Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
CYFARFOD YMADAWOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD YMADAWOL. (Parhad.) 1; Parch. H. T. Parry, Abersoob, a ddywedai na fu efe erioed o'r blaen mewn cyfarfod o'r natur yma, ac na wyddai yn sicr a allai actio yn [deilwng a'i peidio, ond os methai disgwyliai i'r gynulleidfa basio pob diffyg. Nid oedd efe yn leicio i Mr R. fyn'd i ffwrdd. Ofnai fod rhyw ddrwg yn rhyw le, ni wyddai yn sicr yn mha le yr oedd y bai; ond tybiai fod y bai hwn, fel bai yn gyffredin gyda dynion, dipyn o bob tu. Yi oedd yn amlwg fod yn gofyn bod dipyn yn ofalus am hen lanciau, ac os na roir cadwyn go drom wrth eu traed, 'does fawr o driist nad dianc ymaith fel hyn a wnant. Myn'd ymaith oedd raid i'r cyfaill gael, 'doedd dim use treio ei rwystro, gan hyny yr oedd yn dda ganddo ef (Mr P.) ei fod yn myn'd fel yr oedd. Yr oedd yn edmygu tri pheth yn neillduol, y rhai oeddynt yn amlwg yn ymadawiad ei hen gymydog. 1. Yr oedd yn ymadael a phawb yn gafael ynddo -yr eglwysi a'i wrandawyr, eglwysi a chynulleidfa- oedd y cyfundeb yn Lleyn ac Eifionydd, ei frodyr yn y weinidogaeth, ac enwadau eraill. 2. Yr oedd yn ymadael a'r achos dan ei ofal yn llwyddo. Nid cael ei yru i ffordd wedi aros i nychu yr achos mawr yr oedd. Na, yr oedd yma olwg lewyrchus. Digon o dystion wrth law-y deml newydd brydferth yma sydd newydd ei hadeiladu yn Rehoboth yma, y son am, a'r casglu at gapel newydd yn Peniel, &c. 3. Yr oedd Mr R. yn ymadael wedi enill enw da, a'i gadw yn ddilychwin. Yr oedd ganddo garictor noble, a pha ryfedd, wrth ystyried mai efe ei hun fu yn ei wneud. Dywedai Mr P. am ryw Wyddel oedd unwaith yn chwilio am le i wasanaethu. Cyfarfu a boneddwr oedd eisiau ei fath. Gofynodd y bonedd- wr am ei garictor; ar hyny, tynodd y dyn bapur o'i boced, cyd a braich,' a'i gymeriad yn ysgrifenedig arno. Wedi i'r boneddwr ei ddarllen, dywedodd,— Wel, y mae yn un noble i'w ryfeddu.' Felly y dylai fod,' meddai Pat. Pa'm,' ebai'r boneddwr. On'd fi fy hun 'sgrifenodd o,' oedd yr ateb. Felly y mae pob dyn yn gwneud ac yn ysgrifenu ei garic- tor ei hun. Bu fy mrawd yn y gymydogaeth hon am yn agos i 15 mlynedd, ac un peth mawr, heblaw pethau eraill, a wnaeth oedd cyfansoddi enw da iddo ei hun. Ac y mae wedi ei ysgrifenu ar gydwybodau ei holl gydnabod. Teimlai yn llawen fod Mr R. ar gychwyn bore dranoeth i'w wlad ac at ei bobl a goron yn sound am ei ben—' Gair da iddo gti-i baw &c.' Dymunaf hir oes o gysur a llwyddiant man i Mr R. yn ei faes newydd. Mr 0. W. Lloyd, Rhosgoch, un o swyddogion R hoboth, a siaradodd yn hynod o ddoeth, da, per teimladwy, ac i'r pwrpas. Buasai yn dda genyi allu rhoi pob gair a ddywedodd yma, ond ein gofc a ballai. Cyflwynodd Mr LI. bwrs i Mr R. yn 11 aw gallem feddwl o aur bathol Prydain Fawr, a gasg wyd trwy ffyddlondeb cyfeillion yn benaf yn ngh. mydogaeth Llaniestyn, a daeth rliyw faint o gy ydogaeth Ceidio, Hebron, a Llanengan hefyd. Rho y brawd y ribbon oedd wrth y pwrs am wddf y ne a fynai'r bobl ei anrhydeddu ac wrth eu cyfiwync darllenodd ddau englyn tarawiadol. Cyfododd Mr R. i anerch y gynulleidfa, ac i dda gan ei ddiolchgarwch em yr arwydd hon eto, at y un o'r blaen, o barch a ddangosid iddo ef. Yr oed ei deimladau yn dra drylliog, ac felly siaradai y effeithiol iawn. Prin fod neb a'i lygaid yn sychio pan y gwnai amryw sylwadau 11 awn dwyster theimlad. Yr ymadael oedd yn dryllio teirrJadai Y gair ffarwel oedd yn chwerwi mynwesau. Mr Henry Jones, Oaecanol, un o'r diaconiaid, siaradodd yn dyner, llawn teimlad, a pharch tuag a ei hen weinidog. Er ei fod o dan yr anfantais siarad ar ol pawb, yr oedd ganddo bethau oedd wee eu gadael heb eu cyffwrdcl gan bawb. Crybwyllod amryw bethau oedd yn eu hen weinidog oeddynt y deilwng i'r gweinidogion oedd yn y lie eu cofi Rhoes stars go bwysig a throm i'r gweinidogio oedd yn bresenol. Hwyraeh fod hyny yn eitha gweddus, ac yn eithaf esmwyth oddiwrtbo ef. Tei fynodd yn hynod o ddifrifol, trwy gyfeirio at y far ddiweddaf, y lie a'r pryd yn fwy ua-.thebyg y cyfa fyddem oil fel cynulleidfa gyntaf eto. Daeth llythyr i law yn ystod y cyfarfod oddi wrt y Parch. E.James, Llanhaiarn, yr hwn a ddarllen wyd gan y Cadeirydd. Llywyddid yn fedrus gan Dewi ab Gomer, a cha wyd sylwadau teilwng o sylw ganddo yn awr ac ei waith yn ystod y cyfarfod. Yn mhlith pethau erei sylwodd fod pedwar o bethau yn cyfreithloni weinidog symud- 1. Terfysg yn yr eglwys, os byddai ganddo ef lai ynddo yn wirioneddol neu dybiol. 2. Aflwyddiant;hollol am gryn amser'ar'ei weini dogaeth. 3. Ei gyflog yn rhy fach i'w gadw ef a'i deul heb fyned i ddyled. 4. Maes eangach yn agor iddo lie gallai fod y fwy defnyddiol a dedwydd. Pell oedd y Cadeirydd o feddwl fod yr un o'r t blaenaf yn cyfreithloni ymadawiad Mr R., ond ma yr olaf oedd y tebycaf. Adroddodd Dewi ab Gomer ddau benill o'i wait] ei hun. Cyn ymadael, canwyd yn effeithiol— 'Ffarwel gyfeillion anwyl iawn,' &c., a gweddiodd Mr W. Daniel yn gyfaddas i'r am sjylchiad. u Grobeithiwn y bydd y cyfeillion yn Llanon, &c mor barchus o'u gweinidog newydd ag ydyw y cyf eillion o'u hen weinidog. WALGAMUS.
O'R TWR LLECHI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
O'R TWR LLECHI. Nos SADWRN. Yr ydych yn eithaf hysbys mai pobl hoff lawn o basio barn ar bob peth yw preswylwyr y twr' yma, ac yn mhlith pethau eraill sydd wedi myned o dan eu llathen, mae'r TYST, ac wedi ei chwilio a'i fesur yn fanwl. Y maent yn ei gael, wrth ei gydmaru ag eraill, ynllawer lawn rhatach a givell, fel y prawf yr orders ych- ^anegol sydd yn parhau i ddod oddiyma am dano. Mae'r wisg yn hardd iawn—yn llawer lawn gwell na'r hen. Byddwn yn clywed y teilwriaid yma yn ami yn canmawl eu bod yn g Wneyd dillad yn ol y ffasiynau diweddaraf. a gellwch chwithau wneyd yr un peth. Waeth pa un a'i yn Paris neu Lundain y bo wedi ei Sychwyn, ei gael yn ol y ffasiwn yw y pwnc. -^a-e'r papur yn gwella hefyd yn fawr iawn; o unrhyw gyhoeddiad. Llwyddiant ictdo. Ond mae'n debyg mai ychydig o hanes yr yn sydd yn pasio oddifewn i'r twr' fyddai f wyaf derbyniol genych na dim arall. Mae yma lawer iawn o bethau pwysig yn pasio oddi iddo o bryd i bryd. Byddwn yn cael cyf- rfodydd cystadleuol; eisteddfodau; darlith- (?u' cyngherddau; cyfarfodydd pregetbu; ^araweiniau; ymrafaelion a chlybiau adeiladu; yn eu tro cewch ycbydig ar y naill a'r llall o pethau hyn. Mae digwyddiadau anhyfryd cymeryd lie ynglyn a'r olaf o'r pethau a enWyd; a lluaws mawr o bobl ddiniwed a am ar yn gorfod dioddef. Rhai wedi bod all, ddeugain mlynedd yn diwyd hel er gallu oarw X11 eu nyth,' yn gorfod edrych ar lafur vn myned i rywle—rhywle I a hwythau „ S°r^°d edrych i dywyllwch tlodi! Bydd y.1?1 air yn awr ac yn y man er dangos i svdil ^.y TYST rai o'r gweithredoedd duon °s 2 lr** Pas*° oddifewn i'r twr;' ac er codi, mnvi! •' yc^ydig o wrid i wynebau y rhai sydd aiarnaidd yn eu cyflawni. Yr wythnos ddiweddaf, bu gwr o'r enw Whittington, alias Egwisyn, yma yn traddodi darlith ar Yr Eglwys yn Nghymru." Yn ol y testyn a'r ffaith fod y darlithydd yn ymneill- duwr, disgwilid mai darlith oddiar y safle ym- neillduol fuasai, ac y cawsid rhyw ychydig, beth bynag, o ddynocthiad ar Esgobyddiaetb yn Nghymru. Dan y gredinaeth yma gofal- odd yr eglwyswyr am ryw ddieitlirddyn i ddod yno i'w hamddiffyn; ond mor fuan ag y canfu y darlithydd hyny newidiodd ei don, a chaws- om :-amddiffyniad i'r Llyfr Gweddi, gan ei os- od yn nesaf i'r Beibl; condemniai y Ddwy Fil, gan haeru eu bod wedi cael eithaf cyfiawnder; nid oedd yn credu y dadgysylltir yr Eglwys yn Nghymru am amser maitn gan fod yr eglwys- wyr yn cynyddu ac ymneillduwyr yn lleihau; mewn gair cawsom yr hyn ddisgwiliasem oddi- wrth yr eglwyswr mwyaf penboeth; a hyny gan un sydd wedi bod yn aelod gyda'r Wesley- aid a'r Annibynwyr, ac wedi ei drochi gyda'r Bedyddwyr, ond heb ei dderbyn yn aelod a mynai Gweirydd ei fod yn awr yn ceisio gwneyd ei wely yn. yr eglwys. Wedi myned allan dy- wedai un o'r gynulleidfa (yr hon oedd yn deneu iawn) wrth y darlithydd, ei fod yn falchach o ardal Bethesda y noswaith hono nag y bu erioed, am na chaed ond haner cant o ffyliaid o'i mhewn." Gobeithio na bydd cymaint o ddrain yn y gwely nesaf wna y brawd iddo ei hun. Nos Wener, wythnos i neithiwr, caed cyfar- fod canu yn nghapel Carmel, i fyned trwy am- ryw o'r tonau o Lyfr Stephen a Jones. Yr oedd yno saith o gorau, sef Bangor, Bethlehem, Carmel; Treflys; Saron; Bethmaca ac Am- ana. Yr oedd yn un o'r cyfarfodydd goreu gafwyd eto. Y mae rhyw fyn'd rhyfedd yn y llyfr yma. Y mae yn cael ei ddefnyddio yn mhob cynulleidfa yn yr ardal ond Bethesda yn unig. Cafwyd anerchiadau yn y cyfarfod gan y Parchn. E. Stephen; W. Griffith; W. Nicholson, a Mr. W. Davies, Bethesda. Da gwel'd canu y cysegr yn cael y fath sylw, a'r fath ymdrech yn cael ei roi tuag at ei wneyd yn deilwng o'r enw "canu cynulleidfaol," ac nid rhyw ganu fel sydd mewn rhai manau, a digon o oerder ynddo i rewi'r Ogwen yn Mehefin. GWYLIEDYDD.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
INTERESTING EXPERIMENT.—Place on the upper bs of a grate, with the heads projecting about one inc inwards, some ordinary lucifers-in a few momeiil they ignite. Then, in the same position, place a few c the Safety Matches of Bryant and May (which ignii only on the box), and it will be found that they wE remain for hours-in fact, until the wood becomes litel ally charred-without taking fire. We look on this a a singularly interesting confirmation of the safety c the new match. Care must be taken in both cases t avoid actual contact with flame. GWELLIIAD RIIYFEDDOL ODDIWRTII BESWCH DRWY GTMEEYI POWELL'S BALSAM OF ANISEED.—" Netley" Llestr ei Maw liydi, "Wick, G-ogledd-ddwyreiniol Ysgotland, 7fed o Fedi 1863. Anwyl Syr—" Gan i mi gael fy mlino yn dost gan j Pcsw ch, yr hyn a achosodd i mi golli llawer noson o gwsg a dyddiau blinedig, anogwyd fi gan ei Arglwyddiaeth Iarll Caithness, i gymerydeich Balsamo Aniseed gwerthfawr chwi, agallaf eich sicrhau fod y dogn cyntaf wedi rhoddi i mi es- mwythad yn ddioed, hyd yn nod hel) fy ngorfodi i roddi fy ngwahanol ddyledswyddau heibio; cefais weilhad trwyadl ar ol cymeryd cynwysiad y hotel gyntaf, gan hyny y mae genyf yr hyder mwyaf i'w gymeradwyo i'r miloedd. Yr eiddoch ya barchus, "VV. LINZELL, II.M.U-.B,, Ketley.' Mr Powell." Gellir cael Balsam o Aniseed Powell gan yr holl ffferyllwyr. Mewn boteli, am Is ljC, a 2s 3e. Ystordy, 16, Blackfriara Iload, London. Gofynwch am Balsam o Aniseed Powell. HOLLOWAY'S PILLS.-Incligestion, Btimash and ijiver Com- plaints.—Persons suffering from any derangements of th- liver, stumoch, or the organs of the digestion should have recourse to Holloway's Pills, as there is no medicine feno wfl that acts on these particular complaints with such cei tain success. Its peculiar properties strengthen the stumoch, in- crease the appetite and rouse the sluggish liver. or bowel complaints it is invaluable, as it removes every primary de- rargment, thereby restoring the patient to the soundest health and strength. These preparations may be s.ed at all times and in all climates by persons afle^a by Dilio^ness, nausea, or disordered liver: for Aatule^cya^ thev are specifics. Indeed no ailment 01 tne a.o0esuve organs can long resist their purifying and corrective powers. Those Ladies who have not yet used the Glenfielrl Starei are respectfully solicited to give a trial, and carefully follow out the directions printed on every package. It is rathe: more difficult to make than other Starches, but when this n overcome, they will say, like the Queen's Laundress, that it ii the finest Starch they ever used. 0 f
NODION ADA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
'hanfon i lefydd.' Er fod ysgolion dyddiol rfiad wedi eu sefydlu weithian er's blynyddau yn mhob cymydogaeth bron, etto ychydig mewn pymhariaeth o ferched ieuaingc sydd yn alluog 1 ddarllen ac ysgrifenu. Mae yn ofidus hefyd gweled genethod crynon ac iachus yn aros gar- tref i bwyso ar eu rhieni tlodion. Os ceir hwy, gyda chryn drafferth, i fyned i wasanaeth, ychydig amser a arosant, a gwelir hwy drachefn a thrachefn yn dychwelyd gartref, er anghysur a cholled i'w rhieni. Gormod o feiddgarwch Hiewn genethod ydyw ymwisgo mewn hetiau a phlu mentyll meinion, gynau sidan, menyg kid, esgidiau o patent leather, gyda chlust-dlysau ^awrion bynod, pan mae eu rbieni yn wir dlodion, ac efallai yn derbyn elusen plwyfol. Rhaid i enethod diles fel hyn gael bwyd a dillad, serch i'w mamau gwirion druain fyned i ddyled fn danynt. Gan eu bod beb ddim i'w wneud, ant o dy i dy i chwedleua, arosant allan yn ^"wyr, a'r canlyniad ydyw plant anghyfreith- lawn, a myned i'r tlotty i'w geni, neu bydd iddynt mewn gwarth briodi bogiau anaddfed mewn barn, ac o arferion gwastraffus, megis snaocio ac yfed, a lluosogant, nid oes drefn gartref gyda'r wraig, ant yn gaethion i'r ddiod, collant eu hiechyd, ac ant at y plwyf am gym- horth i'r teulu lluosog. Byrheir yr oes drwy anghymedroldeb, ac yna a'r teuluoedd i bwyso yn wastadol ar y plwyf. Peth sydd yn digwydd bron bob wythnos ydyw hyn; ond mae eng- reifftiau rhagorol i'r gwrthwyneb. Ceir geneth- od llawer o rieni tlodion yn myned i'r trefi Kiawrion, ac yn enill parch ac ymddiried yn eu Heoedd, enillant gyflogau da, a sicrhant serch eu meistresi, a deuant yn gynorthwy i'w hen dadau a mamau mewn henaint a phenllwydni. Yn gyffredin, priodant yn dda, a gwnant 'Wragedd gofalus, ymgeleddgar, a serchus. Y mae llawer o rieni ynfyd yn barod i wgu ar y rhai a'u cynghorant i anfon eu plant allan i wasanaethn, fel rhai ymyrgar; ond y gwir yw, mae pobl gynil, ofalus, a diwyd yn gorfod suffro oherwydd y llu diog, diles, diegwyddor, a gwas- traffus sydd yn chwyddo y trethi a dynir o log- ellau pobl ddarbodus fel f' ewyth'. Da chwi, rjeni, dygwch eich plant i fyny yn grefyddol, rhoddwch addysg iddynt byd ag y gallwch; ac os gwnewch byn, bydd gobaith am well oes, dedwyddach hen bobl, cartrefi mwy cysurus, a Uai o dlodi, meddwdod, ac aniweirdeb yn ein gwlad. ADA.