Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

LLANELLI.

ABERDAR.

LLANGADWALADR, MON.

SARON, LLANFAIR-IS-GAER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SARON, LLANFAIR-IS-GAER. Dydd Gwenar diweddaf, bu aelodau Ysgol Sul y lIe uchod yn mwynhau eu hunain trwy gymeryd taith mewn cerbydau. Y dull cyffredin ag y mae Ysgolion Sul yn ei gymeryd yw, myned gyda'r tren i Rhyl, Llandudno, Caergybi, Abermaw, a llefydd o'r fath; ond yr oedd y Saroniaid yn credu y cawsent fwy o hyfrydwch wrth edrych ar, ac edmygu gwaith natur, yn hytrach nag ar waith dyn. Folly am tua saith o'r gloch boreu dydd Gwener, o dan ofal ein curad, y Parch. James Salt, cychwynodd 62 o honom mewn pedwar o gerbydau, ac aethom drwy Llanrug, Cwm-y-glo, Llanberis, i fyny y Pass," yr hwn sydd yn gennant gwyllt a ffyrnig yr olwg arno, a chyr- haeddasom haner ein taith, sef Capel Curig, erbyn deuddeg o'r gloch, tipyn yn lluddodig o herwydd poethder yr hin. Yna cawsom dderbyniad croes- awus gan ein parchus ficer a'i wraig, sef Mr. a Mrs. Parry, y rhai oedd yn aros yn Capel Curig ar y pryd, Arweiniwyd ni i gael golwg ar yr Eglwys sydd newydd ei hadeiladu yno. A tharawyd ni oil 4 syndod wrth yr olwg ardderchog sydd arni. Gallaf ddweyd fod yr Eglwys hon yn un o'r rhai harddaf a welais i erioed. Mae hi nid yn unig yn addurn i Gapel Curig, ond hefyd i swydd Gaernarfon. Ar ol bod yn syllu ar brydferthwoh yr Eglwys am beth amser, arweiniwyd ni gan ein ficer caredig i ysgol y lie. Wedi myned i mewn iddi, synasom wrth ganfod ei bod wedi ei haddurno yn y modd prydferthaf, a'r byrddau wedi eu harlwyo a digonedd o de a bara brith o'r fath oreu, ar gyfer pob un o honom. Ar ol gwneyd cyfiawnder a'r danteithion a osodwyd o'n blaen, cynygiwyd diolchgarwch byr a phwrpasol gan y Parch. James Salt i Mr. a Mrs. Parry, am eu caredigrwydd, y drafferth a'r gost, a hyny nid ychydig, yr aethant iddo ar ein cyfer; eiliwyd y cynygiad Mr. R. Roberts, Tyn'ronen. Ar ol hyn gwasgarodd pawb am ychydig amser, ac aethant un yma ac un acw i edrych ar' brydferthwch yr ardal. Am bedway o'r gloch cyrchodd pawb i'r Eglwys newydd, a chanasom dair neu bedair o hen hymnau Cymreig, yn cael ein dilyn ar yr Organ gan Mr. Adams, yr ysgolfeistr. Ar ol hyn aethom tua'r cerbydau, a chyn cychwyn, bu Mrs. Parry mor garedig a myned i siop gerllaw, a phrynodd ddigonedd o beth plant y maeyn alw yn "dda-da," ac hefyd der- byniasant deisen bob un. Yna ymadawsom o Capel Curig, a gallaf sicrhau na dderbyniodd aelodau unrhyw Ysgol Sul fwy o garedigrwydd oddiar law eu ficer a'i wraig, nag y darfu ni yn Capel Curig oddiar law Mr. a Mrs. Parry. Yr oedd yn bedwar o'r gloch cyn i ni gychwyn tua chartref, pryd aethom trwy Ben-y-Benglog, Nant Francon, a chyrhaeddasom Bethesda erbyn saith o'r gloch. Yma disgynodd pawb o'i gerbyd, a mwynhasom ein hunain yn y lie hwn am yn agos i awr o amser. Felly gadawsom "Bethesda fawr yn Arfon" am wyth o'r gloch, a daethom oil i derfyn ein taith, sef Saron, yn gwbl ddiogel, a phawb wedi mwynhau eu hunain yn berffaith. A gobeithio wyf fi y cawn ni ein breintio y flwyddyn j^esaf yr un fath.-Un o'r teithwyr.

OAKWOOD, GERLLAW CWM AVON.

MAENTWROG.

MARGAM.

- ABERYSTWYTH.

PENTRE, DYFFRYN RHONDDA.

ILLANFAIRTALHAIARN. ;

RHYL.

BRYNMAWR.