Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

IfEWYBDION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

IfEWYBDION CYMREIG. DOWLAIS.—CAPEL IvoR.-Nos Fawrth, y 3ydd cyfisol, cyiihaliwyd cyfarfod yn y lie hwn ar yr achlysur o roddi fyny cyfarfodydd y gauaf yn y lie. ddechrou Taeliwedd diweddaf hyd ddiwedd Eb- rill cynhaliwyd yn Capel Ivor dri chyfarfod bob wythnos o natur egwyddorol, heblaw y cwrdd gweddi yn mha un y rhoddir anerchiad neu bregeth gan y gweinidog. Cwrdd Beiblan i'r menywaid, a chwrdd Beiblau i'r gwyr ieuainc, a chwrdd egwydd- ori i'r plant. Rhoddir y cyrddau hyn heibio dros yr hai. Nos Fawrth, am haner awr wedi saith, ymgynullodd cynulleidfa luosog a pharchus-pobl ieuainc gan mwyaf. Wedi canu, rhoddwyd anerch- iad neu ddarlith gan y llywydd, sef y Parch. J. Ll. James, ar Yr llyriaflaid Iuddewig, a'u traddodiad- au.' Darluniodcl hynafiaid a thraddiadau gwahanol gonhedloedd, ac yna rlioddodd ddarluniad llawn o'r traddodiadau Iuddewig. Gorfu iddo gyfyngu ei anerchiad i dri chwarter awr. Wedi iddo orphen cafwyd can. Darllenwyd ac adroddwyd darnau o farddoniaeth gan Mri H. Edwards, J. Thomas, B. W. Lewis, a H. Williams. Canwyd chwech o ddarnau yn ystod y cwrdd. Cyflwynwyd diolch- garwch y cyfarfod, ar ran dosbarthiadau y Beiblau, i'r Parch. Mr James am ei ymdrechion ffyddlon yn ystod y gauaf. Ymwasgarwyd am haner awr wedi naw. LLANGRANO G. CAPEL WiG. Er ys rhyw flwyddyn a b aner yn ol, cychwynwyd yma ddosbarth o ddifrif i efrydu y Tonic Sol-fa gan Mr David Jen- kins, brodor o'r lie, a chafwyd arholiad arno gan y Parch. W. Thomas, Bwlchnewydd, pryd y cyrhaedd- odd 13 yr Intermediate, ac amryw yr Elementary. Wedi hyny ffurfiwyd dosbarth lluosog arall gan yr un athraw, ac ar yr 20fed o'r mis diweddaf, gwnaed arholiad cyhoeddus arno, pryd yr oedd J. Parry, Ysw., Ffynonlefrith, yn bresenol, a lluaws o'r cym- mydogaethau, pryd yr enillodd 38 yr Elementary, a 19 yr Intermediate. Yr arholydd oedd Mr Jenkins, yr hwn a appwyntiwyd gan Mr Thomas y llynedd, ac y mae yn hollol gymhwys gan ei fod wedi cyr- haedd Honorable Mention yn y Seventeenth Course of Harmony Analysis, a'r cyntaf mae yn debyg yn sir Aberteifi. Canwyd amryw ddarnau gan y Car yn ystod yr arholiad, ac ar ddiwedd cyfarfod yr hwyr cyflwynwyd pwrs gan Miss Owen, Cilie, i Mr Jen- kins yn cynwys 5p. os. a gasglwyd gan garedigion y Tonic Sol-fa. Llwyddiant iddynt fyned rhag eu blaen eto, oblegid 'Ni choronir heb ymdrech. T. Evans. LLANDEGLA.—Dydd Llun, Mai yr 2il, cynhal- iwyd cyfarfod cystadleuol yn nghapel yr Annibyn- wyr yn y lie uchod, dan arweiniad galluog Myn- yddog; pryd y gwobrwywyd ymgeiswyr buddugol i'r swm o bum' punt am draethodau, barddoniaeth, a cherddoriaeth, &c. Trodd y cyfarfod allan yn dra llwyddianus. Yr oedd y capel eang yn orlawn, a Mynyddog (yr hwn a roddes foddlonrwydd cyfEred- inol,) yn ei hwyliau goreu. Gwrandawyd ar ei ganeuon addysgiadol a'i gynghorion buddiol gyda chymeradwyaeth neillduol. Yr hyn a chwanegodd yn fawrlat ddyddordeb y cyfarfod ydoedd presenol- dob Mr J. D. Jones, a Mr B. M. Williams, a'u cyf- eillion o Ruthin, yn nghyda Mr Parry, cerddor, gynt o Birkenhead, a Miss Maggie Jones, Liverpool, yr hon a anrhydeddodd y cyfarfod a thair neu bedair o ganeuon a Solos mewn modd swynol iawn, yn cael ei dilyn ar yr Harmonium gan foneddiges ieuanc arall. Difyrwyd y cyfarfod yn fynych trwy anerch- iadau gan y Beirdd, ac anthemau, &c., gan y Corau. Gweinyddodd y Parch. T. H. Evans, Incumbent, Llandegla, fel cadeirydd. Ap Vychan fel beirniad y prif draethawd, sef y caethgludiad i Babilon, yr hwn a ddyfarnodd y wobr o 20s i R. Edwards, Voel. Hwfa Mon fel beirniad rhanau o'r farddoniaeth, a Mynyddog ar ran arall, y rhai a farnent Iolo Goch, Edward Price, a J. Nuttall yn fuddugol; a Mr Roberts, Bwlchgwyn, ar yr ail draethawd. Rhag ofn i chwi ddigio am fanylu terfynaf yma. Diolch cynes i bawb a gynorthwyasant yn y cyfarfod.— Ysgrifenydd* O'R TWR LLECHI, (Nos Sadwrn).-Oni bai y nodyn a ymddengys o flaen ei lythyr buasem yn credu fod Mr Simon Jones wedi ei gyflogi genych i edrych ar ol eich gohebwyr, ac yn neillduol ar ol '.Gwyliedydd.' Gwn nad yw yn gyflogedig gan Drustees Cymdeithasau Adeiladu < Y Twr.' Drwg genyf fod cymaint o amser ar law Mr Jones fel y fforcldia iddo fyned i drafferth i rifo llinellau y TYST. Nid wyf yn ddigon sicr ei fod yn rhifo o ba faint o lythyrenau y mae pob gair ynddo wedi ei wneud i fyny Buasem yn meddwl fod digon o waith yn y Bala y dyddiau hyn i drefnu y mesurau goreu er cario allan y cynlluniau doethaf er cael y Colegdy newydd; a buasem yn disgwyl yn neillduol i un mor selog ag yw Mr Jones dros y mudiad i fod a'i holl feddwl ar waith. Yr ydym yn disgwyl y bydd ganddo crmod o waith yna gyda'r gofal eglwysig i ailu gwneud hyny etc tra y bydd Mr Jones yn casglu ac yn Patagoneiddio yn ngwlad y Gorllewin. Wedi ysgrifenu hyn aethum i'r drafferth i gyfrif y llinellau ein hunain, ap yn lie 37 llinell yr ydym ni yn cael 37 llinell a 3 gair! Hynod mor agos i'n gilydd! Rhaid nad yw golygon Mr Jones yn ddrwg iawn. Gan fod Mr Jones wedi protestio, yn protest- io, ac am brotestio' yn erbyn ypcehoil yma, cadwch chwi wyliadwriaeth arnom rhag syrthio eto o honom i'r amryfusedd hwn. Yr ydym yn casglu oddiwrth y nodyn yma o eiddo Mr Jones ei fod erbyn hyn wedi talu am y TYST. Ond drwg genym gael lie i gasglu oddiwrth y frawddeg olaf ynddo fod y nodyn wedi cael ei gyfansoddi mewn natur ddrwg. Mae hyny braidd yn ein tueddu i feddwl nad yw Mr Jones yn un o'r rhai cymliwysaf i gymeryd gofal yr feglwys yn ab- senbideb y gweinidog. Nos da heno Mr Jones. Bore dydd Iau diweddaf, cyfarfyddodd Evan Hugh- es, Henbarc, a'i angau yn chwarel y Penrhyn trwy i un o'r wageni droi ac i ran o'r llwyth syrthio dros- odd a disgyn arno ddyfnder o ugain Ilath Anaf- wyd ef mor dost fel y bu farw ar y ffordd i'r Hos- pital. Yr oedd yn aelod defnyddiol iawn gyda'r Ahnibynwyr yn Bethesda. Un o ddosbarth y dysg- yblion distaw oedd Evan Hughes, a'i rodiad yn wastad ar hyd ei oes grefyddol. Bydd yn golled i achos crefydd ar ei ol gan fod ei fywyd yn llefaru llawer mwy yn mhlaid crefydd, na thwrf geiriau a bywyd anwastad lluaws o grefyddwyr ereill. Nid ydym yn teimlo yn foddlawn i ollwng y mater yma o'n llaw heb wneud un sylw ar y sefyllfa beryglus yn mha un y gadewir y rhan hon o'r gwaith; mae y rail mewn llawer lie o fewn 12 modfedd i'r ymyl, ac wrth ystyried hyny, mae yn syndod na buasai mwy yn cael eu lladd yn yr un dull yma. Mae y prif oruchwylwyr i'w canmol mewn llawer iawn o bethau am y gofal a gymerant er diogelu bywyd y gweithwyr sydd odditanynt, ac nid ydym yn meddwl fod goruchwylwyr yn un man o'r deyrnas yn cymer- yd mwy o ofal, ond nis gallwn eu canmol am adael y rhan yma o'r chwarel mewn ystad mor beryglus am gynifer o flynyddau. Er y cymer ei gwneud yn cldiogtl lawer o draul, eto yr ydym yn credu y dylid gwneud hyny, gan fod ei gadael fel y mae yn ter- fynu yn angau rhyw rai o hyd. Rhaid addef fod lied y ponciau yn y rhan yma o'r chwarel yn warthus o gul. Hefyd buasem yn hoffi cael gwybod ar, ba dir y gwneir ymaith ag Inquest ar gyrph y rhai sydd yn cael eu lladd yn y chwarel ers blynyddau bellach ? Yr ydym yn gwneud y sylwadau hyn mewn ysbryd caredig, gan ddisgwyl rhyw les oddiwrthynt, ac yr ydym yn gobeithio na bydd hyny yn o fer. Heddyw yr oedd cwrdd misol y Bwrdd Lleol. Yn bresenol, Archddeacon Evans yn y gadair; a Mri G. Jones W. J. Parry; R. Prees yn nghydag Ysgrifenydd y Bwrdd. Penderfynwyd talu 300p. o'r arian a fenthyciwyd i wneud Drains y Gerlan, fel na bydd eto yn aros ond rhyw 240p. Pasiwyd hefyd i adver- teisio contract y Gas erbyn y mis nesaf. Da genym weled fod y manager presenol yn rhoddi cystal boddlonrwydd i'r dref, canmolir y Gas a wneir gan- ddo gan bawb. Penderfynwyd i Ysgrifenydd y Bwrdd i ymgynghori a Capt. Ironmonger ynghylch Drains Caellwyngrydd. Yn ngwyneb bod rhyw bersonau yn ymyryd a Lamps y dref pasiwyd i roi tafleni allan y cosbir hyd eithaf y gyfraith y neb a ddelir yn gwneuthur hyny eto. Wedi peth ymddi- ddan penderfynwyd gohirio pwnc costau yr etholiad, cyflog yr Ysgrifenydd, yn fnghyda'i daliadau ych- wanegol hyd y Bwrdd nesaf. Wedi llawnodi cheques a phasio nifer o Blans ymwahanwyd.-Gwyliedydd. MUMBLES, GER ABERTAWE.—Ymdrochle prydferth yw y Mumbles, oddeutu pum' milldir o Abertawe. Ychydig flyneddau yn ol, nid oedd ond pentref pysgottwyr, ond erbyn heddyw, y mae yn dref boblog, llawn o anneddaugwych. Yn yrhaf tyria miloedd yma i fwynhau awelon iach y bryniau, ac i ymdrochi yn nyfroedd gwyrddlas yr eigion. Cys- ylltir y lie ag Abertawe gan railway, tramway, a ffordd fawr. Mae y tair yn rhedeg yn gyfochrog, a hyny ar hyd ymyl y mor yr holl ffordd. Cyfyd y tir i fynu yn raddol oddiwrth y brif ffordd, ac ar hyd y llechwedd mae ugeiniau o balasdai wedi eu hadeiladu, lie y preswylia y rhan fwyaf o farsiand- wyr y dref. Mae celfyddyd ac arian ar eu goreu yn prydferthu yr ardal, ac os parheir i adeiladu am ychydig flynyddau eto, bydd y pum' milldir hyn yn un dref o balasdai gorwych. Mae yn anhawdd i lygad bardd ddymuno edrych ar olygfa mwyswynol nag a geir wrth fyned i'r Mumbles, oddiar ben cerbyd y tramway. Yr oedd gan yr Annibynwyr hen achos yn y lie, wedi ei ddechxeu a'i waddoli gan y ddiweddar Lady Barham. Ond yr oedd y gwaddoliad hwn fel cancr ynbwytanerth ac ysbryd yr achos i fynu. Dilewyrch iawn ydoedd yn ei dymhorau mwyaf llwyddianus. Ond pan symud- odd y Parch. J. C. Davies, yno ddwy flynedd yn 01 i gymeryd gofal yr eglwys, mewn undeb a New- ton, mae bywyd newydd wedi ymaflyd yn y lie. Cafodd ddrws y capel yn gauad, a'r ychydig braidd wedi ymwasgar; ond pan ddechreubdd Mr. Davies bregethu yno, daeth y crwydredig yn eu hoi, a llanwyd y capel, fel y barnwyd yn angenrheidiol i estyn cortynau y preswylfeydd. Gan fod Mr Mor- ley, A.S., yn rhoddi 5000p. at adeiladu capeli Saes- onig yn y Deheudir, barnwyd fod yr adeg yn rhy werthfawr i'w cholli. Llwyddwyd i gael ty mewn man hynod o gyfleus, gan J. D. Rees, Ysw., Aber- dare, am bris rhesymol iawn, ar lease'am 999 o flynyddau. Tynwyd cynlluny capel gan Mr. John Humphreys, Treforris-un o'r èynllunwyrmwyaf chwaethus yn y wlad. Bydd y draul dros lOOOp., o'r hyn byddant yn derbyn 2o0p. o drysorfa Mr; Mor- ley. Pan orphenir yr adeilad, bydd y ty addoliad mwyaf prydferth yn y lIe o ddigon. Dydd Mercher, Mai 4, 1870, oedd y diwrnod appwyntiedig i osod.,1 lawr y gareg sylfaen. Ymgynullodd torf luosog i'r maes erbyn tri o'r gloch, ac yr oedd y tywydd yn hyfryd, a'r golygfeydd cwmpasol yn deffro edmyg- edd pob calon. Dechreuwyd trwy ddarllen rhanau priodol o'r Ysgrythyr, a gweddio, gan y Parch. J. Whitby, Abertawe. Rhoddwyd hanes manwl a dyddorol o'r symudiad gan y Parch. J. C. Davies, y gweinidog; yna daeth Mrs. Jenkins, priod hawdd- gar a charedig J. J. Jenkins, Ysw., Maer Abertawe, ymlaen, i osod y garreg sylfaen. Cyflwynwyd Silver Trowel and Mallet iddi, dros y Pwyllgor, gan unig ferch Mr. Davies, yr oedd gweled dwy fonedd- iges mor ieuanc yn cyineryd rhan mor gyhoeddus yn y gwaith, a hyny gyda'r fath symlrwydd a chrefyddoldeb, yn cynhyrfu ysbryd diolchgar mewn llawer calon. Gosododd Mrs Jenkins y garreg mor ddeheuig a phe buasai wedi bod wrth waith cyffelyb ar hyd ei hoes. Wedi hyn gweddiwyd am fendith ar y gwaith, gan y Parch. W. Jones, Castle Street. Traddodwyd anerchiadau pwrpasol iawn gan y Maer, Dr. Rees, a'r Parch. G: P. Evans, (B.) Aber- tawe. Rhoddwyd y penillion allan gan y Parch. F. Samuel, a therfynwyd trwy weddi gan y Parch. E. Griffiths. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyfarfod cy- hoeddus yn nghapel y Bedyddwyr. Cymerwyd y gadair, bid sicr, gan y Maer, yr hwn sydd bob amser yn llawn parodrwydd ac aiddgarwoh i gynorthwyo gyda phob achos da. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. T. Gammon. Traddodwyd anerchiadau gan y Parchn. B. Williams, T. Jones, W. Jones, 3 G. P. Evans, Abertawe. Cafwyd cyfarfod difyrus ac adeiladol. Yr ydym yn gobeithio y bydd yn symbyliad i'r gwrandawyr i geisio rhagori mewn gweithredoedd da. Casglwyd yn dda iawn ar y maes, ac yn y cyfarfod hwyrol. Rhoddodd y Maer 20p. Mae Mr. Davies yn teilyngu pob eefnogaeth, a gwyddom am lawer ydynt yn, barod i ddal ei freichiau i fynu yn yr anturiaeth hon. Mae y gor- chwyl yn bwysig, ond nid gormod i ddyn o bender- fyniad Mr. Davies i fyned trwyddo. Mae wedi profi ei hun fwy nag unwaith yn alluog i ddarost- wng anhawsderau mawrion, a ohredwn y llwydda i ddwyn barn i fuddugoliaeth y tro hwn eto. Hyd- erwn o galon y caiff fyw i weled y gwaith yn or- phenedig, y ddyled wedi ei thalu, ayr deml newydd yn orlawn o bobl yn dwyn arwyddion eu bod yn caru Duw mewn gwirienedd. MERTHYR TYDFIL.TAN MAWR.-Nos Lun, wythnos i'r diweddaf, oddeutn haner awr wedi naw aeth shop Mr Evan Meredith, draper, ar dan, ac yn mhen deugain munyd nid oedd dim ar gael ond y muriau moelion. Ni welwyd y fath dan yn y lie hwn yn nghof neb sydd yn fyw. Dechreuodd ytan yn y ffenestr oedd gerllaw y Gas gyneu. Er fod yr oil o'r dwylaw yn bresenol ac yn dechreu cau i fyny, a Mr Meredith ond y funyd hono wedi troi ei gefn, eyn pen tri munyd yr oedd yr holl shop yn wenffiaIIl oleu. Er fod y ty yn three storey high syrthiodd y to i mewn yn mhen ugain munyd, ac yn mhen y deugain yr oedd y tan wedi ei orchfygu ond yr oil wedi syrthio yn ei afaelion i'r llawr isaf. Ni anaf- wyd neb ond i Mr Meredith losgi ychydig ar ei law wrth achub y cash-box a dau o'r llyfrau, a thyna yr oil achubwyd o'r shop. Ni chollwyd yr un bywyd, ond narrow escape gafodd dau o'r plant bychain. Yr oeddynt yn y gwely mewn ystafell uwch ben y shop: Cofiodd un o'r dynion ieuainc. am danynt, aeth i fyny, a chariodd hwynt allan. Pe y buasai wedi eu hanghofio am ddau neu dri munyd yn mhellach nl fuasai modd eu hachub. Cariwyd allan i'r ardd ychydig o'r dodrefn eedd yn y ty tucefn i'r shop, a thyna y cwbl arbedwyd. Nid oedd gan nar thad,_na mam, na phlentyn, na morwyn, nag un o'r dynion ieuainc yr un cerpyn o ddillad ond oedd am danynt. Yr oedd y shop wedi ei hyswirio am SOOp., a'r stock am 2,000p., ond llosgodd gwerth o leiaf 3,000p. os nid 4,000p. Mae cyfeillion y dref yn gwneud casgl- iad er cynorthwyo y dynion ieuainc, yr hwn sydd eisoes tua lOOp. Yr oedd un o'r morwynionwed1 cael pass i fyned i America, ac wedi dilladu ei hun yn dda erbyn cychwyn i'r daith, ond collodd y C^bl, a'r pass yn y fargen. Oni bai fod yma gyflawnder o ddwfr a'r police ar y fan yn mhen ychydig funyd- au, ac yn gweithio yn fedrus ac egniol buasai yr alanas yn ofnadwy. -Y TAFAENDAI.—Nos Fercher cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Neuadd Ddir- westol i bleidio y mesur sydd yn awr oflaen y Sen- edd dros gau y tafarndai ar y Sabboth. Cynierwyf1 y gadair gan C.E.Matthews, Ysw., Uchel GWugtabl. Pasiwyd yn unfrydol amryw benderfyniadau, a siaradwyd arnynt gan y Parchn. T. Williams, B*A.» J. Jenkins, T. D. Matthias, D. Jones, B.A., Mejstri J. Patterson (Manchester), G. Hastings (Llanos*11/' D. T. Williams, P. Williams, a T. B. Jones, (Wrex- ham). CYFARFOD CHWARTEROL MOlq.-Ymgy', farfu y cyfeillion oedd yndwyn mkwrseldrosy Canu am 10 o'r gloch boreu Llun yr 2fed o Fai, ynBrynsie cyn, a chafwyd cyfarfod brwdfrydig a hynod oun_ mewn trefnu cynllun o'Undeb Cerddorol,' pertnyn^ i'r enwad. Ondi gan y ceir adroddiad helaeth gan yr