Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

r-_ð-v.}t!"¡'I:-... O'R TWR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

r- v.}t!"¡ 'I: O'R TWR LLEOHI. Addawsom yr wythnos ddiweddaf y buasem yn rhoddi i chwi restr o Gymdeithasau Adeiladu yr Ardal, yn nghyd ag enwau eu swyddogion. Ceisiwn gyflawniyr addewidhono yn bresennol, Einhamcan wrth roi y rhestr yw hyn:—Y mae yn perthyn i'r cymdeithasau hyn rai miloedd o bersonau yn wahanol ranau o'r Gogledd,—un ai trwy fod eu harian neu eu tai ynddynt,-ac y mai nifer lluosog o honynt yn ddiweddar wedi cael collection trymion icnvn trwy fod rhai o'r cymdeithasau wedi myned yn fethiant oherwydd camdrefn ac Er mwyn i'r wlad gael gwybod pwy yw swyddogion y gwahanol gym- deithasau yr ydym yn eu cyheoddi yn y Tyst." Ac os cawn hamdden yn y dyfodol, bydd i ni osod ger eich bron y sefyllfa yn mha un y maent yn bresenol, -hyny yw y rhai hyny ac sydd yn argraffu balance sheet; ond drwggenymddyweyd fod yma rai na byddant byth yn gwneud hyny. Wedi yr awn trwy yr holl restr, a'u sefyllfa, rhoddwn i chwi rai o weithrediadau rhai personau yn nglyn a'r cym- deithasau hyn, er gosod y wlad ar ei gwiliadwriaeth rhagddynt yn y dyfodol. Y gymdeithas gyntaf: ddaw i'n sylw yw y "Douglas Arms Benefit Building Society." Cynhelir hon yn y Douglas Arms Hotel. Yr ysgrifenydd yw Mr. David Lloyd, Brynllys, St. Ann's, Slate Inspector. Yr ymddiriedwyr ydynt, Mri. Wm. Jones, Coedyparc, chwarelwr Robert Roberts, Wynllwyd,, chwarelwr John Hughes, Glanygors, Pwyswr; Owen Jones, Cilfoden, chwa- relwr. Yr un personau sydd wedi bod yn swyddogion yn y gymdeithas hon o'r dechreuad, ac y mae hyny yn werth mawr i bob cymdeithas, ond iddynt fod yn ddynion gofalus a chywir. Cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas y nos Fawrth cyntaf ar ol y tal yn chwarel Cae-braich-y-Cafn. Cymdeithas derfynol 15 mlynedd yw, ac y mae yn awr yn 12 oed. Rhif, 2 a ddaw dan ein sylw yw y Victor Benefit Building Society." Cynhelir hon yn y Cefnfaes Vaults. Yr ysgrifenydd yw Mr. Richard Hughes, Ogwen Terrace, Bethesda, flour merchant, Yr ymddiriedolwyr ydynt, Mri. Griffith Thomas, Blaen- y-cae, Bethesda, chwarelwr John Williams, Ty'n- y-coed, Agent; David Davies, Mount Pleasant, Eitter. Yr un personau sydd wedijbod yn swydd- oo-ion yn y gymdeithas hon hefyd er y dechreu. Cynhelir cyfarfodydd y gymdeithas nos lau cyntaf ar ol y tal yn chwarel Cae-braich-y-Cafn. Cym- deithas derfynol 15 mlynedd yw hon eto, ac y mae yn awr yn 5 oed. Rhif. 3 ydyw y "Glan Ogwen Benefit Building Society." Cynhelir hon yn y Queen's Head Inn. Yr ysgrifenydd yw yr un a Rhif. 2, ar ymdcliried- olwyr ydynt, Mri. Owen Williams, Ty'ntwr, chwa- relwr Eleazer Richard Abraham, Bryn Cul, amaethwr David Phillip Williams, Bethesda, chwarelwr a Griffith Jones, Pantdreiniog, chwa- relwr. Mae swyddogion y gymdeithas hon eto wedi bod yn eu swyddi er y dechreu. Cynhelir ei chyfar- fodydd y nos Fawrth cyntaf ar ol y tal. Terfynol yw hon eto, 15 mlynedd; mae yn bresenol yn 9 oed. Rhif. 4 yw y "Prince Alfred Benefit Building Society." Cynhelir hon yn y Coach and Horses. Yr ysgrifenydd yw Mr David Roberts, ;[Alawydd) Taiduon, Bethesda, slate inspector. Yr ymddiried- olwyr ydynt, Mri. Hugh Roberts, Hirdir. slate inspector; David Griffith, Garneddwen, quarry agent; a David Davies, Rachub, chwarelwr. Cym- deithas derfynol ydyw hon hefyd yn ol y rheolau darperir iddi ddod i fynu mewn ugain mlynedd; ond y mae y taliad misol, ar bob cant, yn llawer iawn rhy isel iddi allu dod i fynu mewn hyny o amser, fel y cawn ddangos eto. Mae gwaith swyddogion rhai o'r cymdeithasau hyn y neu cychwyn ar sylfaen mor bwdr, wedi peru anrhefn mawr yn ein plith, a cholledion mawrion i lawer o'r aelodau. Cynholir cyfarfodydd y gymdeithas nos Lun cyntaf ar ol y tal yn y chwarel. Mae yn bresennol yn 8 oed. Rhif. 5 yw y "Cilfoden Benefit Building Society," Cynhelid hon yn No. 3, Ogwen Terrace. Yr ysgrif- enydd oedd Mr. Robt. Jones, Bookseller, Ogwen Terrace. Yr ymddiriedolwyr oeddynt Mri. John Hughes, Gerlan, chwarelwr; Thomas Morris, 3, Brynteg-street, chwarelwr; Robert Griffith, Grey- street, chwarelwr. Cynhelid cyfarfodydd y gym- deithas nos lau cyntaf ar ol y tal. 20 mlynedd oedd yr amser a fwriadwyd i hon eto ddod i fynu ynddo ond mae'n ddrwg genym ddyweyd, o herwydd ang- hytundeb rhwng aelodau a gofynwyr y gymdeithas ei bod wedi myned i'r Chancery. Ymattaliwn yn bresenol rhag myned i mewn iw hamgylchiadau, ac i'r hyn achosoddyr anjhyfcunded; gyd a ynunighys- bysu fod; mm inatcr jlCb yr un cyfrif i ba lo y maent wedi myned yn perthyn i'r gymdeithas lot Cavvn roi ychwaneg o'r manylioi-i pan y deuwn i osod ger eich bron sefyllfa pob un o'r cymdeithasau mon belled ag y gallwn. Gadawn i'r cymdeithasau yn y fan yma am yr wythnos hon, a cheisiwn gael amser i ddod attynt eto yr wythnos nesaf. GKVYUEDYDD.

Family Notices

-I Y FARCHNAD YD.I

Y FARCHNAD ANIFEILIAID.

Advertising