Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
GWNA gohebydd y Times, yr hwn sydd ar daith yn Ngorllewin yr Iwerddon, ddat- guddiadau rhyfedd o'r hyn a welodd ac a glywodd yno. 0 berthynas i drigolion ynys fechan o'r enw Inishkea, dywed eu bod yn ffurfio teyrnas fechan o eiddo eu hunain, a'u bod o'r braidd yn baganiaid. Ac y mae hefyd ynys fechan gyffelyb yn mor-gilfach Sligo. Nid oes yno un meistr tir yn cael ei gydnabod, nid ydynt yn talu treth, y mae ganddynt frenhin o'u heiddo eu hunain, ac er y telir ymweliadau a hwy yn achlysurol gau offeiriad Pabaidd i'w bedyddio, a'u priodi, ac i dderbyn eu cyffes, y mae gan- ddynt eilun a adddolir ganddynt yn rheol- aidd. Unwaith llwyddodd offeiriad dawnus i beri iddynt gladdu yr eilun. Yn anffodus cyfododd ystorm yn y mor pan ddychwelai yr offeiriad i'w gartref, a gorfu iddo droi yn ol i'r ynys. Y styriai y trigolion hyn megis barn o herwydd yr anfri a dalwyd i'r eilun. Adgyfodwyd ef drachefn, ac ail-ddodwyd ef yn y lie anrhydeddus yn yr hwn yr arferai sefvll. J
[No title]
UNWAITH eto y mae sefyllfa ein llynges yn tynu cryn lawer o sylw. Dywedodd Arg- lwydd Henry Leunox yn ei araeth yn Ports- mouth os cymerir i ystyriaeth y cyfrifoldeb anrhaethol sydd ar y Llynges Brydeinig gyd a golwg ar amddiffyniad ein glanau, nad ydyw ei nerth yn ddim tebyg i'r hyn a ddylai fod. Tarana y Pall Mall Gazette hefyd yn uchel o berthynas i'r un pwnc. O'r ochr arall, anrhegir ni gan Arglwydd North- brook a Syr Thomas Brassey a chyfrifon i ddangos fod y llynges mewn sefyllfa tra boddhaol Pan oedd y cyfrifon o flaen Ty y Cyffredin, dywedai Arglwyddi y Morlys fod genym lynges abl i fyned i unrhyw le ac i wneyd unrhyw beth. Ac ar bapyr nid oes modd gwadu nad oedd yn edrych yn dda ac yn gref iawn. Pa un a ydyw y nerth hwn yn bodoli mewn gwirionedd sydd bwnc o berthynas i'r hwn y mae'n rhaid i ni roddi ein hymddiried yn yr awdurdodau eu bod yn gwneyd eu dyledswydd. Y mae'r wlad yn gofyn ac yn disgwyl i'r awdurdodau ddarparu llynges Brydeinig o nerth ddigonol, ac y mae'n barod i ddwyn y draul.
[No title]
YN ol pob tebyg y mae yr ymgyrch filwraidd dan Arglwydd Wolesley i waredu Gordon yn troi allan yn orchwyl lied ddrudfawr. Ychydig cyn gohiriad y Senedd pleidleiswyd 930,000 at y pwrpas, ond dywedir fod y swm hwn wedi ei wario eisoes. Ar y dechreu, dywedid y gellid cyraedd yr amcan mewn golwg gyd a 8,000 o wyr, mewn tri mis o amser. Wedi hyny cafwyd allan bod yn rhaid wrth 2,000 yn ychwaneg. Yn nesaf gel wir am gwmni arall ofilwyr, 3,000 onifer, ac felly y mae nifer ein milwyr yn yr Aipht yn awr i fod tua 15,000 o wyr-y nifer fwyaf a fu yno er y flwyddyn 1882. Ond costied a gostio, y mae Arglwydd Wolesley wedi ymgymeryd a'r gwaith o ddwyn allan y ny I Cadfridog Gordon mewn diogelwch, os oes modd, a gwyr bod llogell John Bull yn lied ddofn. Er hyny gallwn fod yn sicr y bydd cryn lawer yn chwyrnu pan ddaw yr amser i dalu y bill."
[No title]
DA genym weled fod "Cronfa Esgobaeth Ty Ddewi yn cychwyn ei gyrfa mewn modd mor obeithiol. Mwy o waddoliadau sydd eisiau, ac nid llai," ebe Mr. Dillwyn Llewelyn yn nghyfarfod amddiffynol yr Eg- lwys y gauaf diweddaf. Ac er gwaethaf holl ymdrechion Cymdeithas y Dadgysyllt- iad, ymddengys mai mwy ac nid llai'' fydd ein gwaddoliadau. Yr ydym yn deall mai un o ffrwythau Cynbadledd yr Esgob- aeth yw y gronfa hon. Ac fel y sylwodd yr Esgob Basil Jones yn Llanbedr, nid dyma unig ffrwyth y Gynhadledd Esgobaethol. Y mae llawer iawn o bethau i'w gwneyd yn yr Esgobaeth, ebe'r Esgob, ond rhaid cymeryd un peth ar y tro. Nis gellir gyru ugain cerbyd ar unwaith drwy y Temple Bar. Amcan y gronfa yw ychwanegu gwerth bywoliaethau bychain ac adeiladu persondai lie nad oes rhai. Y mae yn Esgobaeth Ty Ddewi 402 o fywoliaethau. O'r rhai hyn y mae 75 yn werth llai na lOOp. yn y flwydd- yn. Ac y mae 149 yn werth llai na 200p. Yn ychwanegol at hyn, nid oes yn yr Es- gobaeth ond 218 o fywoliaethau yn meddu persondai. Ac felly mae'n agos i haner y plwyfi heb dy i'r offeiriad fyw ynddo. Y mae pethau wedi gwella llawer yn ystod y blynyddoedd diweddaf. Haner can mlynedd yn ol yr oedd yn yr Esgobaeth 167 o fyw- oliaethau yn werth llai na lOOp. y flwyddyn, ac nid oedd yno ond 110 o bersondai. Felly y mae pethau yn gwella yn araf, ond y mae'r Esgob yn awyddus i'r gwellhad gyflymu ei gamrau, a dyma amcan y gronfa.
[No title]
BYDD yn dda gan ein darllenwyr glywed fod y Parch. Evan Davies, periglor Llanllyfni, wedi cyhoeddi ei ddarlith ar Unoliaeth a pharhad yr Eglwys yn ein gwlad," yn bamphled bychan hardd, pris tair ceiniog. Y mae anwybodaeth dybryd ar y pwngc hwn yn ffynu yn ein gwlad, a hyderwn y ca y ddarlith honj-gylchrediad helaeth yn ei ffurf bresenol. Ceir yma ffrwd o oleuni ar hanes yr Eglwys yn Mhrydain Fawr o'r dechreuad, a chadwyn gref o brawfion mai nid o Rufain y tarddodd yr Eglwys Bryd- einig, ac mai nid yn amser Harri VIII. y dechreuodd. Carasem adgoffa ein darllen- wyr o amryw o sylwadau yr awdwr, ond ymfoddlonwn ar a ganlyn yn unig ar y pwngc olaf hwn, Y 10,000 o Esgob- ion ac offeiriaid oeddynt yn gweinidogaethu yn yr Eglwys yma gynt," ebe fe, fuont yn gweinidogaethu ynddi wedi hyn, ac yn cysegru ac yn ordeinio olynwyrSiddynt, fel y cysegrwyd ac yr ordeininiwyd hwy gan eu rhagflaenwyr hwythau. Yr un gweddiau a gwasanaethau ag a arferid cyn y diwygiad a arferid wedi hyny, oddigerth eu bod wedi eu troi i'r iaith gyffredin, ac athrawiaethau a seremoniau ofergoelus ac anfuddiol a wth- iwyd i mewn i'r Eglwys ar ol yr oesau cyn- tefig, wedi eu gadael allan.Byddai mor briodol dweyd nad oedd Israel ddim yr un bobl ar ol eu dychweliad o gathiwed yr Aipht, nad oedd Naaman, y Syriad, yr un dyn ar ol ei lanhau o'i wahanglwyf, nad oedd yr Eglwys Brideinig ddim yr un Eg- lwys ar ol ei dychweliad o gaethiwed Babylon, a dyweyd nad oedd Eglwys y wlad hon yr UN cyn ac-wedi y diwygiad."
[No title]
YCHYDIG amser yn ol agorwyd Berkley Hall gan Esgob Cork. Amcan y neuadd hon yw darparu llety i fyfyrwyr perthynol i'r Eglwys Wyddelig pan yn astudio yn Ngholeg y Frenhines, yn y ddinas hono. Coleg Secularaidd tebyg i Gaerdydd a Bangor yw Coleg y Frenhines. Pan y cych- wynwyd y Colegau hyn, bwriedid i'r Deon- iaid Trigianol ofalu am anghenion ysprydol myfyriwyr eu Heglwys. Y mae'r Pabydd- ion wedi gomedd gwneyd dim a Choleg y Frenhines o gwbl, a Berkeley Hall yw'r ym- gais cyntaf i wneyd darpariaeth ysbrydol ar gyfer ei myfyrwyr a wnaed gan yr Eglwys Wyddelig, Costiodd yr adeilad R9,000, a chynwysa le i ddeugain o ieueunctyd, a llety i'r Deon. Y mae'n debyg gan hyny y bydd Hostel Bangor a Berkley Hall yn cychwyn eu gyrfa tua'r un amser. Yr ydym yn dymuno pob llwyddiant i'r naill a'r Hall.
[No title]
Bu y Gynhadledd Wesleyaid yn eistedd yn ddiweddar yn Burslem. Bedydd oedd un o'r pynciau yr ymdriniwyd arno. Cyflwyn- wyd ystadegau yn dangos pa gyfartaledd o'r r) ZD rhai a fedyddir gan y Wesleyaid a ddeuant ar ol hyny yn gymunwyr gyd a'r enwad. Mewn un amgylchiad allan o 688 o rai a fedyddiwyd ni ddaeth ond 21 yn gymunwyr gyd a'r enwad ac mewn amgylchiad arall, D allan o 518 ni ddaeth ond 3 yn gymunwyr. Arwyddion yw y rhai hyn fod y Wesleyaid yn colli tir, ac nid rhyfedd. Y maent yn ymadaelyn bellach, bellach oddiwrth addysg eu sylfaenydd. Yn y gynhadledd hon, sylwodd Mr. M'Cullagh, y cyn-lywydd, nad oedd amheuaeth nad oedd John Wesley yn dal ac yn arfer dysgu athrawiaeth ail-ened- igaeth yn y Bedydd, ond awr, ebe fe, nid yw bedydd yn mhlith y Wesleyaid hyd yn nod yn arwydd o dderbyniad i'r Eglwys weledig. Rhaid disgwyl i adfeiliad mewn nerth ddilyn adfeiliad mewn athrawiaeth.
[No title]
YR oedd Syr Stafford Northcote yn Scotland yr wythnos ddiweddaf. Ychydig yn flaen- orol bu Mr. Gladstone yno yn traddodi areithiau grymus yn erbyn gweithred Ty yr Arglwyddi yn gomedd pasio Mesur yr Etholfraint ar wahan i fesur Ad-drefniad y Seddau. Dilynodd Syr Stafford Northcote ar ei sodlau a thraddododd gyfres o areith- iau cedyrn mewn amddiffyniad i waith yr Arglwyddi. Y mae'r cyhoedd fel hyn yn cael cyfleustra da i glywed y ddwy ochr, ac i farnu drostynt eu hunain pa un o'r ddwy blaid wleidyddol sydd fwyaf llwyddianus i osod i fyny y "Tulchan" er peri i'r ethol- wyr roddi eu llaeth yn rhwydd.
[No title]
WEDI'R cwbl y mae y newyddion ddiweddaf o'r Soudan yn myned i ddangos y gall na bydd eisieu byddin Arglwydd Wolesely o gwbl. Yn ol y pellebrau a dderbyniwyd oddiwrth Mudir Dongola enillodd Gordon fuddugoliaethau mawrion ary gelyn ddiwedd mis Gorphenaf, ac nid ydyw Khartoum yn cael ei gwarchae mwy. Ychwanegir mai canlyniad y bnddugoliaethau hyn fu i benaethiaid y llwythau ymddarostwng a thyngu ar y Koran na bydd iddynt mwyach n ganlyn y Gau Brophwyd. Dyma newydd gwir dda. DERBYNIWYD pellebrau oddiwrth y Cadfridog Gordon yr wythnos ddiweddaf. Am y rhai hyn nis gall fod amheuaeth nad ydynt yn cynwys geiriau y Cadfridog ei hunan. Y mae'r pellebrau mewn arwyddion, ac y mae eu geiriad y cyfryw nas gallasai neb ond efe eu gosod ynghyd. Y mae arnaf eisiau tri chan' mil o bunau," ebe fe, i dalu fy mil- wyr. Y mae fy nhreuliau yn bymtheg cant o bunau y dydd." Y mae'r Cadfridog, fel yr ymddengys, wedi benthyca swm mawr o arian oddiar gyfoethogion Khartoum a'r gymydogaeth, a thrwy help yr arian hyn, llwyddodd i ddal ei dir yn Khartoum, ac i gadw ei fyddin ynghyd. Y mae'n awr yn galw ar Lywodraeth Lloegr i dalu yr arian. Dywed yn mhellach ei fod yn bwriadu anfon byddin i gymeryd Berber, i'w llosgi a'i din- ystrio, ac yna y bydd iddo ruthro tua llinyn y cyhydedd a dwyn i mewn y byddinoedd deheuol. Y mae'n barod i ymadael os bydd i Loegr anfon Zebehr i gymeryd ei le a rhoddi iddo wyth mil o bunau y flwyddyn," neu ymfoddlona i roddi i fyny y Soudan i'r Sultan pan y cyrhaedda ugain mil o filwyr Tyrcaidd yno i gadw trefn, ac i amddiffyn y trigolion yn erbyn y Gau Brophwyd. Y mae'r pellebyr hwn yn dwyn pobl i ofyn Beth a wneir a'r Soudan ar ol dwyn y Cadfridog Gordon a'r milwyr Aipht- aidd allan oddiyno." Ymddengys nad ydyw y Cadfridog wedi clywed eto nad ydyw Zebehr i gael ei wneyd yn Rhaglaw, ac nad oes un tebygolrwydd y bydd i'r Soudan gael ei throsglwyddo i ddwylaw y Sultan.
[No title]
DYMUNA Eos Llechydhysbysu fod ei anthem In Memoriam yn awr allan o'r wasg, ac y gall yr archebwyr ei disgwyl i'w dwy- law tua dechreu yr wythnos nesaf.
[No title]
Bwriada Mr. John Dillon gymeryd lluaws o Wyddelod i Utah i ffurfio trefedigaeth Wyddelig yno. Mewn cysylltiad a, Queen's College, Dublin, y mae adeilad wedi ei wneyd, yn yr hwn y rhoddir addysg Brotestanaidd. Cafodd ty y diweddar Esgob Colenso ei losgi rai dyddiau yn ol. Achubwyd rhai o'r prif bapyr- au a adawyd ar ol gan yr Esgob. Yr oedd saith o efrydwyr yn nosbarth Porth- madog yn ymgeisio am ysgoloriaethau Coleg Bangor. Y Prof. Gray oedd yn arolygu yr arholiad. Mewn telegram o Berne, Switzerland, dywedir fod y gofal mwyaf yn cael ei gymeryd rhag na chaiff neb ddyfod o Itali i Switzerland, a thrwy hyny ddwyn y pla gyda hwy. Torodd heddgeidwaid i mewn i dy gwerthwr myglys yn Sheffield dydd Gwener, a daliasant saith o ddynion ar y cyhuddiad o fod yn ymgasglu yno i fetio. Cymerwyd gwr y ty i'r ddalfa hefyd. Am ddwyn gwerth rhwng pedair a phum' mil o bunau o blatiau arian oddiar eu meistr, y Milwr- iad Tighe, Woodstocke, Kilkenny, y mae John Kelly, bwtler, a'i wraig, yn y carchar yn aros eu prawf. Fel Canghellydc1 yr Ymerodraeth Germanaidd derbynia y Tywysog Bismarc 25,000p. yn y flwy- ddyn. Nid yw yn gyfoethog iawn mewn eiddo personol. Yn Bournemouth, dydd Sadwrn, dirwywyd Benjamin Maddoks a William Henry Reeks-y blaenaf i 50p. a'r olaf i 25p. gyda'r costau-am gadw tai i gynwystlo ynddynt. Archwilydd cyf- rifon ydyw Reeks. Y mae y Frenhines yn cael ei phoeni nid ychydig gan rai o'i pherthynasau yn nghyfraith, yn mhlith y rhai y mae y Due Tec a'r Due Louis o Hesse-Darmstadt. Mae'r cyntaf yn myned i ddyled heb foddion i dalu, a'r olaf mewn cariad a dynes islaw ei sefyllfa. Digwyddodd damwain ddychrynllyd yn ngwaith glo Bersham, ger Gwreesam, boreu ddydd Llun. Yr oedd dyn o'r enw Robert Williams yn gwneyd adgyweiriadau yn y shaft, pan daeth y cage i lawr yn ddirybudd, gan wasgu y dyn anffodus yn y modd mwyaf dychrynllyd, nes y bu farw yn y fan. Yr wythnos ddiweddaf gwrthododd ynadon Poole, swydd Dorset, adnewyddu trwyddedau rhai tafarnwyr. Rhoddwyd tystiolaethau yn eu herbyn gan yr Henadur Norton a thri chudd- heddgeidwaid, y rhai oeddynt wedi bod yn eu gwylied, ac wedi gallu profi eu bod wedi tori y gyfraith mewn gwahanolfiyrdd. Er dathlu dyfodiad y Due a'r Dduces o Edin- burgh i Hull, penderfynodd y Gorphoraeth yno wario swm penodol o arian. Ond y dydd o'r blaen derbyniodd y maer lythyr yn dweyd y buasai yn foddhad mawr gan y Due a'i briod pe rhoddid yr arian tuag at gael bwyd a dillad, &c., i'r lluaws pobl oeddynt yn dioddef oddiwrth angen yn y C) dref. Prydnawn Sadwrn, tra yr oedd nifer o aelodau Rheifflgor Knutsford o Wirfoddolwyr sir Gaer wrth y gwaith o saethu ar y morfa rhwng gorsaf y rheilffordd a Tatton Park, cafodd un o'r rhai oedd yn marcio, dyn o'r enw Pears, a drigai yn Crosstown, Knutsford, ei saethu yn farwol gyda bwlet o'r pellder o 600 llath. Dywedir mai es- geulusdra y trangcedig a barodd y ddamwain. Heb arddangos y faner goch arferol fel arwydd fod y saethu i gael ei atal, dywedir iddo roddi ei ben allan o'r ddiddosfa yr oedd ynddo, a'r foment hono gollyngwyd ergyd. Aeth y fwled yn glir drwy ei ben rhwng ei lygaid. Bu y dyn farw yn mhen awr ar ol y ddamwain, er gwaethaf pob cynorthwyo meddygol. Yr oedd yn aelod o'r gwirfoddolwyr er's nifer o flynyddoedd. Gedy ar I ei ol weddw a phlant. t'
TRYSORFA ESGOBAETH TY DDEWI.
TRYSORFA ESGOBAETH TY DDEWI. Oynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr Assembly Rooms, Caerfyrdclin, dydd Mawrth yr 16eg, i gefnogi a hyrwyddo y drysorfa sydd wedi ei chychwyn gan Gynhadledd yr Esgobaeth i ychwanegu gwerth byw- oliaethau bychain yr esgobaeth. Bwriedir cynal cyfarfodydd cyhoeddus ymhob un o'r' pedair arch- ddiaconiaeth i gefnogi y drysorfa. Yr oedd yn bresenol ar yr esgynlawr, yr Arglwydd Esgob, Arch- ddiacon Caerfyrddin, Parchn Canon Williams, Llanelli; J. G. Gauntlett, Abertawe D. Williams, Merthyr Meistri J. L. G. O. Lewis, Henllan R. Goving Thomas, Llanon R. Glascodine, Abertawe Albert Harris, Caerfyrddin Capt. John Thomas, Moreb. Cymerwyd y gadair yn absenoldeb Arglwydd Dynefor, gan Mr. Lewis, Henllan. Cynygiwyd y penderfyniad cyntaf gan yr Esgob. Y penderfyniad oedd, Gan fod Cynhadledd yr Esgobaeth wedi penderfynu ffurfio trysorfa er ychwanegu gwerth bywoliaethau bychain yr Esgobaeth, ac er amcanion eraill a benderfynir yn ol llaw gan y gynhadledd, fod y cyfarfod hwn yn ym- rwymo i gefnogi hyd eithaf ei allu amcanion y dry- sorfa." Nid oedd ei arglwyddiaeth yn meddwl fod un Esgobaeth oddieithr Esgobaeth Llandaf yn mha un yr oedd tal yr offeiriaid plwyfol mor isel ar y cyfartaledd ag yr oedd yn yr Esgobaeth hon. Yr oedd dim llai na 75 o fywoliaethau dan 9100 y flwyddyn; yr oedd dim llai nag 149 o fywoliaethau rhwng £ 100 a £ 200 y flwyddyn. Yr oedd mwy na haner bywoliaethau yr Esgobaeth dan C200 y flwyddyn. Yr oedd yn ystyried hyn yn warth. Pa fodd y gallent ddisgwyl i ddyn wedi derbyn yr addysg oreu ymgyflwyno i waith y weinidogaeth heb ddarpariaeth ddigonol ar ei gyfer. Yr oedd y dry- sorfa i gael ei dosbarthu gan bwyllgor yn cynrych- ioli yr Esgobaeth, ac i gael ei chasglu gan bwyllgor ymhob Archddiaconiaeth. Awgrymai yr Esgob dair ffordd i gasglu arian, trwy roddion neillduol, trwy danysgrifiadau blynyddol, a thrwy gasgliadau yn eg- lwysi yr Esgobaeth. Yr oedd yn meddwl y byddai yn rhaid ymddibynu yn fawr ar y casgliadau ac yr oedd yn gobeithio yr ymdrechai yr offeiriaid i gael casgliad yn eu heglwysi at yr achos hwn unwaith bob blwyddyn. Yr oedd yn gobeithio na fyddai neb yn ei hystyried yn annheilwng i roddi rhodd fechan os na allai roddi rhodd fawr. Yr oedd yn awyddus i gael nifer fawr o gyfranwyr. Yr oedd am wneyd sail y sefydliad mor eang ag oedd bosibl. Yn nesaf cl at gyflawniad ffyddlon o ddyledswyddau y weinidog- aeth, nid oedd un ffordd mwy effeithiol i wneuthur yr Eglwys yn boblogaidd na thrwy gael ei phlant i gymeryd dyddordeb yn ei gwaith. Eiliwyd y cynygiad gan Mr. Goring Thomas. Dy- wedodd, os oeddynt am sicrhau gwasanaeth offeir- iaid teilwng yr oedd yn rhaid iddynt eu talu yn deilwng. Cynygiodd y Parch. J. G. Gauntlett, fod y war- deniaid ynghyd ag un neu ddau o leygwyr i'w penodi ymhob plwyf i geisio rhoddion a thanysgifiadau at y drysorfa." Y peth pwysig yn y penderfyniad oedd fod y gwaith o gasglu i'w wneyd gan leygwyr. Yr oedd gan yr offeiriad eisoes ormod o waith Ileygol ar ei ddwylaw. Dylai gael mwy o amser at ei waith neillduol. Clywid rhai yn dweyd yn fynych na wyddai Eglwyswyr pa fodd i gyfranu Nid oedd yn meddwl fod y cyhuddiad yn wir. Yr oedd eu cyfran- iadau yn ymddangos yn llai nag eiddo yr Ymneill- duwyr, am eu bod yn cael eu rhoddi at gynifer o wahanol achosion. Yr oedd cyfraniadau yr Ym- neillduwyr yn cael eu neillduo bron yn gyfangwbl at y weinidogaeth neu eu neillduoli, tra yr oedd cyfran- iadau yr Eglwyswyr yn myned at nifer fawr o achosion tuallan i'r Eglwys. Eiliwyd y cynygiad gan Mr. Spurrell, yr hwn a ddywedodd ei fod o'r pwys mwyaf i sicrhau dyn o ddysg a diwylliant ymhob plwyf. Cynygiodd Canon Williams, Fod y cyfarfod hwn yn cynyg fod casgliadau i'w gwneyd ymhob plwyf trwy yr Esgobaeth ar Sul apwyntiedig gan yr Esgob, neu os bydd y Sul hwnw yn anghyfleus, ar ryw Sul arall, fel y gwelo yr offeiriad yn dda." Yr oedd yn gobeithio y gellid carioj allan y penderfyniad hwn. Yr oedd y casgliadau eisoes yn ami; mewn rhai eglwysi yr oeddynt yn wythnosol; er hyny, yr oedd yn gobeithio y gellid cael lie i un yn ychwanegol, sef at yr yr achos teilwng ac angenrheidiol hwn. Nid oedd yn disgwyl rhyw swm mawr oddiwrth y casgl- iadau hyn; ond ni fyddai y daioni yn ymddibynu ar y swm o arian, ond ar rywbeth arall mwy ei werth, sef dyddordeb ychwanegol yn ngwaith yr Eglwys. Yr oadd tlodi yr Esgobaeth yn fawr, ac felly gobeith- iai nad ymfoddlonent ar wneuthur ychydig. Ac os awgrymai y dylent wneyd pob bywoliaeth yn werth £ 200 y flwyddyn, ni fyddai y gorchwyl ond rhesymol iawn. Yr oedd llawer o'r dosbarth gweithiol yn enill mwy. I wneyd pob bywoliaeth yn werth 9200 y flwyddyn, byddai yn rhaid casglu 918,000 yn flyn- yddol; o'r swm hwn cyfranai y Dirprwywyr Eglwys- ig ran helaeth. Eiliwyd y cynygiad gan Mr. R. Glascodine, yr hwn a anogai yr offeiriaid i wasgu at y plwyfolion y ddyledswydd o gyfranu at waith Duw. Cynygiodd Archddiacon Caerfyrddin ddiolchgar- weh i'r cadeirydd. Dangosodd pa fodd yr oedd treuliadau yr offeiriaid wedi cyfeyddu yn ystod y 30 mlynedd diweddaf, tra yr oedd eu tal yn aros yr un. Byddai i'r drysorfa hon ddysgu gwers ynghylch natur gwaddoliadau yr Eglwys, eu bod wedi cael eu rhoddi yn wirfoddol. Eiliwyd y cynygiad gan y Parch. A. G. Edwards, penaeth Coleg Llanymddyfrj. Darllenodd yr Archddiacon restr o'r rhoddion a'r tanysgrifiadau blynyddol oedd wedi eu haddaw. Yr oedd cyfanswm y rhoddion i gychwyn y drysorfa yn cyraedd yn agos i £ 1,000, o ba swm yr oedd yr oedd yr Esgob yn cyfranu 9500. Yr oedd y tanys- grifiadau blynyddol yn cyraedd i £300. Terfynodd yr Esgob y cyfarfod trwy ddatgan y fendith.
[No title]
Dydd Sadwrn, yn ngorsaf Menai Bridge, dig- wyddodd amgylchiad a barodd gryn gyffro yn y lie. Gyda'r tren 12-35 y prydnawn o Gaernarfon, yr oedd yn trafaelio foneddwr, yr hwn a ddisgyn- odd yn Menai Bridge. Yn union wedi iddo adael y tren, clywyd twrf ergyd. Rhuthrodd pobl allan o'r tren ar unwaith i ymholi yr achos yr ergyd, pryd y deallwyd fod revolver a gerid gan y bon- eddwr (enw yr hwn ni chafwyd) yn mhoced brest ei got wedi tanio. Tarawodd yr ergyd gadwen ei oriawr, gan ei malurio yn ysgyrion. Ffodus iawn ydoedd ddarfod i'r gadwen droi cyfeiriad yr ergyd, nau diau y buaeai wedi myned i gorff y teithiwr.