Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
TOWYN.
TOWYN. LLYS YR YNADON.- Medi 5ed., dirwywyd un Wil- liam Evans, gwas fferm, i £ 2 a'r costau am greulon- deb tuagat hwch fagu. Yn yr un llys gollyngwyd dau blentyn dan feichnafon o £10, am osod ceryg ar linell y Cambrian. Gwelodd y gyriedydd y perygl, ond nid mewn pryd iddo ddwyn y gerbydres i arosiad, ond trwy drugaredd maluriwyd rhai o'r ceryg a lluchiwyd eraill oddiar y Ilir, ell gan guards y peir- iant. Gallasai fod yn ddamwain ddifrifol. Dirwy- wyd pump o ddynion am feddwdod, un arall am adael i'w asynod grwydro, ac un arall am gadw ci heb drwydded. Yn yr un llys hefyd cyflwynwyd cofarwydd i'r faingc gan bregethwyr Ymneillduol y dref, yn erbyn adnewyddu twyddedau y tafarnau. Deallwyd ma i eu dymuniad oedd gwneyd i ffwrdd a'r oil ond un. Mewn gwrthwynebiad dywedodd Mr Millard fod 18 llai o achosion meddwol eleni na'r llynedd, ac fod yr holl dai wedi eu cadw yn rheolus, ond eithrio un, a'r un hwnw oedd y "Reform," Bryncrug. Cafodd y Landlord ei ddirwyo yn ddi- weddar i 910 a'r costau am storio gwin a brandy yn y tý heb drwydded. Amddiffyniad y tafarnwr yn ngwyneb hyn pan yn erfyn am adnewyddiad ei drwydded oedd, ei fod yn cadw y brandy at ei was- anasth ei hun, ond iddo mewn fit of good nature werthu peth o hono i gymydog, ae mewn pertbynas i'r gwin, mai gwin sacramentaidd y capel Cynulleid- faol sydd ar gyfor ydoedd. Dywedodd Syr Rupert Kettle fod yn ymddangos iddo ef fod esgusodion y difiynydd yn ddeublig, partly piety, partly charity. Gnhiriwyd y achos. Rhaid cael Reform." FFAITII.—Yn ddiweddar, mewn pentref heb fod gan milldir o Dowyn, gadawodd dynes Feibl hardd, gyda clasp wrtho, ar ol yn un o seti un o'r capelydd Ymneillduol ddiwrnod y cyfarfod mawr, a'r Sul can- lynol gofynwyd i'r 'gethwr gyhoeddi hyny ar ol yr oedfa, yr hyn a wnaeth yn y modd canlynol:— Mae'r brodyr wedi dymuno arnaf ddweyd fod rhywun wedi gadael Beibl ar ei ol a'r 'Clipse arno." YMWELWYR.—Wele eto dymor- y dieithriaid yn nesu at y terfyn, a'r gwanwyn yn gwawrio arnom. Cafwyd season gyda'r goreu, os nad y goreu eto, yr hyn a brawf nad ydyw Towyn yn colli ei bri fel ym- drochle. Ofnir i'r ystorm ddydd Sadwrn niwoidio y pytatws a rhai gwyrddlysiau yn yr ardal hon, ond y fath gnwd o wedi ei gael. Yr ydlan yn llawn ar gyfer dyn ac anifail, a'r fath ddiolch sydd yn ddyledus am hyn. GWYTJ DE.—Rhoddwyd gwledd o dO i holl blant y dref dydd Iau, y 4ydd eyfisol, gan Mrs. Thomas Jones, Highgate, Llundain, er cof am briodas Miss Williams Wynn. Gorymdeithiwyd drwy heolydd y dref yn swn cerddoriaeth a chwifiad banerau i Neptune Hall. Cafwyd te a chwareuon o bob math. Clywid hen glychau y Llan o bell ac agos. YR EGIAVYS.—Gwneir ymdrech egniol gan ficer y plwyf i gasglu digon o arian i orphen adgyweiriad yr Hen Eglwys. Mae y swm o fil o hunau mwy neu lai yn angenrheidiol i wneyd y nave, y rhan o'r Eglwys sydd yn anorphenedig. Mae gwaith mawr wedi ei wneyd yn y plwyf eisoos, a gobeithir y ceir y swm uchod ac y coronir llafur y ficer a llwyddiant. Bu yr Hen Eglwys yn orlawn ar y Suliau yr haf hwn- prawf mai tyb y dieithriaid ydyw mai y Llan, Llan, Llan yw'r fan i fod.t-Semper Fidelis.
PENBOYR.
PENBOYR. Yr oedd rhyw fuss i'r feddi yn pentre'r Lindre yma pan ddaeth y LLAN y tro diweddaf. A dywedodd nhad wrthyf finau am fyned i'w chyrchu i gael gweled beth oedd y mater. A gwarchod ni, beth debygweh chwi ? Yr oedd yr hen grwt Roger y mrawd wedi bod yn sgwenu iddi, Wyddwn i, na'r hen wr nhad, fod o'n gallu sgwenu o gwbl. Ond yn wir, a ystyried na fu o yn ysgol erioed, sgwenwr campus ydy Roger. Haner yn Saesneg, a haner yn Gymraeg. Y mae o wedi bod fyny unwaith, welwch chi, gyda'r excursion yn Llundain, ac wedi dysgu llawer iawn o eiriau Saesneg cyd a mraich i. Ond sylwadau pur anghywir oedd gyda o. Rhyfedd sut esboniad roddodd o o'r hen ddywediad, Y mae dy haner di yn Mhemboyr." Nid yn hynod am eu synwyr fel y dywedodd o oedd hen drigolion Pen- boyr, yn fwy na'r trigolion presenol, ond am y nifer mawr o feirdd a breswylent yn y plwyf. Ac yn wit llygriad ydy'r gair Penboyr o Pen-y-beirdd. A bu paratoadau mawrion yn cael eu gwneyd yn amser y beirdd yma yn y plwyf hwn a'r plwyf cyfagos i gynal gorsedd yn Penboyr. Ond er yr holl baratoadau a'r swn aeth y cwbl yn flat. Ac ar ol hyny buasai'r beirdd yn arferol o ddweyd am ddyn ffol, neu ryw- beth arall a fuasai yn weled allan o le, ei fod fel Gorsedd Penboyr, heb ond haner ei wneyd. A rhywfodd neu gilydd fe wisgwyd yr idea a'r geiriau, Mae dy haner di yn Mhenboyr." Ond fyddaf fi byth yn ffafrio'r ffordd yma o esbonio'r hen ddywed- iad. Y mae geiriadjgivell !gen i na'r un arall, fel y canlyn. Yr oedd yr hen fardd, Dafydd Ap Gwilym, yn Crynyd, Penboyr, ac yr oedd- Morfydd, ei gariad, yn byw yn agos i Aberystwyth. Yn amser y garwr- iaeth, canodd Dafydd bedwar cywydd ar hugain i Morfydd. Ac yr ydw i yn meddwl iddo ddweyd yn un o'r rhai hyn, fod un haner iddo yn Mhenboyr, a'r haner arall yn agos i Aberystwyth. Osydwyf wedi gwneuthur rhyw gamsyniad, yr wyf yn sicr y gwnaiff darllenwyr mwyn y LLAN faddeu i mi yn treio helpio tipyn o'r hen grwt Roger. Y ma yn ddrwg iawn genyf orfod dywedyd wrth ddarllenwyr y LLAN fod Roger wedi dywedyd gwir- ionedd pur am y capeli ac am y Band of Brothers. Ond mae rhai yn dywedyd fod y brothers, wedi rhoddi explanation boddhaol mai Consumption of Llaeth enwyn ac nid consumption of spirits oedd eu dolur. Tra yr ydw i wedi bod yn sgwenu, y mae hen wr nhad wedi bod yn gwneuthur pwt o gan fach, fel cynghor i Roger, i mi gael ei ddodi ar y diwedd medd ef, a dyma fe, Rhoi cynghor wnaf i Roger Boyr Am fod yn ddoeth a chall, Wrth drin rhyw bwnc, doed at ei dad, Nid myn'd at hwn a'r llallOliver Boyr.
ABERAFON.
ABERAFON. Y SCRIW MEWN CAPEL.—Gohebydd a ddywed fod Mr. Thomas Phillips, Blackwells, gerilaw Aber- afon, gweithiwr parchus a gwybodus, a'r hwn ydoedd hefyd yn flaenor gyda'r Bedyddwyr yn nhapel y Tabernacl yn y lie hwnw, yn ddiwedelarwedi ymuno &'r blaid G'eidwadol, gan ei fod wedi ffieiddio gwlad- lywiaeth y rhai a alwant eu hunain yn Rhydclfrycl- wyr, a rhoddodd ei bresenoldeb yn yr arddangosiad Ceidwadol a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Nghastell- nedd. Ymddengys fod hyn wedi cythruddo aelodau eraill y capel yn ofnadwy, a phenderfynodd doethion y "sêt fawr" ddwyn y mater gerbron. Ddydd Sul cyn y diweddaf, wedi llawer iawn o ymdrafodaetli, dygwydd y pwnc pwysig yn swyddogol dan sylw y frawdoliaeth. Cynhaliwyd cyfarfod ar ol y gwasan- aeth boreuol, ae wedi trafod rhai materion anmhor- thynasol, dygwyd ymlaen y cwestiwn, "Beth sydd i'w wneyd i Thomas Phillips yma am fyned gyda'r Toriaid pechadurus i'r cyfarfod y dydd Iau blaen- orol ? Yr oedd Mr. Phillips hyd yma yn hollol anwybodus o'r hyn fwriedid ddwyn ymlaen, ac wrth gwrs, pan ddeallodd beth oeddynt yn drafod, gwrth- wynebodd yn bendant iddynt ymyraeth a'i farn boliticaidd, a dechreuodd holi y barnwyr hunan- otholedig o barth i'w hymddygiad:—" A ydoedd efe yn euog o ymddwyn yn anweddus y diwrnod dan sylw, neu wedi cyflawni unrhyw drosedd moesol ? Naddo," ydoedd yr atebiad, ond nid oedd genych unrhyw fusnes i fod yn nghwmni yr hen Doriaid yna." O'r goreu," meddai Mr. Phillips; II gan fy mod yn awr yn gweled yn eglur fod y lie hwn yn cael ei ddefnyddio i ddibenion politicaidd, ffarwel," a chyda hyn cymerodd ei het ac aeth allan, ac nid yw am fyned yno mwyach. Gwyn fyd na ddangosid y fath annibyniaeth meddwl ymhob capel lie y mae y math Jhyn o scriw ym cael ei defnyddio. Dywed awdurdodau y capel yn awr mai nid beio Mr. Phillips yr oeddynt am roddi ei bresexsoldeb mewn cyfarfod Geidwadol, ond am esgeuluso y meddion a gynhelid yn y capel ynghyd a'i ddyled- svyyddau er mwyn gweled difyrion bydol.—-Afonfab.
CORWEN.
CORWEN. PENODIAD MEISTB A MEISTRES Y TLOTTY.-Dydcl Gwener diweddaf ydoedd diwrnod mawr penodiad y awyddogion uchod. Yr oedd lluaws ar y maes, ond da genym hysbysu mai Mr. a Mrs. Williams, Grocers, Corwen, a fu yn llwyddianus. Y mae Mr. Williams yn adnabydclus yn yr ardaloedd hyn fel dyn cymer- adwy, a diameu genym y bydd iddo lenwi y swydd yn anrhydeddus megis ag y gwnaeth ei flaenoriaid. Eiddunwn i'r ddau hir oes a llwyddiant yn eu swydd- au newydd.
PENTYRCH, GER CAERDYDD.
PENTYRCH, GER CAERDYDD. EISTEDDFOD.—Dydd Llun, Medi Sfed, cynhaliwyd Eisteddfod fawreddog yn y lie uchod o dan nawdd Arglwydd Aberdar, O. R. M. Talbot, Ysw., A.S., a Syr H. H. Vivian, A.S. Gynhelid yr Eisteddfod mewn tent mewn maes cyfleus a godwyd at y pwrpas. Beirniaid yr Eisteddfod oeddynt: Cerddoriaeth—D. Jenkins, Ysw., Aberystwith, Rhyddiaeth a Bardd- oniaeth—Parch. C. Tawelfryn Thomas, Groeswen. Areithio, Adrodd, &c.-Parch. J. Towyn Jones, Gwernllwyn, Dowlais, a Mr. E. Wnion Evans, Dol- gellau. Gwasanaethau Madame Clara H. Davies ar y berdoneg. Dechreuwyd cyfarfod y boreu drwy i'r sejndorf The Pride of the Valley" roddi detholiad chwathus o ddarnau poblogaidd. Llywydd-Parch. J. Davies, Taihirion. Cadeirydd-Parch. C. L. Roberts (Gwronfab). Mr. Tawelfryn Thomas oedd yr tinig fardd a ddaeth ymlaen i anerch yr Eisteddfod. Allan o ddeg yn y gystadleuaeth Unawd, "-Hawdd yw canu," gwobrwywyd Mr. J. Lewis, Pontypridd. O'r lluaws ddaeth ymlaen i adrodd Wesul Tipyn," enillwyd y wobr gan Mr. John Phillips, Gwaelod- ygarth. Amddadganu "Children's Home," gwobr- wywyd Miss S. E. Parker, Ystrad Rhondda, gyda chanmoliaeth uchel. Yr enillydd ar y prif draeth- awd "Darganfyddiadau gwyddonol ]yr ugain mlyn- edd diweddaf," ydoedd y Parch. W. Rees, Ffynon Taf. Dyfarnwyd Miss E. Thomas, Pentyreh, ac M. J. Davies, Pontypridd, yn gyfartal oreu am ddarllen yn ddifyfyr. Can gan Miss Goslett, Groeswen, gyda chymeradwyaeth. Am y Farwnad oreu i Mrs. Watkins, Llan Farm, dyfarnwyd eiddo y Parch. D. Onllwyn Brace, yn oreu o'r pump ddaeth i law. Un ddaeth ymlaen i areithio yn ddifyfyr. Y testyn ydoedd Llygoden yr eithin;" ond ataliwyd y wobr o ddiflyg teilyngdod. Eiddo Nathan Wyn, Ponty- pridd, a wobrwywyd fel yr Englyn goreu i Gordon; a pharti o Bentyrch a gafodd y wobr am ganu The Mighty Conqueror." Diweddoddhynwaitheyfarfod y boreu ac er fod y gwlaw yn disgyn yn anghyff- redin, yr oedd yeynulliacl uwchlaw y disgwyliad goreu. Cyfarfod y prydnaion.—Dechreuwyd hwn eto drwy i'r seindorf chwareu. Cadeirydd, Thomas Watkins, Ysw., Yew Tree Cottage arweinydd, y Parch. O. L. Roberts (Gwronfab). Dyfarnwyd Mr. D. Davies, Ton, Ystradyfodwg, yn oreu am yr unawd Safodd a mesurodd y ddaear." Am yr araeth oreu Y Geninen Werdd," dyfarnwyd Mr. W. Phillips, Gwaelodygarth, yn wir deilwng o'r wobr. Am ddar- llen cerddoriaeth ar yr olwg gyntaf, dyfarnwyd Mri J. Thomas, Pentyrch, a D. Evans, yn gyfartal. Mr. John Jones, Pontypridd, aeth a'r wobr am y Solo Bass. Am y Bryddest, Y Sarph bres," dyfarnwyd eiddo Ap lonawr, Llansamlet, yn fuddugol. Dy- wedai y beirniad fod rhai darnau y bryddest hon yn anfarwol. Am y deuawd, "Mae Cymru'n barod," rhoddwyd y wobr i Mr. John John a'i gyfaill. Allan o ddeuddeg a ddaeth ymlaen i adrodd "Yr Ystorm," Hwfa Mon, dyfarnwyd Miss Lovitt (Bronwen Deg), Merthyr, yn oreu gyda chanmoliaeth mawr. Yn awr, deuwyd at brif waith y cyfarfod, sef y gystadleuaeth gorawl. I'r cSr o unrhyw niter a ganai'n oreu 0 Father whose Almighty power," gwobr £ 10 10s., a £ 2 2s. i'r arweinydd. Daeth saith o gorau ymlaen, sef Salem (Llanelltyd), Efailisaf, Pentyrch, Roath (Caordydd), Abercanaid (Merthyr), Penarth, a Pont- ypridd. Dyfarnwyd yr olaf yn oreu yn nghanol cym eradwyaeth mawr. Diweddodd hyn waith yr eistedd fod. Yr oedd y cynulliad yn y cyfarfod hwn yn ar- uthrol—y tent yn orlawn, ac ugeiniauyn iiietbu, cael lie er talu am docynau. Bernir fodtua mil a haner yn bresenol. Gwnaeth Gwronfab ei waith yn an- rhydeddus drwy y dydd, a dangosodd allu mawr i arwain yn yr hen wyl Gymreig, pan y llwyddodd i gadw y fath gynulliad anghysurus mewn trefn a thymer dda. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cynglierdd mawreddog o dan lywyddiaeth E. D. Howells, Ysw., manager, Cymerwyd rban ynddo gan y Bcirniac1 Cerddorol, Llinos Cenydd, Caerphili; Mri. Tom Howells, a John John, Pontypridd; ac Eos y Gartfc. Gwnaeth pawb eu gwaith yn anrhydeddus, a diweddwyd y gweithrediadau drwy ganu yr Anthem Genedlaethol,
IPENYBONT.
PENYBONT. Prydnawn ddydd Gwener, cynhaliwyd gwyl gorawl yn Nghapel Anwes Nolton, gan gorau Llan- trisant a Maesteg. Yr arweinydd ydoedd Mr. Tom Williams, Pontypridd, ae yr oedd y etinu yn fendigedig. Yr anthem ydoedd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel," yr hon a ddadganwyd yn hynod chwaethus. Cymerwyd rhan yn y gwasan- aeth gan y Parchn. D. Francis, Llantrisant; Lewis Jones, Llangattwg, Castellnedd W. Edmondes, Coity a phregethwyd gan y Parch. Z. P. Wil- liamson, Margam. Ymhlith y rhai oedd yn brosenol gwelsom y clerigwyr canlynol yn ychwanegol at y rhai a nodwyd uchod :—Parchn. R. P. Llewelyn, Llangynwyd; H, J. Humphreys, Llangan; J. P. Hughes, Llantrisant J. Jones, Eweni George Thomas, Gastellnewydd; W. Jones, Nottage; Jenkins, Coychurch; Henry Lewis, St. Bride's Minor a Lewis Jones, Coity.—Rhywun.
DOLBENMAEN._
DOLBENMAEN. DAMWAIN ANFFODUS.—Dydd Mercher, y 3ydd cyfisol, fel yr oedd Mr. R. M. Greeves, Wern, a'i gamekeeper, yn ffowla. ar fferm y Glyneny, a geneth o forwyn yn casglu briwydd ar y tan, cododd haid o betris, pan y cododd yr oneth yn unionsyth ar yr un foment ag yr oedd yr ergyd yn cael ei ollwng at y petris, yr hon, yn anffodus, a aeth i wyneb yr eneth, gan ei niweidio yn dost. Dywedir iddi golli un llygad ae anafu y llall. Rhoddodd y boneddwr hi dan ofal meddyg (Dr. Griffith, Porthmadog), ga,n ymddwyn yn dra theimladwy a gofidus oherwydd yr anffawd hollol ddamweiniol hon.-Gohebydd.
\ LLANRWST.
LLANRWST. Yn llys y trwyddedau a gynhaliwyd yn y lie uchod ddydd Mawrth, gerbron Mr. Sandbach ac ynadon eraill, gwrthwynebai yr Arolygydd Hammond i drwydded y Boat Inn gael ei hadnewyddu, ar y tir nad oedd Mr. D. Jones, y preswylydd, yn cadw y tý mewn trefn briodol. Ymddangosai Mr. R. S. Chamberlain dros y gwestywr, a Mr. Jones-Morris droa y perchenog. Gwrthododd y fainc ei hadnew- yddu. Gofynodd Mr. Jones-Morris a fuasent yn ail ystyried yr achos pe buasai tenant newydd yn dyfod i'r tý, ond ni addawyd hyny.—Y trwyddedau eraill a wrthwynebwyd oeddynt y Glan Conwy Inn, Star, Penybont, a'r ddau Bull Inn. Yr oedd trwyddedau y ddau olaf yn geledig," a gwrthwynebodd Mr. Sandbach yn gryf eu hadnewyddu. Penderfynwyd na chaniateid trwyddedau iddynt yn y dyfodol, os na ddefnyddid hwy fel tafarndai. Cafodd trwydded y Feathers Inn ei gohirio am bymthegnos, o herwydd cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn yn ddiweddar.
BANGOR.
BANGOR. FFUGIO YNGLYN AG EWYLLYS.—Yn llys yr ynadon ddydd Llun, cyhuddwyd Catherine Morris, gweddw, o fiugio ewyllys ei chwaer, yr hon oedd wedi marw. Yn mis Mai diweddaf yr oedd chwaer y garcharores yn wael, a bu farw cyn gwneyd ewyllys. Y diwmod ar ol ei marwolaeth darbwyllodd garcharores gy- mydog o'r enw Ellis Jones i ysgrifenu ewyllys yn ei ffafr hi, yr hyn a wnaed. Profwyd yr owyllys, pryd yr oedd William Jones, llafurwr, yn dyst. Fodd bynag, dychrynodd Ellis Jones o herwydd yr hyn a wnaed, a thystiolaethodd yn orbyn y garcharores. Dedfrydwyd hi i sefyll ei phrawf yn y frawdlys ar y cyhuddiad o fiugiaeth ac anudoniaeth.
RHIWABON.
RHIWABON. DAMWAIN DDIERIFOL.—Yn Acrefair, ger Rhiw- abon, dydd Iau diweddaf, gwnaed ymchwiliad i mewn (gan Mr. Thelwall, y trangholydd sirol) i farwolaeth dyn ieuanc, 21 oed, o'r enw Isaac Hughes, yr hwn a gyfarfyddodd a'i ddiwedd yn mhwll rhif 1, gwaith glo Wynnstay. Yr oedd Mr. J. L. I-Iodley, arolygydd mwn-gloddiau, yn bresenol. Ymddengys mai gwaith y trancedig fyddai llenwi gwageni, neu y twbiau, a glo, y nghyda gyru y rhai gweigion i lawr ac anfon y rhai llawnion i fyny. Yr oeddynt yn eu cadi coci a'u gyru i lawr ar hyd incline, gyda chadwen, wrth ba un y byddai y twbiau wedi eu bachu. Dywedodd amryw dystion eu bod wedi gweled y trancedig yn cael ei daraw ar ei ben gan wagen lawn, yr hon a ddeuai i lawr ar hyd yr incline gyda nerth mawr. Yr achos o hyny ydoedd nad oedd y wagen wedi ei bachu yn briodol pan yn cychwyn, neu ei bod wedi dadfachu o honi ei hun wrth ddyfod i lawr. Dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol, ond ar yr un pryd dymunai y rheithwyr ar i'r rhai a arferant weithio mewn lleoedd peryglus fel hyn gy- meryd mwy o ofal.
BEAUMARIS.
BEAUMARIS. GWOBRWYO T.EILYNGDOD.-Dydd Mawrth cafodd Mr. John Roberts, yr hwn sydd wedi bod am lawer o flynyddau yn brif-swyddog y pier, ei anrhegu ar y pier gan Mr. A. H. Gossage gyda llyfr Bane Cynilo y Llythyrdy, yn yr hwn yr oedd 15p. wedi eu cofnodi yn ei enw ef. Casglwyd y swm yma yn mysg yr ym- welwyr yn y dref hon fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o ymddygiad caredig Mr. Roberts yn gyffredinol, ac yn neillduol fel gwobr iddo am ei waith yn achub 20 o bersonau rhag boddi yn ystod yr amser y buodd yn pier-master. Yn 1813, derbyniod Mr. Roberts bronze medal y Gymdeithas Ddyngarol Frenhinol.
TREHERBERT.
TREHERBERT. Cynhaliwyd cyfarfod o ddiolchgarweh am y cyn- hauaf yn yr Eglwys Gymreig, yn y lie uchod, nos Fercher, Medi lOfed. Dechreuwyd y cyfarfod drwy ganu yr emyn, I Dad y trugareddau." Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. Daniel Felix, curad y lie, a'r llithoedd gan y Parch. William Lewis, ficer y plwyf. Pregethodd y Parch. Rowland Jones, ficer Glyntaff, i gynulleidfa luosog oddiar y geiriau, Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd." Fe ganodd y cor (er fod nifer o honynt yn eisiau) yr emynau, chants, a'r anthemau yn rhagorol o dda. Mae'r arweinydd, Mr. Watkin Rees, yn haeddu can- moliaeth am ei lafur a'i ddiwydrwycld yn eu dysgu. Chwarouodd Mr. John Martin yr Harmonium fel arfer, yn dda iawn. Yr oedd yr Eglwys wedi ei gwisgo yn ddestlus dros ben ar gyfer yr amgylchiad, gan y gwragedd a'r merched caredig eanlynol Mrs. Price, Mrs. Lewis, Mrs. Bowen, Mrs. Clark, Miss Jones, a Miss Thomas, yn cael eu cynorthwyo gan Mr. Lewis, Mr. George, Mr. Felix, ac oraill. Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar iawn iddynt am eu trafferth, ac hefyd i Mrs. Evans, Ynysfoio a Mrs. Thomas, P.S.; ae eraill, am anfon y blodau a'r ffrwythau yno.—D.S.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. GWYL GORAWL.-Nos Iau, cynhaliwyd gwyl goraw Gymreig yn Eglwys St. Catherine, Pontypridd, pryd y eymerwyd rhan gan y corau canlynol:-Aberdar, St. Fagans; Gwmhach, Cymmer, Blaenllechau, Mardy, Ystradyfodwg, a Pontypridd, yr oil yn rhifo 300 o leisiau. Yr arweinydd ydoedd Mr. Tom Wil- liams, a chyflawnodd oi waith yn ddeheuig. Inton- iwyd y gwasanaeth gan y Parchn. J. H. Protheroe, Pontfaen, a H. J. Williams, Aberdar, a thraddodwyd prcgoth northolgan y Parch. T. H. Hughes, Aber- honddu.
LLANLLECHID.
LLANLLECHID. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. HUGH THOMAS, SAER.-Mae'n ddrwg iawn genym orfod cofnodi marwolaeth un o'n hen gymeriadau disgleir- iaf yr ardal, set Mr. Hugh Thomas, yr hyn a gymer- odd le ddydd Gwener, y 5ed cyfisol yn yr oedran teg o 76 mlwydd oed. Yr oedd yn Eglwyswr cadarn a zelog ar hyd ei oes, a pherehid ef yn fawr ge-n bawb a'i hadwaenai. Dydd Mercher, Medi 10, hebryng- wyd ei ran farwol i fynwent Llanllechid g°-n dyrfa barchus o geraint a chyfeillion. Gwasanaethwyd wrth y ty a'r Eglwys gan yr Hybarch Archddiacon Evans a'r Parch. D. Richards, curad, a chanodd y c6r amryw emynau yn swynol. Heddwch i'w lwch a nawdd Duw i'w deulu galarus. EiN CYFARFOD BLYNYDDOL.-Dydd Iau, y 25ain cyfisol, yw y dydd penodedig i ni i gynal ein cyfarfod blynyddol arno. Agorir y cyfarfod y noson flaenorol, pryd y pregethir gan y bardd a'r lienor llafurus Glanmor, ac y mae disgwyliad mawr am ei ym- ddangosiad am y waith gyntaf yn Llanllechid. Dranoeth addawa y Parchedigion eanlynol eu gwas- anaeth gwerthfawr i ni, sef Rees, Llanfwrog; Jenkins, Capel Curig, a Jones, Bangor. Yr ydym yn gobeithio y cawn gyfarfod llewyrchus fel arfer.-D. J.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. Y GYSTADLEUAETH GERDDOROL. Hysbysa ys- grifenydd y gystadleuaeth hon, a gynhelir yn Mharc Penydarren, dydd Llun nesaf, fod nifer lluosog o ymgoiswyr wedi hanfon eu henwau i mewn, a bod y rhagolygon am gyfarfod llwyddianus yn hynod addawol, er gwaethaf y ffug-sancteiddrwydd a amlygir gan rai yn ei erbyn. Gall y rhai a ddeuant yma ddydd Llun deimlo yn hyderus y mwynhant wledd gerddorol o'r dosbarth uchaf. Os bydd yr hin yn anffafriol cynhelir y cyfarfod yn y Drill Hall, adoilad digon eang i gynal rhai miloedd. Eiddunwn i'r mudiad bob llwyddiant, a hyderwn nad yw hwn ond dechrouad cyfres o gyfarfodydd o'r fath' CANIADAETH GYSEGREDIG.—Nos Sul diweddaf, bu Mrs. Watts Hughes, Llundain, yn cael ei chyn- orthwyo gan Eos Alma, Eos Fach, Miss Jones, &c., yn cynal gwasanaeth crefyddol yn y Drill Hall, pryd yr oedd yr adeilad eang yn orlawn, a chanoedd yn gorfod aros allan. Canasant amryw emynau, unawdau, &c., nes gwefreiddio y dorf fawr. Gwnaed casgliad ar y diwedd tuag at y Cartref i Blant An- ghenus sydd wedi ei sefydlu yn Llundain gan Mrs. Watts Hughes. COR EGLWYS ST. DEWI.-Da genyf hysbysu fod Mr. Lawrance, organydd ac arweinydd yn yr Eglwys hwn, yn bwriadu cynal cyngerdd Hydref 23ain, tuag at chwyddo trysorfa adnewyddiad yr organ. Nid yw y manylion yn hysbys eto, ond gellir disgwyl gwledd gerddorol o'r fath oreu, yr hon fyddyn sicr o dderbyn cefnogaeth gyffredinol, gan fod Mr. Law- rance wedi cael profiad maith ynglyn a pharotoi cyngherddau. Bydd yr organ, yr hon a fwriedir ail agor yn mis Tachwedd, yn un o'r rhai goreu yn Neheudir Oymru.
LLANDUDNO.
LLANDUDNO. CYMDEITHAS YR S.P.G.—Digwyddodd camgymer- iad yn y swm a gasglwyd yma tuag at y gymdeithas uchod wythnos i'r Sul diweddaf. Yn lie £ 3, dylasai fod yn £31.-Gohebycld.
LLANBADARN FAWR.
LLANBADARN FAWR. Mae yr eglwys hon a Llanrhystyd yn enwog am eu cyfarfodydd blynyddol, ac yr wyf wedi arfer eu mynychu er yn blentyn, ac wedi mwynhau llawer o bregethau godidog ynddynt. Dydd Gwener, y 12fed o'r "mis hwn, oedd diwrnod agoriad Chancel Eg- lwys Llanbadarn, ar ol adgyweiriad trwyadl. Dy- wedir mai yr eglwys hon yw yr harddaf yn Nghymru. Mae wedi costio rhwng saith ag wyth mil o bunau i'w hadgyweirio. Mae ymdrech y ficer yw cario ymlaen waith y cysegr yn y plwyf enwog hwn yn haeddu rhywbeth yn fwy na thipyn o glod gan yr Esgob a'r newyddiaduron. Nid ydyw gwerth byw- ioliaeth Llanbadarn ond ychydig mewn cydmariaeth i'r igwaith. Dechreuwyd y gwasanaeth am 11, yn Saesneg, pryd y pregethodd yr Esgob yn ardderchog ar y geiriau hyny, A ranwyd Crist." Byddai yn dda pe byddai pob offeiriad a'r pregethwyr Ymneillduol yn meddu ar yr un ysbryd addfwyn a'r Esgob. Gweddiodd yn daer cyn dechreu y bregeth am undeb ysbryd brawd- garol rhwng Cristionogion a'u gilydd, ac yn ei bregeth fe brofodd o'r Ysgrythyr yn glir y niwed- dychrynllyd mae ymraniadau yn wneuthur ar hyr- wyddiad Cristionogaeth, ond er hyny dywedodd nad oedd unffurfiaeth yn anhebgorol anghenrheidiol i undeb, a phan welai Ymneillduwyr uniawn pryd nad oes ond ychydig o wahaniaeth rhyngddynt a'r eglwys, mae dyma pryd y cawn yr undeb. Am ddau o'r gloch intoniwyd y Litani gan y Parch. John Williams, Llangeler, a pregethodd y Parch. E. T. Davies, Aberdyfi, yn odidog. Am' 6.30 yn yr hwyr, intoniwyd y gwasanaeth yn bert iawn gan y Parch. E. J. Evans, curad Llansanan, a phregethwyd gan y Parchedigion J. Williams, Llangeler, a H. Jones, Manordeifi. Dyma y cyfarfod godidocaf y bu'm ynddo erioed. Nid wyf yn meddwl i mi glywed gwell canu yn fy mywyd. IEr fod y canu yn y gwasanaeth Saesneg yn y boreu yn ardderchog, eto nid oedd y tan Cymreig ynddo; dyma ile'r oedd "sain can a moliantfel tyrfayn cadw gwyl." Yn wir wrth ganu yr hen don Brynhyfryd" ar y geiriau Mae'r gwaed a redodd ar y Groes," mi gredais y byddai yn myn'd yn Haleliwia. Nid y cor yn unig oedd yn canu ond dwy fil o gynulleidfa. 0 na bai Mr. Henry Richard a'i gyfeillion sydd yn dweyd fod yr Eglwys yn farw yn Nghymru yno, caent weled eu cam- syniad; yr oedd yma ysbryd y "peth byw." Y ddwy bregeth eto. Y mwyaf coeth-nid oedd yma ddim brawddegau cyffredin, dim geiriau sathredig fel y clywir yn ami, dim hen ystoriau wedi eu hadrodd ganwaith o'r blaen, ond yr efengyl yn bur fel y mao yn yr losu. Yr oedd dau Ymneillduwr yn eistedd wrth fy ochr-un yn ddiacon gyda'r Methodistiaid, II Faehgen," meddai;" ni chlywais ar fy nglustiau erioed well dwy brogeth, ni chymer- wn haner sofren a'u colli." Ynnawr wrth derfynunid oes genyf ond gobeithio y bydd i Dduw arddel eu llafur, a bod y canoedd oedd yn bresenol wedi myned i'w cartrefleoedd yn teimlo fod gwaith yr Ysbryd wedi dechreu ynddynt.-Piheidiol. Gohebydd arall a ddywed Dydd Gwener diweddaf ail-agorwyd yr Eglwys eang a phrydferth hon ar ol yr adgyweiriadau helaeth. Mae tua k7000 wedi eu gwario ar yr eglwys hon yn ystod y 14 mlynedd di- weddaaf, ac y mae yn awr yn un o'r eglwysi harddaf yn y DyWysogaeth. Gweithiodd y Parch. J. Pugh, periglor, a'r pwyllgor yn ganmoladwy, gan nad oes yn awr ond tua -1900 o ddyled yn aros, swm o delir ymaith yn fuan mae'n ddiau. Rhoddwyd y pulpud ardderchog gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi, er cof am ei fam, ac anrhegwyd yr eglwys a ffanestr lliw- iedig hardd gan y diweddar Mr. Powell, Nanteos, Mr. G. F. W. Powell, y Parch. J. Pugh, Mr. J. T. Morgan, &c.-Gohebydd.