Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

GWYLIAU MIS MAI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWYLIAU MIS MAI. Nis gallwn ymgymeryd a rhoddi hanes cyflawn o gyfarfodydd mawrion mis Mai. Byddai TYST bob dydd ar hyd y mis, ac heb roddi dim arall ynddo, yn rhy fychan i wneud hyny ond gwnawn fyr gry- bwylliad am y rhan fwyaf o honynt o wythnos i wythnos. Rhaid i ni osod Y GYMDEITHAS FEIBLAIDD ar ben y rhestr—nid am mai ei huchel wyl hi oedd y gyntaf a gynhaliwyd, ond am mai hon trwy gyd- syniad cyffredinol yw y bwysicaf o'r holl gymdeith- asau, oblegid nid oes ganddi ddim mewn golwg ond lledaenu pur air Duw. Cynhaliwyd ei chyfarfod yn Exeter Hall am 11 boreu Mercher, Mai 4ydd. Iarll Shaftesbury yn y gadair. Yr areithwyr eleni oeddynt Esgob Ripon, Syr Bartle Frere, Dr. Mullens, Esgob Crowther, Mr John Macgregor, Dr. Vermi- yle o New York, a'r Parch. W. 0. Simpson. Yr oedd yr adroddiad a ddarllenwyd gan Dr. Jackson yn cynwys mynegiad o weithrediadau goruchwylwyr y gymdeithas yn eu gwahanol gylchoedd, yn enwedig ar gyfandir Ewrop. Yr oedd cyfanswm derbyniad- au y gymdeithas, gan gynwys yr hyn a roddwyd at drysorfau neillduol China, Spaen, ac India, yn cyr- haedd y swm anrhydeddus o 182,265p. 6s. 3c. Ac yn ystod y flwyddyn, gwasgwyd gartref. ac mewn gwledydd trnmor 2,186,186 o gopiau o Air Duw yn gyflawn neu yn rhanau, yn gwneud cyfanswm y copiau a wasgarwyd gan y gymdeithas o'r dechreu yn 59,396,671. Dydd y farn yn unig a ddengys effeithiau daionus y miliynau cenhadon distaw hyn. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol CYMDEITHAS GENHADOII Y BEDYDDWYR yn Exeter Hall nos Iau, Mai 5ed. J. J. Colman, Ysw., Norwich, yn y gadair. Yr areithwyr eleni oeddynt y Parch. LI. D. Bevan, Parch. W. A. Hobbs, Cenhadwr o India; Robert Scott, Moncrief, Ysw., o Bengal; Dr. Haycroft, Parch. J. Smith, o Delhi, ac ereill. Yr oedd yr adroddiad a ddarllenwyd gan y Parch. F. Trestrail, a'r cyfrif arianol a gafwyd gan J. Tritton, Ysw., yn dangos fod y gymdeithas mewn sefyllfa iachus a gweithgar. Cyfeiriai yr adroddiad at ddadgysylltiad a dadwaddoliad yr Eglwys Sef- ydledig yn Jamaica fel digwyddiad pwysig y flwydd- yn yn hanes gweithrediadau y genhadaeth yn y wlad hono. Yr oedd y derbyniadau am y flwyddyn yn 39,339p. 8s. 6c.—y swm uchaf a dderbyniwydi gyllid y gymdeithas yn unrhyw flwyddyn er ei sylfaeniad, ag eithrio blwyddyn ei Jubili. Crybwyllasom air am GYMDEITHAS BHYDDHAD CREFYDD; ond yr ydym yn teimlo y dylem roddi mwy na'r cry- bwylliad oedd yn ein rhifyn diweddaf. Cyfarfu y Cyngor yn Canon-St. Hotel ddydd Mawrth, Mai 3; ac yr oedd yn nghyd luaws mawr o hen gyfeillion profedig y gymdeithas. Cymerwyd y gadair gan y Trysorydd, Mr W. Edwards; a darllenwyd yr adrodd- iad gan yr Ysgrifenydd, Mr Carvell Williams. Pas- iwyd yno amryw benderfyniadau eymeradwyol i'r mesurau sydd yn awr ger bron y senedd; a datgan- wyd trwy benderfyniad cryf eu bwriad i fyned yn mlaen, gan arfer pob gallu a dylanwad i ddwyn oddi amgylch yn Lloegr, a Chymru, ac Ysgotland y dad- gysylltiad a'r dadwaddoliad sydd eisoes wedi ei sicr- hau i'r Iwerddon. Yn y cyfarfod cyhoeedus yn yr hwyr, yn Freemason's Hall, cymerwyd y gadair gan H. Richard, Ysw., A.S.; ac yr oedd y neuadd yn or- lawn. Gwnaeth y Cadeirydd, yn ol ei arfer, a very strong case yn ffafr dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Ar derfyn ei araeth, dywedodd—' Rhaid i mi gymeryd fy rhyddid i'ch rhybuddio chwi, fy nghyfeillion Seisnig, ein bod ni yn Nghymru wedi cyrhaedd safle neillduol gyda golwg ar yr Eglwys Sefydledig yno ac yr ydym wedi gwneud ein medd- yliau i fyny, ac nid ydym yn barod i gymeryd ein troi heibio, ac i ddyweyd wrthym nas gellir gwneud dim yn Nghymru nes y byddwch chwi wedi gwneud eich meddyliau i fyny beth yw eich penderfyniad chwi gyda golwg ar y sefydliad Eglwysig yn Lloegr. Nid wyf yn gweled un rheswm paham y mae yn rhaid i chwi fod yn bwysau mawr yn hongian wrth- ym ni, nes y byddwch chwi trwy eich symudiadau arafaidd wedi gweithio eich hunain i fyny i'r pwynt i daro. Yr ydym ni yn meddwl fod genym hawl, gan ein bod ein hunain yn genedl ysgaredig wahan- ol oddi wrthych chwi-er fod yn llawen genym gymdeithasu a chwi dan yr un cyfansoddiad—gwa- haniaethol mewn cenedl ac iaith, ac wedi cymeryd gofal o'n crefydd am gant neu gant ac ugain o flyn- yddoedd, heb unrhyw help gan y Llywodraeth, ac heb help o Loegr—yr ydym yn ystyried fod genym hawl i ffurfio barn o'r eiddom ein hunain gyda golwg ar pa beth a ddylem wneud o berthynas i'r Eglwys Sefydledig. Nid Eglwys Cymru ydyw, ond yn unig Eglwys Loegr yn Nghymru.' Dyna syniadau croyw, a'r rhai y cydsynia corff Ymneillduwyr Cymru yn y dyddiau hyn; ac nid oes gdnym ond gobeithio y traethir hwy yn llawen pan y daw achos yr Eglwys yn Nghymru ger bron y senedd. Heblaw amryw o hen bleidwyr y gymdeithas, yr oedd ein cydwladwr dysgedig Mr Osborne Morgan, A.S., yno, a thradd- ododd araeth egniol llawn o dan ac angerddoldeb. Yr ydym yn llawenhau i weled Eglwyswr cydwy- bodol fel Mr Morgan yn dyfod allan ac yn llefaru mor ddiamwys. Buasai yn dda genym pe caniatasai ein gofod roddi crynhodeb llawer helaethach o'r cyfarfodydd pwysig hyn, ond y mae hyny yn anmhosibl mewn newyddiadur ceiniog Cymreig. Ceir cyfarfodydd yr Undeb Cynulleidfaol, a Chymdeithas Genhadol Llundain, ac ereill, yr wythnos nesaf.

[No title]

LLYTHYR Y MEUDWY.