Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
t^ybueL&ion CyoeààuØ. WANTED immediately a Mistress for Infants (certificated) at Cadoxton-juxta-Neath. Salary, zC50 per annum.—Apply, Vicar, Cadoxton, near Neath, Glamorganshire. [102 W ANTED Curacy or temporary duty in Diocese of St. David's. Experienced. Refer- ences.—Address, OFFEIRIAD, "Llan" Office, Merthyr- Tydfil. [64 WANTED, in the Diocese of Llandaff, a Curacy by a Priest, Bilingual.—Apply, A., LLAN office, Merthyr Tydfil. [80 SCHOOL wanted by an experienced Certificated, Parchment, Master, (32). Sewing, Singing, &c. Excellent Testimonials.—Master, "Llan" Office, Merthyr Tydfil. [90 WANTED immediately, Mistress for a Small Mixed School. Church, communicant, Harmonium, Sewing.—Apply, Vicar, Llwydiarth, Cann Office, Welshpool. RESTORATION OF LLANALLGO CHURCH. LLANALLGO will ever be associated with the terrible fate of the Royal Charter no less than 140 of the unfortunate passengers and crew are bur- ied here. The original Church, dedicated to S. Galgo.was built about the seventh century. H. Kennedy, Esq., the Architect, estimates the entire cost of restoration, without the tower, at £ 400; with the tower, X550. Special subscriptions may be made for the improvement and enlargement of the Church yard. SUBSCRIPTIONS: (From February 14th, 1884.) s d. J. Rice-Roberts, Esq., Tanygraig 50 0 0 W. Williams, Esq., Parciau 30 0 0 Mrs. Jones-Parry, Aberdunani, Tremadoc 25 0 0 The Lord Bishop of Bangor 10 0 0 Mrs. Vaughan, Deanery, Llandaff 10 0 0 The Rector, Llanallgo 10 0 0 The Rt. Hon. Lady Neave 10 0 0 The Right Lord Boston. 10 0 0 Miss Pritchard, Plasgwyn 5 5 0 Collected by Mrs. Williams, Parciau. 5 0 0 The Rt. Hon. Lady Blackett 5 0 0 Mr. Williams, Devon House, Bangor. 3 3 0 Rev. H. Thomas, M.A., Rector, Llaneilian.. 2 2 0 Rev. E. T. Watts, H.M. Inspector of Schools 110 Mr. Roberts, Assistant do.110 Rev. T. L. Davies, Llandyfrydog 110 Rev. J. E. WiUiams, M.A., Rector, Llan- wenllwyfc 110 Rev. R. Roberts, Vicar, Amlwch 110 Rev. D. Griffith, Amlwch 110 Miss Lees, Southport, per Miss Sellers, Amlwch 1 0 0. Rev. R. Richards, Rector, Penrhoslligwy 1 0 0 Rev. W. H. Evans, Llaneilian 0 10 6 Mrs. Dr. Ronald, Loch Carron, N.B. 0 10 6 Dr. Pierce, Denbigh 0 10 6 Rev. J. Smith, Vicarage, Rhosybol 0 10 6 M. H. Roberts, Esq., late of Garneddwen 0 10 6 J. WILLIAMS, LLANALLGO RECTORY, Pentraeth, Anglesey, June, 1884.
HYSBYSIADAU Y LLAN.
HYSBYSIADAU Y LLAN. Dylid en derbyn yn y swyddfa erbyn DYDD MERCHER yn mhob wythnos. PBISIAU. 75 o eiriau (solid) neu nn fodfedd i lawr y golofn (displayed):- Un wythnos (tal yn mlaen llaw) 2a. Tair wythnos 5a. Bob tro ychwanegol (yr un) „ Is. 26 o wythnosau (yr un) „ 9c. •K° o wythnoaau (yr un) 6c. R)",yaiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreithiol. 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4c. y llinell. HYSBYSIADAU BLAEN-DALIADOL RHAD. Cyhoeddir hysbysiadau fel y canlyn, os TELIR YN MLAEN LLAW, vn v Llan vn ol v raddfa ganlvnol:- 20 creirian' U iawaith-, Is.; tair gwaith, 2s. 6c.; chwech etto, 4s. 6c. 30 o eiriau:—Unwaith, Is. 6c.; tair gwaith, 4s.; chwech, etto, 6B. 6c. 40oeiriau:—Unwaith,2s.; tair gwaith,5s. 6c.; chwech, etto, 8s. 6c. ——— TELERAU GWERTHIANT Y LLAN. Anfona y Cyhoeddwyr un copi o'r LLAN yn ddidrau drwy y Llythyrdy i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyranol fel y canlyn: Chwarter blwyadyn, Is. 8d.; haner, eto, 3a. 4d.; blwyddyn, 6s. 8d. Anfonir Y Llan i ddosbarthwyr ac eraill, wedi talu y oludiad, fel v canlvn Gyda'r Post. Gyda'r Tren. Dwsin I lOc. 9c. Nifer mwy yn ol yr un raddfa. CYHOEDDWYR MHI. FARRANT A FROST, High-street, Merthyr-Tydfil.
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. CYFANSODDIADAO (wedi eu hysgrifenu ar un tu i' ddalen) i fod mewn llaw erbyn boreu Mawrth, cyfeiriedig— THE LLAN Office, ,r — Merthyr Tydvil. Os teirnla ein dosbarthwyr a'n derbynwyr unrhyw anhwylusdod ynglyn a. chludiad y LLAN o Merthyr Tydfil, bydd yn dda genym pe yr hysbysent ni y ffordd oreu i'w hanton, fel ag lddynt eu cael yn brydlon. DALIER SYLW.—Nis gallwn ddychwelyd ysgrifau na wneir defnydd o honynt. BUASAI yn daa gan y Cyhoeddwr bennodi dosbarthwyr i werthu Y Llan lie nad oes rhai eisoes. Am y telerau, anfoner i'r swyddfa. Cyfeirier cyfansoddiadau barddonol fel y canlyn:- Rev. Ll. M. Williams, The Vicarage, Pontlottyn, Cardiff. E GLWYSwR.-(I) Rhaid i Rector neu Ficer gael caniatad yr Esgob i roddi chwe' mis o rybudd i gurad. (2) Doeth fyddai i bob offeiriad ymgynghori ag athrawon yr Ysgol SuI o berthynas i'r ysgolheigion. Gwell aw I'll" peidio son am hawliau yn y materion hyn. LLWYNOG.—Mae eich ysgrif yn annealladwy. CYFARFODYDD DLOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF.—TAER erfyniwn ar i'n gohebwyr fod yn fyr a chryno wrth anfon adroddia,dau am y cyfarfodydd hyn, gan na chaniata gofod i ni gyhoeddi adroddiadau meithion. Dymunir sylw neillduol i hyn. WANTED a Master for the Llanfair CaereinionNationol School (mixed). Harmonium. Welsh. Apply to the Rev. T. JEFFREY JONES, Llanfair Vicarage, Welshpool. [103 EXCHANGE. EXCHANGE required by a Rector. Gross -*— Income, 2280. Beautiful Church, lovely country, good society. Efficient means of education desired within reach. Address, Rector, "LLAN" Office, Merthyr Tydfil. [100
CYNWYSIAD.
CYNWYSIAD. 1. Hysbysiadau 2. Yr Wythnos, Mesur Priodas gyda Chwaer Gwraig Drancedig. 3. Llythyr Tom Pudler, Gohebiaethau, Ieuenctyd, Newyddion Cyffredinol. 4. Hysbysiadau, At ein Gohebwyr, Erthyglau, &c. 5. Eisteddfod Genedlaethol, Genedigaethau, &c. 6. Anhawsderau Offeiriaid Gwledig Cymru, Bywoliaeth Penboyr, Newyddion Cymreig. 7. Newyddion Cymreig. 8. Y Terfysgoedd yn Merthyr Tydfil, Newyddion Americanaidd.
AT EIN DOSBARTHWYR A'N DER.BYNWYR.
AT EIN DOSBARTHWYR A'N DER- BYNWYR. Byddem yn ddiolchgar i'n Dosbarthwyr a'n Derbynwyr pe talent sylw mor fuan ag sydd bosibl i'r biliau am y LLAN, y rhai a anfonir y dyddiau hyn, fel ag i'n galluogi i wastadhau y cyfrifon. iggf Yn ein rhifyn nesaf cyhoeddir rhestr o ddosbarthwyr y LLAN yn Nghymru, &c.
YR HOSTEL YN MANGOR.
YR HOSTEL YN MANGOR. MAE'R amser yn nesau pan agorir y Coleg newydd yn Mangor, ac y mae'n debyg y ceir llawer o Eglwyswyr ieuaingc ym mysg y rhai a gyrchant yno er mwyn cymeryd mantais o'r addysg secularaidd a gyfrenir gan y Proffeswyr perthynol iddo. Gan nad yw awdurdodau y Coleg yn gwybod dim, fel y cyfryw, am grefydd, nac yn gyfrifol am ddim ond goleuo y deall, mae o'r pwys mwy- af i'r Eglwys ragofalu am ddarparu lie i'w haelodau letya ynddo dan arolygiad un o'i gweinidogion, cymwys i'w cyfarwyddo pa fodd i ymddwyn, fel Cristionogion, ac i'w cymell at eu gilydd, bob nos a bore, i glywed Gair Duw ac i ymuno mewn gweddi deulu- aidd, ac hefyd i edrych aml eu dysgu ar y Suliau yn athrawiaethau yr Eglwys, ac i fyned gyda hwynt i'r Eglwys i addoli, ac i gymuno. Mae Esgob Bangor yn awyddus i ddarparu llety, neu Hostel, i gynwys oddeutu ugain o efrydwyr ieuaingc, ac y mae ty cyfleus, yn agos i'r Coleg, wedi cael, neu ar gael ei gyflogi, a'i ddarparu, fel ag i fod yn barod erbyn yr amser yr agorir y Coleg. Mae dau beth yn eisiau i gario ymlaen amcanion daionus yr Esgob. Gweinidog cymwys i fod yn Ben ar yr Hostel, a modd- ion arianol i gynal y sefydliad. Mae oddeutu t700 wedi eu haddaw eisoes, a chan fod Esgobaeth Llanelwy yn cyd-weithredu ag Esgobaeth Bangor yn y symud.ad hwn, nid oes achos petruso o ran yr arian. Y mater o'r pwys mwyaf ydyw cael Gwein- idog dysgedig, a dylanwadol, i fod yn Benaeth yr Hostel; os na cheir un heb dalu iddo gyflog o £ 300 yn y flwyddyn, gwell o lawer ydyw cyfranu y swm hwn yn flynyddol na gadael rhai o braidd yr Eglwys fel defaid heb ganddynt Fugail, i gael llenwi eu meddyliau a dysg- eidiaeth am bethau perthynol i'r byd hwn, heb neb i ofalu rhag iddynt anghofio Duw, neu gael eu gwyrdroi gan wag fhilosofhy yr oes. Mae Esgob Bangor wedi anfon cylch- lythyr at weinidogion ei esgobaeth yr hwn a ddiweddir fel hyn-" Yr hyn yr wyf yn ei amcanu ydyw atleiladu Hostel, lie y gall y dynion ieuainc a fynychant y dosbarthiadau yn y coleg, gael eu derbyn, a'u bwydo, a lie y gellir chwanegu at yr addysg secularaidd a roddir yno, hyfforddiant crefyddol yn unol ag egwyddorion yr Eglwys. Dymunwn weled yn ben ar y sefydliad hwn un o weinidogion yr Eglwys Gadeiriol, ac yr wyf yn meiddio gobeithio y gwna ffrwythau yr ymdrechion, arigen- rheidiol i sicrhau yr amcan hon ad-daliad boddhaol am y llafur. Mae'n debyg y byddai 93,000 yn ddigon a.r gyfer yr adeilad, a'r dodrefn, ond nid wyf wedi bwrw y draul yn fanwl. A gaf fi obeithio y gwnewch chwi ymegnio i enill cydweithrediad Eg- lwyswyr eich plwyf a'ch cymydogaeth yn y gwaith. Fel hyn gellir ddisgwyl i'n Coleg newydd fod yn foddion uniongyrchol i gyn- 'yrchu cynydd meddyliol yn y Dywysogaeth, ac yn anuniongyrchol gynydd ysprydol hefyd." Bydded i ddadlenwyr y LLAN graffu ar eiriau yr Esgob a helpu i osod y sefydliad hwn ar seiliau cadarn a pharhaol.
YMWELIAD TAIR BLYNYDDOL ESGOB…
YMWELIAD TAIR BLYNYDDOL ESGOB BANGOR. DYMA nawfed ymweliad tair blynyddolEsgob Bangor,aconibai am rag-grybwylliad bychan yn nechreu eu anerchiad ni buasai dim yn neillduol yn yr ymweliad hwn i'r wyth a'i rhagflaenodd, o herwydd yr ydys wedi ym- gynefino a hynawsedd, difrifoldeb, synwyr cyffredin cryf, a nodwedd ymarferol holl anerchiadau ymweliadol yr Esgob Campbell. Y frawddeg a dyn sylw neillduol ac a ddeffry ddwys deimlad yn mhob mynwes yw y crybwylliad, Y gallai mai dyma ym- weliad olaf yr Esgob." Braidd na theimlir fod swn torcalonus, neu o leiaf swn hir- aethus resyni a gofid meddwl gyda datod llinynau tyner serch yn y geiriau. Y mae ynddynt hefyd swn rhagddisgwylion a gobeithion gwedi troi i raddau yn siomiant ac ymdrechion gwedi myned i raddau yn ddi-fudd, os nad ofer. Hen deimlad ydyw hwn ag sydd wedi meddianu pob calon dda ac yspryd ymdrechgar a ymgysegrodd erioed i wasanaethu daear ac i fendithio dyn Y mae y gresyni dwyfol-ddynol hwn yn rhoddi swyn neillduol i ail Epistol St. Paul at Timotheus, ac y mae yn eneinio hwyr bywyd holl weision ffyddlon Crist, y rhai a osodant y safon dwyfol i ymdrechion offer- ynau dynol. Nid yw mynediad yr Esgob Campbell o'r dref hon, Merthyr Tydfil, i Fangor yn ein cof ond megis ddoe. Am dano ysgrifenai yr anfarwol Nicander at Eben Fardd o Lanruddlad, Mai 31ain, 1852 Yr wyf newydd gael llyrthyr o'r cared- icaf a welsoch chwi erioed oddiwrth Arch- ddiacon* Campbell, y dyn ag sydd i fod yn Esgob newydd Bangor. Eb efe, My sympathies are thoroughly warm with the Welsh people, among whom I have been ministering for many years." Mae'n dig- wydd bod genyf ychydig o gydnabyddiaeth ag ef. Fe wnaiff Esgob rhagorol marciwch chwi. Ei nodwedd yw mwyneidd-dra, gos- tyngeiddrwydd, a llafur diflino. Bu ei lafur yn Merthyr Tydfil yn anghyffredin o lwyddianus." Dyma olygiadau a phrophwyd- oliaeth Nicander am yr Esgob Campbell chwarter canrif yn ol. Dywedai yr Esgob ar y pryd, My sympathies are thoroughly warm with the Welsh people." Er fod, hwyrach, yr oil o ddarllenwyr y LLAN yn deall y frawddeg yn Saesneg cystal ag y deallwn ninnau hi y mae yn werth ei chyfieithu. Ebai Mr. Campbell, "Y mae fy nheimladau yn gyflawn a chynes gyd a'r Cymry." Dyma'r teimlad a wna i Gymru ateb heddyw, "Y mae fy nheimlad yn gyflawn a chynes gyd a'r Esgob Campbell, ac y mae son am y posibilrwydd o'i golli o'r Dywysog- aeth yn ofid i mi." Peth mawr yw cael calon Gymreig lawn o enaint yspryd Duw mewn Esgob yn Nghymru. Nid ydym yn hawlio i'r galon Gymreig ddim rhagoriaethau na pherthyna i'r galon Seisnig, Ysgotaidd, neu Wyddelig. Ond y mae y galon Gymreig yn ei lie yn y corph Cymreig, ac ni wna un galon estronol y tro yno. Rhaid i'r galon a'r corph fod yn gyd-berthynasol. Diau y disgwyliai y Dr. Campbell wneyd pethau mawrion fel Esgob Bangor. Credai y byddai i'r tan sanctaidd a losgai yn ei galon ef enynu gwres cariad a gweithgarwch yn mhob rhan o randiroedd ei ofal. Fe ddisgwyliai yn y boreu y buasai ef cyn hyn Wedi trechu ei elynion ac yn canu ar Zion fryn," llwyddiant Eglwysig mwy o lawer nac a welir. Y dirfawr wahaniaeth rhwng rhag-ddisgwylion y dyn da a'i gyflawniad. Fe ymgeisia at berffeith- rwydd, ond rhanol fydd ei lwyddiant; gesyd o'i flaen safon dwyfol, ond gweithreda drwy offeryn- au dynol ac ar ddefnyddiau dynol. Y mae y trysor ganddo mewn llesti' pridd; ac nis gall ond hau, planu, a dyfrhau. Gwaith Duw ydyw rhoddi cynydd; a gall Duw hyfforddio amser i bob had da wreiddio yn gystal a thyfu. Ond eto ni bu "cydymdeimlad cyflawn a dyrus y Dr. Camp- bell, yn gystal a'i fwyneidd-dra, gostyngeidd- rwydd, a llafur diflinol" yn ddieffaith ar Gymru, a'r Eglwys yn Nghymru. Y mae holl rediad teimlad yr Eglwys at Gymru, a Chymru at yr Eglwys, wedi newid i raddau dirfawr er pan agorodd myn- ediad y Dr. Campbell i Esgoba eth Bangor ddrws i'r cydymdeimlad cenedlgarol hwn i uchelfanau yr Eglwys. Ychydig cyn mynediad y Dr. Campbell i Fangor, gorchymynasai yr awdurdod- au uchel i'r lienor, y Parch. D. S. Evans, ag y mae ei waith i'r genedl yn anmhrisiadwy, beidio a golygu un o gyfnodolion goreu Cymru, ceisiasau awdurdod nesaf i'r ucliaf gan Elis vVyn o Wyrfai "roddi i fyny ysgrifenu Cymraeg, a pharasi y Dr. Short i'r Parch T. Hughes, a Lanasa, ar y pryd, beidio ag ysgrifenu gair i'r Cymro." Dyma y gwrthdeimlad oedd yn llenwi mynwes- au goreuwyr yr Eglwys, a'r rhai hyny lawer o honynt yn wyr duwiol a llafurus, ac yn gwneyd eu holl ymdrechion yn waeth nag ofer, cyn dyfod- iad Dr. Campbell, fel rhagredegydd a dygwr i mewn gyfnod gwell. Erbyn heddyw credwn fod y teimlad gwrth-Gymreigaidd wedi ei fwrw allan o fysg holl oreuon yr Eglwys ac.os hanfoda eto i raddau yn yr Eglwys, yn mysgei bychanigion, y cyflogweision, a'r eiddil wehilion y mae. Nid yw Sais ysgolheigaidd byth nae yn sarhau na dibrisio yr elfen a'r cydymdeimlad Cymreig fel y gwnaent gynt. Ond pan edrychom yn fanwl drOFj faes ysbrydol gofal y Dr. Campbell nid oes achos iddo ef ddigaloni. Cafodd yn Mangor deimlad Eg. lwysig, ac ysbrydolrwydd crefyddol, yn eglur ddeffroi ar ei fynediad. Yr oedd yno braidd bychan byw ond nid gormod feallai dweyd fod yr Eglwys wedi llawer iawn mwy na chynyddu bedwar plyg yn Siroedd Mon, Arfon, a Meirion. Y mae wedi enill safle wladgarol a chenedlgarol, a mwy na hyny safle ysbrydol. Caniateir gan ei gelynion fod bendith ynddi." Nid yw mwy yn wasarn dan draed ei gelynion, nac yn ddirmyg na diystyrwch y lliaws. Y mae safle yr Eglwys wedi newid yn ddirfawr er gwell. Ond y mae safle yr Esgob wedi dirfawr newid. Chwarter canrif yn ol yr oedd yn Arglwydd ar etifeddiaeth yr Arglwydd heddyw y mae yn was i bawb. Bu yr Esgob Campbell yn was i bawb er pan ddaeth i'r Esgobaeth. Cydnabydda ei gyfrifoldeb, ac addefa ei golliadau. Y mae yn teilyngu cynorth- wy pawb a chydymdeimlad pawb. Lleinw yr Esgobion safleoedd o'r fath fwyaf agored i wen- iaeth a chenfigen, yn y nawddogaeth Eglwysig a feddianant. Gosodir hwy yma yn nod i saethau filoedd, ac yn agored i gael eu camarwain a'u siomi, ac ymddengys y rhagrithwyr bob amser ger eu bron mewn glanwisg mwy perffaith a theg yr olwg na'r gwir Gristion; ac er mor ofidus i Esgob ac olfeiriad gweithgar a di-dwyll yw gweled ambell flaidd yn ngwisg dafad yn cael blaenoriaeth, y mae hyn yn anocheladwy tra y goddefa y bugail da ei hun i Satan ymrithio fel angel y goleuni." Os cafodd y Dr. Campbell boen oddiwrth rai o'i benodiadau," poen yw ag sydd ynglyn a phob gwaith da. Ymgais gwastadol pob carwr ei wlad a'i Eglwys, ac eneidiau ei gyd- ddynion, yw cael Ilwyr yinddiried, eydymdeimlftd, a chydweithrediad rhwng Esgob, offeiriaid, ac aelodau lleyg yr Eglwys, fel y byddont un corph, ac iddynt un galon, ac un ysbryd. Yr ydym ni oil yn aelodau o'n gilydd, a phob un yn aelod o ran, neu ar ei ben ei hun. Ie, yr Eglwys yw corph Crist, yr Hwn yw y Pen, fel ag y mae pob mawredd a bychander, uchder ac isder, yn ym- golli ynddo Ef. Ymdrecher ymhob modd adeil- adu Corph Crist ac yr ydym yn dra hyderus, er fod y Dr. Campbell weithian wedi llafurio chwarter canrif yn Mangor Fawr, yn Ngwynedd, y deil ei law yn y gwaith nes geilw ei Feistr doeth ef adref.
DEON NEWYDD BANGOR.
DEON NEWYDD BANGOR. Dydd Iau, cymerodd cadeiriad Canon Lewis, M.A., Dolgellau, fel Deon Bangor-le yn yr Eglwys Gadeiriol. Daeth cynulliad mawr a pharchus ynghyd, y rhai a gymerent ddyddordeb amlwg yn y gweithrediadau. Darllenwyd y llithoedd priodol gan yr Archddiaconiaid Wynne Jones ac Evans, a chanodd y cor yr anthem, His salvation is nigh" (Sterndale Bennett). Wedi i mandate yr Esgob gael ei ddarllen gan Mr. James, cof- Jestrydd yr Esgob, arweiniodd yr Archddiacon Wynne Jones y Deon i'w eisteddle. Yn ddilynol arweiniodd y Deon Lewis y Canon newydd, Parch. J. Price, Trefdraeth, i'w sedd yntau. Yr oedd yr Esgob yn bresenol ymhlith y gynulleidfa, ond ni t,Y chymerodd ran yn y gwasanaeth. Pregethodd y Deon ei bregeth gyntaf ar ol ei ddyrchafiad yn yr Eglwys Gadeiriol boreu Sul.
GWRECSAM.
GWRECSAM. AKDDANGOSPA FLODAU.—Bu hon yn llwyddianus iawn eleni. Yr oedd nifer fawr o bobl wedi ym- gasglu ynghyd trwy fod y tywydd mor ffafriol. Yr oedd y babell lie yr arddangosid y blodau a'r ffrwythau yn orlawn o bobl drwy y prydnawn. Dilyr- wyd yr ymweledyddion gan seindorf o blant ieu- aingc, y rhai a ganent yn awr ac eilwaith a'u geneuau. Mewn un rhan o'r cae yr oedd dyn yn dangos pa fodd y gellid cael haid o wenyn o un cwch i'r llall, heb eu lladd, fel y mae yr arferiad yn gyffredin yn awr. Yr,oedd,,Iyffordd,ynsymliawn,a dylasai pob meddianydd cychod gwenyn wybod am dani. Edrychai yr edrychwyr arno gyda'r gwenyn trwy rwyd, a'r rhyfeddod mwyaf oedd nad oedd yn cael ei bigo. Fel yr oedd yr haid yn ymadael o un cwch i'r Hall, daliodd yfrenhines, a rhoddoddhimewn blwch gwydr er mwyn i bawb gael ei gweled. CYMDEITHAS DDIBWESTOL EGLWYS LOEGR.-Mae y Gymdeithas hon yn fyiwog ac yn weithgar. Cyn- helir cyfarfodydd ynglyn a, hi bob bythefnos yn y Savings Bank, ac y mae llwyddiant mawr yn'ei chanlyn. Mae ei holl gyfarfodydd yn rhad ac am ddim, a cheir yr areithwyr a'r cantorion goreu oddi- yma, ac allan o'r dref, i gymeryd rhan ynddynt. Nos Lun yr oedd yr ystafell yn llawn, a chafwyd cyfarfod hynod ddifyr. Y Parch. Griffith Williams, curad, oedd yn y gadair, a difyrodd y dorf yn fawr gyda'i ffraethineb. Ymhlith y cantorion yr oedd Miss Pugh Griffiths, Miss Kate Parry, Mr. Parry, Mr. Bernard Lewis, Mr. Bayley, &c.. Y cyfeilyddes oedd Miss Beale. Adroddodd Mr. Stanford rai darnau da, ac felly Mr. Boydell. Darllenodd y Parch. W. Vaughan Jones farddoniaeth nes effeithio yn ddwfn ar y bobl. Nid peth bychan ydyw rhoddi cyfarfodydd o'r fath hyn ddwywaith bob mis. Hyd- erwn eu bod yn foddion bendith i laweroedd. Ar ddiwedd pob cynulliad, cymerir i lawr enwau y rhai fydd yn dymuno ymrestru o dan faner Dirwest, ac ar ol hyn mae gan y Gymdeithas bwyllgor i edrych ar ol y cyfryw rai, er mwyn eu calonogi a'u nerthu. CYNHADLBDD ATHRAWON YSGOLION SULYR UNDEB. -Cynhaliwyd hon yn Rossett, y 9fed cyfisol. Yr oedd ymgynulliad da yno. Wedi gwasanaeth y boreu, ynghyd a'r cymun, pryd y pregethodd y Parch. Canon Wynne Edwards. Yr oedd ciniaw mewn pabell, ar gae, wrth y Rheithordy. Cafwyd areithiau ardderchog yn y prydnawn yn yr Ysgoldy Genedlaethol. Cynygiwyd llawer gwelliant at y flwyddyn ddyfodol.
[No title]
SYMUDIADAU IJLONGAU MRI. EVAN THOMAS, RADCLIFFE A'I GWMNI. CAERDYDD. Gwenllian Thomas wedi gadael Caerdydd am Sarragona, Medi 4ydd. "loloMorganwg" wedi cyrhaedd Vanea, Medi lleg. "Anne Thomas wedi gadael Gibraltar am Amsterdam, Medi 12fed. Kate Thomas wedi gadael Caerdydd am Port Said, Medi 9fed. "Wynnstay" wedi cyrhaedd Llundain o Azof, Medi Sfed. Walter Thomas wedi cyrhaedd Antwerp e Baltimore. Bala yn gadael Hartlepool am Gaerdydd.