Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau. GENEDIGAETHAU. Tachwedd 29, yn Caerdelyn, Corwen, priod Mr Evan James, cyfreithiwr, ar fab. 30, priod y Parch. W. Foulkes, Llanymynech, .ar ferch. PRIODASAU. Tach. 24, yn eglwys St. Mary, Fflint, gan y Parch. E. Jenkins, Mr D. Morgan, a Mary Elizabeth, merch hynaf Mr Thomas Parry, Royal Oak Hotel, Fflint. 26, yn nghapel Fitzclarence Street, Liverpool, rgan y Parch. J. Hughes, Mr William Patton, Liverpool a Miss E. Hughes, Ty'nddol, Llandderfel. Rhagfyr 2, yn Ebenezer, Abertawe, gan y Parch. T. Thomas, Glandwr, Mr Thomas Richards, a Miss H. Williams, Bryn Hyfryd, Glandwr. —— 3, yn Crugybar, gan y Parch. E. 'Jones, yn mhresenoldeb y cofrestrydd, Mr W. Williams, Cefnllan, o blwyf Llanfairybryn, a. Miss Mary Evans, Cwmgog- erddan-isaf, o blwyf Cayo. Iechyd a llwyddiant i'r par ieuanc. 5, yn nghapel Bethania, Dowlais, gan y Parch. J. Evans, gweinidog y lie, Sergeant J. Davies, a. Mrs Elizabeth Roberts-y ddau o Dowlais. 10, yn nghapel Park Road, Liverpool, trwy drwydded, gan y Parch. N. Stephens, Mr William Hughes, Manchester House, Bea-umaris, tt Miss Mar- garet Roberts, merch hynaf Cadben Roberts, Liver- pool, gynt o Beaumaris. MARWOLAETHAU. Tachwedd 29, yn 66 (oed, yn dra sydyn, Mr William Davies, arolygwr y Gorwydd Colliery. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol yn nghladdfa y teulu yn Llangenech. Yr oedd wedi ymddyrchafu i safle uchel -ac yn gymeriad ar ei ben ei hun. Yr oedd yn ddir- westwr selog, ac yn berffaith ddifalchder yn ei holl ymddygiadau. Ni chai neb yfed dafn o ddiod feddwol yn agos i'r gwaith-a.buasai yn berygl i neb anturio gwneud y fath beth. Y mae caniatau i ddiorJydd meddwol i gael yfed oddeutu y gwaith wedi bod yn ddistryw os nad y-a ddamnedigaeth i'r meistr, y gwaith, a'r gweithwyr. Gobeithiwn y bydd i feistri ein gweith- iau osod eu gwynebau a'u hawdurdod yn erbyn yr ar- feriad felldigedig fel ein hen gyfaill ymadawedig. Bydded yr Arglwydd yn dirion wrth y weddw a'i phlant. 30, Martha, anwyl briod Mr Ebenezer Pugh, Penmaencanol, ger Dolgellau, yn 47 oed. Dyoddefodd gystudd am hir amser yn hynod dawel a dirwguach, ond yr oedd ei phoen a'i gofid wedi mwyhau i'r fath raddau erbyn y diwedd fel y dymunai farw yn hytrach na byw. Gadawodd briod a thri o blant i alaru ar ei hoi. Rhagfyr 1, yn 70 oed, priod Mr Thomas Thomas, Minor Street, Liverpool, gynt o Lansantffraid yn Me- chain. Claddwyd hi y Llun canlynol yn Anfield Cemetery; gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J, Thomas. —— 5, baban Mr Price Lloyd, 6, Emerson Street, Liverpool. 7, yn 7 oed, Amelia Emma, unig blentyn Mr William Roberts, 40, Crown Street, Liverpool:

CLADDEDIGAETH MR S. ROBERTSON,…

FFESTINIOG.

Y FARCHNAD YD.

Advertising

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH…

Y FARCHNAD ANIFEILIAID.