Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

SYLWEDYDD AR Y TWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SYLWEDYDD AR Y TWR. .At Olygwyr y TYST CYMREIG. Foneddigion,—Esgynair heddyw y prydnawn i ben y Twr i gymeryd trem ar y byd Cymreig. Byddaf weithiau, pan yn esgyn i ben fy uchelfa, yn sylwi trwy fy yspienddrych ar wahanol symudiadau cymdeithas, yn mhell; ond heddyw, nid wyf yn bwriadu tremio dros erchwynion gwlad y gan.' Ar ol sicrhau fy hun rhag cael fy chwythu yn bendra- mwnwgl gan yr ysgythrwynt, sydd yn chwiban dros gernau y Gleigod, a syrthio ar ben Gelyn Ath- rod tra yn breuddwydio, yr wyf am roddi llongyf- archiad i'r ;,Y TYST CYMREIG, yn ei ffasiwn newydd. Nid ydyw pawb a phob peth yn gwella wrth adael yr hen ffasiwn, a chymeryd at y newydd, yn fwy na hen chwaer a adwaenwn a chryn dipyn o'r yspryd I would if I could ynddi. Aeth Shanw i wisgo bonnet, fel y byddai up to the mark bid siwr; ond, wfft iddi, fe hagrodd ei hunan yn anghyffredin. Pan yn gwisgo het fel menywod y gymydogaeth, yr oedd yn cael pasio yn ddisylw gan bawb fel rhywun arall, ond pan ddaeth y bonnet allan o'r mint ar ben Shanw, fe aeth yn wrthrych erechwen ac estyniad bys oddiwrth holl blant y gy- mydogaeth. Eithr am danat ti, Mr TYST, y mae y ffasiwn newydd yn gweddu i'r dim. Y mae yr olwg arnat yn sionc, cryno, a destlus, heb ddim o'r coeg- falchedd yn agos atat. Byddi lawer iawn yn fwy hawdd i'th gadw yn lan a threfnus; oblegid y mae dy gynwysiad fel rheol yn rhy dda i'w ddistrywio. Llwyddiant mawr i ti yn dy sefyllfa ddiwygiedig. Gobeithio na chei di ddim o'th lethu dan bwys y fath ymgorpholiad o athrylith ag wyt ti yn ddweyd sydd gan dy ohebwyr, a addawsant anfon eu cyn- nyrchion i ti. Gwyddost o'r goreu fod Sylwedydd, er dydd dy enedigaeth, wedi bod yn gefnogwr di- dwyll i ti; ac wedi gwneuthur cymaint drosot yn ei gymydogaeth yn mhob ystyr a'r rhai a organmolir genyt o bosibl. Felly disgwyliaf i ti i gymeryd yn dirion a didramgwydd pob awgrymiad wyt yn gael oddiwrthyf. Ffarwel i ti yn awr, yr wyf bellach yn symud cam yn mlaen' i sylwi ar y rhai a ORTHRYMIR. Twt, meddai rhyw ddarllenydd, y mae digon wedi ei ysgrifenu a llawer gormod wedi ei siarad yn nghylch hyn eisoes. Yr wyf fi yn dweyd wrthyt, nac oes ddim. Dylasid cadw y peth yn fyw a di- orphwys o flaen yr holl fyd gwareiddiedig am fis- oedd o leiaf; oblegid y mae'n ffaith neillduol, mewn adeg neillduol—y mae mor neillduol ac annioddefol, fel y buaswn i, pe buasai y Twr yma ychydig yn uwch, yn ysgrifenu mewn llythyrenau breision ar dalcen yr Haul, fel y byddai enwau gorthrymwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn adnabyddus trwy holl gonglau y bydysawd. Digon wedi ei siarad, ac ysgrifenu, yn wir Na choelia i fawr—ysgrifener, siarader, a balder hyd nes bo gwrid yn ngwyneb y dysawdiaid erledigaethus o newydd-loer i newydd- loer, a hyny hyd nes bo yn gas gan eu henaid eu bod wedi bod yn euog o'r fath anfadwaith. Diolch i Dduw pob daioni, am fod cadwynau E. D. 0., W. R. A., G. P. E., yn fyrach na chadwynau Jezebel, Mary, Bonner, Jeffreys, &c., &c., onide buasai creu- londerau ac erlidiau y rhai blaenaf mor andwyol a'r rhai olaf. Yr un yspryd sydd yn erlid pobl yn awr am bleidleisio yn gydunol a llais cydwybod, ag oedd yn fflangellu, carcharu, lladd, a llosgi anwyliaid y nefoedd am addoli y Goruchaf, yn gydanol a llais eu cydwybodau. Dymunaf ddyweyd cyn terfynu ys- grifenu yn y ffordd hon, nad wyf ddim wedi gweled na chlywed fod neb o dirfeddianwyr Toriaidd y wlad lie saif y Twr, wedi dangos unrhyw yspryd digofus at eu tenantiaid a bleidiasant yn groes iddynt, i ddarostwng cymeriad y wlad a'r dref y goleuwyd Canwyll y Cymry,' ac y bu hen feddygon enwog Myddfai yn astudio eu physigwriaeth wreiddiol ac annilynol. Ond beth am y dioddefwyr ? I hyn y gallaf ddy- weyd fel y mae pethau yn ymddangos i mi yn awr na chant ddim o'u gadael i fod yn bel droed i'w gorthrymwyr diegwyddor; ond yn hytrach y bydd iddynt gael cydymdeimlad pawb sydd a pharch i hawliau dyn i weithredu dan argyhoeddiad barn, a rhydd-ewyllys, mewn modd mwy sylweddol na geiriau llyfn, ac echenaid ragrithiol. Y mae'n llawenydd nid bychan genyf ddeall fod y fath unol- iaeth barn, a brwdfrydedd yspryd yn cael ei amlygu yn nghynhadledd Aberystwyth. Gweithiwch chwi swyddogion y mudiad tra y mae cydymdeimlad y wlad yn effro. Taro yr haiarn, tra y mae yn boeth fel y dywedir. Y mae un peth eto a hoffwn yn fawr ei weled mewncysylltiad ahyn nad wyf wedi'i weled ermanwl sylwi yn mhob man, sef enwau y rhai a orthrymir, y lleoedd y maent yn cartrefu, yn nghyda'r anfan- teision neu y colledion y maent wedi ei gael trwy bleidleisio yn unol a'u hegwyddorion yn hytrach na phlygu fel brwyn i orchymyn teg a boneddigaidd (?) my Lords. Os ydyw y 'Rhen Ffarmwr llygadgraff yn gwybod pwy ydynt, gwnaed hyny yn hysbys can gynted ac y byddo yn gyfleus iddo. Dylasai eu henwau fod ar got a chadw am genhedlaeth a chenhedlaeth. SYLWEDYDD.

PWFFYDDIAETH ENWADOL.

Advertising

GOHEBIAETHAU.

ADDYSG.

GAIR AT Y I MEUDWY.'!