Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
% (C'pirriii.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
(C'pirriii. DAN OLYCHAETH, Y D.D., J. Thomas, N. Stephens, a W. Roberts, Liverpool; a, J. Davies, Caerdydd. Cyfrifa yn mysg ei ohebwyr rai o lenorion blaenaf ein cenedl-rhai o honynt yn rheolaidd, ac eraill yn achlysurol. Mae y rhai a ganlyn yn mysg ei feddian- wyr, neu wedi ysgrifenu erthyglau ar destynau gwladol neu eglwysig, ac yn addaw gwneud hyny hefyd eto: -Y Parchedigion J. R. Kilsby Jones; W. Ambrose (Emrys), Portmadoc; R. Thomas (Ap Vychan), Ban- gor; D. Roberts (Dewi Ogwen), E. Evans (Herber), R. Ellis (Cynddelw), Caernarfon; D. Griffiths, Port- dinorwic; R. Williams (Hwfa Mon), Llundain; A. J. Parry, Liverpool; D. Jones, B.A., Merthyr; E. Ste- phen, Tanymarian; W. Evans, Aberaeron; O. Evans, Llanbrynmair; J.Lewis, Henllan J. Peters, Bala; T. Johns (Taborfryn), Llanelli; W. Thomas (Gwilym Gwenffrwd); T. Rees, D.D,, Abertawe R. W. Grif- fith, Bethel; D. Oliver, Llanberis W. J. Morris, Pont- ypridd; H. Oliver, B.A., Newport; D. Rowlands,B.A., (Dewi Mon), Trallwm; E. Owen, Clydach: O. Jones, Ystalyfera; H. Rees, Caer; W. Griffith, Caergybi; H. Jones, Cemaes; J. M. Prytherch, Worn; S. Evans, Hebron; W. Morgan, Caerfyrddin; W. Roberts, Aberhonddu J. B. Jones, B.A.,Penybont; J. Davies, Taihirion; L. Probert, Bodringallt; T. Ll. Jones, Machen; W. Nicholson (Eldad Mon), Treflys; W. Thomas, Whitland; T. Thomas, Glandwr; R. Hughes, Cendl; E. Hughes, Penmain; W. Jones, o India; H. E. Thomas, o America T. Thomas, o Africa; Mri. P. Mostyn Williams; J. Ceiriog Hughes; C. R. Jones, Llanfyllin; J. Williams, Trecynon; W. Tegerin Hughes, Gweirydd ap Rhys, R. Herbert Williams (Corfanydd), Pont Menai; T. Williams, Goitre, yn nghyda lluaws o weinidogion a lleygwyr galluog eraill.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Yr ydym dan orfod o adael cronfa fawr o newyddion Cymreig alias. Mae y pethau byrion a anfonir i ni yn cael ymddangos yn ddioed, ond os bydd hanesion yn feithion y mae yn brofedigaeth i'w taflu heibio, Cymerwch wyliau llawen Ohebwyr hynaws dros y Nadolig a'r Calan, ao yn y cyfamser ni gliriwn ninau ein Bwrdd yxl Ilwyr. Llythyr Lerpwl.-Bu raid ei adael allan. Dymuna y Gymraes o Ganaan gydnabod yn gyhoeddus gyf- eillion Bethesda a'r cylchoedd am eu hymdrech i werthu ei llythyrau. Nid yw yn gwybod enwau y cyfeillion oil, ond gwyr mai y Meistri I). Griffith, Gaineddwen; W. J. Parry, Bethesda, a J. Evans, Penybryn, a gymerodd fwyaf o ofal, ond bu yfrawdoliaeth oil yn hynod garedig. Gwerthodd Bethesda 700, Carmel 200. Treflys 100, Mynydd Llandegai 350, ac anfonwyd iddi 25p. yn llawn am danynt. Diolclia o galon i'r cyfeillion am eu earedigrwydd n'u cydymdeimlad. AT Y BEIRDD. WEr arbed traul a choll amser, cyfeirier y Farddon iaeth oll i REV. R. WILLIAMS (Hwfa Mon), 10, Clayland Road, Kennington, LONDON. AT EIN DOSBARTHWYR A'N DARLLEN- WYR. Mae y rhifyn hwn yn terfynu chwarter. Apeliwn yn daer ar ein cyfeillion oil i wneud ymdrech i helaethu y cylchrediad gyda decbreu y chwarter nesaf. Nid oes arnom gywilydd i gymell y TYST oblegid y mae yn llawn werth y geiniog a ofynir am dano. TELERAU Y 'TYST.' Anfonir un rhifyn o'r TYST drwy y post i unrhyw le am chwarter am 2s 2g. Danfonir tri rhifyn i unrhyw fan am 3,3 3c y chwarter; ac anfonir chwech am 5s 6c y chwarter, a rhoddir dwy geiniog y swllt i'r Dosbarthwyr am unrhyw nifer a werthir uwchlaw hyny. Byddwn ddiolcbgar iawn i'n Dosbarthwyr sydd yn cymeryd 9 os cyfodant y rhif i 10, a'r rhai sydd yn cymeryd 12 os cyfedant i 13, gan mai yr un gost fydd i ni i'w hanfon trwy y post. Cyfeirier y Gohebiaethau oil- To the Editors of the TYST CYM- BEIG, 8, Brooks Alley, Old Post Office Place, Liverpool; a'r holl archebion a thaliadau am y TYST i'w gwneud i Mr. O. THOMAS, i'r cyfeiriad uchod.
Y GORTHRYMWYR A'R GORTHRYMEDIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GORTHRYMWYR A'R GORTH- RYMEDIG. Ymddengys nad yw y ffeithiau gyda golwg ar ormes rhai o dirfeddianwyr Cymru, ar ol yr etholiad diweddaf ond dechreu dyfod i'r goiwg. Oblegid j gochelgarwch a arferwyd i beidio cyhoeddi enwau nes cael sicrwydd am gywir- deb yr adroddiadau, eymcrodd Toriaid haerllug fantais i ddweyd mai ffug oedd y cwbl; ac wrth weled nad oedd ond ychydig engreifftiau yn cael eu crybwyll dechreuodd amryw Rydd- frydwyr amheu a oedd pethau cynddrwg ag y dywedid. Mac y papurau Toriaidd wedi gwneud eu gorcu o'r oediad, ac wedi lledaenu pob math o chwedlau nad oes sail iddynt ond yn eu dychmygion hwy cu hunain. Daw gweinidogioh Ymneillduol i mown am ran I "I fawr, yn wir y rhan fwyaf o'u digasedd. Hwy sydd wedi bod yn gosod y scriw ar eu liaelod- au! Yr hen gyhuddiad drosodd drachefn. Y mae yr haeriad yna wedi ei ddwyn yn mlaen bellach ddigon o weithiau, os nad oes prawf o ryw 10 i'w ategu. Yr ydym wedi gofyn am dano o'r blaen, ac yr ydym yn gofyn am dano eto. Pa le y mae unrhyw aelod Eglwysig gyda'r Ymneillduwyr wedi goddef unrhyw anfantais oddiwrtli ei weinidog oblegid iddo bleidleisio gyda'r Toriaid yn yr etholiad di- weddaf! Dim rhagor o haeriadau os gwelwch chwi yn dda-prawf ac nid haeriad. Er y gwyddom fod dirfawr wahaniaeth rliwng y ddau achos. Nid yw aelod Eglwysig gydag Ymneillduwyr hyd yn nod pe dysgyblid of am bleidleisio gyda'r Toriaid ddim yr un peth a thenant yn cael ei droi allan o'i ffarm gan ei dirfeistr oblegid iddo bleidleisio gyda'r Rhydd- frydwyr. Ond yr ydym yn barod i gymeryd y Toriaid ar eu tir eu hunain, ac yr ydym yn eu herio i roddi un engraifft am aelod neu ddiacon, a ddysgyblwyd gan weinidog Ymneillduol am bleidleisio gyda'r Toriaid yn yr etholiacl di- weddaf. Nid gwiw haeru yn hwy—allan a'u henwau, a'u preswylfeydd, ac enwau y gwein- idogion a'u dysgyblodd. Ie, y gweinidogion yn sgriwio eu bobl! Pan y mae yn ateb amcanion y Toriaid i amddiffyn crefydd sefydledig haerant fod gweinidogion Ym- neillduol yn slafiaid i'r bobl ond pan y mae y bobl yn pleidleisio yn ol eu hegwyddorion a'u cydwybodau yn erbyn eu meistri tiroecld y mae y bobl yn slafiaid i'w gweinidogion. Y fath ddrain yn ystlysau tirfeddianwyr Tori- aidd, personiaid, a man guradiaid ydyw y gweinidogion Ymneillduol hyn. Ond yr ydym ni yn barod i wneud gyda golwg ar dirfeddianwyr gorthrymus, y peth y ceisiwn gan ein gwrthwynebwyr ei wneud gyda golwg ar y gweinidogion gormesol ac arglwyddaidd y sonir am danynt. Enwyd nifer o honynt gan ein cydwladwr di- ofn Henry Richard yn y Sonedd; rhoclclocld restr ychwanegol yn ei araeth odidog yn Aberyst- wyth yn y cyfarfod hwyrol. Y mae genym eto restr arall i'w chylioeddi. Anfonodd Swyddfa y Daily Leader ddirprwywr penod- edig allan yn ei unswydd i archwilio yr achos- ion yn sir Gaerfyrddin. Am sir Aberteifi y sonir fwyaf, ond y mac yn sir Gaerfyrddin hefyd lawcr yn dyoddef. Mae y dirprwywr wedi dechreu ar ei waith, ac wedi anfon lly- thyr i'r Leader am y lOed o'r mis hwn, i roddi ffrwyth ei ymchwiliad cyn belled ag y mae Z, wedi myned. Mewn nodyn rhagarweiniol, dywed y Golygwyr nad ydynt hwy yn ym- rwymo am gywirdeb yr adroddiad yn ei holl fanylion, ond fod ganddynt ymddiried llawn ei fod yn mhob peth hanfodol yn berffaith gywir, ac y gellir ymddired ynddo. Nis gallwn roddi y llythyr yn llawn, ond cyhoeddwn y prif ffeithiau. Mae wedi gwneud ei ymchwiliadau mewn dau blwyf, Llanycrwys a Llanybydder, ar etifeddiaethau dau foneddwr, J. B. Harford, Ysw., a H. D. Evans, Ysw., dau o ynadon heddwch ei Mawrhydi. Dyma yr achosion:— David Davies, Garthlwyd-ffarmwr gweith- gar, ac y mae efe a'i dad o'i flaen wedi bod ar y ffarm am fwy na 60 mlyncdd. Pleidleisiodd dros Mr Sartoris yn unig. Trowyd of allan, ac ni wyr am un rheswm ond ei bleidlais; yn ol barn ei gym'dogion triniai ei dir yn dda. David Davies, Rhosgoch.—Yr oedd ef a'i deulu wedi byw ar y ffarm am 70 o flynydd- oodd. Adeiladodd y tai bron yn gwbl ar ei draul ei hun. Pleidleisiodd dros Mr Sartoris yn unig, ac yn yr amser priodol derbyniodd rybudd i ymadael. iSTi wyr ef na'i m'dogioii am un rheswm ond ci bleidlais. Gwrthodwyd y lie iddo am unrhyw bris. I Timothy Davies, Aberdeuddwr.—Codwyd yr adeiladau gan deulu Mr D^yies, y rhai sydd wedi byw yn y lie am 60 mlynedd. Gofynodd y goruchwyliwr iddo yn Hydref, 1868, a oedd ei frawd yn weithgar iawn gydag etholiad sir Aberteifi. Pleidleisiodd dros Mr Sartoris yn unig, cafodd rybudd, a gomeddwyd iddo y ffarm. John Roderick, Crosshands.—Daliai ychydig gaeau. Pleidleisiodd dros Mr Sartoris yn unig. Cymerwyd y cacau oddiarno, a rhodcl-, wyd hwy i un arall-yr unig un o',r tenantiaid is fe tr. a bleidleisiodd gyda'r tir-feistr. Y rhai yna i gyd yn mhlwyf Llanycrwys, ar etifeddiaeth J. B. Harford, Ysw. Parch. John Williams, Aberduar-a ddaliai ffarm am y 30 mlynedc1 diweddaf. Bu yn wcithgar iawn dros Mr Sartoris er ei focl yn glaf yn acleg y polio fel na allodd fyned i bleidleisio. Cafodd rybudd ar y 25 o Fawrth, ac y mae wedi gorfod gadael y ffarm. Josuah Thomas, Gôf-wecli ei eni a'i fagu ar etifeddiaeth Highmead, ac wedi dal y tir oedd ganddo am 24 mlynedd. PJeidleisiodd dros Mr Sartoris. Yr oedd wedi codi adeilad- au ar ei gost ei hun, ac yr oedd cytundeb ys- grifenedig, ond yn anffodus yr oedd heb ei stampio. Bygythiodd y tirfeddianwr cyn yr ctholiad y byddai iddo ei droi allan a thori y les. David Lewis, Factory.-Tonant blynyddol, wedi codi ty gwerth o 80p. i lOOp. Pleid- leisiodd dros Mr Sartoris yn unig. Cafodd rybudd, a throwyd ef allan ar ol bod yno naw mlynedd. Evan Thomas, Glantrenfawr.—Wedi bod yn dal y ffarm am y 10 mlynedd diweddaf, a'i wraig ar y tir er's 20 mlynedd, a'r teulu ar yr otifeddiaoth er's 80 mlynedd. Cyfrifid ef yn ffarmwr rhagorol. Pleidleisiodd dros Mr Sar- toris yn nnig, trowyd ef allan, ac y mae ef a'i wraig a'i deulu heb dy na chartref. Y rhai yna yn mhIwyf Llanybydder, ar etifeddiaeth H. D. Evans, Ysw., Highmead. Dyna y ffeithiau. Gwnaod Toriaid haer- Hug, a Rhyddfrydwyr amheus, a fynont ohon- ynt. Gwyddom y dywedir mai nid am resymau politicaidd y trowyd hwy allan. Hawdd iawn ydyw i'r tirfeistri a'n gornchwylwyr, y rhai yn ami sydd yn waeth na'r meddianwyr, ddweyd mai am en bod yn ffarmio yn wael —neu am nad oeddynt yn adgyweirio y tai —neu am nad oeddynt yn talu yr ardreth- oedd y trowyd hwy allan. Am eu cymcriad fel amaethwyr a threfn on tai y mac gan eu cym'dogion a'u cydnabod lawn cystal cyfle i farnn ag sydd gan neb; ac nid oes dim yn haws na dwyn y pwnc i brawf a oeddynt yn talu eu hardrethoedd yn rheolaidd. Nid ydym am gyhuddo tir-feddianwyr heb brawf, a rhoddi iddynt gyfle i wneud eu hamddiffyn- iad; ac nid ydym am gysgodi amaethwyr di- lun a hwyrfrydig i dalu. Ond y mae yn syn iawn genym fod hyn oil wedi ei ddarganfod ar unwaitli; a'i ddwyn allan ar adeg sydd yn rhoddi y fath sail i ddrwgdybio ai hyny yw y gwir achos. Nid oes dau fcddwl yn mysg en cym'dogion ar y mater, ac yr oedd y pris da a roddid yn arwerthiadau eiddo y dynion hyn gan y rhai a wyddai yr holl amgylch- iadan yn berffaith, y prawf cryfaf eu bod hwy yn edrych arnynt fel dyoddefwyr yn achos cydwybod, a'u bod am ddangos eu cydymdeimlad a'r gorthrymedig yn erbyn eu gorthrymwyr.
LLOEGR AC AMERICA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLOEGR AC AMERICA. Mae y cwmwl a dduodd yr awyrgylcl1 z,Y rhwng y ddwy wlad fawr yma gan gweryl yr Alabama yn aros eto hob ei wasgaru, ac nid y^ yr arwyddion 'yn ffafriol iawn yr ymlidir ef yn fuan. Nid oedd anerchiad yr Arlywydd Grant ger bron y gydgynghorfa yn cynmvys dim eglur, a phendant, ac addawol ar y mater- Yn wir y mae ei araeth sydd ar bob petll arall yn arddangos meddwl clir, penderfynol* Z" a diragfarn; yn ymddangos yn amwys ac an' eglur pan yn ymdrin a'r cwestiwn yma. 3130 I