mewn hedd, Boed Duw y ffyddloniaid yn dad i'w amddifaid, Yn eu tyner wylied mewn nodded a hedd; Pe gallem fe'i nliofiem i fynu a'n dagrau, Er cael ei gyfeillach a gweled ei wedd, Ond dyna-gwell tewi a'i adael i gysgu- Distawrwydd sy'n gweddu i breswyl y bedd. T. SELBY JONBS. Trewen, Tach. 19, 1869.
CYFARFOD YMADAWOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD YMADAWOL. Nos Wener, Tachwedd 12fed, cafwyd cyfarfod yn Rehoboth, Llaniestyn, ar achlysur ymadawiad y gweinidog, y Parch. R. Rowlands, i [gymeryd gofal eglwysi Cynulleidfaol Llanon a Nebo, sir Aberteifi. Am 6 o'r gloch, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. H. Jones, Pwllheli. Etholwyd y Parch. D. Jones (Dewi ab Gomer), i'r gadair. Wedi anerchiad agoriadol gan y llywydd, galwyd ar Mr W. Daniel (I yr hen Brophwyd'), pregethwr cynorthwyol yn eglwys Rehoboth, yr hwp sydd oddeutu 80 mlwydd oed. Cyfododd yr hen dad, a siaradodd gryn lawer, yn hynod o bert ac i'r pwrpas. Sylwodd ar amryw o rinweddau yn nghymeriad Mr R., a dywedai ei fod wedi cynyddu yn fawr yn ei bregethu er pan y daethai yno o'r Coleg yn fach- genyn ieuanc. Dywedai os cynyddai yn ol yr un- rhyw gyfartaledd yn ystod y 10 mlynedd dyfodol y byddai yn sicr o gael ei alw i'r Gogledd i fod ynbrif bregethwr Cymanfa. Daliai yr Hen Brophwjrd' eu hen weinidog hwy fel esiampl i'r gweinidogion oedd yn bresenol i'w efelychu. Dywedodd yn mhell- ach nad oedd ef erioed wedi meddwl i Mr R. ym- adael tra byddai efe byw beth bynag. Disgwyliai mai efe fuasai yn ei gladdu, yn pregethu ei bregeth angladdol, ac yn ysgrifenu i hysbysu'r wlad o'r amgylchiad. Y Parch. J. H. Jones, Pwllheli, a ddywedai ei fod ef wedi dod i'r cwrdd trwy lu o auhawsderau. Na fuasai yn leicio i'r fath gyfarfod fyn'd heibio heb iddo ef fod yn bresenol. Teimlai barch neillduol at Mr R. Yr oedd yn falch o'r Hen Brophwyd' Daniel am ei sylwadau cynes at ei weinidog. Bydd yn diolch i Dduw weithiau am nad oes brogethwr cynorthwyol yn ei eglwysi ef. Ond ni fuasai yn teimlo dim gwrthwynebiad i W. Daniel ddod i fyw i Pwllheli; ac os buasai ef (Mr J.) byw ar ei ol y claddasai ef yn y modd parchusaf, ac yr ysgrifenasai i'r newyddiaduron i hysbysu y wlad o'r amgylchiad. Dangosai Mr J. fod ganddo feddwl uchel am Mr R" fel cyfaill, ac fel un y gellid ymddiried ynddo. Os byth, meddai, y daw Mr R. i Pwllheli a chen i fwyd ar y bwrdd, a gwely i orphwys arno, caiff groesaw calon i'w mwynbau. Y Parch. W. J. Richards, Abererch, a ddywedai fod yn dda ganddo am dano pe na buasai ond yn unig am ei fod yn Hwntw. Deallai fod tysteb yn cael ei chyflwyno i Mr R. Da oedd hyny, ond yr oedd ef yn tybied mai y dysteb oreu iddo fuas'ai gtvraig. Cynghorai ef (Mr Richards) ar fod iddynt ymofyn gweinidog eto yn ddiood, onide y byddent yn blino gweinidogion eraill, megis ef ac arall, i fyned yno i'w gwasanaethu. Y Cadeirydd a ddywedai fod yno ymadawiad an- hyfryd i gymeryd lie ar ganol y cyfarfod, fod am- gylchiadau yn galw am i'r ddau frawd oedd wedi siarad olaf i fyned adref. Sylwai hefyd fod golwg lied bruddaidd ar y wlad yn bresenol yn enwedig yn Lleyn. Fodlluaws yn ymadael i'r nefo'nprif ddynion (a chrybwyllai gyda theimlad dwys y newydd oedd wedi gael y diwrnod hwnw fod y Parch. J. Williams, Castellnewydd Ernlyn, wedi newid byd), a bod eraill yn symud o wlad i wlad. Dyma un, meddai, ar gychwyn, a sonir am eraill megis yn ymbarotoi. Adroddodd y penill canlynol o'i waith ei hun :— Mae'r ser fu'n scfydlog, yn troi yn gomedau, Ffurfafen yr Eglwys yn gynwrf i gyd, Mae rhywbeth pur rhyfedd yn yroyl yn Sion A ydyw F Arglwydd am adael ein byd ? Na, na, os symuda y ser o'u cylchrodau Fe eiys yr haulwen a'i orsedd yn gref, Daw eto enwogion i lenwi'r pwlpudau Yn llawn o dan cariad eneiniad y nef. Tra yr oedd y brodyr yn ymaclo canwyd,— Jlelus fydd y fwyn gymdeithas, yn y tragwyddoldeb maith, &e. Y nesaf oedd y Parch. R. Roberts, gwr ieuanc o Fon sydd newydd ddyfod i gymeryd gofal yr eglwysi Cynulleidfaol yn Nefyn a'r Morfa. Dywedai fod rhai o'r brodyr oedd wedi siarad yn ymesgusocli am beidio siarad ond ychydig, ond am dano ef yr oedd ganddo nid esgusion ond rhesymau dros siarad ych- ydig. 'Doedd efe ddim wedi meddwl siarad, a gwn- aeth'ei oreu i gael peidio dweyd dim. Nid oedd efe ond newyddian yn y wlad, ac nid oedd wedi cael ond ychydig iawn o gyfeillach Mr R. Eto yr oedd yr hyn a gafodd wedi ei argyhoeddi ei fod yn gyfaill calon. Pan feddyliodd gyntaf am ddyfod i ymsef- ydlu yn Lleyn, yr oedd yn llawen ganddo feddwl y cai Mr R. yn gymydog a chyfaill agos ond yn eb- rwydd wedi iddo benderfynu dyfod yma dyna'r newydd galarus a glywai fod Mr R. yn ymadael. Y Parch. H. R. Jones, Hebron, a sylwodd fod y cyfarfod yn tueddu gormod at y difrifol a'r prudd- aidd-nad cadw wylnos yr hen frawd yr oeddis. Y mae'n wir, meddai, mai ymadael y mae, ond fe ddaw yma i edrych am danom eto. Gwyddai fod teimlad anghyffredin yn y wlad yn ngwyneb ymadawiad Mr R. Myn'd ymaiti. yr oedd Mr R., ond ni wyddai efe (Mr J.) paham. Er mwyn cael mwy o arian, meddai rhywun. Er mwyn arian yr ydach chi yn pregethu. Treiant hwy bregethu heb arian os gall- ant. Credai ef (Mr J.) fod rhyw fendith ddwbl ar gyflogau gweinidogion Lleyn. Yr oedd yn ffaith mai hwy sydd yn cael y cyflogau lleiaf, ac eto dyma oedd yn hynod, fod cotiau brodyr Lleyn yn llawn cystal eu cotwm a neb pwy bynag a ddaw i'r un fan a nhw. Pa gyfrif sydd am hyny, ond yn unig fod bendith yr Arglwydd yn cyfoethogi, &c. Y nesaf a alwyd oedd y Parch. O. J. Roberts. gweinidog y Bedyddwyr yn Ty'ndonen a Talgraig. Siaradodd y brawd cynes galon hwn yn humorous a phert iawn. Yr oedd yn fynegai eglur o'r^ parch a goleddid at Mr R. gan gyfeillion y tuallan i derfyn- au enwad ei hun. Sylwodd yn lied fanwl ar ddyf- ediad, arosiad, ac ymadawiad Mr R. Buasai holl anerchiad y cyfaill Mr Roberts yn hynod o ddifyrus pe gallasem ei chofio i gyd, ond y mae hyny yn an- mhosibl, fel y gwyr y rhai sydd yn adnabod athry- lith, dawn, ac arabedd dihysbydd y brawd cywir galon. (Daw y gweddill yn ein nesaf.)