Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
--------_-------_._- --------__-------------------_-------__-KEWYDDIGN…
KEWYDDIGN CYFFREDINOL. CANON NEWYDD WSSTMINLTEE.—Dydd Gwener, gorseddwyd y Parch Capel Curo yn ganon yn Mynachlog Westminster, yn lie y Parch Boyd Carpenter, yr hwn a ddyrchafwyd yn Esgob Ripon. 11 BODDIAD Y GWAITH GLO GEH. MOSTYN.—Mae pob ymdrech wedi ei wneyd i sugno y dwfr allan o'r gwaith glo uchod, ac er gwaethaf y ffaith fod y sugnedyddion cryfaf yn cael eu defnyddio, mae pobpeth hyd yma yn ofer, ac ofnir na ellir weithio yno mwy, yn gymaint a bod rhai cyfarwydd o'r farn fod y mor wedi tori i mewn. CYTHRWFL YN CHATHAM.—Torodd eythrwfl ar. sVlydus allan ymyso, y milwyr yn Chatham yr wythnos ddiweddaf mewn canlyniad i filwr gael ei. daraw gan un o gatrawd arall. Gymaint ydoedd y cyffro fel y buwyd am oriau cyn llwyddo i ad- feru trefn. Cymerwyd lliaws o honynt i'r ddalfa. DEDFRYD MARWOLAETH YN SHEFFIELD. -Yn mrawdlys Sheffield, yr wythnos ddiweddaf, cat- odd Joseph Laycock, 34 mlwydd oed, yr hwn a enillai ei fywoliaeth fel hawker, ei ddedfrydu i ei ddienyddio am lofruddio ei wraig a phed- war o blant ar y lOfed cynfisol. MARWOLAETH YR ESGOB CLAUGHTON.—Bu yr Esgob Claughton tarw nos Lun diweddaf yn ei breswylfod. Yr oedd y prelad ymadawedig yn 70 mlwydd oed, a bu yn ddilynol yn esgob yn St. Helena a Colombo. Yn 1871 penodwyd ef yn Archddiacon Llundain ac yn Ganon St. Paul, ac efe ydoedd prif gaplan y fyddin Brydeinig. Dywedir mai Switzerland ydyw yr unig lyw- odraeth wirioneddol Werinol ar wyneb y ddaear; canys nid oes yno. iilwyr na neb yn derbyn cyflog- au aruthrol o i'awrion. Cyflog yr Arlywydd ydyw 3000 o ddoleri y flwyddyn; ac nid yw y barnwyr yn derbyn ondd 1,200 o ddoleri y flwyddyn. Ys- tyrir dyn yno y bydd ei incwm yn 5000 o ddoleri y flwyddyn yn dra chyfoethog. PALAS BRENHINOL AR DAN.—Cymerodd y Palas Brenhinol yn Athen dan boreu ddydd Mawrth trwy ddiofalwch amryw weithwyr oedd yn gwneyd adgyweiriadau ar y lie. Er fod holl dan beirianau y ddinas ar lawn gwaith i geisio ei ddiffodd, yr oedd tan yn parhau i ymgynddeiriogi. Y mae tri o'r tanbeirianwyr wedi colli eu bywydau wrth geisio achub y palas. Parhaodd y tan i losgi am ddyddiau. MEDDYGINIAETH ARALL AT Y GERI MARWOL.— Ysgrifena gohebydd i un o'n cyfoesolion :—Mae y feddyginiaeth a ganlyn wedi profi yn wellhad i mi a lluaws ereill a fu yn dyoddef o dan y geri marwol yn y flwyddyn 1866: Cymysger llonaid llwy de o bupur Cayenne, llonaid llwy fwrdd o halen a glasiad o frandi mewn haner peint; yna llanwer yr haner peint a dwfr poeth, a rhodder ef i'w yfed i'r dioddefydd mor boeth ag y gallo ei gymeryd. MARWOLAETH MR. R. S. HUDSON.— Dydd Mercher, derbyniwyd hysbysrwydd am farwol- aeth Mr R. S. Hudson, Bache Hall, Caerlleon, yr hyn gymerodd le yn Scarborough, lie yr oedd ar ymweliad er's wythnosau. Mae ei enw yn ad- nabyddus drwy ein gwlad fel gwneuthurwr Hudson's Dry Soap," ac yr oedd yn hynod hael- ionus tuag at bob amcan daionus, a chyfranodd yn helaeth tuag at Goleg Gogledd Cymru. GWERTHU DIODYDD MEDDWOL I BLANT.—Yn llys ynadon sirol Caernarfon, yr wythnos ddi- weddaf, dirwywyd John Pritchard, o dafarndy y Blue Bell, i X5 a'r costau am werthu diodydd meddwol i blant dan 16 oed. Rhoddodd yr yn- adon gerydd llym iddo, gan ychwanegu y dylai deimlo yn ddiolchgar nad oedd y drwydded yn cael ei chymeryd oddiarno. Mae lliaws mawr o blant yn cael eu cyflenwi a diodydd meddwol mewn tafarnau yn Nghymru, a dylai yr awdur- dodau fabwysiadu moddion llym er rhoddi terfyn ar yr arferiad gwrthun. HELYNT DR. PRICE, PONTYPRIDD.—Yn Mrawd- lys Morganwg, yr hwn a gynhaliwyd yn Abertawe yr wythnos ddiweddaf, dygodd Dr. Price gyng- haws yn erbyn y Barnwr Gwilym Williams, yr Arolygydd Matthews, a'r Rhingyll Hoyle am iddynt ei rwystro i losgi ei blentyn. Hawliai fil- oedd o bunau o iawn, ond wedi i'r barnwr symio i fyny ac i'r rheithwyr ymneillduo, taflwyd rhai o'r achwynion allan, ac am yr un a brofwyd yn erbyn Hoyle, dyfarnwyd ffyrling o iawn i Dr. Price, y 0 gwahanol bartyon i dalu eu treuliadau eu hunain, y rhai fyddant yn lied drwm. DAMWAIN DDYCHRYNLLYD. -Yn gynar nos Fercher diweddaf, digwyddodd damwain ddych- rynllyd vn ngwersyllfa ypeirianwyr, yn Chatham. Clywodd y gwyliwr swn ergyd yn nghyfeiriad ystafell y swyddogion, a phan aethpwyd i edrych. yr achos, deuwyd o hyd i gorph gwraig ieuanc o'r enw Stratham, gwr yr hon oedd yn ngwasanaeth un o'r swyddogion, gyda pelen o chwylddrwyll 0 y wedi myned trwy ei dwyfron. Amos Chick, gwas arall yn y lie, a'r hwn a gymerwyd i fyny, a ddywedodd ei fod ef yn glanhau chwylddryll, yr hwn a dybiai oedd heb ei lwytho, ac i'r ergyd fyned allan, a thrwy y ffenestr lie yr oedd y drancedig yn eistedd gyda'i gwniadwaith. CWM RHONDDA.—Achoswyd llawer o ddychryn yn y lie uchod, ddydd Mawrth diweddal, gan daeniad y newydd fod glowr, o'r enw Thomas Trimmel, 40 mlwydd oed, wedi marw mewn llai na phedair awr ar hugain oddiwrth ymosodiad o'r cholera. Yr oedd y trancedig wedi bod yn treulio y rhan fwyaf o'r diwrnod blaenorol ar Fynydd Llanwonno, yn edrych ar y gwirloddolwyr yn myned trwy eu harholiad blynyddol, ac fe ddy- wedir iddo yfed ychydig wydriadau o ddwfr lleid- iog yno. Aeth i'w wely nos Lun yn ymddangos- iadol iach, ond yn gynar yn y boreu, cymerwyd ef yn glaf o'r diarrhoea, a bu farw mewn poen mawr oddeutu deg o'r gloch y noson hono. Galwyd ar y Meddygon H. N. Davies a Vachell i mewn, y rhai oeddynt o dan yr argyhoeddiad mai cholera oedd yr achos o'i farwolaeth, a gorchym- ynasant losgi pob dim oedd y trancedig yn ei wisgo, ynghyd a dillad y gwely. Cyngliorasant ei wraig a'i blant i adael y ty. CYFARFODYDD CEIDWADOL YN BANGOR A'R BALA. —Dydd Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod- ydd Ceidwadol mawreddog yn Bangor a'r Bala. Yn y cyntaf cafwyd anerchiadau gan larll Caer- narfon, Mr. H. C. Raikes, &c., ac yn yr ail gan Syr W. Hart Dyke, Syr W. W. Wynn, Mr. Price, Rhiwlas, &c. Drwg genym na chaniata gofod i ni helaethu arnynt yr wythnos hon. Y SAFETY LAMP.—Y mae yn ffaith nad yw y lamp a ddefnyddir gan ein cyfeillion y glowyr yn cael ei ystyried y dyddiaa hyn mor ddiberygl ag y mae wedi bod yn cael ei ystyried, canys y mae yn sicr ei bod, er yn gloedig, wedi bod yn achos o ddifrodiadau mawrion. Yn ddiweddar y mae ymgais wedi ei wneyd er dyfod o hyd i lamp newydd ddiogel i'w defnyddio gan lowyr. Y mae beirniadaeth bellach wedi ei roddi ar yr 108 o lampau a dderbyniwyd yn ateb yn dda mewn amgylchiadau cyffredin, ond pan eu rhoddid i Ily brawf pendant, torent oil i lawr. O'r oil a dder- byniwyd, nid oes ond dwy yn cael eu nodi yn neillduol, sef y Marsant," lamp a thri gause, yr hon a ddeuai yn agos iawn i'r amodau a ofynid, ynghyd a. lamp Mr. David Morgan Pontypridd, yr hon a ystyriai y beirniaid yn ail mewn rhagor- iaeth. Y beirniaid oeddynt Mr. Burt, A.S., y Proffeswr Adams, cynrychiolydd y Royal Society, Syr Frederick Abel, a'r Proffeswr Sylvanus Thompson. Y mae yn wir ddrwg genym nad oes yr un o'r llusernau hyn wedi dyfod i fyny a'r amodau yn hollol. LLOFRUDDIAETII DDWBL YN SIR LINCOLN.— Dydd Mercher diweddaf, dygwyd dynes ieuanc o'r enw Sarah Ann Rippin, gwraig i lafurwr yn Woolsthorpe-on-Colsterworth, ger Grantham, ger- bron Mr. R. H. Johnson, llys heddgeidwadol Sdittlegate (Grantham), ar y cyhuddiad o lofrudd- io yn wirfoddol ei dau blentyn, un yn dair mlwydd a'r Hall yn dri mis ar ddeg oed. Oddiwrth y tystiolaethau, ymddengys fod y garchares wedi ei gweled ddydd Llun (Bank Holiday) yn ymyl llyn yn Colsterwortli, gyda'r ddau blentyn. Yn ddi- lynol i hyn, dychwelodd adref hebddynt, gyda'i ddillad yn wlyb ac yn fudr. Dywedodd wrth gymydoges ei bod wedi boddi ei dau blentyn, a dangosodd y lie iddi o ffenestr y ty, gan ychwan- egu ei bod wedi ymdrechu boddi ei hun, ond iddi fethu yn ei hamcan. Yn y trengholiad a gynhal- iwyd y dydd canlynol, dychwelwyd rheithfarn o Lofruddiaeth gwirfoddol yn erbyn y ddynes anffodus, ac ar y cyhuddiad yna, dedfrydwyd hi i sefyll ei phrawf yn mrawdlys nesaf Lincoln. DIFROD MAWR AR FYWYDAU AC EIDDO.—Drwy ystod yr wythnos ddiweddaf, yr oedd yr hin yn anarferol o boeth-yn fwy felly mewn rhai parth- au, nag a deimlwyd er's llawer o flynyddau. Dydd Sadwrn, torodd ystormydd erchyll o fellt a tharanau allan dros Fanchester a'r wlad gylch. ynol, ac mewn amryw ranau o ganolbarth Lloegr. Nos Sul, pasiodd ystorm enbyd dros Gaernarfon, Bangor, a'r cylchoedd, ond ni chlywsom iddi wneyd niwed. Dydd Llun, pasiodd ystorm erwin o'r un natur dros ogledd-barth Ynys Manaw, gan achosi difrod mawr mewn tref a gwlad. Niweidiwyd llawer o adeiladau, ac y mae y colledion yn amryw filoedd o bunau dros yr holl wlad. Dilynid rhai o'r ystormydd uchod gan gawodydd o genllysg, gwlaw, a rhew. Cyfododd yr afon Irwell amryw droedfeddi mewn ychydig amser, ddydd Sadwrn. Ond yn Llandudno, pryd- nawn dydd Sul y torodd yr ystorm ryfeddaf o'r oil allan. Yr oedd yr hin drwy'r dydd wedi bod braidd yn annyoddefol o boeth. Yn y prydnawn, yn dra sydyn, daeth cwmwl bychan, dudew, dros y dref o gyfeiriad Penmaenbach. Ni orchuddiai y cwmwl yma ond rhan fechan iawn o'r wybren. Yn sydyn dechreuodd mellt fforchog, peryglua, fflachio i lawr o'r cwmwl, a rhuthrodd y miloedd ymwelwyr mewn dychryn oddiar y tywod i'w lletydai. Tarawodd un fellten ddau bolyn ar lan y mor, yn agos iawn i dai Craigydon, ac wedi malurio y coed hyn yn ddrylliau, rhedodd ar hyd y lan gan daflu y tywod a'r ceryg i fyny yn gwmwl tew. Yr oedd y twrf a ganlynodd y fellten yma yn ddychrynllyd i'r eithaf, a dych. rynwyd pawb yn y lie gan yr olygfa ryfedd. Yna yn fuan wedyn, trodd lliw y mor yn y bau yn wyrdd, a daeth yn ferw trochionog mewn mynud o'r bron. Ni ddisgynodd yr un defnyn o wlaw yn ystod yr ystorm, yr hon ni pharhaodd ond ychydig fynudau.
GOHIRIAD Y SENEDD.
Boreu dydd Iau. GOHIRIAD Y SENEDD. Gohiriwyd y Senedd heddyw, ac ymgyf- arfydda eto yn yr Hydref, pryd y cymerir dan ystyriaeth Estyniad yr Etholfraint.
CAMDRIN LLYSGENHADWR. CHINEAIDD.
CAMDRIN LLYSGENHADWR. CHINEAIDD. Llabyddiwyd y Llysgenhadwr Chineaidd a, cheryg yn heolydd British Columbia dydd Mawrth gan y trigolion y rhai a deimlent gasineb angerddol tuag at y Chineaid.
Family Notices
Genedigaethau, Priodasau, a Marwolaethau. GENEDIGAETHAU. Davies-Awst 3, yn Tanyfron. Gyffin, Uonwy, priod y Parch. Grimaldi Davies, ar fab. Grant—Awst 4, yn Mountain Square, Bangor, priod Mr. Grant (gynt ringyll yn y Royal Welsh Fusiliers), ar fab. Hoyd-Awst 9, priod Mr. Morgan Lloyd, Llaw feddyg, Ty Llanllear, Conwyl Elfed, ar fab. Thomas—Ar y 5ed cyfisol, priod y Parch. W. Glanffrwd Thomas, ficer, Llanelwy, ar fab. PRIODASAU. Griffith—Jones—Awst 9, yn Eglwys St. Cybi, Caergybi, fan y Parch. W. E. Jones, curad, Mr. William onathan Griffith, fireman, a Miss Ann Jones—y ddau o Gaergybi. Herbison-Davies-Awst 7, yn Eglwys St. Mair, Caer- fyrddin, gaii y Parch T. Carolau, Mr. J. Herbison (Inland Revenue Office), a, Mary Jane, merch henaf y diweddar Mr. E. H. N. Davies-y ddauo Gaerfyrddin. MARWOLAETHAU. Jones—Awst 6, Sarah, anwyl briod Mr. Robert Owen Jones, Hall Place, Pwllheli, a chweched ferch y di- weddar Mr. Thomas Hughes, meddyg, Pwllheli. Joiies-.A,wst 3, yn 80 mlwydd oed, yn ei breswvlfod, Church Street, Llanrwst, Mr. Morris Jones. Phillips-Awst 6, Mr. John William Phillips, cyfreith- iwr, yn Bolahaul, Caerfyrddin, yn 31 mlwydd oed. Am hyn 'rwyf yn wylo, wylo, wylo, Nis caf mewn byd o'i gwmni clyd, Cha'i ddim o'i weled mwy. Roberts—Awst 4, yn 88 mlwydd oed, Mr. John Roberts, Vrondirion, Dolgellau, gynt o Bryncemlyn.
---_--------'--RHYMNI.
RHYMNI. GWYL DE YB YSCOUON SUI, EGLWYSIG.Byddvvch cystal a chywiro camgymeriad o'm heiddo yn y LLAN diweddaf. Yr oedd uwchlaw 1300 yn ffurfio yr orymdaith, ac eisteddodd tua 1800 i gyfranogi o'r te, &c. Hefyd, gofalai y rhai canlynol am fyrddau yn ychwanegol at y rhai a nodwyd,—Mrs. Trump, Mrs. T. Hall Redwood Mrs. Jones, Tre York.-Go- hebydd. Un arall a ysgrifenaGan fod adroddiad o de parti yr Eglwys yn y lie hwn wedi cael ei anfon i'r LLAN, cystal iddo fod yn gywir a bod yn wallus. Ynghylch y rhifedi, yn ol y tocynau a roddwyd allan yr oedd athrawon a dysgyblion yr Ysgol Sul yn rhifo tri chant ar ddog a naw. Ac heblaw aelodau yr ysgol daeth dros bedwar cant a phedwar ugain ereill i'r te. Cafodd dros ddau cant ar bymtheg a phed- war ugain de. Heblaw y boneddigesau a enwyd a wasanaethent wrth y byrddau, yr oedd Mrs. Hall Redwood, y Lawn Mrs. Jones, Tre York; a Mrs. Price, Price Street.-Gohebydd arall.
[No title]
Tri pheth ni fawr brisir am danynt hyd nes yr el yn rhy ddiweddar cynghor ly doeth, rhybudd yr oedranus, a barn cydwybod.
MARWOLAETH SYDYN Y DUe WELLINGTON.
MARWOLAETH SYDYN Y DUe WELLINGTON. Bu y boneddwr hwn farw yn hynod ddi- Symwth yn ngorsaf Brighton prydnawn ddoe. Mab ydoedd i'r Due o Wellington a gyflawnodd y fath wrhydri yn mrwydr Waterloo.
TRYWANIAD MERCHED YN GENEVA.
TRYWANIAD MERCHED YN GENEVA. Neithiwr, cafwyd fod dwy ferch wedi marw yn Geneva oddiwrth effeithiau try- wanu. Yn anffodus ni wyddis pwy gyf- lawnodd y gweithredoedd ysgeler, ond mae yr awdurdodau yn gwneyd ymchwiliadau.
-------....;...---CYNHADLEDD…
Eglwys yn y rhan yma o Gymru, ac ar ran y lleygwyr dadganai eu gofid o'i golli. Sylwai ar ol hyn fod y pwngc oedd ger bron y cyfarfod yn un pwysig. Hawdd ei osod ar lawr, llefaru arno, darllen papyr arno, ond anhawdd ei ddwyn i weithrediad. Dylid cael cyflawni gwasanaeth yr Eglwys yn y dull mwyaf hoff gan y bobl, modd y bydd ymlyniad rhwng yr holl Eglwyswyr, yr hyn ni cheir yn awr ond mewn rhan. Lie ceir hyn tynir y bobl i'r Eglwys. a chant dangne-fedd yn- ddi. Lie bo bywyd yn yr Eglwys, buan y gwel- ant eu daledswyddau, ac y cyflawnant hwy. Dygai ei dystiolaeth fod gwelliant mawr wedi cymeryd lie mewn llawer man, ond mynai fod llawer lie eto nad oedd hyny wedi digwydd. Ar bwy yr oedd y bai, ni cheisiai ddweyd. Tebyg yw fod bai o bob tu, felly bydd yn gyffredin. A diau fod bai lIe na bo bywyd. Os ydym am fedd- ianu'r safle a ddylem yn y Dywysogaeth, rhaid i ni chwilio allan y plwyfi hyny lie na chyflawnir y gwaith, a cheisio ei wella. Rhaid ei wneyd, nid mewn ysbryd beio, ond er mwyn cael allan fanau gweinion ein cyfundrefn. Boed y gwasanaeth yn gyfryw ag a atyno'r bobl drwy fath o ddylanwad dyr-dyniadol, nas gellir ei wrthsefyll. Y Parch. D. Lloyd, Llandrygarn, a gyfeiriodd at yr hyn a ddywedwyd wrtho gan gyd-deithiwr.— Mynych y clywais am ddyledswyddau'r lleygwyr, ond dim erioed am eu hawliau honai na cheid byth gyd-weithrediad heb fod llais i'r lleygwyr yn newisiad eu gweinidogion, o'r urddasolion hyd at yr isaf. Addefai ei bod yn adeg gyfyng ar yr Eglwys, ond sylwai mai ar donau y bu yr Eglwys, ac mai dyna fel y bydd ond odid. Yna cyfeiriodd at gynllun yr oedd efe fel ysgrifenydd y symudiad yn teimlo dyddordeb neillduol ynddo, sef arholiadau aelodau ac athrawon ein hysgolion Sul. Dywedai nad oedd rhwystrau yn un rheswm dros i ni lwfrhau. Rhaid rhwyfo yn erbyn y dwfr: a rhaid cael cydweith- rediad dyn a chydweithrediad Duw hefyd. Y Parch. D. W. Thomas a drodd rediad yr ym- drafodaeth i gyfeiriad gwahanol i'r hyn ydoedd cyn yma. Yr hyn oedd ganddo mewn golwg oedd, nid cymaint dyledswyddau lleygwyr, ond pa fodd yr oeddynt i'w cyflawni: ac, os hyn a olygid, rhaid addef fod geiriad y pwnc ar y tafleni yn un anffortunus a chamarweiniol. Yr oedd y ddau a ddarllenasant bapyrau wedi methu'r nod. Y owestiwn yn ngolwg Mr. Thomas, oedd, pa mor bell y gellid gwneyd defnydd o wasanaeth lleyg- wyr. Nid oedd dim gwrthwynebiad i leygwyr weinyddu mewn adeiladau heb eu cysegru, a myn rhai y gellid wrth eu gwasanaeth mewn lleoedd oysegredig hefyd, a chyfeiriodd at farn Esgob Lichfield. Yna dangosodd beth oedd yn cael ei wneyd gan Gymro o'r enw Robert Humphreys, yn esgobaeth Carlisle. Gofidiai am nad oedd yr un ysbryd wedi cymeryd gafael yn yr Eglwyswyr sydd wedi ymfudo i'r America, lie y ceir tua 500 o gapelydd Cymreig, a dim un Eglwys. Cyfeiriodd hefyd at farn Esgob Lincoln, yr hwn sydd yn awdurdod pwysig, y gellid arfer ei gwasanaeth yn yr Eglwysi plwyfol. Ond ei farn bersonol ef oedd, os y derbynid lleygwyr i bwlpudau yr Eglwys heb eu hordeinio, y byddid yn ddlieu'r nod gwahan- iaethol rhwng clerigwyr a lleygwyr yn meddwl y cyhoedd, yr hyn na fyddai'n ddymunol ei wneyd. Gwelir oddiwrth ragymadrodd trefn urddiad, fod tair -gradd o weinidogion yn perthyn i'r Eglwys, sef esgobion, offeiriaid, a diaconiaid. Eisiau gwneyd y drydedd yn barhaol sydd, ac nid fel y mae yn awr, yn fath o gareg farch" i esgyn i'r offeiriadaeth. I Y Parch. J. Griffith, Llanymawddwy, a ddywedai mai un o anhebgorion llwyddiant yw dwyn gwasanaeth ein Heglwys i gyrhaedd y werin bobl yn Eglwysi ein gwlad. Mae Eglwysi lie nad oes dim bywyd ynddynt. Mae amser y ddeuawd rhwng y Person a'r Clochydd wedi myned heibio, er fod eithriadau. Dylid talfyru'r gwasanaeth fel na bo yn ormod o faiohar neb. Anallu i ddar- llen fu'n rhwystr mawr. Nis gallai'r cyfryw ddwyn y gwasanaeth yn mlaen yn wresog a serchog; ond gallwn yn awr edrych yn mlaen hyd yr amser y gall pawb ddarllen, a "chymeryd eu rhan yn y gwasanaeth. Mr. Thomas Roberts, Porthdinorwig, a goeliai "fod dynion da eu gair, yn nawn yr Ysbryd Glân" i'w cael yn y dyddiau hyn yn gystal ag yn amser yr Apostolion: a dylent gael cyfleusderau yn yr Eglwys i addysgu'r ieuainc a diddanu'r hen. Lie nad ydynt yn cael eu hietwnderau, nid ydynt yn cael bod yn athrawon yn yr Eglwys. Fel hyn yr oedd y lleygwyr yn cael cam. Yr oedd yr Eglwys yn colli dynion da, ac yn cymeryd dynion ieuainc dibrofiad i wneyd y gwaith. Pe bai dynion cymhwys y lie wedi eu hordeinio, gallasent lanw llawer bwlch, pan bo offeiriad yn wael, neu eisiau seibiant. Cwynai nad oedd offeiriaid yn egwyddori plant: a bod llawer yn myned o faes yr Eglwys i feusydd Ymneillduaeth i gael cyfleusdra addysgiant. Beiai hefyd fod dwy neu dair o Eglwysi o dan ofal yr un gwr: a gofynai beth a allai'r cyfryw wneyd ond eu gadael heb eu hiawnderau. Ac am y dyled- swyddau, annogai ei gydleygwyr i gydweithredu a'r offeiriaid; a pha beth bynag oedd ganddynt i gwyno o'i blegid, am iddynt beidio dweyd dim mewn ysbryd chwerw. Mr. William Roberts, Aber, a sylwai ein bod oil yn oil yn aelodau o'r un gymdeithas, ac yn blant i'r un Tad: am hyny ein dyledswydd yw cyd-ystyried pa fodd i lwyddo'r gymdeithas i'r hon y perthynwn. Cwynai na buasai y rhybudd, neu'r alwad i'r cyfar- fod wedi ei roddi yn Gymraeg. Yr ydym mewn Esgobaeth Gymreig, Cymry ydym ni; ac y mae yn rhaid fod yn feddianol ar yr ysbryd Cymreig. Yr oedd y wasg Gymreig yn un o'r peirianau mwypf nerthol a dylanwadol. Dyiai'r Eglwys ei chefnogi. Nid oedd y LLAN y cyfryw ag y dylai fod, er daed oedd. Gallai'r rhai oedd yn bresenol wneyd ei well pe ceid ffyddlondeb. Yr oeddym yn rhy barod i laesu dwylaw. Rhaid bod yn fwy penderfynol. Dylid gwneyd mwy o'r Ysgol Sul. Yr oeddym yn rhy bell oddiwrth ein gilydd. Yr ydym yn yr un gymdeithas, yn amcanu at yr un nod, ond y mae yna rhyw bellder rhyngom. Y mae eisiau magu Eglwyswyr o'r groth, acnid dibynu ar rai wedi troi ar ganol oes. Yn Saesneg y siaradodd y Parch. R. J. Edwards, Corris. Dywedai fod yr amser wedi d'od i ddweyd y gwir yn ddigel, serch i hyny beidio bod yn ol yr 'archwaeth. Yn gyntaf rhaid gwneyd i ffwrdd a Brenhiniaeth Benarglwyddiaethol" yn ein plwyfi. Cynyrch hyn fu gormes plwyfol wedi ei bobi a di- faterweh. Rhodder gallu. i'r lleygwyr. Ni weithreda fel tegan i'w godi i fyny a'i fwrw i lawr yn ol ewyllys -n_ un gwr. Rhodder y gallu yn newisiad gweinidogion yn yr Ysgol Sul, yn rheolaeth yr ysgol ddyddiol, yn materion arianol yr Eglwys. Gwaith penaf y cler- igwyr yw gofalu am eneidiau, a phriodwaith y lleyg- wyr yw trin y pethau bydol. Y Parch. P. C. Ellis, Llanfairfeohan, a ddywedai eu bod wedi bod yn ymdrin digon a gwaith y lleyg- wyr yn yr Ysgol Sul, &c., ac fod y pwnc yn awr wedi myned yn bwnc mwy helaeth, sef, pa un ai derbyn lleygwyr galluog, diwylliedig a difrifol i weinyddu a phregethu trwy urddiad ynte trwy drwyddad yn unig a ddylid. Yn ei farn ef, yn ol dysgeidiaeth yr Eg- lwys a'r Beibl, yr oedd yr awdurdod i bregethu wedi ei gyfyngu i urdd; am hyny dymunai weled urdd diacon parhaol. Ac nid oedd eisiau ond newid ychydig ar gyfraith y wlad o berthynas i ganiatad iddynt ddilyn eu dyledswyddau bydol yn ddirwystr. Yr oedd efe yn ohebydd i gasglu ynghyd farn cyn- hadleddau ac am hyny yr oedd efe am gynyg mai gwell fyddai, na derbyn dynion an-urddedig, eu gwneyd yn ddiaconiaid urddedig. Yr oedd gwahan- iaeth rhwng offeiriadaeth y bobl ar egwyddorion y weinidogaeth. Dylem weithredu ar egwyddorion yr Eglwys Gatholig, sefyll ar yr hen flyrdd, a pheidio colli ein penau gyda mympwyon newydd. Terfyn- odd trwy roddi crynodeb yn Saesneg o'r hyn a lefarasai yn Gymraeg. Mr. Norris Williams, Trefor, M6n, a ddywedodd ei fod ef ar bwyllgor yn Esgobaeth Caer i wneyd ym- chwiliad i'r cwestiwn yma. Gallai ddweyd fod gan- ddynt lawer i'w ddysgu cyn pasio'r un penderfyniad, a gwell fyddai ganddo pe ffurfid pwyllgor yma i'w ystyried. Ond y cyffredin, haws dangos allan ddyled- swydd, na chael dyn i'w chyfiawni; haws nodi eu breintiau, na chael gan ddynion ddo'd i'w hawlio. Edrychai llawer o'r offeiriaid yn guchiog ar leygwyr gorselog; ac edrychai'r lleygwyr fel pe bai ei gyfran- iadau arianol yn ei ryddhau oddiwrth gyflawniad gwaith Eglwysig' Rhaid cadw gwaith y lleygwyr o fewn terfynau, ac o dan reolaeth briodol. Rhaid iddo fod yn ddarostyngedig i'r Esgob a'r Clerigwyr, ac yn rhydd oddiwrth ysbryd plaid. Dylid anog y rhai sy'n gwybod Cymraeg yn well na Saesneg i gymeryd rhan yn y gwaith. Dylai bod bwyllgor Eglwysig yn mhob plwvf. Dangoswn hefyd fod purdeb buchedd, a phob tuedd i ddyrchafu yn clyn ein Heglwysyddiaeth. Yr oedd yn faloh o'i wlad, yn falehach am mai Cymro oedd, ond ei falchder penaf oedd mai Eglwyswr Cym- reig ydoedd. Yna daeth y Parch. J. Gower, Trefriw, yn mlaen, ond yr oedd yn eglur erbyn hyn fod y cyfarfod wedi cael digon ar y pwnc; a gresyn na fuasai Mr. Gower yn canfod nad oedd ond yn eu blino gan fod y mwyafrif yn hytrach nagwrando arno yn troi i YîJddiddan bob un a'i gymydog. Pasiwyd penderfyniad ar fod i bwyll- gor gael ei ffurfio i dalu sylw i'r cwestiwn. Cynygiwyd ef gan Mr. Norris Williams, eiliwyd gan y Parch. P. C. Ellis, a chariwyd ef yn unfrydol. Yna cynygiodd Mr. W. Thomas, Caernarfon, ac eiliodd Mr. Ellis Nanney, fod pleidlais o gydymdeimlad a, theulu'r diweddar Ddeon i'w chymeryd, ac i gofeb gael ei rhoddi ar lyfr y gynhadledd ein bod yn dwys ofidio oblegid y golled fawr a dderbyniasom. Ar hyn ymwahanwyd, er mwyn diwallu anghenion y corph. Yn y prydnawn y pwnc dan sylw ydoedd y mbddion goreu i'w fabwysiadu yn ngwyneb ymosodiad y Dadgy- sylltwyr. Darllenwyd papyr gwir alluog gan y Parch. E. Hughes, Llanfairfechan, ac un arall grymue yn Gymraeg gan y Parch. T. Edwards, Llanfihangel-y- Pennant. Yr ydys yn gobeithio clywed rhagor ynghylch y cyntaf. Yr ydym wedi cael addewid eisoes am gopi o bapyr y Parch. T. Edwards, ac am hyny gadawn iddo lefaru drosto ei hun yn un o'n rhifynau dyfodol. Pasiwyd penderfyniad ar fod i'r Esgob alw pwyllgor er mwyn rhoi yr awgrymiadau gaed yn y papyrau mewn gweithrediad yn yr Esgobaeth. Wedi'r diolchiadau arferol, terfynodd un o'r cynhad- leddau mwyaf bywiog, dyddorol, a Iluosog a fu yn Mangor er's llawer o flynyddau.