Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Qt!lllt.rtigt

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

<>a¥1:=;¡"D:u" AT EIN GOHEBWYR. Bu raid i ni adael allan yr holl Ohebiaethau yr wythnos hon, er cael lie i roddi adroddiad ilawn o gyfarfod mawr Liver- pool, ae ymweliad ein eydwladwr H. Richard, Ysw., A.S., a Merthyr. Yr ydym yn rhwym o roddi y lie blaenaf i'r pethau sydd o ddyddordeb eyffredinol i'n holl ddarllenwyr. Dymuna Mr D. Griffiths, Garneddwen, Bethesda, arnom hysbysu. nad yw yr hyn a ddywed Gwyliedydd yn gywir ei fod ef yn un o ymddiriedolwyr y Prince Alfred,' Bethesda. Er nad yw Mr Griffiths yn tybied y buasai yn un sarhad arno i fod, ond nad ydywyn swyddog o un math yn ygym- deithas uchod. Nis gwyddom pa fodd y syrthiodd ein go- hebydd y Gwyliedydd i'r camgymeriad yma. Gwelliant Gwall.—Y mae yn ddrwg genym am adael allan ran o lythyr y Gymraes o Ganaan yn ein rhifyn blaenorol, sef mynegu ei diolchgarweh i'r personau hyny a fu mor hynaws a charedig i werthu ei llyfrau. Gadawsoin allan enw ei phrif gymwynasydd, sef Mr R. Lloyd, MynyddLlan- degai, yr hwn sydd wedi bod yn garedig dros ben; gwerth- odd rai canoedd, ae anfonodd y llawn dal am yr oil. Hefyd Meistri William Evans, John Hughes, Parch. W. Griffiths, Anana, ac ereill yn Mynydd Llandegai. gjg^Bu raid gadael Newyrth Zachry, a Gallu'r Geiniog, a 'fthen Ffarmwr allan, ac a chrcen ei ddanedd y diangodd y Meudwy. Gwel ein Gohebwyr gan hyny mor wasgedig yw arnom, pan yr ydym yn gorfod gadael ein prif Ohebwyr allan. Byddai yn arbediad anghyffredin i ni pe byddai ein cyfeillion mor garedig ag ysgrifenu hanesion man gyfarf od- ydd mewn cyn lleied o linellau ag y byddai yn bosibl. A man gyfarfodydd y galwn ni yr holl gyfarfodydd nad yw corff y genedl yu teimlo dyddordeb ynddynt. Yr ydym yn crynu rhag dynesiad y Nadolig, gan y gwyddom y gwaith fydd genym i docio a byrhau. Da chwi, ohebwyr caredig, ysgrifenwch yn fyr, er arbed i ni y drafferth a'r boen. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'n Dosbarthwyr. Y mae pob Post yn dwyn archebion newyddion. Un ymdrech dda ar ddechreu y chwarter yma, a chyda deehreu y flwyddyn newydd.

ACHOS Y "GOBTHRYMEDIGIOK"

Advertising

TELERAU Y 'TYST.'

Y DIWEDDAR D. WILLIAMS, A.S.