Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
14 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLWYKYETIWEDD.'—Traddododd y Parch. J. Owen ei ddarlith ar 'New Zealand i gynulliad lluosog ar y 6ed cyfisol. Clywsom eu bod yn gomedd myned allan, gan yr interest oeddynt yn deimlo yn y ddar- lith. ALLTWEN.—Nos Lun y 6ed, traddododd y Parch. R. Williams, (II wfa Mon) Llundain, ei ddarlith odidog ar y Dyn leuanc, yn yr Alltwen. Yr ocdd y capel yn orlawn, a chadwyd y gynnulleidfa mewn. trefn gan yr hen batriarch y Parchedig Philip Griffith. BODBINGALLT.—Cynhaliwyd cylohwyl flynyddol y capel uchod dyddiau Sul a Llun, Rhagfyr oed a 6ed. Pregethwyd yn y gwahanol gyfarfodydd gan y gwei- nidogion canlynol: — Y Parchn. W. P. Davies, Rhymni; P. Howells, Merthyr W. I. Morris, Pont- ypridd Job Miles, Merthyr; D. Thomas, Tonypan- dy a B. Davies, Glandwr. BETHEL, DEEI.—Cynhaliodd yr eglwys gynulloid- faol a gyferfydd yn y lie ucliod ei chyfarfod blyn- yddol ar y oed a'r 6ed o'r mis hwn. Pregethwyd y Sabboth gan y Parch. J, Elias, Salem. A dydd Llun gan y Parchn. D. Jones, Now Tredegar; a T. Rees, D.D., Abertawe. Cafwyd cyfarfodydd da iawn, a'r casgliadau gystal ag y gallcsid disgwyl. LLAKTDEFEILOG, GER CAEEEYEDDIN.—Nos Fercher, Rhagfyr 8fed, cafwyd y drydcdd Ddarllenfa Geiniog yn yr Ysgoldy Brytanaidd. Llywydd—Parch. J. Jervis. Cymorwyd rhan yn ngwaith y cyfarfod gan Meistri R. Stephens (yr hwn sydd fel arferol yn der- byn cymeradwyaeth wresocaf y dorf), H. Davies, J. Davies, J. Beynon, E. Richards, R. Josiah, E. Davies, &c. Yr oedd y canu a'r darlJen wrth fodd y gynull- eidfa, ac aeth pawb gartref mewn agwedd foddlonol. Wrth ymadael, canwyd 'Ar Dywysog Gwlad y Bryniau,' R. Josiah yn canu yr unawd, a'r holl dorf yn cyduno yn y cydgan. A cliyhoeddwyd (fel arfer) y cyfarfod nesaf yn mhen y
RHYL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHYL. HYN A'R LLALL.—Y mao'r Parch. Thos. Gray, gwoinidog sefydlog newydd y Methodistiaid, am y wneud argraff ar y dref, nid yn Gymraeg yn unig, end hefyd yn Saesneg. Yn ddiweddar traddododd darlith ar John Wesley a lid his Times." Yr elw at yr Ysgol Frytanaidd. Yr oedd yma herwhelwyr yn lluosog o flaen yr Ynadon yn y llys misol. Dir- wywyd hwy yn drwm, nid am ladd game, ond am gerdded trwy eu tiriogaethau. Prin y mae'n deg i wyr sy'n magu ac yn cadw game ar eu tiroedd farnu ar achosion fel hyn.—M. Ji.
TRELECH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TRELECH. Traddodwyd darlith ar New Zealand,' ar y 7fed cyfisol, gan y Parch. J. Owen, i dorf luosog o bobl yn Capel Graig. Siaradodd am agos i dair awr, a hyny gyda nerth a dylanwad ryfeddol. Rhoddodd hanes dyddorol iawn o'i darganfyddiad, &c., a dar- luniad tlws ryfeddol o'r wlad, ei thrigolion, a'i hani- feiliaid, mynyddoedd, afonydd, dyffrynoedd, coed- ydd, mwngloddiau, a'u ffrwythau, &c., er mawr foddlonrwydd i bawb oedd yn gwrando. Byddaiyn gaffaeliad mawr i bawb sydd am wybod rhywbeth yn nghylch gwlad yr aur i gael clywed y ddarlith ardderchog lion.-O. -P. J.
PENYGROES, LLANDILO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENYGROES, LLANDILO. Traddodwyd darlith yn ddiweddar yn y llo uchod ar George Miller, Bristol,' gan y Parch. W. J. Davies, Llanymddyfri. Cymerwyd y gadair ar yr achlysur gan J. H. Norton, Ysw., Thornhill. Yr oedd y noson yn anffafriol, olierwydd ei bod yn wlawog; ond er hyny yr oedd y capel yn llawn, a chafwyd darlith ragorol iawn gan Mr Davies. Caf- odd pawb eu llwyr foddloni ganddo. Diau y gwnai y ddarlith ragorol hon les mawr pe'i traddodid hi yn mhob cymydogaeth yn ein gwlad. Da iawn, Mr Davies, cerddwch rhagddoch. Anrhegodd eglwys Annibynol Ponygroes Mr J. Davies, pregethwr cynorthwyol perthynol iddi, a swm o arian, yn cynwys 13p. Y mae y weithred hon yn llefaru cryn lawer am deilyngdod y brawd a haelioni yr eglwys. Mewn gwneuthur daioni na ddiogwch.
HENLLAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HENLLAN. Traddodwyd darlith, yn ysgoldy y lie uchod, gan y Parch. J. Owen, Trecastell, Tachwedd 29ain, ar New Zealand.' Nid yr un safon sydd gan bawb i farnu darlith. Ni fydd darlith o werth dim gan lawer os na fydd y darlithiwr yn gwefreiddio y gwrandawyr a dwli. Yn ol y safon yna, darlith wael ydyw darlith Mr Owen. Ond os barnwn deil- yngdod darlith wrth y wybodaeth a drosglwyddir yn- ddi—yr adeiladaeth a dderbynia y gwrandawyr oddi wrthi—yr oedd hon yn un o'r rhai rhagoraf a glyw- ma, somerioed. Yr oedd yn eglur, manwl, a chynwysfawr. Dywedodd am yr hyn a welodd ac a glywodd mewn dull mor eglur a tharawiadol, fel y gallech feddwl eich bod yn gweled y cwbl o flaen eich llygaid. Darlith hynod o dda a hynod o amserol ydyw hon. -.T. Lewis,
_------;::----=-------.--._--SCIWEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
;=- SCIWEN. YMWELIAD IIWFA MOW.—Yr oedd y bardd wedi addaw ymweled a Sciwen yn Illis Tachwedd, ac yr oedd yn ddrwg gan bawb am yr afiechyd blin a dyr- rysodd ei gynlluniau. Bydd yn dda gan ddarllen- wyr y TYST wybod ei fod yn awr yn ddigon iach i siarad a chwysu am dair awr. On a fyddai holl feirdd Cymru yn gwrando Bardd Llundain yn tratthu Barddoniaeth. ar Farddoniaeth. Barddon- iaeth oed y testyn, a Barddoniaeth oedd y Ddarlith, draddodwyd yn Sciwen nos Fawrth y 7fed o Rag- fyr. Yr oedd y patriarch ffraeth o'r Alltwen yn llywyddu pob peth ond peirianau chwerthin y gyn- nulleidfa. Yr oedd yn anhawdd i Hwfa ddal gafael arni pan oedd y cadeirydd yma a thraw yn tafiu i fewn rhyw air neu frawddeg, nes oedd yn ha ha drwy'r dorf. Mae Hwfa wedi addaw talu ymweliad a ni eto yn mis Ebrill, ac yr ydym yn sierhau iddo bryd hwnw loud y capel o bobl.
DOWLAIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DOWLAIS. GALWAD.—Y mae y Parch. J. H. Jones, Pwllheli, wedi derbyn galwad unfrydol oddi wrth eglwys Bryn Seion, ac mae yutau wecli cydsynio i'w hateb yn gadarnhaol. Gobeithio y bydd ei ddyfodiad yn fen- dith i'r eglwys, ac i'r gymydogaeth yn gyffredinol. 0 DAMWAIN DKUENUS.—Cyfarfyddodd dau ddyn a'u diwedd yn sydyn iawn boreu dydd Llun diweddaf, yn rnhwll glo y Fochriw. Ymddengys eu bod wedi bod yn gweithio nos Sul, a thra yn cael eu codi i fyny o'r pwll boreu dydd Llun, fe dorodd y rhaff, a'r canlyn- iad fu, cawsant eu hyrddio i dragwyddoldeb heb y rhybudd lleiaf. Yr oedd un o honynt yn briod, a'r llall heb fod. Y mae pob dydd yn ein rhybuddio yn b&rhaus, ac yn llefaru mown iaith uchel, Am hyny byddwch chwithau barod,' &c.—Gohebyeld.
YNYSMEUDWY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YNYSMEUDWY. Cynhaliwyd cyfarfod Llenyddol yn y lie uchod nos Sadwrn, Rhagfyr 4, 1869. Llywyddwyd ef gan Mr. John Howell, mab y diweddar Barch. Howell, o Baran. Beirniaid oeddynt Mr. R. Rees, (Eos Mor- lais), a Mr. W. J. Gwilym, (Alaw Llynfell.) En- illwyd y prif ddernyn cerddorol gan Gor Bethesda, Ynysmoudwy, dan arweiniad Mr. M. Morgan, Cwm- tawe, a'r ail ddernyn gan Gor Bethel, Cwmtwrch. Enillwyd ar unrhyw Ganig gan barty o Ystalyfera, ac ar Just after the battle gan barty o Ynysmeud- wy. Enillwyd y man bethau gan y personau can- lynol Mr. Morgan Morgans, Owmtawo; Mr Wm. Jones, (Asaph Glantawe); Ynysmoudwy Mr. J. Harris, (Hari Ddu), Pontardawe; Mr. J. Rees,, Pontardawe; Mr. John Harris: Mr. John Davies, a Mr. Edwyn Price, o Ystalyfera; Cynlaiafab Ys- tradgynlais, ac Ap Daniel, Ystalyfera. Canodd Eos Morlais hefyd amryw ddarnau yn dda iawn, a ther- fynwyd mewn llawenydd.
DYFFRYN CEIDRYCH, LLANGADOCK.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYFFRYN CEIDRYCH, LLANGADOCK. YMDEECIIEA AREDIG.-Dycld Mercher, Rhagfyr laf, cymeroddyr ymdrechfa uchod le ar gae Mr. N. Jones, Llwyncelyn. Y stewardiaid oeddynt Mr. R. Thomas, Cruglas, a Mr. T. Thomas, Groesffordd. Beirniaid Mr. G. Thomas, Rose House, Llangadock, a Mr. D. Morris, Castell, ger Llandeilo. Rhanwyd yr ymgeiswyr yn ddau ddosbarth—pump o wobrwy- on yn mhob un. Yn y dosjmrth cyntaf yn mlaenaf oedd Michael Lewis, Brynwhith, Gwynfe, yr hwn a enillodd y first prize yn ymdrechfa'r Dyffryn y llynedd; 2il, Joseph Davies, Ty'rlan; 3ydd, Rees Morgan, Hirllwynisaf, Gwynfe; 4ydd, G. Davies, Ty'rlan; oed, John Lewis, Llwymnaendy. Yn yr ail ddosbarth, y blaenaf oedd D. Jones, Baily. Y mae rhyw son am uno pwyllgorau gwa- hanol ranau plwyf Llangadock, fel y gellir cael un ymdrochfa first rate yn flynyddol yn lie rhanu ein nerth fel o'r blaen. Bydd hyn yn ddiamau yn well. Llwyddiant i'r undeb.-
RHIW, GER DINBYCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHIW, GER DINBYCH. Nos Lun, Tachwedd 29ain, cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol yn y lie uchod. Gan nad oedd y testyn- au yn gyfyngedig i enwad na chymydogaeth, yr oedd yr ymgeiswyr yn lied luosog. Derbyniwyd cyfansoddiadau mewn traethodau a barddoniaeth, a rhoddid canmoliaeth uchel i rai o honynt gan y beirn- iaid, sef y Vireli. J. Davies, Groes, a Taliesyn Hir- aethog. Enillwyd amryw wobrwyon am ddarllen a chanu, a gwisgwyd pob ymgeisydd llwyddianus ar bob testun gan Mrs. Roberts, o Tantryfan, pa rai a ddarparwyd ganddi ar ei thraul ei hun. Dylem grybwyll i'r cyfarfod gael ei anrhydcddu a phresen- oldeb a gwasanaeth Llew Hiraethog. Cafwyd anerchiad gwresog a phwrpasol gan Taliesyn, yr hwn a hunanymwadodd a'i gornel glud yn nghreig- iau y bleiddiaid fel y gwnaeth y Llew a'i ffau. Wedi cyflwyno y diolchiadau arferol, ymadawyd mewn amser cyfaddas, yn nghanol arwyddion o foddhad cyffredinol, oddi cithr ambell i ymgeisydd meth- iedig.
PORTHMADOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PORTHMADOG. Digwyddodd peth yn y dref hon yr wythnos diweddaf, sydd drwy drugaredd yn hynod yn mysg ein cenedl. Gymerwyd dyn i fynu am y cyhudcKad o ddwyn defaid, a thraddodwyd ef i gymeryd ei brawf yn mrawdlys Caernarfon. Y peth sydd yn gwneyd yr amgylchiad yn fwy hynod yw fod y dyn yn troi mown cylch parchus, ac yn un o'r cigyddion taclus- af ein marchnad—yn ddyn sobr a diwyd ac mewn amgylchiadau clyd. Y mae teimlad dwys yn y lie dros ei wraig a'i blant. Yr oedd defaid yn cael eu colli yn fynych er's tro, yr hyn a greai gryn an- esmwythdra yn y gymydogaeth. Nid oes praiof pwy a'u lladrataodd, ond y mae y tro hwn wedi rhoddi cyfeiriad i amheuaeth. Bydd yn ddrwg gan lawer glywed fod Mr D. Williams. A.S. mewn sefyllfa anfoddhaol o ran ei iechyd. Unwaith y cafodd bleidleisio yn y Ty i gefnogi mesur yr Mr Gladstone ar yr Eglwys Wyddelg, Y mae wedi dychwelyd adref i Gastell Deudraeth er's misoedd, ac yr ydym yn ofni ci fod yn suddo. Y mae yr hen foneddwr wedi dyoddef llawer er's blynyddau, ac nid yw yn anhebyg fod cynhyrfiad yr etholiad diweddaf wedi effeithio yn niweidiol ar ei gyfansoddiad. Y mae masnach y llechi wedi adfywio gyrn lawer yn ddiweddar. Y mae j ffreiti.au yn codi, a llongau yn brin.
LLANFACHRAETII, MON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANFACHRAETII, MON. Y NIAGARA A'I TIIARDDIAD.-Traddodwyd darlith ar y testun uchod yn ng-hapel y Methodistiaid Calfin- aidd, yn Llanfachraeth, Mon, nos Lun, Tachwedd 29ain, gan y Parch. D. Roberts, Caernarfon. Myned- iad i mewn trwy docynau Gch., a'r elw at gael ysgol ddyddiol i'r ardal. Cafwyd cynulleidfa dda a pharchus, a gwrandawiad da; ac nid rhyfedd at y gwrandawiad—pa bryd erioed y gwelwyd y darlith- ydd yn methu cael sylw a gwrandawiad. Yr oedd y ddarlith yn wir deilwng o'r darlithydd, fel ef ei hun, yn ddyddorol ac addysgiadol. Ni fethodd gyda hyn, fel gyda phobpeth a gymer mewn Haw, a thori llwybr newydd hollol iddo ei hun, a gwahanol i ddim o'r blaen ar yr America a'i helyntion. Yr oedd ei ddes- grifiad o'r Niagara mor farddonol a naturiol nes y toimlem fel yn swn dyfroedd lawer wrth ei wran- daw. Cadeirydd-Parch. J. Panish. gweinidog y Bedyddwyr. CYEAEEOD PEEGETHU YN SILOH.—Cynhaliwyd ef Tachwedd 29ain a'r 30aiii- Gweinyddwyd ynddo gan y Pacini. R. Thomas, Bangor; D. Roberts, Caernarfon; ac O. Owens, Elim (T. C.) Yr oedd arwyddion amlwg o foddlonrwyd y nefoedd ar y cyf- arfod.
UTICA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UTICA. Ar y ffordd o Faentwrog i Drawsfynydd, rhyw filldir a haner i'r dwyrain o'r lie uchod, saif chwarel (flags) o'r enw Braichdu. Dywedir fod ynddi gyf- lawnder o'r fath oreu o'r llechau hyn. Er's cryn amser bellach yr oedd y gwaith wedi sofyll; ond y mae yn dda genym hysbysu fod argoelion yr ail gy- chwyna eto. Mae gan y cwmpeini nifer yn gweithio yno yn awr, dan arolygiaeth Mr Briggs. Trwy fod yn y gymydogaeth amryw deuluoedd yn byw, ac i raddau yu bell oddi wrth bob cyfleusdra i addoli, tua blwyddyn yn ol, penderfynodd eglwys Utica ddech- reu Ysgol Sabbothol yn y lie. Bu y boneddwr hael- frydig Mr Briggs mor haelfrydig a chodi ystafell gyfleus i'r perwyl am ddim. Da genym allu dwyn tystiolaeth fod golwg lowyrehus ar yr ysgol, rhifa tua 40 bob Sabboth. Dydd Llun diweddaf, anrheg- odd Mr a Mrs. Briggs blant yr ysgol, yn nghyda phlant Ysgol Sabbothol Utica, a the parti. Mwyn- haodd tua 80 y wledd ragorol a ddarparesid. Rhodd- wyd anerchiadau priodol i'r plant gan y Parch. J. Williams, a Meistri II. Lloyd, a J. Ellis. Canwyd amryw donau gan y plant, dan arweiniad Mr Morris Ellis. Dymunem hysbysu hefyd i'r Parch. Mr Lewis, periglor, Trawsfynydd, dalu ymweliad ar yr achlysur. a rhoddi cyfarchiad cynes i'r plant. Der- bynied Mr a Mrs Briggs ddiolchgarwch gwresocaf y ddwy ysgol am eu carcdigrwydd.
COEDPOETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COEDPOETH. Nos Lun Rhagfyr God bu Cor y Rhos yma yn cyn- nal Cyngherdd. Benthycwyd capel eang y Ves- ley aid i'w gynnal am fod hwnw yn llawer eangach nag un adeilad arall yn y lie. Yr wyf yn deall fod y Cor yn rhoddi en gwasanaeth yn rhad. Elid i mewn trwy docynau Is. a 6ch. yr un, yr elw tuag at ddileu y ddyled sydd yn sefyll ar Ysgol Frytan- aidd yr Adwy a Coedpoeth. Mae'r ddyled yn rhyW* le oddeutu 140p. Cymerwyd y gadair am saith gall Mr. Cadwaladr, yr hon a lanwyd ganddo yn hynod o ddeheuig. Cafwyd amryw englynion a phenillio11 byrfyfyr ganddo yn ystod y cyfarfod i addysg i'r Cor ac i bersonau unigol a ddigwyddai ganu &0. Ar ol cael araeth ar addysg gan y cadeirydd dee- reuodd y Cor ar ei waith ac aeth trwyddo yn Wit ganmoladwy. (D eallwyf fod y Cor rhagorol hwll newydd roddi challenge i gor byd-enwog Birkenhead; a gweithiwch chwi lads neu m gewch eich curo yl1 deilchion), Cafwyd anerchiadau ar addysg gan y Parchn. J. Bartley, E. Roberts, a H. Hughes. W wedai Mr. Roberts wrth ddyweyd am werth addys«» am un brawd o sir Feirionydd yr hwn oedd yn dra diffygiol gyda'r sillebiaeth iddo ysgrifenu llythY Saesneg at yr ysgol feistr i'w hysbysu o'i fwriad anfon ei fab ato i'r ysgol. Dyma'r hyn fwi-i,tdat ddyweyd:—Sir, having heard that you are a xnaJ1 I