Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
DYDD Iau, darllenwyd papyrau a thraddod- wyd areithiau gan glerigwyr a lleygwyr, ar Iawnderau a dyledswyddau y lleygwyr yn lledaeniad gwaith yr Eglwys yn Nghymru ar yr adeg presenol, ac o dan yr amgylch- iadau presenol." A darllenwyd dau bapur ar gwestiwn y dadgysylltiad.
[No title]
Y MAE Arglwydd Northbrook wedi cael ei benodi gan y Llywodraeth yn Brif-Ddir- prwywr i fyned i'r Aipht yn ystod y mis presenol, er mwyn hysbysu a chynghori'r Llywodraeth o barth i'r cynghorion a ddyl- ent hwy gynyg i'r Llywodraeth Aiphtaidd mewn perthynas a sefyllfa bresenol materion yn yr Aipht ac hefyd mewn perthynas ag unrhyw fesurau y dichon y bydd yn angen- rhaid i'w cymeryd ynglyn a'r materion hyny." Golyga'r blaid wrthwynebol hyn yn afreidiol, oblegyd disgwylient i'r Llyw- odraeth fod mewn meddiant o wybodaeth fanwl am amgylchiadau yr Aipht oddiwrth yr adroddiadau o anghenion yr Aipht a barotowyd i'w gosod ger bron y Gynhad- ledd. Wrth hysbysu i'r Ty benodiad Arglwydd Northbrook, dywedai Mr Glad- stone nad oedd ei swydd ond dros amser, ac na fyddai ei swydd yn ymyryd dim a dyledswyddau cyffredin Syr E. Baring. Pleidleisiwyd gan y Ty dros chwarter milliwn o bunau er gwarediad y Cadfridog Gordon os bydd angenrhaid.
[No title]
CYMER y cynwrf yn erbyn Ty yr Ar- glwyddi ddau gwrs gwahanol. Ymdrecha'r Rhyddfrydwyr cymedrol gadw at y pwngc mewn dadl, tra mae'r Radicaliad yn colli golwg ar natur y pwngc ac yn ymdrin a chyfansoddiad y Ty a'r cwestiwn pellach pa fodd y gellir ei ad-drefnu neu yn wir ei ddileu. Ond oddiwrth yr areithiau a dra- ddodir, y mae yn eglur nad oes gan yr ym- osodwyr ar y Ty TJchaf ddim dirnadaeth am natur y cyfnewidiad y maent yn ewyllysio i'w weled na'r jnoddion trwy y rhai y'i cwblheir. Nid yw'r cyn- hyrfwyr mwyaf zelog yn anewyllysgar i ddwyn eu hamcanion i ben trwy drais a bygythion, ond y mae arwyddion rnai pwyll, rheswm, a lies y wlad yn gyffredinol ac nid cythrwfl gwerinol a gyffroir gan ddynion nad oes ganddynt ddim i'w golli ond pob- peth i'w enill beth bynag a ddigwydd, a gant yr oruchafiaeth. Diben y cynwrf yn ol fel y'i deallir gan y man-ymosodwyr yw nid pasio Mesur Helaethiad yr Etholfraint ond dileu'r Ty Uchaf. Nid ydynt yn gallu gweled y fiolineb o gymhwyso fel meddyg- iniaeth i anghyfleusdra sydd dros y pres- enol fesur mor chwyldroadol a dilead sefydliad ag sydd hynach na'r Ty Cyffredin. Wrth ddarllen areithiau y ddwy blaid, er mwyn deall pa un sy'n cadw agosaf at y testyn, anghenraid yw cadw mewn cof beth yw'r cwestiynau a ddylid eu trin, sef, A ydyw yn gyfiawn a buddiol i'r wlad i basio Mesur Helaethiad yr Etholfraint ar wahan i Fesur Ad-drefniad y Cynrychiolaethau ?" ac A ydyw'r cynllun y mae'r Arglwyddi yn ei gymeryd i sicrhau undeb y ddau Fesur yn gyfreithlon ac yn gyfansoddiadol?"
[No title]
Bu Arglwyddi Salisbury a Randolph Churchill yn anerch cynulliad yng Ngerddi Pomona, Manchester, dydd Sadwrn diweddaf. Yr oedd tua haner can mil o bobl yn bresenol, ond yr oedd tua chwe'ugain o filoedd wedi codi tocynau er mwyn clawed y ddau wleidyddwr enwog. Wrth sylwi ar araith Mr" Chamberlain a Mesur Helaethiad yr Etholfraint, dywedai Arglwydd Salisbury y cynrychiolid Swydd Lancaster yn awr gan 33 o aelodau, ond yn ol Mesur Ad-drefniad, wedi ei ffurfio ar sail deg, y byddai 63 o aelodau. A lie y mae yn awr 16 o aelodau y byddai 54 o aelodau. Dengys hyn y cyf- newidiad mawr a gymerai le. Ymhoffai Mr Chamberlain gyfeirio yn ol at 1832, ond nid oedd y gyfatebiaeth a'r amgylchiadau pres- enol mor ffafriol i Mr Chamberlain. Yn gyntaf anfonwyd Mesur Diwygiad 1832 i fynu i Dy yr Arglwyddi wedi datodiad y Senedd wedi i'r bobl draethu eu barn. Ac wedi i'r Ty Uchaf wrthod y Mesur-yr hyn a ystyriai ef yn annoeth-ymddiswyddodd y Weinyddiaeth, ac nid cyn i'r blaid wrth- wynebol ddatgan ei hanallu i ffurfio gwein- yddiaeth yn ei lie y rhoddwyd mewn grym y mesurau y cyfeiriai Mr. Chamberlain atynt. Dilyned y Weinyddiaeth bresenol yr Gsiampl a roddwyd yn 1832, gan ymddi- swyddo a rhoddi cyfleustra i'r blaid wrth- wynebol i ffurfio Gweinyddiaeth yn ei lie. Gwahaniaeth arall a welid rhwng 1832 a'r presenol oedd mai'r pryd hyny y Rhydd- frydwyr a ymladdent dros Ad-drefniad, a'r Ceidwadwyr yn annoeth yn ei erbyn, ond yn awr y Rhyddfrydwyr yn annoeth yn ei erbyn, a'r Ceidwadwyr dros yr Ad-drefniad. 0 61,000 etholwyr ar y cofiyfr yn 1880 nid oedd ond 32,800 yn awr, ac felly nad oedd Ty y Cyffredin yn cynrychioli dim ond tua haner y rhai a'i hetholasant yn 1880. Galwai hyn am ddatodiad ac ail-etholiad er mwyn rhoi cyfleusderau i'r etholwyr newydd i draethu eu barn ar y mesurau mewn dadl. Y gwahaniaeth rhwng Ty yr Arglwyddi a Ty y Cyffredin oedd hyn-fod y naill yn barod ac awyddus i roddi eu penderfyniadau dan farn y bobl, ac nad oedd dim a ofnai y llall yn fwy na hyn.
[No title]
Dadleuai Arglwydd Randolph Churchill fod Gweinyddiaeth Mr. Gladstone yn gyflawn o anghysonderau, a'i bod wedi treulio ei hamser i ddim "ond gwneyda dadwneyd yr un pethau, a'i bod yn sefyll yn hunan-gondemn- iedig. Addefai ei fod ef ac Arglwydd Hartington ill dau wedi newid eu meddwl er mis Rhagfyr diweddaf, ond nad oedd y cyfnewidiad ynddo ef ond peth distadl mewn cydmariaeth i'r cyfnewidiad yn Arglwydd Hartington. Yr oedd ef wedi iddo gael hysbysrwydd cyflawn am olygiadau y Ceid- wadwyr, wedi dilyn arweinwyr ei blaid, ond fod Arglwydd Hartington wedi iddo gael ei ddychrynu gan gynhadledd Leeds a bygyth- ion Mr. Chamberlain, wedi dilyn cynffon ei blaid ef.
[No title]
FEL yr ydym wedi sylwi yn ein herthygl arweiniol, cynhaliodd Bangor ei chynhad- ledd Esgobaethol yr wythnos ddiweddaf. Dydd ar ol dydd ymdrinid a gwaith y gwa- hanol gymdeithasau Eglwysig yn yr Esgob- aeth, sef y Gymdeithas er Lledaenu yr Eglwys Cymdeithas Adeiladu Eglwysi; y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol; Cymdeithas y Traethodau y Bwrdd Addysg yn Esgobaeth Bangor; Cym- deithas Addysg Clerigwyr Bangor y Gym- deithas Cynorthwyo Gwragddd Gweddwon ac Amddifaid y Clerigwyr; Cymdeithas Amddiffyniad yr Eglwys.
[No title]
DYWEDAI'R Esgob, gwaith ac enw yr hwn yn Merthyr Tydfil a ganmolir ac a gerir fwy fwy bob dydd, mai Bangor oedd yr esgob- aeth gyntaf i gynhal cynhadledd o'r fath, a bod lies ychwanegol flwyddyn ar ol blwydd- yn yn dilyn cynhadledd ar ol cynhadledd. Bu amryw o gwestiynau pwysig ynglyn a llwyddiant yr Eglwys dan sylw, a dangosid yr undeb Ilwyraf wrth ymdrin a'r moddion goreu i gario ymlaen ddibenion a gwaith y gwahanol gymdeithasau yn y dull mwyaf effeithiol.
[No title]
DYWEDAI adroddiad y Gymdeithas er Lledaenu yr Eglwys, fod incwm y gym- deithas eleni yn £1250, a'r gofynion yn 91152, a bod yn y banc yn awr tua £ 100, ond fod y tanysgrifiadau am y flwyddyn heb ddyfod i mewn. Ar gynygiad y Canon R. Williams, yr ysgrifenydd, mabwysiadwyd y cynllun o gynhal cenhadaeth flynyddol yn y plwyfydd a gynorthwyid gan y gymdeithas a phenodwyd pwyllgor i'r amcan hyny yn cynwys yr Esgob, y Deon, yr Archddiacon- iaid ac eraill.
[No title]
CYNWYSAI adroddiad Cymdeithas y Traeth- odau amryw sylwadau y dymunem i'n dar- llenwyr eu hystyried. Wrth drin ar y priodoldeb o argraphu yn Gymraeg The Dead Hand in the Free Churches" cwynai rhai o'r boneddigion nad ychwaneg o lyfrau ond mwy o ddarllen y llyfrau argraphedig oedd eisieu. Dyma wendid Eglwyswyr Cymreig, nid ydynt yn ddigon adnabyddus a. llyfrau Eglwysig. Dylai y llyfr a gy- hoeddwyd y llynedd o dan gyfarwyddid Cymdeithas Traethodau Bangor fod yn Haw pob Eglwyswr trwy Gymru, sef Athraw- iaeth yr Eglwys yn Wirionedd y Beibl." Y mae ynddo gyfoeth o wybodaeth. Enwid yn yr adroddiad fod cynllun wedi ei bender- fynu yn ol yr hwn yr arholid yr Ysgolion Sul, yn ysgolheigion ac yn athrawon, ar y drefn a fabwysiedir mewn perthynas a'r Ysgolion Sul.
[No title]
YN adroddiad Cymdeithas Amddiffyniad yr Eglwys, ceir sylwadau o ddyddordeb neill- duol i'r Eglwys Gymreig yn gyffredinol. Cyfeiria at ymdrechion y Dadgysylltwyr yn erbyn yr Eglwys yn y Dywysogaeth yn ystod y deuddeg mis diweddaf, ac at y zel o du'r Eglwys yn y Deheudir, ag oedd wedi peri i'r ymosodwyr ryfeddu ac wedi rhagori ar obeithion goreu'r Eglwyswyr eu hunain. Ymddangosai amddiffynwyr yn perthyn i wahanol bleidiau politicaidd, ar lwyfan cyffredin y gymdeithas er Amddiffyn yr Eglwys, ac yr oedd y gweithrediadau amddi- ffynol yn Esgobaeth Bangor wedi parlysu ymosodiadau swydjlogion cyflogedig. A yr adroddiad rhagddo gan awgrymu nad yw'r tawelwch presenol ond dros amser, ¿1 bod ymdrech yn cael ei wneud i ffurfio canghen- au Dadgysylltiad ynglyn a'r gwahanol gyfundebau Ymneillduol. Geilw hyn am ganghenau gwrthwyneb yn y Deoniaethau Gwladol, fel ag i wneyd pob Deoniaeth yn ganolbwynt gweithrediad mewn undeb drachefn a'r Gymdeithas er amddiffyn yr Eglwys yn yr esgobaeth. Rhoddir gair da i'r LLAN, a chwynir nad yw yn derbyn y gefnogaeth y mae ei rhagoriaethau yn deilyngu. Cyfeirir at y Misolyn newydd a fwriedir ddwyn allan drwy y cynorthwy o P,1000 oddiwrth y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol yn Llundain, a gobeithir y derbynia'r Misolyn gydymdeim- lad a chydweithrediad pob dosbarth o Eg- lwyswyr. Gyda phriodoldeb y terfyna'r adroddiad, drwy gyfeirio at y golled fawr a gafwyd drwy farwolaeth y diweddar Ddeon Edwards.
HELYNT CAPEL BEDYDDWYR CASTELLNEDD.
HELYNT CAPEL BEDYDDWYR CASTELLNEDD. TERFYNIAD YR ACHOS CYFREITHIOL. Yn Mrawdlys Sir Forganwg, a gynhaliwyd yn Abertawe ddydd Iau, dygodd Mr Curtis, cyfreith- iwr, Castellnedd, gynghaws yn erbyn y Parch C. S. Burn, diweddar weinidog y Bedyddwyr yn nghapel Orchard Place, Castellnedd. Mae y partion, fel y mae yn hysbys i'n darllenwyr, wedi bod yn ymgecru er's amser maith, a'r rhai a fyn- ychant y capel wedi ymranu ar y pwnc, yr hyn a arweiniodd i ymrafaelion gweradwyddus lawer gwaith, fel yr ydym eisioes wedi cyhoeddi. Hawl- iai Mr Curtis fil o bunau o iawn am athrod oddiar y Parch C. S. Burn, tra yr oedd Mi Burn ar y llaw arall yn hawlio dwy fil o bunau fel iawn oddi- ar Mr Curtis am niweidio ei gymeriad. Ym- ddangosodd Syr Hardinge Giffard, Q.C., A.S., Mr Bowen, Q.C., a Mr Howell Jeffres, o blaid Mr Curtis, a dros Mr Burns yr oedd Mr Mclntyre, Q.C., Mr Bowen Rowlands, Q.C., Mr B. T. Wil- liams, Mr Abel Thomas, a Mr Brynmor Jones. Syr Hardinge Giffard a gyfododd i egluro yr achwyniad, ac yn nghwrs ei anerchiad dywedodd fod Mr Burn wedi haeru wrth foneddiges neillduol fod Mr Curtis, yr hwn oedd yn flaenor a thysor- ydd y capel, wedi arfer twyll tuag at un fa yn ymgynghori ag ef. Ar y 25ain o Dachwedd, tra yr oedd Mr Curtis a'i deulu yn y capel, darllenodd Mr Burn y 12fed benod o Efengyl Marc, acyr oedd yn amlwg fod ganddo amcan neillduol pan yn darllen rhai adnodau, yn enwedig y rhai canlynol, pa rai a ddarllenodd yn araf ac yn bwysleisiol :— Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rai a chwen- ychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r prif eisteddleoedd mewn swper- au; y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddio y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy." Rhwng rhai o'r adnodau cymerodd Mr Burn seibiant, a phan edrychodd Mr Curtis tua'r pwlpud, gwelodd fod llygaid y pregethwr yn gyfeiriedig ato ef. Cwynid hefyd fod Mr Burns wedi cyhoeddi pregeth, Cwymp Dyn," yr hon yr haerid a gyfeiriai at Mr Curtis. Wedi rhoddi ychwaneg o ianylion, galwodd y dadleuydd galluog ar dystion ymlaen, sef Mr Curtis, ei fab, &c., y rhai a groesholwyd gan Mr McIntyre. Gohiriwyd am ychydig amser, a phan ail ymgynullodd y llys cynygiodd Syr Hardinge Giifard fod y pleidiau i ddyfodi gytun- deb a'u gilydd-cyn myned a'r mater yn mhellach, yr hyn a wnaed drwy i Mr Curtis a Mr Burn arwyddo cytundeb, yn yr hwn y cyjiwysid fod pob anghydfod rhyngddynt i derfynu. Dywedodd y Barnwr Stephen nad oedd wedi clywed y ddwy ochr, felly nis gallai roddi ei farn ar y ddadl, ond tybiai eu bod wedi gweithredu yn ddoeth, gan y byddai y costau yn aruthrol os cerid ef ymlaen. Yna terfynwyd yr achos. Teimla pleidwyr y ddwy ochr siomedigaeth fod yr achos wedi ei benderfynu yn y fath fodd, a haera y naill a'r llall mai eu dyn hwy a enillasai. Ni wnaed un rhyw arddangosiad o deimlad yn Nghastellnedd pan hysbyswyd y canlyniad.
[No title]
A ganlyn sydd ddyfyniad o lythyr carwr at ei gariadferch:—" Fy anwylyd, mi a lyncais y stanzl) oedd ar eich llythyr, o herwydd fy mod yn gwybod fod eich gwefusai chwi wedi cyffwrdd ag ef." Barbwr, yr wyf yn credu fod y tywel yma wedi bod mewn defnydd yn llawn digon o hyd." Mae o wedi bod mewn defnydd am chwech wythnos, ac nid oes neb wedi gweled bai arno o'r blaen." IDEA PAT AM DDIAL. vVel, Pat, ddarfu i Jim ddim dy ladd a'r gareg yna, ai do Naddo, ond buaswn yn leicio yn fawr pe buasai wedi gwneyd." I beth ?" Fel y gallwn gael gweled y gwalch yn cael ei grogi." "A ellwch chwi siarad yn Germanaeg ? gof- ynai masnachwr i ddyn ieuanc oedd yn ceisio lie fel gohebydd tramorol. Na fedraf yn hollol," oedd yr atebiad, ond y mae genyf frawd sydd yn gallu chwareu y German flute." Dylai profiad ddysgu rhywbeth i ddyn, oblegid y mae gan y Ffrancod ddiareb sydd yn dweyd, Nid yw asyn yn syrthio ddwywaith dros yr un gareg," gan hyny y mae y dyn na ddysgo ddim trwy brofiad, yn fwy twp nag asyn. Y mae tri rhyfeddod neillduol yn dueddol i daro menywod:—Pan yn bymtheg oed, y maent yn rhyfeddu pwy a gymerant; yn ail, pan yn 25 oed, y maent yn rhyfeddu nad ydynt wedi eu cymeryd ac yn drydydd, pan yn 35 oed, y maent yn rhyfeddu pwy allant gael a'u cymerant. Y mae yna ystori yn cael ei hadrodd am ddau ddyn yn Yorkshire, y rhai a gyd-deithiasant am dridiau mewn stage coach heb siarad cymaint ag un gair gyda'u gilydd. Ond ar y pedwerydd diwrnod fe fentrodd un sylwi ei bod yn foreu fine iawn." Pwy ddywedodd nad oedd ?" oedd yr atebiad.
EISTEDDFOD Y BALA.
EISTEDDFOD Y BALA. Cynhaliwyd yr uchod:dydd Mawrth, y 5ed cyfisol. mewn adeilad perthynol i'r Bala Mineral'Water Company." Dechreuwyd ar waith yr Eisteddfod trwy gynal Gorsedd, ar ben Tomen y Bala, dan arweiniad Clwydfardd, yr hwn hefyd oedd yn ar. wain cyfarfodydd y boreu a'r prydnawn. Ar ol gorphen gyda gweithrediadau yr Orsedd, yr oedd yn bryd dechreu ar gyfarfod y boreu. Llywydd y cyfarfod hwn ydoedd Col Evans Lloyd, ac aed yn mlaen drwy y Program yn y drefn ganlynol :— Alawon Cymreig gan Mr John Roberts (Alaw Elwy) a'i feibion. Anerchiadau gan y Beirdd. Beirniadaeth ar y cyfieithu o'r Saesneg i'r Gy- mraeg. Goreu Parch T. C. Jones, Ivy House, Bala. Cystadleuaeth datganu yr unawd How beautiful are the feet." Goreu Miss Pierce, Dol- gellau. Beirniadaeth yr englyn i Domen y Bala. Goreu Mr Hugh Jones (Hugh Myfyr), Llanllechid. Cystadleuaeth datganu y pedwarawd God is a Spirit." Ni ddaeth ond un parti ymlaen, sef parti o Ddolgellau, a gorfu iddynt ail ganu. Canmolai y beirniad (Mr Jenkins) y rhai hyn yn fawr, ac anogai ychwaneg i ymgeisio ar y triawdau a'r pedrawdau, gan y byddai hyny yn fantais fawr i'r corau. Yr oedd yn barnu mai o'r pedwar y Soprano oedd wedi canu oreu, a galwyd ar Miss Pierce i dderbyn y wobr. Beirniadaeth y traeth- odau ar Hanes Rhiwaedog. Goreu Mr R. Price Jones (gynt o'r Bala), ysgolfeistr Pentrecelyn. Ail, Mr J. E. Jones, Bryntyrion, Bala. Beirniad- aeth y Chwedl oreu yn tueddu at hyrwyddo tiriondeb at anifeiliaid." Goreu Miss Edmunds, Caernarfon. Cystadleuaeth datganu yr unawd "Total Eclipse." Daeth tri yn mlaen, goreu Mr J. Evans Jones, Dolgellau. Yna deuwyd at brif atdyniad y cyfarfod, sef Cadeirio y Bardd. Testyn y g&dair ydoedd awdl ar "Beibl i bawb o bobl y byd." Gwobr X10. Beirniaid, Clwydfardd ac Elis Wyn o Wyrfai. Derbyniwyd pedair o awdlau gwir dda, ond yr oedd un yn rhagori cryn lawer ar y lleill, sef eiddo Beiblwr. Gafwyd crynlddifyrwch wrthfyned drwy y seremoni o gadeirio y bardd buddugol, sef y Parch. T. Tudno Jones, St. David's, Liverpool, a chyfarch- wyd ef gan Cadvan. Y peth nesaf ydoedd cystad. leuaeth canu penillion gyda'r tanau. Un yn unig a ddaeth yn mlaen, sef Mr. Owen Richards, Dinas Mawddwy, a gorfu iddo ail ganu. Beirniadaeth y traethawd Saesneg ar "Affectation." Goreu, Miss Jones, The Killins, Queensferry, Fflint. Ail Priscilla. Cystadleuaeth datganu 11 Anthed y Cynhauaf." Dau gor yn cystadlu, sef Traws- fynydd, a chor y plant, Bala. Goreu, cor y Bala. Yna cafwyd anerchiad gan y llywydd. Cyfeiriodd at yr Eisteddfod, yn nghyda'r daioni [oedd wedi wneyd ar hyd yr oesau er dyrchafu chwaeth y genedl Gymreig, a chymhellai y gynulleidfa i beidio ymfoddloni ar fan gylarfodydd llenyddol, ond mynu Eisteddfod iawn yn y sir bob blwyddyn. Yr oedd yn bleser ganddo sicrhau fod boneddigion a boneddigesau y dref a'r ardal yn teimlo dyddor- deb neillduol yn yr Eisteddfod, ac y byddai yn bleser mawr ganddynt gael cynorthwyo yn y dyfodol os byddai i'r awgrym gael ei gario allan. Ar hyn terfynodd cyfarfod y boreu. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn am 1.30. Y llywydd ydoedd H. Robertson, Ysw., A.S., ac aed yn mlaen drwy y gwaith fel y canlyn :—Alawon Cymreig gan Mr. John Roberts, a'i feibion. Beirniadaeth y chwe' englyn i'r Afon Ddyfrdwy. Goreu Mr John Davies (Bardd Glas), Llanuwch- llyn. Cystadleuaeth chwareu ar y berdoneg. Un ddaeth yn mlaen, sef Miss Smith, Dolgellau, a dyfarnwyd (hi yn deilwng o'r wobr. Beirniad- aeth y Libretto. Goreu Mr. D. J. Thomas (Glan Padarn), Dinorwic. Cystadleuaeth datganu yr unawd He was despised." Cafodd y beirniad galluog ei foddhau yn fawr yn y gystadleuaeth hon, a dyfarnodd y wobr rhwng Miss M. Roberts, Dolgellau, a Miss M. E. Ellis, Bala. Beirniad- aeth y Traethodau ar Hynafiaethau Penllyn, Goreu Mr. R. Price Jones, Pentrecelyn. Cystad- leuaeth chwareu ar y Delyn Gymreig. Goreu Mr. Albert Roberts, Welsh Harpist, Newtown. Cystadleuaeth canu penillion gyda'r tanau. Rhoddwyd y wobr i Mr. Owen Prichard, Dinas, a galwyd arno i ail ganu. Beirniadaeth y bryddest ar Llywarch Hen. Ni dderbyniodd y beirniad ond un, sef eiddo Tudur Aled, ac nid oedd ganddo ddim neillduol i ddweyd am dani. Nid oedd yn cynwys llawer o ddiffygion, nac ychwaith lawer o ragoriaethau. Am hyny, dyfarnodd y beirniad haner y wobr i'r awdwr, sef Mr. Fred Buckingham, Porthmadog. Cystadleuaeth datganu yr unawd "Revenge." Goreu Mr. Edward Willams, Goleuad" Office, Dolgellau. Yna deuwyd at gystadleuaeth gorawl ar 0 great is the depth (Mendelssohn), gwobr £30. Siomwyd y cyfarfod i raddau pan wnaeth dim ond cor y Bala ei ymddangosiad. Canodd y cor hwn yn bur dda, a chafodd ganmoliaeth ucliel gan y beirniad, yn neillduol y Bass. Er nad oedd ond un yn barod i gystadlu, yr oedd y beirniad o'r farn ei fod yn wir deilwng o'r wobr, a daeth yr arweinydd, sef Gwrtheyrn, yn mlaen i'w derbyn. Cyn terfynu cafwyd anerchiad gan y llywydd. Cynhaliwyd cyngherdd mawreddog nos Lun, ac yn yr hwyr ddiwrnod yr Eisteddfod, dan lywydd- iaeth R. J. Ll. Price, Ysw., Rhiwlas. Y datgan- wyr oeddynt :-Miss Jones (Mair Eifion), Miss M. E. Ellis, Miss Jones Evans, Bala; Miss Entwistle, Miss Wood, D. Jenkins, Mus. Bac., Eos Morlais, a James Sauvage, R.A.M., Llundain. Cyfeiliwyd yn ystod y dydd gan Prof. M. W. Griffith, Dolgellau; Mr. D. T. Evans, Bala; a Mri. Roberts, telynwyr, Drefnewydd.
[No title]
Mae yr achlysur a wna ddyn o ambell un yn gwneyd ffwl o un arall, y rheswm o hyny ydyw, fod un yn barod i gyfarfod yr achlysur, a'r llall yn meddwl ei fod pan nad ydyw. .Y Cymerwch o bobl orfoesgar. Nid oedd yn arwydd dda o gwbl pan y cerddodd y llwynog i mewn i lety'r ieir, ac y dywedodd, Boreu da i. chwi oil, fy nghyfeillion anwyl, anwyl i."