Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFESTINIOG. DAMWAIN BTFEKD.—Nos Iau, y 25ain o Tachwedd, syrthiodd darn anferth o graig, yn Chwarel y Llech- wedd, sef topyr agor, a chladdodd 2 ddyn o'r golwg yn hollol. Enw y naill ydoed William Griffith, gened- igoloSirFon; a'r Hall, Griffith Evans, brodor o Beddgelert—dau fachgen ieuange, o ddwy i bedair ar hugain oed. Gan ein bod yn llygaid-dyst o'r amgylchiad o'r dechreu i'r diwedd, dichon na fyddai yn anmhriodol i ni roddi ychydig o'r manylion. Gan ei bod yn agos i bump o'r gloch, yr oedd y rhan lu- osocaf o'r gweithwyr wedi cychwyn tuag adref. Yr oeddym wedi bad yn y lie ychydig o funydau yn ol, ond yn sefyll o fewn ychydig o latheni iddo, pan glywsom dwrw y cwymp. Cyfeiriassm ein camrau yn ol mor gyflym ag y gallem a chyn braidd i'r swn fyned o'n clustiau, clywem un o'r dynion yn gwaeddi 0 0 amryw weithiau. Gofynasom iddo pa le yr oedd. Atebodd ni gan ddyweyd, Yr wyf yn y fan yma, yn sownd o dan faen mawr.' Cyfeiriasom tuag ato yn nghanol y perygl, pryd yr oedd rhai darnau o'r graig yn disgyn yn ein hymyl. Ond nid oedd dim o hono i'w ganfod. Dyma olygfa wir ddifrifol. Canfyddem yn f uan fod fod yno ugeiniau, os nad canoedd, o dunelli o graig wedi disgyn amo ac o'i ddeutu, a rhai darnau an- ferth eu maint, ae mewn lie cyfyng. Ond wedi galw am ragor o ddynion i'n cynorthwyo, dechreuasom a gweithio a'n holl egni. Daeth ei lais yn adnabydd- us i ni yn lied fuan, a deallwyd mai Griffith Evans oedd. Nid oedd genym hyd yn hyn un amcan yn mha gyfeiriad yr oedd William Griffith; ond yr oeddym yn hollol argyhoeddedig ei fod wedi ei ladd ar y tarawiad cyntaf. Wedi nesu amryw ddarnau mawr- ion o'r graig tuag i lawr, gallasom wthio ein braich trwy agen gyfyng, a theimlo llaw Griffith Evans, a thrwy yr un lie dodasom ychydig o ddiod iddo am- ryw weithiau. Erbyn hyn, daethom i ddeall ychydig am ei sefyllfa. Yr oedd yn gorwedd ar ei hyd ar graig, a'i wyneb i lawr, a darn arall o graig oddi a rno yn cyrhaedd rai Ilatheni i bob cyfeiriad, a'r gwagle yr oedd Griffith Evans ynddo yn mesur yn y lie eangaf arno o 9 modfedd i 11, ae yn myned yn gyfyngach at y cwr pellaf; ae felly nis gallai ys- gogi dim ond ei ddwylaw a'i ben, ac ychydig ar un troed. Parodd deall ei sefyllfa fel hyn dipyn o bryder i ni, oherwydd ofnem wrth droi y meini oddeutu gyn- hyrfu yr un oedd Griffith Evans dano; a phe buasai hwnw yn gwyro i lawr un fodfedd yn ychwaneg, buasai yn gwasgu ei anadl allan o'i gorff mewn eil- iad, oherwydd credem ei fod yn pwyso o ddeuddeg i ugain tunell. Ond nid oedd dim i'w wneud ondym- roi i weithio—' Cadw einioes neu golli.' Penderfyn- asom gloddio gydag ochr y maen; ac yn y fan yma y daethom o hyd i gorff William Griffith, ond meth- asom a'i gael yn rhydd, oherwydd yr oedd rhan o hono o dan yr un maen a Griffith Evans, ac mewn lie mor gyfyng a thair modfedd. Gwedi cloddio mor ddwfn a'r graig yr oedd Griffith Evans yn gor- wedd arni, yr oeddym bellach wyneb yn wyneb ag ef. Pan gafodd oleuni ar ei sefyllfa, a chanfod rhan o gorff ei gyfaill gerllaw iddo, torodd allan i wylo am beth amser. Yr hyn a wnaethom yn nesaf oedd, gwthio coed o bob tu iddo, can dymd ag y gallem, er cadw y pwysau oddi arno os digwyddai i rywbeth gynhyrfu y maen. Yr oeddym yn teimlo erbyn hyn yn lied ddiogel na wnaem ei niweidio beth bynag. Ond pa fodd i godi ychydig ar y fath dunelli o graig, er llacio ychydig oddiar gefn y truan, dyma oedd gen- ym o'n blaen yn awr. Ond daeth i'n meddyliau am gael dau bar o ivedges coed cryfion, a'u cynio i mewn un yn mhob ochr iddo. Yr hyn oedd yn creu ofnau ynom ar y pryd yd- oedd, y buasai y maen yn codi yn un ochr, ae y buasai yr ymyl bellaf oddiwrthym yn gwyro i lawr, ac felly dynhau ar y rhan isaf o gorff y bachgen. Yr oedd yn wir gyfyng arnom yn"awr, oherwycld pe buasem yn methu yn y ffordd hon, cymerasai ddau ddiwrnod neu ychwaneg o'n hamser i glirio at yr ochr arall i'r maen. Ac nid oes arnom gy- wilydd cyfaddef wrth holl ddarllenwyr y TYST, os darfu i ni erioed, yn ystod ugain mlynedd o gref- ydda, anfon ochenaid i'r nefoedd at yr Hwn a ddichon waredu mewn cyfyngder, gwnaethum dan yr amgylchiad presenol. Pa fodd bynag, pan oedd dau o'r cyfeillion yn cynio ar y wedges, dywedodd un o honynt fod ei wedge ef wedi myned at ei phen. Gofynodd yr ysgrifenydd iddo roddi un cnoc yn ychwaneg, am ein bod ar y pryd agos a chael yn rhydd y rhan o gorff William Griffith, yr hwn oedd yn sownd o dan yr un gareg (fel y dywedasom uchod), rhodd- odd yntau ddau gyniad, ac yr eiliad hono gwaedd- odd Griffith Evans ei fod yn RHYDD. Aeth y gair fel trydan trwy gyfansoddiad yr holl edrychwyr, a chyfnewidiodd ugeiniau o wynebau yn y fan. Tynasom ef allan, ac aethom ag ef i lawr. Nid oedd wedi derbyn unrhyw niwed o bwys. ond yn nnig o herwydd ei fod wedi ei gadw yn yr ystum a nodasom am bum awr, yr oedd y.rhan isaf o'i gorff wedi oeri a stiffio yn arw. Wedi hyny, casgl- asom gorff yr ymadawedig, ae aethom ag ef allan. Yr ydym yn teimlo yn fawr dros ei berthynasau galarus. Ond y mae ein llythyr wedi myned yn anferth o faint, er nad ydym wedi rhoddi haner y manylion. Y mae yr amgylchiad wedi creu ynom hyder diysgog yn y dynion oedd yn eydweithredu a ni, fel eyfeillion gwrol a^chy wir mew J. adegau ogyf- yngder. Hefyd, os digwydd i Griffith Evans weled y llin- ellau hyn, hyderwn y bydd iddo ef ddefnyddio gweddill ei oes i wasanaethu Duw, a'i gydnabod yn ddiolchgar am y waredigaeth ryfedd agafodd megis o safn marwolaeth.Ab Dudwy.

Y FARCHNAD YD.

Y FARCHNAD ANIFEILIAID.

Family Notices

Advertising

Advertising