Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I t^ylDtiddion Cyfyoeddti$. WANTED immediately a Mistress for Infanta (certificated) at Cadoxton-juxta-Neath. Salary, £ 50 per annum.—Apply, Vicar, Cadoxton, near Neath, Glamorganshire. [102 W ANTED, in the Diocese of Llandaff, a Curacy by a Priest, Bilingual.—Apply, A., LLAN office, Merthyr Tydfil. [80 SCHOOL wanted by an experienced Certificated, Parchment, Master, (32). Sewing, Singing, &c. Excellent Testimonials.—Master, "Llan" Office, Merthyr Tydfil. [90 WANTED immediately, Mistress for a Small Mixed School. Church, communicant, Harmonium, Sewing.—Apply, Vicar, Llwydiarth, Cann Office, Welshpool. [99 WANTED a Master for the Llanfair CaereinionNationol School (mixed). Harmonium. Welsh. Apply to the Rev. T. JEFFREY JONES, Llanfair Vicarage, Welshpool. [103 WANTED Immediately, Assistant Mas- ter in National School. Singer and player preferred. Minimum salary, £ 50.—Apply, VICAR, Aberdovey, North Wales. 104 HYFFORDOWR AR Y GAN EGLWYSIG I'R COR A'R GYNULLEIDFA, Yn Ddwy Ran. RHAN I. Y CANIADAU A'R PSALLWYR Wedi eu Cymhwyso i'r Gan Eglwysig, GAN c EVAN LEWIS, M.A. (OXON.) DEON BANGOR; G. ARTHUR JONES, M.A. (OXON) FleER EGLWYS FAIR, CAERDYDD A J. WILBERFORCE DORAN, M.A. (CANTAB.) FICER FFENISTAUNTON, SIR HUNTINGDON. PRIS 3S. RHAN II. Y GWERSI A'R ATEBION, Gydâ Chynghaneddau gan G. HERBEET PALMKR, B.A. (Cantab.), diweddar Gor-Hyfforddwr S. Barnabas, Pimlico. Pria :-Ar wahan, Swllt a chwe' cheiniog y ddwy ran yn un gyfrol, Pedwar Swllt. PARKER AND CO., Rhydychain, a 6, Southampton Street, Strand, Llundain. 1884. I'w cael hefyd gan y Parch. G. Arthur Jones, S. Mary's, Cardiff. [105 H Y SB Y SI AD AU P LLAN.. Dylid eu derbyn yn y swyddfa erbyn DYDD MERCHER yn mhob wythnos. PRISIAU. 75 o eiriau (solid) neu un fodfedd i lawr y golofn (displayed):— Un wythnos (tal yn mlaen llaw) 2s. Tair wythnos 5s. Bob tro ychwanegol (yr un) Is. 26 o wythnosau (yr un) 9c. 52 o wythnosau (yr un) 6e. Hysbysiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreithiol. 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4c. y llinell. HYSBYSIADAU BLAEN-DALIADOL RHAD. Cyhoeddir hysbysiadau fel y canlyn, os TELIR YN MLAEN LLAW, yn y Llan yn ol y raddfa ganlynol:— -T 20 o eiriau:—Unwaith, Is.; tair gwaith. 2s. 6c.; chwech etto, 4s. 6c. 30 o eiriau:—Unwaith, Is. 6c.; tair gwaith, 4s.; chwech, etto, 6s. 6c. 40 o eiriau :-Unwaith, 2s.; tair gwaith, 5s. 6c.; chwech, etto,.8a.6c. ——— TELERAU GWERTHIANT Y LLAN. Anfona y Cyhoeddwyr un copi o'r LLAN yn ddidrau drwy y LIythyrdy i unrhyw gyfciriad yn y Deyrnas Gyfunol fel y canlyn: Chwarter blwyddyn, Is. 8d.; haner, eto, 3s. 4d.; blwyddyn, 6s. 8d. Anfonir Y Llan i ddosbarthwyr ac eraill: wedi talu y sludiad, fel y canlyn :— Gyda'r Post. Gyda'r Tren. Dwsin loc. 9c. Nifer mwy yn ol yr un raddfa. CYROED:rJWYR :-MRI, FARRANT A FROST, High-street, Merthyr- Tydfil. AT EIN GOHEBWYR. CYFAJSTSODDIADAU (wedi eu hysgrifenu ar un tu i'r ddalen) i fod mewn Haw erbyn boreu Mawrth, oyfeiriedig— THE EDITOR, LLAN Office, ———— Merthyr Tydvil. Os teimla ein dosbarthwyr alii derbynwyr unrhyw anhwylusdod ynglJn a chludiad y LLAN o Merthyr Tydfil, bydd yn dda genym peyr hysbysentni y ffordd oreu i'w hanfon: fel ag iddynt eu cael yn brydlon. DALIER SYLW.—Nis gallwn ddychwelyd ysgrifau na wneir defnydd o honynt. BUASAI yn dda gan y Cyhoeddwr bennodi dosbarthwyr i Werthu Y Llan lle nad oes rhai eisoes. Am y telerau, anfoner i'r swyddfa. Cyfeirier cyfansoddiadau barddonol fel y canlyn :— Rev. Ll. M. Williams, The Vicarage, Pontlottyn, Cardiff. CYFARFODYDD DIOLCHGAEWCH AM Y CYNHAUAF.—Taer erfyniwn ar i'n gohebwyr fod yn fyr a chryno wrth anfon adroddiadau am y cyfarfodydd hyn, gan na chaniata gofod i ni gyhoeddi adroddiadau meithion. Dymunir sylw neillduol i hyn. YMWELYDD.—Diolch i cli wi bydd yn dda genym glywed oddivi rthych yn fynych. GWAITH ESGOB PEARso. AKY CRF.no.—Mewn atebiad i'r ymofynydd ienanc am waith Esgob Pearson ar y Credo, dymunem ei hysbysu mai gwaith Sanderson yw'r analysis goreu o Pearson. Synopsis ydyw o Pearson ar y Credo, a Hooker's Polity." Mae yn dda iawn; mac'r ymofynydd yn sicr o ga,el ei foddioni ynddo, ac ond iddo ei godi ifyny, fe wnaiff foddloni unrhyw un arno mewn arlioliad. Gallai ei gael gan R. D Dickinson, 89, Farrington Street, London, am ddau swllt. MEWN LLAW.—Un hoff o'r gan.
CYNWYSIAD.
CYNWYSIAD. 1. Hysbysiadau 2. Yr Wythnos, Trysorfa Esgobaeth Ty Ddewi. 3. Eisteddfod Genedlaethol, Gohebiaethau. 4. Hysbysiadau, At ein Gohebwyr, Erthyglau, &c. 5. Syr Stafford Northcote a'r Etholfraint, Coleg Gog- ledd Gymru. 6. Llythyr Tom Pudler, Diolchgarwch am y Cynhauaf, Newyddion Cyffredinol. 7. Newyddion Cymreig. 8. Barddoniaeth, Llith o'r Bwthyn Gwledig.
_----__----------------YR…
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. GELLIR dweyd am yr Eisteddfod Genedl- aethol a gynhaliwyd eleni yn Llynlleifiad ei bod yn llwyddiant ymhob ystyr gan belled ag y mae a wnelo a'rcyhoedd. Ei nodwedd mwyaf amlwg er's llawer blwyddyn yw fel moddion adloniant cenedlaethol a chym- deithasiad difyrus ac adeiladol. Cyferfydd lien a lleyg, bonedd a gwreng, plant cerdd ac awen, meibion athrylith a hyawdledd, i gydymbleseru ac edmygu y naill y Hall, ac i fan chwedleua, yn y babell gyhoeddus. Ym- wasgarant i ail ymgynghori yn fan gwmnion i gyfeillachu yn nes mewn cyfarfodydd llai yn yr hwyr, neu yn y cyngherddau. Y mae yma elfen uchel o fwynhad, a chyfleusderau helaeth i eangu cylch cydnabyddiaeth a chyfeillgarwch a'r oil o duedd i ychwanegu diddanwch a dyrchafu. Y mae yn wir y cymer gwehilion pob rhan o gymdeithas gyfleusdra o'r Eisteddfod i gyfeillach ddi- 0 raddiol, ond ceir yr adar hyn yn canlyn cyn- ulliad pobloedd ymhob man ac ar bob achlysur. Fel moddion mwynhad ac ad- loniant bu Eisteddfod Llynlleifiad yn llwyddiant eyflawn. Gwelid arwyddion o fwynhad ar bob gwynebpryd. Ruban Glas yr Eisteddfod hyd eto ydyw yr hen gadair urddasol. Dangosai cynulliad gorlifol dydd Iau fod dyddordeb y genedl yn ymgrynhoi o amgylch yr hen ddefod o gadeirio; ac yr ydym yn llongyfarch y Deheudir, a'r Parch. Evan Rees (Dyfed), yn bersonol, ar ddygiad y gadair genedlaethol i'r rhan hon o'r Dywysogaeth. Yma (yn Merthyr Tydfil) yr enillwyd y gadair olaf o'r blaen, a bardd cadeiriol Llynlleifiad oedd y buddugol y pryd hwnw. Nid wrth eu gorganmol y mae ein hawduron ieuaingc i esgyn i uwchafiaeth barhaus, ond y mae y bardd-bregethwr Dyfed" yn ddigon o feddyliwr i ddeall nad ydyw enill cadair yn ddim mwy nac enill clod, ac enill mantais safle i ddyfod i olwg y byd. Y mae yn wr llednais wrth natur, yn fonedd o foes ac awen, yn sychedu am ddysg, ac iddo i fesur mawr nerth athrylith Eben Fardd a thyner- weh Islwyn. Yr ydym yn dymuno ei longyf- arch yn ylmodd gwresocaf ar ei lwyddiant, ac yn neillduol yn dwyn,iy llawrwyf heibio Pwll Gwepre, cartref Dafydd ab Edmwnt, a chym- oedd Eryri, cyfaneddle y beirdd, i Dyfed a Morganwg. Ond os cafodd y Deheudir ruban glas y gadair, aeth Eryri ag anrhydedd gogyfuwch corddoriaeth leisiol neu gorawl. Enillodd cor Bethesda, dan arweifiiad y Dr. Rogers, y llawrwyf am y drydedd waith ol- ynol, yn Mhowys, Deheubarth, a Llyn- lleifiad; Y mae yn amlwg ddigon fod cer- ddoriaeth yn prysur enill dydd yn y Gogledd. Y mae llwyddiant corau Bethesda a Dyffryn Clwyd, yn gystal a'r Arfoniaid," yn eglur brofi hyn. Saif Eisteddfod Llynlleifiad yn uchel yn ei llwyddianl cerddorot, ac y mae yn sicr o effeithio yn ddaionus er anrhydedd y genedl, a rhoddi ysbardiniad adnewyddiad i'r ymdrechion cerddorol yn mhob rhan o'r Dy wysogaeth. Elfenau pob llwyddiant yw ymarferiad parhaus o dan arweiniad blaen- onaid a chyfarwyddwyr diwylliedig. Nid oes braidd gwmwd nac Eglwys heb gerddor diwylliedig o fewn eu cyrhaedd, ac yn ddigon parod i addysgu yn rhad. Mae yn dda genym weled fod y Cymro- dorion yn dechreu ymgymeryd a rhan ym- arferol o waith yr Eisteddfod. Gallant fawr eangu ei dyddordeb a'i defnyddioldeb. Yr oedd yr ymdrafodaeth ar ■" berthynas rhwng Cymru a Lloegr" yn Llynlleifiad yn ainserol a da. Y mae yn hen bryd i'r Cymry ymddiosg o'u rhagfarn lleoltuag at y Saeson, ac yn fwy na llawn bryd i'r Saeson ddyfod i adnabod Cymru fel y mae, a rhoddi heibio eu syniadau culion, a llawer o'u hymddygiad sarhaus tuag at y genedl. Y mae ysgolheigion y ddwy genedl yn un, a goreu po gyntaf i'rlliaws ddilyn eu hesiampl hwy. Rhaid ni oedi ein sylwadau ar waith y Cymrodorion yn eu perthynas ag addysg elfenol hyd yr wythnos nesaf, gan fod y symudiad o gryn bwys ymarferol. Y fiwyddyn nesaf arncenir cynal yr Eisteddfod yn Aberdar. Y mae gwaith a chyfrifoldeb y pwyllgorau lleol yn fawr ryfeddol, a dis- gwyliwn y cefnogir hwy gan yr holl ardal boblog gylchynol. Mewn oes lie y dygir allan gymaint o elfenau yn ysgaru rhwng plaid a phlaid, a dosbarth a dosbarth, y mae o fawr bwys fod cyfarfodydd o duedd i gyfanu cymdeithas a chreu cyfeillgarwch a theimlad da, yn cael pob cefnogaeth. Y mae yr hen Eisteddfod Genedlaethol gwedi cadw ei safle fel canolbwynt undeb cym- deithasol a chenedlaethol er's llawer oes, a llawer canrif hefyd, a hir y parhao i wasanaethu yr un amcaniondaionus achlod- fawr.
ANHAWSDERAU RHYDDID CREFYDDOL.
ANHAWSDERAU RHYDDID CREFYDDOL. SIAKEDIR llawer iawn o ffolineb ynghylch rhyddid crefyddola chydraddoldeb crefyddol. Crochlefir yn uchel yn erbyn pob peth a ystyrir yn drosedd o'r naill a'r llall, a cheisir ein perswadio mae'r peth hawsaf yn y byd yw cael rhyddid a chydraddoldeb perffaith mewn materion crefyddol. Ond yn awr ac yn y man cyfyd anhawsderau, ac agorir llawer llygad i weled nad oedd y darlun tlws a baentiwyd mor ami wedi'r cwbl ond breuddwyd gwag. Dyma fel yr ymddengys i ni, sydd yn myned ymlaen yn awr yn Switzerland. Y mae rhandir Canton yn y wlad hono wedi anfon gorchymyn allan i wahardd i Fyddin yr Iachawdwriaeth gynal eu cyfar- fodydd a'u gorymdeithiau o fewn ei therfyn- au. Rhoddir dau reswm am y gwaharddiad hwn. Un yw nad yw'r heddgeidwaid yn alluog i amddiffyn y Fyddin rhag ymosod- iadau y lliaws, ac nas gellir galw allan y milwyr i orchwyl o'r fath. Yr ail ail reswm yw fod Credo Byddin yr Iachawdwriaeth yn groes i'r hyn a ystyrir gan y bobl yn grefydd." Gwerinlywodraethwyr eithafol yw trigolion Switzerland. Barn y werin yw rheol pob ymddygiad swyddogol. Un ran bwysig o'r Cyfansoddiad yw bod rhyddid i addoli i bawb yn ei drefn ei hun i'w ganiatau drwy y rhandir. Pan y dodwyd y rhan hon i mewn yn y weithred gyfansoddiadol ed- rychai yn ogoneddus, a phrydferth; ac yn ddiau gogoneddus a phrydferth yw rhyddid bob amser, ond ei gadw o fewn terfynau priodol. Heblaw hyny gan fod yr adran i gael ei gosod yn nghadwraeth gwerin-lyw- odraeth i'w chario allan, heb nac ymerawd- wr, na brenhin, na Thy yr Arglwyddi, na Phab, nac Esgob i ymyryd, ni freuddwyd- iwyd y deuai byth unrhyw anhawsder i roddi yr adran mewn gweithrediad. Ond ar ddyfodiad Byddin yr Iachawdwriaeth i'w plith cynhyrfwyd teimladau drwg pobl Berne tuag atynt. Teimlwyd awydd cryf i ymosod ar y Fyddin pa bryd bynag y cyn- halient eu gwasanaeth crefyddol. Ar un- waith troir cefnogwyr rhyddid crefyddol yn erlidwyr, ac y mae yr edrychwyr yn methu a pheidio cydmaru eu hymddygiad i eiddo y Pab o Rufain, yr hwn a geisia wahardd i unrhyw wasanaeth crefyddol ni byddo Babyddol gael ei gynal o fewn muriau y ddinas dragywyddol Nid ydym ni yn myned i gydymdeimlo a Byddin yr Iachawdwriaeth o dan yr erledigaeth hon, nac i golli dagrau dros y cam a dderbyniant. Yr ydym wedi datgan ein barn am y sect newydd drystfawr hon fwy nag unwaith yn y colofnau hyn. Ac nid oes genym air i dynu yn ol. Yr oil a ddymunwn ei wneyd yw tynu sylw at y driniacth a dderbyniant yn awr yn Switzerland fel yn taflu goleuni pruddaidd ar y rhyddid a'r cydraddoldeb crefyddol perffaith ag y gwaeddir am dano gan rai breuddwydwyr. Cofus genym unwaith fyned i dy cyfaill lie yr oedd cerflun pren o arth yn eistedd ar gareg y simdde. Yn ei llaw daliai yr arth faner a'r gair "Rhyddid mewn llythyrenau breision wediei ysgrifenu arno. Gofynasom iddo beth a olygai wrth y fath gerflun. -1 0, ebe yntau, "dyna Gymdeithas Rhyddhad Crefydd. Rhyddid arth yw eu rhyddid hwy rhyddid iddynt hwy wneyd fel y mynont, a dim rhyddid i neb arall." Y mae'r hyn a gymerodd le yn awr yn Switzerland yn gadarnhad nodedig o sylw y cyfaill.
[No title]
Mae yn anliawdd gwybod beth yw y cynlluniau Ffrainc a China gyda golwg ar yr anghydfod sydd yn bodoli rliyngddynt, gan nad ydyw y naill iialr llall o'r gwledydd hyn wedi cyhoeddi rhyfel yn ffurfiol. Crediruaai cynllun y Llyngesydd Courbet yw tirio yn Kelung, gyru y Chineaid yn fwy i'r wlad, He y mae y llwythau yn wrthryfel- gar. Mae yn gwestiwn pwysig a lwydda efe yn hyn, gan fod gan y Chineaid nifer luosog iawn o iilwyr yn gwylio y gwahanol ffyrdd. Mae yn lied eicr y bydd i un o'r ddwy wlad gyhoeddi rhyfol yn fuan.
NEWYDDION ODDIWRTH Y CADFRIDOG…
NEWYDDION ODDIWRTH Y CAD- FRIDOG GORDON. Ychydig ddyddiau yn ol derbyniwyd pellebron oddiwrth y Cadfridog Gordon gan y Khedive, Syr E. Baring, a Nuba Pasha i'r perwyl canlynol:—" Yr wyf yn disgwyl i fyddinoedd Prydeinig gyrhaedd, mewn trefn i ddihysbyddu y gwarchodluoedd Aiphtaidd. Anfonwch i mi Zehebr Pasha, a thalweh iddo gyflog blynyddol o £8000. Rhoddaf i fyny y Soudan gan gynted ag y cyrhaedda dwy fil o filwyr yma. Os bydd i'r gwrth- ryfelwyr ladd yr Aiphtiaid, chwychwi fydd yn gyfrifol am eu gwaed. Mae arnaf eisiau lri chan' mil o bunau i dalu i'r milwyr, oherwydd y mae fy nghostau dyddiol yn bymtheg cant o bunau. Yn mhen ychydig ddyddiau, bydd i ni gymeryd Berber, lie yr wyf wedi anfon y Milwriad Stewart, Mr. Power, a'r Conswl Ffrengig, gyd a nifer dda o filwyr a Bashi-Basouks, y rhai, wedi bod am bymthegnos, a losgant y dref, ac a ddychwelant i Khartoum. Bydd i'r Milwr- iad Stewrrt fyned i'r Mongola, ac yna i'r Cyhydoedd, er dyfod a'r gwarchodluoedd yn ol oddlyno, Nid wyf yn credu fod y Mahdi yn dyfod, a gobeithio y bydd i'r Soudaniaid ei ladd."
BUDDUGOLIAETH Y CADFRIDOG…
BUDDUGOLIAETH Y CADFRIDOG GORDON. Derbyniwyd pellebyr yn Cairo ddydd LIun oddiwrth y trafnoddydd Ffrengig yn Khartoum, yn cadarnhau yr adroddiadau am y brwydro diweddar gerllaw y dref hono. Dywed hefyd fod y gwarchae wedi ei godi, ac fod y wlad gylchynol yn hollol rydd oddiwrth y gelyn. Dywed y trafnoddydd fod yn hawdd cael digon o fwyd i'r dref yn awr, a'i fod yn bwriadu myned i Dongola gyda'r Cadfridog Stewart a Mr. Power. Y mae y Gau-brophwyd wedi clywed am lwyddiant Gordon a'i filwyr, ac yn bwriadu anfon milwyr i Khartoum yn ddioed.
RHIWABON.
RHIWABON. MRS. WATKIN WILLIAMS WYNN.-Dydd Iau cyn y diweddaf, planwyd coeden gan Mrs. Herbert L. Wat- kin Williams Wynn, ger y Wynnstay Hotel, pan yr oedd 3000 o blant yr ysgolion, a nifer lluosog o bobl eraill, yn bresenol. Ar ol y seremoni, anrhegwyd y plant a gwledd o de, ac wedi hyny mwynhasant eu hunain mewn campau diniwed mewn pare cyfagos. Yr oedd y plant wedi ymgynull o bob ysgol ddyddiol yn y plwyf, y rhai a gynwysent bedair o Ysgolion y Bwrdd, pedair Ysgol Genedlaethol, ac ysgolion Eaton, ac Erbistock.
[No title]
Dydd Sadwrn cyn y diweddaf claddwyd gwedd- illion y diweddar Is-gadben Filwriad Archibald Charles Henry Douglas-Pennant, diweddar o'r Grenadier Guards, ac ail fab Arglwydd Penrhyn, yn Wicken, sir Northampton. Bu farw nos Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, yn Glan Conwy, Cymerodd y claddedigaeth Ie am 12.30 yn y modd mwyaf syml. Gorchuddiwyd yr arch gan nifer luosog o bleth-dorchau heirdd, y rliai a ddanfon- wyd gan y teulu a'r perthynasau agosaf. Y weddw a'r plant oeddynt y prif alarwyr. Ar ol y gwas- aeth yn yr Eglwys, yr hon oedd yn llawn o denantiaid a llafurwyr yr ystad, pymudwyd yr arch i'r fynwent, lie y terrynwyd y gwasanaeth gan y rheithor.
AT EIN DOSBARTHWYR A'N DER,BYNWYR.
AT EIN DOSBARTHWYR A'N DER- BYNWYR. Byddem yn ddiolchgar i'n Dosbarthwyr a'n Derbynwyr pe talent sylw mor fuan ag 0 sydd bosibl i'r biliau am y LLAN, y rhai a anfonir y dyddiau hyn, fel ag i'n galluogi i 0 0 wastadhau y cyfrifon.
DYFFRYN NANTLLE.
DYFFRYN NANTLLE. DAMWEINIAU.'—Yr wythnos ddiweddaf, digwydd- odd amryw ddamweiniau yma, a throdd un yn angeuol. Dydd Llun yn chwarel Ty Mawr, pan yr oedd bachgen ieuanc o'r enw Richard Thorman, 16 mlwydd oed, Nantlle, wrth y gorchwyl o fyned i lawr i'r twll, gollyngodd ei afael o'r rhaff, a disgynodd i ddyfnder o tua 12 llath. Derbyniodd niweidiau dychrynllyd, a bu farw ymhen ychydig o amser. Cynhaliwyd trengholiad ar ei gorph ddydd Gwener, 'pan y dychwelwyd rheithfarn o Farwolaeth ddam- weiniol."—Dydd Mawrth, yn chwarel Dorothea, torodd un o'r cadwyni pan yr oedd wagen Iwythog bron a chyraedd y top, a dymchwelodd hi a'i chyn- wys gyda nerth mawr nes anafu dau ddyn, a gwared- igaoth wyrthiol gafodd amryw eraill. Y ddau a anafwyd ydynt Hugh Williams, Llanllyfni, a Hugh Williams, Talysarn (gynt o Cae Cregin). BODDIAD.-Dydd Mercher diweddaf, digwyddodd amgylchiad difrifol iawn yn y Nursery," Glynllif- on. Y mae yn ymddangos fod boneddiges o Bur- lington Slate Works, Korkby-in-Furness, yn aros yno, gyda thri o blant. Yn ymyl, y mae llyn bychan, ac yr oedd y fam wedi rhybuddio y plant am beidio myned yn agos ato rhag ofn iddynt foddi. Fodd bynag, y diwrnod a nodwyd, aeth un o'r plant, o'r enw Llewelyn, wyth mlwydd oed, i'r lie, a phan yr aeth y foneddiges i chwilio am dano, gwelodd ei het ar wyneb y dwfr, ac yntau wedi boddi.
¡MAESTEG,
MAESTEG, MAHWOLAETH SYDYN.—-Cynbaliodd Mr. Howell Cuthbertson, Castellnedd, drengholiad ddydd Gwener diweddaf, ar gorph Esther James, 65 mlwydd oed, priod Evan James, celfyddydwr, 50, Rock-street, Maesteg, yr hon a fu farw yn dra sydyn boreu dydd Iau. Yr oedd y drancodig yn hollol iach ddydd Mercher, ac wedi bod yn golchi trwy y dydd. Aeth i'w gwely gyda'i gwr oddeutu haner awr wedi un ar ddeg y noson hono, ac ni chwynodd ddim drwy y nos. Oddeutu chwech o'r gloch boreu Iau, cododd o'i gwely, ac edrychodd drwy y ffenestr ond dych- welodd i'w gwely, gruddfariodd, ac anadlodd yn drwm ddwywaith, ac er brawychiad i'w gwr, yr oedd wedimarw. Dychwelwyd rheithfarn o "Farwolaeth trwy achosion naturiol."