Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR LERPWL.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. T. D. JONES, GWER- NOGLE, gan W. Hughes (Gwilym Clydach). Trwy y Cofiant hwn y mae Mr Jones er wedi marw yn llefaru eto. Rhoddir yma bortread rhag- orol o hono o ran ei deithi meddyliol a'i nodweddion moesol. Oeir yma hanes dyddiau mebyd ac ieuenc- tyd Mr Jones—ei fynediad i'r Athrofa, a'r cymeriad uchel a enillodd yn ngolwg ei athrawon, ei gydef- rydwyr, a phawb o'i gydnabod-ei ymroddiad i'r weinidogaeth, ac mor egniol y cyflawnodd dros yr amser byr y caniatawyd iddo gael aros-ei wasan- aeth fel athraw ysgol barotoawl, a'r parch dwfn a deimlid tuag ato gan y rhai a fuant 0 dan ei addysg —mewn gair y mae y gwrthrych ei hun yn cael ei ddwyn ger bron yn ei holl gysylltiadau. Mae yr awdwr wedi gwneud ei ran yn ganmoladwy; ac y mae wedi derbyn cynorthwy gan amryw frodyr cwbl adnabyddus o Mr Jones. Mae y pregethau a geir ar y diwedd yn fantais i'r rhai fol ninau na chafodd y fraint o glywed Mr Jones i ffurfio barn arno fel pregethwr. Drw<>- genym i'r lath un yn em hoes syrthio i'r bedd heb i ni gael cyfle unwaith i'w glywed. Yr ydym yn gwerthfawrogi ei gofiant, ao yn diolch i'w fywgraffydd am ei wasanaeth. Y BRITISH VVORKMAN' a'r BAND OF HOPE IIK- VIEW,' am 1869, gan S. W. Partridge & Co., D, Paternoster Row, Llundain. Dyma y bymthegfed gyfrol o'r British Workman, a'r nawfed gyfrol o'r Band of Hope yn ei fftirf new- ydd, ac wedi eu troi allan yn hardd a destlus iawn. Mae y darluniau yn brydferth a swynol heblaw eu bod yn llawn addysg ac adeiladaeth. Mae y cwbl sydd ynddynt o duedd i lesau. Denwyd canoedd i roddi heibio eu hen arferion wrth ddarllen yr hanes- ion tarawiadol, a llawn o deimlad sydd ynddynt, a gweled darluniadau. mor naturiol o'r cymeriadau a bortreiadir. Nid oes dim yn yr un o honynt a all yn y gradd lleiaf niweidio meddyliau eu darllenwyr; ac ni cheir ynddynt un amser awgrymiadaumaleisus a dichellddrwg at grefyddwyr a phregethwyr er na byddant yn hollol i fyny a'r holl bethau y mae y ddau gyhoeddiad yma yn eu hargymell. Ceiniog y mis yw y British Workman, a dimai y mis yw y Band of Hope a cheir cyfrol hardd o'r blaenaf am flwyddyn wedi ei gwneud i fyny am ddeunaw cein- iog, ac o'r olaf am swllt; ac y mae yn anmhosibl i rieni roddi haner coron allan i well pwrpas pwrcasu i'w plant. Gresyii na byddai lledaeniad llawer helaethach iddynt yn y Djrwysog-aeth yn lie y sothach a brynir ac a ddarllenir mewn teuluoedd ao nid ydym yn gweled. paham na ellid dwyn rhyw beth ar gynllun cyffelyb allan yn Nghymru. Mae eisiau rhywbeth i wella a phuro arferion y genedl sydd yn codi, ac i atal y llifeiriant sydd yn bygwth ysgubo ein gwlad.

EMMANUEL HIRAETHOG.

[No title]

NODION ADA.