Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

ANTHEM NEWYDD EOS LLECHYD.

DYLANWAD DARLUN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYLANWAD DARLUN. Cymerwyd yr ystori ddyddorol a ganlyn allan o Gyfaill yr Aelwyd, cylchgrawn poblogaidd dan ol- ygiaeth Mr Ber.itll Gwynfe Evans:—"Mae gwraig weddw yn byw yn Mhenrhyn-deudraeth, Meirionydd, ac iddi amryw ferched. Nid yw y wraig ond yn der- byn cymhorfch plwyfol at|fyw a magu y rhai bychain, felly gorfodir y genethod i droi allan mor fuan ag y caniata y bwrdd ysgol iddynt wneyd. Mae dwy neu dair wedi troi allan fel hyn i weini yn y byd. Ryw- bryd yn y flwyddyn 1883 anfonodd un o'r merched hyn ei darlun i berthynasau oedd ganddi yn America. Nid wyf yn meddwl fod eisiau esbonio ar hyn, na gair o eglurhad fodd yn y byd, am ei fod yn beth a wneir gan filoedd. Cyn pen hir, dyma i'r ferch (yr hon a alwn ni am y tro yn R) lythyr oddiwrth ddyn ieuane parchus a thaclus yn America, yn gofyn a ddeuai hi drosodd yno, fod ganddo le da iddi, a'l fod wedi meddwl oddiwrth ei darlun y gwnai hi ei dro of Nid oes ynom y duedd leiaf i ddarostwng dim ar R wrth ddweyd nad oedd, wrth ddanfon ei darlun i'r America, yn danfon darlun o'r harddaf o ferched Penrhyn-deudraeth. Mae yn digwydd y gallesid cael gwell darlun o rai sydd yno eto ar ol. Ond, fodd bynag, dyma'r ffaith hoffodd y gwr ieuane hi oddi wrth ei darlun. Tarawodd hyn y teulu a, syn- dod. Anfonwyd rhyw resymau yn ol a dybid a fuasai yn ddigon:i ddistewi dieithrddyn ond daeth llythyr drachefn yn gwasgu ar R. i ddyfod yno, fod yno lawer gwell lie i enill arian nag yn Nghymru. Yn y llythyr hwn addawodd dalu ei chludiad, os deuai. Fel y rheswm diweddaf, i gael llonydd ganddo, anfonodd R. mai gweini yr oedd hi, a bod y cyflog yn fychan iawn yn Nghymru yn awr, ac y byddai drwy hyn yn rhwym o fod yn hir cyn y gall- asai gasglu digon o arian i gael y pethau angen- rheidiol i fyned mor bell, a thaith mor gostus. Der- byniwyd gyda throad y post (yr hyn a nodweddai bob llythyr), os byddai hi mor garedig a dweyd wrtho ef pa faint o arian a wnai y tro iddi ddarparu ei hun ar gyfer y daith, y byddai iddo eu hanfon iddi. An- fonwyd llythyr yn ol ei bod yn ddiolchgar am ei gynygion caredig a haelfrydig, ond gan mai gweini yr oedd, ac nad oedd ganddi ddim mewn golwg wedi cyrhaedd America ond gweini, y byddai yn lied hir cyn y gallasai enill digon i ad-dalu yr arian yn ol; ac os gallasai gael gwybod, pa fodd yr oedd yn dis- gwyl i'r arian gael eu had-dalu ? Gwelent fod y cludiad a'r swm angenrheidiol i ddarparu ar gyfer cychwyn yn llawer i ferch ieuanc geisio eu had-dalu. Atebwyd yn ol fod ganddo ef le iddi wneyd ei char- tref tra byddai byw, felly nad oedd angen iddi gwestiyno pa fodd i ad-dalu yr arian yn ol. Bron nad oedd y teulu yn meddwl Jiai breuddwydio yr oeddynt. Yr oedd pob llythyr yn dwyn rhyw ych- wanegiad oedd, a dywedyd y lleiaf, yn syndod. An- fonwyd yn ol iddo y gallai hi ddarparu ei hun ar gyfer y daith gyda chwe' phunt at y gyflog yr oedd yn gweini am dano ar y pryd. Gyda hyny, ceisiwyd ganddo roddi rhywfaint o oleuni pa fath le oedd ganddo, ac a oedd ganddo foddion bywoliaeth yn annibynol ar lafur, a phethau eraill. Daeth yr arian ar droad y post, gyda'r eglurhad fod ganddo fferm o'i eiddo ei hun, a nifer o geffylau, a gwartheg, a defaid a chwaneg. Derbyniwyd y tro hwn hysbysrwydd y byddai ei thocyn cludiad (pass) yn cyrhaedd iddi erbyn Calanmai (Mai 13eg—pen tymhor 1884); am iddi ofalu fod pobpeth mor barod ag y byddai yn bosibl erbyn hyny, rhag rhwystro y pass. Anfonodd y perthynasau hefyd i'r un ystyr am iddi frysio dyfod drosodd. Felly, yn mis Mai diweddaf, aeth R drosodd am America a chyfarfyddwyd hi gan y gwr ieuanc, yn ol y trefniadau. Aeth a hi, fel Isaac gynt, i dy ei fam a'i dad a bu yno am wythnos, yna priodasant. Mae llythyrau wedi dyfod oddiwrthi at ei mam yn dweyd fod yr oil o'r hyn a ysgrifenodd y gwr ieuanc yn wir ac fod ganddo, heblaw hyny, ar ddiwrnod eu priodas, 1400p o aur yn y ty Byddant yn eu cerbyd bob Sul yn myned daith tair milldir i'r capel Cymraeg agosaf. Mae llawer o enethod eto yn Mhenrhyn-deudraeth fuasai yn hoffi bod yn lie R, ond yehydig sydd yno fuasai yn foddlon mentro fel y gwnaeth hi."

ADGOFION GAN HENAGWR.

CYNWRF YN Y GWERSYLL METHOD-ISTAIDD.

DYNION RHAGFARNLLYD.

---NEWYDDIADURON I'R DOSBARTHIADAU…

J. PRICHARD.

CWMFELIN.

EGLWYSFACH.

[No title]

LLANFACHRETH, MON.

TREDEGAR.

ABERTEIFI.

[No title]