Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR Y MEUDWY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR Y MEUDWY. (HWLPFOBDD, DYFED.) Mae y dosparth liynaf o ddarllenwyr y TrsT wedi yn ddiau glywed son lawer gwaith, gan hwn a'r llall, am yr hen Jonathan Jones o Ryclybont, yn agos i Lanbedr-pont-Stephan. un o blant natur ydoedd. Gwr tal-syth, glan- deg, a dwy lath o hyd, ac yn gyforiog o wit, a diarebol am barodrwydd ei ymadrodd. Perth- ynai i'w cglwys wraig yn dal tyddyn cyfleuedig mewn man pellenig a diarffordd, ac ami y ceis- iai gan ei gweinidog i ddyfod i'w thy i gadw oedfa, a thrwy ei thaerineb llwyddodd i gael ganddo roddi ei gyhoeddiad. Yr oedd ganddo undollglwyd i fyned trwyddi ar ei ffordd i dy y wraig daer dan sylw. Dranoeth, pan yn ymadael, annerchid yr hen bregethwr ganddi fel y canlyn: I Fforwel, Mr Jones, bach fforwel: llawer o ddiolch i chi am eldwad-gobeitho cewch clii'ch talu yn adgyfodiad y rhai cyf- iawn.' 'Gobeitho hyny hefyd, Nansi fach, ond pwy sy' i clalu'r gat dros yr hen gaseg wen.' Os oes adgyfodiad i fod i gejfylau, diau mae y rhai a farchogwyd gan hen efeng-ylwyr dÙlal (mewn ystyr arianol) y dywysogaeth ga y rhagorfraint hono. Llawer canwaith y con- demniwyd hwynt i fwyta gwair llwycl, neu yn amlach i ymprydio, mewn hen ystablau oerion tra byddai eu marchogion yn efengylu yn y synagogau ger llaw. Os ydyw y ddaear newycld' i ddwyn o honi ei hun yd a gwellt, dylai hen geffylau efcngylwyr Cymru, ac yn enwedig Miller' Rhys Goesbren Davies, gael pori am fil o ilyneddau o leiaf hyd eu torau mewn I I)oi,fcydd gwelltog,' a meusydd eang o geirch, fel rhyw fath o ad-daliad am yr hun- anwadiad poenfawr y gorfuwyd hwynt i'w arfer wrth gario cenhadau hedd o for i fynydcl, ac o fynydd i fro. Mae prif wasanaethwyr a chymwynaswyr Cymru wedi derbyn peth afrifed o 'promissory notes' cybyddion a thlodion, ac os cafodd, neu os ca yr heiny eu casho yn y byd a ddaw, maey'sawl yrhoddwyd hwynt iddynt yn bresenol ynmwyn- hau helaethfyd a gwychfyd' beunyddiol yn y wlad tn hwnt i'r Hi. Mawr mor hoff ydyw yr hen Gymry wedi bod, ac yn parhau i fod o gysuro eu cymwynaswyr ag addewid o daled- igaeth yn iatoii yn adgyfodiad y rhai cyfiawn —ond, fel y dywedodd yr hen Jonathan, sut mae cael modd i dalu'r gut dros yr hen gaseg -j wen.' Gwyn fyd na foddlonai y sawl sydd yn talu eu gwasanaethwyr lucy a'r notes sydd i gael ou casho yn adgyfodiacl y rhai cyfiawn, i ninau, yn awr ac eilwaith, i'w talu hwythau yn yr un coin. Byddai golwg hynod adeiladol a chyffrous arnynthwy, druein cluw- iol, pe cynygem ni yn dal am fwycl, dillad, ty a thanwydd, yr addewid werthfawr o daledig- aeth yn adgyfodiad y rhai cyfiawn. Nid ac adnodau o'r Beibl y caem ni ein lluchio, o nage ddim, ni wastreffid y gair arnom, ond derbyniem, pe gomeddem roddi arian da' yn gyfnewid am eu nwyddau hwy, ychydig lin- ellau eithaf cglur oddiwrth un o wyr y quils yn ein gwahodd i roddi ein presenoldeb yn y cwrt bach, lie ni wneir fawr gyfrif o'r ad- gyfodiad a'r byd a ddaw. A ddarfu i rai o honoch chwi, ddarllenwyr doeth a deallus y TYST, sylwi ar y dirfawr wahaniaeth yn mesur a dwyscler y dyddordeb a'r edmygedd a amlygir gan bobl yr adroddas- och yn eu clywedigaeth hanes bywyd a helynt- ion un gwr a lwyddodd i'w clderchafu ei hun i binacl golud neu glod trwy y tew a'r teneu, y cywir a'r gwyrgam, y pur a'r bydr—mewn gair yn rhyw fFordd a phob ffordd, heb ofni I -P Duw a pharchu dyn: heb glywed cri y gorth- rymedig, a gwelecl dagrau y weddw a'r amddi- fad, a gwr arall a ddyoddefodd goll pob peth 07id ffefr y Nef a thystiolaeth cydwybod dda, ond a adawodd ar ei ol goffadwriaeth berarogl- us a bythwyrdd, ac enw cyfystyr a phob peth a edtnygir gan oreuon y byd yn eu horiau goreu, ynghyd a thestament gorlawn o'r gynysgaeth oludocaf, a phuraf, a mwyaf parhaus a all ty- wysogion gwroniaicl Duw-lawn gymunroddi i fycl cardotynaidd mewn ffydd ac ysprydol- rwydd. vVel, a ddarfu i rai o honoch wneud experiment o'r fathhyn er mwyn dwyn allan yr hyn a feddyliai eich gwrandawr yn ei galon ? Llawer gwaith y gwnaethom ni y prawf, ac mor ami a hyny y gwiriwyd y geiriau a sicr- hant i ni 'nad oes dim cuddiedig ac nas dat- guddir.' Mae diffyg enthusiasm pan adroddir rhyw bethau yn nglywedigaeth rhai dynion yn 1 damning proof o dlodi truenus eu calon, a'u bydolfrydedd budr alaethus. Nid oes gymaint a gwreichionyn yn cael ei gynheu yn eu llygaid: mae'r rheiny mor bwl a hen lwy beivter heb ei rhwbio er blwyddyn i nawr pan adrodder wrtliynt hanes bywyd rhyw wron Crist-lawn a weithredodd ar y grediniaeth fod yn ofynol i ryw rai fanv i brif wrthrychau dymuniad bydolddyn cyn byth y gellir sicrhau hyd yn od i blant y byd hwn is ac ail fendithion Crist- ionogaeth, sef rhyddid gwladol, a diogelwch personau ac eiddo ond pan adroddir wrthynt hanes rhyw greadur ariangar a lwyddodd i wneud eifortune heb wneud mwy o wasanaeth i'w gyd-ddynion na'r cenedlaethau a enir yn y ganrif nesaf, clywir ymadroddion a geiriau o'r fath ganlynol yn cael eu defnyddio mewn ffordd o edmygu a chanmol yr hwn sydd idd- ynt hwy yn wron a brenin: well done, da mach'en anwyl i: da wharou dyna ei gneud hi: dyna fod yn gute: dyna ei gwel'd hi: dyna cu ffusto nhwy ie, a welwch chi: wel, wel: howyr bach: catto pawb chlywais i ariod shwd beth a wyddoch chi, 'roedd e yn abal dierth—ac felly yn y blaen ond pan ad- roddir hanes rhyw wron A?mfm-aberthawl, ych- ydig ac anaml yw yr expressions of fe glywir y rhai canlynol: Fallai wir howyr bach: ie, dyna chi—ac yn ddirybudd right torir ar yr hanes gan ryw holiadau fel hyn -1 0 shwt mae'r tatto gyda chi leni-os golwg go dda am erfyn—shwd bris sy ar y 'menyn a'r caws—ac yn y blaen a hi. Mae'r hanesydd yn cael allan yn flinderus o ami nad oes gan ei wrandawyr fawr o flas gwr- ando adrodd hanes pobl a wnaethant dda- ioni anrhaethol i eraill, ond heb gyfoethogi eu hunain. Dyna y gewch chwi, ddarllenwyr anwyl, yr wythnos hon. Mae yn arferiad i ragymadroddi cyn disgyn ar y testun; fe ym- drechwn drin tipyn ar hwnw yn ein llythyr nesaf.

LLOEGR AC AMERICA.