Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
LLANGEINWEN-CUM-LLANGAFFO.
LLANGEINWEN-CUM-LLANGAFFO. Dydd Gwener, y 15fed cyfisol ydoedd ddydd o lawen chwedl i ysgolion Sul yr Eglwys yn y plwyfydd hyn. Trwy haelfrydedd arferol y boneddigion a'r bonedd- igesau canlynol, y Parch H. Pritchard, a Miss H. Pritchard, Dinam Hall; Miss Jones, Trecana Mr J. Griffith, Clynog, ac eraill, caed te a bara brith i ysgolion Sul Llangeinwen a Llangaffo, ar y dydd crybwylledig, yn y lie rhamantus a swynol hwnw, Llanddwyn. Cludid yr ysgolheigion yno gan un-ar- bymtheg o gerbydau a throJiau, gwasanaeth gwerth- fawr pa rai a gafwyd trwy garedigrwydd ein cymyd- ogion. Wedi cyrhaedd yr ynys grybwylledig, caf- wyd gwasanaeth byr a phwrpasol i'r plant gan ein parchus Rector, y Parch Evan Jones, wedi hyny, aed ymlaen gyda'r danteithion arlwyedig, a chredaf i bawb wneyd cyfiawnder a. hwynt hyd eithaf eu gallu. Wedi hyny aed ymlaen gyda'r gwahanol chwareuon diniwaid ond difyrus hyny, megys rhedeg am y cyntaf, &c. Y Parch H. Pritchard, Dinam Hall, a roddodd wobrau i'r rhedegwyr cyf- lymaf yn feibion a merched, a'r merched fynychaf enillodd y gamp yn y rhedegfa hon. Cynorthwywyd Mr Pritchard yn y gwaith difyrus a nodwyd gan y Parchn. E. Jones, rector, Ph. P. Hughes, curad. Wedi i bawb ddifyru eu hunain mewn gwahanol ddulliau, oddeutu 200 mewn rhifedi, wedi hyny caf- wyd pethau melusion i'r plant gan y Parch H. Pritchard, a chnau gan Mr H. Williams, Taldruest. Yna cafwyd ymborth eilwaith, a dychwelodd pawb adref yn llawen ac yn ymddangos wedi cael eu llwyr foddloni.
ABERAMAN.
ABERAMAN. Dydd Llun diweddaf cynaliodd ysgolion Sul Eg- lwys St Margaret eu gwyl flynyddol. Ar ol gwasan- aeth i'r plant yn yr Eglwys am ddau o'r gloch, ym- ffurfiwyd yn orymdaith hardd, yn cael eu blaenori gan seindorf bres Aberaman, ac awd drwy rai o ystrydoedd y lie i bare Aberaman, lie y cynelir yr wyl bob blwyddyn. Darparwyd y wledd gan Mr P. Williams, Aberaman, a rhoddwyd pob boddlonrwydd. Caed pob math o ddifyrwch diniwed ar ol tê, megys y rounkabouts, rhedegfeydd gwobrwyol, mewn sachau ac allan o honynt, rhaff-dynu, &c. Rhoddir yr wyl hon yn flynyddol gan Syr George Elliott. Chwareuwyd yn rhagorol gan y seindorf bres yn ystod y prydnawn, a dygwyd y llawenydd i ben drwy ddiolchiadau i Syr George Elliott, a thrwy chwareu yr Anthem Genedlaethol gan y seindorf. Cynaliwyd Nodachfa a the parti yn yr ysgoldy Brytanaidd yr wythnos cyn y diweddaf, er lleihau y ddyled ar yr organ. Gwnaed elw o ryw 9120. Bu cymdeithas gyfeillgar Y Bugeiliaid," dos- barth Aberaman, yn cynal eu gwyl flynyddol dydd Llun diweddaf. Dechreuasant yr wyl gyda phriod- oldeb mawr drwy wasanaeth yn yr Eglwys, er mai Ymneillduwyr yw y rhan fwyaf o honynt. Darllen- wyd y gwasanaeth gan y Parch H. E. Thursby, a phregethwyd gan y Parch J. H. Lloyd.
CAERNARFON.
CAERNARFON. Y LLONG HWYLIAU FWYAF YN Y BYD.—Dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, yn eu gweithfa yn Port Glasgow, gollyngwyd i'r mor un o'r llongau hwyliau cadarnaf yn y byd, gan y Meistri William Hamilton a'i Gwmni. Y mae ei hyd yn 340 o droed- feddi; lied, 49 dyfnder yr hold, 25 troedfedd 8 modfedd tunelliad cofrestredig, 3173. Ei henw yw Palgrave. Meddienir y llong hon gan yr adeil- adwyr, ac y mae Mr. Hugh Thomas, Caernarfon, wedi ei benodi yn gadben ami. CEIDWADWYR CAFRNARFON.-Mewn atebiad i ben- derfyniadau a basiwyd mewn cyfarfod o Gymdeithas Gyfansoddiadol y Dosbarth Gweithiol yn y dref hon, derbyniodd Mr. Richard Thomas, Church Street, atebion oddiwrth Ardalydd Salisbury a Syr Stafford Northcote, yn datgan eu diolchgarwsh am y cyfryw, ac yn hyderu y bydd i'r gymdeithas eu cynorthwyo i gael ysgrif ddiwygiadol deg a chyflawn i'r wlad.
LLANGYNOG A'R AMGYLCHOEDD.
LLANGYNOG A'R AMGYLCHOEDD. Hyfryd yw genyf hysbysu darllenwyr y LLAN fod yr Eglwysi yn y lie hwn a'r plwyfydd cylchynol a golwg bur lewyrchus arnynt. Y mae yma symudiad ar droed at gael American Organ, yr hon yn sicr a fydd yn gynorthwy mawr iawn i'r gyfran gerdd- orol o wasanaeth ein Heglwys. Deallaf hefyd fod yr Eglwys yn Hirnant yn ymegnio at gael Har- monium. Rhwydd hynt yn y gwaith da iddynt hwy a ninau, onide ? Ond eto y mae genym faes eang i berffeithio ein canu cynulleidfaol yn yr hymnau, chantiau, a'r anthemau. Onid oes modd i Llanrhaiadr, Penybontfawr, Hirnant, Llanwddyn, a Llangynog (neu rhagor os byddus yn dewis), uno ynghyd a chael cyfarfod cystadleuol llenyddol Eglwysig, fel ag sydd mewn amrywiol lefydd eraill, canys yr ydym yn cael pleser mawr wrth ddarllen dudalenau y LLAN am y cyfryw gyfar- fodydd dyddorol yn rhywle o hyd, ag am y lies annhraethol y maent yn ei wneyd. Bydded i ni felly benderfynu cael y cyfryw gyfarfod, a dewis darnau at y cyfryw o waith Eglwyswyr (canys mae genym ddynion a ddeil eu rhestru yn mysg rhai blaenaf yr oes, megis Eos Llechid ag amryw- iol eraill), fel ag y byddo yn lies i'r Eglwys ac i'w deiliaid yn gyffredinol.-H. Ll. Evans.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. PLESERDAITH.-Dydd Sadwrn diweddaf, mwyn- haodd yr oil o weithwyr Mri. Farrant a Frost (swyddfa y LLAN) yn fawr bleserdaith a gawsant i Abertawe, ar draul Mr. Frost, boneddwr nad oes ei ragorach yn Nghymru fel meistr. Nis gellir ei ganmol ormod, gan ei fod yn Gristion yn mhob ystyr ac yn esiampl deilwng o efelychiad. Mae Mr. Farrant hefyd yn foneddwr gwir deilwng, ond y mae yn glaf er's rhai misoedd, ac yn awr yn mwynhau awelon hyfryd New Zealand, lie y deallwn ei fod yn gwella yn rhagorol. Rhifai y cwmni dros ugain, a chychwynwyd o orsaf Merthyr am haner awr wedi saith y boreu, dan ofal Mr. David Jones, arolygwr parchus y swyddfa. Wedi cyrhaedd Abertawe, aethpwyd i wahanol gyfeiriadau, a da genym ddweyd i bawb fwynhau eu hunain yn arclderchog. Yn gymaint a bod y tocynau yn caniatau i ni aros yno hyd ddydd Mawrth, darfu i nifer dda aros yno dros y Sul. Mae y weithred hon o eiddo Mr. Frost wedi cryfhau y rhwymyn serchus oedd rhyngddo a'i weith- wyr, a hyderwn fod iddo hir oes i ddal ei gysylltiad a ni, gan ei fod yn foneddwr yn ngwir ystyr y gair, yn Gristion cywir, ac yn garedig bob amser. Mentrwn ddweyd nad oes ei dirionach yn y byd, ac y mae bob amser yr un fath, ac ymhob amgylchiad. Syn- asom wrth fawredd tref Abertawe, ac y mae y farch- nad a phobpeth arall yno yn hynod am eu glân- weithdra, a phobpeth yn gyfleus. YR YSGOLION SUL EGLWYSIG.—Ddoe, cynhaliwyd cyrddau te blynyddol yr Ysgolion Sul Eglwysig yma, a cheir adroddiad am danynt yn ein rhifyn nesaf. SEINDOEF Y BLACK WATCH."—Dyddiau Llun a Mawrth diweddaf, bu seindorf catrawd enwog y Black Watch yn cynal cyngherddau yn Mharc Penydarren, ac yn yr hwyr cafwyd fireworks gan Mr. Paine, Llundain. Yr oedd y naill beth a'r llall yn ardderchog, ac yn rhoddi boddlonrwydd i'r miloedd a ddaethant ynghyd. DYN IEUANC AR GOLL.-AR y 9fed cyfisol, aeth dyn ieuanc, 16 mlwydd oed, o'i gartref yn Brecon Road, ac nid ydyw ei deulu hyd yma wedi clywed gair yn ei gylch. Pan ymadawodd, gwisgai got ddu, llodrau tywyll, het galed ddu, cadach gwddf glas, &c. Mae wedi colli ei ewin oddiar ei fawd chwith. Teimla ei deulu yn ddiolchgar am unrhyw wybod- aeth yn ei gylch, a dymunir arno yntau, os gwel y llinellau hyn, ddychwelyd gartref yn ddioed, lie y dangosir pob croesaw iddo. Anfoner at Mr. W. Thomas, 63, Brecon Road, Merthyr Tydfil.
MAENTWROG.
MAENTWROG. DADGYSYLLTWR.—Paham na ddaethost ti i'r Cyfar- fod Dadgysylltiol yn Nghapel Gellilydan nos Sadwrn ? CEIDWADWR.-Y fi i ddyfod yno i wrando ar ffredogau y pregethwyr A wyt ti yn cofio flynydd- au yn ol fel y ceisient ein perswadio i gael Bwrdd Ysgol i'r plwyf ? Dywedent yn hyf y pryd hyny nas gallai y dreth fod yn ddim mwy na thair ceiniog yn y bunt ond beth a ddywed y plwyfydd sydd wedi gwrando arnynt erbyn hyn ? Coelia fi, nid oes dim ond malais ac hunan elw yn llywodraethu pregeth- wyr yr oes hon. • D.—Ond a ydyw yn rhesymol i dalu degwm ? C.—Nid oes neb yn talu d3gwm er ys yn agos i 40 mlynedd. Rhent yn lie degwm sydd 'rwan (Tithe Rent Charge), ac y mae rhent y Person mor rhesym- ol a rhent Meistr y tir, mor bell ag y deallaf fl., ao yn ami yn fwy buddiol i'r plwyfolion. D.—Nis gallaf ddirnad pa fuddioldeb a gaiff Ym- neillduwyr oddiwrth y Person. C.—Heb son am ei wasanaeth crefyddol, c&nt lawer o les bydol oddiwrtho. Y mae efe yn byw yn y plwyf ac yn gwario ei arian ynddo, y mae yn drethdalwr, ac yn cymeryd dyddordeb yn y Festri a'r trethi, y mae yn elusengar i'r tlodion, yn gyng- horwr i'r plwyfolion ar lawer adeg, yn gynorthwy iddynt hwy a'u plant mewn llawer amgylchiad, yn gefnogwr addysg, a gwna y cwbl yn rhad ac am ddim. D.—A ydyw ddim yn orthrwm fod yn rhaid talu rhent ddegwm i'r Person ? C.—Ystyria beth yr wyt yn siarad. A oedd pob tenant ddim yn gwybod faint oedd o ddegwm fel ei gelwir, ar ei dyddyn cyn ei gymeryd ? A wyddai y Meistr tir neu ei orchwyliwr hefyd ddim faint o ddegwm oedd arno ? A oedd y rhent ddim yn llai o ( gymaint ag ydyw y degwm ? Pa orthrwm ynte ydyw ei dalu ? Y gwir yw, y mae yn well i fferiH- wyr gweiniaid fod degwm na phe baent hebddo. D.-Wel, wel, sut y gallu di brofi hynyna ? C.—Mae yn rhaid talu y rhent ar ddiwrnod pen- odedig, a llawn digon o waith i lawer ei chael. Mae y degwm ar ddiwrnod diweddarach a cheir tipyn o amser yn ychwaneg i'w hel, ac yn ami mae y Person yn fwy amynyddga,r na Meistr y tir, ac y mae hyn oil yn gryn dipyn o gyfleusdra i ffermwr cyfyng ei amgylchiadau. D.-Ie, ond beth pe diddymid y degwm ? Dyna yr hyn sydd arnaf fi eisiau wybdo. C.—Pan ddadgysylltwyd yr Eglwys yn yr Iwerddon, gwerthwyd y degwm i'r Meistr tir, a chododd yntau yn y rhent. Gofelir na osodir y fferm am lai na'i gwerth, ac os na fydd degwm ami, bydd y rhent yn fwy. Mewn lliaws mawr o blwyfydd, boneddigion, ac nid y Personiaid, sydd yn cael y degwm, megys yn Dolyddelen, Bettws y Coed, Capel Curig, &c. D.—Dywedai y Parch Evan Jones, Caernarfon, yn nghapel Gellilydan, ei bod yn cyfyngu ar ryddid Ymneillduwyr i orfod talu degwm at gynal yr Eg- lwys Wladol. C.—Beth waeth i'r tenant i bwy y rhaid iddo ef dalu ei ddyled cyfreithlon—pa un a'i i'r Person neu i'r Meistr tir ? Beth pe bai Eglwyswr yn byw yn nhy capel Gellilydan, a fyddai yn iawn iddo dalu rhent i'r Capel, neu a fyddai hyny yn cyfyngu ar ei ryddid ? D.-Ie, ond dyna Freeholder yn byw ar ei fferm ei hun ac yn Ymneillduwr ? C.—Sut y cafodd efe hi ? A oedd degwm ar y fferm pan brynodd efe hi neu pan y daeth i'w feddiant ? Os felly, naw rhan o ddeg a brynodd neu a dderbyniodd efe, ac nid ei eiddo ef y ddeg- fed ran-eiddo y Person neu'r boneddwr yw hono. Cydwybod dyner iawn sydd gan y Parch- pan y bydd eisiau talu, ond y mae hi yn hynod ystwyth wrth dderbyn. D.—Wel wir, yr wyf fi bron a meddwl mai goreu i ni fod yn llonydd, rhag i* ni fyned o ddrwg i waeth, pe byddai rhyw obaith i ni lwyddo i gael Dad- gysylltiad. C.—Coelia fi, meddwl am eu lies eu hunain y mae'r pregethwyr sydd yn dyfod i areithio ar draws y wlad. Y mae Cymdeithas Ryddhad Crefydd yn talu iddynt am eu gwaith, a rhaid iddynt ddweyd rhywbeth am eu cyfiog.
RHYMNI.
RHYMNI. YR YSGOLION SUL.-Dydd Sul diweddaf daeth tair ysgol yr Eglwys yn y lie hwn ynghyd i'r Eglwys erbyn tri o'r gloch, pryd yr aethpwyd trwy wasan- aeth byr, yn Gymraeg a Saesneg. Gweinyddwyd gan y Ficer, ac yna adroddwyd gwahanol ranau o'r Catechism a Rhodd Mam gan y plant, a gwahanol benodau gan y bobl mewn oedran. Daeth tyrfa fawr ynghyd, ac yr oedd yr adrodd a'r canu yn rhagorol. Mae parch mawr yn ddyledus i wahanol arolygwyr ag athrawon yr Ysgolion Sul am fod llwyddiant yr ysgolion yn ymddibynu arnynt hwy yn fwyaf neillduol. A diameu fod yr arolygwyr a'r athrawon yma ar eu goreu wrth weled y fath dorf oedd wedi dod ynghyd. Llwyddiant iddynt. CYFARFOD RHV)DFRYDOL.-Mae llawer o swn ac ychydig o sylwedd mewn llawer man heblaw Llun- dain. Profasom hyn yn Rhymni dydd Mawrth di- weddaf. Bu amryw gyfarfodydd yn cael eu cynal er mwyn cael Demonstration mawr i fyned i gyfarfod Mr Dillwyn a'i frodyr. Cynygiodd un i gael brass band, a'r llall i'gael Flag, ag un Parchedig Syr, "i gwel llun Arglwydd Salisbury ar y flag, ao ar ol ei chario drwy wahanol ystrydoedd y lie ei llosgi o flaen y llu yn Tredegar." Dyma beth y galwn ni ysbryd Crist- ionogol a chariad brawdol? Dyma stamp ein gwein- idogion ni yma. Ond erbyn boreu dydd Mawrth cawsom ein siomi yn fawr, gan nad oedd llun y Lord arni. Aeth pedwar person anrhydeddus i'r orsaf i gyfarfod y seindorf, dau i gario'r flag, ar yr hon yr oedd, Trech gwlad nag Arglwydd," a Diwedd Ty yr Arglwyddi," a'r ddau arall i ddangos y ffordd. Felly yr aethant drwy yr ystrydoedd er mwyn cofio i'r bobl am y dydd. Pan ddaeth yr amser i gychwyn nid oedd neb i'w gweled yn mron yn barod i gychwyn, ond tua deuddeg o'r gloch daeth arweinwyr y doethion i'r maes, gan ffurfio gorymdaith, ond cafodd pawb eu siomi yn y rhif, ond nid yn y quality, a'r argraff a adawodd ar ei ol oedd, mai Ceidwadwyr yw pobl Rhymni. Chwareu-teg i'r Colliers bach, anaml y maent yn cael outing neu bic-nic mor bell a Tredegar. A dywedai un wedi dod yn ol mai ychydig o'i frodyr gorymdeithidl aeth i wrando ar yr areithiau, am iddynt fyned i ofalu am angenrheidiau'r corff. Pwy feddyliai eu bod mor gall?
OAKWOOD, CWMAFON. '
OAKWOOD, CWMAFON. Dydd Sul diweddaf bu Mr. William Headley, Prifysgol Caergrawnt, diweddar o Nanerch, sir Fflint, yn pregethu yn Eglwys Genhadol St. loan yr Efengylydd yn y boreu am 11 o'r gloch yn Saesneg, yn y Bryn am dri o'r gloch yn Gymraeg, ac yn Oakwood eto am 6 o'r gloch yn Gymraeg. Bydd Mr. Headley yn pregethu yma y Sul nesaf eto.— John Davies.
GORSEINON STATION.
GORSEINON STATION. EGLWYS Y DRINDOD.—Mr. Gol., mae yn gofus genych, mae yn bur debyg, i mi ddweyd, yohydig amser yn ol, fod yr Eglwys uchod ynirhydd o ddyled. Penderfynodd ein ficer mai gweddaidd oedd rhoddi y gogoniant i Dduw. Felly Sul a Llun, yr 17eg a'r 18fed cyfisol, cawsom wasanaethau a phregethau ardderchog. Boreu Sul am 8, gweinyddwyd y Cymun Bendigaid. Am 11, darllenwyd y gwasan- aeth gan y Parch. W. Ogwen Dpvies, a phregethwyd gan y Parch. Tudor Thomas, ficer Llanwrtyd, oddiar Psalm cix. 3. Yn y prydnawn, am 2.30, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. Tudor Thomas, a phreg- ethwyd gan y Parch. D. Banks Williams, curad y Parch. A. Britten, yn Ysbytty, oddiar St. loan xi. 23-27. Bydd y boneddwr galluog hwn yn gystal llefarwr a'i ficer, mae ef yn dringo i fyny yn gyflym ar ei ol. Yn yr hwyr am 6, dwy bregeth gan y Parch. Tudor Thomas eto, yn Saesneg, Amos iv. 12, ac yn Gymraeg, Psalm xc. 1. Nos Lun, pregeth Saesneg gan yr Hybarch Archddiacon James, Deut- xii, 9, pregeth Gymraeg gan Dr. Walters, Llansamlet. Cawsom gymeradwyaeth uchel gan yr Archddiacon a chan Dr. Walters am yr ymdrechion sydd wedi eu gwneuthur gyda'r Eglwys hon, mae yn llewyrchus dros ben yma. Gwnaeth y c6r ei waith yn rhagorol dda dan arweiniad Miss B. Lewis, Felin Mynach. Mae y foneddiges ieuanc hon yn llafurio yn galed gyda'r c6r a chyda phob peth arall y mae yn bosibi iddi gynorthwyo.-Benom.
CYNHADLEDD ESGOBAETH BANGOR.
ddylid gael. Trwy gael adroddiad cyflawn o'r hyn sydd i'w ateb, ceid cyfleusdra ardderchog i barotoi atebiad cyflawn, nerthol, perthynasol, ac effeithiol. Camgymeriad, yn fy marn i, yw cyfeirio at yr hyn a ddywedwyd mewn un man tra'n ateb mewn lie arall. Gadawer haeriadau pob man i'w fan. Atebion pen- dant a neillduol i haeriadau pendant a neillduol a ddisgwylia'r bobl gael. Ac y mae'r hyn a glywant yn yr araeth yn gyffredin yn gadael mwy o argraph ar eu meddyliau na'r hyn a ddarllenant yn y new- yddiadur. Eisiau cyfarfod yr argraph hwn sydd, a'i ddileu. Ac os na cheir atebion f'ont yn curo'r hoel ar ei phen, ni wna'r cyfarfod amddiffynol ddim llawer o les. Pan yn rhag-drefnu cyfarfodydd, ac yn penodilr siaradwyr, nid digon gofyn i un gymeryd yr agwedd ysgrythyrol i'r cwestiwn, i arall ymdrin a phwnc y meddianau eglwysig, ac i arall gyfyngu ei sylwadau at y degwm yn neillduol. Buasai hyny yn burion mewn cyfarfod i addysgu'r bobl; ond nid dyna sydd eisiau mewn cyfarfod amddiffynol. Yno mae angen am eglur wrthbrawf o'r gosodiadau ym- osodol—cyfarfod yn ngwrth cyfarfod, gosodiad yn ngwrth gosodiad, rheswm a thystiolaeth i ddym- chwelyd haeriad. Y mae eisiau i'r bobl weled y berthynas rhwng yr amddiffyniad a'r ymosodiad neu ynte ymwasgarant heb eu hargyhoeddi na'u boddloni. Nid anfuddiol, feallai, fyddai dweyd gair o ber- thynas i'r arddull i'w fabwysiadu yn yr atebion, oblegid fod llawer yn dibynu ar yr iaith a ddefnyddir. Mae temtasiwn mawr weithiau i fod yn llym ac yn bigog, ond dylid osgoi hyny hyd y gellir. Y neb fo mwyaf hunan-feddianol, arafaidd, a thymerus fydd y goreu yn y pen draw. Cymerir mantais i bwyso ar y brath-eiriau, er mwyn tynu'r sylw oddiwrth rym yr ymresymiad a thrwy hyny bydd perygl i rai gael eu camarwain, a cholli golwg ar y gwir bwynt mewn dadl. Ar yr un pryd, rhaid dangos ar brydiau i'r ymosodwr mai nid yn ei eiriadur ef yn unig y ceir rhestr o'r cyfryw ymadroddion, ac wedi y gwneler hyny, gellir yn hawdd eu hebgor. Rhaid i ni gofio mai codi brychau ac edliw beiau yw rhan fawr o waith yr ymosodwyr. Yn ngwyneb hyn, rhaid dangos nad yn Nghyfundrefn yr Eglwys y mae'r holl feflau. Er hyny, gofaler dangos mai nid hoffi edliw beiau yr ydym ond mai angenrhaid a osodir arnom o herwydd ymddygiad y blaid ymosodol. Cysyllter yr hyn a ddyweder yn y cyfeiriad yma a'r hyn a ddywedwyd ganddynt hwYI; ond os na orfodir ni i wneyd hyn, nac ymyrer a'r gorchwyl. Cyn gadael pwnc y cyfarfodydd cyhoeddus dymun- wn awgrymu y dylid rhoddi perffaith chwareu teg i'r ymosodwyr gael eu ffordd eu hunain, a dweyd y peth a fynont yn eu cyfarfodydd eu hunain. Dangoswn fod genym ddigon o amynedd i wrando yn astud ar yr hyn fo ganddynt i gwyno o'i blegid ac yna bydd genym le i ddisgwyl yr un hynawsedd pan yn dad- lenu ein hochr ninau. Er y gallem fod yn ddigon oryf mewn ambell ardal i ymyryd yn eu cyfarfodydd hwynt, le, i gario penderfyniadau gwrthwynebol iddynt ynddynt, dylid cofio fod y cyfryw ymddygiad fel offeryn dau-finiog yn tori o'r ddeutu, ac y gallant hwythau wneyd yn gyffelyb yn ein cyfarfodydd ninau mewn llawer man. Dylem oil weithredu yn 01 yr hen wireb, Rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar," ac ymddwyn i fyny a'r rheol euraidd ysgrythyrol, Ac fel y mynech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud (St. Luc vi. 31). Os na wneir hyn, bydd yn Bier o arwain i gythrwfl a pheri cynhyrfu teimladau drwg. Mae'r ymyriad y cwynaf o'i blegid wedi digwydd o bobtu cyn yma a'm dymuniad yw na wneler ef gan neb mwyach. Boed i ni ddadleu'r pynciau hyn fel bodau rhesymol, ac nid fel creadur- iaid nwydwyllt, direswm. Ar wahan i'r cyfarfodydd cyhoeddus hyn, gellid gwneyd llawer yn dawel a digynwrf trwy sefydlu cyfarfodydd egwyddori er mwyn egluro i'n pobl ein hunain sut y mae pethau yn sefyll. Ond eu cyf- lenwi hwy â fIeithiau gallant hwythau, yn eu tro, gynorthwyo i ddarbwyllo eu cymydogion. Mae ym- gom gyfeillgar yn fynych yn gwneyd llawer mwy o ddaioni na chyfarfod mawr brwdfrydig lie y ceir pawb bron yn dymuno llwyddiant y blaid y tybiant eu bod yn perthyn iddi. Ac er mwyn addysgu ein pobl ein hunain dylid cael llawlyfr wedi ei drefnu rywbeth yn debyg i'r llyfryn Seisnig—"The English- man's Brief." Ond nid cyfieithiad llythyrenol o'r Saesoneg a foddlona chwaeth ein pobl. Gormod o'r arddull Seisnig sydd ar lawer o'n llenyddiaeth Gymreig ar y pwngc. Rhaid cymeryd mwy o ryddid gyda'r defnyddiau, a'u hail-bobi, nes y byddont yn gwisgo arddull gwir Gymreig, ac yn ymddangos mewn diwyg na fyddo yn flinder i gnawd yr un Cymro i'w darllen drwy- ddynt. Clywais laweroedd yn cwyno fod y dalenau a ledaenir ar y pwngc yn rhy anystwyth, ac fod an- naturioldeb iaith yn eu gwneyd yn ddiflas i'w dar- llen. Penoder Pwyllgor i barotoi y cyfryw lyfr. Anfoner crynodeb o haeriadau'r Dadgysylltwyr o bob ardal i ysgrifenydd y cyfryw bwyllgor fel y caffer rhestr gyflawn o honynt. Yna rhodder atebion byr- ion iddynt oil mewn llyfr addas i'r llogell, a bydded ei bris yn isel fel y caffo dderbyniad croesawgar a darlleniad cyffredinol. Byddai'r cyfryw ddarpar- iaeth o werth mawr yn ystod nosweithiau y gauaf dyfodol, i'r rhai nad oes ganddynt mo'r manteision, y cyfleusderau, na'r amser i wneyd ymchwiliad manwl ac annibynol drostynt eu hunain. Moddion arall er. amddiffyn yr Eglwys yw'r Wasg Newyddiadurol. Rhy ychydig o lawer yw'r gefnog- aeth y mae'r Wasg Gymreig wedi ei dderbyn oddiar law yr Eglwys. Y mae'r offeiriaid a'r lleygwyr wedi bod yn esgeulus o'u gwaith, serch bod eithriadau an- rhydeddus. Hawdd canfod pa fodd y bu hyn. Yn y newyddiadur Cymreig ni cha'r hwn sy'n deall Saesneg ond ail-dwymniad o newyddion a ddarllen- asai eisioes yn y iaith fain, oddigerth ychydig o nod- iadau lleol dibwys, ynghyd agormodedd o arwyddion alaethus o fychander crebaohlyd y meddwl sy'n ym- doni'n nhrobyllau ymgecraeth sectyddol ymraniad- aeth annedwydd ei wlad. Ond dylai'r cyfryw gofio fod miloedd ar filoedd o'i gydwladwyr nad allant ddeall na chael bias ar ddim ond a osodir ger eu bron yn eu hen iaith ac am hyny, y dylai hunan- ymwadu er eu mwyn, a cheisio arlwyo yr hyn a fo llesol iddynt. Gallai pob offeiriad a lleygwr sy'n fy ngwrando fforddio ychydig amser at y gwaith hwn bob wythnos, ac y mae digon o gamddarluniadau eisiau eu dynoethi beunydd. Ond tra yn ymdrin a'r pwngc yma, yn y newyddiadur yn gystal ag ar y llwyfan, dylid ceisio ei godi uwchlaw cydymaais pleidiau crefyddol a gwleidyddol, ohehvydd gwydaoch fod llawer o Eglwyswyr twymngalon yn Rhyddfryd- wyr egwyddorol, a llawer o Ymneillduwyr yn Geid- wadwyr cedyrn. Gwyddom nad yw Anghydffurfiwr yn Radical o angenrhaid, ra Rhyddfrydwr o angen- rhaid yn Ddadgysylltwr. Gofaler hefyd rhag honi perffeithrwydd i holl drefniadau allanol yr Eglwys, a dangoser parodrwydd i gefnogi diwygiadau. Gellir gweled yr egwyddor i ni weithredu arni, yn y cyfeir- iad yma, yn y geiriau sy'n dechreu'r rhagymadrodd, Am wasanaeth yr Eglwys." Dyma'r geiriau, Ni bu erioed ddim wedi ei ddychymygu mor ddiball, neu wedi ei gyfnerthu mor gadarn, trwy synwyr dyn, yr hwn mewn ysbaid amser nis llygrwyd." Apelier at bawb i'n cynorthwyo er cael diwygiad lie gwelir angen am dano. Buddiol hefyd fyddai i ni gefnogi diddymiad unrhyw fraint wladol a ellir fod wedi ei rhoddi gynt i'r offeriaid. Er engraipht y mae bod yr offeiriad yn gadeirydd y Festri yn ddolur llygad i rai. Pe diddymid hyn yfory nesaf, ni cholla'r offeiriad ddim. Lie y gall hawlio mwyafrif etholid ef, fel y gwelsom mewn achos o natur arall yn Undeb Conwy y dydd o'r blaen ond lie nas gall, nid yw ei safle ond anrhydedd gwag sy'n peri poen i'r uchel- geisiol. Ni ddylai fod arnom eisiau unrhyw fraint oddiar law y Llywodraeth. Ei hawl gyfiawn i'r Eglwys, a dim ond hyny, ddylai fod eia harwyddair. Ond nis gellir gwneyd yr holl bethau y cyfeiriais atynt ynglyn a'r cyfarfodydd amddiffynol heb arian. Am hyny, dywedaf mai pwngc o arian ydyw i raddau pell iawn. Arian Cymdeithas Llundain sy'n gosod dynion ar waith i fyned i gynhyrfu'r wlad, gobaith rhan o'r ysbail sy'n peri i rai eraill eu cefn- ogi, ac addewid am arian, mewn gostyngiad trethi, &c., a ddelir, fel abwyd, o flaen llygaid y bobl er mwyn eu bachellu, a cheisio eu dwyn i'r rhwyd Ddadgysylltiol. Pe na buasai obaith am ddiwaddol- iad nid llawer a glywid yn lIe faIn am ddadgysylltiad. Rhaid iddynt hwy wrth arian i ymosod, ac felly rhaid i ninau wrth arian i amddiffyn. Diau yr ewyllysiai llawer un weithredi, ond nid oes ganddo'r moddion i ddwyn traul teithio. Mae'r gost yn fwy nag y gall ei fforddio. Nid teg ychwaith yw disgwyl i'r offeiriad plwyfol a'r Eglwyswyr lleol dalu holl gostau'r cyfarfodydd. Ar y lie y tybiant y bo'r Eg- lwys wanaf y disgyn haid yr ymosodwyr. Rhaid credu eu bod yn ddigon cyfrwysgall i chwilio am y manau gweinion, ac felly dylid cynorthwyo'r gwan. Lie bo'r Nglwyswyr yn lliosog a chefnog, hawdd cael y treuliadau angenrheidiol, ond byddai hyny yn an- hawdd mewn lie gwan. A'r canlyniad fydd, mewn llawer lie felly, na wneir amddiffyniad o gwbl am nas gellir cyfarfod a'r draul. Lie bo mwyaf o eisiau amddiffyn, yno y bydd lleiafo adnoddau yn fynych. Felly, rhaid wrth gyd-drefniad, undeb, a chyd- weithrediad. Dyledswydd y lleygwyr yn benaf yw ceisio'r arian hyn, a'u priodol waith lhwy fyddai eu trefnu hefyd. Yr hen leygwyr gynt a roddasant yr eiddo sydd gan yr Eglwys yn awr gan mwyaf, a phe llwyddai'r Dad- gysylltwyr i ysbeilio'r Eglwys, pwy ond y lleygwyr fyddai raid rhoddi eiddo yn ei le at gynal y weinid- ogaeth ? Pa un ddoethaf ynte, rhoddi ychydig yn awr er mwyn cadw, ynte rhoddi llawer rhagllaw ar ol colli ? Yr wyf yn gofyn i'r lleygwyr ystyried hyn, a phenodi trysorwyr Esgobaethol, Deoniaethol, a lleol i ofalu am y cyfraniadau sy'n angenrheidiol er amddiffyn yn effeithiol. Ond i derfynu. Wedi'r cyfan rhaid addef mai'r moddion mwyaf effeithiol o bob moddion, o dan fendith y nefoedd, er amddiffyn yr Eglwys yw gweithgarweh yn yr Eglwys ei hun. Yn ol fel y bo'r gweithgarwch hwn yn ymddadblygu daw y bobl ys- tyriol, dawel, a duwiolfrydig i barchu'r Eglwys fwy- fwy, ac os na ddeuant i ymuno a hi, nid ymunant byth a neb fo'n ymosod arni. Am hyny, boed i ni, fel offeiriaid a lleygwyr, fod yn zelog a gweithgar, er mwyn ceisio adgyweirio a chyfanu rhwygiadau muriau Seion. Yna byddant yn llawer mwy cedym i dderbyn pob rhyw ymosodiad a wneir arnynt. Ac os bydd Duw gyda ni, pwy a all fod i'n herbyn ?