Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
f CYNHADLEDD ESGOBAETH BANGOR.
f CYNHADLEDD ESGOBAETH BANGOR. At Olygydd Y Llan." SYR,—Byddwch cystal a chywiro'r gwall hwn a lusgodd i mewn i waith y cysodydd yr wythnos ddiweddaf :-Derllyn, "Yr oedd gwahaniaeth rhwng offeiriadaeth y bobl ac egwyddorion y weinidogaeth." Dylasai ddarllen, "Yr oedd gwahaniaeth rhwng offeiriadaeth y bobl ac offeir- iadaeth y weinidogaeth." EIeH GOHEBYDD NEILLDUOL.
ANTHEM NEWYDD EOS LLEOHYD.
ANTHEM NEWYDD EOS LLEOHYD. At Mr. Morgan Lewis, Cor-arweinydd yr Eglwys Gymraeg, Lowlais. SYR,—Diolch i chwi am yr archeb dywysogaidd a anfonasoch i mi am yr In Memoriam." Pe buasai haner dwsin o gorau Eglwysig yn dilyn eich esiampl chwi, yn Nowlais, rhoddwn yr anthem yn y wasg yn ddiatreg. Ond drwg genyf yw adrodd nad oes yr un coi eto, heblaw chwi, wedi fy anrhegu ag archebiont Nid yw yr In Memoriam, mewn un modd yn an- hawdd. Syml yw yr arddull. Y cyweirnod yw G, ac fe gymer o amser i'w chanu tua phum' munud. Y geiriau a ddetholais yw—" Yn nghanol ein bywyd yr ydym mewn angau," &c., ac fe wasanaetha yr anthem, nid yn unig fel c6f am adeg a marwolaeth y diwe Idar Ddeon Edwards, ond ar unrhyw adeg. Nid oes genyf ond gobeithio y bydd i'r corau Eglwysig, ddilyn esiampl cor yr Eglwys Gymraeg, Dowlaia, a hyny yn fuan. Llanberis. Eos LLECHYD.
ADGOFION GAN HENAFGWR. i
(Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.) ] ] ADGOFION GAN HENAFGWR. i At Olygydd Y Llan." SYR,—Dyma ychydig o fy adgofion i chwi eto. Er fy mod wedi crybwyll yn fy llythyrau blaen- orol mai 26 ydoedd rhif y clerigwyr a gyfodasant yn Nhregaron, drwg genyf fod hyny yn gam- gymeriad, gan fod enw un anwyl arall wedi ei adael allan yn hollol anfwriadol, sef y Parch. Mr. Walters, ficer Abertileri, ger Nantyglo, Sir Fynwy, yr hwn a fagwyd gyda ni yma, ac y mae llawer o'i berthynasau yma yn awr. Ewythr iddo yw Mr. John Walters, Argoed yr hwn sydd yn aelod ffyddlawn yn ein heglwys er's llawer o flynyddau. Efe ydyw tad Mrs. Lloyd, Llanpum- saint, ac yr wyf yn cofio ei dadcu yn aelod o'r eglwys yma pan oeddwn yn ieuanc. Fel hyn, chwi welwch ein bod wedi magu llawer i'r weinidogaeth yn Nhregaron. Er feallai nad yw pawb yn hoffi fy llithoedd, eto gallaf ymffrostio fel yr Apostol Paul pan ddywedai ei fod yn Hebrewr o'r Hebreaid yr wyf finau yn falch o ddatgan yn groew fy fod yn Eglwyswr trwyadl, ac nid un wedi dyfod oddiwrth yr Ymneillduwyr. Cymaint yw fy anwyldeb at yr Eglwys fel mai fy marn onest a diduedd ydyw mai goreu po leiaf a gawn yn offeiriaid wedi eu magu ar fronau Ymneill- duaeth. Gwelais amryw o honynt yn dyfod atom, ond ychydig iawn o les gwirioneddol a ddeilliodd i'r Eglwys drwy hyny, er fod rhai engreifftiau i'w cael. Cefais y fraint un nos Sul yn ddiweddar o wraado ar y Parch. Charles Griffith, M.A., mab rheithor Merthyr Tydfil, yn pregethu ar y cariad a fynwesai Dafydd a Jonathan tuag at eu gilydd, a hyfryd ydoedd ei sylwadau ar y cariad mawr a ddangoswyd gan yr lesu pan yn dioddef angau'r groes er mwyn achub pechadur; yr oedd yn fendigedig, ac y mae ei wynebpryd prydferth a charuaidd yn enill edmygedd pawb, heblaw fod ei ddull syml o draddodi ei genadwri yn treiddio i galonau ei wrandawyr. Yr oedd yn treat i ni sydd yn ffyddlon fynychu hen Eglwys Merthyr flywed y gwasanaeth ardderchog yn cael ei darllen fel y dylai gael, pob gair yn cael ei acenu, a'r pwyslais yn cael ei roddi yn y lie priodol. Aed y boneddwr parchus rhagddo, a'r Arglwydd fyddo yn nerth iddo i draddodi y genadwri fawr am y groes yn eglurhad yr Ysbryd, a chyda nerth mawr. Llawer o ymholi sydd ymhlith y gynulleidfa pa bryd y daw eto, gan ei fod wedi enill eu serch yn hollol. Hyfryd genym weled ein bechgyn ieuainc yn ymdrechu gyda gwaith yr Arglwydd ymhob man; mae mawr angen am hyny yn Merthyr a'r cyffiniau y dyddiau hyn. Caf ddychwelyd at fy adgofion yn fy llythyr nesaf. Hyfryd fuasai gweled rhai o blwyfydd eraill yn cyhoeddi ad- gofion am rai a fagwyd yn eu plith, megis Llan- ddewibrefi, Llanrhystyd, &c., y rhai sydd wedi codi cewri i bwlpud yr Eglwys, ac yr wyf yn ifcdwaen llawer o honynt, y rhai sydd yn hynod ymdrechgar yn ngwinllan eu Harglwydd. Un o Llanrhystyd oedd y diweddar Barch. J. Sinnett, Penboyr, ac yr wyf yn cofio yn dda ei bregeth ardderchog yn Llanbedr, er's mwy na 40 mlynedd yn ol, ar y geiriau, "Ac Enoc a rodiodd gyda Daw."—Yr eiddoch, &c., GLANBRENIG.
LLANSANTFFRAID.
LLANSANTFFRAID. At Olygydd Y Llan." SYR,—Pur anaml y mae llinellau o'r fath hyn yn ymddangos yn eich rhifyn wythnosol, ond gallaf ddweyd yn ddiofn mai o angenrheidrwydd y tardda hyn oil, am fod genyf barch nid bychan tuag at yr Hen Fam Eglwys yn y pentref poblog- aidd hwn. Ar y cyntaf, bu yma lawer iawn o siarad ynghylch pwy oedd ddigon teilwng 1 olynu Mr. Herbert fel ficer Llansantffraid. Gwnaeth amryw ymgeiswyr o amryw fanau geisio am y fywoliaeth hon, ond ciliasant.un ac oil yn wysg eu cefn, a gwelaf yn glir wrth hyn mai gwagedd oedd yr oil. Yr wyf yn teimlo i'r byw dros yr Eglwys, ac yn enwedig dros y diweddar fugail llwyddianus. Buasai yn eithaf peth pe byddai blaenoriaid yr Eglwys yn penodi diwrnod ac eistedd wrth ben y mater, ac astudio a holi eu hunain a yw y gynulleidfa sydd yn do'd ynghyd bob Sul i'r Eglwys hon yn deilwng o gael ficer neu peidio. Yr wyf yn credu yn gydwybodol y dylai Eglwys Llansantffraid gael offeiriad gweithgar, gwybodus, a chall, mor debyced a bo modd i'r hen bererin a ymddiswyddodd. Mi hyderaf gan hyny y bydd i ryw gyffroad gymeryd lie yn fuan, neu bydd yn ofynol defnyddio yr adeilad at ryw amcan neillduol arall. Rhag eich blino a meith- der yn awr, mi alwaf eich sylw at hyn eto.-Yr eiddoch, &c., W. A. JONES. Llanon.
AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS.
AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS. At Olygydd Y Llan." SYR,-Deng mlynedei fis Mai diweddaf yr oedd elodal1 Cymdeithas Rhyddhad Crefydd, yn eu cyfarfod tair-blynyddol, yn datgan eu bwriad i dalu sylw neillduol i Gymru, ac yn unol a'r penderfyn- iad hwn o'r adeg hono hyd y foment hon i raddau mwy neu lai, talwyd sylw neillduol i Gymru. Doeth yw i ninau wneyd yr un peth ar yr ochr amddiffynol yn mhob ffordd ddichonadwy. Yn nghynadledd ddiweddar Bangor, un o'r testynau oldan ystyriaeth oedd hwn Beth yw y modd- ion goreu i'w mabwysiadu yn ngwahanol blwyfi yr esgobaeth fel ag i gyfarfod ymosodiadau y Dad-1 gysylltwyr, ac i roddi o flaen y bobl resymau mewn ffordd o amddiffyniad i'r Eglwys." Dar- llenwyd papnrau galluog a phwrpasol ar y pwnc hwn gan y Parchedigion E. Hughes, Llantair- fechan, a T. Edwards, Llanfihangel-y-pennant, a chredaf y bydd effaith dda yn dilyn y sylwadau rhagorol a gaed ganddynt. Er fod llawer wedi ei wneyd yn ddiweddar mewn ffordd o amddiffyniad i'r Eglwys, eto mae braidd yn ddiamheuol, os ystyriwn bwysigrwydd y gwaith, nad oes dim digon o yni yn cael ei ddangos yn Nghymru ynglyn a hyn. Mae'n wir y rhaid i ni ddal mewn cof gyda phob diolchgar- wch yr ymdrechion canmoladwy hyny a wnaed yn barod gan rai o brif ddynion yr Eglwys yn y ffordd hon ar yr un pryd ni ddylem foddloni ar yr hyn a wnaed mae yn orphwysedig arnom i geisio perffeithio ein cynlluniau fel ag i gael yr amddiffyniad goreu a mwyaf dylanwadol ag a allwn ei gael. Mae yn ymddangos fod pleidwyr Cymdeithas Rhyddhad Crefydd am geisio dylanwadu hyd y gallant ar bob plwyf; ymdrechant dreiddio i mewn i bob cornel; gan hyny dylai sylw neill- duol gael ei dalu genym ninau i'r cwestiwn hwn, fel ag y byddo amddiffyniad yr Eglwys yn treiddio i bob cornel, ac yn effeithiol yn mhob plwyf. Rhaid cael y cydweithrediad mwyaf calonog rhwng gwahanol blwyfi yr esgobaethau Cymreig, cyn y bydd i ni ddarbwyllo y Dadgysylltwyr ein bod o ddifrif yn y gwaith. Pe bae un o lynges- oedd y Cyfandir yn gwibio o gwmpas glanau yr ynys hon i geisio gwiieyd ymosodiad arnom fel trigolion, ni fyddem yn foddlawn i adael un pwynt heb wyliadwriaeth ofalus. Yn gymwys felly ni ddylid gadael un plwyf yn agored i'r Dadgysyllt- wyr i ymsefydlu ynddo, a chael eu ffordd eu hun- ain. Dywed rhai, a hyny yn eithaf gwir, mai yr amddiffyniad goreu yn mhob plwyf rhag ymosod- iadau y Dadgysylltwyr, yw i bawb, yn glerigwyr a lleygwyr, wneyd eu dyledswydd yn onest i gael yr Eglwys ymlaen mewn gallu a dylanwad. Yr wyf yn cytuno & hyn. Dyma wrthglawdd da yn erbyn ergydion ein gwrthwynebwyr. Y mae esiampl dda y clerigwyr a'r aelodau, ynghyd a'u gweithgarweh ynglyn a'r Eglwys, yn dwyn cryf- had sylweddol i'r Eglwys i ddal ei thir, ond mae y gwaith da hwn sydd yn myned ymlaen yn gyson, eto yn benderfynol ac effeithiol, yn rhwym o gymeryd rhyw gymaint o amser i ddylanwadu ar ar y wlad. Mae y Dadgysylltwyr o hyd yn effro, ac yn gweithio gydag egni mawr. Yr ydym yn gresynu na fuasai eu diwydrwydd yn cael ei ddangos ynglyn ag achos gwell a chyfiawnach nag sydd ganddynt mewn llaw. Ond fel hyn y mae pethau yn bod. Mae genym i wrthwynebu cyn- hyrfiadau yn ein gwlad. Mae undeb a chyd- weithrediad yn mysg y rhai sydd yn ymosod. Mae cyfarfodydd cyhoeddus o blaid dadgysylltiad yn cael eu cynal yn fynych. Defnyddir y wasg, a gwrthwynebir yr Eglwys mewn llawer ffordd i gyfaddasu ei hun gogyfer ag anghenion ysbrydol trigolion ein gwlad. Maent yn ddiwyd iawn yn hel arian i ddwyn ymlaen eu gwaith. Yn ngwyneb hyn, sef eu bod hwy mor effro, rhaid i ni ymhob plwyf, nid yn unig gael y bywyd glan a disglaer a'r Eglwys yno yn llewyrchus, ond dylai pob plwyf fod yn barod i gyfarfod yn gyhoeddus bob ymosodiad a wneir ar Hen Eglwys ein'Tadau. Mewn llawer man mae ymosodiad cyhoeddus o eiddo y Dadgysylltwyr wedi dwyn i fodolaeth yn fuan wed'yn gyfarfod amddiffynol gan yr Eglwys. wyr, lie y gwasgarwyd haeriadau yr ymosodwyr gyda'r gwynt. Beth a ddywedwn ni am y lleoedd hyny yn y rhai nid oes yn bresenol ymosodiad cyhoeddus yn cael ei wneyd ? Mae yn debyg nad yw pawb yn edrych ar y pwnc hwn yn yr un golygiad. Dichon y dywedir mai gwell yw peidio symud na llaw na throed yn y mater, ond tebygol yw fod yna lawer iawn o weithio o blaid dadgysylltiad mewn gwahanol ardaloedd yn gyfrinachol neu yn breifat. Gallwn gasglu, ynte, nad ydym ni ddim yn gweled yr oil ag sydd yn myned ymlaen ynglyn a hyn a dyma gwestiwn o bwys pe deuai y Dadgysylltwyr i wneyd ymosodiad sydyn yn y plwyfi hyny nad ydynt yn awr yn parotoi ynglyn a'r cwestiwn hwn, a fyddai yr Eglwyswyr yn y plwyfi hyny yn gallu gwneyd amddiffyniad effeithiol ar ran yr Eglwys ? Diameu y byddai iddynt wneyd amddiffyniad, ond a fyddai yn un effeithiol ? Rhaid rhoddi pwys ar rag-barotoad. Un ffordd i wneyd hyn yw defnyddio a gwasgaru o gwmpas y llyfrau a'r pamphledau hyny ag ydynt yn trin y cwestiwn hwn ar yr ochr amddiffynol. Mae hanesyddiaeth Eglwysig yn chwareu rhan helaeth ynglyn Ag amddiffyniad yr Eglwys, felly dylid talu sylw i hyn ymhob plwyf. Mae genym fantais fawr ar yr ymosodwyr yn y fan hon. Gallwn olrhain yr Eglwys yn ol i'r adeg hono pan yn cychwyn ei gyrfa yn ein gwlad ar dir ei babandod yn nglianrifoedd cyntaf Cristionogaeth. Nis gallaf ymatal yn y fan hon rhag dweyd am un amgylchiad bychan a ddigwyddodd o fewn fy ngwybodaeth er's ychydig flynyddoedd yn ol. Mewn ardal Gymreig boblogaidd, yr oedd Cym- deithas Ddadleuol wedi ei ffurfio, aelodau yr hon oeddynt agos oil yn Ymneillduwyr. Y pwnc a osodwyd i lawr un tro i ddodleu arno oedd, Dad- gysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys." Yr oedd yno Eglwyswr ieuanc yn benderfynol i siarad ar ran yr Eglwys. Bu am tua pythefnos o amser yn gweithio yn galed ar faes hanes yr Eglwys yn y wlad hon. Cafodd afael mewn llawer o ffeithiau pwysig, a thrysorodd hwynt yn ei gof. Yn arfog felly cyfarfyddodd a chwech neu saith o siaradwyr ar yr ochr arall, a threchodd hwynt oil. Ar y diwedd yr oedd yn sefyll i fyny wrtho ei hunan heb fod neb o'r Ileill yn gallu codi i fyny i'w wrthwynebu. Pa fodd y bu hyn ? Yr oedd wedi eu harwain i dir dieithr, tir newydd na wyddent fawr am dano, ac yr oedd ei wybodaeth yn nerth iddo. Dylid cael gwybodaeth eangach ymhob plwyf am yr ymdrechion beiddgar hyny a wneir i ddarostwug yr Eglwys o ran ei safle a'i meddianau. Ond oes llawer o'r Cymry unieithog na wyddant ond ychydig iawn am Gymdeitha- Rhyddhad Crefydd a'i dibenion ? Onid hardd fyddai gweled Eglwyswyr pob plwyf wedi dyfod i wybodaeth llawn o hyn, ac i fod yn barod bob amser i wneyd amddiffyniad galluog rhag i'r Eglwys gael un cam ? Mae ei chymeriad yn cael ei bardduo safer i fyny dros iddi gael y gwir ceisir dwyn oddiarni yr eiddo hwnw y mae ganddi hawl gyfiawn iddo ymladder ar dir cyfiawnder am iddi gael perffaith chwareu teg ynglyn a'i holl feddianau. Cofia hyn :—Mae yr Eglwys yn werth ei ham- ddiffyn. Mae yn meddu ar safle henafol ac hanesiol yn ein gwlad. Mae wedi bod yn fendith annrhraethol i'n gwlad yn barod. Mae yn parhau felly. Gwneir ymosodiad arni. Camddarlunir hi. Cynygir ei hysbeilio. Felly dylai pob un o'i haelodau ffyddlawn wneyd ei oreu ar ei rhan. Mae yn debyg mai un o amcanion y Dadgy- sylltwyr yn y dyfodol fydd hyn, sef ceisio dylan- wadu ar y sawl y bwriedir estyn yr etholfraint iddynt, fel ag iddynt ar ol dyfod i feddiant o'u pleidleisiau, eu rhoddi o blaid ymgeiswyr seneddol a gefnogant y pwnc o Ddadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys. Yn y ffordd hon ceisir treiddio i bob cornel, ac edrychir ymlaen gan y Dadgysylltwyr am fwy o gynorthwy o blaid Dadgysylltiad os ychwanegir eto ddwy filiwn o bobl at yr etholwyr hyny ag ydynt yn barod ar y maes. Mae ymdrech benderfynol yn ein herbyn gwnawn ymdrech benderfynol i'r chyfarfod. Ni chawn lonydd na fyddwn lonydd. Awn ymlaen yn bwyllog, eto yn eofn a dylanwadol, hyd nes y byddo yr ymosodwyr wedi eu llonyddu, a ninau wedi dyfod i'r safle dedwydd hono, sef pob un yn ei le ei hun i gael llonydd i ddwyn ymlaen waith yr Eglwys er lies y bobl, heb y cynhyrnadau allanol hyn ag ydynt, mae'n alarus dweyd, yn magu cymaint o ddrwg deimlad, ac o anghariad yn ein hanwyl wlad.—Yr eiddoch, &c., UN O'R GOGLEDD.
YMNEILLDUAETH SEFYDLEDIG:…
YMNEILLDUAETH SEFYDLEDIG: CYS- YLLTIAD Y METHODISTIAID WESLEY- AIDD A'R WLADWRIAETH. At Olygydd Y Llan." SYR,—Yn y llyfr a adnabyddir wrth y teitl The Constitution and Polity of Wesleyan Methodism," gan y Parch. H. W. Williams, D.D., ac a gyhoeddir yn swyddfa y Wesleyaid, Llun- dain, ceir copi o'r Weithred Fynegiadol (Deed Poll) y Parch. John Wesley. Yn neclireuad y weithred swyadogol cofnodir y ffaith fod y Parch. Jphn Wesley weii cofrestru gweithrediadau yn dal cysylltiad ag amodau daliad yr eiddo, yn y llys gwladol-Court of Chancery, yn unol a gweithred seneddol a drefnwyd er hyny gosodir allan yr hawl i benodi pregethwyr i bregethu ac i egluro Gair Duw yn ol amodau ac o fewn y terfynau a osodir i lawr yn y gweithredoedd ymddiriedol. Gwelir, oddiwrth hyn, pa amodau neu derfynau bynag sydd i lawr yn y cyfryw -eitbredoedd, bod grym cyfraith wladol o'r tu cefn iddynt er sicrhau unffurfiaeth yn yr athrawiaeth, &c. Mae'n hys- bys i bawb nas gall unrhyw gynhadledd, &c., ac eithrio y Senedd, gyfnewid y cyfryw gyfreithiau. Dywed y Weithred Fynegiadol nad oes neb i ystyried ei hun yn Wesleyad ond y sawl a gyd- syniant A'r safon a osodwyd i lawr gan John Wesley a'i gydgynghorwyr yr adeg hono. Mae llaw-farw John Wesley a'r cyfreithwyr am y Wesleyaid y dyddiau hyn, yn eu cryfangu gyda'r fath nerth yn rhinwedd grym cyfraith wladol fel i beri poen ac anghysur mawr yn ngwersyllfa gadarnaf y Wesleyaid-sef eu Cyn- hadledd Flynyddol. Gosodir i lawr gyfansoddiad y gynhadleddd, ei gallu, rhif, parhad yr eisteddiad, &c. Arwyddwyd y Weithred Fynegiadol gan y Parch. John Wesley, Chwetror 28ain, 1784. Seliwyd a throsglwyddwyd hi, i'r swyddogion gwladol, ar ol ei stampio, yn mhresenoldeb Wil- liam Clulow, Quality Court, Chancery Lane, Lon- don a Richard Young, clerk of the said William Clulow." Derbyniwyd a chydnabyddwyd y weithred gan y Parch. John Wesley, ar y dyddiad uchod, yn y Swyddfa Gyhoeddus, yn mhresenoldeb Edward Montagu." Ystyriwn bellach y Cynllun Weithred ym- ddiriedol "-(Model Trust Deed) y cyfeirir ati yn y Weithred Fynegiadol. Yn gyntaf, mae y Cyfundeb Wesleyaidd yn bur ofalus i gyhoeddi yn groyw gan bwy y mae awdurdod i gyfnewid ac egluro rhanau o'r Weithred yma. Yn nhudalen 170 o'r Constitution and Polity, &c. ceir (1) Bod yn rhaid sicrhau yr eiddo—hyd y gellir—yn ol y cynllun Weithred Ymddiriedol; (2) Bod yn rhaid cofrestru y cytryw yn y Canhell-lys (Chancery). (3) Nas rhoddir hawl i gyfnewid cynwysiad y gweithredoedd crybwylledig ond drwy ganiatad y Dirprwywyr Elusenol, neu y Canghell- lys. Yn nhudalen 171 gosodir i lawr nas gellir apelio at y Dirprwywr Elusenol na'r Canghell-lys, ond drwy gydsyniad Llywydd y Gynhadledd am y flwyddyn. Yn nhudalen 174 dywedir, er nad ydyw cofrestriad yn orfodol mewn rhai achosion, eto mae'r Gynhadledd Wesleyaidd yn gosod i lawr y rheol y rhaid cofrestru eiddo Wesleyaid ynghyd a'r amodau ar ba rai y delir y cyfryw, yn y llys- oedd gwladol. Yn y I- Model Trust Deed gosodir i lawr yn eglur Safon Athrawiaeth y Cyfundeb Wesley- aidd." Gwelir yn nhudalen 28, (adran 20) y geiriau canlynol: Ni chaniateir i unrhyw ber- son neu bersonau bregethu neu egluro gair sanct- aidd Duw yn y capel neu y lie y cynhelir addoliad crefyddol, os bydd i'r cyfryw berson neu bersonau ddal, cyhoeddi, neu addysgu unrhyw athrawiaeth neu arferiad croes i'r hyn a gynwysir yn nod- iadau John Wesley ar y Testament Newydd ac yn ei bedair cyfrol cyntaf o'i bregethau." Dyma'r safon. Sylwer, nid y Testament New- ydd, ond Nodiadau Wesley ar y Testament Newydd nid pregethau Crist a'i Apostolion, ond pregethau Wesley. A ydyw y Wesleyaid yn rhwym o ddilyn y safon yma yn hytrach na safon Holl Gynghor Duw-y Dwyfol Air ? Gadawn i rai o brif weinidogion y Wesleyaid lefaru dros eu hachos :—Y Parch. Dr. Osborn a ddywedodd yn y Gynadledd Wesleyaidd a gynhaliwyd ych- ydig wythnosau yn ol yn Burslem Mai nid cwestiwn rhyngddynt hwy a'r Testament Newydd oedd y pwnc o athrawiaeth, ond rhyngddynt hwy a'u safon. Nid oeddynt yn Eglwyswyr nac yn Gynulleidfawyr, ond Wesleyaid, a Wesleyaid yn ol eu hunig safon eglurhaol o'r Ysgrythyr. Rhaid iddynt ymfoddloni i wynebu y cyhuddiad eu bod yn dilyn athrawiaeth dyn yn hytrach nag ath- rawiaeth y Testament Newydd." Paham ? Am mai safon y Parch. John Wesley y mae eu Model Trust Deed yn gosod i lawr iddynt. Rhyw ddwy flynedd yn ol dywedodd y Parch. Mr. Watkinson yn y Gynhadledd Wesleyaidd bod awdurdod uchel wedi eu hadgoffa ychydig flynyddau yn ol mai eu dyledswydd yn y Gynhad- ledd oedd nid i ystyried pa un a oedd rhyw ath- rawiaeth benodol yn cytuno a'r Ysgrythyr ai nad oedd, ond a oedd yn cytuno ag esboniad John Wesley ar yr Ysgrythyr ai peidio. Gwel y Methodist Recorder, Awst 1, 1882. Y Parch. Dr. William Davies a ddywed :—" Nid ydym yn ey- meryd arnom ddilyn y gwr rhagorol hwn, Mr. Wesley, yn ei holl dybiau ac yn ei holl feddyliau. Ei dair-ar-ddeg-a-deugain o bregethau, y rhai a gyhoeddwyd ar y cyntaf mewn pedair cyfrol. ond a gynwysir yn awr yn y ddwy gyfrol gyntaf o'i bregethau y pregethau hyn, ynghyda'i nodiadau ar y Testament Newydd; ei weithiau hyn yn unig a dderbynir genym ni fel cyffes eglur o'n ffydd." Gwel tudalen 47 o ddarlith y Parch. W. Davies, ar yr Olyniaeth Aostolaidd. Mae'n berffaith hysbys i Dr. Davies, bod maen melin am wddf y Cyfundeb trwy gyfraith wladol nas gallent ym- ysgwyd oddiwrthi. Prin y rhaid dweyd yn mhellach mai gwyr y gyfraith sydd i benderfynu yn y pen draw, beth sydd efengyl yn ol Wesley, a beth sydd groes i hyn. Mae'r cwestiwn tra difrifol yn awgrymu ei hun A ydyw y Wesleyaid yn ymwybyddus yn gyffredinol eu bod yn dilyn athrawiaeth dyn yn hytrach nag eiddo y Testament Newydd ? Pa ryfedd i'r bardd Nicander ganu Os oedd ymenwi yn beth ffol Ar enwau Paul a Cephas, A yw ymenwi ar enwau llai Yn beth difai ac addas?" ac hefyd, mewn perthynas i Wesley awdardodi Coke, j canoda ei frawd Charles :— How easily are Bishops made By man or woman's whim; Wesley his hands on Coke hath laid. But who laid hands on him? Mor hawdd y gwneir yn Esgob un, 'Nol mympwy hwn neu hon; Ar Coke rhoes John ei law ei hun, Ond pwy roes law ar John?" Gwelir mai gwladol, dynol, bydol ac anysgrythyrol ydyw y corph Wesleyaidd.-Yr eiddoch, &c., E. HUGHES.
PREGETHWR TANLLYD.
PREGETHWR TANLLYD. At Olygydd Y Llan." SYR,—Gwelais beth hynod yn y Western Mail am ddydd Sadwrn diweddaf. Mewn cyfarfod Radical. aidd a gynhaliwyd yn nghapel Brynhyfryd, Rhymni, cynygiodd un o'r pregethwyr oeddynt yn dysgu y bobl yno, ar fod i faner fawr gael ei gwneuthur, a darlun o Arglwydd Salisbury gael ei baentio ar y faner, ac fod i feibion Rhymni ei chario hi i Tre- degar, ac yna ei llosgi hi a'r darlun arni yn gyhoeddus o flaen y Town Hall yn Tredegar. Mae ysbryd tan- llyd wedi meddianu y gwr hwn, pwy bynag ydyw. Pe bai yn meddu ar awdurdod a gallu, a braich digon hir, diameu y llosgai y gwr tanllyd hwn, nid y darlun, ond Arglwydd Salisbury ei hun. Mae'r ci chwerw yn cnoi blaen y ffon o herwydd na all wneuthur dim yn rhagor. Byddai yn well ganddo gael pen ei pherchenog rhwng ei ddanedd. Rhoddai hyny fwy o foddhad iddo. Felly y gwr tanllyd hwn, un o weinidogion yr addfwyn lesu Fe g'ai fwy o fwyniant wrth losgi Arglwydd Salisbury ei hun, ond gan na ellir gwneuthur hyny, llosger ei lun. Rhaid fod ei gynulleidfa yn falch o'r gwr tanllyd hwn. Mae cywreinrwyd yn fy ysu am gael gwybod ei enw. Gwr hynod yn ei oes ydyw ef. A fydd un o ohebwyr Rhymni mor garedig a danfon ei enw i'r LLAN. Nid anfuddiol hefyd fyddai cael nodau o'i berson, megis lliw ei wallt, hyd ei farf, llun ei drwyn, ac yn y blaen er mwyn i ni gael cadw yn ddigon pell oddiwrtho, pe digwyddai i ni ei gyfarfod mewn lie unig! Nid wyf yn hoff o'r ysbryd tanio a llosgi yna; gwell genyf gadw can' llath rhyngof a'r gwr. ISAAC.
[No title]
Tri pheth ni wel yr annuwiol cariad Duw i roddi ei fab drosom, Crist yn arweinydd yn y glyn, a'r nefoedd yn gartref yr ochr draw. Tri gobaith y Cristion Crist yn arweinydd yn y glyn, Crist yn ei wahodd y boreu mawr, a bod gyda Christ yn dragwyddol. Paham y mae llawer bardd Cymreig fel gwr blinedig ?—Ateb Am nad oes dim yn ei foddio yn well na chadair. v Beth yw y peth hwnw sydd a chanddo bedwar bys ac un bawd, ond nid oes ganddo gnawd nac 11 esgyrn ?—Ateb Maneg.