Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Y NAW HELWRIAETH.
Y NAW HELWRIAETH. (Allan o hen ysgrif yn meddiant Idwal Wynn, Abergivyngregyn.) O'r naw helwriaeth, tair helfa gyffredin sydd: 1, carw; 2, haid wenyn; 3, gleisiad; a tair helfa gyfarthfa, sef arth, dringhedydd, a cheiliog coed tair helfa ddolfa, sef llwynog, ysgfarnog, ac iwrch. Am y carw dywedir ei fod yn un o'r tair helfa gyffredin, yn gyntaf, am ei fod y gwychaf a'r gwrolaf anifail y mae helwriaeth arno a bytheiad ac a milgwn yn ail, am ei fod yn rhanog rhwng pawb a ddel ato wedi ei ladd, cyn tynu'r croen oddiarno, oblegid, os bydd gwr ar ei daith yn dyfod heibio yr amser hwn, efe a gaiff ran o hono wrth gyfraith cystal a'r neb a'i lladdo. Haid wenyn sydd helfa gyffredin, oblegid pwy bynag a'i caffo ar ei dir ei hun, neu ar dir arall, y mae yn rhanog, yr oil o honi ac a ddel ati cyn rhoi o hono wystl, sefyw hyny, rhoi nod wrthi i ddangos mai efe a'i cafodd gyntaf; ac onis gwna pawb a ddelo yno a gaiff Tan o honi, ond bod 4c. yn myned i berchenog y tir. Gleisiaid a elwir yn helfa gyffredin, oblegid pan fydder yn ei hela gyda rhwyd neu a thryfer, neu mewn modd arall, pwy bynag a ddel ato cyn ei ranu, y mae iddo ran o hono cystal a'r neb a'i dalio, os bydd mewn dwr cyffredin. Yr arth sy helfa gyfarthfa, am ei bod yn gig, hela o'r penaf, ac am na bydd araf, ac ni bydd fawr ymlid arni,' am nas gall gerdded ond yn araf, ac ni bydd ond ei baedd, a'i chyfarth, a'i lladd. Dringhedydd yw pob 'peth a ddringo i frig pren i'w amddifiyn ei hun. Ac ni ddylai heliwr ddyweyd bele, neu gath goed, neu .wiwer, neu ffwlbart, ond eu galw dringhedydd llwyd, dringhedydd du, dringhedydd coch, ac am nas gall dringhedydd ddiajic ymhell, ond dringo i'r pren, ac yno ei faeddu a'i gyfarth a wneir. Ceiliog coed a elwir yn helfa gyfarthfa, oblegid pan ddel y bytheiad ar ei hynt ef, ei ymlid a wnant oni gymero bren, ac yno ei gyfarth a wneir. Y cadnaw sydd helfa ddolef, oblegid er maint fo'r gwaeddi a'r canu cyrn er ei ol, ef a gynal ei helynt er maint fo'r ymlid arno. Yr iwrch a elwir yn helfa ddolef oblegid yr un achos. Penaf cig hela yw carw, ac ysgfarnog, a baedd gwyllt, ac arth. Oe gollyngir milgwn i garw neu anifail arall, a'i ymlid o'r milgwn dros fryn allan o olwg, a'i ladd, y milgi blaenaf yn y golwg ddiweddaf bia'i groen; ond ni chaiff miliast groen er ei enill, oni bydd hi yn dorrog o fiilgi a enillodd groen, ac yna hi a'i caiff. Am ysgyfarnog, pa beth bynag a'i lladdo, y ci neu'r peth arall a'i cotto o'r gwal a'i pia, os ei cheisio y byddis i'w hymlid. Y naw helwriaeth a ddylai bawb eu gwybod ar a ddyges gorn, ac oni feidr roi ateb am danynt, ef a gyll ei gorn, ac os daw neb i hela a'i gynllyfan am dano, oni fedr roi ateb am y naw helwriaeth, ef a gyll ei gydliyfau, end ef a all fod a'i gynllyfau am ei fraich yn ddi- ddial. Ni all neb ollwng na milgi na miliast i un anifail pan fo'r bytheiaid yn ei ymlid ioni bydd iddojyntau fytheiaid yn ei ymlid; ac oni bydd, fe all y neb a fo yn canlyn y bytheiaid dori llinyn garr ei filgi, os efe ai gollwng. Nidrhydd i neb saethu anifail y bo helwriaeth arno, pan fo yn ei esmwyth- dra, tan boen colli ei fwa a'i saeth i arglwydd y tir, ond efe a gaiff ei saethu, a'i ladd os gall, pan fo'i huaid ar ei ol; ond na chaiff saethu yn mysg y cwn. Os a neb i hela, a gollwng ar anifail, a chyfarfod o gwn segur ag ef, a'i ladd, y cwn eyntaf bienfydd, onid cwn y brenhin fo y rhai segur. Yr anifail a helier fydd ar ddelw yr heliwr cyntaf, hyd oni ymchwelo ei wyneb parth a'i garttef, a'i gefn ar yr hela. Ond os bydd ei gwn ef yn hela, ac yntau wedi ymadael a'i gwn, ni ddyly ef ddim cyd lladdo y own segur ef ond perchenog y cwn segur bienfydd. Felly 'roedd y gyfraith hela gynt.
CYMDEITHAS YR S.P.G.
CYMDEITHAS YR S.P.G. Casglwyd yn Llanfairfechan boreu y Sul diweddaf dros PS, ac yn yr hwyr bron £ 8, tuag at y Gym- deithas nchod, y goreu a gafwyd er's blynyddoedd. Pregethwyd yn y boreu gan y rheithor, y Parch. P. Constable Ellis, ao yn yr hwyr gan y Parch. T. Lloyd Williams, yr hwn a anerchodd y plant yu y prydnawn, pryd y daeth toif i geisio am Missionary boxes. Y mae cha,noedd o'r rhai hyn wedi eu gwasgar o fewn y flwyddyn hon, a gobeithio y gwnant waith da. Pregethwyd hefyd yn Llandudno y Sul di- weddaf ar ran y gymdeithas, gan y Parch. W. E. Ivens, a chasglwyd £3. .2!.c:1!
[No title]
Cynyrcha California 100,000 o focseidi o raisins yn fiynyddol. >
Y FASGED.
Y FASGED. Bydd y Genedl ambell waith; pan deimla ar ei chalon felly, yn ad-ysgrifenu rhai sylwadau o'r LLAN, yn enwedig os bydd rhywbeth ynddi yn "werth sylw." Efallai na theimla y Genedl yn angharedig tuag atom ninau pan deimlwn ar ein calon ad-ysgrifenu yn awr ac yn y man pan welwn rywbeth yn "werth sylw." Ynddi am y 3ydd cyfisol, cawn y sylwadau canlynol ynghylch gwasanaeth claddu o dan y drefn newydd, ac y mae yn werth sylw, oherwydd mae yn datgan barn gynyddol y werin ynghylch gwasanaeth amheus y pregethwyr. Dyma fel y dywed .1 Gwyddom yn dda fel y pentyrant (y pregethwyr) eiriau gwag a disylwedd ar lan y bedd yn ami, yn neillduol felly pan y bydd gwr mawr yn cael ei gladdu. Nid wyf yn tybied y bu yr un Pharisead erioed a fuasai mor ddigywilydd a defnyddio cymaint o whitewash ag a ddefnyddir gan rai o honynt. Ond, Syr, tybed nad oes modd cael meddyginiaeth i hyn ? Onis gellir dwyn allan ffurf o wasanaeth claddu tebyg i eiddo yr Eglwys Sefydledig, os nad ellir cael ei well ? Ni osodir y cyfoethog mwy na'r tlawd, fel y gwyddus, ond yn hollol ar yr un level drwy ddefnyddio y dull crybwylledig." Mr. Gol., yr oeddwn i yn arferol a chario y syniad mai dynion drwg, hunan-gyfiawn dros ben ydoedd y Pharieaid gynt, ond hawyr anwyl! tyst- iolaetha y gwr hwn, ac efe yn frawd yn y ffydd fod y pregethwyr yn mhell tu hwnt iddynt Nid yw yn syndod yn y byd fod y bobl yn llefain am br egeth wr agedd. Pa le mae y Dadgysylltwyr ? Yr ydym wedi clywed oddiar awdurdod dda mai gweithio yn ddirgel y maent gyda deisebau. Canfyddasant mai failure hollol ydoedd eu hymgais i gario y bobl gyda hwynt, ac y maent yn ofni tynu eu cyfeillion Eglwysig yn eu penau ac iddynt ddyfod allan i oleuo y wlad, oherwydd nid ydynt yn dymuno gweled y wlad yn cael ei goleuo ar y pwnc, a chanfyddasant er eu gofid mai mistake mawr iawn ydoedd iddynt gynal y cyfarfodydd hyny yn y Deheudir ychydig amser yn ol trwy fod y cyfeillion Eglwysig yn fwy llwyddianus gyda'u cyfarfodydd, a thrwy eu bod yn gwybod fod y bobl yn deall mai sham hollol ydoedd eu gwaedd anghyfiawn am Ddadwaddoliad. Dylem fod ar ein gwyliadwriaeth yn barhaus, rhag i'r rhyfel dori allan a ninau yn cysgu. Efallai mai nid an- nyddorol gan eich darllenwyr fuasai gwybod nifer y deisebau a anfonwyd i'r Senedd yn ystod y tymhor diweddaf, a'r nifer a arwyddasant eu henwau o du ac yn erbyn Dadgysysltiad yn Nghymru. Nifer y deisebau a anfonwyd o blaid Dadgysylltiad ydoedd 323, wedi eu harwyddo gan 95,862; nifer y deisebau a anfonwyd yn erbyn Dadgysylltiad ydoedd 237, wedi eu harwyddo gan 68,152 o bersonou. Mae yr Eglwys wedi anfon llawer mwy nag a dybiasom ni, a da genym fod ein cyfeillion yn y Deheudir yna wedi bod mor effro, gweithgar, a llwyddianus. Arwyddair ymffrostgar y blaid Radicalaidd yn eu hareithiau bombastaidd yn ystod rhyfel boliticaidd 1880 ydoedd, Heddwch, Cynildeb, a Diwygiad." "Wrth eu ffrwythau a'u gweitbred- oedd, ac nid oddiar eu haddewidion teg a'u geiriau gwenieithgar y bernwch ac yr adnabyddwch hwynt. Heddwch! Heddwch yn wir. Ai heddwch ydoedd rhoddi ar dan un o ddinasoedd ardderchocaf y byd (Alexandria)nes ymlid ymaith y fam a'r plentyn bychan diniwed o'u cartref distaw, clyd, a'u gadael at drugareddau amgyleh- iadau ? Ai heddwch yw cario rhyfel waedlyd ymlaen, yn yr hon y syrthiodd haner can mil o fywydau dynol yn aberth i'r cleddyf? Cynildeb Llefared ffeithiau. Yn ystod pedair blynedc1 gyntaf y wladlywiaeth Geidwadol ddiweddar, codwyd pedair miliwn ar bymtheg o bunau (^ £ 19,000,000) oddiar dalydd yr Income Tax. Yn ystod y pedair blynedd o wladlywiaeth ansefydlog y Llywodraeth Radicalaidd wastraffus y dyddiau presenol, codwyd dwy filiwn a deugain o bunau sef rhagor o dair miliwn ar hugain o bunau, a hyny mewn pedair blynedd o amser. Dyna i chwi y fath gynildeb yw cynildeb Eadicalaidd Di- wygiad Ymha le ? A ydyw'r tywydd yn well ? A ydyw cynyreh y wlad yn well ? A ydyw masnach yn well ? A beth am eu deddfwneuth- uriaeth ? Wei, treuliasant eu holl nerth a'u hamser i ddeddfu ar gyfer yr Iwerddon deddfau na chlywsid sill am danynt oni bai am addewidion twyllodrus Midlothian. Mae'n wir iddynt geisio pasio Mesur Cau y Tafarndai ar y Sul yn Nghymru yma, ond y mae hwnw yn hollol anorphenedig ac amwys—hollol annheilwng o ddeddfwneuthurwyr Prydain Fawr. Ac am Fesur yr Etholfraint y cedwir cymaint o stwr a helynt yn ei gylch y dyddiau presertol, mesur un-llygeidiog yw hwnw. Disgwyliaf gael cyfieusdra eto cyn hir i sylwi ar y mesur hwn, felly terfynaf y tro hwn. GARDDWR.
Advertising
CHARLES' ELECTRIC CORN & WART CURE. A New and Painless Cure for Corns and Warts it con- tains no mineral acid's, caustic, or anything injurious it has the advantage over similar preparations in being quite painless. Success is certain. Beware of Imita- tions. Prepared only by R. E. CHARLES, Chemist, BRECON. In Bottles, 9d. and 13Jd. each. Please read Testimonials Brecon, March 15, 1884. Sir,—Your preparation* for corns has completely re- moved two corns which troubled me for 20 years. I can confidently recommend it.—Yours, &c., JOSEPH JOSEPH. Sent by Post for lid or 15d in stamps. 49, Reporton road, Walhatn Green, London, Feb. 8th, 1884. Sir,—Will you kindly send me a Is lid bottle of your Corn Eradicator per return, for which I enclose postal- order and stamps. I had some given me by a friend some time ago, and I find it invaluable. Can you also le me know where I can procure it in London; I have tried several places, but without success.—1 am, Sir, your obedient servant, JAS. ELLIOTT. Mr. Charles, Chemist, High St., Brecon. Sent by Post for lid or 15d in stamps. Workhouse, Brecon, March 22. Sir,—I have much pleasure in conveying to you my testimony of the high value of your Corn Solvent, which I have every reason to believe possesses qualities and advantages far superior to other preparations now so largely in use. It is cheap, simple, and easy of application.—Yours truly, H. N, KETTLE, Master. Sent by Postfoi- lid or led in stamps, 19, Clifton Crescent, Birkenhead, 11th March, 1882. Dear sir,—I have great pleasure in testifying to the good qualities contained in your world-renowned Electric Corn and Wart Cure. I can hardly express to you my feeling of relief after having applied this wonderful invention to my corn a few times: in fact, it is beyond description. Before purchasing a bottle I used to pick my way carefully, avoiding all stones, &c., but now I am not afraid of tramping over the roughest macadamized road in the district. I shall recommend it to all my friends.—I remain, dear sir, yours faith- fully, B. EVANS. Sent by Postfoi- lld or 15d in stamps. Crickhowell, March 29, 1882. Dear sir,—Please send to-morrow one dozen Corn Cure. I hear very flattering accounts of its efficacy.— Yours truly, J. J. EDWARDS, chemist- Sent by Postfoi- lid or 15d in stamps. Cwmclyn, Libanus, ger Aberhonddu. Anwyl syr,—Dymunaf eich hysbysu fy mod wedi rhoddi prawf o'ch darpariaeth, a chael ynddo waredig- Y' aeth gyflawn oddiwrth gyrn.—Yr eiddoch yn gywir, PRICE JONES. Sent by Post for lid or 15d in stamps. Mr Davies, Chemist, Swanuwa, writes to say, your Corn Cure gives general satisfaction." 11, Great Oxford Street, Mount Pleasant, Liverpool, April 19, 1884. Mr. H. E. Charles,—Dear Six, I have much pleasure in testifying to the efficacy of your CORN CUIIE. Upon the first application its effect was almost magical, and one bottle entirely cured my corns, after I had tried other preparations without success. Several friends for whom I have procured bottles of your preparation have assurea me of the very great and lasting benefit they have derived from its use. I believe it to be the very best cure for corns of any now before the public, and am confident that its invaluable qualities will ensure it a large, and increasing sale.—Y«urs faithfully, ALFD. H. HANSON STILES. Sent by Post for lid or 15d in stamps. 28, Watton, Brecon, May 12, 1882. Dear Sir,—With deep gratitude and unspeakable confidence I can testify to the healing qualities of your CORN CURE, one bottle of which sufficed to relieve me of years of perpetual pain from four bad corns.—Yours truly, W. M. BRIEN. Sent by Post jor lid or 15d in stamps. 48, High Street, Brecon, May 16, 1882. Dear Sir,—Having for many years suffered from corns, I was induced to try your ELECTRIC CORN CURE. After a few applications it removed my corns without .the slightest pain.—Yours, REES JONES. Wellington Place, Brecon, July 5th, 1883. Mr. Charles,—Dear Sir,—It Ü my pleasing duty to inform you that your valuable Corn Preparation sue-1 ceeded in removing my never-to-be-forgotten corn, after all other known remedies had been tried in vain- Such a remedy as yours ought to be made widely known, as sufferers from corns can be counted by tens of thous- ands- You may make what use you like of this, as I am very grateful that your remedy relieved me of such fearful agony.-Believe me, ail, to remain yours sin- cerely, RICHARD G. FRYER. Sent by Post for lid or 15d in stamps. The Grove, Bishop Auckland, Near Durham, Aug. 3, 1883. Dear Sir,—After having tried many so-called cures, I obtained, through a friend, a bottle of your Corn Cure, and after the first dressing gave me such relief as to be able to walk with ease and comfort as I had not done before for years.-P.S. You may make use of this slight recognition as you think fit our very truly, CHARLES HORTON. Mr. R: E. Charles. Sent by Post for lld or 15cl in stamps. Hay, November 19, 1883. Please to send me as soon as possible 3 doz. Corn and Wart Cure.—T. STOKOE, Chemijt. Please send 2 doz. Corn Cure (small size), per Parcels' Poo b.-GWILym EVANS, Chemist, Llanelly. London Agents Barclay, 95, Farringdon Street. — [67 LLYSIAli YDYNT Y MEDDYGINIA B T IT A U NATURIOL GOREU TUAG AT WELLA POB MATH 0 AFIECHYD YMHLITH YR HIL DDYNOL. DIODYDD LLYSIEUOL ANFEDDWOL TRIMNELL, ADDAS I HAF A GAUAF. CANMOLIR y diodydd hyn yn fawr gan swyddogion Cymdeithasau y Temlwyr Da a Byddin y Ruban Glas, ar gyfrif eu rhinwedd uwchlaw pob diod arall tuag at buro a chryfhau y cyfansoddiad a ddygwyd erioed gerbron y cyhoedd. Trwy ei ddefn- yddio, mae miloedd wedi eu gwaredu oddiwrth feddw- dod. 6c. y Sypyn; drwy y post, 8c. Cymeradwya ei hun. GWNA TIC ERADICATOR TRIMNELL, Wella mewn moment Ddanodd, Tic-Doloreux, Neural- gia, neu unrhyw boen arall yn y pen a'r gwyneb, drwy ei ddodi ar y rhanau poenus. Mae yn rhagorach nag eraill, am y gellir ei ddefnyddio yn allanol, tra y mae lliaws o'r meddyginiaethau a ddefnyddir yn dufewnol yn cynwys sylweddau gwenwynig cryfion. D.S.—Ni wna unrhyw niwed i'r croen, na gadael marc ar ei ol. Is. lie. y hotel. Y feddyginiaeth oreu tuag at wella anwyd yw COLD OR SWEATING POWDER TRIMNELL, Yr hwn a symuda bob arwyddion o'r cyfansoddiad. Ni ddylai neb fod hebddo, gan mai dyma y ddarpariaeth oreu a ddygwyd erioed o naen y cyhoedd. Mae y cymysgedd hwn yn anmhrisiadwy ar eym- ddangosiad cyntaf Anwyd, Enyniad, Poenau yn yr Ystumog, Rhyddni y Coluddion, Crydcymalau, Cymal- wst, Poenau yn yr Aelodau, ymosodiadau Parlysol, Spasms a Cramp, ynghyd a, symnd unrhyw aficchyd yn tarddu o anwyd. Mae hefyd yn rhagorol fei amddi- ffynydd i bersonau pan yn myned allan i dy wydd llaith, tarth, rhew, neu eira. Hefyd tuag at buro y gwaed oddiwrth bob anmhuredd, megis Coesau Drwg, Plor- ynau, Cryndod, &c., nis gellir rhagori arni. Is. lie. a 2s. 9c. y sypyn drwy y Liythyrdy. COUGH BALSAM TRIMNELL. Nid oes dim wedi ei ddarnganfod a ddeil i'w gymharu a'r Balsam hwn. Mae ei weithrediad mor syml fel y gellir ei roddi gyda pherffaith ddiogelwch i'r plant leuangaf, eto mae yn ddigon cryf i atal ymlediad yr achosion gwaethaf o anwyd, pa un bynag ai peswch croup, pas, pneumonia, pleurisy, asthma, bronchitis anhawsder i anadlu, neu yr afiechyd ofnadwy hwnw, y darfodigaeth, yrl hwn sydd yn achosi marwolaeth cy- nifer o filoedd yn flynyddol. Is. lie. al2s. 6c. y sypyn drwy y Llythyrdy. EMBROCATION BYDENWOG TRIMNELL Tuag at wella cryd-cymalau, rheumatic gout, lumbago, poen yn yr aelodau, anyswythder yn yr aelodau a'r gwar, llosg eira, ymosodiadau parlysol, sigiadau, toriad- au, spasms, cramp, quinsey, a dolur gwddf. Sicrheir mai dyma y moddion goreu i wella yr anhwylderau uchod ar ddyn neu anifail. Is. lie. a 2s. 9c. NERVINE TONIC TRIMNELL, Wedi ei gyfaddasu i'r ddau ryw. Gwellha bob math o anhwylder gieuol o unrhyw natur. A ganlyn ydynt ychydig o arwyddion yr anhwylder hwn ;—Iseider ysbryd, diffyg awydd i ymegnio, anaddasder i efrydu, casineb i gymdeithasu, a gwneyd unrhyw waith, gwrido anwirfoddol, y golygon yn gymylog, gwreichion o flaen y llygaid, byddardod a swn yn y clustiau, teimlad o dyndra neu fygiad. hunan amheuaeth parhaus, poenau yn y lwynau a theimlad o flinder, enyniad yr afu a'r ys- wigen, cryniad y galon, cryndod sydyn, yswildod eithafol, hoff o unigrwydd, diofal am fywyd, ei lawen- ydd, ei bleserau, a'i ddyledswyddau, anghysondeb y coluddion, teimlad o annheilyngdod, diffyg cof, an- mhariad galluoedd meddyliol, aflonyddwch eithafol, gwyntogiad a diffyg treuliad, cur yn y pen, digalondid dirgel yn codi oddiar wendid corphorol, ofni gwallgof- rwydd, rhagolygon presenol brwnt, dim gobaith am y dyfodol, dychrynu wrth gysgu, edrych a theimlo yn glafychus heb unrhyw achos am hyny. Gwna un neu ddau o sypynau o'r NERVINE TONIC wella achosion ysgafn o'r anhwylder uchod. Lie y mae y dioddefydd wedi ei esgeuluso, neu heb ei drin yn briodol gan y meddyg, cymer ychwaneg o amser. Is. lie. alls. 9c. y sypyn. PELENAU LLYSIEUOL TRIMNELL. D YMA feddyginiaeth rhagorol at wella pob math o anhwylderau yn y coluddion a'r afu, ymosodiadau clefydon, influenza, diffyg archwaeth, diffyg treuliad, golygon gwan, poen ac ysgafnder yn y pen, a phob math o afiechyd cysylltiedig &'r ystumog a'r coluddion. Mae rhif 1 a 2 yn addas i'r ddau ryw. Is. lc. a 2s. 9c. y blychaid. Gellir cael Antibilious Pills ynghyd a rhai llyaieuol a rhyddhaol am geiniog y blychaid. Dymuna W. TRIMNELL ddwyn i sylw y cyhoedd yn gyffredinol y ffaith fod ganddo yr ystoc helaethaf o Lysiau Seisnig a Thramor, Gwreiddiau, RhlSgl, Blodau, Hadau, Dail, &c., yn Neheudir Cymru. Mae un prawf yn ddigon i brofi effeithiolrwydd y meddyginiaethau uchod, y rhai ellir gael gan Fferyllwyr a Gwerthwyr Meddyginiaethau drwy y byd. Os teimlir unrhyw anhawsder i'w cael, anfonir hwy ar dderbyniad Post Office Order neu stamps gan y Perchenog. An- fonir gwerth 2s. 9c. yn rhydd i unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol. Ceir cyfarwyddiadau llawn gyda phob sypyn. D.S.-Gofaler am fod enw y perchenog ar Stamp y Llywodraeth.—W. TRIMNELL. Gwneuthurwr a Pherchenog, W. TRIMNELL, MEDICAL BOTANIST, MOIRA TERRACE, CARDIFF. 58 III! in. » II-inuum III n nm—m. ■ w»i 'M1!.iI!II!Ir:£. I Axgraffwyd a Chyhoeddwyd gan FARKANT a FROST yn eu Swyddfa Argraffu, 135; Kigh-street, Merthyr- Tydfil, Medi 12, 1884
BARDDONIAETH.
BARDDONIAETH. EIN TINGED. Y naill law a'r Hall i'r llwch-myned y'm, Weiniaid, at ddirgclwch, Atyniad trefn tan y trwch, Man toliant mewn tawelwch. Mewn tawelwch llwch y llechwn,—distaw A diystyr fyddwn, Tan y gwys lie gorphwyswn 0 adfya y byd a'i bwn. Y byd a'i bwn baid a bod-yn y bedd I'n baeddu a thrallod, Ni welir yn ei waelod Anwir waith sydd dan y rhod. Dany rhod o wen yr a—y corph hwn, Cur a phwys a'i cwympa 0 wyddfod i orweddfa, x Addoer gwsg y ddaear ga. Y ddaear ga noddan'r gwedd-a fuodd Hyd fywyd addurnwedd; Ing a gloes angau a'i gledd Andwya yn y diwedd. Yn y diwedd mewn ddaear-aroswn, Drwy'r oesau hyd lafar Duw Ion a'n cyfyd o ar Dorf llwch yn dirf a llachar. Tirf a llachar ar Ei eiriad-godwn I gyd, o bob gwastad A bryn.—torf, ger bron y Tad, Ddydd y Farn a fydd feirniad GWYLLT WALIA.
[No title]
Y mae 40,500 o bersonau yn marw mewn can- lyniad i ymyfed anghymedrol yn Mhrydain Fawr Yr athraw wrth fachgenyn bychan Beth y mae y ddiareb yn ei ddweyd ynghylch y rhai sydd yn byw mewn tai gwydr ? Y bachgenyn bychan Tynwch i lawr y blinds." Rhyw ddiwrnod yr oedd asyn yn croesi afonig a llwyth o halen ar ei gefn, gwylchodd yr halen ac ysgafnwyd y baicli. Trosglwyddodd y creadur hir-glustiog y darganfyddiad i gyd-frawd o asyn ag oedd yn cario gwlan. Gwnaeth yr olaf arbrawf o'r un peth, ond aeth ei faich ef yn ddwbl y pwysau. Nid yw geiriau caredig yn costio llawer. Nid ydynt byth yn poethelli y tafod. Ni chlywsom erioed am ofid meddyliol yn codi o'r chwarter hwn. Er nad ydynt yn costio llawer, y maent yn cyflawni llawer. Y maent yn gwneyd pobl ereill yn dda eu natur. Y maent hefyd yn cynyrchu eu delw eu hunain ar eneidiau dynion, ac un ardder- I chog ydyw hefyd. Nid ydym eto wedi ddechreu defnyddio geiriau caredig yn v fath gyflawnder ag y dylid eu detnyddio. y dylid eu defnyddio.