Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Dychwelodd H Gwilym Eryri o Gymru, wedi cael amser dedwydd a thaith lwyddianus, a chyn- yddu yn y cnawd rhyw 25 o bwysa. Rhydd olwg drist ar ambell fan yn Nghymru, a Beddgelort yn eu mysg, lie mae'r heolydd yn tyfu yn wyrddlas o herwydd marweidd-dra masnach. Haera y New York Sun nad oes amheuaetli am allu y blaid Ddemocrataidd i gario New York, New Jersey; a Connecticut, yn yr etholiad dyfodol, pe buasent wedi penodi Tilden yn lie Cleveland, ac felly buasai yn eu meddiant 51 o bleidleisiau etholyddol. Nid oedd gan y Talaethau uchod pan gariodd Tilden hwy yn 1876 ond 50 o bleid- leisiau.
RHYMNI.
RHYMNI. CANON EVANS.—Teimlwyd llawenydd mawr yma pan ddeallwyd bod Canon Evans wedi gwneyd ei feddwl i fyny i beidio derbyn bywoliaeth Penboyr, yr hon a gynygiwyd iddo gan Arglwydd Cawdor. Gwneir llawer ymdrech i'n hamddifadu o'n fioer, ond ymddengys ei fod wedi ymbriodi a'i blwyf ac, ni tyn ymadael.-Gohebydd.
BALA.
BALA. LLADRATA CI.-Yn llys yr ynadon, Medi laf, a fiaen Mri. E. G. Jones, R. O. Jones, a Richard Jones, cyhuddwyd un Edwin Alexander, brodor o Gorwen, o ladrata ci gwerth pum' punt, eiddo Mr. William Evans, Bull Hotel. Dywedodd yr Arolygydd Wil- liams iddo ddyfod o hyd i'r ci yn nhy y carcharor yn Nghorwen, yr hwn a ddywedai ei fod wedi prynu y ei am 7a. 6o. gan ddyn yn y Bala, ond ni wyddai pwy ydoedd.—Dywedodd Mr. Evans ei fod wedi gweled y carcharor yn ei dy, ond ni werthodd y ci iddo. Dedfrydwyd ef i ddau fis o garchariad gyda llafur caled.
" CAERDYDD.
CAERDYDD. OOLEG DEHEUDIR CymRu.-Dydd Llun, cynhal- iwyd cyfarfod o Gynghor y Coleg, dan lywyddiaeth Arglwydd Aberdar. Wedi ymdrafod ag amryw bynciau perthynol i'r coleg, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i W. T. Lewis, Ysw., am ei haelioni yn sefydlu ysgoloriaeth o C33 y flwyddyn am chwe' blynedd, yr hon fydd yn gyfyngedig i lowyr wedi bod yn gweithio dan y ddaear, am chwe' mlynedd yn nglofeydd Dyffrynoedd Rhondda, Aberdar, neu Rhymni. Amcan Mr. Lewis yn cyfyngu yr ysgolor- iaeth i'r glofeydd uchod ydyw ceisio darbwyllo boneddigion eraill i gynyg ysgoloriaethau rhwng y gweddill o'r glofeydd.
NEFYN.
NEFYN. MARWEIDD-DRA MASNACHOL.—Llawer o gwyno fu er's amser a basiodd ynghylch y marweidd-dra mewn masnach sydd wedi bod yn y gymydogaeth hon, ac nid oes genym yr un newydd calonogol i'w roddi yn bresenol eto. Nid oes yr un o'r pum' chwarel sydd yma wedi cael dechreu gweithio hyd yn hyn. Gresyn garw fod chwarelau mor ragorol yn cael sefyll fel y maent.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. TYSTEB I'R DEON LEWIS. Da iawn genyf, Mistar Golygydd, ddeyd wrthych chi fod cyfeillion y Deon yn bwriadu cyfiwyno tysteb iddo fel arwydd o'u parch tuag ato, ac mi rydw i yn sicr y caiff un iawn hefyd, gan ei fod yn ei haeddu am ei lafur mawr yn ein plith am gwmpas deunaw mlynedd. 0 diar anwyl, mi fasa yn dda gen i dasa fy ngallu gimin a fy wyllys mi rown i rywbeth go lew, ond fel y mae hi mi rof rwbeth gan gofio am y weddw a'r ddwy hatling. Anodd iawn ydi i un fel fi roi llawer, gau fod henaint yn gwasgu, a mina yn methu labro na chanlyn y wedd lawar. Bendith ar ben y Deon newydd a'i deulu. Mi fydd yn falchgen i fod Mr. Williams yn dwad yma, gan fy mod yn ei gofio yn Llanuwchllyn er's talwm, ac un neis iawn ydi o hefyd. Mae y Dydd yma yn beio pobol y capal am ddwad i'r eglwys i wrando pregeth ffarwel y Deon. Naw wfft i'r papyr hwnw gweld y capel yn wag mae'n debyg oedd yr achos, a'r eglwys yn orlawn. Fedra i ddim disgriflo y teimlad i chwi; yr oedd yn ymadawiad trist yn siwr i chwi, a'r dagrau yn treiglo i lawr ar hyd gruddiau llaweroedd. Cewch chwaneg o hanas gen i pan ddaw Mr. Williams yma, ao wrth fod yr hen wraig yma yn mynd i'r capel weithiau cawn glywed beth ddywedir. Rhaid i mi fynd â hwn i'r post, neu byddwehyn dwrdio yn siwr os bydda i yn hwyr, ac mae gan i of an yr hen fasged fawr yna sy gynoch chi yn ngwlad y glo ynti.-Sion William.
ANHAWSDERAU OFFEIRIAID GWLEDIG…
ANHAWSDERAU OFFEIRIAID GWLEDIG CYMRU. Y mae'n ddiau lawer o anhawsderau a rhwystrau ar ffordd llwyddiant gweinidogion yr Eglwys drwy Gymru nid yn gymaint yn ein trefydd lie y mae mwy neu lai o dir teg ac agored i weithio. Clywsom lawer—llawer mwy na digon-am yr anhawsder a gyfyd o herwydd eu bod yn gorfod gwasanaethu mewn dwy iaith wahanol. Nid yw hyn ond anfantais ddychymygol, mewn gwirionedd. Nid yw yn un rhwystr i ddyn perffaith hyddysg ac ymarferedig yn y ddwy iaith. I'r gwrthwyneb y mae'n fantais neill- duol, a rhagorfraint, i'r neb a fedd fedr a nerth corphorol, i lafurio. Os yw ei braidd yn ddwy- ieithog goreu oil. Y mae ganwaith gwell na phe byddai rhaid iddo wasanaethu pobl gwbl uniaith. Dyn unllygeidiog, cul ei syniadau yw y dyn uniaith bob amser ac ymhob man. A'n profiad hir yn mhlith y werin yn Lloegr a Chymru yw bod y Cymry uniaith, fel rheol, yn fil mwy deallgar a gwybodus, yn enwedig mewn pethau crefyddol, na'r Sais un- iaith, yr hwn ni fedd awydd na medr i feistroli un iaith namyn Saeaonaeg, yr hyn sydd yn ei hynodi yn mysg holl genhedloedd eraill Ewrop, a'r byd. Digon ar hyn. Y rhwystr mwyaf difrifol a deimlir gan y gornifer o honom yw eangder tiriogaethol, a bychandra pobl- ogaeth wasgaredig ein plwyfolion-diffyg lie rhydd i weithio. Mewn canoedd o blwyfi gwledig nid oes dim ond rhyw ychydig o ugeiniau o drigolion, a chyfrif mabanod, a'r hen, y claf, a'r musgrell; a'r rhai hyny yn ami yn mhell oddiwrth Eglwys y plwyf —rhy bell i'w bugeilio yn rheolaidd, neu i ddyfod i'r Eglwys, ond yn awr ac yn y man, fel y bo iechyd, hindda, neu'r lleuad yn caniatau. Yn yr un plwyf teneu ei boblogaeth, mwy na thebyg yw bod dau, tri, neu bedwar o wahanol gapeli, a phob un o hon- ynt, fel yr Eglwys, yn fwy na digon i gynifer o'r trig- olion ag a ddichon ar un pryd cyffredin addoli neu wrando. Y canlyniad yw, bod y blaenoriaid a'r pregethwyr yn teimlo eu hunain dan orfod, mewn hunan-ddiffyniad, mewn plwyf o'r fath y gellid ei enwi, i gynghori a rhybuddio eu haelodau a'u cynulleidfa i beidio gadael y capel i fyned i wrando i'r Eglwys," na goddef i'w plant fyned i Ysgol Sul yr Eglwys. A bod yr aelodau ffyddlonaf yn gorfod cerdded o dy i dy, i ddarbwyllo eu cymydogion na bo iddynt hwy na'u plant esgeu- luso eu cydgynulliad eu hunain, fel y mae arfer y rhai a ganlyn, y person." Ar yr un pryd, y mae'r winllan mor gyfyng fel y mae'r Ymneillduwyr yn sathru ar draed eu gilydd, a phob enwad yn gorfod trethu yn drwm hyd yn nod yr hen boblogach tlodion ar y plwyf, dair ceiniog, neu chwech o u haner coron yn yr wythnos o ddwylaw'r relieving officei- er mwyn cael o Sul i Sul ryw bregethwr mwy dieithr ei wyneb, ei lais, a'i ddull, na pherson y plwyf, neu weinidog sefydlog y capel a'r capel, i lenwi'r eisteddleoedd gweigion gyda phobl, a mynant bentyru iddynt athrawon, am fod eu clustiau yn merwino am glywed doniau pwlpudau mwyaf y wlad. Yn y Christian World y mae rhyw weinidog Annibynol yn adrodd ei fod wedi bod yn bugeilio, dros ryw fyr amser, mewn lie o'r fath yn Lloegr, lie yr oedd gan y Methodistiaid Cyssefin gapel yr ochr arall i'r ffordd i'r capel Cynulleidfaol, a chan y Wesleyaid un arall yn yr un pentref. Galara yn fawr oblegid y gwastraff, chwedl yntau, o allu a nerth, ac arian; ac yn bendifaddau oblegid yr effaith ddrwgfar y rhai sydd oddiallan ac y dymunid eu nenill a hwy yn gweled crefyddwyr yn gwrthweithio eu gilydd. Pa beth a ddywedasai pe cawsai ''alwad" i fugeilio eglwys Gynulleidfaol mewn pentref neu blwyf gwledig yn Ngogledd Cymru, a thybio ei fod yn eithaf Cymro, lie nad oedd pobl i ffurfio cynulleidfa heb waghau oorlanau eraill. Y mae Mr. Gee, o Ddinbych, yn deall pethau yn well na'r holl Uchel Drefnyddion Presbyteriaidd a'u bugeiliaid (pastors), sef mai nid bugeiliid sef- ydlog, ond pregethwyr teithiol a greasant yr. Hen Go )h hybarch. Gallasai hefyd ychwanegu mm uu o obeithion disgleiriaf y Dadgys- ylltwyr a'r Diwaddolwyr, yw diffyg pregethwyr teithiol ac athrawon cenhadol, i gyfarfod ysfa afiach yr oes yn yr Eglwys yn Nghymru. Bu amser pan gredai'r Ymneillduwyr nas gallai'r offeiriaid ddim pregethjt, ond y mae cyfarfodydd diolchgarwch am y cynhauaf yn arbenig wedi eu hargyhoeddi i'r gwrthwyneb, a'u hawydd yn awr yw cael clywed mwy o'r offeiriaid yn pregethu. Y mae," meddent, rhywbeth mwy sylweddol a difrifol, o leiaf ryw- beth pur wahanol yn eu pregethiad hwy." Onid all yr Eglwys ddysgu gwers ? A phaham y cedwir pregethwyr, canwyllau yr Eglwys, dan lestri, a gwelyau neillduedig ? Dyna ddynion ieuaingc ym- roddus, llawn o ysbryd y gwaith; yn dewis gwasan- aethu Ymneillduaeth yn hytrach na'r Eglwys, am eu bod yn gweled llawer gwell rhagolwg am enwog- rwydd,*neu ddefnyddioldeb helaethach, nac mewn rhyw guradiaeth fach wledig, allan o olwg y byd. Y mae'r hen gyfundrefn blwyfol yn meddu man- teision mawrion. Ond y mae mor wir fod iddi ei hanfanteision pwysig. Ac oblegid caethder yr hen drefn blwyfol yr ymadawodd sylfaenwyr Methodist- iaeth, y ffurf gryfaf o Ymneillduaeth yn Nghymru, ac yn mysg y miloedd o'r Cymry yn Lloegr. Paham na thyfodd Bedyddiaeth ac Annibyniaeth i gyffelyb allu -a nerth, a hwythau gymaint hyn na'r Hen Gorph ? Am eu bod yn ymddibynu cymaint ar weinidogaeth leol sefydlog, n'3S i'r Methodistiaid yru eiddigedd arnynt i ddilyn eu hôl, hyd y gallent i gyfnerthu'r fugeiliaeth a chenadwriaeth deithiol, &c. Ac ni wnai dim fwy o wasanaeth i'r Eglwys yn awr na threfnu cyfnewidiad pwlpudau, i fesur rhesymol, ymhob Deoniaeth wledig. Serch hyny, ni wneir felly byth bythol, ond mewn ufuddhad i'r Esgobion, yr Archddiaooniaid, neu'r Deoniaid Gwladol. 0 anghenraid sefydlid darpariaeth arian- 01 ar gyfer y trefniant. GWR
BYWOLIAETH PENBOYR.
BYWOLIAETH PENBOYR. Mae bywoliaeth Penboyr, sir Aberteifi, yr hon oedd yn wâg drwy farwolaeth y Parch. John Sinnett, wedi ei chynyg i'r Parch. D. W. Thomas, M.A., St. Ann's, Bethesda. Oddiar ymwybydd- iaeth bersonol gallu ddweyd fod Mr. Thomas ymhob ystyr o'r gair, ac yn offeiriad gweithgar a llwyddianus, fel y prawf ei eglwys bresenol, ynghyd & eglwysi eraill y bu yn eu gwasanaethu. Heblaw hyn mae yn ysgolor gwych, ac yn awdwr amryw lyfrau, a bu yn olygydd Amddiffynydd yr Eglwys a'r LLAN. Byddai ei ymadawiad yn golled annhraethol i Bethesda. Teimlid ei golled hefyd drwy holl Esgobaeth Bangor. Ni chyfynga ei lafur i'w blwyf yn unig, ond gwna gwasanaeth pwysig i'r holl Esgobaeth. Cydnabyddiaeth o hyn oedd ei etholiad i fod yn Broctor yn y Confocasiwn dros offeriad Bangor. Teimlir gobaith cryf y bydd i Mr. Thomas bendertynu aros yn ei hen blwyf, lie y cymerai ddyddordeb ymhob mudiad daionus er lies y cyhoedd.
[No title]
Bu Binns, y crogwr cyhoeddus, ar ymweliad a Dinbych rai dyddiau yn ol. Y mae y Due o Abercorn a'i briod yn aros yn George Hotel, Bangor, ar hyn o bryd. Rhif trigolion Cymru yn 1801 oedd 541,546; yn 1821, 717,438; ac yn 1881, 1,360,513. Cyrhaeddodd yr Arglwyddes Dunraven i Gastell Dunraven, Ponttaen, brydnawn ddydd Llun. Bydd i'r doc newydd yn Caerdydd gael ei ddechreu yn ddioed. Arglwydd Windsor yw cadeirydd y cwmni. Tri chyngor da, yn neillduol i ferched: Gwnewch bobpeth yn yr amser iawn, cedwch bobpeth yn y lie iawn, a defnyddiwch bobpeth i bwrpas iawn. Cafwyd colledion yn Nyffryn Rhondda ychydig ddyddiau yn ol drwy ymddangosiad clefyd ymysg y moch, amryw o'r rhai y bu yn angenrheidiol eu lladd yn ddioed. Ynllys ynadon Dimbych-y-pysgod, ddydd Llun, gorchymynwyd i'r Milwriad Hananay fyned dan feichnïaeth i gadw yr heddwch tuag at Dr. Reid, yr hwn a fygythiodd. Profwyd ewyllys y diweddar Farnwr Watkin Williams gan ei weddw. Mae wedi gadael uwch- law X8000, y rhai a adawyd i'w weddw, dau fab, a merch, ac i'.w rhanu yn gyfartal rhyngddynt. Y mae y dynion a weithient yn ngweithfeydd glo yr Elm a Maesgrug, Bwcle, perthynol i'r Mri. Watkinson a'i feibion, wedi sefyll allan o her- wydd anghydwelediad rhyngddynt a'r meistri. Mae Mr. Henry Lloyd Mostyn, brawd Arglwydd Mostyn, wedi cydsynio i ddyfod yn ymgeisydd am gynrychiolaeth sir Fflint yn y Senedd, mewn gwrthwynebiad i'r aelod presenol Arglwydd Richard Grosvenor. Er's amser bellach yr oedd nwyddau yn cael eu colli o orsaf Croeoswallt. Rhoddwyd dau gudd- heddgeidwaid i wylio un noson. Daliwyd tri o'r porters, y rhai yn awr a arosant eu prawf ar y cyhuddiad o ladrata yr eiddo colledig. Hysbysir am farwolaeth Mr. Gower, Castell Malgwyn, Aberteifi, yr hyn a gymerodd le ddydd Gwener. Teimlir colled fawr ar ei ol, gan ei fod yn foneddwr ymhob ystyr, ac yn cymeryd dyddor- deb mawr ymhob symudiad Eglwysig a Cheid- wadol. Ymddengys fod y goleuni trydanol yn dyfod yn nes atom, oblegid yr wythnos ddiweddaf bu nifer o ddynion ieuainc o Rhuthyn yn chwareu y bel droed gyda chwmni yn Ngwrecsam wrth oleuni trydaniaeth. Dywedir eu bod yn gallu chwareu mor rhwydd ag wrth oleu dydd. Dywedir fod un o'r clercod yn ariandy y London and Provincial, Pontfaen, o'r enw William Rich, yn absenol o'r ariandy er dechreu mis Gorphenaf, a bod yr awdurdodau wedi darganfod swm mawr o arian yn eisiau. Mae gwys wedi ei chaniatau i'w gymeryd i'r ddalfa ar y cyhuddiad, ond ni wyddis yn awr faint yw y swm a gollwyd. Mae Bismark yn wrthwynebol i ymfudiaeth o Germani i'r America, a bwriada osod terfyn arno. Ceisia wneyd hyn trwy apelio at falchder cenedl. aethol a gwladgarol y Germaniaid trwy ddweyd fod ymfudiaeth barhaus yn gwanhau y genedl, ac yn bygwth ei difodiant hollol, trwy gael ei llyncu i fyny gan y Saeson. Yn Abertawe, ddydd Mawrth cyn y di- weddaf, cyhuddwyd Edward Slayer, goruchwyl- iwr cyfrifol yn ngwasanaeth y Mri Vivian a'u Cwmni, o ladrata amryw symiau o arian. Yr oedd yr holl swm yn l,500p., ond cafodd y cyhuddiad ei gyfyngu i 37p. 10s., pa rai a feddian- odd y carcharor drwy roddi cyfrifon gwahanol mewn dau lyfr, y rhai oedd heb eu cymharu er's blynyddau. Yr oedd y lladradau yn amrywio o 2p. i lOp. Creodd y gwrandawiad o'r achos lawer o gyffro, ac yr oedd y llys yn orlawn yn ystod yr amser. Plediodd y carcharor euog, ac anfonwyd ef i garchar am chwe' mis. Yn ddiweddar cyrhaeddodd dyn canol oed, wedi ei wisgo yn drefnus, i Connah's Quay, sir Fflint, i gymeryd rhan yn ngwneuthuriad y rheilffordd newydd sydd wedi ei thychwyn yno, a chyd ag ef yr oedd dynes y tybid oedd ei wraig. Aethant i lety, ac ymddangosent yn hapus a serchog hyd nes y daeth dyn arall, yr hwn a dorodd ar eu heddwch, gan geryddu y ddynes, yr hon a gyfarch- ai fel ei wraig, am ei adael ef a'r plant. Dadleu- odd a'r ddynes, a dywedodd wrthi beth fyddai diwedd hyn, ac apeliodd at ei serch tuag at ei phlant i beidio dwyn cywilydd arnynt, ond trodd yn glust-fyddar i'w fygythion a'i ymbiliadau, gan ddatgan fod ei chwmni presenol yn well dyn na'i phriod. Yn y diwedd cytunodd i arwyddo papyr o ysgariaeth, ac fel yr oedd y gwr yn myned ymaith yn bruddaidd, dywedodd wrth y dorf oedd wedi casglu o gylch y lie, ei fod unwaith yn cadw Hotel yn Howdon, swydd York, ac mewn am- gylchiadau da, ac i'w wraig ei adael ar ol 27 mlynedd o fywyd priodasol hapus, ac wedi gadael dim llai na deuddeg o blant ar ol i glywed am ei gwarth!
YNYSOWEN, MERTHYR TYDFIL.
YNYSOWEN, MERTHYR TYDFIL. CWRDD TE.-Cynhaliwyd cwrdd perthynol i'r Eg- lwys yn yr Assembly Room, ddydd Iau, a throdd pob peth allan yn llwyddianus dan arweiniad y Parch. R. M. Williams, curad, yr hwn sydd yn cael ei fawr hoffi gan bawb yno. Yr oedd y parotoadau yn adlewyrchu y clod uchaf ar Mr. Davies, Coffee Tavern, gan eu bod o'r fath oreu, a digonedd yn ngweddill wedi i bawb gael eu digoni. Ar ol t6 aed i'r cae gerllaw, lie y treuliwyd yr amser mewn chwareuon diniwed, gyda'r rhai y cafwyd hwyl anghyffredin nes i leni y nos ymddangos.
DOWLAIS. !
DOWLAIS. Cynhelir cyfarfodydd diolchgarwch am y cyn- hauaf yn yr Eglwys Gymreig, nos Fawrth a dydd Mercher nesaf. Hysbysir mai yr offeiriaid canlynol a fyddant y pregethwyr ar yr achlysur :—Parch. J. Williams, Llangeler Parch. J. E. Jenkins, Vaynor; Parch. W. Rhydderch, Hirwaen, a'r Parch. Dr. Walters, Llansamlet. Cynhelir gwasanaethau cyfi- elyb yn yr Eglwys Seisnig ddydd Mercher.
MARDY.
MARDY. Nos Fawrth, y 9fed o'r mis hwn, cynhaliwyd cyf- arfod o ddiolchgarwch am y cynhauaf, yn St. David's Hall, yn y lie uchod. -Darllenwyd y gweddiau gan y Parchn. T. H. Williams, Heolfach, a J. Rees, Perndale. Pregethwyd yn alluog a dylanwadol, i gynulleidfa liosog gan y Parchn. W. Lewis, ficer, Ystradyfodwg, yn Saesneg, a S. R. Jones, ficer, Glyntaf, yn Gymraeg. Yr oedd yr Hall wedi cael ei gwisgo yn ddestlus a ffrwythau, llafur, a blodeu, gan Mrs. Mundy, yn cael ei chynorthwyo gan Miss Williams. Chwareuwyd ar yr harmonium gan Mr. W. Davies (Perdonydd Dâr), ac arweiniwyd y canu gan Mr. M. L. Jones, myfyriwr o Goleg St. Bees. Gwnaethpwyd casgliad tuag at y Llandaff Diocesan Church Extension Society.
IABERTEIFI.
ABERTEIFI. Mae tawelwch mawr yn teyrnasu yn arwynebol y fiordd hon er's tro bellaoh yn y gwersyll yn mhlith terfysgwyr y dadgysylltiad. Etc yr ydym yn llwyr gredu fod y gwaith yn cael ei gario'n mlaen yn y dirgel. Maent yn ymladd yn y dirgel mewn rhai manau, yn mhlith y brisglwyni, fel y gwna y cen- hedloedd anwaraidd pan yn methu gwrthsefyllu John Bull a'i fagnelau. Mae rhyw bwys neillduol yn cael ei roddi gan Ymneillduwyr yr oes hon ar y frawddeg ganlynol: Nae esgeuluswch eich cydgynulliad." Dywedir weithiau mai adnod yw. Ysgrifenedig yw yn yr Hebreaid am i bawb ymanog i gariad a gweithredoedd da, heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain," Heb. x. 24, 25). Dylai proffeswyr crefydd gofio mai gwaith y diafol yw dyfynu haner yr adnod, a chyfnewid cystrawiad geiriau'r ys- grythyr. Na ato Duw i'r Apostol fwriadu ei eiriau i fod yn sail dros gadw rhwygiadau yn agored yn Eglwys Crist, yr hwn a weddiai mor daer am i'w broffeswyr fod yn un. Anog i gariad a gweithredoedd da mae yr Apostol, gan ddwynfar gof i'r Hebreaid na ddylent esgeuluso cydgynull eu hunain ynghyd. Er anogaeth i barti zel y defnyddir y geiriau yn bresen- ol gan lawer fel y byddo un enwad yn nerthol i ymosod ar y llall, neu fel y byddont oil ynghyd yn gadarn i wrthsefyll yr Eglwys, ac yn benderfynol i wastraffu elusenau crefyddol tuag at gael pedair pregeth ar ddeg yn lie pedair yn yr un plwyf yn hytrach na'i rhanu rhwng y tlawd. Y mae Cym- deithas Amddiffynol yr Eglwys yn y parthau hyn, mae wedi gwneyd gwaith da. Ein cred yw y gwnai waith llawer gwell pe bai rhyw un yn cael ei nodi a'i gynal fel organising secretary er rhoddi mwy o yni a zel ynddynt trwy ddwyn gweithredoedd da y naill gogyfer a'r llall, a'u huno yn fwy agos a'r brif gymdeithas. Cynhaliwyd cyfarfod dyddorol yn neuadd y dref yma ychydig ddyddiau yn ol er ffurfio cymdeithas amaethyddol. Daeth amryw amaethwyr a thir- feddianwyr ynghyd. Penodwyd Capt. Jones-Parry, Ty-llwyd, yn gadeirydd i'r gymdeithas, a Mr. Wood- ward yn ysgrifenydd. Traddododd y parchus gadeirydd araeth benigamp dro yn ol ar ensilage, sef y modd dyfeisgar sydd wedi ei ddarganfod i. gadw gwair yn ei ireidd-dra dros y gauaf. Adeiladaeth y naill y llall mewn pynciau cyffelyb yw un o amcan- ion y gymdeithas i fod. Rhwydd hynt iddi. Goreu po cyntaf y daw yr amaethwyr a'r tirfeddianwyr i gydweithio mewn pynciau cyffelyb.
CAERFYRDDIN.
CAERFYRDDIN. Yn llys yr Ynadon Sirol, ddydd Sadwrn diweddaf, cyhuddwyd Thomas Williams, 22, o wneyd ymosod- iad creulawn ar ei fam yn nghyfraith, Anna Thomas, 63, Trelech-ar-Betws, Medi 2. Darfu iddo ymaflyd yn ngwallt ei phen a'i chicio hi yn dost. Danfonwyd ef i'r carchar am fis gyda llafur caled.
DERRY ORMOND.
DERRY ORMOND. Enw plas tlws yw hwn yn sir Aberteifi, perthynol i Herbert Inglis Jones, Ysw., yr hwn sydd etifedd dan ei oed. Ymgasglodd tyrfa luosog o bobl ynghyd i'r He dydd Iau diweddaf ar yr achlysur o werthu gwartheg, defaid a cheffylau, eiddo Mr. William Cotterell, goruchwyliwr ar yr ystad luchod. Yn- mhlith y dorf lluosog o bobl yr oedd llawer o ber- sonau mwyaf urddasol yn y sir, sef Iarll Lisburne a'i fab Arglwydd Vaughan, Trawsgoed John Pughe Pryse, Ysw,, Bwlch Bychan T. J. Hughes, Ysw., Neuadd Fawr, ynghyd a lluaws o ffermwyr celfydd- gar, masnachwyr o bob desgrifiad, offeiriaid a phregethwyr. Gwerthwyd oddeutu gwerth pymtheg cant o bunau. Yr oedd y defaid yn cyrhaedd o ddwy i bum' punt yr un; gwartheg o ddeg i bymtheg punt yr un. a'r ceffylau o ddeg i bum' punt a ddeugain yr un, Y mae canmoliaeth uchel yn ddy- i Mr. Cotterell a'i wraig am y modd caredig yr ymddygasant tuag at y bobl ar yr achlysur trwy roddi digonedd o fwyd a phobpeth anghenrheidiol er diwallu y dorf yn gysurus.-Glanclitlas.
LLANSANTFFRAID, G.D.
LLANSANTFFRAID, G.D. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y PARCH. D. EVANS, PFRIGLOR.-Fel yr hysbyswyd yn ein rhifyn diweddaf bu y Parch. D. Evans, ficer parchus y plwyf, farw dydd Gwener cyn y diweddaf. Teimlir bwlch ,mawr ar ei ol ymhob cysyllliad, yn enwedig fel periglor y plwyf a chadeirydd Igwarcheidwaid Corwen. Oymerodd y claddedigaeth le dydd Llun. Oddeutu dau o'r gloch gwelid tyrfaoedd o bobl yn gwneyd eu ffordd tua chartref yr ymadawedig, ac erbyn tri o'r gloeh yr oedd nifer luosog yn sefyll o fiaen y ty. Gweddiwyd gan y Parch. R. Owen, Bryneglwys, ac wedi hyny canwyd Myfi yw'r ad- gyfodiad mawr," gan gor yr Eglwys, o dan arweiniad Mr. Owen, Cottage. Wedi hyny ffurfiwyd yn orym- yn y dull canlynol :-Parchn. Richard Owen, Bryn- eglwys; T. Williams, Llandrillo; G. Williams, Glyndyfrdwy: Canon Richardson, Corwen; E. Roberts, Llangwm; E. R. James, Llangollen: H. Roberts, Caer; J. M. Jones, Oorwen; J. Williams, lilanfihangel; Roberts, Ffestiniog; David Jones, Glynceiriog; Dr. Ellis; A. Jones, Llangollen; P. Owen, Frongoch Davies, Llangollen a J. S. Jones, Llantysilio Mr. Vosper, Rhagatt, Mr. T. R. Wynne, Dr. Walker, Mr. Pugh, Mr. Owen, cor yr Eglwys, aelodau a swyddogion Bwrdd y Gwarcheidwaid yna y corff, y teulu, a'r jdyrfa liosog yn dilyn. Yr oedd ar yr arch amryw dorchau o flodau hardd wedi eu hanfon gan gyfeillion yr ymadawedig; ac yr oedd yr arch yn wneuthuredig o goed ffawydd syml, wedi ei gwneyd felly yn ol ei ddymuniad ef ei hun. Erbyn cyrhaedd yr Eglwys, nid oedd yno digon o le i'r galarwyr eistedd i lawr. Aeth y Parch. R. Owen ymlaen gyda'r gwasanaeth yn Gymraeg, yn yr hwn hefyd y cymerwyd rhan gan y Parchn. Thomas Williams, Llandrillo, a G. Williams, Glyndyfrdwy. Ar ol hyn canwyd yr hen emyn, Yn y dyfroedd mawr a'r tonau." Wrth fyned o'r Eglwys, chwareu- wyd ar yr harmonium 11 Dead March," gan Miss Pughe. Wedi rhoddi y corff yn y bedd, diweddwyd y gwasanaeth gan y Parch. R. Owen, a chanwyd yr emyn, Mae byd o sylwedd i barhau." Dydd Sul diweddaf traddodwyd pregeth angladdol ar ol yr ymadawedig yn eglwys Llansantffraid gan y Parch. H. Roberts, Caerlleon.
TREORCI.
TREORCI. Boreu dydd Iau yr wythnos ddiweddaf, daeth bachgen o'r enw Thomas George Jenkins, 16 oed, mab i John Jenkins, peirianwr yn Abergorci, i'w ddiwedd mewn dull hynod ofidus. Aeth ef a nifer o fechyn ereill y boreu a enwyd i fyny i ochr y mynydd yn agos i Glancoch i gasglu ffrwythau gwylltion. Yn fuan daethant i ymyl hen bwll sydd yn rhyw 18 llath o ddyfnder ac yn haner llawn o ddwfr. Yr oedd dyrysni o bob math wedi tyfu dros a chuddio genau y pwll. Llithrodd ei droed a chrogai yn ngfenau y pwll. Ceisiodd rhai o'i gyfeillion ei waredu trwy gydio yn ei wallt ac estyn pren iddo ymaflyd yn- ddo ond er eu hymdrech, i lawr yr aeth. Wedi i rai oedd yn yr ymyllglywed, gwnaeth ddau fach ar unwaith, a llwyddodd i godi y corff marw allan.