Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

BYWYD Y MWNWE YN COLORADO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BYWYD Y MWNWE YN COLORADO. Gan fod llawer o holi yn ami i ansawdd bywyd y mwnwr yn y mynyddau creigiog yma, hwyrach mai nid annyddorol gan luaws darllen- wyr y LLAN fyddai ychydig o'n hanes yn y Switzerland Americanaidd. Felly ymdrechaf wneyd hyny trwy gyfrwng byr y llythyr hwn. Y mae dyn yn gorfod dioddef cryn lawer yn y mynyddau yma, lie nad oes ond ychydig o gyf- leusderau, fel mewn lie cyfleus, lie y gall dyn fyned adref at ei deulu, neu i lety (lodging) gys- urus. Y mae y mwnwr fel rheol pan yn dyfod i mewn i'r mynyddoedd yma yn dyfod i le dieithr, a'r trigolio11 y rhan fwyaf o honynt yn ddieithriaid iddo, ac ar bob adeg o'r flwyddyn y mae yma ddynion allan o waith, a'r rhai hyny o bosibl yn ddigon adnabyddus ac eto yn methu taro ar waith; felly pan y mae y dieithr yn dyfod i mewn y mae yn dipyn o orchest iddo gael gwaith, ac ami i un yn gorfod troi ymaith yn siomedig trwy fethu ei gael o gwbl, a chvfleusderau teithio yn brill iawn yma. Fe'n gorfodir yn ami i gario ein gwely a'n dillad ar ein cefnau, am ddeg, pymtheg, ugain, ac hwyrach dros gan' milldir, mewn rhai am- gylchiadau. Gorfod i mi a'm cyfaill, pan y daethom allan o Gymru, gerdded cant a deg o filldiroedd cyn cyraedd Silverton, a chysgu allan yn yr awyr agored am bum' noswaith yn olynol; y creaduriaid gwylltion ac ysglyfaethus yn gwneyd eu hoernadau dychrynllyd yn y goedwig gerllaw, a'r barug gwyn yn disgyn gan ein gorchuddio i gyd erbyn y boreu felly yr oeddym mewn dau fath o berygl, sef colli iechyd o herwydd cysgu allan, a cholli ein bywydau trwy fyned yn ys- glyfaeth i'r creaduriaid gwylltion. Ond trwy drugaredd a gofal yr Anfeidrol wele ni yn fyw ac yn iach hyd yn hyn. Yn awr, ar ol i ddyn ddyfod i mewn a chael gwaith, hwyrach mai cyn pen wythnos y bydd yn gorfod codi ei wely eto ar ei gefn, trwy i'r gwaith gael ei gau i la-r, ei werthu i gwmpeini newydd, neu rywbeth arall, nes y mae y mwnwr druan yn gorfod cerdded am ddyddiau cyn taro wrth ddim i'w wneyd. Y mae bod y gweithydd mor anghyfleus a phell oddiwrth eu gilydd yn anfanteisiol iawn. Peth arall, nid oes ond pur ychydig o ddwylaw yn gweithio yn- ddynt fel rheol; rhyw ugain neu ddeg-ar-hugain weitliiau, a hwyrach na fydd dros ddeg neu ddeu- ddeg, ac os digwydd fod am dri neu bodwar mis yn yr haf, rhyw haner cant yn gweithio y mae yn eithriad pur anghyffredin, eto y maent yn gorfod rhoddi i fyny mewn lie digon rhyfedd a di- galon yn ami. Y lie cyntaf y bu'm i yn gweithio ydoedd ar ben y mynydd rhyw 13,000 o droedfeddi uwchlaw arwynobedd y mor, ac yno yn cysgu ar y ddaear noeth am fis-dim ond y gwrthban noeth o tanom, wedi tori lie i roddi y tent llian i lawr yn nghanol yr eira mawr, ac yn gorfod cerdded haner milltir drwy yr eira bob dydd at ein gwaith ac i giniaw, a gweithio deg awr, a hyny yn misoedd Mehefin a Gorphenaf. Ar ol hyn cawsom rhyw fath o lawr planciau i orwedd arno, a gallaf eich sicrhau ein bod yn teimlo bron mor flinderus yn dyfod o hono ag oeddem pan yn myned iddo. Braidd nad oedd ein hochrau yn gig noeth, ond rhaid cyfaddef nad ydyw cyn waethed a hyn bob amser, ond digwydda weithiau, ac y mae yn ofynol i ddyn fod yn ddigon dewr i wrthsefyll y driniaeth yma yn ami. Fel rheol, rhyw fath o gaban logiau, neu dy wedi ei wneyd o fyrddau ydym yn gael, ac eto yn y fath leoedd a hyn yr ydym yn gorfod ymgeleddu ein hunain wrth reswm, gan nad oes yma yr un ddynes o fewn cyraedd i ni. Ar ol dyfod i'r ty a chael swper, er ein bod yn teimlo yn ddigon blinedig ar 01 gweithio yn galed am ddeg awr, rhaid golchi a thrwsio ein dillad ein hunain, cymhwyso y gwely goreu gallwn, er mai gwely digon tlawd ydyw, ac ysgrifenu llythyr neu ddau drachefn at y teulu, cariad, pethynasau, cyfeillion, &c., nes y mae oriau y gweithiwr yn bur feithion yn ami.. Y I mae bywyd fel yma yn ddigon digalon, allan o gyraedd pob cymdeithas ddymunol. A phan allan o waith yn gorfod talu o bedwar i wyth swllt y dydd am ein bwyd, felly er enill cyliog da os bydd un allan o waith am wythnos dyna wyth swllt ar hugain am fwyd, a'i gael yn y lie rhataf; pythefnos o amser, dyna bunt ac un-swllt-ar- byrntheg. Prynwch grys, rhaid rhoddi o ddeg swllt i fyny am dano, llodrau lliain o bum' swllt i fyny, a phob peth arall ar gyfartaledd yn lied ddrud. Felly, er fod y cyflog yn uchel y mae pethau eraill yn bur uchel hefyd, ond wrtli reswm y mae hyn yn well na phe byddai pethau yn rhad a dim modd i'w prynu fel y mae yn anil, er y taera llawer fod bwyd rhad a chyflog isel yn well na bwyd drud a chyflog uchel, yr hyn sydd yn ffol iawn fel rheol. Pa les i ni gael bwyd am swllt y dydd os na fydd cyflog yn dyfod yn ddigon uchel i allu talu ond deg a dimai y dydd. Y canlyniad fyddai gorfodiaeth i symud i rywle arall. Yr un modd a'r Gwyddel yn gorfod ymfudo o'r Iwerddon i'r wlad hon, yr hwn, ar ol cyraedd. New York a gyfarfu a. gwraig yn gwerthu hwyaid, a ofynodd iddi eu pris. Dolar a haner y cwpl," ebe y wraig. Ho," meddai Pat, allswn i gael digon am haner coron y ewpl yn y Werddon." "Pa- ham na fuaset ti yn aros yno i'w prynu ynte ?" gofynai y wraig. Am nas gallaswn gael haner coron i'w prynu," meddai Pat. Felly yr ydwyf yn ystyried ei bod hedtlyw yn Nghymru. Pa beth ydyw yr achos o hyny, onid masnach rydd ddidoll un ochr i'r Werydd, a masnaeh dolledig yr ochr arall. Gan hyny, Gymry, agorwch eich llygaid yn hytrach na chymeryd eich camarwairx gan bob Die Shon Dafydd. Yn awr, os ydyw ein bwyd a'n dillad yn ddrud yma, onid ydyw y cyflog yn uwch ar eu cyfer, ac os bydd raid ini fod allan o waith am fis neu ddau, nid oes achos myned i ddyled ond i ni edrych atom ein hunain, a pheidio eu gwario am y ddiod felldigedig sydd yn lladd y corph a.damnio yr enaid. Yn awr y mae un peth arall sydd o dipyn o anfantais yma, sef fod llawer o'r gweithfeydd yn cael eu can i lawr yn y gauaf, ac eraill yn beryglus iawn i aros ynddynt gan fod yr eira mor dueddol i lithro drostynt, sef y snow slides. Y mae llawer o dai yn perthyn i'r gweithleydd wedi cael feu hysgubo ymaith y gauaf a basiodd, a, llawer iawn o ddyn- ion wedi cael eu galw i dragwyddoldeb megis ar eiliad o rybudd, yr hyn a brawf mai yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn."—Yr eiddoch, &c., Silverton, San Juan Co., AB GWILYM. Colorado, America.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

NEWYDDION AMERICANAIDD.