Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

MORGANWG A MYNWY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MORGANWG A MYNWY. Mae y ddwy sir hyn yn hynod yn mysg siroedd Cymru. Mae eu poblogaeth yn fwy na haner poblogaeth Gwalia oil. Ac nid yn unig hyny, ond yn y cyfrifiad diweddaf a wnaed yn 1861, yr oedd cynydd y boblogaeth yn fwy nag ydoedd yn un parth arall o'r deyrnas oil. Mae mwy dair gwaith drosodd o ddynion yn byw yn swydd Lancaster a York; ond yn ol rhif y boblogaeth, yr oedd Morganwg a Mynwy wedi lluosogi yn gyflymach hyd yn nod na'r siroedd gweithfaol hyn yn Lloegr. Mae Mor- ganwg a Mynwy hefyd yn fath o artref i gan- noedd o holl siroedd ereill Cymru. Ceir rhai o Fon ac Arfon, Eflint a Meirion, Maldwyn a Dinbych, yn holl weithfaoedd mawrion a man y ddwy sir boblog yma. Ac am Geredigion a Phenfro, Caerfyrddin a Brycheiniog, mae yma filoedd lawer o'u meibion gwrol ac o'u merch- ed lion. Nythle ymfudwyr o bob cwr o Gymru yw Morganwg a Mynwy. Nid yw darllenwyr y TYST byth yn y siroedd hyn yn cwyno am fod ynddo ormod o newyddion lleol o fanau ereill—na, na, nid hanes Merthyr nac Aber- dare, Nantyglo na Dowlais, Rhymni na Phen- ycae, yr edrychir am dano gyntaf; ond hanes

%s.t ®gmai0,

Advertising

AT Y BEIRDD.

TELERAU Y ' TYST.'

DALIER S YLW.

"A SYRTH Y CYNNORTHWYWR A'R…