Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y TERFYSGOEDD YN MERTHYR TYDFIL.

NEWYDDION AMERICANAIDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION AMERICANAIDD. (O'r Drych.) Yn ol yr adroddiad diweddaf, y mae yn y Tal- aethau Unedig dros 50,000 o bost-swyddfau, sef tuag un swyddfa ar gyfer pob mil o bobl. Hysbysir fod chwech o aelodau Pwyllgor Tal- aethol Democrataidd Massachusetts, wedi encilio ac ymuno gyda phlaid B. F. Butler, gan nad oes gobaith am ethol Cleveland. Dywedir fod Hendricks, yr ymgeisydd Democrat- aidd am yr Is-Arlywyddiaeth, wedi anfon at Grover Cleveland", i'w rybuddio i beidio entjilio o'r maes, gan fod buddugoliaeth ogoneddus yn eu haros. Cyhoeddir yn newyddiaduron California fod gan y Dalaeth hono achos i fod yn ddiolchgar a llawen iawn, canys credir y bydd ffrwyth y win- wydden yno eleni yn 15,000,000 o alwyni. Cyhoeddwyd yn newyddiaduron Connecticut, yr wythnos ddiweddaf, fod George N. Wilson, labrwr tlawd yn Wiristed, wedi dyfod yn etifedd o 1,000,000 o ddoleri, drwy farwolaeth perthynas yn Leith, Ysgotland, Hysbysir na fydd i swyddogion yr agerlongau roddi yr ymdrech i fyny i groesi y mor yn gyflym, hyd nes gall eu teithwyr fyned i'r capel yn Queenstown un Sul, ac yn New Now York yr ail Sul. Dyna ydyw eu huchelgais.1 Ar y 12fed o Awst, yn Lake View, Chicago, darfu i'r Parch. H. M. Collison, gweinidog y Full- erton Avenuel Presbyterian Church, lofruddio ei wraig, ac wedi hyny saecbodd ei hun. Ni ad- awodd air o esboniad ar ei ymddygiad erchyll. Fel yr oedd bachgen un mlwydd ar ddeg oed, o'r enw John Hopkins, a'i ben allan drwy ffenestr, ac yn edrych i'r Lucas Shaft, Scranton, Pa., daeth y cerbyd glo i lawr yn sydyn a thorwyd pen y truan oddiwrth ei gorff. YOUNGSTOWN, 0., Awst 26.—Y mae John B. Phillips a'i briod yn bwriadu cychwyn o New York am Gymru, yn yr Alaska, ddydd Sadwrn. Brodor yw Mr. Phillips o Dowlais, ond yn y wlad hon er's 23. mlynedd. Hefyd bydd Mrs. Samuel J. Bassett, yn croesi y Werydd yn yr un llestr, ac yn ymweled yn benaf a hen gartref ei phriod, sef Llwynhendy, sir Gaerfyrddin. Ei bwriad yw treulio tua blwyddyn yn yr Hen Wlad. CEMBRIA, Wis., Awst 26.-Boreu dydd Sadwrn, Awst 23ain, ar ol cystudd lied faith, yn 76 mlwydd oed, bu farw yr hen wr parchus, tad Mr. Thomas, a thad gwraig yr Anrhyd. E. W. Lloyd, y mas- nachwyr mwyaf yn Cambria. Nid wyf yn deall fod dim afiechyd neillduol ar Mr. Thomas—dim ond henaint a gwendid-disgyn i'r bedd fel ysgafn o yd yn ei amser. Haner awr wedi haner dydd, cychwynodd y cynhebrwng o dy Mr. Thomas at y tren, i fyned i Bangor, Lacrosse, lie y cymerai yr angladd le dydd Llnu. LAKE EMILY, WIS, Awst 20.-Hynod boeth yw y tywydd yma yn awr—y gwresfesurydd o 90 i 100 o raddau yn y cysgod a lied anhawdd yw i neb sefyll allan i weithio pan y bydd mor boeth a hyny. Mae y cynhauaf bron wedi myned heibio, a phawb wedi gwneyd ei ran i gasglu ei lafur i ddiddosrwydd.JGallwn feddwl fod y cnydau yn lied drymion gan bawb ac o ansawdd dda ar y cyfan. Mae'r ffrwythau hefyd yn edrych yn rhagorsi, ac mae gobaith am gorn da eleni; os na ymddengys y rhew yn rhy gynar a'i niweidio. MERCHED GLANMARCHLYN.—Y dyduiau hyn y mae Misses Jennie Owen o Chicago, a Priscilla ei chwaer, o St. Paul, ar eu hymweliad a'u cartref newydd ar y llinell derfyn rhwng Talaethau Ver- mont a New York. Y ddiweddaf sydd wedi bod am y flwyddyn ddiweddat yn ninas New York, yn perffeithio ei hun yn ei dysg gerddorol, ac enill iddi ei hun radd-lythyr neu diploma, fel athraw- es leisiol ac offerynol, yn ogystal ag yn gantores o radd uchel. Byddant yn dychwelyd yn ol i'r Gorllewin tua diwedd Ebrill. BEVIER, Mo., Awst 26.-Tipyn yn dywyll yw pethau mewn ystyr weithfaol yma. Y mae y meistri ar eu goreu (rhai o honynt o leiaf) yn ceisio gwthio arnom hen gyfundrefn ysbeilgar y screens, trwy yr hon ddyfais byddant yn alluog i ddwyn odiarnom un rhan o bedair o'n henillion yn y man lleiaf; ond yr ydym yn dra hyderus y gallwn lwyddo i'w cadw draw am dipyn, os bydd dynion yn ddoeth. Modd bynag, cynghorem bawb i gadw draw oddiyma ar hyn o bryd. NANTICOKE, PA., Awst 15.—Y mae wedi bod yn ffwdan tawr yma wrth geisio atal trwyddedau i bawb o'r tafarnwyr y flwyddyn hon. Y maent hwy wedi atal talu, ond beb atal gwerthu diod. Ni chafodd ond rhyw dri neu bedwar o'r oll-tua 26 mewn nifer-drwyddedau i werthu; ond y maent braidd oil yn gwerthu, Sul, gwyl, a gwaith. Cadwer y cyfreithiau sydd genym, ac os na fydd y rhai hyny yn ddigon, myner rhai gwell. Waeth heb son am ddeddfau newydd, pan y mae genym gyfreithiau da yn cael eu mathru dan draed. Yr wythnos ddiweddaf, bu nifer o foneddwyr dylanwadol yn ymddiddan a'r pwyllgor Democrat- yn New York, ar y priodoldeb o alw yn ol benod. jad Mr. Cleveland yn ymgeisydd, a gosod enw Allen G. Thurman, o Ohio, yn ei le. Yr oeddynt yn sicr nad ydyw yn rhy ddiweddar yn awr. Ofnant os na wneir rhywbeth yn y cyfeiriad hwnw yn ddioed, y bydd etholiad Blaine a Logan yn ddiamheuol, hyd yn nod yn marny Democrat- iaid eu hunain. Cyhoeddwyd erthygl olygyddol yn y New York Independent, yr wythnos ddiweddaf, ar yr ym- drech wlaidyddol brsenol mewn ystyr foesol, a chymella«y Democratiaid i alw enw Cleveland yn ol, oherwydd anfoesoldeb ei gymeriad personol. Dywed yr Independent, os nad oedd y Democrat- iaid yn gwybod am dwyll, anlladrwydd, a meddw- dod Cleveland pan benodasant ef, y maddeuir iddynt eu diofalwch os gwrthodant ef yn awr; ond os parhant yn eu hymdrech i'w wneyd yn flaenor ar genedl o GWstionogion, y dwg Duw ddinystr disymwth arnynt. BEVIER, Mo., Awst 15.-Dal i fyned ymlaen yn arafaidd y mae y gweithfeydd hyn yn barliaus, er fod llawer o ddarogan mai gofid a geir yn faip. Mae yr ysgriniau mawrion yn cael eu rhoddi i fyny ar bob pwll, ac nid oes ond y glo a red ar yr ysgrin i fyned i'r farchnad, fel ag i'r gweithiwr ddisgwyl dim am ei godi. Dywedir y bydd yn agos i'r haner o enill y gweithiwr gael ei ysbeilio gan y meistri trwy oruchwyliaeth yr ysgrin Ofnir y bydd y gwrthdarawiad rhwng y gweithiwr a'r meistri mor fawr ag y try allan yn sefyll i maes, dros amser digonol i ddifetha cysur y lie. Gobeithio y penderfynir ar rhyw lwybr canolog, neu y gwneir compromise rhwng y pleidiau, cyn iddi fyned yn rhy bell yn yr anghytundeb. ALLIANCE, 0., Awst 23.—Gwelodd yr ychydig Gymry arosodd yma ar ol methiant y felin haiarn amser caled iawn. Ond ar ol dyfodiad Mr. Thomas R. Morgan, y llaw-weithydd enwog yma, i godi gweithiau newyddion, y mae y dref wedi ail- gychwyn, ac yn mhlith eraill, y mae yma lawer o Gymry wedi dyfod i mewn. Y mae tua 300 o weithwyv-'a chrefftwyr o bob math yn gweithio i'r Morgan Engineering Co.; ac y mae tua 100 yn gweithio yn y Steel Works gerllaw. Mr. Thomas R. Morgan a'i feibion a Mr. Henry I-lur, sydd yn perchenogi ac yn lly wodraethu yr Hammer Works, ac y mae y gwaith a gynyrchir ganddynt yn destyn syndod ac edmygiad yr holl wlad. Mae eu morthwylion a'u dyrwynyddion yn adnabyddus o Maine i California. Mae Cymry yn dal perthynas å'r gweithiau dur hefyd. Mr. B. F. Watkins, diweddar o Johnstown, yw un o'r prif berchen- ogion, ac efe sydd yn arolygu dosbarth y toddi yn y ddau waith, ac y mae pawb yn cydnabod ei fod yn deall ei waith i berffeithrwydd, a'i fod yn un o'r dynipn mwyaf hynaws a boneddigaidd sydd yn dal perthynas a'r gweithiau hyn. Yn Merthyr Tydfil y ganwyd ef, a daeth i'r wlad hon pan yn ddeng mlwydd oed.

Advertising