Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

ABER.

BARDDONIAETH.

TREDEGAR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TREDEGAR. MARWOLAETH SYDYN.—Prydnawn dydd Sul cyn y diweddaf, yn 71 mlwydd oed, bu farw yr hen wr parchus Mr George Buddin, pwyswr, George Town, wedi bod yn glaf am rhyw wythnos. Bu yn y capel nos Sul wythnos i'r diweddaf yn hollol iach fel arfer, a chymerwyd ef yn glaf ar ol dychwelyd i'w gartref. Brodor ydoedd o Winburn, Swydd Dorset, ond darfu. iddo dreulio tua un-mlwydd-ar-hugain yn y gymyd- ogaeth hon. Gadawodd weddw oedranus i alaru ar ei ol. YR IFORIAID.—Dydd Llun diweddaf, cynaliwyd Club Feast gan gymdeithas a elwir Cambrian Lodge," perthynol i'r Gwir Iforiaid, dan Urdd Dewi Sant, pa rai sydd yn cynal eu cyfarfodydd yn y King's Head Inn," sef ty Mr John Howells. Gor- ymdeithasant drwy brif heolydd y dref, yn cael eu harwain gan seindorf bres y Gwirfoddolwyr o dan arweiniad Mr. W. Loot. Yn ychwanegol at chwareu ar hyd yr heolydd, darfu i'r seindorf chwareu amryw ddarnau ardderchog o flaen tai Cadben Sheapard, Cadben Jenkins, a Dr. Brown. Wedi dychwelyd yn ol, cawsant wledd o'r fath oreu, ao y mae clod mawr, yn ddyledus i Mr a Mrs Howells am ddarparu gwledd mor ragorol. Eisteddodd tua cant o bobl i gyfranogi o honi. Yn yr hwyr cynaliwyd cyfarfod dyddorol iawn o dan lywyddiaeth R. Spooner, Yaw., Abertawe, gynt o'r dref hon. Etholwyd Mr David Richards i'r is-gadair. Cafodd y llywydd ei gyn- orthwyo gan y Mri. Thomas Powell, ac Evan Powell, a chafodd yr is-lywydd ei gynorthwy gan Mri Noah. Thomas, a Thomas Jervis. Cafwyd areithiau rhag- orol ar ddeehreu y cyfarfod nes yr oedd y lie yn iyw o benbwygilydd. Buasai yn dda genyf ddanfon yr o benbwygilydd. Buasai yn dda genyf ddanfon yr areithiau i'r LLAN, ond ni chaniata gofod y cyfryw i mi wneyd hyny. Darfu i'r seindorf chwareu amryw o ddarnau swynol iawn yn ystod y cyfarfod hwn. Cafwyd anerchiadau ardderchog gan Mri Thomas, Powell, Noah Thomas, a W. West, a chanwyd gan Mri B. Lucas, D. H. Thomas (Dewi Ap Noah) J. Probert, W. Davies, ac amryw eraill. Dylaswn fod wedi dweyd i ni gael araith ffraeth a galluog iawn hefyd gan Mr T. G. Jones (T. Ap Dewi), yr hwn sydd ar ei ymweliad o'r America. Cafwyd anerchiad barddonol gan y :cyfaill ieuangc Ap Noah, yr hon oedd fel y canlyn :— I'n hanwyl Howells bydded, Uchel-barch drwy ein tref, Ei garedigrwydd dyrched, Pob un ag uchel lef; Ei riniau y'nt ddigyfryw, Ei ddoniau ynt ddiffael, Hyf bleidiwr cyson ydyw, I feibion Ifor Hael. Cawd gwledd ragorol ganddo, Ar ddydd ein huchel wyl, Mae'n cariad ato'n tanio Ein can i ftlamog hwyl; Boed dyddiau diddan iddo Tra byddo is y nen A gwenau ffawd fo arno, Mal eurgylch gylch ei ben. A gallwn ddweyd fod pawb yn dymuno yr. un llwyddiant i Mr a Mrs Howells ag Ap Noah. Felly, rhwng y cwbl cafwyd cyfarfod dymunol iawn.— Gohebydd.

[No title]

Y MAES CENHADOL.

ADOLYGIAD Y WASG.

NEWYDDION O'R GOGLEDD.

TY DDEWI.

CLYNNOG.

BYWIOLIAETH LLANGATTWG A CHYM-RAEG…