Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

----NEWYRTH ZACHRY 0'1 GADAIR'…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYRTH ZACHRY 0'1 GADAIR WELLT. "Wycldoch chwi beth benderfynwyd yn Cwrdd Eglwys heddyw, Newyrth P" meddwn i wrth Newyrth Zachry ar fy nychweliad i'r ty heno ar ol bod yn y Cwrdd Eglwys y boron. Na wn yn siwr," ebe ynte, rhyw bwnc o fusnes mae'n debyg, oblegid dyna sydd fynycha genych y dyddiau yma." Wei, fe benderfyn- wyd gwneyd Diaconiaid newyddion, ac fe rowd hyd y Cwrdd Eglwys nesaf, mis i heddyw, i ystyried pa gynllun a gymerir i'w dewis. Beth ddywedwch chwi am hyny Newyrth 2" "Na nis gwn i pa beth i'w ddweyd yn iawn ond gyda hyny dodai y papur oedd yn ei law ar y bwrdd ar y dde, a thynai y gwydrau oddiar ei lygaid, a rhoddai hwy yn y case, yr hyn sydd arwydd sicr bob amser ei fod mewn hwyl i siarad. 'Dych chwi ddim yn coflo Hwmffrey dyrnwr," meddai-" ryw Northman mawr fu yma yn dyrnu ryw aua, ddeunaw neu ugain mlynedd yn ol? "YdwyÎ o'r goreu—Hwm- ffre Sir Fon y byddem yn ei alw—yr wyf yn cofio iddo fy nghario I a William fy mrawd, un dan bob braich, drwy ryd y Ddolfach ar ryw lif mawr, ac yntau yn cana yn llawen— 11 Y Northman mawr, a'r Hwntws bach, Drwy'r llif a'r llaid ddaw adre'n iach; Yn iach i dre' ni ddown ein tri; 'Nawr cenwch chwithau gyda mi." "Wel," ychwanegai Newyrth Zachry, dyna un o'r dynion callaf, a mwyaf gwybodus a wel- ais i erioed. Ni wn i yn y byd beth oedd e, ac nid oedd modd cael ganddo ddweyd. Yr oeddwn yu casglu arno ei fod wedi gweled byd gwell, ac mai oblegid iddo fyned i ryw ddrys- weh y daeth i'r wlad yma. Methodus oedd e yn ei wlad mi wn, ac ni ryfeddwn I ddim na bu e yn flaenor gyda hwy. Un o'r darllenwyr goreu ydoedd a glywais erioed, yr oedd ei glywed yn darllen pennod yn well nag esboniad llawer un, ac fe wnaeth lawer sylw ar y naill beth a'r Hall oedd yn dangos ei fod yn ddyn deallus iawn. Yr amser yr oedd e yma y dewiswyd Diacon- iaid yma o'r blaen. Dyna y pryd y gwnaed Dafydd Jones, Tyuchaf; ac Evan Thomas, Elidir-ganol, a Mr. Davies, Shop; a dau arall na waeth heb son am danynt, oblegid ni ddaeth dim daioni o honynt. Bu un o honynt farw yn druenus, ac y mae y llall yn wrthgiliwr er's blynyddau, ac eto y ddau hyny oedd yn fwyaf eu twrw ynghylch dewis Diaconiaid. Dywed- odd yr hen Northman bethau y pryd hyny yr wyf wedi meddwl am danynt ganwaith, a pha fwyaf feddyliaf am danynt mwya i gyd wyf yn ei wel'd ynddynt. Dywedodd mai pan fyddai yr achos yn isel a marwaidd mewn eglwys y byddai mwyaf o dwrw ynddi am weithio blaenoriaid" ys dywedai yntau-ei bod yn hollol wahanol gyda chodi pregethwyr-fod codi pre- gethwyr, fel rheol, yn ffrwyth crefydd yr eg- lwys, ac mai ar ol adegau o ddiwygiad ar gref- ydd y byddai mwyaf o son am ddynion am fyned i bregethu, ond mai effaith adfeiliad a marweiddiad mewn crefydd oedd ysbryd I, gweithio blaenoriaid" fynychaf. Dywedai mai y dynion mwyaf digrefydd yn yr eglwys fyddai yn ymyraeth fwyaf yn y mater. Dynion am fyned i'r swydd eu hunain, neu a chyfeillion ganddynt y mynent eu cael i mewn. Ac nad oedd yr eglwysi yn gwneyd dim yn fwy dan lywodraeth ysbryd plaid, ac yn mhellach o ys- bryd crefydd na gweithio blaenoriaid-fod yr hen flaenoriaid am gael rhywrai i mewn fuasai yn fwyaf at eu llaw hwy, rhyw rai hawdd eu gwneyd yn dools yn eu dwylaw; ond fod eraill am ddewis y rhai, yn ol eu meddwl hwy, fuas- ai yn fwyaf o ddrain yn ystlysau yr hen flaen- oriaid. Ac yr oedd ganddo ryw adnod ryfedd iawn-wyddwn ni ddim cyn hyny ei bod hi yn y Beibl-I I Pwy bynag a elo i fynu i'r gwter, ac a darawo y Jubusiaid, a'r cloffion, a'r deillion, y rhai sydd gas gan enaid Dafydd hwnw fydd y llaenor." Mae y bwli mwyaf mewn eglwys yw yr un tebycaf i gael ei wneyd yn flaenor-y dyn nad oes yr un gwter yn rhy fudr ganddo fyned i fyny iddi-sydd yn barod i ruthro i bob peth -yn gosod ei hun i fyny fel amddiffynwr iawn- derau yr eglwys-ae, yn neillduol os teifl am- heuaeth ar gywirdebcyfrifon yr hen swyddogion hivnw fydd y blaenor.' Ond fod y radicals mawr yma cyn myned i'r swydd yn myned yn dories ac yn dyrants ar ol ei chael hi, ac mai y rhai sydd yn son mwyaf am ormes yw y gor- meswyr mwyaf os rhoddir hwy mewn eyfle i ormesu." Nis gallaf gofio holl sylwadau yr hen Northman, ond wrth feddwl am danynt ar ol hyny yr wyf wedi eu cael yn wirionedd per- ffaith. Os na ellir dewis diaconiaid mewn gwell ysbryd nag y gwneir yn gyffredin, gwell bod hebddynt. Ac y mae dynion yn dcliaconiaid mewn cglwysi heb i un ran o bedair o'r eglwysi hyny eu dewis—dim ond am mai hwy gafodd fwyaf o votes. Pa fodd y gellir disgwyl i ddyn gael dylanwad fel diacon mewn eglwys o 300 o aelodau pan na phleidleisiodd 45 o honynt drosto. Dywedodd gweinidog wrthyf fod un yn ddiacon yn ei eglwys ef na votiodd ond 36 drosto, er fod yr eglwys yn cyfrif dros 300. Os ydych chwi am gael diaconiaid fedr arwain yr eglwys, dylent gael beth bynag haner yr eglwys o'u plaid, ac os na cheir hyny dros neb, gwell cyhoeddi yr eleetion yn null and void; ac aros nes y daw yr eglwys yn fwy unol yn ei barn." Dyna farn Newyrth Zachry ar y pwnc, ac yr oedd yn cyhoeddi ei ddedfryd o'i gadair wellt gyda mwy o frwdfrydedd na chyffredin. Llysceninen. Ei NAI.

ETIFEDDIAETH Y FAENOL.

NODION ADA.