Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CHWEDL Y PLAT GLAS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CHWEDL Y PLAT GLAS. Mae llawer iawn o lestri o bob math yn ein gwlad a gwahanol fathau o ddarluniau wedi eu :1 z, paentio arnynt, ond nid oes un patrwn mor gyffredin a phatrwn y Plat Glas. Mae y darluniau ar hwn yn gymhleth a chorion maboed a boreu ein hoes. Pwy o honom sydd wedi syllu ar y darluniau hyn heb feddwl dim am danynt ? Pwy o honom, hyd yn oed pan yn blant, sydd heb fod wedi methu'n lan a deall pwy all fod y tri pberson a welwn ar y bont yn ei chroesi gyda'r fath frys ? 0 ba le y daethant, ac i ba le y maent yn myned ? Beth a wna y badwr yna yn y bad ? Pwy sydd yn preswylio yn yr ynys odidog acw ? A phaham y mae y ddwy golomen acw yn cusanu eu gilydd yn barhaus fel pe baent yn orlawn o lawenydd ? Pwy o honom sydd heb feddwl am y pethau hyn drosodd a throsodd drachefn, wrth fwynhau ein ciniaw, neu wrth syllu ar y dresser yn y gegin. Yr hen Blat Glas Er mor syml yr olwg—yr wyt yn anwyl iawn genym. Mae dy wyneb hoff yn blethedig a'n cofion boreuaf. Yr yd wyt fel hen gyfaill anwyl a charedig, darlun yr hwn a welwn ymhob ty ac ymhob man, nid ydym byth yn blinoar wedd dy wyneb syml. Mae dy swyn yn barhaol, yn mha ddull bynag y gwelwn di, pa un a'i mewn cawg, cwpan, neu ddisgl. Yn mhob llestr o'r patrwn hwn, gwelwn y tri person yn ffoi dros y bont-y badwr yn eistedd yn dawel yn ei gwch, a'r colomenod yn parhau i gusanu ac i chwareu eu hadenydd mewn mwyn- had a boddlonrwvdd. Os'! myn y darllenydd wybod y chwedl am y darluniau, gosoded blat glas yn ei ymyl-un o'r iawn ryw, a deued gyda ni drwy y chwedl gan- lynol. Ar y llaw ddsheu gwelir palas Chineaidd godid- og. Dangosir cyfoeth a mawredd y perchenog trwy fod dwy lloft i'r adeilad-peth anghyffredin iawn yw hyn yn China—a thrwy y tai allanol, a'r coed ffrwythlawn a dyfant 0 amgylch y palas. Yr oedd y palas yn perthyn i bendefig 0 bwys a dylanwad mawr, yr hwn oedd wedi ymgyfoethogi yn fawr trwy wasanaetnu yr Ymerawdwr yn y swydd ag sydd yn cyfateb i swydd Exciseman yn ein gwlad ni. Yr oedd y gwaith mewn cysylltiad a'r swydd hon yn cael ei gyflawfii, fel ag y mae mewn gwledydd eraill heblaw China, gan ysgrifenydd, un o'r enw Chang, tra ar yr un pryd, yr oedd ei feistr yn derbyn llwgr-wobrwyon gan y marsiand- wyr am werthu eu nwyddau yn ddidoll. Ond fodd bynag, bu farw gwraig y pendefig yn sydyn iawn, ac oherwydd hyn, dymunodd ar yr Ymerawdwr ei ryddhau o'i swydd bwysig, a bu yn daer iawn yn hyn, oherwydd lod y masnachwyr yn dechreu siarad am ei anonestrwydd mewn cys- ylltiad a threth yr Ymerawdwr. Yr oedd marwolaeth ei wraig yn esgus ffodus i'r hen bendefig i ofyn am ganiatad i roddi ei swydd i fyny, ac yn ol ei gais cafodd ganiatad i ymddiswyddo a chafodd swm fawr 0 arian gan ei olynydd am ei le. Felly ymneillduodd yr hen bendefig i'r palas ar y llaw ddeheu, ynghyd a'i unig ferch, Koong-see. Dygodd hefyd ei ysgrifenydd Chang gydag ef, gwasanaeth yr hwn oedd yn angen- rbeidiol arno am ychydig fisoedd, er mwyn gosod ei gyfrifon yn gywir, rhag ofn y byddai galwad arno i'w dangos. Wedi i Chang gyflawni ei waith yn ffyddlon, talwyd ef ymaith. Ond, ond yn rhy ddiweddar Gwelodd ferch brydferth ei feistr, a syrthiodd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad & hi. Ar ostyngiad haul, gwelid hi a'i morwyn ar risiau y palas-a phan oedd rhwng dau oleu, aeth i gyfariod a'i chariad ynghwr pellaf y pare a gylchynai y palas, ac yno, ,y ar brydnhawn diweddaf Chang i breswylio o dan gronglwyd yr hen bendefig, yr addunedasant ffyddlpndeb hyd angau y naill i'r Hall ac ar lawer noswaith wedi hyn, pan feddylid fod Chang yn ddigon pell, cyfarfyddai y par dedwydd rhwng y coed aur-afalau. Trwy gymorth ei llawforwyn cawsant gwrdd a'u gilydd fel hyn heb yn wybod i'r hen ben- defig, ei thad canys gwyddent yn eithaf da, yn ol arferiad cyfiredin y wlad, a chan fod eu sefyllfa mor wahanol, na fuasai yr hen bendefig byth yn caniatau eu hundeb. Ond yr oedd Chang yn ddyn ieuanc gobeithiol iawn, ac yr oedd dymuniadau y ddau yn tynu darlun ar lechau eu dychymygion o'r cyfnod pan fyddai pob rhwystr wedi eu symud ymaith i'w hundeb mewn cwlwm priodasol. Credent fel y gobeithient, na ddelai gauaf byth i'w cyfarfod, ond mai Mai hafaidd a Mehefin fyddai eu holl fywyd. Ond rywfodd yn y diwedd daeth ei thad i wybpd am un .o'r eyfarfodydd hyn, ac o'r pryd hwnw rhoddodd orchymyn caeth i'w ferch i beidio myned tuhwnt i furiau y palas ac anfonwyd gorchymyn i Chang i beidio dyfod yn agos at y palas dan boen marwolaeth. Ac er mwyn tori ymaiuh ei obaith yn hollol, gorchymynodd yr hen bendefig wneyd mur uchel o goed yn groes i'r llwybr, o'r mur maen hyd lan yr afon. (Gwel y plat). Talwyd ei morwyn hefyd ymaith, a gosodwyd yn ei lie henwrach, sych, a sarug. Ac er mwyn carcharu ei ferch yn ddiogel, a clianiatau iddi ar yr un pryd ryddid i rodio yn yr awyr agored, adeiladodd ystafelloedd iddi ar lan yr afon, a rhodfeydd allanol arnynt mewn undeb a'i ystafell ei hun, ac nis gallai fyned i mewn nac allan 0 un man heb fyned drwy ystafell ei thad, ymha un y treuliai y rhan fwyaf o'i amser. A chan fod ystafelloedd ei ferch yn cael eu cylchynu ar y naill law gan yr afon, ac a'i ystafell ei hun ar y llaw arall, teimlai yn sicr a diogel na fedrai ei ferch gyfarfod byth drachefn a'i hanwylaf un, a chan fod ffenestrei ystafell yn gwynebu ar yr afon, ofer fuasai ceisio dyfod a chwch drosodd heb yn wybod iddo. Ac er mwyn perffeithio siomedigaeth y ddau- gwnaeth ragor na hyn—dyweddiodd ei ferch i gyfaill cyfoethog iddo, un o'r enw Ta-jin, yr hwn a oedd 0 uchel achau, ac yn un 0 ddugiaid China, ond dyn hollol ddieithr i'w ferch. Yr oedd Ta-jin yn gydradd a hi mewn cyfoeth a gwaedoliaeth, a phob peth arall, ond ei fod yn ddigon hen i fod yn dad iddi. Yr oedd eu hun- deb, yn ol yr arferiad yn China, i gaelei benderfynu heb ofyn dim i'r fotiecldiges ieuanc, ac yr oedd y briodas i gymeryd lie ar amser ffodus o'r lleuad, pan y byddai y coed afalau yn llawn blodau yn y Gwanwyn, a blodau yr helyg yn dechreu syrthio. 9 Yr oedd Koong-see, druan fach, yn ofni ac yn dychrynu wrth feddwl am ei thynged truenus a gwelwai ei gwedd wrth wylied y pren afalau yn dechreu blaguro. (Gwel y plat). Ond daeth rhyw lawenydd i'w chalon pan ganfu aderyn bach yn adeiladu ei nyth mewn congl allanol yn ffenestr ei hystafell uwchben yr afon. Un prydnawn, tra yn eistedd yn ei hystafell yn gwylied yr aderyn bach yn adeiladu ei nyth, a chysgodion yr hwyr yn dechreu ymdaenu, syn fyfyriai am y cyfarfodydd anwyl a hoff a gawsai yn y gorphenol, ar yr adeg yma o'r prydnawn, yng nghwmni ei chariad anwyl. A thra yn syllu I Z!1 ar yr aderyn bach a'r afon bob yn ail, gwelai fad neu gwch bychan 0 blisgyn Cocoa (cocoa nu-t shell) a hwyl fechan arno, yn croesi yr afon, ac yn nofio yn syth at y fan yr eisteddai, a thrwy gymorth ei hulrod {parasol) tynodd y cwch bychan ati, a phan welodd gynwysiad y cwch bychan rhoddodd floedd o lawenydd, yr hyn a barodd i'r hen wrach, ei mhorwyn, i redeg ati, a bu ymron a chanfod y cwch byehan., cyn i Koong-see gael amser i'w guddio yn ei mantell. Ond trwy fedrusrwydd llwyddodd i'w gael o'r golwg ac anfonodd ei morwyn ymaith. Ar ol cael gwared o'r hen wrach, gyda phryder meddwl, edrychodd beth oedd yn y cwch bychan, a'r peth cyntaf a gafodd oedd maen disglaer bychan (bead) yr hwn a roddasai gynt i Chang, fel arwydd bychan o'i chariad tuag ato—tystiol- aeth ddigonol i brofi o law pwy yr hwyliodd y cwcn. bychan o'r lan arall, ac ar damaid 0 bapyr gwelai y penillion canlynol Y nyth a wna'r aderyn bach, Y gwalch a'i darnia hi, A rhyw bendefig coeg a ddaw I ddwyn fy nghariad i." Rhaid fod Chang yn agos i mi," sisialai wrthi ei hun, "on ide ni fuasai wedi gweled nyth yr aderyn bach." Darllenai yn y blaen :— "I gartref yr aderyn bach Ysbeiliwr ddaw i fyw, A'r briodasferch wylo wna, Er miwsig o bob rhyw." 0 wylaf am y deryn bach, Ei gryfach ddwg ei nyth, Ac wylaf am yr eneth fwyn, Na wel ddedwyddwch byth." Ymsaethai dagrau i lygaid Koong-see, on clywai gerddediad ei thad yn agoshau, a chuddiodd y cwcli bychan yn ei mantell drachefn. Ar ol ei ymadawiad darllenodd y penillion drachefn, tra y treiglai dagrau tryloewon dros ei gruddiau ar yr un pryd. Ar ol syllu yn fanylach, gwelai ar wyneb arall yr ysgrif y geiriau can- lynol :—" Fel y nofia y ewch bychan yma atoch chwi, felly y cyfeiria pob meddwl o'm heiddo at yr un canolbwynt—ond pan y syrth blodau yr helygen, ac yr ymegyr blagur yr aur-afalau, yna y syrth eich. ffyddlon Chang 0 dan y dyfroedd dyfnion." Deallai Kong-see feddwl dychymygol ei chariad yn eithaf da, a dychrynai wrtli feddwl am fygyth- ny iad Chang i ddinystrio ei hun. Gan na feddai i offerynau ysgrifenu, cymerodd ei nhodwydd, ac ysgrifenodd ei hatebiad ar lech fechan deneu o ifori yn y geiriau canlynol Oni wna'r amaethwr doeth gasglu'r ffrwythau a ofna eu colli ? Mae'r dydd yn ymestyn, a bygythir dinystrio'r winllan gan ddieithriaid. Cesglir y ffrwythau a werthfawrogvvch fwyaf pan syrth blodau yr helvgen." Gyda phryder dwys gosododd y cwch bychan, a gosododd hefyd bren bychan 0 thus ynddo. A phan aeth hi yn dywell nos. taniodd y pren thus, a gwthiodd y eweh bychan i'r afon, ac yn raddol, raddol, cludodd yr afon ef ymaith, a nofiodd yn ddiogel nes iddi golli goleuni y pren thus yn y pellder. Credai fod hyn yn ffawd a llwyddiant iddi, am i'r pren thus barhau i oleuo hyd nes yr aeth allan o'i golwg hi. Yna cauodd y drws ac aeth i orphwys dros y nos. Dydd ar ol dydd,ac wythnos ar ol wythnos a aethant heibio, ond ni fddaeth un eweh bychan i ymweled k hi, ac ymddangosai fod pob cysylltiad rhyngddi a'i chariad wedi ei dori, ae amheuai wiredd yr arwydd a gafodd, fel y credai, o lwydd- iant taith y cwch bychan. Yr oedd blodau yr helygen yn dechreu gwywo, yr hon a wyliai Koong-see yn barhaus a dagrau ar ei gruddiau,-pan ddigwyddodd amgylchiad, yr hwn a achosodd ychwaneg 0 amheuaetn a phiyder i'w meddwl. Un boreu ymwelodd yr hen bendefig ag ystafell ei ferch, ac yn ei ddwylaw yr oedd blwch mawr yn llawn gemau gwerthfawr, y rhai a anfonwyd, meddai, yn anrheg iddi oddiwrth Ta-jin, neu'r Due, i'r hwn yr oedd wedi ei dyweddio. Llon- gyfarchocld hi ar ei llwyddiant, ac ymadawodd o'r ystafell gan ddyweyd wrthi—" fod y gwr cyfoethog yn dyfod yno y dydd hwnw i wneyd rhagbarot- oadau ar gyfer y briodas." Collodd Koong-see bob gobaith wrth glywed hyn, ond cafodd ychydig ysgafnhad i'w meddwl mewn dagrau. Teimlai ei hun fel aderyn bach mewn magi heb un ffordd i ddianc allan o'r rhwyd. Tua chanol dydd cyrhaeddodd Ta-jin yno, yn nghanol bloeddiadau ei weision am ei wrhydri mewn rhyfel-yr oedd ei deitlau yn ami, y rhai a welid wedi eu hargraphu ar lusernau godidog a disglaer; ac oherwydd ei radd uchel, dygwyd ef i'r palas ar ysgwyddau wyth 0 bersonau mewn cludgadair (Sedan chair), fel arwydd o'i swydd fel prif ynad. .¡;. Ystyrir hunan-laddiad yn fwy 0 rinwedd nag 0 drosedd yn ol deddfau China. (1 to barhau.)

CHARLES' ELECTRIC

Advertising