Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NEWYRTH' ZACHRY O'l GADAIR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYRTH' ZACHRY O'l GADAIR WELLT. 'M, i ddarllenodd Mr. Evans circular heddyw ar ol y bregetli, oedd e wedi gael yn achos y JDysgedydd,' meddwn i wrth Newyrth Zachry ar ol dyfod adref o'r Ty Cwrdd borou Sabbath diweddaf. '])a iawn, both ddywedodd e am dano ?' Ddywedodd e fawr iawn, ond fe gym- hellodd bawb a allasai i'w gymeryd, pe na bu- asai dim ond am fod ei elw yn myned i helpu hen weinidogion.' I A ydi e ei hun yn ei dder- byn wys ?' I Na, 'dwy ddim yn meddwl ei fod e, waeth dau sydd yn dod yma,un i chwi—ac mi wn fod James, mab Mr. Davies, Siop, yn ei gymeryd, ac fe allai fod Mr. Evans yn ei weled weithiau ganddo ef. Ond y mae Mr. Evans yn derbyn y Diwygiwr a'r Beirniad, a chwi wyddoch all e ddim fforddio (lerbyn y ewbl.' I Ond fe ddylai gymeryd y Dysgedydd—yr hen gyhoeddiad hynaf o'r cwbl. Yr wy i wedi digio wrthynt tua Llanelli yna, am spwylio y Diwygiwr, a'i wneud e yn hen un bach llwyd diolwg. Fe fuasai yn lied chwith gan Mr. Rees, Capel Als, i weled yr hen JJdiwJlgÙor wedi dyfod i'r diwedd truenus yna.' Aros- weh Newyrth, ond doedd e wedi ei newid cyn marw Mr. Rees-ac heblaw hyny y maent yn myned i'w newid eto i'r hen blyg a'i godi i'r hen bris.' Puriou, purion ynte, mi cymeraf ef eto; ynte yn wir'yr own i wedi penderfynu na chymerwn ef ar ol diwedd y flwyddyn hon, er, y buaswn yn ei gweled yn od iawn hebddo. Mae e yma bob rhifyn er y dechreu yr wyf yn meddwl, ond fod eisiau ei findio. Yr wyf wedi darllen y Dysgedydd a'r Diwygiwr yr holl flyn- yddoedd. Y Diwygiwr fyddwn i yn gyfrif oreu am Politics, yr oedd mwy o fywyd ynddo, ond y Dysgedydd oedd oreu am Dduwinydd- iaeth. Fe eisteddais yn yr hen gadair yma lawer diwrnod cyfan i ddarllen dadleuon a thraethodau duwinyddol y Dysgedydd ugain mlynedd yn ol. Mae e yn para yn hen gy- hoeddiad da a sylweddol. Fe ddaeth bagad o ysgrifau da iawn i mas ynddo eleni. Yr wyn synu na byddai pobl.yn cael mwy o flas i'w ddarllen, na darllen ryw hen drash erlidgar a geir mewn rhai papurach. Y gwir am dani, yr oedd arna i gywilydd glywed nad oedd dim dwy fil o hono yn myn'd i gyd. Bostio a bostio yn ddiddiwedd 'yn bod ni yn enwad lluosog a dim yn gwerthu dwy fil o gyhoedd- iad- misol grot, y gallai uurhyw enwad fod yn falch o hono. Mae yr anerchiad sydd ar glawr y rhifyn diweddaf gan y ddau olygwr at wein- idogion ac eglwysi, a'r anerchiad sydd yn ei ddilyn at ddarllenwyr a dosbarthwyr y JJysg- edydd y fath ag a ddylai godi cywilydd i wyneb pob Annibynwr. Mae dros ddwy fil a haner o'r Cylchgrawn yma yn myn'd gan y Method- istiaid yn y De yma yn unig, fe ddywedodd un o'u pregethwyr wrthyf; ac fe ddywedodd fod chwech neu saith mil yn myn'd o'r Drysorfa a gyhoeddir yn y North. Ni byddaf yn gwel'd hono, ond clywais rai sydd yn ei gwel'd, a Methodus hefyd, yn dyweyd nad yw i'w chyd- maru a'r Dysgedydd. W n i ddim am hyny, nid wyf am osod barn ar beth na wn; ond mi wn nad yw y Cylchgrawn yma ddim i'w gyd- maru iddo, pe tynid Nyth y Dryw' allan. Ond y mae rhyw ddynion yn ein mysg a chan- ddynt eu pethau personol, ac y maent yn gwneud eu gorau i greu rhagfarn yn erbyn pob peth enwadol. Peth hawdd iawn i ddyn ydyw myn'd yn boblogaidd gy da llawer iawn o Independiaid ond iddo roddi ei hun i fyny fel bwli eu rhyddid, a gwaeddi dies ar bawb arall, yn enwedig ar bawb a fyn weithio o blaid pethau cyifredinol yr enwad. Mawr gymaint o son glywais i am gael rhyw drysorfa i helpu peth ar hen weinidogion er's llawer blwyddyn. Mi welais Mr. Powell, Caerdydd, a Mr. Griffiths, Alltwen, yn cyhoeddi ryw reol- au yn y Diwygiwr er estyn cymorth iddynt; ond welais i ddim yn dod o hyny. Y mae Trysorfa yr Hen Weinidogion yn awr yn helpu llawer; ond ni cha y rhai oedd allan o'r wein- idogaeth cyn ei ffurfiad ddim o hono a chaiff neb eto ddim o honi ond a roddo ei weinidog- aeth i fynu. Ond mae llawer o ddynion da yn llafurio am gyflogau bychain y bycldai cael pnm punt neu chwech y flwyddyn yn gysur mawr iddynt. Fe fu Mr. o——, yma yn ddiweddar yn gwerthu llyfr, ac yn dyweyd mai dim ond lOp. y flwyddyn oedd e yn gael. Cyflog is na chyflog gwas amod. Nid yn ami y mae neb mor isel a hyny, ond y mae llawer yn ddigon angenus; ac mi welais ar y Dysged- ydd ddwy neu dair blynedd yn ol y gallai y Pwyllgor rami Y-,100 y flwyddyn pe codid ef i 5000 o dderbynwyr.' I Wel, Newyrth, pe buasech chwi yn rhoi yr araeth yna heddyw yn y Ty Cwrdd ar ol pregeth Mr. Evans, ry- feddwn i ddim na chawsech chwi haner cant i'w ddorbyn.' 'Ie, ond fedra i ddim myn'd o'r gornel yma, a'r pcth ddyweda i rhaid i mi gael ei ddyweyd oddiar fy eistedd o'r gadair wellt yma, ond yn dcligon siwr i chwi pe gall- wn i mi awn ac middywedwn hefyd o'i blaid; ac nid o blaid y Dysgedydd yn unig ond o blaid y Diwygiwr, y Beirniad, y TYST, a phob cy- hoeddiad a phapur y bydd eu darllen yn cleby, o wneud lies. Ond am y Dysgedydd y darfu i chwi son heddyw, ac y mae genyf barch mawr iddo fel hen gyhoeddiad yr enwad, ac yr wyf yn medclwl fod ganddo hawl ychwanegol arnom gan ei fod yn rhoddi ei holl elw er cynortliwy gweinidogion oedranus a metbiedig; ac mi ddylwn i yn aned neb deimlo dros yr hen a'r methiedig, sydd wedi bod yn fethiant fy hun dros gynifer o flynyddoedd; ond trwy drugar- edd nid rhaid i mi wrth elusen o law neb yn y ffordd yna.' Rhoddodd y frawddeg olaf yna esboniad llawn i mi am y sel nodedig y mae Newyrth Zachry wedi ei ddangos er's blynydd- oedd dros y Dysgedydd. Llysceninen. Ei NAI.

GALLU'R GEINIOG

NODIADATJ GAN DAFYDD CWMGLAS.