Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
ABER.
ABER. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.—Gyda gofid dwys rhaid i ni grybwyll yr wythnos hon am farwolaeth yr hen fam, Mrs. Mary Thomas, Ty'n- gerddi, yr hyn a gyluerod(I le tua 10 o'r gloch nos Iau, yr 28ain o Awst, yn 84 mlwydd oed. Cladd- wyd hi yn mynwent St. Bodfan, Medi laf. Di- oddefodd gystudd caled yn ystod yr wythnosau diweddaf, a hyny yn hynod dawel. Ni feddyl- iodd neb ei bod mor wael hyd o fewn y dyddiau diweddaf. Bu yn aelod o'r Eglwys Sefydledig am lawer o flynyddau, a hi oedd yr hynaf yn yr Eglwys os nad yn y plwyf. Yr oedd wedi colli ei golwg er's rhai blynyddau, er hyny i gyd yr oedd yn esiampl i laweroedd am ei ffyddlondeb yn yr Eglwys. Ni chlywais neb erioed yn dweyd iddynt weled y drancedig yn dyfod i r Eglwys wedi i'r gwasanaeth ddeehreu. Na, i'r gwrth- wyneb, byddai yn ei lie mewn pryd. Yr oedd ffyddlondeb yn un o'r pethau hynotaf yn ei chy- meriad, a gallwn sicrhau mai lied anfynych y ceir rhai yn teimlo cymaint o ddyddordeb yn ngwasanaeth yr Eglwys ag ydoedd y drancedig. Yr oedd yr holl wasanaeth Eglwysig yn fywiog a gafaelgar ar ei choi hyd o fewn tri diwrnod cyn ei marwolaeth. Canai ar ei gwely angau, Ti Dduw a folwn, Ti a gydnabyddwn yn Arglwydd," &c., a Mae lesu Grist o'nhochrni," &c., a lluaws ohen benillion melus, y rhai sydd iddi yn awr yn fil per- eiddiach yn nghwmni y saint a'r angylion sanct- aidd, wedi cyraedd yr oehr draw. Yr oedd wedi bod yn neillduol o hael gyda'r Eglwys, a phob achos da arall. Yr oedd yr Ysgol Sul yn agos iawn at ei chalon, fel y prawf llafur y plant, y rhai a wyddom mai hi oedd yn eu dysgu. Bydd colled fawr i'r drysorfa Eglwysig ar ei liol, ac i'r Ysgol Sul, yn neillduol felly yn adeg y trips. Ac nid i'r rhai hyny yn unig, ond i lawer eraill. Byddai yn cofio am y tlawd, yr amddifad a'r weddw, cyfranai iddynt heb i ond ychydig wybod pa fodd y gwnai. Gall yr ysgrifenydd dystio fod y cor canu bob amser yn agos iawn at ei chalon. Dywedodcl yn ystod y Suliau diweddaf, Buaswn yn dymuno clywed y cor yn canu anthem." Ond yr oedd yn rhy wael i fyned i'r Eglwys, ond go. beithio fod yr hen fam yn canu yr anthem or- ioleddus yn y gogoniant fry. Gadawodd fwlch mawr yn ei theulu gartref; byddai yn ofalus neill- duol i ddiwallu pawb yn brydlawn ac mewn trefn. Ein dymuniad a'n gweddi yw, ar i'w brawd a'r teulu oil ymdawelu ac ymestyn at gyrhaedd yr un profiad a'r drancedig, a chyflwyno eu hunain i ofal Tad yr amddifad a Barnwr y weddw.
BARDDONIAETH.
BARDDONIAETH. AT Y BEIRDD. Llinellau a, gyLmsoddwyd ar farwolaeth y diweddar Barchedig J. W. Roberts, curad, Towyn, Meirionydd, yr hwn a gladdwyd yn mynwent henafol St. Tudno, Llandudno, Gorpk. 8fed, 1884. Coffadwriaetb. y Cyfiawn sydd fendigedig." Mae adar y Ilwyni'n telori fel arfer, Eu melus erddygan hyd goedydd y glyn, A chlyvvir llon-nodau hoff glychau y Gosper Yn deffro per adsain o fynydd a bryn, Mae telyn yr awel yn eilio'u mwyn gydgan, A'r afon yn murmur ar wely o raian, A mawredd urddasol ar wyneb holl anian, Er hyny 'r wyf finau'n alarus a ayn. Yr angeu dinystriol yn rhwysg ei uchafiaeth, Darawodd i'r beddrod un anwyl a chu- Ow! meddwl fod Roberts yn naear marwolaeth, Sydd destyn o alar a syndod i mi! Mae'r ergyd yn deffro rhyw fyrdd o adgofion, 0 flaen y meddylfryd fel rhithiad ysbrydion, Nes trydar fy hiraeth o waelod fy nghalon, A threiglo o'm llygaid fy nagrau yn lli'. Un addfwyn a chywir, diddichell, dirodres, A gwir ddifrychenlyd oedd ef hyd ei oes, A gwres cydymdeimlad a ferwai'n ei fynwes, Bob amser at bawb mewn rhyw drallod neu loes 'Roedd delw wen purdeb yn nhrem ei olygon, Yn denu i'w garu serchiadau angylion, A'i galon oedd lawn o rasusau y Cristion, Tra'n treulio ei fywyd wrth odreu y Groes. Os nad oedd yn meddu ar danllyd hyawdledd, "YVreichionai yn entrych ffurfafen y byd, Er hyny ein gwion oedd lawn o wir fawredd, A'i eiriau yn berlau gwir werthfawr i gyd Mae'r adgof am dano tra yn yr areithfa, Yn byfryd gylioeddi" I'r adyn mae noddfa," Yngwaedu ty nghalon—a'm hawen lesmeiria, Nes ydwyf gan syndod a hiraeth yn fud. Ni raid wrth y mynor a'i wedd gaboledig, I nodi ei feddrod,—diweddnod ei daith,— Na, na, bydd ei enw yn swyn cysegredig, Yn serch llu o Gymry am gyfnod maith, maith; Oherwydd ei ddelw sydd ddwfn ar bob calon, Fel un oedd yn anwyl yn mhlith teulu Seion, Er cilio o hono i fro anfarwolion, Yn anterth ei ddyddiau o ganol ei waith. Mewn galar a siomiant yr y'm yn ffarwelio Ag un oedd a'i einioes yn rhinwedd bob darn,— Hyd nes y bydd meirwon hen fynwent St. Tudno Yn deffri o'u trwmgwsg wrth udgorn y Farn. Tywallted cymylau eu dagrau gorddwysion, I iraidd enemio hoff feddrod y Cristion, A minau anadlaf mewn teimlad hiraethlon, 0 boed ei orweddle yn llanerch ddi-sarn. Towyn. _——— TYWYNOG.
TREDEGAR.
TREDEGAR. MARWOLAETH SYDYN.—Prydnawn dydd Sul cyn y diweddaf, yn 71 mlwydd oed, bu farw yr hen wr parchus Mr George Buddin, pwyswr, George Town, wedi bod yn glaf am rhyw wythnos. Bu yn y capel nos Sul wythnos i'r diweddaf yn hollol iach fel arfer, a chymerwyd ef yn glaf ar ol dychwelyd i'w gartref. Brodor ydoedd o Winburn, Swydd Dorset, ond darfu. iddo dreulio tua un-mlwydd-ar-hugain yn y gymyd- ogaeth hon. Gadawodd weddw oedranus i alaru ar ei ol. YR IFORIAID.—Dydd Llun diweddaf, cynaliwyd Club Feast gan gymdeithas a elwir Cambrian Lodge," perthynol i'r Gwir Iforiaid, dan Urdd Dewi Sant, pa rai sydd yn cynal eu cyfarfodydd yn y King's Head Inn," sef ty Mr John Howells. Gor- ymdeithasant drwy brif heolydd y dref, yn cael eu harwain gan seindorf bres y Gwirfoddolwyr o dan arweiniad Mr. W. Loot. Yn ychwanegol at chwareu ar hyd yr heolydd, darfu i'r seindorf chwareu amryw ddarnau ardderchog o flaen tai Cadben Sheapard, Cadben Jenkins, a Dr. Brown. Wedi dychwelyd yn ol, cawsant wledd o'r fath oreu, ao y mae clod mawr, yn ddyledus i Mr a Mrs Howells am ddarparu gwledd mor ragorol. Eisteddodd tua cant o bobl i gyfranogi o honi. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod dyddorol iawn o dan lywyddiaeth R. Spooner, Yaw., Abertawe, gynt o'r dref hon. Etholwyd Mr David Richards i'r is-gadair. Cafodd y llywydd ei gyn- orthwyo gan y Mri. Thomas Powell, ac Evan Powell, a chafodd yr is-lywydd ei gynorthwy gan Mri Noah. Thomas, a Thomas Jervis. Cafwyd areithiau rhag- orol ar ddeehreu y cyfarfod nes yr oedd y lie yn iyw o benbwygilydd. Buasai yn dda genyf ddanfon yr o benbwygilydd. Buasai yn dda genyf ddanfon yr areithiau i'r LLAN, ond ni chaniata gofod y cyfryw i mi wneyd hyny. Darfu i'r seindorf chwareu amryw o ddarnau swynol iawn yn ystod y cyfarfod hwn. Cafwyd anerchiadau ardderchog gan Mri Thomas, Powell, Noah Thomas, a W. West, a chanwyd gan Mri B. Lucas, D. H. Thomas (Dewi Ap Noah) J. Probert, W. Davies, ac amryw eraill. Dylaswn fod wedi dweyd i ni gael araith ffraeth a galluog iawn hefyd gan Mr T. G. Jones (T. Ap Dewi), yr hwn sydd ar ei ymweliad o'r America. Cafwyd anerchiad barddonol gan y :cyfaill ieuangc Ap Noah, yr hon oedd fel y canlyn :— I'n hanwyl Howells bydded, Uchel-barch drwy ein tref, Ei garedigrwydd dyrched, Pob un ag uchel lef; Ei riniau y'nt ddigyfryw, Ei ddoniau ynt ddiffael, Hyf bleidiwr cyson ydyw, I feibion Ifor Hael. Cawd gwledd ragorol ganddo, Ar ddydd ein huchel wyl, Mae'n cariad ato'n tanio Ein can i ftlamog hwyl; Boed dyddiau diddan iddo Tra byddo is y nen A gwenau ffawd fo arno, Mal eurgylch gylch ei ben. A gallwn ddweyd fod pawb yn dymuno yr. un llwyddiant i Mr a Mrs Howells ag Ap Noah. Felly, rhwng y cwbl cafwyd cyfarfod dymunol iawn.— Gohebydd.
[No title]
Un diwrnod yn diweddar talodd Mr. Thynne- yr hwn oedd yn adnabyddus am ei hoffder o J1m- borth da-ymweliad a'r hynod Arglwydd R. Cymerwyd ef i'r ystafel giniaw, lie y canfu. ei arglwyddiaeth wrtho ei hun yn bwyta ciniaw b ach blasus. Wedi ymddiddan am beth amser, dy- wedodd Mr. Thynne—yr hwn a deimlau yn newynog wrth weled y Hall yn bwyta :—" Fy ar- glwydd, fyddai dim llawer i chwi ddywe dyd, 4 Doctor, da chwi gwnewch fel yr wyf fi gwne yd." Wei doctor, meddai Arglwydd R., da chwi gwnewch fel yr wyf yn gwneyd-ewch adref a bwytewch giniaw eich hun."
Y MAES CENHADOL.
Y MAES CENHADOL. INDIA'R DWYRAIN. Ahmednagar yw un o'r trefydd mwyaf dyddorol yn ngorllewinbarth India. Saif ar wastadtir ag sydd ddwy fil o droedfeddi uwchlaw gwyneb y mor. Yn 1487 gwnaed hi yn brif ddinas Fahometanaidd nerthol, brenin cyntaf yr hon oedd Nizam Shah Baihiri, neu'r Hebog, a elwid felly oherwydd iddo yn flaenorol fod yn geidwad yr hebogiaid bren- hinol. Rheolodd ei deyrnach yn Ahmednagar hyd oni orthrechwyd ac y dymchwelwyd hi gan Shah Jehan, Ymherawdwr Mogulaidd Delhi, yn 1637. Gwraig enwog a elwid Chand Bibi, oedd ferch i Husein Nizam Shah, un o frenhinoedd y deyrnach yma, a gwraig Ali Adil Shah, brenin y deyrnas gyfagos Bijapur. Wedi ymwisgo mewn arfogaeth, dros yr hon y dodasai orchudd-len wen, hi a ddewr warchododd amddiffynfa Ahmednagar, pan ymosodid arnigan lu mawr dan gyfarwyddyd y Tywysog Morad, mab Akbad, gan ei yru ymaith oddiwrth y muriau. Ond pan wnaed ail ymosod- iad, yn fuan wedi hyn, syrthiodd y wraig ddewr yma yn aberth i frad, llofruddiwyd hi a chymer- wyd meddiant o'r amddiffynfa. Ond er hyny ni ddarostyngwyd teyrnas Ahmednagar dan y Moguliaid y pryd hwnw. Gwr dewr ac enwog o'r enw Mullik Umber a'i hamddiffynodd., ac am flynyddau a fu'n llwyddianus yn yr ymdrechfa o blaid ei hannibyniaeth. Ond gwedi ei farwolaeth ef dinystriwyd hi gan ymbleidiau gwahanol, ac o'r diwedd cafodd ei llwyr ddarostwng. Ond nid hir y parhaodd y Moguliaid yn y mwyn- had o deyrnas Ahmednegar. Trawsgipiwyd hi oddiarnynt, ac anrheithiwyd yr amddiffynfa a'r ddinas, yn 1664. Yn 1797 rhoddwyd Ahmed nagar yn rhan i bennaeth a enwid Sindia, ac yn bresenol mae un o'i eppil yn un o dywysogion rowyaf blaenllaw yr India. Yn 1803 cymerwyd hi oddiar Sindia gan yr Ardalydd Wellesley, sef ein Due Wellington wedi hyny, gwedi iddo ei gwarchae ddeuddydd, ac i'r Prydeiniaid y per- thyna byth wedi hyny. Saif yr amddiffynfa o hyd, un o'r rhai cadarnaf yn India, a dangosir coeden oddiallan, gyd a magnel yn gyfagos iddi, dan yr hon yr ysgrifenodd y Due ei fryslytbyrau wedi'r frwydr. Hyfryd y meddwl fod y dyddiau hyny o ryfel a thywallt gwaed drosodd, ac Ahmednagar yn awr yn enwog oherwydd Cenhadaeth y Gymdeithas er Lledaenu yr Efengyl sydd ynddi, yr hon a gychwyn- wyd un-mlynedd-ar-ddeg yn ol, ac sydd yn ffurfio y genhadaeth fwyaf a phwysicaf yn ngorllewin- barth India. Mae hi agos cyn gymaint a Chymru, a phoblogaeth odddeutu baner miliwn o Hindwaid o bob graddau (castes),lo'r Brahminiaid, a ystyr- iant eu hunain y rhai uchaf a sancteiddiaf, hyd at y Mahariaid a'r Mangiaid, y rhai a gyfrifir fel gwehilion pawb oil, ond y rhai oeddynt y rhai cyntaf i fwrw ymaith eu lluosog eilunod ac ar- ddangos awyddfryd i ymwthio i deyrnas Dduw., Mae mintai o fechgyn Maharaidd yn cael eu haddysgu yn ysgol y Gymdeithas yn Ahmed- nagar, a'u cymhwyso i fod yn ysgolfeistriaid a hyfforddwyr. Ychydig flynyddau yn ol yr oedd y bechgyn yma yn rhedeg oddiamgylch yn wyllt yn eu pentrefydd, yn aflan, yn noeth, ac analluog i ddarllen. Ond yn awr, gwedi iddynt ddyfod yn Gristionogion, mae hyn oil wedi ei gyfnewid. Yn bresenol maent wedi eu dilladu ae yn eu hiawn bwyll, ac nid yn unig yn cael eu hyfforddi yn eu hiaith eu hunain, ond hefyd yn cael eu haddysgu yn y Saesneg (iaith ag y maent yn bur awyddus i fod yn gyfarwydd ynddi), ac hefyd yn yr hyn sydd gan y Beibl a'r Llyfr Gweddi i'w ddysgu iddynt. Mae rhwng triugain a deg-a-thriugain o'r bechgyn yma yn ysgol Ahmednagar, a chynifer o enethod hefyd, yn ngofal cariadus a than hyfforddiant boneddigesau Prydeinig a aethant i'r India er mwyn Crist, ac a gyfaneddant yn agos i'r ty cenhadol, er mwyn cynorthwyo y Cenhadon gym- aint ag a allant. Heblaw y rhai hyn mae rhwng 500 a 600 o fechgyn a genethod Maharaidd yn cael eu hyfforddi mewn ysgolion mwy elfenol trwy y rhandir, lie y mae yn agos i haner cant o ysgolfeistriaid y Gymdeithas yn ymdrechu eu haddysgu a'u cynysgaeddu ag awyddfryd am wy- bodaeth a'r hyn sydd dda. Mae hyn yn ami yn waith anhawdd, oblegyd gwell gan blant yn gyffredin chwareu a diogi nag ysgol a gwersi; ac felly y plant Hindwaidd tlodion yma hefyd. Heb- law hyn, yn fynych mae eu rhieni yn analluog i adael iddynt fyned i'r ysgol, ac yn gorfod eu han- fon i lafurio, i fugeilio geifr ac anifeiliaid pan nad ydynt ond rhai bycliain. Ceir hefyd amryw bethau eraill i'w llesteirio ar ffordd gwybodaeth a daioni, megys gwyliau paganaidd ac eilunaidd, ynghyd ag amryw arfer- ion a choelion sydd ar gael ymhlith brodorion India. Ond eto mae'r Cenhadon yn dyfalbarhau, a thrwy dramwyo y rhandiroedd yn barhaus gwnant yr oil a allant i gefnogi yr athrawon i yin. ladd a'r anhawsderau hyn, ac i argymell y plant i fynychu yr ysgol. Gwahaniaetha y pentrefydd y ceir ysgolion ynddynt yn fawr oddiwrth y rhai nad oes ysgolion ynddynt. Yn y rhai cyntaf a enwyd gall y plant ddarllen, ysgrifenu, a rhifyddu, maent hefyd vv, fwy glanwaith ac yn rhagorach eu hymarv, eddiad. Gwyddant lawer am ein Harglwydd bendigaid, dysgir hwy i weddio arno ddwywaith o leiaf yn feunyddiol. Dysga eu rhieni hefyd gryn lawer, gan ymarfer a dyfod i'r gweddian a dysgu cryn lawer ynghylch einerefydd sanctaidd. Ond yn y pentrefydd amddifaid o ysgolfeistriaid mae pobpeth yn dra gwahanol, mae'r plant a'u rhieni yn hynod a,nwybodus, ac ymhell ar ol inewn llawer o bethau. Gondus gan y Cenhadon weled hyn, ac y maent yn awyddus am gael ysgol o leiaf ymhob un o'r trefydd a'r pentrefydd, cant a haner mewn nifer, lie mae gan- ddynt 3,000 o ddychweledigion wedi eu bedyddio a rhoddi eu hunain i Grist. Yn awr pe bai pawb a ddarllenant y papyr yma yn gwneuthur yr hyn a allent yn hawdd ei gyflawni i gynorthwyo y ly Gymdeithas i anfon ychwaneg o arian i Ahmed- nagar i gadw ysgolfeistriaid, gellid cyflawni llawer o waith a daioni ychwanegol. Cyflog cyffredinol ysgolfeistr yno ydyw wyth punt y flwyddyn, a choir lliaws o bersonau a allent yn hawdd gyfranu y swm bychan yma heb deimlo ei golli, tra y byddai ychydig symiau o'r fath yn galluogi y Cenhadon i gyflenwi nifer cyferbyniol o'r athraw- on hyny, a chyflawni llawer yn ychwaneg nag a gyflawnwyd hyd yn hyn. Nid yn unig gellid rhoddi rhagorach hyfforddiant i'r dychweledigion, gan eu gwneuthur yn well Cristionogion, ond lleseid y paganiaid o uwch gradd (caste), ag ydynt eto mor lliosog. Mae llaweroedd o honynt yn awyddu am hyn, gan erfyn am ysgolion, ac addaw anfon eu plant iddynt, os yn unig y darpara y Cenhadon gogyfer a'u haddysgu. Mae hwn yn ddrws agored addawol, ac India yn galw ar Brydain i gyflenwi tal i'r gweithwyr. Boed iddo gyraedd ein calonau ac atynu ein cydymdeimlad tuag at y miliynau hyny ag ydynt yn ymbalfalu am Dduw os gallant o ei gael Ef I-Papyr Chwarterol y Gymdeithas er Lledaenu yr Efengyl.
ADOLYGIAD Y WASG.
ADOLYGIAD Y WASG. YR EGLWYS HEN BRYDEINIG: Can yil dair Rhan. Cythvyndig i Goffadwriaeth y diweddar Ddeon Bangor W. Lloyd a'i Fab, Aberdar. Deuddeg penill 7. 6. D. ydyw'r g&n hon rhenir y testyn i dri phen: fel cangen o'r Eglwys Gatholig; fel Teml Genedlaethol; fel Mam Ys- brydol; a rhoddir i bob pen bedwar penill. Mul- tum tnparvo gan hynyyw'r gan o leiaf, dynaddis- gwylir iddi foa ar y cyfan dyna ydyw. Cawsom bleser mawr wrth ei darllen. Mae yn amserol ac yn newydd. Ceir ynddi syniadau cynwysfawr a phrydferth, ac y mae ol llaw fedrus Pr fydr ac odl. Dengys llinellau fel hyn :— 0 fewn dy furiau sieryd Yn ddistaw lawer sant,— Ffydd rydd i'w lygad fywyd, A geiriau ar ei fant," y deil y gan i'w darllen drwyddi ac eilwaitli. Yn benaf yn ei hysbryd haelfrydig a Chatholig, mae o'r Eglwys yn Eglwysig, ac felly hawdd gweled mor briodol y cyflwyniad. Cenir yn fynych gan ein Hysgolion Sul ar eu gwyliau blynyddol waelach pethau na'r gan hon, a goboithiwn na chaiff yr awdwr (un o guradiaid plwyf Aberdar, credwn) golled o'i chyhoeddi.
NEWYDDION O'R GOGLEDD.
NEWYDDION O'R GOGLEDD. PWLLHELI.—Dydd Mercher, y 27ain cynfisol, ymwelodd Arglwydd Esgob Bangor a'r dref uchod i draddodi ei charge tair blwyddol i offeiriaid y ddeoniaeth. Yr oedd amryw o offeiriaid cylch Harlech yno oblegid yr wyl gerddorol dranoeth yn Eglwys ptwyf (presenol) Llandanwg. DOLGELLAU.—Dydd Iau, yr 28ain, talodd yr Arglwydd Esgob ymweliad a'r dref henafol hon i'r un pwrpas ac amcau. Yr oedd, fel y clywsom, dim ond tua 15 o offeiriaid yn bresenol, a'r achos o hyny oedd y cynhalid yr wyl gerddorol yn Har- lech yr un dydd. Yr oedd un yn absenol, ie, un o wyr goreu deoniaeth Estimaner, sefy Parch. R. Roberts, ficcr Lanfachreth, oblegid afiechyd. Drwg genym glywed am selni y gwr da hwn ynn ghanol eiddyddiau. Gobeithio y gwel yr Ar- glwydd yn dda i'w adferu i'w iechyd, a hyny yn fuan. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid gan yr Arglwydd Esgob, yn cael ei gynorthwyo. gan y Tra Pharchedig Ddeon Lewis. HARLECH.—Nos Fercher cynhaliwyd gwasan- aeth yn Eglwys y dref hon, pryd y pregethwyd gan y Parch. E.. T. Davies (Dyfrig), Aberdyfi. Dranoeth (dydd lau) eynhaliwyd yr wyl gerddorol flynyddol gan gorau yr Eglwysi cylchynol yn yr un Eglwys. Gwasanaeth Saesoneg yn y boreu, y Gwir Barchedig Esgob How, neu yn fwy ad- nabyddus, Walsham How, awdwr yr Esboniad ar y Pedair Efengyl; yn y prydnhawn pregeth- Ily 11 wyd gan y Parch. T. E. Jones, Llanberis, ac yn yr hwyr gan y Parch. E. T. Davies, Aberdyti. Yr oedd y cyfarfodydd yn rhagorol, y canu yn dda iawn ac ystyried pob peth at ei gilydd. Eisieu mwy o'r cyfarfodydd hyu sydd yn yr Eglwys. Dydd Mawrth, y 26ain, oedd ddydd o lawenydd mawr yn Machynlleth a Llanwrin, sef dydd priodas Miss Williams Wynn a'i chefnder, ac etifedd Syr W. W. Wynn, A.S. Casglwyd tua X30 yn Llanwrin, yr hyn oedd swm lied fawr mewn plwyf a chyn lleied o boblogaeth ynddo a Llanwrin. Am Machynileth y mae yno ddigon o gyfoeth i'w gael. Dangoswyd ychydig o barchyn Towyn, Meirionydd. Nid oes yma ddim eiddo gan y Tywysog yn Nghymru, ond gwnaed hyn oblegyd 11 Ily ei ymweliadau flynyddau yn ol a'r lie. Bu y Barwn anrhydeddus yn ymweled yn flynyddol a'r lie ac yn cymeryd ty ar y traeth fel ag i fwynhau awyr Meirionydd, yr hon sydd mor iach ac adloniadol. LLANFIHANGEL-y-TRAETHAU. Y Parch. R. Jones, M.A., rheithor y plwyf hwn fu yn wael er's saith neu wyth mis, ac a orfu arno roddi i fyny ei ddyledswyddau yn hollol, sydd, mae yn dda genym ddywedyd, wedi gwella i'r fath raddau fel y mae yn alluog i ymaflyd yn ei waith plwyfol eto. Diameu y bydd yn dda gan ei gyleillion ddeall hyn am dano.
TY DDEWI.
TY DDEWI. Cynahaliodd einvhysgolion Eglwysig, Sul a dyddiol, eu gwyl flynyddol dydd Gwener yr 22ain cyfisol. Yr oedd yr hin yn dra ffafriol a'r cynulliad yn lluosog. Dechreuwyd am ddau. Gwedi trefnu y plant yn yr ysgoldy awd yn orymdaith tua'r Eglwys Gadeiriol, lie cynhaliwyd gwasanaeth. Canwyd y gweddiau gan y Parch. W. Matthews, a darllenwyd y llithoedd gan y Parchn. J. Evans a H. Jones. Canodd y plant yr atebion a'r Emynau yn dda iawn, yn cael eu dilyn ar yr organ gan Mr. Kingdon, yr ysgolfeistr. Anerchwyd y plant eleni gan y Parch. Canon Williams. Cawsant anerchiad dyddorol, hawdd ei ddilyn a'i ddeall, fel y tystiai eu gwrandawiad astud o'r dcchreu i'r diwedd. Wedi gadael yr Eg- lwys awd ymlaen i'r man neillduedig, ar lan yr afonig Alun, lie yr oedd y te wedi ei barotoi, ac yno y treuliwyd y gweddill o'r dydd yn tra pleserus. Arlwywyd te yn brydlon gan nifer o foneddigesau cysylltiedig a'r ysgolion, sef, Mrs. Lewis, Ficerdy, Mrs. H. Jones, Miss Allen, Mrs. Evans, ac ereill, a'r dystiolaeth unfrydol oedd fod y tê eleni yn fwy blasus nac arferol. Da oedd genym weled nifer dda o ioneddigesau yn bresenol ac yn cymeryd dyddordeb yn y plant gan roddi pob cynorthwy tuagat eu gwneyd yn ddedwydd, sef Mrs. Williams, Mrs. Nares, Miss Thomas, Mrs. Probert, Misses Davies, Maendewi, Misses Rees, Porthclais, Miss Mortimer, &c. Dilyn- wyd y wledd de gan chwareuyddiaethau, lie cafodd pawb ddifyrwch mawr. Gwnaeth Mr. Kingdon, Mr. Perkins, Mr. Probert, a boneddigion ereill eu goreu i gynorthwyo'r offeiriad plwyfol i ddifyru y plant gyda'r rhedegfeydd.neidio,a gorchestion o'r fath. Bu'r Parch. Canon Williams hefyd yn haelionus tuag at wobrwyo'r plant, ac yr oedd Mr. Perkins, yr arol- ygwr, a'i fasged yn llwythog o sweets ac afalau, am ba rai yr oedd digonedd o lymgeiswyr tra parasant. Drwg oedd genym fod ficer y plwyf, sef y Parch. Canon Lewis, oherwydd amgylchiadau neillduol, yn absenol eleni. Terfynwyd gweithrediadau yr wyl drwy y plant i dalu eu diolchgarwch yn y drefn arferol i bawb ac oeddynt drwy eu haelioni neu eu cynorthwy personol wedi dangos eu dyddordeb ynddynt, ac wedi eu gwneyd mor ddedwydd drwy y dydd.
CLYNNOG.
CLYNNOG. Nos Sadwrn diweddaf, Awst 30, cynhaliwyd cyngherdd blynyddol er budd trysorfa yr Ysgolion Genedlaethol y lie uchod. Cymerwyd rhan ynddo gan Misses Elsee, Tyddyn Hen; Misses Redfern a Simcox, Plasybryn Miss a Master Pryse, y Ficerdy; Misses Ellen a Maggie Jones, Pontlyfni; Mri. Wil- liams a Brinstead, Glanbeuno; Mri. Thomas Hughes, John Hughes, S. Roberts, G. Thomas, W. Welburn, D. ac R. Thomas, ac eraill o Llanael- haiarn, a llywyddwyd gan Mr. Thomas Hughes. Ar y diwedd talwyd y diolchiadau arferol i bawb a roddasant eu help tuag at yr achos. Y mae yn llawen genym allu dweyd i'r cyngherdd droi allan yn berffaith llwyddiant ymhob ystyr, ac yr ydym yn dymuno pob llwyddiant i'n parchus Ficer yu ei ym- drechion dibaid o blaid yr ysgolion yn y plwyf, yn yr hwn nid oes un Bwrdd Ysgol. Dydd Mercher, Awst 27ain, rhoddodd Proffeswr Bodington, Plasybryn: wledd o de ardderchog i fechgyn ysgol y pentref uchod. Yr oeddynt wedi cael eu gwahodd i fyned i grounds Plasybryn i ddifyru eu hunain mewn amrywiol chwareuon, ond Jrodd yr hin yn anffafriol, felly gwnawd y goreu i'w difyru hwynt yn yr Ysgoldy, gan Mr. Mrs. a Miss Boding- ton, Miss Redfern, Mrs. Bradley, Mr. a Mrs. Pryce, Miss a Master Pryse, Mr. Roberts, Post Office, a Mr. Williams, yr Ysgoldy,
BYWIOLIAETH LLANGATTWG A CHYM-RAEG…
ddarllen y gwasanaeth unwaith yn y prydnawn, ac os na fydd yr Eglwys yn gyfleus, gwna yr Ys- goldy 37n ilawn gystal os nad gwell. Y mae rhai yn ein gwlad yn ddigon zelog dros yr hen Eglwys i ;lynu wrthi er y sarhad, y culni, a'r cyfan, ond fel y gellid disgwyl, yr hyn a wna yr rhan fwyaf dan amgylchiadau o'r fath ydyw, aaill a'i cymeryd eisteddle yn yr Eglwys Saesoneg, deall neu beidio, neu gilio i'r capeli lie y cant glywed iaith eu mam yn cael ei siarad yn groew beth bynag. Yn wir mae y clerigwyr hyny sydd yn perthyn i deulu Die Shon Dafydd yn fwy haerllug o lawer yn erbyn y wlad a'r iaith y cawsant eu magu yn- ddynt nag ydyw llawer o Saeson a Gwyddelod a Scotiaid yn ein plith. A oes dim modd i'r Esgob i orfodi, os nad ellir mewn un modd arall, nceriaid ei esgobaeth i gadw dau wasanaeth Cymraeg lie y byddo yn canfod hyny yn beth dymunol ? Carwn yn fawr i'r Cymry gwladgarol, yn lleygwyr a chlerigwyr, i draethu eu lien ar yr achos yma ardudalenau y LLAN.—Oddiwrth eich gwasanaeth- wr ufudd, GWLADGARWR. [Yr oedd y llythyr uchod mewn llaw cyn i'r pen- odiad gael ei wneyd.—GOL.]