Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
PERSONIAID, A PHERSONAU, A…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PERSONIAID, A PHERSONAU, A PHETHAU. Dyma finau am y waith gyntaf yn dyfod yn ostyngedig at borth y TYST, a'm cap yn fy llaw, i guro am dderbyniad i mewn. Gwn mai gwyr tost ydych chwi y porthorion (y Golygwyr, fel y'ch gel- wir), canys yr wyf wedi sylwi lawer gwaith, fel y byddwch yn trin amhell i Ohebydd truan. Llefar- weh yn wastad gydag awdurdod brenhinol. I Nyni,' meddwch. Y neb a fynoch a ollyngwch i mewn, a'r neb a fynoch a gauwch allan; mewn geiriau ereill, Y neb a fynoch a leddwch, a'r neb a fynoch a ged- weh yn fyw.' Tefiwch un i'r fasged,' a'r fasged i'r domen, mae'n debyg, ac arall i'r tan; a chaiff un arall dderbyniad a chroesaw llawen genych. Y mae arnaf led ofn y bydd fy rhaglith hon yn dram- gwyddus i'ch mawrhydi Golygyddol, ac mai fy llo'sgi yn boeth oflrwm yn fy llythyr hwn, a gaf genych fodd bynag, myfi a anturiaf ei anfon, ac o derfydd am dano, darfydded. Rhaid i mi gael gwneud ychydig o ragymadrodd eto cyn dyfod at fy mhwnc. Rhyw ysfa gododd ynof i ysgrifenu ychydig adgofion am rai personiaid a phersonau hynod a adwaenwn gynt, ac ereill y clywswn am danynt. Minau a fum ieuanc, ac yr ydwyf yn myned yn hen; nid wedi myned, deallwch, 0 na, ni fynwn i chwi na neb arall ddyweyd na meddwl fy mod i yn hen, canys nid wyf yn meddwl nac yn dyweyd hyny fy hun. Yr wyf yn cofio o'r goreu yr amser yr oeddwn yn hogyn bach yn fy mhais, felly chwi a welwch nas gallaf fod yn hen beth bynag. Dau beth a gododd yr ysfa ynof, sef darllen y disgrifiad a rydd Gohebydd yn y TYST, o Bethesda fel yr oedd gan' mlynedd yn ol. Wel, y mae'r Go- hebydd hwnw'n hen beth bynag, os ydyw o'n cofio'r personau a'r amgylchiadau y sonia am danynt; y mae yn ysgrifenu fel un yn cofio'r cwbl. Beth bynag, os felly, mae yn syndod fod hen wr o'i oed o yn gallu ysgrifenu mor ddoniol. Ond, beth bynag am hyny, rhyw adgofion am bethau a ddigwyddas- ant o fewn cylch fy nghof personol fy hun, ryw haner can mlynedd yn ol neu rywfaint yn rhagor, fydd genyf fi, canys nid allaf fyned fawr bellach yn 01 na hyny; a dyna i chwi brawf arall, nad wyf eto wedi myn'd yn hen. Y mae yn anhawdd penderfynu hwyrach, ae y mae yn debyg fod gwahanol farnau yn mysg eich darllenwyr, pa un ai drych ai dameg o'r amserau a grybwyllir ganddo, a rydd eich Gohebydd o Bethes- da, ynte ai hanes pethau fel yr oeddynt yn wirion- eddol, a rydd efe. Beth bynag, yr oedd llawer o bersoniaid, a chlochyddion, a phethau cyffelyb i'r disgrifiad i'w cael mewn llawer o fanau yn Nghy- mru heblaw Bethesda, y dyddiau hyny, ac wedi hyny. Yr wyf fi yn sierhau i chwi, fel hen wr y mae genyf gof am dano gynt, pan oedd yn adrodd stori, I Nicl facts,' meddai'r hen wr, 'wy i n ddweyd i chwi, ond gwirionedd.' Felly finau, yr wyf am adrodd i chwi hanes pethau fel yr oeddynt yn syml, ac nid traethu damhegion. Dyna ddigon ar y pen yna. Peth arall a'm tueddodd i ysgrifenu fy adgofion hyn ydoedd, gweled a chlywed fel y mae rhai o off- eiriadach y dyddiau yma, yn honi ao yn hawlio, mai ganddynt hwy yn unig y mae awdurdod i bregethu a gweinyddu y sacramentau, ac nad ydyw Gweinid- ogion yr Ymneillduwyr yn ddim amgen na thwyll- wyr yn gwyrdroi y bobl, &e. Yr un stori yn union ag oedd gan yr Offeiriaid, y Phariseaid, a'r Ysgrif- enyddion am y Gwaredwr a'i ddysgyblion. Hwynt- hwy, yr Offeiriaid, y Phariseaid, a'r Ysgrifenyddion oeddynt athrawon awdurdodedig y bobl. Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth, ac yntau heb ddysgu ?' meddent am yr Athraw mawr; ni buasai efe erioed mewn University na'r un o'i ddysgyblion chwaith. Yr oeddynt hwy wedi eu dwyn i fyny yn Rhydych- ain (Ysgol Hiliel) a'u graddio yn y gyfraith. Syn- ent fod y bobl mor ynfyd a myned ar ol yr Iesu, dysgawdwr annysgedig ac anawdurdodedig yn eu tyb hwy, 'Y bobl hyn, y rhai ni wyddant y gyfraith, melldigedig ydynt,' meddent. Wedi'r cwbl, yr oedd y truan tlawd dall hwnw a gafodd ei olwg, yn annhraethol amgenach duwinydd ac ym- resymwr na'r lot o Ysgrifenyddion a Phariseaid gyda'u gilydd, nid oeddynt oil yn nghyd ond megis plentyn dwyflwydd yn llaw cawr yn ei law ef. Yn awr, pe gellid perswadio yr Offeiriaid y cyfeirir atynt i ddarllen hanes Offeiriaid a Phariseaid dydd- iau Crist a'r Apostolion. A ydyw yn bosibl, debyg- ech chwi, eu bod mor gibddall, fel na welent ac na adwaenent ddelw eu hwynebau eu hunain o'u blaen yn y drych hwnw ? Gwyddom pa enw a roddai ffyliaid a deillion ar y tadau hyny. Rhoddaf fi, os caniatewch chwi, ychydig hanes am rai o'u tadau yn Nghymru rhai pur wahanol i'w holynwyr presenol mewn llawer o bethau, ond yn bur debyg iddynt yn eu honiadau ffol o'u hurdd a'u hawdurdod. Wel, wel, dyma'r llythyr hwn wedi mynd yn rhaglith a rhagymadrodd i gyd,rhaid i mi derfynu cyn dechreu, ond os caiff hwn ym- ddangos, af yn mlaen y tro nesaf heb raglithio na rhagymadroddi ychwaneg. COEIADUK.
MOESAU DA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MOESAU DA. LLYTIlYr, II. Dywedir fod Deheubarth Lloegr yn uwch o lawer mewn moesgarwch na'r Gogleddbarth. Achosir hyny i raddau trwy fod mwy o drafnidiaeth rhwng y parth hwnw o'r wlad a'r Cyfandir, ac efallaihefyd i ryw raddau llai trwy fod yr hinsawdd yn fwy tym- herus. Dengys yr hanesyn canlynol y gwrthgyfer- byniad mewn ffordd ymarferol. Daeth meddyg ieu- anc o un o siroedd mwyaf diwylliedig y De i dref yn Ngogledd Lloegr sydd braidd yn enwog am ei gar- wedd, a chythruddid ei feddwl yn ami gan anwar- eidd-dra y bobl. Nid oedd yno neb a Syriai y gwr wrth siarad ag ef, na neb — Cyfoethog na thylawd Gyffyrddai 'i het a'i fawd I'w anrhydeddu.' Ystyriai y collier du ei hun yn gystal dyn ag yntau, ac ni chymerai hogyn ar heol arno ei weled pan ar ei farch neu yn ei gerbyd. Un diwrnod yr oedd yn marchogaeth allan yn y wlad, a dyma ryw fachgen gwylaidd yn gwneud bow defosiynol iddo. Disgyn- odd y meddyg brwdfrydig oddiar ei geffyl yn y fan, a diolchodd yn gynes i'r bachgen, gan roddi iddo ddarn o arian i gofio am dano. Dywedai wrthym wedi hyny ei fod mor falch pan welodd y moesgyf- archiad annisgwyliadwy hwnw a phe buasai wedi ei drosglwyddo i baradwys ei gartref cyntefig, allan o ganol barbariaid. Sicrhaem iddo nad oedd yr eng- raifft a ddarganfyddodd yn perthyn i'r soil hwnw; neu os oedd, mai rhywun a'i llwgrwobrwyodd, er mwyn ychydig o ddifyrwch diniweid ar ei draul ef trwy borthi ei wendid a gwenieithio tipyn iddo. Ychydig o flynyddoedd yn ol, mewn tref nid can' milldir o Lerpwl, ac yn enwedig yn y pentrefydd amgylchynol iddi, nid oedd yn ddiogel i neb wedi ei wisgo yn well na chyffredin i gerdded drwy yr heol- ydd. Y mae rhai sydd yn fyw heddyw yn cofio os elai merched heibio wedi eu haddurno ag ysnod- enau, neu ddynion wedi eu gwisgo mewn broadcloth, dangosididdyntbob anfri trwy waeddi yn wawdus ar eu holau, a thaflu llaid a phob budreddi ar eu dillad; ac os na thyciai yr oruchwyliaeth dyner hono, def- nyddid rhesymau trymach y darnau bricks a'r cerig, nes oedd yn berygl bywyd i neb anturio ar y fath newyddbeth ag ymddilladu yn weddus. Nid ydyw moesau y bobl hyny cynddrwg yn awr ag eedclynt yn y dyddiau gynt; ond y mae corff y boblogaeth etto yn aros mewn cyflwr lied anwaraidd. Y mae eu lleferydd etto yn annghoeth ac afrywiog, a'u hymddygiadau etto yn sawru mwy o awyrgylch ty- wyll trigfanau trawsder' nag o oleuni gwlad ef- engyl. Beiir llawer ar y Cymro am ei anfoesgarweh, ond anghofir llawer iawn o bethau mewn perthynas i'w sefyllfa a'i gymeriad ef pan y cyhoeddir barn arno. Nid yw yn deg barnu un genedl wrth safon cenedl arall, ac eto dyna a wneir gyda'r Cymry ynbarhaus gan gyfeillion yn gystal a gelynion. Disgwylir i ddyn nad oes ganddo yn ei enaid ond ail i ddim o gydymdeimlad ag arferion a thraddodiadau ae iaith a syniadau dosbarth o bobl i wisgo arweddiadau i gydymffurfio â moesau, ac i fabwysiadu neillduolion y bobl hyny yn ei holl ddulliau a'i arferion. Nid yw hyn yn deg pe byddai yn bosibl, ac os daw yn bosibl y mae yn sicr o gynyrchu rhagrith. Gwell genym ni weled moesgarwch yn tyfu yn naturiol oddiar ei wreiddyn ei hun, na gweled rhyw gangen flodeuog wedi ei himpio ar gyff annghydnaws. O'r ddau y mae hagrwch Lancashire a Yorkshire, oher- wydd ei fod yn genuine, yn fwy cymeradwy genym na llawer o'r coegedd disglaer-arwynebol a gyfar- fyddir yn y Brifddinas. Oddiar safon Ffrengig y mae moesgarwch Seisnig yn ddiffygiol, a'r un modd oddiar safon Seisnig y mae moesgarwch Cymroaidd yn ddiffygiol. Er hyny, y mae yn y naill a'r llall deithi sydd yn mwy na gorbwyso yr holl ddeddfau seremoniol sydd yn rheoli cymdeithas ddiwylliedig. Cwynir fod y Cymro yn hoff o edrych ar ymladd- feydd own a dynion; ond tybiwn fod hyn yn gam- dystiolaeth. Y ffaith ydyw fod y Cymro wedi rhoddi heibio yr arferiad o fagu cwn o bwrpas i ymladd fel y gwna ein cymydogion yr ochr arall i'r clawdd; ac y mae yn debyg nad ydyw erioed wedi dysgu y gel- fyddyd o ymladd a'i gyd-ddyn yn ol rheolau athron- yddol y prize ring. Ac felly nid yw bythyn gwneud exhibition o'r naill ymdrechfa na'r lleill. Os digwydd i ddau gi syrthio allan ar yr heol, a myned at y gwaith o benderfynu pa un fydd trechaf, gofynai gryn lawer o philosophi y Stoiciaid i blant direidus fyned heibio yn bengam, wefl-laes, lygad-groes heb edrych ar yr olygfa, a mwynhau rhyw fath o ddi- fyrwch wrth wneud hyny. Yr un modd gyda dau ddyn a ddigwyddo ymladd ar ben ffair. Y mae rhywbeth yn ein natur yn ein cymhell i gymeryd dyddordeb mewn cystadleuaeth, pa un bynag fyddo ai nerth dwrn a braich ac ysgwydd, neu gywrein- iaeth celfyddydol, neu ynte allu meddyliol. A gellir yn hawdd egluro paham, er nad ydym mewn un modd am esgusodi y chwilfrydedd neu y cydym- deimlad neu y cariad at ddifyrwch sydd yn cynull pobl at eu gilydd i fod yn dystion o'r fath olygfa. Addefwn ei fod yn dangos diffyg chwaeth, ac yn brawf eglur nad yw y mil blynyddoedd o deyrnasiad diniweidrwydd a phurdeb wedi gwawrio arnom etto. Ond mursendod annioddefol ydyw condemnio cenedl o bobl am beth fel hyn. Y gwir am dani yw, nid oes un wlad yn Ewrop a llai o olygfeydd annymun- 01 o'r fath ynddi a Chymru. Ni chlywir am rai 0 feibion ein teuluoedd uchaf yn cael eu cymeryd o flaen yr ynadon yn awr ac eilwaith am ymladd ceil- iogod yn y dirgel, am fynychu gornestau bwystfil- aidd y boxing saloons, am anos cwn i ymladd a'u gil- ydd mewn ystafelloedd pwrpasol at hyny, a rhoi cwn i larpio a lladd creaduriaid bychain diamddiffyn er mwyn y difyrwch creulon o'u gweled yn gwingo yn mhangfeydd marwolaeth fel y clywir yn Lloegr. Nid oes ond ychydig o wythnosau wedi pasio er's pan yr attaliwyd yr ymladd a theirw yn yr Agri- cultural Hall yn Islington, He yr ymgynullasai rhai o bigion y bendefigaeth i fod yn llygad-dystion o'r gigyddiaeth annynol. Gwelsom ein hunain ddynion yn cymeryd cwningod bychain mewn sach i faes tu allan i'r dref ar y Sabboth, ac yno ar y dydd hwnw yn eu gollwng allan wrthyrun, trayroedd llawerdwsin o gwn gwancus yn disgwyl am danynt. Can gynted ag y deuai y creadur bach diniwaid allan o'i garchar gorfyddid iddo ffoi am ei fywyd, a chyn iddo gyr- haedd can' llath o ffordd byddai wedi ei rwygo yn ddarnau oddiwrth ei gilydd gan y cwn yn nghanol crechwenfarbaraiddyranghenfilod dynola edrychent arnynt. Ni chlywsom erioed am fechgyn Cymru, yn uchel nac yn isel, yn bendefig na gwreng, yn gwneud dim tebyg i hyn yna yn yr oes oleu hon.' Cwynir hefyd nad ydyw y Cymro yn dangos digon o barch i'r rhyw fenywaidd. Dichon nad ydyw yn dangos' digon, ond yr ydym yn sicr ei fod yn teimlo yn barchus tuag atynt. Mae yr engreifFtiau a ddygir yn mlaen i brofi anwareidd-dra y Cymro yn lied ddigrifol. Dywedir ei fod yn arfer y rhagenwau ti' a thithau.' Digon tebyg fed hyn yn myned ar draws y gyfraith seremoniol, eithr attolwg iti, 0 farnwr, oni wyddost mai dyna y dull cywir o lef- aru yn ol rheolau gramadeg—oni wyddost mai dyna sydd yn fwynt cydweddsl ag anianawd' yr iaith Gymraeg-oni wyddost mai dyna ddullwedd clas- urol ac ystrydebol yr awdurdod uchaf sydd genym yn yr iaith-ac oni wyddost fod y Ffrancod, y rhai ydynt y beau ideal, sydd yn ymrithio ger dy fron di yn arfer dweyd ti' a thithau' yn eu hymddiddan- ion teuluol ? Os amgen, i ba beth y mae tu as a tu es da ? Ond mae y Cymro druan yn euog o esgeu- luso ei wraig ar ol priodi trwy beidio a gofyn iddi ddyfod gydag ef am dro! Ai Cymry yn unig sydd yn euog o'r camwri hwn P Onid yw hyn wedi bod yn destun can beirdd pob gwlad, ac yn wrthddrych darluniadaeth paentwyr pob cenedl wareiddiedig ? Oni ddangosir yn gyffredin mewn gwawd fod yr holl ofal, a'r pryder, a'r caredigrwydd, a'r serch yn cael eu dangos cyn priodi, ac nad oes dim ond culni, a diofalwch, ac oerfelgarwch i'w ganfod ar ol hyny P Paham y rhaid taflu libel ar y Cymry fel pe baent hwy yn eithriadol bechadurus yn yr ystyr yna? Y mae y gwallau a berthynant i gymeriad a moes ein cydgenedl yn gorwedd yn ddyfnach o lawer na hyn, ac ymdrechwn sylwi yn garedig ar rai o honynt yn ein nesaf. (I'w iarhau).
CRYNHODEB SENEDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CRYNHODEB SENEDDOL. TY YR ARGLWYDDI. Nos IAu.-Ail ddarllenwyd mesur Meddygon Trwyddedig. Cytunwyd a'r adroddiad o'r gwell- iantau a wnaed yn mesur Llysoedd y Man Ddyled- ion a ddygwyd i fyny o'r Ty arall. Yna wedi peth eglurhad gan Arglwydd Dufferin mewn perthynas i arwerthiant gorfedgl etifeddiaeth yn Roscommon, gan Lys Etifeddiaethau Tirol yr Iwerddon, mewn attebiad i Arglwydd Dunsany, cododd y Ty am bum munud ar hugain wedi saith o'r gloch. Nos LUN .-Cytunwyd ar y gwelliadau yn yr ys- grif i roddi hawliau cenedlaethol i Dramorwyr; ao i roddi ar y Bwrdd y papurau yn nglyn a'r hyn a hawlia y Coleg Gwyddelig yn Paris, a'r drysorfa a roddwyd o'r neilldu ar y dechreu gan lywodraeth Ffrainc er cynorthwyo dyoddefwyr Prydeinig oddi- wrth y chwyldroad. Nos Fawrth. ■—DarHenwyd biliau i ddifreinio Beverley, Bridgewater, a Norwich, a phasiwyd ys- grif Swyddfa y Rhyfel trwy Bwyllgor. TY Y CYFFREDIN. DYDD Mercher.—Mr Jacob Bright a gynhygiodd ail ddarlleniad ei fesur er caniatau i ferched a fo yn meddu y cymhwysderau gofynol gael pleidleisio mewn etholiadau. Eglurodd y rhesymau dros y mesur mewn araeth alluog, a dadleuai fod yn ang- hyfiawn cadw yr etholfraint oddiwrth neb oherwydd eu rhyw. Yn ei farn ef yr oedd merched deallus yn Uawer cymhwysach i bleidleisio na dynion meddwon a drwgweithredwyr a fyddont wedi dychwelyd 0 benyd-wasanaeth, &c. Cynbygiodd Mr Scourfield fod i'r mesur gael ei wrthod; ond cefnogwyd ef g&p- Syr C. W. Dilke, Dr. Lyon Playfair, ac ereill. Dywedodd Mr Bruce fod y Llywodraeth wedi bwriadu trafod y pwnc oni bai iddynt gael eu hattal i wneud hyny gan luosogrwydd materion pwysi^