Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Qt!lllt.rtigt
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Qt!lllt.rtigt DAN OLYGIAETH, Y Parchedigion W. Rees, D.D., J. Thomas, N. Stephens, a¥. Roberts, Liverpool; a J. Davies, Caerdydd. Cyfrifa yn mysg ei ohebwyr rai o lenorion blaenaf ein cenedl—rhai o honynt yn rheolaidd, ac eraill yn achlysurol. Mae y rhai a ganlyn yn mysg ei feddian- wyr, neu wedi ysgrifenu erthyglau ar destynau gwladol neu eglwysig, ac yn addaw gwneud hyny hefyd eto: -Y Parchedigion J. R. Kilsby Jones; W. Ambrose (Emrys), Portmadoc; R. Thomas (Ap Vychan), Ban- gor; D. Roberts (Dewi Ogwcn), E. Evans (Herber), R. Ellis (Cynddehv), Caernarfon; D. Griffiths, Port-' dinorwic; R. Williams (Hwfa Mon), Llundain A. J. Parry, Liverpool; D. Jones, B.A., Merthyr; E. Ste- phen, Tanymarian W. Evans, Aberaeron; O. Evans, Llanbrynmair; J.Lewis, Henllan J. Peters, Bala; T. Johns (Taborfryn), Llanelli; W. Thomas (Gwilym Gwenilrwd); T. Rees, D.D., Abertawe R. W. Grif- fith, Bethel; D. Oliver, Llanberis; W. J. Morris, Pont- ypridd; H. Oliver, D.A., Newport; D. Rowlands,B.A., (Dewi Mon), Trallwm E. Owen, Clydach: O. Jones, Ystalyfera; H. Rees, Caer; W. Griffith, Caergybi; H. Jones, Cemaes; J. M. Prytherch, Wern; S. Evans, Hebron; W. Morgan, Caerfyrddin; W. Roberts, Aberhonddu J. B. Jones, B.A.,Pe:nybont; J. Davies, Taihirion; L. Probert, Bodringallt; T. LI. Jones, Machen; W. Nicholson (Eldad Mon), Treflys; W. Thomas, Whitland; T. Thomas, Glandwr; R. Hughes, Cendl; E. Hughes, Penmain; W. Jones, o India; H. E. Thomas, o America T. Thomas, o Africa; Mri. P. Mostyn Williams; J. Ceiriog Hughes; C. R. Jones, Llanfyllin; J. Williams, Trecynon; W. Tegerin Hughes, Gweirydd ap Rhys, R. Herbert Williams (Corfanydd), Pont Menai; T. Williams, Goitre, yn nghyda Uuaws o weinidogion a lleygwyr galluog eraill.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
<>a¥1:=;¡"D:u" AT EIN GOHEBWYR. Bu raid i ni adael allan yr holl Ohebiaethau yr wythnos hon, er cael lie i roddi adroddiad ilawn o gyfarfod mawr Liver- pool, ae ymweliad ein eydwladwr H. Richard, Ysw., A.S., a Merthyr. Yr ydym yn rhwym o roddi y lie blaenaf i'r pethau sydd o ddyddordeb eyffredinol i'n holl ddarllenwyr. Dymuna Mr D. Griffiths, Garneddwen, Bethesda, arnom hysbysu. nad yw yr hyn a ddywed Gwyliedydd yn gywir ei fod ef yn un o ymddiriedolwyr y Prince Alfred,' Bethesda. Er nad yw Mr Griffiths yn tybied y buasai yn un sarhad arno i fod, ond nad ydywyn swyddog o un math yn ygym- deithas uchod. Nis gwyddom pa fodd y syrthiodd ein go- hebydd y Gwyliedydd i'r camgymeriad yma. Gwelliant Gwall.—Y mae yn ddrwg genym am adael allan ran o lythyr y Gymraes o Ganaan yn ein rhifyn blaenorol, sef mynegu ei diolchgarweh i'r personau hyny a fu mor hynaws a charedig i werthu ei llyfrau. Gadawsoin allan enw ei phrif gymwynasydd, sef Mr R. Lloyd, MynyddLlan- degai, yr hwn sydd wedi bod yn garedig dros ben; gwerth- odd rai canoedd, ae anfonodd y llawn dal am yr oil. Hefyd Meistri William Evans, John Hughes, Parch. W. Griffiths, Anana, ac ereill yn Mynydd Llandegai. gjg^Bu raid gadael Newyrth Zachry, a Gallu'r Geiniog, a 'fthen Ffarmwr allan, ac a chrcen ei ddanedd y diangodd y Meudwy. Gwel ein Gohebwyr gan hyny mor wasgedig yw arnom, pan yr ydym yn gorfod gadael ein prif Ohebwyr allan. Byddai yn arbediad anghyffredin i ni pe byddai ein cyfeillion mor garedig ag ysgrifenu hanesion man gyfarf od- ydd mewn cyn lleied o linellau ag y byddai yn bosibl. A man gyfarfodydd y galwn ni yr holl gyfarfodydd nad yw corff y genedl yu teimlo dyddordeb ynddynt. Yr ydym yn crynu rhag dynesiad y Nadolig, gan y gwyddom y gwaith fydd genym i docio a byrhau. Da chwi, ohebwyr caredig, ysgrifenwch yn fyr, er arbed i ni y drafferth a'r boen. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i'n Dosbarthwyr. Y mae pob Post yn dwyn archebion newyddion. Un ymdrech dda ar ddechreu y chwarter yma, a chyda deehreu y flwyddyn newydd.
ACHOS Y "GOBTHRYMEDIGIOK"
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ACHOS Y "GOBTHRYMEDIGIOK" Bydd sypynau o Adroddiad Cynhadledd Aberys- twyth, &c., yn cael eu hanfon yn gynar yr wyth- nos hon i bob rhan o Gymru. Anfonir sypynau y Gogledd o Swyddfa y Welsh Reform Association yn Liverpool; a sypynau y Deheudir o Abertawe, A thaer erfynir ar i bawb yr anfonir sypynau i'w gofal i ymdrechu hyd y byddo ddichonadwy eu dosparthu i'r gwahanol leoedd y byddo'r sypynau wedi eu cyfeirio, heb golli dim amser. "GOHEBYDD." 97, Mansel St., Swansea, Rhagfyr 21ain, 1869.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT Y BEIRDD. Derbyniwyd eiddo Merch y Morwr, Ieuan Eivion, Gwilym Elsi, loan Deudraeth, leuan Mon, Gwilym Llawddog, Owen Dinorwig, W. Thomas, Morganwgyn, Sam, Llysfaenwr, Dewi Glan Ffrydlas, Deio y U was, Ap Callestr, Cadno bach, A. H. Thomas, G. L. Z., Slap Mab, Dewi Glan Tyvi, Bey- non, Ei Chefnder, Iorwerth, Dafydd o Went, Trefiyn, a Casnodyn. Et arbed traul a choll amser, cyfeirier y Farddon iaeth oil i REV. R. WILLIAMS (Hwfa Mon), 10, Clayland Road, Kennington, LONDON. jA,
TELERAU Y 'TYST.'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TELERAU Y 'TYST.' Anfonir un rhifyn o'r TYST drwy y post i unrhyw le am chwarter am 2s 2g. Danfonir tri rlnfyn i unrhyw fan am 3s 3c y chwarter ac anfonir chwech am 5s 6c, y chwarter, a rhoddir divy geiniog y swllt i'r Dosbarthwyr am unrhyw nifer a werthir uwchlaw hyny. Byddwn ddiolchgar iawn i'n Dosbarthwyr sydd yn eymeryd 9 os eyfodant y rhif i 10, a'r rhai sydd yn eymeryd 12 os cyfedant i 13, gan mai yr un gost fydd i ni i'w hanfon trwy y post. Cyfeirier y Gohebiaethau oil- To the Editors of the TYST CYM- Ricio, 8, Brooks Alley, Old Post Office Place, Liverpool; a'r holl archebion a thaliadau am y TYST i'w gwneud i Mr. 0. THOMAS, i'r cyfeiriad uchod,r,: •
Y DIWEDDAR D. WILLIAMS, A.S.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DIWEDDAR D. WILLIAMS, A.S. Yn neclireuad y ganrif hon, preswyliai teulu anrhydeddus ar eu tir eu hunain ynLleyn. Enw y lie oedd Saethon, ac enw y penteulu oedd David Williams, yr hwn oedd yn ddyn yn meddu gallu meddyliol, a, moesol yn mhell tuhwnt i'r cyffredin. Cyfrifid ef gan fonedd- ig a gwreng fel oracl yr ardaloedd. Yr oedd o ran ei syniaclau crefyddol yn anghydffurfiwr goleuedig a chydwybodol. Yr oedd yn bleid- iwr gwresog i'r Feibi Gymdeithas, ac i Gym- deithas Genhadol Llundain. Er ei fod yn ddiacon mewn eglwys gynulleidfaol yr oedd mor ryddfrydol at enwadau eraill, fel yr ofnid ei fod yn caru y naill enwad gymaint a'r llall, yr oedd yn beth tebyg iawn i bechod, yn ol barn rhai o saint y dyddiau hyny. Mab i'r David Williams hwnw oedd y gwr sydd a'i enw uwch ben ein hysgrif. 0 Bu i Mr. Williams, Saethon, nan: o blant- pump o feibion, a phedair o ferched, y rhai a gyrhaeddasant bob un i'r sefyllfa briodasol, ac a lanwasant gylchoedd eang mewn cymdeithas. A fydd y darllenydd mor hynaws ag ymdroi gyda ni am funud tra byddom yn cyflwyno i ysgrifen fras nodion o hanes meibion a merched Saethon. Efallai na cheir hyn ar ddu a gwyn, mewn un lie arall. Yr oedd y teulu mor bwysig fel na feuir ni am adrodd cymaint a hyn o'u hanes. Sefydlodd Edivard, y mab hynaf yn y Bala. Daeth i enwogrwydd mawr fel meddyg, a chasglodd gyfoeth mawr. Bu am flynyddau yn Drengholwr y sir. Dygwyd John, yr ail fab, i fyny yn gyfreithiwr, a threul- iodd y rhan fwyaf o'i oes yn Llanfyllin. Cladd- wyd ef yn mynwent capel Penlas, Pwllheli. Y trydydd mab oedd David. Y pedwerydd oedd Robert, yr hwn a lanwai swydd yn y Gyllidfa, a'r ieuangaf oedd Abraham, yr hwn a briododd Sarah, merch y diweddar Syr Love Parry, a chwaer i'r aelod anrhydeddus dros Sir Gaernarfon. Y ferch henaf, sef Arm, oedd Mrs. Williams, Tuhwntirbwlch. Yr ail, Margaret, a briododd y Parch. J. Breese, o Lerpwl. Pri- ododd y drydedd ferch, Mary, Mr. E. Williams, Gelliwig, ac a symudodd i San Francisco, Cali- fornia, a phriododd y ferch ieuengaf, Jane, Mr. G. Williams, o Dreffynon, wedi hyny o Gogerddan. Nid oes yn awr yr ards ond Ab- raham a Margaret. Bu tri o'r meibion yn gwasanaethu eu gwlad fel uchel Siryddion, ac ynadon; a chyfrifir pob un o'r plant—merch- ed a meibion—yn feddianol ar dalentau ang- hyffredin. Bu David Williams yn moreu ei oes, am flynyddau yn analluog i adael ei wely. Bu mewn peenau dirfawr am amser maith, yr hyn a achosodd y cloffni a'i dilynodd dros weddill ei oes. Darllenodd lawer yn y cyfnod y bu yn orweiddiog. Dywedir ei fod wedi darllen esboniad Matthew Ifenry drwyddo fwy nag unwaith. Gwnaeth yr un peth a geiriad- uron Barclay, a Cahnet, a lluaws mawr o lyfr- au ar dduwinvddiaeth, hanesiaeth, daearydd- iaeth, &c. Nid yw yn syndod bellach fod ei wybodaeth mor eang ac amrywiol, ac yn enill edmygedd y sawl a'i hadwaenent oreu. Dygwyd Mr. Williams i fyny yn Gyfreith- iwr, o dan arolygiad ei frawd John. Wedi iddo fyned drwy yr arholiadau yn llwyddianus, agorodd swyddfa yn Mhwllheli. Dringodd yn gyflym iawn i enwogrwydd fel cyfreithiwr, a chymerodd ddyddordeb neillduol yn mhob sym- udiad a ymddanghosai yn addawol i ffyniant masnach y dref, a chysur ei phreswylwyr. Bu yn foddion i adenill hen freintlen golledig y lie, a wnaed hi yn fwrdais, efe a ddewiswyd gyntaf i swydd y Town Cleric. Yn y flwyddyn 1841, etholwyd Mr. Will- iams yn Clerk of the Peace am Sir Feirionydd Yn fuan ar ol hyny, efe a brynodd balasdy prydferth o'r enw Cae Canol gan ei frawd John, yn wynebu at y Traeth Bach, oddeutu dwy filltir i'r Penrhyndeudraeth. Ychwanegodd lawer ato, a throwyd ei enw yn Broneryri, ac ar ol hyny Castelldeudraeth. Rhoes i fyny ei alwedigaeth fel Cyfreithiwr yn 1850; ac yn 1859, rhoes heibio y swydd o Ysgrifenydd heddwch y Sir, pryd yr etholwyd ei nai, Mr. Edward Breese yn ganlyniedydd iddo. Yr oedd Mr. Williams wedi dyfod i gysyllt- ny iad ag etifeddiaeth Mr. Maddocks, yn gyntaf fel Cyfreithiwr, yna, ar ol marwolacth ei frawd yn nghyfraith, yn Oruchwyliwr, ac wedi hyny yn fortgagee. Yn ei law ef yr oedd pob awd- urdod, ac yn ei enw ef y caniatawyd pob pryd- les, ac y gosodwyd pob cwys o dir. Yn ei gysylltiad a'r ystad hon gwnaeth ei oreu o dan -yr anfanteision neillduol oedd yn gysyllticdig a'r fath etifeddiaeth ddyledog. Dygodd holl achosion y lie yn mlaen gyda digon o gynildeb, a llawer o fedrusrwydd. Wedi i Mr. Williams wneud ei gartref yn Broneryri, dechreuodd brynu cymaint o'r tir cylchynol ag oedd yn werthadwy, a thrwy hyny casglodd ystad eang a gwerthfawr. Yr oedd y Penrhyn y pryd hyny yn anheilwng o'r enw pentref. Nid oedd yno ond ychydig dai gwasgaredig, a'r rhai hyny yn isel, a gwael yn nghanol pentyrau o faw a chregin cocos. Is- law y trigfanau yr oedd mawnog, a phyllau lie y gorweddai y merwddwfr i fagu afiechyd. Yno y teyrnasai y crydau a'r brechod, ac ni fyddent byth oddicartref. Gwelodd Mr. Will- iams nad oedd modd i'r lie fod yn iach a chys- urus heb ei lwyr sychu. Penderfynodd lwyr wellhau y lie—a'r un peth oedd penderfynu a gwneud yn ei gysylltiad ag ef, ond fod yr am- seriad yn wahanol. Bu yn gwario arian lawer am flynyddau i weithio allan ei gynlluniau, ond o'r diwedd gwelodd goroni yr ymdrech a llwyddiant. Y mae gerddi i'r gweithwyr, a phorfaoedd breision ac eang yn awr yn add- urno y lie, a chyfrifir ef yn un o'r manau iach- af. Nid oes nemawr le yn Meirion yn fwy teilwng o'r enw tref. Y mae yno saith o add- oldai, dau ysgoldy eang, ariandy, ty marchnad, a darllenfa. Cymerai y perchenog lawer o ddyddordeb yn llwyddiant a chysur y dref hon, a gobeithiwn y bydd ei olynwyr yn mwynhau effeithiau ei ymdrech. Un peth neillduol yn mhlith arferion Mr Williams oedd ei waith yn cadw lluaws mavr