Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

y PORTHMADOG.

MERTHYR TYDFIL.

[No title]

CYLCHWYL FLYNYDDOL TALYSARN.

CADOXTON, OAERDYDD.

EBENEZER, ARFON.

LLANBERIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANBERIS. CYMDEITHAS LENYDDOL DINORWIC A LLANBE, RIS.- Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gymdeithas uchod eleni yn Gorphwysfa, capel y Trefnyddion Calfin- aidd, dydd Sadwrn, Tachwedd yr 20fed. Beirniaid —Y Parch. R. Roberts, Carneddi, Bethesda; a'r Parch. Wm. Ambrose, Porthmadog. Llywyddwyd cyfarfod y prydnawn gan y Parch. J. Jones, Sardis, a chyfarfod yr hwyr gan y Parch. D. Oliver, Llan- beris. Enillwyd y prif wobrwyon gan O. J. Owen, Muriau Gwynion, Dinorwic, Glan Padarn, Thomas Hughes, Hafod, Llanberis; P. Weldon, Llwyncelyn; W. Griffith, leu., Tyddyn Eilian; Abel Williams, Eos Ceiri. &c. Canwyd amryw ddarnau yn soniarus ac yn feistrolgar iawn yn ystod y cyfarfodydd gan Gor y Wyddfa, o dan arweiniad Wm. Owen, Blaen- yddol; a Chor Nant Padarn, o dan arweiniad Eos Ceiri. Cawsom gyfarfodydd llwyddianus iawn. Y mae un elfen yn perthyn i'r Gymdeithas hon y byddai yn werth i holl Gymdeithasau y wlad i'w hefelychu, sef arholiadau. Penodir llyfrau neillduol i'w hastudio a rhyw dair wythnos cyn y 3yfarfod blynyddol, anfona y beirniad restr o gwestiynau i'w hateb heb gynorthwy y llyfr. Cynhelir yr arhol- iadau hyn yn yr Ysgoldy Brytanaidd, o dan arolyg- iaeth personau apwyntiedig gan bwyllgor y gym- deithas. Y mae y cynllun yma wedi bod yn llwydd- ianus iawn yn ein hardal ni, ac y mae yn myned yn fwy poblogaidd bob blwyddyn. YSGOL GEEDDOEOL.—Deallwyf fod Mr W. Owen, Blaenyddol, wedi dechreu ysgol i ddysgu dynion am ieuaingc yn egwyddorion cerddoriaeth. Y mae canu yn yr ardaloedd yma mewn sefyllfa lewypchib lawn, ac y mae hyny i'w briodoli yn benaf i ymdrechion diflino Wm. Owen, Thomas Philip, ac Eos Ceiri. Gwyddom am rai manau lie y mae canu cynulleid- faol yn cael ei esgeuluso ar draul gwrteithio canu corawl. Ond er fod yma ymdrech mawr gan y gwahanol gorau i berffeithio eu hunain mewn canu cystadleuol, eto y mae y canu cynulleidfaol yn cael sylw neillduol. Tystia pawb sydd yn ymweled a'n hardal fod y canu cynulleidfaol yn rhagorol iawn. Cedwir cyfarfodydd canu bob wythnos yn neillduol i ddysgu tonau cynulleidfaol.

ABERSYCHAN, MYNWY.