Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD YMADAWOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD YMADAWOL. (Parhad.) 1; Parch. H. T. Parry, Abersoob, a ddywedai na fu efe erioed o'r blaen mewn cyfarfod o'r natur yma, ac na wyddai yn sicr a allai actio yn [deilwng a'i peidio, ond os methai disgwyliai i'r gynulleidfa basio pob diffyg. Nid oedd efe yn leicio i Mr R. fyn'd i ffwrdd. Ofnai fod rhyw ddrwg yn rhyw le, ni wyddai yn sicr yn mha le yr oedd y bai; ond tybiai fod y bai hwn, fel bai yn gyffredin gyda dynion, dipyn o bob tu. Yi oedd yn amlwg fod yn gofyn bod dipyn yn ofalus am hen lanciau, ac os na roir cadwyn go drom wrth eu traed, 'does fawr o driist nad dianc ymaith fel hyn a wnant. Myn'd ymaith oedd raid i'r cyfaill gael, 'doedd dim use treio ei rwystro, gan hyny yr oedd yn dda ganddo ef (Mr P.) ei fod yn myn'd fel yr oedd. Yr oedd yn edmygu tri pheth yn neillduol, y rhai oeddynt yn amlwg yn ymadawiad ei hen gymydog. 1. Yr oedd yn ymadael a phawb yn gafael ynddo -yr eglwysi a'i wrandawyr, eglwysi a chynulleidfa- oedd y cyfundeb yn Lleyn ac Eifionydd, ei frodyr yn y weinidogaeth, ac enwadau eraill. 2. Yr oedd yn ymadael a'r achos dan ei ofal yn llwyddo. Nid cael ei yru i ffordd wedi aros i nychu yr achos mawr yr oedd. Na, yr oedd yma olwg lewyrchus. Digon o dystion wrth law-y deml newydd brydferth yma sydd newydd ei hadeiladu yn Rehoboth yma, y son am, a'r casglu at gapel newydd yn Peniel, &c. 3. Yr oedd Mr R. yn ymadael wedi enill enw da, a'i gadw yn ddilychwin. Yr oedd ganddo garictor noble, a pha ryfedd, wrth ystyried mai efe ei hun fu yn ei wneud. Dywedai Mr P. am ryw Wyddel oedd unwaith yn chwilio am le i wasanaethu. Cyfarfu a boneddwr oedd eisiau ei fath. Gofynodd y bonedd- wr am ei garictor; ar hyny, tynodd y dyn bapur o'i boced, cyd a braich,' a'i gymeriad yn ysgrifenedig arno. Wedi i'r boneddwr ei ddarllen, dywedodd,— Wel, y mae yn un noble i'w ryfeddu.' Felly y dylai fod,' meddai Pat. Pa'm,' ebai'r boneddwr. On'd fi fy hun 'sgrifenodd o,' oedd yr ateb. Felly y mae pob dyn yn gwneud ac yn ysgrifenu ei garic- tor ei hun. Bu fy mrawd yn y gymydogaeth hon am yn agos i 15 mlynedd, ac un peth mawr, heblaw pethau eraill, a wnaeth oedd cyfansoddi enw da iddo ei hun. Ac y mae wedi ei ysgrifenu ar gydwybodau ei holl gydnabod. Teimlai yn llawen fod Mr R. ar gychwyn bore dranoeth i'w wlad ac at ei bobl a goron yn sound am ei ben—' Gair da iddo gti-i baw &c.' Dymunaf hir oes o gysur a llwyddiant man i Mr R. yn ei faes newydd. Mr 0. W. Lloyd, Rhosgoch, un o swyddogion R hoboth, a siaradodd yn hynod o ddoeth, da, per teimladwy, ac i'r pwrpas. Buasai yn dda genyi allu rhoi pob gair a ddywedodd yma, ond ein gofc a ballai. Cyflwynodd Mr LI. bwrs i Mr R. yn 11 aw gallem feddwl o aur bathol Prydain Fawr, a gasg wyd trwy ffyddlondeb cyfeillion yn benaf yn ngh. mydogaeth Llaniestyn, a daeth rliyw faint o gy ydogaeth Ceidio, Hebron, a Llanengan hefyd. Rho y brawd y ribbon oedd wrth y pwrs am wddf y ne a fynai'r bobl ei anrhydeddu ac wrth eu cyfiwync darllenodd ddau englyn tarawiadol. Cyfododd Mr R. i anerch y gynulleidfa, ac i dda gan ei ddiolchgarwch em yr arwydd hon eto, at y un o'r blaen, o barch a ddangosid iddo ef. Yr oed ei deimladau yn dra drylliog, ac felly siaradai y effeithiol iawn. Prin fod neb a'i lygaid yn sychio pan y gwnai amryw sylwadau 11 awn dwyster theimlad. Yr ymadael oedd yn dryllio teirrJadai Y gair ffarwel oedd yn chwerwi mynwesau. Mr Henry Jones, Oaecanol, un o'r diaconiaid, siaradodd yn dyner, llawn teimlad, a pharch tuag a ei hen weinidog. Er ei fod o dan yr anfantais siarad ar ol pawb, yr oedd ganddo bethau oedd wee eu gadael heb eu cyffwrdcl gan bawb. Crybwyllod amryw bethau oedd yn eu hen weinidog oeddynt y deilwng i'r gweinidogion oedd yn y lie eu cofi Rhoes stars go bwysig a throm i'r gweinidogio oedd yn bresenol. Hwyraeh fod hyny yn eitha gweddus, ac yn eithaf esmwyth oddiwrtbo ef. Tei fynodd yn hynod o ddifrifol, trwy gyfeirio at y far ddiweddaf, y lie a'r pryd yn fwy ua-.thebyg y cyfa fyddem oil fel cynulleidfa gyntaf eto. Daeth llythyr i law yn ystod y cyfarfod oddi wrt y Parch. E.James, Llanhaiarn, yr hwn a ddarllen wyd gan y Cadeirydd. Llywyddid yn fedrus gan Dewi ab Gomer, a cha wyd sylwadau teilwng o sylw ganddo yn awr ac ei waith yn ystod y cyfarfod. Yn mhlith pethau erei sylwodd fod pedwar o bethau yn cyfreithloni weinidog symud- 1. Terfysg yn yr eglwys, os byddai ganddo ef lai ynddo yn wirioneddol neu dybiol. 2. Aflwyddiant;hollol am gryn amser'ar'ei weini dogaeth. 3. Ei gyflog yn rhy fach i'w gadw ef a'i deul heb fyned i ddyled. 4. Maes eangach yn agor iddo lie gallai fod y fwy defnyddiol a dedwydd. Pell oedd y Cadeirydd o feddwl fod yr un o'r t blaenaf yn cyfreithloni ymadawiad Mr R., ond ma yr olaf oedd y tebycaf. Adroddodd Dewi ab Gomer ddau benill o'i wait] ei hun. Cyn ymadael, canwyd yn effeithiol— 'Ffarwel gyfeillion anwyl iawn,' &c., a gweddiodd Mr W. Daniel yn gyfaddas i'r am sjylchiad. u Grobeithiwn y bydd y cyfeillion yn Llanon, &c mor barchus o'u gweinidog newydd ag ydyw y cyf eillion o'u hen weinidog. WALGAMUS.

O'R TWR LLECHI.

[No title]

NODION ADA.