Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
FFRAINC.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFRAINC. Prif ddigwyddiad yr wythnos ydoedd agoriad y senedd, ac araeth yr Ymerawdwr. Edrychir ar y cyfnod presenol fel math o grists yn llywodraeth y wlad hon, a theimlid cryn bryder yn nghylch y modd y cyfarfyddai Napoleon a'r amgylchiad pwysig. Yr oedd llygaid holl Ewrop arno, a chlust holl Ewrop yn gwrando ar bob gair a ddeuai allan o'i enau. Dyweder a fyner am y dyn hwn, mae wedi rhoddi profion dro ar ol tro ei fod yn gwybod pa beth i siarad a pha bryd i siarad. Ryw fodd neu gilydd nidywyndangos hanercymaint o ddoethineb, a medr, a phenderfyniad yn ei weithredoedd ag ydyw yn ei areithiau. Traddododd araeth gampus ddydd Llun diweddaf. Nid rhyw ysgrud sych o beth yn disgyn fel telpyn o ia dros ei wefusau, fel yr areithiau a roddir yn ngenau ein Grasusaf Frenhines ydoedd, ond darn o hyawdledd gorphenedig, yn cael ei dra- ddodi gyda holl rym a bywiogrwydd dyn sydd yn feistr yn y gelfyddyd. Derbyniwyd y brawddegau cyntaf o honi gyda banllefau o gymeradwyaeth, yr hyn a ddangosai ei fod wedi iawn fesur sefyllfa pethau, a'i fod yn enill cydymdeimlad a chymerad- wyaeth lied gyffredinol. Y mae Ffrainc," meddai "yn ehwenych iawndrefn, a rhyddid gydag iawn- drefn. Byddaf fi yn atebol am iawndrefn. Cyn- orth wyweh fi, foneddigion, i gad w rhyddid; a gadewch i ni wrth wneyd hyny ymgadw yr un mor bell oddi- wrth yr hen draddodiada u ag oddi wrth gyfundraethall chwyldroadawl. Rhwng y rhai a gymerant amynt gadw pob peth heb gyfnewidiad, a'r rhai a geisiant ddymchwelyd pob peth heb arbed; y mae genym dir gogoneddus i sefyll arno." Cyfeiriodd at y mesur diwygiadol a gyhoeddodd yn mis Medi di- weddaf, a dywedai ei fod yn bwriadu i hwnw fod yn ddechreuad cyfnod newydd o gytundeb a myn- ediant. Crybwyllai am y gwahanol fesurau oedd i'w dwyn yn mlaen, yn mhlith pa rai yr oedd yn rhoddi ychwaneg o allu ac annibyniaeth i'r cyng- horau trefol. Dadleuai dros barhad rhyddid mas- nachol. Edrychai gyda boddhad ar sefyllfa arianol yr ymerodraeth, ac ar yr heddwch a fwynheir yn ei pherthynas a gwledydd tramor. Gwnaeth gyfeiriad hyawdl at y gorchestion a gyflawnwyd yn ddi- weddar, a dywedai:—"Pa gwynion bynag a ddygir yn erbyn y ganrif hon, y mae genym yn sicr lawer o resymau dros fod yn falch o honi. Dyma y Byd Newydd wedi diddymu caethwasiaeth-Rwsia wedi rhyddhau ei chaethion-Lloegr wedi gwneyd cyf- iawnder a'r Iwerddon-a gwledydd enwog Mor y Canoldir fel yn dwyn i'n cof eu hardderchawgrwydd cyntefig; ac oddiwrth gynulliad yr Esgobion Cath- olicaidd yn Rhufain, nis gallwn lai na disgwyl ffrwyth doethineb a heddweh. Y mae cynydd celf- yddyd yn dyfod a chenhedloedd yn nes at eu gilydd, Tra y mae yr Amerig yn uno y Pacific a'r Atlantic Ocean gyda rheilffordd tair mil o filltiroedd o hyd, y mae eyfoeth a deall yn ymuno i gysylltu gwled- ydd mwyaf pellenig y ddaear a ebysylltiadau pell- ebrol. Y mae Ffrainc ac Itali yn mron ag ysgwyd dwylaw a'u gilydd drwy dunnel yr Alps, ac y mae dyfroedd Mor y Canoldir a'r Mor Coch yn cymysgu eisioes trwy gyfrwng y Suez Canal. Cynrychiolwyd holl Ewrop yn yr Aipht ar agoriad yr anturiaeth enfawr hono, ac os nad yw yr Ymerodres yma heddyw gyda ni, y rheswm am hyny yw, fy mod yn awydd- ns i'w phresenoldeb yn y wlad hono-lle bu ein harfau gynt yn fuddugoliaethus—i ddwyn tystiol- aeth dros gydymdeimlad Ffrainc a gwaith sydd yn ddyledus i ddyfalbarhad ac athrylith Ffrancwr." Terfynwyd yr araeth yn nghanol cymeradwyaeth mwyaf brwdfrydig yr assembly, a thystir na chafodd yr Ymerawdwr erioed well derbyniad.
LLYTHYR LERPWL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR LERPWL. BOREU MERCHEK. Gan na chyhoeddwyd fy llythyr yr wythnos ddi- weddaf waeth ei adael bellach, 'ac mi ysgrifenaf dipyn rhagor yr wythnos hon. Y peth cyntaf raid i mi wneud ydyw coffa am De Parti mawr y Tabernacl, Netherfield Road-Y Tea Party fel y geilw y gweinidog ef, ac yn ddigon pri- odol, oblegid y mae wedi dal yn ei boblogrwydd am ddeuddeg neu bymtheg mlynedd, ac yr oedd eleni mor boblogaidd ag erioed. Eisteddodd o 1000 i 1100 meddir wrth y byrddau yn yr ystafell ardderchog lie y gall o leiaf 450 gydeistedd i yfed Te. Ni bu erioed well trefn a thawelwch na'r waith hon. Ar ol Te, cafwyd cyfarfod yn y capel dan lywyddiaeth y gweinidog (y Parch. J. Thomas). Wedi llawen- gyfarch y dorf fawr am en presenoldeb, a diolch yn gynes iddynt am eu cefnogaeth wastadol, cafwyd araeth humorous a 'miniog iawn gan y Parch. W. Roberts. Dilyirwyd ef gan y Parch. Owen Jones, Bootle, gyda'i ffraethder a'i genius arferol. Rhodd- odd P. M. Williams, Ysw., araeth ardderchog yn Seisnig. Canlynid ef gan y Parch. A. J. Parry mewn anerchiad ymarferol ar destyn gwir angen- rheidiol. Dilynwyd ef yn ol y craffder a roddwyd iddo' gan y Parch. J. Hughes, a dywedodd y Parch. N. Stephens ychydig yn fyr ac i'r pwrpas. Ni chafwyd erioed well cyfarfod yn ol barn pawb oedd yn bresenol. Mae swn lluaws o De Parties, a Dar- lithiaii, a Chyngherddau yn mlaen. Bu y ddau aelod Toriaidd dros y dref, Mr Graves ac Arglwydd Sandon, yn anerch eu hetholwyr yma nos Fercher. Yr oedd yno gynulliad lluosog, a chyf- arfod brwdfrydig; ond buasai yn llawer mwy bon- eddigaidd ynddynt i siarad yn fwy parchus am y weinyddiaeth a'r blaid ryddfrydig. Yr oedd gwa- haniaeth dirfawr yn nhon ac yspryd y cyfarfod rhagor y cyfarfod yr oedd Mr Rathbone ynddo. Bu Bwrdd Cenhadol y Methodistiaid yn eistedd mewn pwyllgorau yma nos Fawrth a dydd Mercher; ac yr oedd cynrychiolwyr o'r rhan fwyaf o siroedd Cymru yn bresenol. Ymddengys fod y genhadaeth fechan hon yn rhoddi cryn lawer o drafferth i'r Methodistiaid-amryw o'r cenhadon wedi troi allan yn siomedig-ac y maent yn awr yn penderfynu galw un yn ol. Mae yn ofynol cael dynion o syn- iadau moesol uchel iawn i allu dal heb ymollwng yn nghanol y fath brofedigaethau a lie nad oes ond ychydig ddynion crefyddol i gyfeillachu a hwy. Crybwyllais yn un o'm llythyrau am Mr R. O. Evans, yr ymgeisydd aflwyddianus am gynrychiol- aeth Everton Ward yn y cyngor trefol. Anfonwyd i mi o'r swyddfa lythyr maith oddiwrth gyfaill yn y dref yma gyda dymuniad am i mi roddi cymaint ag a allaswn o hono yn fy llythyr. Wedi talu teyrnged uchel i Mr Councillor W. Williams am ei wasanaeth dirfawr i'r dref, dywed am Mr Evans,— Pedair blynedd yn ol, etholwyd ef gyda llawer o fwyafrif ar ei gydymgeiswyr i fod yn Guardian ar ,,y y West Derby Board. Dewiswyd ef ar amryw bwyllgorau cysylltiol a'r Bwrdd, ac wedi iddo was- anaethu am ddwy flynedd dewiswyd ef gan y Bwrdd ei hun yn Gadeirydd, yr hyn ag oedd yn beth ang- hyffredin. Anfynych yr etholir aelod i'r swydd yma heb iddo fod yn aelod am wyth neu naw mlynedd, a gwyddom am rai yn aelodau o'r cyngor am bymtheg mlynedd ac heb eu dewis o gwbl. Llanwodd Mr Evans ei le yn deilwng, ac yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth gwahoddwyd ef i giniaw a barotowyd yn yr Adelphi Hotel gan drethdalwyr Kirkdale, yu gyfansoddedig o Whigs a Thories, a chyflwynwyd iddo anerchiad yn nghyda phleidlais o ymddiried ynddo. Rhyddfrydwr trwyadl yw Mr Evans o ran ei eg- wyddorion, fel y gwyr pawb, ac efe oedd Cadeirydd Mri Gladstone a Grenfell, a Mri Rathbone a Massey, yn Kirkdale, ac ni adawodd gareg heb ei throi. Cafodd gymhellion lawer gwaith i ddyfod allan dros wahanol barthau ein tref cyn yn awr, ond bob amser yn nacau cydsynio, ond tynwyd ef allan y tro hwn yn hollol yn erbyn ei ewyllys, a hyny ar yr unfed- awr-ar-ddeg, ond gwnaed gorchestwaith mewn byr amser. Dydd Gwener yn hwyr y cydsyniodd a'r cais, a dydd yr etholiad (y Llun canlynol), pleidleis- iodd i Mr Evans 2,317, ac i Mr Pearson, ei wrthym- geisydd, 2,675 felly canfyddir nad yw Mr Pearson, yr hwn ag oedd ganddo bob mantais ar Mr Evans, ddim wedi gwneud y fath orchestwaith. Yr oedd anerchiad Mr Pearson ar y gwaliau ar hyd a lied y dref er's tair wythnos, ond ni ddangoswyd anerchiad Mr Evans hyd boreu dydd Sadwrn; o ganlyniad nid oedd ond un diwrnod i wneud y gwaith, ond yr oedd yr ochr arall yn gweithio eu hegni, ac nid oedd y Sabboth yn rhy gysegredig ganddynt ato. Drwg genyf ddweyd na ddarfu pob Cymro bleid- leisio dros Mr Evans. Yr oedd yma ambell un y buasai pawb yn disgwyl angen ymddygiad oddi- wrthynt, yn enwedig un dyn sydd yn proffesu gyda yr un enwad o grefyddwyr, a chanddo fab yn preg- ethu gyda'r un corph yr oedd ymddygiad hwn yn hollol annynol heb son am frawdol. Yr oedd y nos Sadwrn hwnw yn fwy amlwg na neb arall ar ddyf- odiad Mr Pearson, gwrthwynebydd Mr Evans, i'w Committee Room cyfarfyddai ef a thynai ei het ac ymgrymai i'r boneddwr, gan ddweyd,—Y mae eich ufudd was at eich gwasanaeth ddyddLlun, a gwna ei oreu tuag at eich ail ethol i'r Council. Nid llawer allasai y brawd druan wneud dros y bonedd- wr, oblegid dyma engraifft o'i ddylanwad :—Daeth allan yn ymgeisydd i gynrychioli Kirkdale yn y Board of Guardians, ond druan o hono y swm an- ferth (!) a bleidleisiodd iddo oedd 38, pan y pleid- leisiodd i Mr R. O. Evans 800 ac ychwaneg. Dywedodd Mr Pearson ei fod yn talu treth o rhyw beth fel mil o bunau yn y flwyddyn, ac na allai esgeuluso lies ei etholwyr heb esgeuluso ei les ei hun; a chymeradwywyd ef yn hyny gan Mr Whitley. Ond y gwirionedd yw nad yw y dyn yn talu treth o gwbl yn Kirkdale, na'i enw ar y gofres. A oedd yn bosibl i'r dynion fod yn an- wybodus o'r ffaith yma ? Nac oeddynt, meddaf. Dywedodd Mr Whitley fod dyfodiad Mr Evans allan yn erbyn Mr Pearson yn ei brofi yn ang- hyson ag ef ei hun, oblegid ychydig wythnosau yn ol llywyddai Mr Evans mewn cyfarfod o dreth- dalwyr Kirkdale yn mha un yr oedd ef (Mr W.) a Mr Pearson yn bresenol, lie y cynhygiwyd pleid- lais o ymddiried ynddo ef a Mr P. am eu gwasan- aeth. Ond camgymeriad yw hyn, cynhygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch y cyfarfod i'r ddau am eu presenoldeb y noswaith hono, ac nid pleidlais o ymddiried. Onid priodol fuasai enwi y cynrych- iolwr arall, Mr Bland, oedd wedi gwneud yr un gwasanaeth os nad mwy na'r ddau. Aeth Mr Whitley yn mlaen a dywedodd fod Mr Evans yn honi ei gynhildeb yn y Bwrdd. Yr oedd ef (Mr W.) yn myned i brofi Mr E. yn aelod gwastraffus —fod Workhouse Mill Road wedi costio i'r plwyf 28,000p.; ac ychydig amser yn ol, cynygiai Mr E. ei gwerthu am 15,000p., a'i fod am adeiladu work- house newydd yn Walton, yr hwn a gostiai 40,000p. Ond dyma'r ffaith, anfonodd y select vestry at y West Derby Board of Guardians, gan ofyn pris y ty. Dy- wedodd Mr Evans na phleidleisiai i werthu y ty am lai nag 20,000p., a phenodwyd Mr Culshaw, bonedd- wr ag sydd yn adnabyddus fel architect, i roddi iddynt ei werth mor agos ag y gallai. Gwnaeth hyny, a phenderfynodd ei werth yn 19,000p. Cyn- hygiwyd i'r bwrdd gan y festri 15,000p., ond ni chydsyniwyd. Gyda golwg ar adeiladu y ty newydd yn Walton, yr oedd hwnw agos wedi ei orphen cyn etholiad Mr Evans i'r bwrdd; ond wedi ei ddewis, un o'r pethau cyntaf a wnaeth ydoedd myned i Wal- ton, lie y gwelodd fod pigdwr (spire) yn cael ei godi i uchder afreidiol. Daeth a'r peth i'r bwrdd, a char- iwyd ei benderfyniad. Nid awd yn mhellach gyda'r pigdwr. Yr effaith o hyn oedd arbed 350p. Facts are stubom things,' gentlemen. Ychwanega lawer o ffeithiau am Mr Evans sydd yn dangos ei fod y dyn ddylai gael ei ddychwelyd i'r Cyngor Trefol. Cadwed yr etholwyr eu llygaid arno hyd yr etheliad nesaf. Mae y Parch. James Owens, gweinidog parchus a phoblogaidd gyda'r Bedyddwyr Seisnig yma, wedi cydsynio a galwad eglwys Mount Pleasant, Aber- tawy. Bydd colled ar ol Mr Owens yma, y mae wedi gwneud ei fare yn y dref. Mae Abertawy yn yspeilio Llundain a Liverpool. Mawr dda i'r hen wlad gael ei phlant adref. Bu cyfarfod mawr yn Neuadd y Collegiate, Shaw Street, ynglyn a'r Permissive Bill. Daeth yno gy- nulliad Iluosog iawn. Llywyddodd Mr Patterson. Cynhygiwyd y penderfyniad cyntaf mewn araeth goeth a destlus gan Mr. J. Roberts, Hope Street. Eiliwyd ef yn alluog dros ben gan Syr Wil- fred Lawson; a chefnogwyd ef mewn araeth dan- 11yd gan Mr P. Rylands, yr aelod seneddol dros Warrington. Cynhygiwyd yr ail benderfyniad gan y Parch. O. Thomas, mewn araeth llawn o dan Cymreig. Eiliwyd ef gan y Parch. J. Jones, Kirk- dale a chefnogwyd ef gan yr Anrhydeddus S. J. Carry, o Ohio, America, un a fu yn aelod o'r Con- gress, yr hwn fel llifeiriant a ysgubai y cwbl o'i llaen. Er ei bod yn haner awr wedi naw pan dde- chreuodd, daliodd y dorf fawr yno hyd haner awr wedi deg, a mynent iddo fyned yn mlaen. Real Yankee, ond yr oedd yn deall y pwngc yn drwyadl. Siaradodd y Parch. W. M. Taylor, Bootle a Mr J. H. Raper, ac ereill; ond yr oedd wedi myned yn rhy hwyr i mi aros. Disgwyliaf gael clywed yr Americanwr eto, a bydd genyf ragor i'w ddyweyd am dano. AB OWAIN.
YSPAEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YSPAEN. Mae tipyn o ddadleu wedi, ae yn bod, yn nghylch pwy sydd i gael y goron. Deallir yn awr mai am- can llawer o'r pendefigion a gynorthwyasant y chwyldroad oedd cael Due Montpensier, brawd yn nghyfraith y frenhines, ar yr orsedd. Eraill, wedi llwyr flino ar deulu Bourbon, a fynent frenin Port- ugal, neu ynte ei frawd Don Ferando i'r frenhin- iaeth. Wedi i'r ddau hyny wrthod yr anrhydedd, troent eu llygaid drachefn i Itali, ae ymofynant am Due Genoa, nai y brenin. Mynegodd y Times y dydd o'r blaen ei fod wedi gwrthod yn benderfynol. Ond mynai yr Ysbaeniaid nad oedd dim sail i'r hys- bysiad hwnw. Arweiniodd hyn i ohebiaeth, ac ym. ddengys yn awr tu hwnt i ddadl nad ydyw y bach- genyn hwnw i'w osod ar yr orsedd. Dywedir fod General Prim yn awyddus iawn am i'r Due ieuanc gael y goron, oherwydd y caffai ef, fel Prif-weinid- og, yr awenau felly i'w law ei hun. Yr oedd Cas- tellar, yr areithiwr hyawdl, wedi bygwth traddodi araeth daranol yn erbyn teulu Breninol Itali pe cyn- ygasid Due Genoa; ac yn awr y mae Senor Magra wedi siarad yn gryf ofnadwy yn erbyn y llywodr- aeth. Da genym weled fod y wlad hon wedi ym- dawelu. Rhaid iddi gytuno yn fuan ar ryw Ifurf o lywodraeth, onide bydd elfenau anghydfod yn Bier o dori allan eto yn eu rhwysg.
TWRCI A'R AIPHT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TWRCI A'R AIPHT. Nid yw Sultan Twrci yn foddlawn i rai o weith- rediadau diweddar y Khedive, fel y gelwir Rhaglaw yr Aipht. Myn y Khedive ei ffordd ei hun gyda golwg ar godi a gwario arian y wlad, ac hefyd gyda benthyca arian. Aeth y sibrwd allan yn nghorph yr wythnos fod llongau rhyfel wedi eu hanfon o Constantinople i'r Aipht, ond nid yw hyny yn wir eto. Anfonir llythyr cryf yn cynwys cynygiad olaf y Sultan rhyw ddiwrnod o'r wythnos hon, a rhoddir i'r Khedive ddeng niwrnod i ystyried pa un a wna efe ai ufuddhau ai peidio. Dywedir y bydd cyn- rychiolwyr gwledydd eraill yn debyg o berswadio y Rhaglaw i ymostwng ac i addaw bod yn fachgen da o hyn allan. Hysbysir fod ychydig dros 17 troedfedd o ddwfr yn y Suez Canal, ac fod llongau mawrion yn gallu myned drwodd. Y dyfnder amcanedig oedd 26 troedfedd, ac ni ellir dweyd fod y gamlas yn ber- ffaith hyd nes y ceir y dyfnder hwnw-costied a gostio.