Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Y CHOLERA.
Boreu dydd Iau. Y CHOLERA. Hysbysir fod y cholera Asiaidd wedi tori allan yn Alicante, Spaen, ac amryw farwol- aethau wedi digwydd. Bydd y Brenin a'i lys yn dychwelyd yn uniongyrchol i Madrid. Digwyddodd 135 o farwolaethau o hono yn Itali ddoe, ac ofnir yr ymleda yno.
Y LLOFRUDDIAETHAU YN MAAM-TRASNA.
Y LLOFRUDDIAETHAU YN MAAM- TRASNA. Ddoe cynhaliwyd cyfarfod gan nifer fawr o Wyddelod yn Dublin, dan lywodraeth Mr. Harrington, A.S., yn yr hwn y pasiwyd pleidlais o gerydd ar Arglwydd Spencer, oherwydd iddo wrthod gwneyd ymchwiliad i wirionedd yr hyn a ddatgnwyd ynghylch diniweidrwydd y rhai a ddienyddwyd ynglyn a llofruddiaethau teulu Joyce rai misoedd yn ol yn Maamstrasna.
Y SEFYLL ALLAN YN SWYDD STAFFORD.
Y SEFYLL ALLAN YN SWYDD STAFFORD. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan y glowyr yn Netherton, gerllaw Dudley, neithiwr, penderfynwyd parhau i sefyll allan nes y caniateid yr hyn a ofynent gan eu meistriaid. Mae miloedd o honyut heb weithio er's wyth wythnos, a tlodi mawr yn bodoli ymhlith eu teuluoedd mewn can- lyniad.
DAMWAIN AR Y RHEILFFORDD.
DAMWAIN AR Y RHEILFFORDD. Digwyddodd damwain prydnawn ddoe i gerbydres yn cynwys canoedd o bleserdeith- wyr rhwng Lynn a Hunstanton. Dym- chwelwyd y peiriant a thair neu bedair o gerbydau, ond yn rhagluniaethol ni laddwyd neb, er fod nifer fawr wedi eu niweidio yn drwm.
Y RHYFEL YN CHINA.
Y RHYFEL YN CHINA. Ychydig o fanylion geir yn Paris ynghylch symudiadau y Llyngesydd Courbet, ond mae sibrwd fod y Llywodraeth Ffrengig yn gwneyd pob ymdrech i geisio perswadio Llywodraeth Japan i gyhoeddi ei hun yn erbyn China.
DAMWEINIAU ANGEUOL YN MERTHYR…
DAMWEINIAU ANGEUOL YN MER- THYR A'R GYMYDOGAETH. Boreu ddoe bu farw Catherine Richards, Troedyrhiw, drwy effeithiau damwain a'i cyfgrfyddodd nos Lun. Pan yn myned i dy cymydoges iddi aeth dros wal pum' troed- fedd o uchder, a syrthiodd i lawr. Pan gafwyd hi yr oedd yn anymwybodol, a phar- haodd felly hyd y diwedd. Tra yr oedd David Davies, bachgen 11 mlwydd oed, yr hwn a drigiannai gyda'i mam yn Tranch Bach, Cyfarthfa, yn casglu mwyar duon gerllaw yr Afon Taf, syrthiodd i le a elwir Pwll Wal, a chyn i gynorthwy gyrhaddd boddodd y truan. Yn hwyr nos Fawrth, cafwyd corff marw Richard John, 41 mlwydd oed, Tai Winches, Pentrebach, yn yr afon Taf. Ymddengys ei fod y noson grybwylledig yn yfed mewn tafarndy yn Abercanaid, ac yr oedd yn angenrheidiol iddo groesi pont gweithiau Plymouth i fyned adref. Yr oedd y bont yn cael ei hadgyweirio, a syrthiodd yntau drwy un o'r agorfeydd, a boddodd.
MARWOLAETH DISYMWTH YN NGHAERDYDD.
MARWOLAETH DISYMWTH YN NGHAERDYDD. Cafwyd James Shapland, 200, Bute Road, Caerdydd, yn farw yn ei gadair boreu ddoe. Cwynai o herwydd poen yn ei ddwylaw a'i draed, ond ni thybiwyd fod unrhyw berygl.
HUNAN-LADDIAD PENDERFYNOL.
HUNAN-LADDIAD PENDERFYNOL. Rhwng wyth a naw o'r gloch boreu ddoe, neidiodd dynes oedranns o'r enw Catherine Greenwood, o ben verandah ty yn Islington i'r heol, dyfnder o 70 troedfedd, a bu farw yn y fan. Ymddengys ei bod wedi claddu ei brawd ddydd Llun, yr hyn a barodd isel- der ysbryd.
[No title]
RHEILFFORDD FFESTINIOG. I,- Dydd Mercher diweddaf, yn y Westminster Palace Hotel, Llun. dain, cynhaliwyd cyfarfod haner blynyddol cyf- randalwyr y rheilffordd uchod, o dan lywyddiaeth Mr. F. G. Livingstone. Dangosai yr adroddiad fod y derbyniadau am haner *blwyddyn yn 9566p., i'w cymharu a, 10,751p. yr un cyfnod y flwyddyn ddiweddaf, sef llai o 1185p. Cyfanswm y treul- iadan am yr haner blwyddyn ydoedd 6531p., i'w gymharu a 7421p. yr un cyfnod y flwyddyn ddi- weddaf, ac felly yn dangos lleihad o 889p. Yr oedd yr enillion clir yn 3034p. i'w gymharu a 3330p., sef lleihad o 295p. Y gweddill, ar ol talu llog ar hawl-ysgrifau, rhenti, tunelliadau, a chostau arianwyr ydoedd 2650p., yr hyn a alluoga y cyfarwyddwyr i roddi llog o 2p. y cant ar yr ystoc, sef cyfanswm o 861p. 17s. lc., gan adael gweddill o 597p. 15s. 10c. i'w gario drosodd.
LLYTHYE TOM PUDLER.
LLYTHYE TOM PUDLER. SIOP NWNCWL DATHAN. SYR,-Y,,i mha le yr ydych yn meddwl y buais i yr wythnos ddiweddaf ? Wel, i mi gael dweyd y gwir, mi aethym i mewn i siop Nwncwl Dathan. Siop y tair pelen y geilw rhai hi. Yr oedd cywilydd arnaf fyned i mewn. Mi droais fy llygaid i fyny ac i waered i edrych a oedd neb yn fy ngweled. Ni fynwn er dim i neb gael lie i ddweyd fod Tom Pudler, druan, yn dechreu delio yn y pawn shop. Eisiau par o esgidiau oedd arnaf i Tommi bach. Yr oeddwn wedi gweled par yn y ffenestr yr oeddwn yn meddwl y gwnaent ei ffitio, ac yr oeddwn wedi clywed fod bargeinion i'w cael weithiau gan Nwn- cwl Dathan. Yr oedd Nwncwl yn eithaf serchog, ac yn barod i ddangos pob peth. Mae yn deall ei fusnes yn dda, ac yn gwybod gwerth pob pilyn i drwch y blewyn. Esgidiau da, mae digon o bris arnynt. N wyddau hen, wedi dechreu mallu, fe'u cair am isel bris, ond nid ydynt yn werth eu cario oddiyno. Cyn dyfod allan, bwriais olwg o amgylch, i lawr ac i fyny,. a thyna le rhyfedd sydd ynddi. Mae pob astell a phob congl yn llawn o'r gwaelod i'r nen. Mae dillad corff a dillad gwely, y llodrau a'r peisiau, y cotiau a'r gwnau, y penwisgoedd a'r hetiau, yr hosanau a'r esgidiau, yn garnau ar eu gilydd, a'r cwbl hefyd mewn trefn, a phob peth a'i ffigwr briodol arno. Mae gan rai, yn wir mae gan lawer, ym- ddiried mawr yn Nwncwl. Mae'r gwyr a'r gwragedd a'r meibion a'r merched yn tynu eu horiorau o'u llogellau, eu cadwyni oddiar eu gyddfau, eu tlysau o'u clustiau, eu breich- ledau oddi am eu dwylaw, eu modrwyau oddiam eu bysedd, ac yn dwyn eu man gelfi o'u tai, ac yn eu rhoddi i gadw yn siop Nwncwl Dathan. Mae'r saer coed yn dwyn ei fwyall a'i law-lif, y saer maen ei forthwyl a'i lwy, y teiliwr ei wydd a'i labwrt, y gweithiwr ei gaib a'i raw, ac yn eu gadael dan ofal Dathan. Mae rhai yn myned i siopau eraill, yn prynu defnyddiau ar hen gount, ac yn myned ar eu cyfer i siop Dathan, ac yn eu gadael hwynt yno heb eu gweithio, Dathan sydd yn cael cadw dillad Sul rhai teuluoedd, o foreu y Llun hyd nos Sadwrn. Telir am eu ben- thyg dros y Sul, ac eir yn ol a hwynt yn gynar foreu dydd Llun. Wrth reswm, mae arian yn pasio rhwng Nwncwl a'i berthynasau. Mae ef yn rhoi arian iddynt hwy am gael cadw eu pethau, maent hwythau yn ei dalu yntau am eu lie. Rhyw fasnach ryfedd yw hi syddlrhyngddynt; nid wyf yn deall ei dirgeloedd hi, ni fedraf eu hegluro. Mae un peth yn dra sicr, Dathan sydd yn cydio yn mhen breisgaf y ffon bob amser. Mae ei fasnach yn llwyddo ar bob tymor, ac ar bob tywydd. Ar yr amser drwg mae ef yn derbyn i mewn, ar yr amser da mae ef yn gwerthu allan. Os y caiff ef gadw peth yn ei law am flwyddyn, efe bia hwnw, ac y mae ganddo hawl i'w werthu. Mae tramwyfa rhwng siop Nwncwl a'r Black Bear, ac y mae llawer o gerdded rhwng y ddau dy, yn enwedig ar nos Sad- wrn, pan fo Sabboth Dathan drosodd. Cefais frath dan fy mron wrth weled cynifer o FeiblauaThestamentau,a llyfrau hymnau, Cymraeg a Saesneg, wedi cael eu dwyn o'r teulu, a'u rhoddi dan ddwylaw yr luddew, ac wedi dyfod yn feddiant iddo. Pe byddai gan y rhai hyn dafodau i lefaru, ni a gaem hanes a berai i'n gwallt sefyll, ac i'n gwaed fferu. Mi a ddaethum allan heb brynn yr esgidiau. Diolch nad yw Dinah erioed wedi bod yn rhoi tro am Nwncwl Dathan, ac nad oes dim cyfeillach rhyngddynt. Bob un sydd am losgi dau pen y ganwyll, a brys arno fyned i'r tywyllwch, aed yn ami o'r Black Bear at Dathan, ac o dy Dathan i'r Black Bear. TOM PUDLER.
[No title]
GWROLDEB CLERIGWR.—Prydnawn dydd Llun yr oedd nifer o foneddigesau yn ymdrochi yn y m6r gerllaw St. Ishmael's, Ferryside, pan y cariwyd un o honynt, Miss Groves, Manchester, gan y tonau i le peryglus a dwfn. Gwaeddodd am gynorthwy, pan aeth boneddiges arall, Miss Green, i geisio ei gwaredu, ond gwelwyd yn fuan fod bywydau y ddwy mewn perygl. Darfu i waeddiadau y lleill dynu sylw clerigwr ieuanc, yr hwn a redodd i lan y m6r, a chan dynu ei esgidiau a'i gob, rhuthrodd i'r m6r, a llwyddodd i ddwyn Miss Groves i'r lan. Nofiodd drachefn, ac wedi cryn anhawsder, oherwydd fod y m6r yn cilio, llwyddodd drachefn i waredu Miss Green. Pe buasai ganddo ddwy neu dair Hath ychwaneg i'w nofio, buasai y ddau wedi boddi, ac yr oedd wedi colli ei nerth yn llwyr pan y cynorthwywyd ef i'r làn. Pan ofynwyd iddo ei enw, ei atebiad ydoedd, Peidiwch a gwneyd helynt, os gwelwch yn dda. Nid yw yn werth hyny. Ni wnaethum ddim rhagor nag a wnaethai miloedd eraill pe buasent yma. Drwg genym nas gallwn hysbysu ei enw, gan ei fod yn deilwng o bob anrhydedd am ei wrhydri yn ngkanol y fath berygl..
NEWYDDION CYFFREDINOL.I
NEWYDDION CYFFREDINOL. YR HAWLYDD.—Bwriada cyfeillion yr Hawlydd Tichborne wneyd arddangosiad mawreddog ar y 24ain o Hydref nesaf, pryd y rhyddeir ef o garchar Pentonville. Mae parotoadau mawrion yn cael eu gwneyd er creu brwdfrydedd o'i blaid. MANWOLAETH DR. OOLLIS BROWNE.—Yn hwyr nos Sadwrn bu Dr. J. Collis Browne farw yn ei breswylfod, Mount Albion, St. Lawrence-on-Sea, yn 66 mlwydd oed. Enillodd enwogrwydd drwy y byd fel gwneuthurwr y chlorodyne a adnabyddir wrth ei enw. UNDEB CORAWL EGLWYSI GORLLEWINBARTH DEONIAETH ARDUDWY.—Gynhaliwyd yr uchod yn Harlech. ddydd Iau, yr 28ain cynfisol, ond drwg genyf i amgylchiadau anorfod ein lluddias i anfon adroddiad o'r gweitlirediadau. Bydd yn y nesaf. —Llygadog. YR YSGOL GYMREIG YN ASHFORD.-Gymaint ydyw y ceisiadau am fynediad i mewn i'r ysgol hon fel y mae y pwyllgor wedi penderfynu ad- eiladu darn ychwanegol ati, yr hwn fydd yn barod ar y 29ain cyfisol. Mae yn awr 146 o enethod yn derbyn addysg yno. NEIDIO o GERBYDRES.—Dydd Iau, neidiodd dyn o'r enw Bryant, yr hwn oeddyn nghadwraeth heddgeidwad yn myned i garchardy Lewes, allan o'r gerbydres, a lladdwyd ef yn y fan. Yn y trengholiad a gynhaliwyd ar ei gorff dranoeth dychwelwyd rheithfarn o hunan-laddiad. PRINDER DWFR YN BRADFORD.—Er fod corphor- aeth Bradford wedi gwario dwy filiwn o bunau ar eu gwaith dwfr, ofnir y bydd y cyflenwad yn dar- fod yn fuan, gan ei fod yn lleihau bob dydd, ac y mae gorchymyn wedi ei roddi na fydd dwfr i'w gael ond am wyth awr bob dydd. YR EISTEDFOD GENEDLAETHOL.—Ymddengys fod Caernarfon, Bangor, a Llandudno yn bwriadu gwneyd ymdrechion i gael Eisteddfod Genedl- aethol 1885 i un o'r trefydd hyny. Os yw hyn yn gywir, rhaid apelio at yr Orsedd, canys yno y pen- derfynir pa le y bydd i'r wyl genedlaethol gael ei chynal y flwyddyn nesaf. ARDDANGOSIAD CEIDWADOL YN NGHASTELLNEDD. —Cynhaliwyd arddangosiad Ceidwadol yn mbarc y Dyftryn, gerllaw Castellnedd, preswylfod Mr. Howell Gwynn, ddydd Iau. Aethpwyd i'r pare am un, a dechreuodd y chwareu am ddau. Am bump traddodwyd anerchiadau gwleidyddol gan Mr. J. T. D. Llewelyn. Mr. H. N. Miers, a Mr. T. Edwards, &c. ANRHYDEDDU CYMRO.-Mae cyfeillion y Milwr- iad Davies, Caerdydd, yn bwriadu cyflwyno iddo awrlais ysblenydd gwerth £50, fel arwydd o'u parch tuag ato fel un sydd wedi dringo i safleoedd uchel, ac yn hyrwyddwr pob symudiaddaionus. Bydd yr awrlais wedi ei wneuthur yn y fath fodd ag i chwareu y don Rhyfelgyrch gwyr Harlech," ton sydd yn enyn y fath deimladau yn mynwes pob Cymro. TWYLL ARIANOL YN YR AIPHT.-Hysbyswyd yn Cairo ychydig ddyddiau yn ol fod rhai o'r awdur- dodau Aiphtaidd wedi darganfod twyll ar raddfa eang ynglyn a chyfrifon y Llywodraeth. Hyd yma, mae gwybodaeth am o leiaf X80,000 wedi eu lladrata, ac ofnir fod mwy hyd yn nod na hyny. Fel canlyniad yr ymchwiliadau, mae nifer o swyddogion uchel yn cael eu cyhuddo, a diau y dadlenir rhai manylion echrydus yn fuan. TERFYSGOEDD MAWRION YN AMERICA.—Cymer- odd terfysgoedd ofnadwy le yn Nelsonville, Ohio, America, ddydd Sadwrn. Ymddengys fod mil- oedd o lowyr yn sefyll allan, ac yr oedd dynion wedi eu gosod i wylio y pyllau, at y rhai y rhuthr- odd y miloedd oeddynt allan o waith, gan ladd un a chlwyfo amryw. Heblaw hyn, torasant wifrau y pellebyr, a chymaint ydoedd ofh yr awdurdodau y byddai i'r terfysg ymledu fel y darfu i lywodr- aethwr y dalaeth alw allan y milwyr i gadw trefn. BYWYD YSWIRIAETH A DIRWEST.—Yswiriodd Maer Ysgotig ei fywyd yn y swm o 1500p., ac ar yr un pryd tystiodd ei fod o arferion dirwestol. Ar ei farwolaeth gwrthododd y cwmni yswiriol dalu y swm gofynedig, oherwydd i'r trangcedig gelu y ffaith nad oedd yn dilyn yr arferion ag y tystid ei fod. Rhoddodd y Llys Ysgotig ddyfarn- iad o blaid y teulu, ac yn awr y mae Ty yr Arglwyddi yn dadwneyd y ddedfryd, a rhaid i'r teulu, nid yn unig golli y 1500p., ond talu y costau hefyd. GWEITHRED FILEINIG YN RWSIA.—Derbyniodd yr awdurdodau yn Kassau, Rwsia, lythyr dienw oddiwrthyNihilistiaidyn eurhybuddio y byddai i'r ystorfa bylor ac amryw adeiladau eyhoeddus gael eu dinystrio cyn pen ychydig ddyddiau wedi hyny. Ni thalwyd yr un sylw i'r rhybudd yma, ond dydd Iau taflwyd y dref i ddychryn mawr gan ffrwydriad erchyll. Cafwyd fod yr ystorfa bylor, a phump o swyddfeydd y Llywodraeth wedi eu chwythu i fyny, ac fod dros gant o fywydau wedi colli. Deffrodd hyn yr awdurdodau at eu dyledswyddau, a gwnaed archwiliad manwl ar bob adeilad cy- hoeddus arall yn y dref. Canfyddwyd ffrwyd- belen o dynamite o dan ffenestr y brif swyddfa heddgeidwadol. Y FANTOLEN GENEDLAETHOL.-Rhydd papyr Seneddcl, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gyfrif o gyllid a threuliadau y cyhoedd am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 31ain, 1884. Cyfanswm y cyllid ydoedd 76,486,365p. o bu un yr oedd 71,735,523p yn deillio oddiwrth y dreth, '2,807,427p oddiwrth swyddi dan y Goron (yn benaf y llythyrdai a'r pellebron), 473,415p oddiwrth hawlion y Goron, a 380,000p oddiwrth diroedd y Goron. Cyfanswm y treuliadau ydoedd 76,280,745p, a dosperthir hwynt fel y canlyn Dyled gyhoeddus, 22,344,729p (yn cael ei wneyd i fyny o 21,603,105p o log, a 6,741,624p o warediant dyled) y fyddin, 16,064,574p; y llynges, 10,727,781p; rhodd i'r India (rhyfel Affghan) 1,000,OOOp; lleoliad y byddinoedd milwrol, 40,000p Transvaal, 15,363p gwahanol gwasanaethau gwladol, 16,440,212p; tollau, 910,976p inland revenue, l,767,863p. Yr oedd swm y cyllid yn fwy na'r treuliadau o 205,620p.
Family Notices
Genedigaethau, Priodasau, a Marwolaethau. GENEDIGAETHAU JeneB-Awst 24aki, priod Mr. John Jones, Dyffrynarel, Felinfoel, Llanelli, ar fab. Hughes-Awst 26ain, priod y Parch. William Hughes, ficer, Llanuwchllyn, Bala, ar efeilliaid-meibion. PRIODASAU. Spencer—Jones Awst 27, yn Eglwys St. Jamea, Lerpwl, Mr. Thomas Spencer Jones, a Miss Ads Kenderick Jones,—y ddau o Walton. Jones—Morris—Awst 28, trwy drwydded, yn Eglwys y plwyf, Llanilar, gan y Parch. J. T. Griffiths, fleer, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Joseph Evans, curad, Mr. William Davies Jones, Falcon, Llanilar, a, Maria Elizabeth, ail ferch Mr. W. iMorris, post- feistr, Aberdar. Lloyd—Roberts—Awst 28ain, yn Eglwys Llanbsblig, •J Caernarfon, gan y Parch. Issard Davies, M.A,, Mr. T. M. Eloyd, unig fab Mr. Morgan Lloyd, Maesincla Hall, a Jane Elizabeth, chweched ferch Dr. Watkin William Roberts, U.H,. Uxbridge-place,—y ddau o Gaernarfon. MARWOLAETHAU. Davies-Awst y 25ain, yn nhy ei ferch yn Cilgetty (neu Kilgetty), ychydig i'r deheu o Narberth, Benjamin Davies, yn 94 mlwydd oed, wedi gweled \Y!lon so amryw or-Cvyrion. Mae rhywrai'n myn'd o hyd, I'r trag'wyddolfyd maith, Myn'd ar eu holau'r y'm, Yn gyflym ar ein taith. Mae iechyd rhid i ddynolryw Yn fwy ei werth nac aur Peru, Morgan-Awst 20, yn bur ddisymwth, Betsy, anwyl briod Mr. William Morgan, I)atterti-maker, Bryngarw Cottage, Felinfoel, Llanelli. Jones-Awst 23, yn 5 mis oed, yn Cae Coch, Llanidan, sir Fon, plentyn y Parch. Jeremiah Williams Jones, curad Llanidan. Jones-Awst 24, yn 60 mlwydd oed, Mr. Evan Jones School-street, Henllan, ger Dinhych.
[No title]
Arglwydd Boston ydyw llywydd presenol Cym- deithas Amaethyddol Mon. Mae Bwrdd y Llywodraeth Leol wedi a-dur- dodi sefydliad bwrdd lleol i Borthaethwy, yr hon ardal hyd yn hyn a fa o dan reolaeth bwrdd iechydol Bangor. Anfonwyd pellebyr o New York ddydd Sadwrn yn hysbysu fod hyrddwynt dinystriol wedi tori allan yn Evansville, Indiana. Diwreiddiwyd coed, dinystr- iwyd en.noedd o adeiladau, a chollwyd amryw o fywydau. Y CHOLERA.—Da genym ddeall fod y cholera yn graddol ddarfod o Ffrainc, ac nad ydyw rhif y marwolaethau yn Marseilles, Toulon, a'r cymyd- ogaethau, yn awr y ddegfed ran o'r hyn oeddynt ychydig amser yn ol. Dydd Gwener, bu 18 farw o'r geri yn Ffrainc, a 23 ddydd Sadwrn, ond ofnir fod yr haint eto heb gyrhaedd ei eithaf-bwynt yn Italy. Bu 91 farw o hono yn y wlad hono yn ystod dydd Sadwrn. CARCHARU YSPIWYR FFRENGIG YN GERMANI.— Mae dau yspiwr jFfrengig wedi eu cymeryd i'r ddalfa yn Coblenz gan yr awdurdodau milwrol Germanaidd. Ymddengys i'r ddau gyrhaedd i Coblenz a chymerwyd hwy i'r ddalfa yn union- gyrchol gan yr awdurdodau. Canfyddwyd yn meddiant un o honynt, yr hwn oedd yn swyddog milwrol Ffrengig, bapyrau yn dangos yn amlwg mai yspiwyr oeddynt, a'u bod yn gweithredu o dan gyfarwyddiadau Gweinidog Rhyfel Ffraine. GWAITH GLO MOSTYN.-Profir yn awr mai nid o hen waith yn y gymydogaeth y mae y dwfr wedi dyfod, ond o'r afon Ddyfrdwy. Y mae rhai mil- iwnau o alwyni o ddwfr wedi eu codi oddiyno, ond nid yw yn myned yn ddim llai. Y mae yr ymsuddwyr wedi bod yn anallaog i gael corph Edward Williams, yr hwn a syrthiodd i'r shaft y diwrnod ar ol y gorlifiad. Y mae y trueni yn nghymydogaeth Mostyn yn fwy yn awr nag y mae wedi bod er's Ilawer o flynyddoedd, ac y mae ymdrechion elusenol yn cael eu gwneyd er cy- northwyo y trigolion. BRENIN ASHANTEE WEDI MARW.—Y mae y frech wen wedi bod yn ffynu yn ac o amgylch Coomasie; ac yn mysg y rhai fuont feirw, y mae y Brenin Quacow Duah, yr hwn a fu farw yn sydyn iawn. Yn fuan wedi hyny, cafwyd Coffee Calcalli—yr hwn oedd yn frenin yn amser rhyfel 1872, ond yr hwn a ddiorseddwyd wedi hyny-yn farw yn ei wely, wedi cael ei lofruddio, fel y credir yn gyff. redinol, er fod y gair yn cael ei ledaenu ei fod wedi marw o'r parlys. Yr olynydd i'r orsedd, fe gredir, fydd Meniah, yr hwn oedd yn frenin hyd o fewn ychydig fisoedd yn ol, ond a ddiorseddwyd ar gyfrif ei greulonderau barbaraidd. Y mae penaethiaid Ashantee wedi anfon dirprwyaeth at Lywodraethwr y Cape Coast Castle, yn gofyn ar i'w gwlad gael ei chysylltu a'r Rhaglawiaeth Bryd- einig. EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LERPWL. Dis. gwyliwn y bydd yr eisteddfod hon y godidocaf ymhob ystyr a gynhaliwyd er's blynyddoedd, gan tod nifer fawr o gystadleuwyr ymhob cangen. Mae y pwyllgor wedi gwneyd trefniadau i gynal Gorsedd yn Shaw Street ddyddiau Mawrth a Iau, yr hyn fydd yn sicr o fod yn dderbyniol gan bob Cymro twymngalon. Y boneddigion canlynol sydd wedi eu penodi yn swyddogion yr Orsedd :— Arch-Dderwydd, Clwydfardd; Derwyddon, Gwalchmai a Llawdden Bardd yr Orsedd, Hwfa Mon Marchog, Yr Alltwen Ceidwad y Cledd, Ceiriog Ceidwad y Corn Gwlad, Dewi Haran Gwarcheidwaid y Porth, Rhuddfryn, Caeronwy, Taliesin Hiraethog, a Cbyfeiliog; Gwylwyr y Maen Llog, Glanffrwd a Phedr Mostyn; Cyflwyn- Feirdd, Nathan Dyfed, Llew Llwyfo, Tafolog, Dewi Wyn o Essylt, a Tudno Ysweiniaid, Meir- iadog, Alltud Eifion, Morwyllt, Cadvan, Tudwai, Ieuan Ionawr, Gaerwenydd, Graienyn, Rhudd- infab, Gwilym Eryri, Anarawd, a Gurnos; Dad- geiniaid, Idris V ychan ac Iolo Trefaldwyn; Rliingyll, Glwysfryn Cofiadur, Eifionydcl. Diau y bydd i filoedd o garedigion yr Eisteddfod yn Ne a Gogledd Cymru yinweled a Lerpwl yn ystod wythnos yr eisteddfod, gan fod cystadleuaethau hynod bwyaig yn cymeryd lie bob dydd.