Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
A YDYW Mr Lewis Pugh Pugh, yr aelod an- rhydeddas dros Sir Aberteifi yn dechreu gwanhau eisoes ? Hysbysir iddo arfer geiriau teilwng o'r Dadgysylltwr mwyaf dallbleidiol yn Aberporth ddydd Iau di- weddaf. Wrth son am Dy yr Arglwyddi mynegir iddo ddweyd mai y peth cyntaf a ddylid ei wneuthur yno yw troi yr Esgobion allan, ac mai dyma y cam cyntaf a ddylid ei gymeryd er ysgaru crefydd oddiwrth y Wladwriaeth. Ychydig wythnosau yn ol cawsom yr hyfrydwch o longyfarch y boneddwr anrhydeddus ar ei waith yn pen- derfynu rhoddi i fyny ei sedd yn Nhy y Cyffredin yn hytrach na chymeryd ei lusgo gan ddyrnaid o wyr dibrofiad i gefnogi mesur Dadgysylltiol Mr Dillwyn. Disgwyl- iasem y buasai Mr Pagh yn dal at ei ben- derfyniad. Yr oedd pob peth a wyddem am y boneddwr anrhydeddus yn ein har- wain i feddwl mai dal at ei benderfyniad a wnaethai. Ond beth yw ystyr y geiriau a briodolir iddo yn awr ? IRhaid i ni gyfaddef ein bod yn methu a'i ddeall yn ngwyneb ei ymddygiad gwrol ychydig amser yn ol.
[No title]
YSGRIFENA Mr Scott Banks i'r Carnarvon and Denbigh Herald ynqhylch achwyniad a ddygwyd ganddo yn ddiweddar o berthynas i hoffder Esgob Llanelwy o'r iaith Gymraeg. Cofia ein darllenwyr i ni alw sylw at yr ach- wyniad hwn mewn erthygl arweiniol bythef- nos yn ol, a da y gall unrhyw Esgob Cymreig ymfalchio yn y ffaith ei fod yn cael ei gyhuddo o fod yn hoff o iaith ei wlad, ac iaith ei Eglwys. Yn y llythyr dan sylw eglura Mr Scott Bankes mai at y plwyfydd ar y terfyn rhwng Cymru a Lloegr y cyfeiria, ef, ac mai yr hyn a olygai oedd ei fod yn wastraff gosod mwy nag un offeiriad Cym- reig yn y plwyfydd hyn, ac y dylai y curadiaid fod yn Saeson. Yna ychwanega am y plwyfydd dan sylw "nad yw yn bosibl cael ond un gwasanaeth ar y Sul yn Gymraeg, a'r cynulliad yn hwnw yn deneu iawn." Un gwasanaeth ar y Sul Os dyma yr'oll a ganiateir i'r Cymry, nid rhy- fedd fod y cynulliad yn deneu, yn enwedig os yw yr un gwasanaeth am dri o'r gloch y prydnhawn, neu ryw awr anghyfleus arall. Hyd nes y caffo y Cymry yn eu gwlad eu hunain ddau wasanaeth ar y Sill ar oriau cyfleus, a drws yr Eglwys yn agored hefyd yn ystod yr wythnos, nid cyfiawn yw pen-1 derfynu fod gwasanaethau Cymreig yn ddi- anghenrhaid oherwydd fod y cynulliadau yn deneu yn yr un gwasanaeth ar y Sul.
[No title]
TBADDODODD Mr Gladstone araeth o gryn feithder yn ffafr y mesur, yn yr hon yr eglurodd y modd yr unwyd Gloucester a Bristol ynghyd yn y flwyddyn 1836. Yn yr amser hwnw, ffynai y syniad y dylai pob Esgob feddu sedd yn Nhy yr Arglwyddi. Ffasiwn y dydd ydoedd coleddu yr ofer- goeledd hwn. 0 dan ddylanwad yr ofer- goeledd penderfynwyd fod i Esgobaeth Sodor a Man gael ei llyncu i fyny yn Es- gobaeth Carlisle, a'r un modd fod Bangor a Llanelwy i gael eu huno ynghyd yn un Esgobaeth, a hefyd Gloucester a Bristol yn un arall Teimlwyd y fath ddigofaint yn erbyn hyn yn Sodor a Man, fel y caniata- wyd i'r Esgobaeth aros fel o'r blaen a'r un modd gadawyd Bangor a Llanelwy yn es- gobaethau gwahanol. Ond fe unwyd Gloucester a Bristol ynghyd ac o'r flwydd- yn 1836 hyd yn awr, ffurffant un Esgobaeth. Y mae pobl Bristol yn awr, pa fodd bynag, yn hawlio cael eu hesgob yn ol. Y maent yn foddlon i gyfranu 60,000p tuag at ddwyn hyn oddiamgylch, ac o'r swm hwn y mae 20,000p, eisoes wedi ei gasglu. Erfyniai y Prif-weinidog i'r Ty adael i'r mesur ddyfod yn gyfraith. Yr wyf yn meddwl," ebe fe, cyhyd ag y byddo yn rhaid i ddwy blaid fyw ynghyd, mai gwell iddynt fyw ynghyd ar delerau gweddus a moesgar." Cystal a dweyd, Nid yw eich ymddygiad chwi, Ddadgysyllwyr, na gweddus na moesgar."
[No title]
ANFONODD Mr. Gladstone hefyd 950 tuag at y gronfa i adferyd yr esgobaeth i Bristol. Yn ei lythyr at Archddiacon Norris, dywed y Prif Weinidog ei fod yn dymuno talu teyrnged o ddiolchgarwch ac edmygedd i goffadwriaeth godidog yr Esgob Butler, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa esgobol yn Bristol. Dywed fod arno ef yn bersonol ddyled i weithiau Butler nas gall byth ei thalu, a'i gred yw y bydd i'w glod fod yn fwy yn y dyfodol, nag hyd yn nod yr hyn fu yn y gorphenol.
[No title]
DRWG genym weled fod Senedd Ffrainc wedi gwneuthnr cyfnewidiadau dychrynllyd yn neddf priodas. Drwy un o'r darpariaethau galluogir gwraig i roddi llythyr ysgar i'w gwr am fod yn sarhaus wrth ei mam Dengys hyn y perygl o agor unrhyw fwlch yn mur deddf glan briodas. Unwaith yr agorir y llif-ddorau, pwy all atal diluw 0 anniweirdeb rhag gorchuddio y byd cym- deithasol ?
[No title]
ODDIWRTH newyddion a dderbynir o wlad yr Aipht, ymddengys fod ein Llywodraeth yn awr yn brysur yn gwneuthur darpariadau i anfon byddin i waredu y Cadfridog Gordon allan o Khartoum. Un o weithredoedd olaf y Seneddd cyn ei gohiriad ydoedd pasio pleidlais o 9300,000 tuag at yr amcan hwn. Os bydd yn rhaid i'r fyddin fyned i fyny yr holl ffordd i Khartoum, dywedir na bydd y swm a enwyd yn agos digon i ddwyn y draul. Y gobaith a gredir yw y bydd i fynediad y fyddin ran o'r ffordd ddychrynu y gwrthryfelwyr, nes peri iddynt adael i'r Cadfridog a'i ganlynwyr ddychwelyd mewn llonyddwch.
[No title]
Y MAE'R newydd diweddaf a dderbyniwyd am y Cadfridog Gordon yn gynwysedig mewn llythyr a dderbyniwyd oddiwrth y Cadfridog ei hunan, dyddiedig Mehefin 25, Yr ydym yn ddyledus am y llythyr hwn Major Kitchener. Ymwisgcdd y Major yn nillad Arabiad, cyrhaeddodd Dongola, ac yno derbyniodd lythyr oddiwrth y Cadfridog Gordon. Yn y llythyr hwn, dywedir foe Khartoum a Senaar yn dal eu tir yn erbyr y Mahdi, a bod y Cadfridog Gordon yr bryderus yn disgwyl cynorthwy milwrol c Cairo. Rhoddodd y cenad a ddug y llythy] hefyd hysbysrwydd pellach. Mynegodd fod Gordon a'i ddau gydymaith, Stewart a Power, yn mwynhau eu cynefin iechyd, bod byddin y gau brophwyd, yr hon a rifa tua 16,000 o filwyr, yn parhau i warchae y ddinas o wahanol sefyllfaoedd, ond eu bod ] yn awr yn bellach draw nag oeddynt. Y ] mae'r Cadfridog Gordon, gydag 8,000 o filwyr a saith o agerlongau arfog yn parhau i flino y gelyn, ac ar un amgylchiad o leiaf lwyddo i gael gafael ar eu hymborth. Cad- arnheir cwymp Berber, ond o dan amgylch- iadau gwahanol i'r hyn a fynegid yn flaen- orol. Trodd y rhaglaw Hussein Khalifa yn fradwr, a chaniataodd i'r gelyn ddyfod i mewn i'r dref. Gwnaeth ei filwyr ymgais ofer i wrthsefyll, ond rhoddwyd hwynt i'r cleddyf. Fel y cofia ein darllenwyr, drwg- dybid rhaglaw Dongola, ond hysbysa Major Kitchener ei fod yn parhau yn deyrngarol. Bu iddo fwy nag unwaith guro yn ol y gwrthryfelwyr, ac mewn cydweithrediad a'r Cadfridog Gordon, bu yn foddion i rwystro gwahanol lwythau gelyniaethol y Soudan rhag ymarllwys fel diluw ar wlad yr Aipht. Bydd cyfeillgarwch Mudir Dongola yn werthfawr i'r fyddin a anfonir i waredu Gordon, ond hysbysir mai mynach Tyrcaidd penboeth ydyw, ac felly bydd yn rhaid wrth ofal mawr wrth ymdrin ag ef.
[No title]
MEWN erthygl o'i eiddo yn y rhifyn presenol o'r Nineteenth Century, dywed y Due S. Alban nad yw y wlad yn dymuno diddymiad Ty yr Arglwyddi; a'i gred ef yw y gall y Ty Uchaf barhau i fodoli fel cynulliad yn yr hwn y gall Syr Charles Dilke gyflawni prophwydoliaeth Arglwydd Beaconsfield, y bydd iddo dreulio ei flynyddoedd diweddaf yn Arglwydd Ceidwadol." Yr ydym yn ddiau yn byw mewn oes yn yr hon y cymer pethau rhyfedd le.
[No title]
Tair gornest doethineb: meddwdod, godineb, ac ameu ddrwg. Tri gwreiddion doethineb: gwirionedd, dysg, a chydwybod dda. Tri pheth ansicr: tarth y boreu, cwmwl o flaen [ gwlaw, a bywyd dyn. I'R PWYNT.-Mrs O'Brian, Yn sicr i chwi, y ) gwir i gyd yr yd wyf wedi ei ddweyd wrthycli, 7 Mrs Mulligan ddarfu i chwi erioed ddal cym- aint ag un celwydd yn dod allan o fy ngenau i." 0 naddo yn sicr, Mrs O'Brian, ymaent yn dyfod 1 allan mor gyflym fel na fedr neb eu dal 3 EWYLLYS RYFEDD.-Gadawodd cymynes (test- y atrix) yn Germany ei holl arian i'w brodyr a'i I chwiorydd,'ond ychwanegodd, "Os byddi fymrawc William briodi yn ei hen ddyddiau nid yw i gael 1 dim." Mae gwyr y cwils yn dal allan nad all 1 William dderbyn dimai, oherwydd nad ellii ) gwybod nes y byddo farw, pa un a wna efe briodi r ai peidio.
bLYTHYR TOM PUDLER.
bLYTHYR TOM PUDLER. Y GERI MARWOL. Syr,—Testyn sobr a difrifol yw'r gap marwol i bregethu arno. Nid wyf fi yn tnyned i bregethu arno, yn yr ystyr cyffrftdin o'r gair. Yr wyf yn gadael hyny i'r rhai sydd wedi eu galw i bregethu, y rhai sydd a,'u swydd i bregethu, y rhai sydd yn gallu pregethu. Mae ychydig yn cofio am dano yn y flwyddyn 1832. Mae mwy yn cofio am dano yn 1849, a mwy na hyny yn cofio am dano yn 1854, a mwy fyth yn cofio am ei ymweliad yn 1866. Amseroedd o fraw, a galar, a gruddfan, oedd y dyddiau hyny. Rhoddid nos da'wch i gyfaill yn hwyr y dydd, ac erbyn y boreu byddai wedi myned i fyd arall. Mae ambell i gongl yn ein mynwentydd yn dwyn y dyddiau hyny ar got i ni, lie y gwelir nifer o feddau heb eu trin na'u trwsio, ac am y rhai y dywedir wrthym, Yn y fan hyn y claddwyd y rhai fuont farw o'r cholera." Mae rhai yn dangos fod y Geri Marwol ar ei daith tua'r ynys hon eleni eto. Yr oedd yn gwneuthur difrod yn yr Aipht y flwyddyn o'r blaen. Mae pobl Ffraingc wedi cael eu dychrynu ganddo eleni. Mawr y gofal a ddangosir ar y cyfandir er ei gadw rhag lledu. Ni chaiff neb groesi y fferi o un deyrnas i'r llall heb gael prawf nad yw'r geri ddim yn ei waed nac yn ei wisgoedd. Mae rhai meddygon o'r farn y daw ef dros- odd i Loegr o hyn i ddiwedd mis Medi, ac os na ddaw y flwyddyn hon fe fydd yn sicr o ddyfod y flwyddyn nesaf. Gelwir ar yr awdurdodau, y Byrddau Iechyd, perchen tai, ac ar bawb o'r bron, i barotoi ar gyfer yr ymweliad. Yn ein porthladdoedd mawr- ion, y maent ar eu gwyliadwriaeth j er ei atal rhag glanio. Fe ddywed rhai, os yw ef yn dyfod, fe ddaw, nid oes neb a ddichon ei atal. Neu os nad yw ef i ddyfod, gallwn fod yn dawel a diofal. Wel, os yw ef i ddyfod, ac nad oes un modd i'w rwystro, nid oes eisiau i ni roddi gwahoddiad iddo i'n trefydd, i'n tai, i'n teuluoedd. Gwell i ni wrando ar y doctoriaid, hwy ddylent fod yn gwybod oreu beth sydd i'w wneuthur mewn mater fel hwn. Hwy ddywedant wrthym fod cadw conglau brwnt yn y ty, a phwllyn dwfr, a chwter a thomen frwnt o flaen y drws, a thylcau moch gerllaw y ty, cystal a rhoddi gwahoddiad a chroesaw iddo. Hwy a ddywedant wrthym mai ein dyledswydd yw glanhau pob congl, a chadw muriau glan, a lloriau glan, a chelfi glan, a dillad glan, dillad corph a dillad gwely glan, a. gollwng digon o awyr but drwy bob ys- tafell. Deuwch, a gwnewn ein goreu i ysgubo, pob un o flaen ei ddrws ei hun, a rhoddi digon o ddwfr ar y lloriau, a digon o galch ar y muriau. Gallaf ddywedyd wrtH- ych fod Dinah yn fwy diwyd nag arferol, yn golchi, yn paentio, ac yn gwyngalchu o'r pen i'r gwaelod o fewn i'r ty. Yr wyf finau ar fy ngoreu glas, yn carthu ac yn glanhau pob twll o'r tu allan, o flaen y drws, ac yn yr ardd. Dywellir fod y Geri Marwol yn lladd mwy yn y trefydd nag yn y wlad. Nid am fod pobl y trefydd yn fwy annuwiol na phres- wylwyr y wlad, ond oherwydd fod llai o fudreddi yn y wlad nag yn y dref. Gobeithio na ddaw yr haint ddim i'n cyffiniau, ac os na ddaw, ni fydd ein gwaith a'n gofal yn ofer. Bydd tai glan, gloyw, yn iechyd ac yn bleser i ni ac i'n plant. Os nad oes digon o waith a digon o enill i ni gael bwyd a dillad, fel y dymunem, di- olch fod yr awyr yn rhad, ond i ni agor y ffenestri iddo ddyfod i mewn. Yr un faint raid i ni dalu am y dwfr, pa un ai ychydig neu lawer a ddefnyddiwn o hono. Os ydym yn llwm ni a allwn fod yn lan. Chwychwi, frodyr, y pydleriaid, da fyddai eich planed a'ch tynged pe baech oil wedi dswis gwragedd cystal a'm Dinah i. TOM PUDLER.
[No title]
YCHYDIG cyn ei ohiriad pasiodd Ty y Cyffredin Fesur Esgobaeth Bristol. Unig amcan y mesur yw caniatau i bobl Bristol gael Esgob ar eu traul eu hunain. Yn ol eu harfer, gwrthwynebwyd y mesur gan y Dad- gysylltwyr o dan arweiniad Mr Dillwyn, Arch-ddadgysylltwr Cymru. Dymunai Mr Barton ofyn i Mr Dillwyn dynu yn ol ei wrthwynebiad, am y rheswm fod aelodau Eglwys Loegr o'r farn y buasai i'r mesur, pe deuai yn ddeddf, hyrwyddo lies ysbrydol yr Eglwys, na byddai iddo gymeryd dim o arian y Llywodraeth, na byddai iddo yctiwanegu nifer yr Arglwyddi Ysbrydol, ac na byddai iddo mewn un modd ymyraeth a iawnderau Ymneillduwyr. Ond na, ni fynai yr hwn a broffesa y fath ddymuniad i lesoli yr Eglwys drwy ddadgysylltiad roddi iddi ryddid i ychwanegu nifer ei phrif weinidogion. Dywedai Syr W. Lawson ei fod ef yn erbyn pasio y mesur, canys os gwneir mwy o Esgobion, mwyaf yn y byd fydd yr anhawsder o gael ymwared o honynt pany daw'r amser i ddadgysylltu yr Eglwys" Cefnogid y mesur gan Mr Gladstone a chwyn- ai Mr Dick Peddie yn chwerw yn ei erbyn oherwydd hyn. Wrth ystyried y gefn- ogaeth deyrngarol a roddai y blaid Ym- neillduol bob amser i'r Prif-weinidog, yatyriai ef fod 'ganddynt yn awr achos da i gwyno." Dyna fel y gweithreda y Dad- gysylltwyr yn y Senedd. Ond pan ddeuant i'n plith i'r wlad, siaradant yn esmwyth, a cheisiant gan Eglwyswyr gredu mai lies yabrydol yr Eglwys yn unig sydd ganddynt mewn golwg yn eu cynhwrf mawr.
[No title]
GEILW y School Guardian sylw at Ysgol Genedlaethol Dutton Street, yn Llundain, yr hon y bwriedir ei throsglwyddo i'r Bwrdd Ysgol o herwydd ei bod yn methu a thalu ei ffordd fel ysgol wirfoddol, a gwna sylwadau buddiol ar yr amgylchiad. Os nad all pob plwyf gynal ei ysgol ei hun—yr hyn sydd braidd yn anmhosibl-dylai ymdrech unedig yr holl blwyfydd gyd a'u gilydd fod yn alluog i wneyd hyn. Ymffrost Eglwys Rhufain yw na bu iddi erioed adael na throsglwyddo unrhyw ysgol 'ddyddiol i'r Bwrdd Ysgol. Paham? 0 herwydd fod gan eu haelodau y fath ffydd yn eu heg- wyddorion fel na fynant ymddiried addysg j eu plant i neb ond i'w hathrawon eu hunain. Y canlyniad yw, fod yr arian rywffordd yn dyfod i mewn. Gwneir aberth, a pha beth bynag arall a roddir i fyny, y mae'r ysgol- ion, magwrfaoedd y dyfodol, yn cael eu cadw ymlaen. Paham nas gall Eglwyswyr ddangos cyffelyb zel, a gwneyd aberth? Paham nad oes genym beirianwaith drwy yr hwn y dygir i mewn gyfraniadau oddiwrtb ein cyfoethogion a'r rhai sy'n dda allan ? Paham na phwysir arnynt hawliau yr Eg- lwys ac addysg Eglwysig ? Y gwirionedd yw nad oes un mewn cant yn deall anhaws- derau arianol ein hysgolion gwirfoddol. Nid ydynt-byth yn darllen am danynt. Anaml y pregetha yr offeiriaid yn eu cylch. Ac felly tybia y mwyafrif os bydd iddynt dalu ei danysgrifiad o gini y flwyddyn tuag at ysgol eu plwyf, eu bod yn gwneyd eu dyled- swydd o berthynas i addysg grefyddol. Y mae symudiad ymaith y difaterwch hwn yn nghylch addysg grefyddol i raddau pell yn nwylaw yr offeiriaid.
LLITH 0 LAN GWILI.
LLITH 0 LAN GWILI. Sylwyd yn fy llith ddiweddaf fod Eglwys Loegr yn gwneuthur gwaith mawr yn y maes cenhadol. Oasglodd yn y flwyddyn 1882 dros haner miliwn o bunau tuag at y gwaith da yma, tua chymaint ag o gasglodd yr holl enwadau crefyddol gyda'u gilydd, yn Wesleyaid, Bedyddwyr, Independiaid, Methodistiaid Calfinaidd, Presbyteriaid, ac heb adael allan y Pabyddion. Nid ydym ni ar lan yr afon fach Gwili yma yn gwybod fawr am weith- rediadau yr Eglwys tu allan i'n cylch ein hunain. Yn wir y mae anwybodaeth mawr yn ffynu gyda golwg ar hyn ymhlith yr Eglwyswyr eu hunain. Yr wyf ar fy hynt weithiau yn myned i ardal Ffynon-henry, lie y mae y Bedyddwyr yn dra lliosog. Llawer a siaredir am eu gwaith mawr cenhadol hwy, a phe buasai rhyw un o'r ychydig Eglwyswyr sydd yn byw yn y gymydogaeth yn dywedyd fod Eglwys Loegr yn casglu rhyw bump neu ddeg cymaint a hwy, buasai yma rhyw syndod mawr yn cael ei achosi. Gallwn yn hawdd ddychymygu clywed rhyw hen frawd o'r Ffynon yn tori allan i ddywedyd, Eglwys Loegr yn casglu pum cymaint a'n henwadau ni an- mhosibl Tua Peniel, yr Independiad sydd yn monopoliso bron yn gyfangwbl yr ardal, a mawr y siarad fu yma ynghyleh y split yn Ngholeg y Bala. Yma gollwn feddwl fod yr holl fyd yn mron yn pwyso ar ysgwyddau yr Independiaid, a phe meiddiwn ddywedyd wrth un o honynt fod yr hen Eglwys yn casglu rhyw lawer iawn mwy na hwynt, byddai yno y fath stwr, fel ag i beri i'r ardalwyr gredu fod cynen y Bala wedi ei hadgyfodi yn fyw eilwaith. Ar dudalenau 545-555 o'r llyfr a nodwyd allan genyf yn fy llith ddiweddaf, sef, Official Year Booh of the Church of England, y mae taflenau o'r holl Eglwysi a manau eraill, i bregethu yn- ddynt, a adeiladwyd neu a adgyweiriwyd yn y flwyddyn 1882, gan ein Heglwys. Enwir bob Eglwys a phob aelod, ynghyd a'r swm a dreuliwyd arnynt. Cyfanswm yr oil ydyw £ 1,061,602. Dros filiwn o bunau O'r swm yma gwariwyd yn Es- gobaeth Llundain ei hunan dros £ 200,000. Dyma swm da. Nid wyf yn gwybod beth y mae yr enwadau yn ei wneuthur gyda golwg ar hyn. A ydynt, tybed, gyda'u gilydd yn casglu cymaint mewn un flwyddyn a'r Eglwys ei hun ? Da genyf weled fod yr Eglwys yn Nghymru wedi treulio dros £ 70,000 mewn un flwyddyn ar ad- aildu ac adgyweirio Eglwysydd ac adeiladu eraill er mwyn cynal gwasanaethau crefyddol. Da iawn i Eglwys a ystyrir mewn manau fel yn tynu ei hanadl olaf A chofier hefyd mai rhoddion gwir- foddol ei phlant ei hun yw pob dimai o'r arian hyn.
[No title]
Dywedir fod golygydd y Newbury Journal yn ddyn mor hardd, fel y mae yn ofynol iddo gario pastwn i gadw y merched draw. Pwy oedd y dyn fu yn fwyaf llwyddianus fel canwyllwr yn y Dywysogaeth ?—Ateb Ficer Pritchard, canys efe a roddodd ganwyll i'r Cymry oll. n Dylai dyn garu rhmwedd er ei fwyn ei hun, pe na byddai i wybod am dano megys ag y dylai gadw ei gorph yn lan er ei fwyn ei hun, pe na byddai neb i'w weled. Argraffwyd ar hysbysleni arwerthwr o'r Ynys Werdd, y geiriau canlynol Bydd pob peth a werthir yn myned i'r un a gynygio fwyaf, oddi. 1 eithr y digwyddo i ryw foneddwr gynyg mwy." [ Y mae eich llaw-ysgrifen yn wael iawn," ebai [ boneddwr wrth swyddog cyhoeddus. "Ydyw y L mae hi," oedd yr atebiad, ond onid ydych yn gweled pe yr ysgrifenwn yn well, buasai y bobl yn L cael allan fy mod i yn sillebwr dychrynllyd o ¡ wael."