Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
VELINDRE, PENBOYR.
VELINDRE, PENBOYR. Dydd Sadwrn diweddaf cafodd holl weithwyr Mr. Jones, gwneuthurwr gwlaneni Cymreig, Spring Garden, o'r lie uchod, eu anrhegu a phleserdaitb i Llangranog, sir Aberteifi. Cychwynwyd yn foreu iawn gan fod y ffordd mor faith, cyrhaeddasant Llangranog oddeutu 6 yn y boreu, ac yna cawsant foreufwyd, ac aeth pawb allan i ddifyru eu hunain drwy y boreu. Am ddeuddeg cafwyd ciniaw sylwedd- ol; ar ol gwneyd cyfiawnder a'r danteithion blasus a barotowyd gan Mrs. Jones, dilynodd pob un ei dueddiadau ei hun mewn ymchwil am bleser. Ar ol mwynhau eu hunain am rai oriau mewn gwahanol ddulliau, ymgynullasant y drydedd waith am 5 o'r glooh i ddiwallu angenion y corff cyn cychwyn tuag adref. Cyrhaeddwyd gartref ychydig wedi naw, a phawb wedi cael ei lwyr foddloni yn ei daith. Y mae aiolchgarwch yn ddyledus i Mr. a Mrs. Jones am eu haelfrydedd. Llawer eto a ddilyno ei hesiampl yw dymuniad,-Walia Gymro.
PENCAE, CWMTAWE.
PENCAE, CWMTAWE. Rhan uchaf plwyf Ystradgynlais yw y lie uchod. Mae yma Ysgol Genedlaethol er's llawer o flynydd- oedd, yn cael ei chadw trwy roddion gwirfoddol. Perchenog y rhan fwyaf o'r lie hwn yw y boneddwr haelionus o'r Dyffryn, sef, Howel Gwyn, Yswain- yr hwn sydd a'i glod trwy yr holl Eglwysi. Dydd Sadwrn diweddaf rhoddodd Joseph E. Moore, Ysw., prif oruchwyliwr (ac etifedd) y boneddwr uchod, wledd o'r fath oreu i Ysgolion Sul Abercrane ac Hen Eglwys Callwen. Mwynhaodd 164 o'r danteithion a barotowyd mor haelfrydig gan Mr. a Mrs. Moore. Yr oedd y deisen yn dda dros ben, a phawb yn ym- ddangos wrth eu bodd. Yr oedd yn bresenol y Parchedigion Abraham Edwards, ficer Callwen, a Daniel Jones, Abercrane J. E. Moore, Yswain, a Mrs. Moore; Miss Alice Gough a Miss Williams, Ynysgedwyn House Mr. a Mrs. Hadland o Aber- tawe Mrs. a Misses Jones, Abercrane Church Miss Price, Penwyllt; Miss Lewis, Lone Lodge Miss Ellen Hughes, Pantycwrt House; Mrs. Powell, Pantycwrt; Mrs. Lewis, Cae Main, a'r Misses Morgan, Abercrane House. Ar ol gorphen mwyn- hau eu hunain gyda'r te, &c., aethom i'r Pare o flaen yr ysgoldy, lie treuliwyd amser llawen mewn chwareu rounders gan y meibion a Mr. Moore, a rhedeg am y cyntaf gan amryw o'r bechgyn bychain. Yr oedd y merched a'r ladies yn difyru eu hunain mewn dull arall. Rhanodd Mrs. Moore lawer o felusion i'r plant-a rhoddodd Mr. Moore arian lawer i'r rhai eyflymaf am redeg. Cyn ymadael cafoddyplantalr athrawon mwyaf ffyddlawn o'r ddwy ysgol eu gwobrwyo a llyfrau gwerthfawr, sef Testamentau a Llyfrau Gweddi Gyffredin, &c. Can- wyd y Grace wrth ddechreu a diweddu gan y plant. Mr. William Rees, yr ysgolfeistr a'r darllenwr lleygol, yn arwain. Talodd y Parch. D. Jones, Aber- crane, ddiolchgarwch i Mr. a Mrs. Moore. Anogodd Mr. Moore y plant oil i wneyd defnydd o'r Llyfrau Gweddi ac i fod yn fwy fiyddlon y flwyddyn nesaf. Canodd Mr. Powell a'i barti yn rhagorol, a dyn- waredodd Mr. Thomas Morgan, Pantycwrth, y bugle &'i lais trwy ganu "Dlfyrwch Gwyr Harlech er difyrwch mawr i ba.wb oedd yn bresenol.—Llew Cofon.<
YNYSOWEN, MERTHYR TYDFIL.
YNYSOWEN, MERTHYR TYDFIL. RHYBUDD I LETYWYE.—Ychydig ddyddiau yn ol, daeth gwr ieuanc o ymddangosiad parchus i'r lie hwn, a gwnaeth ymholiadau am lety cysurus gyda phersonau crefyddol. Ei reswm dros ddymuno lletya gyda theulu crefyddol ydoedd, mai dyna y tro cyntaf iddo fod oddiwrth ei fam, ond fel y dengys yr hanes, yr oedd wedi ymgaleddu, ac yn deall y dodge pa fodd i sicrhau llety ac ymborth am ddim. Wedi llwyddo i gael llety, fgalwodd am ymborth, gan hysbysu mai gwell iddo ef fyddai peidio pwrcasu ymborth, gan fod ganddo ddigonedd o hono yn dyfod gyda'r gludgelfi, y rhai a ddisgwyliai fyddent yn yr orsaf boreu dranoeth. Ymddengys fod y teulu wedi llwyr gredu ei ystori, a chyflenwyd ef ag ymborth a llety y diwrnod hwnw a'r boreu canlynol, pan yr oedd, meddai, yn myned at ei waith ar y llinell gerllaw, ac ni ddychwelai hyd bedwar o'r gloch, pan fyddai wedi gorphen ei waith. Wedi hir ddisgwyl am dano, deallodd y teulu caredig ei fod wedi eu twyllo, gan na ddaeth yn ol, ac hyd yma ni wyddis pa le y mae. Gobeithia y gwasanaetha hyn fel rhybudd i letywyr pan wneir ceisiadau am lety gan ddynion ieuaine, mewn teulu crefyddol."—Rhywun.
TREORCI, DYFFRYN RHONDDA-
TREORCI, DYFFRYN RHONDDA- BYDDIN YR IACHAWDWRIAETH.—Taenwyd y si yma yn ddiweddar fod dau aelod o Fyddin yr Iachaw- dwriaeth Pentre, o'r enwau Mrs. Riddle a Frederick Stephens, y ddau yn byw yn Ty'nybedw-street, wedi dianc gyda'u gilydd. Y mae Mrs. Riddle tua 35 mlwydd oed, tra nad yw ei hedmygydd ond 26. Oddeutu tri mis yn ol, cyn i Mrs. Riddle uno gyda'r fyddin, yr oedd hi a'i gwr, yr "hwn sydd oddeutu 45 mlwydd oed, yn aelodau ffyddlawn o gapel Horeb, perthynol i'r Bedyddwyr Seisnig; ond mor fuan ag yr aeth Frederick i letya mewn ty yn ei hymyl, bu yn foddion i droi Mrs. Riddle yn ei phroffes. Yn ddilynol, yr oedd yn mynychu lie addoliad y fyddin, yn gorymdeithio gyda hwy yn yr heolydd, ac yr oeddynt bob amser gyda'u gilydd pan ffurfid y cylch i bregethu, canu, a gweddio; ond pan yr oedd y cyfeillgarwch bron a chyrhaedd pwynt, dargan- fyddodd Riddle, druan, gyd-fradwriaeth "gweision yr Arglwydd." Byddai Riddle yn arfer gweithio trwy y nos yn mhwll glo Cwmdar, a chan nad oedd neb ond ei wraig yn y ty yn ystod ei absenoldeb, cafodd Frederick wybod hyn, ac arferai fyned i'r tJ at Mrs. Riddle i egluro iddi ranau anhawdd o'r Ysgrythyr. Dydd Sadwrn diweddaf, gadawodd ef ei lety, oddeutu deuddeg o'r gloch yn y prydnawn, ac aeth i chwilio am ei gyflog i waith glo Pentre. Ychydig yn hwyrach ar y dydd, gwelwyd Mrs. Riddle yn gadael ei thf, ac ni welwyd dim o honynt mwyach. Y mae Riddle wedi gwerthu ei ddodrefn, ac yn byw gyda'i frawd-yn-nghyfraith.
LLANFAIR-YN-EU-BWLL, MON.…
LLANFAIR-YN-EU-BWLL, MON. PLESERDAITH.-Dydd Mercher, y 13eg cyfisol, cafodd Ysgol Sul y plwyf uchod, ynghyd ag Ysgol Sul Eglwys Llanfihangel-yn-nhowyn, eu gwyl d6 flynyddol. Y lie a ddewiswyd eto eleni ydoedd Rectory Rhoscolyn, a diameu nas gallem yn hawdd ] gael lie mwy hyfryd i fwynhau ein hunain am ] ychydig, gan fod yno olygfeydd prydferth i'w cael ar j ranau helaeth o F6n ac Arfon. Gwedi cyrhaedd yno gyda cherbydau, cawsom ein gwala a'n gweddill o de a bara brith, &c. Ac wedi hyny buom am rai j oriau yn ymddifyru ar y cae gerllaw gydag amrywiol chwareuon diniwed. Cyn cychwyn adref, aethom i j Eglwys y plwyf, lie y canwyd amryw hymnau ac y cawsom anerchiad gan ein parchus rector, y Parch, J. Hopkins. Gwedi dyfod allan, a phan ar ddych- welyd yn ol, talwyd diolchgarwch i'r Rector am ei garedigrwydd. Teilwng yw crybwyll enwau Misses Lloyd, Tyn'llan, a Mr. Richard Williams, Glan-y- gors, 'fel rhai sydd yn gwneyd llawer iawn dros lwyddiant yr Ysgol Sul, canu y cysegr, a phob mudiad ynglyn ag Eglwys Llanfair, pa un sydd yn j iwr yn fwy llewyrchus nag y gwelwyd hi yn oes neb sydd yn fyw. Hir oes iddynt i wneyd daioni yw j wir ddymuniad ein calon. j
LLANBERIS.
LLANBERIS. YR EGLWYS NEWYDD.—Mae'r gwaith mawr hwn yn myned ymlaen yn gyflym. Bydd llawer o honi o dan do yn fuan. Mae rhywbeth yn ardderchog iawn yn nghynlluniaeth yr adeilad hwn-mae pawb yn ei edmygu. Mae angen mawr am arian er gorphen y gwaith, ac mae'r Eglwyswyr o bob gradd yn gwneyd eu goreu. Mae Fancy Bazaar yn cael ei chynal yn NhJ'r Clwb, dri diwrnod yn yr wythnos, ac mae yn gwneyd yn dda. Y DYEITHRIAID.-Maent yn dylifo i'r ardal yn awr. Bu yma ddau neu dri o drSns rhad yr wythnos hon. Un o Rhyl, a chyda hwnw yr oedd c6r Eg- lwys Abergele, ynghyd a'r rheithor a'r curad. Hwn oedd eu dewis-le eleni, i roddi treat blynyddol i'r c6r. Mae'r tywydd yn rhagorol, ac arwyddion o gryn fyw- iogrwydd yn yr ardal. Y CHWAREL.—Parhau yn lied debyg y mae'r fasnach. Ond mae rhai pobl yn meddwl y medr Llywydd Undeb y Chwarelwyr wneyd i'r fasnach wella, ac mae parhad y llythyrau, a'r gohebiaethau yn y papyrau, ebe nhw, yn sicrhau llwyddiant mas- nachol. Rhaid i bawb wneyd rhywbeth, welwch chwi, ac nid oes neb yn disgwyl dim llai na rhyw gyffro cyfnodol fel hyn oddiwrth swyddogion yr undeb. Cyfarfyddasom yn ddiweddar a hen chwarelwr,* sydd yn awr a chanddo waith ei hun. Synu tipyn yr oedd hwn bod neb yn myned i ymyraeth rhyngddo ef a'i waith a'i weithwyr. Beth ydoedd i neb arall ei amgylchiadau ef, nag enill a cholled ei waith, tra yr oedd ef yn gallu cadw dynion ar waith, a thalu iddynt. Diau fod llawer un sydd yn hoff o ymyryd a materion pobl eraill, yn cadw pobl eu hunain. Ond beth ddywedent hwy pe byddai i rywun ddweyd wrthynt nad ydynt yn talu digon i'w gweithwyr ? Dyfaler. Gwyddom amcan.
LLITH GWLADWR.
LLITH GWLADWR. CYNADLEDD FLYNYDDOL ESGOBAETH BANGOR. Y mae y gynadledd uchod unwaith eto drosodd. Y mae yn hyfrydwch i ddeiliaid yr esgobaeth hon, mai yn Bangor y cynhaliwyd y gynhadledd esgobaethol gyntaf yn ein gwlad, sef Lloegr a Chymru, ac y mae yn dda genym gofnodi fod y cynulliad, ac altlsawdd y cyfarfod, yn cadw ei nod- weddiad dechreuol yn rhagorol. Eleni yr oeddym yn cyfarfod ar amgylchiadau neillduol, wedi colli un o golofnau cedyrn ein Heglwys; ac yr oedd ei absenoldeb yn ganfyddadwy neillduol. Ond megis y mae gyda'r corph naturiol, felly yn gymdeithas. ol a chrefyddol, pan y dygir oddiwrthym, neu pan y mae y corph yn dioddef o herwydd colli un aelod, y mae y gwahanol aelodau ereill yn ym. ddangos, o leiaf, yn ymgrythau, ac yn adfywio yn fwy, ac yn arddangos nerth adnewyddol. Felly y teimlasom yn y gynadledd ddiweddar, ac yn y gwahanol gyfarfodydd yn ystod yr wythnos. Ym- ddangosodd i ni yn sicr fod nerth adnewyddol wedi ymddangos yn y gwahanol gyfarfodydd. Yr oedd y bywiogrwydd yn y cyfarfodydd yn amlwg iawn, ac yn enwedig felly yn y gynadledd ddydd Iau, y 7fed. Yr oedd y cynulliad yn llawn cystal ag arferol. Yr oedd elfen newydd yn ymddangos yn y gweithrediadau. Dynion ieuainc gweithgar a llafurus, yn dyfod ymlaen i ddarllen papyrau, ac i draethu ar y gwahanol bynciau gosodedig. Rhaid i ni adrodd, a mynegu yn ddiduedd, fod y gynhadledd eleni yn llawn mor llwyddianus a'r un o'i blaen. Y mae eich darllenwyr, feallai, yn adnabyddus cyn hyn o'r pynciau a ragosodwyd erbyn y cyfarfod. (1), Cymhorth Lleygol yn yr Eglwys." (2), Amddiffyniad yr Eglwys rhag ymosodiadau y dadgysylltwyr." Yr oedd y pync- iau yn rhagorol ac yn amserol. Darllenwyd papyrau da ar bob un o'r pynciau uchod, a chaf. wyd areithiau clodfawr ar bob un o honynt. Nig gallwn fanylu yma ar y gwahanol bapyrau a'r areithiau a draddodwyd, ond sylwn yn fyr ar un awgrymiad a draddodwyd gan wr lleyg gweith- gar yn yr esgobaeth, Mr. Nanney, Gwynfryn, Porthmadoc. Yr oedd yn hyfrydwch genyf glywed y boneddwr hwn, fel un o blant yr Eg. lwys yn Nghymru, yn datgan ei foddlonrwydd yn llwyddiant amlygadwy yr Eglwys yn ei ardal ef, ac yn gyffredinol drwy y wlad. Dywedodd fod gwasanaethau yr Eglwys wedi eu gwneuthur yn fwy deniadol a derbyniol gan y gwahanol gynull. eidfaoedd, drwy fod y gwasanaeth yn cael ei gyf. lawni yn fwy bywiog, yn fwy cynes, ac felly yn fwy at chwaeth y gynulleidfa. Cyffyrddodd ei sylwadaua thant cyd-gyferbyniol yn ein teimladau, ac yr oeddym yn barod yn y fan, heb unrhyw barotoad, i gadarnhau ei sylwadau. Dywedasom nad oes un gwell amddiffyniad i'r Eglwys yn bod na chydweithrediad y lleygwyr yn ngwasanaeth dwyfol ein Heglwys; yr ydym yn argyhoeddedig fod genym gymaint a hyny, o leiaf, o amddiffyn. wyr cedyrn i'r Eglwys a'i sefydliad. Y mae eto Eglwysydd, feallai, yn ein gwlad, lie y mae y gwasanaeth dwyfol yn cael ei ddwyn ymlaen fel yn y dyddiau gynt. Nid ydyw y gynulleidfa, fe allai, yn lluosog, ond y rhai sydd yn bresenol, y maent fel prenau, yn sefydlog, yn fud, yn ddi- deimlad, gyda golwg ar y gwasanaeth dwyfol sydd yn myned ymlaen. Y mae rhai yn dechreu symud ychydig ac agoryd eu llygaid pan y mae y bregeth yn dyfod. Y maent wedi bod cyn hyn, fe allai yn hollol ddifater-yn eistedd ar hyd y gwasanaeth, a'r canu, &c. Yr ydym ni o'r farn, ac oblegid hyn yr ydym yn traethu ein cred, mai gwasan- aeth dwyfol cynes, gyda'r holl gynulleidfa yn uno, ydyw un o'r moddion rhagoraf er amddiffyn yr Eglwys. Nid ydym yn caniatau i un aelod o'n cynulleidfa, os gall ddarllen, fod heb Lyfr Gweddi a Llyfr Hymnau, er iddo allu cyduno yn y gwas- anaeth a'r Hymnau. Ond i holl Eglwysi ein sfwlad ddyfod i fyny a'r safon hwn, y mae genym ryw obaith, er fe allai yn wan, y byd 1 genym flhr lied gadarn yn erbyn ymosodiadau y gelyn. Dy- munwn ychwanegu gair cyn diweddu: y mae saniatad i'r clerigwyr dalfyru gwahanol wasan- lethau yr Eglwys; a pha un bynag ai y Foreuol Weddi, gwasanaeth y Litani, neu wasanaeth y Dymun Bendigaid, y mae modd, dywedwn, i wneyd pob un o honynt yn ddyddorol a difyrus i'w cynulleidfa,
Family Notices
Genedigaethau, Priodasau, a Marwolaethau. GENEDIGAETHAU. Davies.-Awst 18, priod y Parch W. Ogwen Davies, Gorseinion Station, ar ferch. lobertB-Awat 6, priod Mr Samuel Roberts. Maen-y- wern, Llanystumdwy, ar ferch,-cyntafanedig. Williams-Awst 4, priod Mr G. H. Williams, draper, &c., Penmaenmawr, ar fab. PRIODASAU. )wen-Ellis-Awst 11, yn Eglwys St Cybi, Cuergybi, gan y Parch Robert Price, B.A., curaii, Mr William Owen, morwr, a. Miss Ann Ellis,-y diau o Gaer- gybi. ?nce—Owen—Awst 8, trwy drwydded, yu Eglwya y Plwyf, Llanfaelog, Mon, gan y Parch Canon Wil- liams. A.C., Rheithor, Mr William Price, Cromlech, Aberffraw, ag Ellen, merch henaf y diweddar Mr John Owen, Shop-Llan, Llanfaelog. ?emberton—Williams—Awst 3, yn Eglwys St Panl, Seacombe, gan y Parch R.. J. Weather head, Mr James Pemberton, Kensington, a Miss Ellen Wil- liams, pedwaredd ferch Cadben Oweu Williams, gynt o Fon MARWOLAETHAU. tfcLean-Awst 4, yn 90 mlwydd oed, Mr George McLean, Pentrefelin. Brodor o'rYsgotland ydoedd, a daeth i'r wlad bon yn ornchwyliwr at Major Nanney, Gwynfryn, yn y flwyddyn 1818. forris-.&wst 4. yn 36 Seymour Street, Tranmere, Mr Thomas Rendal Morris, gynt o'r H.M. 92d Gordon Highlanders a'r 53d Shropshire Regiment. lorgans—Awst 6, yn 9 mis oed, Henry Abel, mab Mr John Morgans, Water Street, Penygroes.
----__---------___-__---LERPWL.
LERPWL. YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.—Bellach mae parotoadau gogyfer a'r Eisteddfod hon yn tynu yn brysur at gwblhad. Ac mae y pwyllgor sydd a'l trefniadau hyn yn haeddu canmoliaeth am y zel a'l egni sydd wedi nodweddu eu gweithrediadau hyd yma, ac y maent yn haeddu llwyddiant mewn Eis- teddfod fwy llwyddianus nag a welwyd hyd yma yn un man. Mae lie i ofni na fydd y neuadd fawr a chyfleus sydd yn cael ei pharotoi yn yr Hay Market ddim agos ddigon o faint, er ei bod yn cynwys lie i ddeng mil o bobl. Mae yr atdyniadau i drigolion Cymru ddod yma yn fawr, a bydd pob eyfleusdra i hyny yn cael eu darparu gan y gwahanol gwmniau rheilffyrdd o Dde a Gogledd Cymru, a deallwn fod rhai lleoedd yn cadw dydd Mawrth, yr 16eg, yn Vvyl, er mantais i'r sawl a ddewiso fod yn bresenol. Y dydd hwnw bydd yr ymdrechfa fawr am y 200 gini am ganu, os nad ydym yn camsynied, bydd diwrnod y cadeirio hefyd yn tynu llawer yma. Mae y testyn yn ardderchog a chymwys, a chymaint a 13 o Awdlau wedi eu hanfon i mewn. Mae nifer yr ym- geiswyr ar y gwahanol destynau yn fawr iawn, ond y canu fydd prif nodwedd yr Eisteddfod hon. Heblaw y gwahanol gystadleuaethau yn ystod cyfarfodydd yr Eisteddfod, bydd cyngherddau amrywiol nos Lun, nos Fawrth, a nos Sadwrn. Nos Fercher, yr Elijah," a nos Wener, Israel in Egypt," a'r cyfan dan arweiniad Signor Ranndegger. Bydd y Liver- pool Philharmonic Choral Society yn cymeryd yr holl gydganau a chwareuwyr i'r nifer o 63 wedi eu dewis o gorau Mr. C. Halle, a Mr. De Jong, Royal Italian Opera, dan arweiniad Mr. E. W. Thomas dydd Iau, Oratorio newydd Dr. Joseph Parry, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf o dan ei arwein- iad ef ei hun. Syr George McFarren fydd y prif feirniad cerddorol, a Mr. Charles Godfrey ar yr ofierynwyr. Mae rhai o'r Bands goreu yn Lan- cashire a Yorkshire wedi anfon eu henwau i mewn i'r gystadleuaeth. Gobeithio am dywydd teg, fe chwanega hyny lawer at lwyddiant a chysur pawb a phobpeth. Mae y costau yn fawr, dim llai na £ 5,000. Hwyrach y dylem ddweyd pwy sydd yn brif gantorion a chantoresau yn y cyngherddau, nid amgen, Madame Edith Wynne, Miss Mary Davies, Miss Eleanor Rees, Mr. E. Lloyd, Mr. Ben. Davies, Mr. Hirwen Jones, Mr. Dyfed Lewys, Mr. Ludwig, Mr. Lucas Williams, a Mr. James Sauvage, ynghyd ao amryw eraill. Ymddengys fod Mri. Parry a Roche o Abertawe yn bwriadu gwneud bwa y brif fynedfa o wlan. Dyna beth newydd dan haul tybed.
CRICCIETH.
CRICCIETH. Da genym ddeall fod pwyllgor y Gylchwyl Gerdd- orol wedi penderfynu talu i ffwrdd y golled a gawsant ynglJn a'r gylchwyl ddiweddaf; ac nid yn unig hyny, ond wedi penderfynu cael cylchwyl eto y flwyddyn nesaf ar raddfa eang. Llongyfarchwn y pwyllgor ar eu penderfyniad i beidio rhoi i fyny, gan mai cylchwyl Criccieth ydyw yr unig Gystadleuaeth Gorddorol bwysig yn Ngogledd Cymru. YMWELWYR.—Mae Criccieth y dyddiau hyn yn llawn o ymwelwyr o bob gradd a dosbarth. Mae y lie yn dyfod yn favourite watering-place gan rai o brif foneddigion Lloegr. Yn mysg eraill, gwelsom yr Anrhydeddus Cecil Raikes, A.S., yma yn mwynhau ei hunan fel rhyw hogyn ysgol arall, ac ardderchog ydyw gweled y mawr fel hyn yn ymgolli yn y bach, yn y mwynhad a geir yn ein hymdrochle prydferth.
-__---------_-_.-BRYNMAWR.
BRYNMAWR. Y BWRDD YSGOL.—Yn nghyfarfod Misol arferol y bwrdd hwn, a gynhaliwyd ddydd Mercher, dan lywyddiaeth Mr. G. L. Hiley, darllenwyd llythyr oddiwrth y Bwrdd Addysg, Llundain, yn mynegu fod eu harglwycldiaethau wedi penderfynu fod yr ysgol newydd a adeiledir gan yr Eglwyswyr yn ddigonol am y presenol i gyfiawni yr holl angen- rheidiau, ac felly nad oedd angenrheidrwydd iddynt roddi datganiad o'u barn gyda golwg ar gynygion y bwrdd. Cafwyd prawf yma am yr awydd sydd gan Fyrddau Ysgolion i adeiladu ysgolion ar draul y trethi, tra yn gwrthwynebu yn egniol i Eglwyswyr adeiladu ysgolion ar eu traul eu hunain. Pa bryd y daw y trethdalwyr i ddeall hyn ? Yn sicr mae digon o engreifftiau o hyn ar hyd a lied y wlad. -Golbebydd.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. SCIENCE AND ART DEPARTMENT.—Mae canlyniad yr arholiad hyn wedi dyfod i law. Y rhai a enill- asant drwyddedau yn nosbarth Ffestiniog ydynt a ganlyn :—Mathematics Robert O. Williams (laf), W. G. Owen, John E. Roberts, E. Ll. Richards, E. D. Jones, W. Williams, J. Picton Parry, R. O. Hughes, R. Ll. Roberts. Geology J. P. Williams, ,,y (laf), R. Ll. Roberts. E. D. Hughes, R. O. Williams, John H. Jones, C. Humphreys. Botany Edmund D. Jones (laf), W. Williams, S. Ll. Richards, Evan Roberts, J. Picton Parry, E. Williams, R. Llewellyn Roberts, J. E. Roberts, D. Evans, W. Griffith, R. O. Williams, J. O. Evans, John Owen, Pierce Owen, R, 0. Hughes, J. R. Cadwaladr, E. J. Hughes, W. H. Pritchard, Edwards Ellis, G. Roberts, D. Morris, W. LI. Humphreys, W. G. Owen, J. E. Hughes, J. H. Jones, J. P. Williams. Freehand: J. P. Williams. Geometry John Cadwaladr.
V GYMDEITHAS ER TAENU GWYBODAETH…
V GYMDEITHAS ER TAENU GWYBODAETH i YR EFENGYL MEWN GWLEDYDD I TRAMOR. f Y Sul diweddaf, pregethwyd ar ran y gymdeithas i ion, yn Llangollen, gan y Parch. J. G. Young, ficer I Eiurslay, a'r Parch. T. Lloyd Williams. Y cyntaf m Saesneg, a'r olaf yn Gymraeg, yr hwn a anerch- c )dd y plant yn Saesneg yn y prydnawn, pryd y daeth 1 iyrfa i ymofyrt am," Missionary Boxes." Casglwyd r Iros 216. Pregethodd y Parch. Prof. Owen hefyd y m Llanllechid y Sul diweddaf, ac yn Llanllyfni y f Sul o'r blaen dros yr achos. Bydd y Parch. T. t jloyd Williams yn Oystermouth a Kilvey y Sul t lesaf, a'r dyddiau canlynol yn y gymydogaeth hono; I he ar ol hyny yn Esgobaeth Llandaf. E
YSBYTTY. !
YSBYTTY. YR YSOOL GENEDLAETHOL. —Daeth adroddiad Arholwr ei Mawrhydi i law, ac y mae'n ddywenydd genym ddeall fod yr ysgol hon wedi pasio arholiad anrhydeddus eleni, ac nid yn unig y mae wedi pasio yn dda mewn pynciau elfenol, ond y mae wedi pasio yn rhagorol hefyd yn yr Ysgrythyrau, yr hyn sydd glod uchel i Mr. Christmas Evans, ac y mae'n brawf hefyd nad yw cyryd ychydig o amser i ddarllen y Beibl yn milwrio dim yn erbyn y plant i wneyd yn dda mewn pynciau elfenol, ac i brofi y gosodiad yna, mi a adawaf i'r ddau arholwr lefaru. Dywed ar- holwr y Llywodraeth fel y canlyn-" The Grammar of the second standard was good; of the third, fourth, and sixth standard pretty good; of the seventh standard, excellent. The Poetry of the first, sixth and seventh standards was good; of the second and third standards very good; of the fourth and fifth standards, excellent in repetition, and very good in intelligence. The standard work of first, second and seventh standards was good and of the rest, pretty good. Tone and order was very good. The registration and singing were about good. Care appears to be-taken with the needlework." The infants have won the excellent merit grant." Dywed yr Arholwr Esgobaethol, The school has greatly improved during the last year. It is a good rural school, and every class is well taught." Gwelwn fod y ddau arholwr yn rhoddi uchel gymeradwyaeth i'r ysgol hon. Na fydded i neb yn y dyfodol ddweyd fod treulio rhyw ychydig o amser bob dydd i ddarllen y Beibl yn milwrio yn erbyn llwyddiant y plant i basio yn dda mewn pynciau elfenol, oblegid y mae parotoi'r plant yn dda mewn un yn gynorthwy iddynt basio yn dda yn y llall.
MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. Mae gan yr Eglwys yn Mountain Ash saith o Ysgolion Sul, pa rai sydd yn rhifo rhwng y plant a'r athrawon dros fil mewn nifer. Mae wedi bod yn arferiad yn y lle er's amryw o flynyddau, i'r holl Ysgolion gyfarfod a'u gilydd unwaith yn y flwyddyn, i fwynhau eu hunain yn y pare gerllaw Palasdy Arglwydd Aberdar. Dydd Llun diweddaf oedd y diwrnod apwyntiedig iddynt i gyfarfod. Am ddau o'r gloch cyfarfyddodd yr holl ysgolion yn eu lleoedd priodol, a chyfarfuasant a'u gilydd wrth ysgoldy y Dyffryn am haner awr wedi dau. Yno ffurfiasant yn orymdaith fawreddog, yn cael eu blaenori gan seindorf bres, a chychwynasant tua'r Dyffryn. Yr oedd yr orymdaith yn un hynod o drefnus, ac yr oedd dros haner milldir o hyd. Wedi cyrhaeddyd y ] pare, yr oedd Arglwyddes Aberdar, a'r Anrhydeddus ] Miss Bruce yno yn croesawu yr ysgolion, ynghyd a J byrddau llawnion wedi eu gosod dan goedydd cysgod- c fawr, yn barod i bawb i eistedd i lawr wrthynt i dori eu hangen. Cydrhwng yr ysgolion a'r ymwelwyr, fe I eisteddodd pedwar cant ar ddeg wrth y byrddau i fwynhau te a bara brith o'r fath oreu. Wedi i'r 1 ieuengctyd gael eu digoni wrth y byrddau, aethant i ] fwynhau eu hunain dan ganghenau y coedydd ] mawrion sydd yn y lie, ac ymddengys i mi fod pawb wedi mwynhau eu hunain hyd yr eithaf. Mae yn dda genyf ddyweyd i bob peth fyn3d heibio yn y modd mwyaf llwyddianus. Gan mai hwn oedd y cyfarfod blynyddol cyntaf i'n Ficer newydd, yr oedd rhai o honom yn ofni am ei lwyddiant, ar ol colli ein hen flaenor galluog, sef y Parch. J. H. Protheroe, ond da ] genyf hysbysu i'r Parch. B. Lloyd brofi ei hun yn arweinydd campus, ac yn ddiameu mai cynulliad ] dydd Llun diweddaf ydoedd y mwyaf poblogaidd a fu yma o gwbl. Yr oedd y diwrnod yn bob peth a i fuaswn yn dymuno; ac am haner awr wedi saith aeth y dorf fawr ymaith o'r pare yn cael eu blaenori gan y seindorf prês, a phawb wedi eu llwyr foddloni. Un o'r dorf. (
PWLLHELI.
PWLLHELI. Nos Iau cyn y diweddaf cynhaliodd y gymdeithas ] wyddonol a llenyddol ei chyfarfod olaf am y tymor yn neuadd y dref, pryd y cafwyd sylw neu ddau ar ddyfodol y gymdeithas. Pasiwyd hefyd fod i'r aelodau fyned am bleserdaith i Tre'rceiri, ar ben Mynydd yr Eifl. Da genym weled y gymdeithas I hon yn dal ei thir. Dydd Sadwrn cyn y diweddaf, hebryngwyd gwedd- illion marwol Mrs. Jones, priod Mr. R. O. Jones, maer y dref, i dy ei hir gartref. Yr oedd yn un a fawr edmygid, a diau y teimlir colled fawr ar ei hoi mewn llawer cylch. Cydymdeimlir yn gyffredinol a j Mr. Jones. Dydd Iau diweddaf, aeth oddeutu wyth cant o'r dref hon a'r amgylchoedd ar ymweliad a Chaergybi. Yr oedd y cludiad yn rhad dros ben, a'r diwrnod yn B aodedig o ffafriol. Pan yn dychwelyd, rhwng gorsaf y Valley a Tycroes, arhosodd y gerbydres, a deallwyd fod un o'r cerbydau (rywsut neu gilydd) wedi cymeryd ban, yr hyn a achosodd gyffro mawr yn mysg y eithwyr. Llwyddwyd i'w ddiffodd gan Mr. Sunners, Pwllheli, ac aeth pobpeth ymlaen yn ddiogel hyd aes cyrhaedd pen y daith.
[No title]
Pwy sydd yn cael caniatad i eistedd o flaen y 'renines a'i het am ei ben ?—Ateb: Ei cherbydwr