Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
BANGOR.
BANGOR. Y Sadwrn diweddaf, y 6ed cyfisol, ydoedd y diwrnod a benododd Cor Eglwys St. Mair i fyned am eu trip blynyddol. Mangr, eu hymgynulliad eleni, fel y flwyddyn flaenorol, ydoedd Llandudno. Cych- wynwyd o Fangor am tua 9.30 yn y boreu, a chyr- haeddwyd Llandudno ychydig cyn unarddeg. Fodd bynag, gwelwyd yn uniongyrchol fod y diwrnod yn ddu, a dechreuodd wlawio a pharhaodd ar hyd y dydd ac ar adegau byddai yn pistyllio i lawr. Erbyn tua tri o'r gloch y prydnawn ymgynullodd pawb at eu gilydd i'r Royal Hotel i gael ciniaw. Yna ar ol gwneuthur cyfiawnder a'r danteithion canwyd am- ryw emynau a'r anthemau Dedwydd yw'r hwn a Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd." Yr oedd y gwyddfodolion yn dangos mwynhad anarferol yn yr elfen gerddorol. Rhwng y canu cafwyd amryw areithiau gwresog a hyawdl gan Mri. W. Williams, (arweinydd), H. Williams, B. Pritchard, a Mr. Williams, perchenog yr hotel. Dylasem hysbysu mai y cadeirydd ydoedd Mr. T. J. Williams, ysgrif- enydd Cymdeithas Geidwadol y Gweithwyr, yr hwn a gymer interest .neillduol yn y cor a'i weithrediadau. Dychweloddy rhan fwyaf adref gyda'r gerbydres 7.30 p.m., ar ol treulio diwrnod difyr ac adloniadol, er gwaethaf y tywydd. Yr oedd y nifer tua 40, am- gylchiadau yn rhwystro i lawer fyned. Hyderwn yr eir yn gynt ar y flwyddyn y tro nesaf, a gellir gobeithio cael tywydd mwy ffafriol. Casglwyd tua £ 5 hyd y dref, 'ac yr ydym yn cymeryd y cyfleusdra presenol i ddiolch yn galonog i'r tanysgrifwyr a'r casglyddion am eu caredigrwydd.—Gwyliwr.
ABERDAR.
ABERDAR. Prydnawn ddydd Iau diweddaf, cafodd athrawon ac athrawesau Ysgolion Sul yr Eglwys yma eu gwa- hodd gan ein Parchus Ficer i'r Persondy i gyfranogi o de a bara brith, &c. Cawsom yr anrhydedd o fyned drwy yr ardd ac ymbleseru ar y green. Yr oedd yno tua 13 o offeiriaid, ac yr oeddem ninau yn rhifo tua 250, a chyn ymadael daeth Mr. Dunmore, y photo- grapher, yno i dynu ein llun yn un fintai. Tua haner awr wedi chwech ymneillduasom i Eglwys St. Mair, lie cawsom wasanaeth byr gan ein parchus Ficer, a chynghorion dwys a difrifol gan y Parch. Lloyd, ficer newydd Mountain Ash. Mae golwg lewyrchus iawn ar yr ysgol Sul yn y plwyf hwn dan nawdd ein Ficer a'i ddiwyd Guradiaid. Hir oes a gaffont i lafurio yn ffyddlon yn y dyfodol fel yn y gorphenol.— Un o'r Athrawon.
LLANDEBIE.
LLANDEBIE. Dyddiau Mercher a Iau diweddaf, cynhaliwyd Bazaar fawreddog a llwyddianus o dan nawddogaeth uchel y boneddigesau canlynol Yr Anrhydeddus Arglwyddes Dynevor, Vipountess Emlyn, Countess Orawford a Balcarres, Lady Evelyn Campbell, Mrs. DuBuisson, Glynhir a Mrs. Llewelyn, Penllergare. Gwasanaethwyd wrth y farchnadfeinciau gan Eg- lwyswyr eelog a ffyddlon o Llandebie. Y marchnad- feinciau amrywiaothol,q gan Mrs. Jones a Miss- Prothero, Cwrncoch Mrs. Davies,. y Ficerdy a Miss Lloyd, y Laurels. Y blodau a'r ffrwythau, gan y foneddiges ieuanc & gweithgar, Miss Williams, Parcyrhun. Y ffynon (the well), gan Miss Rachel Prothero, Blaenau. Y refreshments, gan Miss Wil- liams, Cross Inn a Miss lizzie Prothero, Blaenau. Oriel y Celfyddydau, gan Mr. Matthews, yr ysgol- feistr. Ymhlith yr ymwelwyr ii'r bazaar gwelais y rhai canlynol yn gwerthu ac yn prynu Arglwydd ao Arglwyddes Dynevor Vicountess Emlyn; Mr. a Mrs. DuBuisson, Glynhir enwau pa rai sydd yn glod mwyaf i'r Eglwys yn y parthau hyn, Yr oedd yr elw yn myned tuag at yr Eglwys newydd sydd yn awr yn cael ei hadeiladu yn Cross Inn, pa un sydd oddeutu dwy filldir oddiwrbh Eglwys Llandebie. Y mae yn werth rhoddi gwybodaeth i ddarllenwyr Iluosog y LLAN pa fath le ydyw Cross Inn. Yr Annibynwyr ydynt y lluosocaf yma. Y mae gan- ddynt hwy eu Christian Temple wedi ei adeiladu yn y ddeunawfed ganrif y Methodistiaid eu Bethania y Bedyddwyr eu Ebenezer y vVesleyaid eu Oligos- ian (a disgwyliaf cyn bo hir y bydd gan yr Eglwys ei St. Michael). Y mae yma hefyd Hope Academy. Y mae Cross Inn hefyd wedi codi llawer o offeiriaid, sof '-y Parchn. Griffith Jones, Mostyn a'i frawd, T. Jones, curad Llandinorwic John Jones, ncer Pontardulais; W. Jones,'curad Porthdinorwig; J. Thomas, curad St. Mary, Abertawe Owen, curad Selby, Yorkshire; a D .J. Llewelyn, ourad Maesteg. Dyma oedd sefyllfa Cross Inn ychydig flynyddau yn ol, Eglwyswyr y lie yn gorfod myned i Llandebie i addoli, Ymneillduaeth yn cael ei ffordd ei hiin yn y lie. Yr offeiriaid enwog uchod yn cael eu parotoi i bregethu yr Efengyl yn bur yn hen Eglwys eu Tadau, er hyny i gyd nid oedd gan yr Hen Eglwys le i roddi ei throed i lawr i roddi ymborth nefol i'w phlant. Gan hyny, trwy la.,fur amyneddgar, eto, penderfynol, a diflino y Parch. David Davies, ein Ficer hoff a gweithgar, ychydig flynyddau yn ol dechreuwyd cynal gwasanaethau Eglwysig yn Cross Inn. Y mae'r addoliad yn cael ei gadw yn hen Ysgol ddyddiol y lie, alelwir Brynmawr. Trefn y gwasanaethau sydd fel y canlyn: yr Ysgol Sul am ddau o'r gloch; gwasanaeth a phregeth Gymraeg am dri o'r gloch gwasanaeth a phregeth Saesneg am 6-30 o'r gloch. Enw y curad ydyw Richard Roberts. Arferai y Wesleyaid gadw gwasanaeth yma, ond darfyddodd fe aeth y Hit a'u haddoldy i ffwrdd, a phan y dachreuodd ein Ficer dewr feddwl am gynal gwasanaethau yma, llawer o brophwydi a brophwydasaDt y byddai i'w lafur yntau farw o farwolaeth naturiol, ond gau brophwyd- oliaethau ydynt wedi bod hyd yn hyn, joblegid y mae yma yn awr ddeugain o gymunwyr, ac mae'r lie yn orlawn o wrandawyr, a phan y bydd yr Eglwys newydd ar ben credaf y bydd yn llawer rhy fach i gynal y gynulleidfa. Ni fyddai yr hanesyn hwn yn llawn pe na byddai i mi son am weithgarweh diflino un teulu hoff yn y plwyf, hwnw ydyw teulu y Prothero. Nid oes eisiau i'r teulu hwn wrth gan- moliaeth. Dyma deulu ac y mae'n werth i'r byd Oristionogol gael gwybodaeth am ei waith i Eglwys Dduw. Y mae gan Eglwys Handebie--ac yn enwedig parth Owmcoch-achos i ddiolch fod ganddi y fath deulu i'w chynorthwyo er helaethu teyrnas yr Emmanuel. Elw dau ddiwrnod y Ba&artr'oedd £ 200. Da iawn chwi wir gyfeillion Llandebie. Y mae careg sylfaen Sant Michael (oherwydd dyna fydd enw'r Eglwys newydd), Cross Inn, yn cael ei gosod ar y 29ain o'r mis hwn, am 3-30 o'r gloch, gan yr Anrhydeddus Lady Dynevor.-Richard Hooker,
. CAERDYDD.
CAERDYDD. GWYL FLYNYDDOL EGLWYS ST. MAIR.-Nos Sul, dechreuodd yr wylhon yn eglwys brydferth St. Mair, drwy gynal gwasanaeth corawl Ilawn, pryd yr oodd yr eglwys yn orlawn. I -ddechreu cafwyd emyn orymdeithiol, yr hon a ddatganwyd yn odidog, y cor yn cael ei arwaingan Mr. Sullivan, Llandaf, yr hwn a chwareuai y cornet. Traddodwyd y bregeth gan y Parch. G. A. Jones, ficer, oddiar Luc i. 43. Cynhelid gwasanaethau yn ystod yr wythnos, fel y canlyn :— Nos Lun, Gorymdaith aelodau y Guilds, ac anerchiad gan y Parch. R. J. Ives nos Fercher, pregeth gan y Parch. J. H. Protheroe, Cowbridge uos Iau, pregeth Gymraeg gan y Parch Ll. M. Williams, Pontlottyn. Y Sul nesaf, pregethir gan y Parch W. Chase, a diwedda yr wyl nos Lun drwy gael pregeth gan y Parch. H. M. Bannister, Casnewydd. Cyflwynir y casglia.dau er addurno yr eglwys.- -Homo,
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. LLADRAD O'R LLYTHYRDY.—Yn y llys ynadol ddydd Sadwrn, cyhuddwyd bachgen ieuangc, 18 mlwydd oed, o'r enw Lazarus Lewis, yr hwn a was- anaethai yn y llythyrdy, o ladrata llythyr yn cynwys JE5. Wedi gwrando y tystiolaethau, traddodwyd ef i sefyll ei brawf yn y frawdlys. TRWYDDEDAU Y TAFARNWYR.—Gynhaliwyd y cyf- arfod blynyddol er caniatau trwyddelau i werthu diodydd meddwol ddydd Sadwrn. Ar y dechreu, dy- wedodd Mr. Bishop, yr ynad cyflogedig, y gohirid am dair wythnos roddi ystyriaeth i geisiadau y tafarnwyr hyny oeddynt wedi eu houogfarnu yn ystod y flwyddyn, neu wedi derbyn rhybuddion. Mewn canlyniad, mae tynged 40 o drwyddedau wedi ei ohirio, ynghyd a'r ceisiadau am drwyddedau new- yddion. Y CYSTADLETJAETHAli CERDDOROL.—Da genym hysbysu fod rhagolygon addawol y ceir cyfarfod ar- dderchog yma ar yr 22ain cyfisol, pan y cymer y cystadleuaethau le yn mharc Penydaren, fel y gwelir mewn colofn arall. Ceisia rhai wneyd drwg i'r symudiad, drwy honi y dylai fod yn gysylltiedig a rhyw addoldy, yr hyn sydd yn hollol annheg. Mae y pwyllgor yn gyfansoddedig o ddynion parchus per- thynol i'r dref, ac yn addaw symiau anrhydeddus am ddadganu darnau priodol, ac felly nid oes a fyno un- rhyw enwad ag ef. Gobeithio y rhoddir cefnogaeth ddyladwy i'r anturiaeth, fel ag i roddi taw bythol ar y rhai sydd bob amser yn ceisio rhwystro pob sym- udiad da fel hwn, sydd a'i ddiben i ddyrchafu cerddoriaeth. Gaiff pawb ddeuant i Merthyr y diwrnod crybwylledig dal da, gan fod pob lie i gredu y ceir cystadleuaethau godidog ar bob un o'r darnau, yn gymaint a bod gwobrwyon da yn cael eu cynyg.
BALA.
BALA. LLYS YR YNADON.—Dydd Sadwrn cyn y diweddaf, o flaen yr ynadon, adnewyddwyd trwyddedau tafarn- wyr. Dywedai y cadeirydd fod tueddiad y teimlad cyhoeddus yn Penllyn am leihau y tafarnau, ac yr oedd yn dymuno dweyd fod tueddiad yr ynadon yr un fath. Dywedodd fod dirprwyaeth wedi bod gyda hwy, yn dyweyd fod tri o dafarnau, sef Llangower, Llandderfel, a Bethel, yn hollol ddialw am danynt. Nid oeddynt yn gwrthod neb eleni, ond dymunent ddweyd fod ganddynt hawl i wneyd hyny, ac yn ol pob tebyg byddai yr hawl hono yn cael ei rhoddi mewn gweithrediad y flwyddyn nesaf.—Dirwywyd y rhai canlynol am feddwi.—Thomas Jones, Abermaw, a Hannah ei wraig J. Hughes, Arenig Street, Bala, a Hugh Ellis, crydd, Bala.—Thomas Rogers, crydd, a bleidiodd yn euog o ddwyn canwyllbren bres o'r Bull Bach Inn. Yr oedd gan y carcharor wlybwr yn ei boced, gyda'r hwn yr oedd wedi troi lliw y pres i liw arian. Cafodd ei anfon i garchar am fis.-R. Jarrett Roberts, Bala, a gyhuddwyd o fod pedwar ugain o eogiaid ieriaingc yn ei feddiant. Ymddengys fod Roberts wedi bod yn rhwydo ar hyd y nos, a daliwyd ef pan yn dyfod adref tua phedwar o'r gloch y boreu gan yr heddgeidwad Jones, yr hwn a gymerodd y rhwyd a'r pysgod o'i feddiant. Caf- odd ei ddirwyo i 3p. a 2p. 2s. o gostau.—Gwnaed archeb i Mr. Jones, Nantclwyd, i dalu 4p. 8s. 6c. a'r costau, fel ad-daliad am yr hyn a wariwyd ar y ffyrdd, o achos ei waith ef yn cario coed.—Apeliodd Mr. Alun Lloyd am gael oedi y cyfarfod trwyddedol am fis, er iddo gael amser i roddi y rhybuddion pri- odol o'i fwriad i apelio am drwydded newydd. .1,
CANOLBARTH CEREDIGION.
CANOLBARTH CEREDIGION. Hoff gan bob aderyn ei lais ei hun. Felly ninau hefyd yn Ceredigion yma, da genym weled ambell i 'linell yn awr ac eilwaith yn ymddango* ki ar dudalenau clodwiw y LLAN o'n cymydogaeth ein hunain, er mai pur anaml y mae'r cyfryw i'w gweled, a hyny yn gyfangwbl, feddyliaf fi, o herwydd esgeulusdod; oblegid yr ydym wedi gweled rhai penodau ardder- chog cyn yma wedi ymddangos gan Nainorea ac eraill, ac yr oeddwn i yn teimlo hyfrydwch a dy- ddordeb mawr wrth eu darllen, ond nid wyf wedi cael yr anrhydedd hyny er's llawer o amser, ond gobeithiaf nad oes un niwed neillduol wedi digwydd iddynt, ond mai'r tywydd oedd yn boeth a'r ysbryd yn farwaidd. Erbyn hyn mae'r tywydd wedi cyf- newid, a'r hin wedi oeri, a gobeithio y deffry pawb, ac y gwnant eu goreu at lanw ac ehangu cylchrediad y LLAN (sef yr unig bapyr Eglwysig Cymraeg a fedd- wn) hyd yn nod yn y gymydogaeth hon, ac mewn manau eraill lie nad ydyw wedi cyraedd eto. Da genym weled ei fod yn lledaenu; rhwydd hynt iddo, mae eto le. Y CYNHAUAF.—Amser prysur iawn ydyw hi yma yn awr-pawb wrth eu gwaith yn casglu'r trugaredd- au naturiol yma i ddiddosrwydd, a diolch i'r nefoedd y mae cnwd toreithiog i'w weled ar hyd a lied y wlad y flwyddyn hon eto, a gobeithio y ceir hin dymherus i'w gasglu, fel bo gobaith i ddyn ac anifail. Hyderwn nad oes neb mor ynfyd a derbyn y rhodd- ion heb gydnabod y Rhoddwr. Ambell i waith ar hyd y medelau yma fe gewch glywed y rhyw deg yna yn trin a thrafod tipyn yn lew ar eu cymydogiori, ac yn difrio eu gilydd nes hela llawer teulu cysurus, eglwys lwyddianus, a chymydogaeth heddychol, yn hell ports. Tafod tan ydyw, byd o anghyfiawnder." Nid wyf yn sicr nad yw yr hen arferiad front yna mewn bod eleni eto. Swn enbyd sydd i'w glywed wrth basio heibio y medelau yma eleni eto fel arferol, hyd yn nod yn y gymydogaeth fach hon. Nid da clywed llais menywod yn rhy glochog. Amser rhyfedd ydyw y cynhauaf medi onide ? Gobeithio y cawn ni oil feddwi yn fwy difrifol am Dad ein holl drugareddau a llai am ddifrio ein gilydd fe fydd hyny yn fwy o fendith i ni yn y diwedd.—Ceiliogian.
LLANGADWALADR, MON.
LLANGADWALADR, MON. Cynhaliwyd cyfarfod yn ysgoldy Llangadwaladr, nos Fawrth, yr 2il o Fedi, o dan lywyddiaeth y Parch. David Thomas, rheithor, i ystyried y ffordd oreu i ddathlu yr amgylchiad dyddorol sydd ar gy- meryd lie yn yr ardal, sef priodas Mr. Meyrick, aer ystM eang Bodorgan, a Miss Phipps, o Lundain. Yr oedd y tenantiaid braidd yn ddieithriad wedi rhoddi eu presenoldeb, ac yr oedd yn dda gweled fod yma deimlad cynes at hen deulu urddasol Bodorgan yn bodoli yn yr ardal, a diameu genyf y dangosir hyny mewn ffurf sylweddol yn fuan. YR WYL GORAWL.-Y mae corau Aberffraw, Tref- draeth a Llangadwaladr yn brysur wrth y gwaith o ymarfer erbyn yr wyl gorawl. Yr arweinydd am y tro hwn ydyw y Patch. John Owen, curad Llan- gristiolus, yn absenoldeb y Parch. David Jones, rheithor Niwbwrch, yr hwn sydd arferol o weith- redu fel arweinydd, ond o herwydd pwysau y gwaith o ail adeiladu hen Eglwys y plwyf nis gallasai gael hamdden eleni.-Goheb.
DREFNEWYDD.I
DREFNEWYDD. HIRHOEDLEDD.—Y mae hen wreigan gyfrifol o'r enw Mrs. Rebecca Grosvenor, yn byw yn awr yn Heol Commercial, Penygloddfa, y dref hon, yn ei 101 mlwydd oed. Gweddw ydyw i'r diweddar Mr. John Grosvenor, gynt o Gaorsws, gerllaw y lie hwn; a chyfnither i'r pregethwr bydenwog hwnw, y di- weddar Barch. Wm. Williams, o'r Wern, ger Gwrec- sam. Y mae o ran ei hiechyd yn rhagorol a hynod o dda, ac ystyried ei hoedran ac hefyd yn hynod o hoew a gwisgi ar ei thraed, bron fel lodes ugain oed, a thrachefn meddaf, y mae ei golwg yn hynod o gryf a chlir gall ddarllen heb gymorth gwydrau, ac hefyd gall roddi edau mown nodwydd heb eu cynorthwy. Fe wnaiff hi a'i thri mab sydd yn awr yn fyw 289 o flynyddau cydrhyngddynt. UN ARALL.—Y mae hen wreigan barchus arall o'r enw Mrs. Margaret Morrfs, yn byw yn Nhanyrallt, Taliesin, Ceredigion, yn 107 mlwydd oed, yn hynod o dda ac ystyried ei hoedran. Er mor wych ac hoew yw y rhai uchod, Henaint ni ddaw ei hunan,—hen air yw, Yn wir oil yn mhobman; Edrych ar ddyn mor druan, Llun ei wedd, mae oil yn wan.— Taliesin.
PENBOYR.
PENBOYR. Hwyrach fod llawer o ddarllenwyr y LLAN wedi clywed y dywediad Mae dy haner di yn Mhen- boyr." Yr ydwyf fi yn methu yn deg a deall pa un ai insult neu compliment ydyw i'r plwyf. Yr ydwyf yn ami yn gofyn i'r rhai sydd yn gwneyd defnydd o hono beth ydyw ei ystyr a'i darddiad, ond ni lwyddais hyd yn hyn i gael un math o eglurhad. Cymhwysir ef i ddynion sydd yn siarad pethau ffol a disynwyr, ac wrth "dy haner di" meddylir ei syn- wyr neu haner ei synwyr. Yr unig conclusion a allaf fi ddyfod iddo ydyw, fod yn rhaid bod trigolion Pen- boyr wedi bod unwaith mor hynod am ou synwyr fel y byddai dynion yn meddwl pan welent ddyn heb lawer o synwyr ganddo fod yn rhaid fod ei synwyr wodi ei roddi i rai o drigolion Penboyr. Dyma gom- pliment onide ? Ynte beth am hynyna y mae fy nwy haner i rwan yn Penboyr; ac y mae fy haner arall-yr haner oreu—wedi myned i goll, neu yn hytrach heb eto wedi ddyfod i glawr. Ond yn awr rhaid siarad synwyr. Yr ydym wedi cael colled dir- fawr ar ol ein duwiol a parchus rheithor. Y mae ei le hyd yn hyn yn wag. Gwaith anhawdd, anhawdd, fel y dywedodd Canon Evans ar y bregeth angladdol, ydyw cael dyn mor round a Mr. "Sinnett. Gobeithio y gwnaiff Duw o'i fawr drugaredd roddi i ni fugail newydd mor ofalus a'r hen. Ni feiddiwn ofyn am un gwell. Heddwch i'w lwch.—Ymwelwyd a'r fro yma ychydig amser yn ol gan rhyw "Band of Brothers o'r gweithfeydd, a buont yn cynal concerts mawreddog yn nghapeli'r fro. Clywa.is eu bod yn myned i gynal un arall yn Eglwys St. Barnabas, os caent ganiatad yr Esgob. Ond tebyg iddo fyned yn Wait till you get it, Wait till you get it, And if you don't get it,- Then wait till you do. Yr oedd rhai o honynt yn canu'n bur dda modclent hwy, ac yr oedd eraill yn dweyd y buasent yn canu yn well pe buasent yn gallu sefyll dipyn yn mwy steady ar y stage. Brodyr caredig iawn i'w gilydd oeddynt, ac yn esiampl i blant y fro yn gyff redin. Un yn helpio'r Hall (yr hwn oedd yn dioddef oddiwrth con- sumption of the spirits) i fyny ac i waered o'r, stage; ac mae'n ffaith ryfeddol yn hanes Blue Bibbonism na ddarfu i'r noble army of Blue Ribbonites lwyddo yn eu hymdrechiadau a'r deuddeg brawd hyn. Unity is strength. Nid annhebyg i hynyna y byddwn ni yn cario pethau ymlaen yn ein capeli yma. Byddwn ar y Sul yn gwneuthur penau mawrion a gwynebau hirion, ac yn edrych, fel y Phariseaid, yn drist iawn, ac yn ddrwg iawn genym dros ein haml bechodau, ac yn gwylio ar ein traed pan yn Imyned i dy Dduw," ac yn gwneuthur quotations mawr o'r Beibl. Ty gweddi y gelwir fy nhý i," &c., ond ar hyd yr wythnos byddwn yn gwneyd y capeli yn Music Halls, &c., er mwyn cael dweyd ambell i stump oration neu comic song. Variety is charming medd y Sais. Yr ydym ni, welwch chwi, am fod mor debyg i drigolion Llundain ag y gallwn. Ond mae yr hen Eglwys yma yn pallu'n deg a joino a ni ffordd yna. Mae eisiau ei chael i lawr yn dost iawn. Ymlaen Dill- wyn bach Adeilad ardderchog fuasai St. Barnabas i ganu comic songs ynddi, a gwrando ar Mr. Brad- laugh yn pregethu anffyddiaeth. Yr oeddwn yn Eglwyswr pan ddechreuais ysgrifenu, ond yr ydw i erbyn hyn ar ol cofio am yr holl rialtwch yma yn y capeli, yn penderfynu troi yn rhyw fath o Ymneill- duwr. Peidiwch, Mr. Golygydd, osgwelwch yn dda, i ddanfon y LLAN am yr wythnos hon i'r hen Dom Pudler a'r hen chaps eraill yna sv'n ysgrifenu bob wythnos ynddi rhag ofn iddynt ddechreu gwneyd 'sport o'n capeli ni. Edrych atat dy hun a Tommie bach, Tom Pudler, onide, os wyt heb gael scidiau iddo eto, byddaf yn sicr o sathru ar ei droed; a phaid a dweyd un gair am danom ni, onide fydd dim digon o le yn y LI4N i ti a-Roger Boyr.
LLANDINORWIC.
LLANDINORWIC. DOSBARTHWR NEWYDD Y LLAN."—Goddefwch i mi am y waith hon geisio ysgrifenu ychydig linellau i'ch newyddiadijr clodwiw y LLAN. Yr wyf yn arfer derbyn y LLAN er's rhai blynyddau bellach (nid yn rheolaidd mae'n wir) am y rheswm nad oeddym rhywfodd neu gilydd yn gallu ei gael. Yn awr mae yr hen ddosbarthwr wedi huno. Ond da genyf fod un arall yma yn barod i lenwi ei le, sef Mr. Owen O. Evans, ac felly disgwyliwn y gallwn gael y LLAN yn rheolaidd eto am yabaid lied faith. Carwn yn fawr i'r trigolion, yn Eglwyswr ac Ymneillduwr, dderbyn mwy ar y LLAN yma mae yn sicr mai ein diffyg zel ni fel Eglwyswyr yw yr achos na bai y LLAN yn fwy poblogaidd. Yr wyf fi yn cwbl gredu pe bai ein dyn- ion galluog ni yma yn ymgymeryd ag ysgrifenu rhyw lythyr yn awr ac eilwaith y byddai y LLAN yn llawer mwy poblogaidd yn ein plith nag ydyw. Ceisiaf groniclo hanes yr wyl dS gymerodd le yma y 5od cyfisol, sef dydd Gwener, pan y cyfranogodd 289 o'r danteithion, sef rhodd flynyddol Assheton Smith, Ysw., Faenol, ac yn ol fy marn i, cafodd pawb eu boddloni yn rhagorol. Gwasanaethwyd wrth y brddau gan y boneddigesau canlynol:-Misses Davies, Llandinorwic Vicarage Mrs. Evans, School House Mrs. Williams, Ebenezer Mrs. Pritchard, Galltyfoel; Mrs. Williams, Galltyfoel; Miss Owens, Garnedd Mrs. Jones, Caeau Uchaf Road Mrs. Ellis, Ebenezer; Mrs. Jones, Ffordd, yn cael eu cynorthwyo gan Miss Williams, Vaynol Terrace; Miss Sarah Ellen Williams;.Miss Thomas, Hafoty Mrs. Catherine Jones, Panypark; Miss Roberts, Minyffordd, Llandinorwic; Mrs. Catherine Williams, a llu eraill sydd yn rhy luosog i'w henwi. Hefyd yr oedd yn bresenol Mr. a Mrs. Jones, Glanycoed Mr. Jones, St. Mary, Dinorwic; Miss Ews, Birmingham; Mrs. Capt. Owen, Liverpool; Mrs. Jones, Glan- dinorwic House Miss Catherine Jones Miss Car- rington, a Miss Ellen Jones, Cefn Coch, &c. Ar ol i bawb gael eu digoni wrth y byrddau, rhanwyd tair basgedaid o buns rhwng y plant pan yn myned allan, ac yna aeth pawb i'r cae i chwareu ac i ddifyru eu hunain mewn gwahanol gampau diniwed. Yn y fan hon eto rhanwyd rhai canoedd o afalau a melus- ion i'r plant, ac felly y treuliasom y gweddill o'r diwrnod yn hynod o ddifyr. -Bitchi. EGLWYS ST. MAIR,—Owelliant Gwall.-Yn am- ryfus fe adawyd enw Mr. R. R. Evans, Wellington Inn, allan o'r gyfriflen yr wythnos dcliweddaf, yr hwn a danysgrifiodd ddeg swllt at y treuliadau.
OGMORE VALE.
OGMORE VALE. ST. -DAVID'S.—Cynhaliwyd' cyfarfod blynyddol yn y lie uchod ar y Sul, Awst 31, mewn cysylltiad a'r Ysgol Sul, y curad, y Parch.jDavid Pugh, A.K.C., a'r Parch. W. Lewis, ficer Ystradyfodwg, Dyffryn Rhon- dda (yr hwn sydd wedi bod yn pregethu yn y cyfarfod blynycldol er's llawer o flynyddoedd) yn pregethu. Y mae pobl Tynewydd,' Ogmore Vale, wedi bod yn llwyddianus i sicrhau gwasanaeth gweithiwr caled a chydwybodol y curad, y Parch. D. Pugh. Y mae ei waith yn y plwyfydd y mae efe wedi'bod ynddynt yn flaenorol yn dangos ei fod yn drefnwr rhagorol ac yn bryderus bob amser am lwyddiant yr Eglwys pa un y mae efe yn perthyn iddi. Y mae efe yn bregethwr nerthol yn Saesneg a Chymraeg. Y mae yn sefyll yn uchel yn mhlith ei frodyr fel pregethwr. Yr oedd tri gwasanaeth yno ar y Sul uchod, pan y darllenodd y Parch. D. Pugh y gwasanaeth yn y bore a'r hwyr, ac yn y prydnawn y Litani, a phregethodd y Parch. W. Lewis yn nerthol oddiwrth y geiriau hyny yn St. loan vii. 46, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Dangosodd na allai Duw gael ei ddatguddio i ddyn ond trwy ei Fab, ei eiriau yn ogystal a'i wyrthiau yn profi ei Dduwdod, hyd yn nod ei elynion yn teimlo hyn. Yn y prydnawn am 3 o'r gloch, fe gafwyd cyfarfod i blant yr Ysgol Sul, pan y afwyd anerchiad pwrpasol gan y Parch. D. Pugh. I r oedd yn dangos y pwys i'r plant fod yn yr ysgol yn bryd- Ion a chyson, ac hefyd i'r athrawon wneyd eu goreu i fod yn ddyddorol yn eu dosbarthiadau. Yr oedd yn dangos y llwyddiant o hyn o esiamplau yn y plwyfydd y bu ynddynt yn flaenorol. Ar ol canu emyn anerchodd y Parch. W.^Lewis y gynulleidfa. Yr oedd yn llawen ganddo weled yr adeilad yn edrych mor ardderchog ac hefyd fod y igangel.1 mor agos a bod yn barod. Fe gyfeiriodd at ymadawiad y Parch. H. L. Davies, yr hwn sydd' yn awr yn ficer Eglwys- facb, ger Conwy; yr oedd yn llawen ganddo weled ei le yn cael ei la.nw mor deilwng. Yr oedd efe wedi cymeryd dyddordeb mawr yn ngwaith blaenorol eu parchus gurad newydd. Yr hyn yr oedd efe wedi ei glywed a'i weled oedd yn ardderchog am dano, yr oedd yn sicr gyda'i gydweithio y byddai gwaith gogoneddus yr Eglwys yn sicr o lwyddo yn ein plith. Yna aeth yn ei flaen i ddangos anhawsder gwaith arolygwr. Y mae y Testament Nowydd yn ein dysgu fod yr Arglwydd Iesu yn caru plant, Gadewch i blant by chain ddyfod ataf fi." Fe ganodd y plant bychain Hosana i Fab Dafydd." Ni allai yr Ysgol Sul fod yn llwyddiant heb fod yr Iesu yn ein plith. Yn yr hwyr ei destyn oedd Dat. iii. 21, Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef i eistedd gyd a mi ar fy ngorseddfainc." Yr oedd yn dangos yn eglur mai bywyd milwraidd oedd bywyd- y Cristion yma-fod llawer o anhawsderau yn gorchfygu a bod y wobr yn gorbwyso y cwbl. Fe bregethodd y Parch. D. Pugh yn Gymraeg ar ei ol oddiwrth Deut. iv. 29, Os oddiyno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a'i cei Ef os ceisi ef A'th holl galon, a.c a'th holl enaid." Yr oedd yn dangos yn gyntaf, y personau at ba rai yr oedd y testyn yn cyfeirio atynt; yn ail, y ffordd i geisio Duw," yn olaf calondid i geisio Duw." ¥r oedd y cynulleidfaoedd yn 'fawrion—yr Eglwys yn orlawn. Y canu dan arweiniad Mr. Spargo. Chwar- euodd Mr. Spargo ar yr organ yn gelfyddydol iawn. Yr anthem oedd "Awake, a-vyake." Dydd Llun, yr oedd plant yr Ysgol Sul i gael eu te a bara brith. Cafwyd bara brith gan IMr. Lewis, Nantymoel.; y ffrwythau gan Mr. Adams. Cafwyd benthyg y byrddau gan Mr. Thomas, y Wyndham. Ar ol t6 aeth y plant i gae yn ymyl i chwaieu. Y mae diolch- garwch yn deilwng i Mr. Dorney, yr arolygwr, a Mr. R. G. Pugh, anf eu llafur diflino gyda"r plant. Y boneddigesau wrth y byrddau oeddynt: Mrs. Pugh, Persondy; Mrs. Locke Mrs. Dawe Mrs. Leenes Mrs. Flocombe Miss Jenkins Miss Thomas, at-Miss Evans yn cael eu cynorthwyo gan Mrs. Dorney Mrs. Davies Mrs. Webber Mrs. Cockram Mrs. Spargo Misses Lester Miss Pugh, Persondy; Miss Evans Miss Lock Miss Howe Miss E. Jones Miss C. Jones Miss Wilson Meistri Jones, Howe, Liegle, Webber, Cockram, R. Dawe, Sparges, Thomas, Wigmore, R. Thomas, A. T. Waters (Church Mis- sionary, Reading), R. Watts, Bettws, ac eraill. Fe dreuliwyd un o'r pryduawnau mwyaf hapus er cof dynion. Un oedd yno.
:YgTRADFFIN.
YgTRADFFIN. Dydd Gwener diweddaf, yn Eglwys St. Barnabas, y lie uohod, ymrwymwyd Mr. H. S. Williams, ysgol- feistr yr Ysgol Genedlaethol, Llansilin. a Miss E* Thomas, Miner's Arms, o'r lIe uchod, ynghyd mewn glan briodas gan y Parch E. Morgan, y ficer, yr hwn, yn ei ddull arforol a aeth trwy ei waith mewn modd ystyriol a difrifol. Yna wedi cwblhau trefn briod- asol ardderchog ein Heglwys, awd i fyny i dy Mrs. Thomas, mam y briodasferch, lie yr oedd boreufwyd wedi ei ddarparu ar gyfer pawb o'r gwahoddedigion. Yna ymadawodd y pAr ieuanc mewn close carriage ynnghanol saethu cryf a chawodau o rice am Llan- drindod. Da genyf ddweyd fod y ddau yn aelodau ffyddlon yn yr Eglwys, a'n gwir ddymuniad ni yw iddynt barhau felly hyd ddiwedd eu hoes. Hir ddyddiau a gwenau Rhagluniaeth fyddo arnynt yw ewyllys pob gwir grefyddwr yn y Ile.-Delta.