Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR TOM PUDLER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR TOM PUDLER. PREGETHU. SYR,—Mae'r cyfeillion yma yn siarad yn ddigrif dros ben am bregethu a phregethwyr; digrif oni bai fod y peth mor sobr a difrifol. Hwy a fenthyciant eu cymhariaethau oddi- wrth redegfeydd, ac ymgodymu, ac ym- ladd, a hela cadno, a phethau cyffelyb. Ar ol bob cwrdd mawr cyhoeddus, lie mae amryw lefarwyr yn pregethu, hwy a ddy- wedant, hwn a hwn oedd y goreu o ddigon. Hwn a hwn aeth a'r cwrdd y tro hwn. Hwn a hwn gododd y gynulleidfa. Hwn a hwn aeth a'r bobl. Hwn a hwn aeth a'r belt. Hwn a hwn aeth a'r bel. Hwn a hwn enillodd y dorch. Hwn a hwn oedd eu meistr hwy bob un. Yr oedd hwn a hwn yn ei hwyliau goreu heddyw. Yr oedd gan hwn a hwn bethau da, ond y llall oedd a llais a dawn ganddo. Siaradant am y cwrdd mawr yn gywir yr un fath a phe baent wedi bod mewn campau corphorol, neu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae pregethu wedi myn'd yn gystadlu, a'r gwrandawyr wedi myned yn farnwyr. Siaradant yr un fath am y cyfarfodydd gweddio undebol. Myn pob plaid mai eu dyn hwy oedd y gweddiwr goreu; ac os nad efe aeth a'r cwrdd yr wythnos hon, dodant rywun arall ymlaen yr wythnos nesaf. Tuedd y cwbl o hyn yw iselhau pregethu a chaledu y byd dibroffes. Nid gwrandawyr cyffredin sydd yn arfer y dull hwn o siarad, ond blaenor- iaid a diaconiaid, a gwyr mawr y capeli. Fel mae gwaethaf y modd, mae'r un ys- bryd a'r un dull o lefaru yn ymlusgo i mewn i'r Eglwys. Mae ymddiddanion drwg yn Ilygru moesau da." Mae tymhor y Gwasan- aethau Diolchgarwch wedi dyfod, ac y mae rhai o ohebwyr y LLAN yn dechreu chwilio a dihysbyddu y geiriaduron am eiriau cryfion i ganmol hwn a chlodfori y llall. Yr oedd hwn a hwn yn pregethu yn rhagorol, yn odidog, yn darawiadol, yn ddoniol, yn swynol, yn dalentog, yn rymus, yn hyawdl, yn nerthol, yn ddylanwadol, yn effeithiol, yn rhyfeddol, yn wefreiddiol, yn drydanol, ac yn y blaen. Mae rhai yn sibrwd fod ambell un yn danfon yr adrodd- iad i mewn ei hun, ac yn canu ei gorn ei hun. Efe a ddywed am dano ei hun y modd yr oedd yr bobl yn ymdyru i'w wrando, a'r modd yr oeddynt yn siarad am dano. Mae gwr heb y fath ydyw, ac fod awydd mawr arnynt am gael ei glywed eilwaith. Gobeithwn nad yw hyn yn wir am neb. Ohebwyr y LLAN, da chwithau gadewch y ffieiddbeth hwn i bob1. y capeli. Byddwch yn sobr, a doeth, a difrifol, wrth siarad am waith Sanctaidd gweinidogion yr Eglwys. Er mwyn pobpeth, rhoddwch i ni hanes y Cyfarfodydd Diolchgarwch o bob plwyf, ac yn lie gorganmol, a gwenieithio, a seboni y rhai sydd yn pregethu, rhoddwch i ni rai o'r sylwadau da, a'r cynghorion dwys a glywch gan amrywiol ofleiriaid. Fe fydd hyny yn ddysgeidiaith, ac o les a budd i ni, ddarllenwyr y LLAN. Gwnewch yr un peth, pan glywoch emyn, neu don, neu anthem, yn cael ei chanu gan y cantorion, add as i addoliad y cysegr, ac heb fod yn adnabyddus i'r corau trwy'r wlad, a ni afyddwn yn ddiplchgar i chwi. Ond peidiwch ag ys- grifenu am bregethu nac am ganu, fel pe baech wedi bod mewn Eisteddfod, neu redegfeydd ceffylau, neu yn cicio y bel droed. TOM PUDLER.

YR EGLWYS YN LLEYN.

LLANFABON.

BETTWS, GER PENYBONT-AR-OGWY.

LLANFIHANGEL-YN-NHOWYN, MON.

PENYGRAIG, RHONDDA.

[No title]

TYNEWYDD, OGMORE VALE.

LLANGEINOR.

[No title]

NEWYDDION .CYFFREDINOL.