Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
LLYTHYR TOM PUDLER.
LLYTHYR TOM PUDLER. PREGETHU. SYR,—Mae'r cyfeillion yma yn siarad yn ddigrif dros ben am bregethu a phregethwyr; digrif oni bai fod y peth mor sobr a difrifol. Hwy a fenthyciant eu cymhariaethau oddi- wrth redegfeydd, ac ymgodymu, ac ym- ladd, a hela cadno, a phethau cyffelyb. Ar ol bob cwrdd mawr cyhoeddus, lie mae amryw lefarwyr yn pregethu, hwy a ddy- wedant, hwn a hwn oedd y goreu o ddigon. Hwn a hwn aeth a'r cwrdd y tro hwn. Hwn a hwn gododd y gynulleidfa. Hwn a hwn aeth a'r bobl. Hwn a hwn aeth a'r belt. Hwn a hwn aeth a'r bel. Hwn a hwn enillodd y dorch. Hwn a hwn oedd eu meistr hwy bob un. Yr oedd hwn a hwn yn ei hwyliau goreu heddyw. Yr oedd gan hwn a hwn bethau da, ond y llall oedd a llais a dawn ganddo. Siaradant am y cwrdd mawr yn gywir yr un fath a phe baent wedi bod mewn campau corphorol, neu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae pregethu wedi myn'd yn gystadlu, a'r gwrandawyr wedi myned yn farnwyr. Siaradant yr un fath am y cyfarfodydd gweddio undebol. Myn pob plaid mai eu dyn hwy oedd y gweddiwr goreu; ac os nad efe aeth a'r cwrdd yr wythnos hon, dodant rywun arall ymlaen yr wythnos nesaf. Tuedd y cwbl o hyn yw iselhau pregethu a chaledu y byd dibroffes. Nid gwrandawyr cyffredin sydd yn arfer y dull hwn o siarad, ond blaenor- iaid a diaconiaid, a gwyr mawr y capeli. Fel mae gwaethaf y modd, mae'r un ys- bryd a'r un dull o lefaru yn ymlusgo i mewn i'r Eglwys. Mae ymddiddanion drwg yn Ilygru moesau da." Mae tymhor y Gwasan- aethau Diolchgarwch wedi dyfod, ac y mae rhai o ohebwyr y LLAN yn dechreu chwilio a dihysbyddu y geiriaduron am eiriau cryfion i ganmol hwn a chlodfori y llall. Yr oedd hwn a hwn yn pregethu yn rhagorol, yn odidog, yn darawiadol, yn ddoniol, yn swynol, yn dalentog, yn rymus, yn hyawdl, yn nerthol, yn ddylanwadol, yn effeithiol, yn rhyfeddol, yn wefreiddiol, yn drydanol, ac yn y blaen. Mae rhai yn sibrwd fod ambell un yn danfon yr adrodd- iad i mewn ei hun, ac yn canu ei gorn ei hun. Efe a ddywed am dano ei hun y modd yr oedd yr bobl yn ymdyru i'w wrando, a'r modd yr oeddynt yn siarad am dano. Mae gwr heb y fath ydyw, ac fod awydd mawr arnynt am gael ei glywed eilwaith. Gobeithwn nad yw hyn yn wir am neb. Ohebwyr y LLAN, da chwithau gadewch y ffieiddbeth hwn i bob1. y capeli. Byddwch yn sobr, a doeth, a difrifol, wrth siarad am waith Sanctaidd gweinidogion yr Eglwys. Er mwyn pobpeth, rhoddwch i ni hanes y Cyfarfodydd Diolchgarwch o bob plwyf, ac yn lie gorganmol, a gwenieithio, a seboni y rhai sydd yn pregethu, rhoddwch i ni rai o'r sylwadau da, a'r cynghorion dwys a glywch gan amrywiol ofleiriaid. Fe fydd hyny yn ddysgeidiaith, ac o les a budd i ni, ddarllenwyr y LLAN. Gwnewch yr un peth, pan glywoch emyn, neu don, neu anthem, yn cael ei chanu gan y cantorion, add as i addoliad y cysegr, ac heb fod yn adnabyddus i'r corau trwy'r wlad, a ni afyddwn yn ddiplchgar i chwi. Ond peidiwch ag ys- grifenu am bregethu nac am ganu, fel pe baech wedi bod mewn Eisteddfod, neu redegfeydd ceffylau, neu yn cicio y bel droed. TOM PUDLER.
YR EGLWYS YN LLEYN.
YR EGLWYS YN LLEYN. Y mae dros chwe' blynedd o amser er pan y bum yn Lleyn o'r blaen, ac yr wyf yn awr wrth gwrs yn dymuno gwybod beth fu haves yr eglwys yn ystod yr amser hwnw. Da genyf ddweyd fod ychydig o lwyddiant wedi cymeryd Ile, ond nid llawer. Daeth- um i Bwllheli dydd Gwener, ac aethum i'r gwasan- anaeth hwyrol yn Eglwys y plwyf, yr hwn a ddar- llenwyd yn rhagorol o dda gan y Parch. Ffrancon Da vies, y curad, a chan yr hwn y cafwyd pregeth sylweddol ac effeithiol ar "Wyrth y Mud a'r Byddar." Yr hyn a'm siomodd i raddau oedd fod y gynulleidfa mor deneu, nid oedd ond rhyw bump a deugain yn brosenol. Bu'm yn Eglwys Nefyn boreu Sul. Dar- Ilenwyd y gwasanaeth gan y Parch. E. Pryse, a pregethodd hefyd yn gampus ar Yr hen bethau a aethant heibio, wele, gwnaethpwyd pobpeth o newydd." Nid oedd y gynulleidfa yma ychwaith yr hyn ddylai fod. Nos Sul, ymwelais ag Eglwys MeiHteyrn, yr hon oedd bron yn llawn, er fod yr bin yn anffafriol. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. Mr. Howell, prif-athraw Ysgol Ramadegol Botwnog, o a thraddodwyd pregeth ar Judas yn bradychu ei Feistr," mewn modd difrifol a gafaelgar, gan y Parch. J. Davies, rheithor Bythonog. Yr hyn a'm boddlonodd yn fawr yma oedd y canu da a'r atebion (responses) gwresog. Yr oedd y gynulleidfa i gyd yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth. Clywais fod Eg- lwysi Tydweiliog, Bryncroes, a Llangwnadl, yn cael eu mynychu gan gynulleidfaoedd lied dda, ond ar y cyfan gwan yw yr Eglwys yn Lleyn.—Eglwyswr.
LLANFABON.
LLANFABON. Cynhaliwyd yr wyl gynauafol, rhan ganolog y plwyf hwn, nos Fercher, yr 17eg cyfisol, a bore, nawn, a hwyr, ddydd Iau, yr 18fed. Dechreuwyd yn Ysgoldy Genedlaethol Nelson, pryd y cawd pregethau nerthol gan y Parchn. W. R. Thomas, Abersychan a J. Stephen Davys, St. loan, Aber- tawe. Dydd Iau, yr oedd y plwyfelion, pell ac agos, yn ymgyfarfod yn y Llan henafol a chysegredig, oddiamgylch yr hon y mae swyn oesol, a thawelwch Sabbathaidd yn wastadyn teyrnasu, a chawd gwas- anaethau hyfryd, y genadwri yn cael ei thraethu gyda nerth a dylanwad gan yr offeiriaid a enwyd eisoes, ynghydja'r Parch. Roberts, ficer Felinfoel. Bydded i ddyfal wlith Ei fendith aros ar yr had da a hauwyd.-Dalati.
BETTWS, GER PENYBONT-AR-OGWY.
BETTWS, GER PENYBONT-AR-OGWY. Cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf yn y lie uchod, dydd Iau, Medi 18. Darllenwyd y gwasanaeth am 3 yn y prydnawn yn Saesneg gan y Parch. D. Pugh, A.K.C., y diweddar gurad, yr hwn sydd yn awr wedi myned i'r plwyf nesaf, sef Llan- geinor pregethodd y Parch. George Thomas, B.A., yn Saesneg. Yn yr hwyr, am 7, pregethoddy Parch. H. Lewis, Llansantffraid. Cafwyd pregethau nerth- ol a hwylus. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn, ac wedi cael ei haddurno yn hardd gan Mr. John, yr ysgol- feistr, Miss John, Miss Harris a Miss Matthews.
LLANFIHANGEL-YN-NHOWYN, MON.
LLANFIHANGEL-YN-NHOWYN, MON. Dydd Mawrth, Medi 16eg, oedd y dydd a neill- duwyd gan Eglwyswyr y plwyf uchod i ddiolch am y cynhauaf. Yn y boreu, am 10.30, gweinyddwyd y Cymun Bendigaid gan y Parch. J. Hopkins, rheitho. y plwyf, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Er Edwards, Bryngwran. Am 2, darllenwyd y gwasan- aeth gan y Parch. E. B. Thomas, B.A., Bodedern, y llithoedd gan y Parch. E. Edwards, yr hwn hefyd a bregethodd i gynulleidfa luosog, ac ystyried mai dyma y tro cyntaf i gynal cyfarfodydd ar hyd y dydd. Am 6.30, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. Hopkins, y llithoedd gan y Parch. E. B. Thomas, B.A., a chafwyd pregeth hyawdl ac effeithiol gan yr olaf, tra yr oedd yr Eglwys yn llawn o wrandawyr yn gwir werthfawrogi yr hyn a leferid wrthynt. Chwareuwyd ar yr harmonium yn ystod y dydd gan Mr. R. Jones Rowlands, ysgolfeistr, a thystiai pawb na chlywsant well canu yn yr Eglwys hon erioed. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn ddestlus ar gyfer yr amgylchiad.—Ymwelydd.
PENYGRAIG, RHONDDA.
PENYGRAIG, RHONDDA. DAU FRAWD YN MARW YR UN DYDD.—Bu y dda,u frawd, Meistri Moses a Morgan Rowlands, o'r lie hwn, farw y Sul diweddaf o fewn ychydig amser i'w gilydd. Yr oedd y cyntaf yn 55 mlwydd oed, a'r olaf yn 67. Perchid y ddau yn fawr gan bawb o'u cyd- nabod, gan eu bod yn ddynion teilwng. Perchenogai Mr. Moses Rowlands ran o lofa Penygraig, ac effeith- iodd y ddamwain ofnadwy ddigwyddodd yno yn drwm arno, yr hyn a achosai bryder mawr i'w gyf- eillion. Bu Mr. Morgan Rowlands yn brif oruch- wyliwr pwll Dinas, yn yr hon swydd yr enillodd barch y gweithwyr.
[No title]
Dydd Mercher cyn y diweddaf torodd tarw yn rhydd oddiwrth ei geidwad pan ar yr heol yn Leicester, a rhuthrodd i siop ironmonger. Wedi creu cyffro yno, aeth i mewn i ariandy, a rhoddodd dro neu ddau yn ystafell breifat yr arolygydd, ac wedi hyny gwnaeth am swyddfa cymdeithas yr ochr arall i'r heol, lie y daeth i'r ddalfa.
TYNEWYDD, OGMORE VALE.
TYNEWYDD, OGMORE VALE. Eglwys St. Dewi.—Gynhaliwyd cyfarfod diolch- garwch am y cynhauaf yn yr Eglwys uchod, ddydd Mawrth, yr 16eg cyfisol, pan y daeth cynulleidfa- oedd lluosog ynghyd i gynyg diolchgarweh a mawl am eu llwyddiant yn y flwyddyn a aeth heibio. Yr oedd yn anmhosibl i gael lie i eistedd oddifewn er fod yr Eglwys wedi cael ei chwanegu trwy roddi chancel newydd iddi. Y rhan gyntaf o'r gwasanaeth a ddarllenwyd gan y Parch. David Pugh, A.K.C., (curate in sole charge). Wedi hyny canwyd yr anthem Deffro, deffro," gan y cor o dan lywyddiad medrus Mr. John Spargo, yn y fath fodd ac sydd yn haeddu parch mawr iddo am ei dalent cerddorol. Yr ail ran a ddarllenwyd gan y Parch. John Phillips, B.A., curad y lie. Cafwyd pregethau grymus a nerthol yn Saesneg gan y Parch. Geo. Thomas, B.A., ficer Newcastle, Bridgend; yn Gymraeg, gan y Parch. James Thomas, Britton Ferry. Ar ol y gwasanaeth fe aeth llawer i edrych ar y decoration oddifewn yr Eglwys, yr hon oedd yn edrych yn ar- dderchog. Yr oedd yno bob mathlo ffrwythau wedi eu rhoddi ar y ffenestri gan Mrs. a Miss Pugh, Persondy; Miss Davies, Schoolmistress; Mr. a Mrs. Pugh, Drapery Establishment; Mr. a Mrs. Dorney Mr. a Mrs. Dawes Miss Thomas, Wyndham Arms Mr. a Mrs. Spargo Meistresi Locke, Slocombe, James a Davies Mr. a Mrs. Bowden; Mr. a Mrs. Webber; Mr. a Mrs. Cockram; Mri. Bales, Adams, Phillips, Teagle, Cobden Jones; Misses Jones, Locke, Daniel, Wilson, Bowden, Witts a Howe Masters Locke, Cockram, Griffiths, D. H. Pugh, Webber, ac eraill. Wrth fyned i fewn yr oedd yr olygfa yn ardderchog a mawreddog, wrth edrych o ffenestr y chancel. Mae diolchgarwch yn deilwng i bwyllgor ysgol Tynewydd am roddi benthyg chandeliers. Y mae canmoliaeth hefyd yn deilwng i'n parchus offeiriad a'i briod -y Parch. D. Pugh a Mrs. Pugh, am y gwelliant sydd i'w weled yn y gwasanaeth a phob peth mewn cys- ylltiad a'r Eglwys. Yr ydym yn dymuno bob llwydd- iant iddynt yn y dyfodol. Cafwyd y ffrwythau gan Mri. Cole, Adams, Pugh, Dorney, Webber, Cockram, Wilson, Locke, Jones, Dawes, Slocombe, Llewelyn, Spargo, Vaughan, Quenes, Lester, James, Bowden, Thomas, Mackney, a Thomas, churchwarden.
LLANGEINOR.
LLANGEINOR. Bu cyfarfod diolchgarwch yn hen Eglwys y plwyf, nos Fercher, Medi 17, pan ddarllenwyd y gwasanaeth gan y curad, y Parch. John Phillips, B.A., a phreg- ethodd y Parch. David Pugh, A.K.C., Ogmore Vale, yn rymus a nerthol i gynulleidfa fawr; yr oedd myn'd ar y cyfirfod, ac awch ar y gwirionedd.
[No title]
Cynydda trigolion America yn ol 32 y cant bob deng mlynedd. Yn 1900 bydd yno felly 88,000,000 o drigolion. Cafodd dynes ei lladd pan yn croesi yr heol yn Charing Cross, Llundain, gan omnibus. Malur- iwyd ei plienyn ddychrynllyd. Dydd Gwener cyn y diweddaf torodd agerbeir- iant cerbydres danddaearol Llundain i lawr pan yn ytwnel, a rhedodd tren arall a ddeuai ar ei hoi yn eiherbyn, ac anafwyd rhai pobl yn Iled dost.
NEWYDDION .CYFFREDINOL.
NEWYDDION CYFFREDINOL. MORDAITH GYFLYM. Cyrhaeddocld yr agerlong Alaska" i New York o Queenstown ddydd Sul mewn saith diwrnod a dau funyd. NIHILIAID YN DIANC O'R CARCHAR.—Mynega newyddion o St. Petersburg fod cythrwfl enbyd wedi tori allan ymhlith y carcharorion Nihilaidd yn Irkutsk, a chwech o honynt wedi llwyddo i ddianc, ac er pob ymchwiliad gan yr awdurdodau nid ydynt wedi eu dal eto. DAMWAIN ANGEUOL AR BEN Y WYDDFA.—Yn ystod yr ystorm ddychrynllyd a ymwelodd a'n gwlad ddydd Sul, tarawyd y ty ar ben y Wyddfa gan fellten, a lladdwyd teithiwr o'r enw Mr. Livesey, o Newton-le-Willows, Manchester, Niweidiwyd trigianydd y ty hefyd. FFORDD RYFEDD I DWLLO CWMNI RIIEILFFORDD. -Er mwyn peidio talu am ei gludiad o Doncaster i Sheffield, gorweddodd hocer ar ei hyd ar eisteddle un o'r cerbydau, ac eisteddodd chwech o bobl arno rhag i neb ei weled. Cafodd ei ddirwyo i 20s. am ei ymgais twyllodrus. Y DDAMWAIH ANGEUOL YN ABERTAWE.—Cry- bwyllwyd yn ein rhifyn diweddaf am ddamwain angeuol i Thomas Lee a ddigwyddodd ynglyn a chwareu gyda gwn yn Abertawe. Dydd Llun, dygwyd James Lynn ymlaen gerbron yr ynadon ary cyhuddiad o achosi ei farwolaeth, ond rhydd- hawyd y bachgen gan nad oedd unrhyw dystiol- aeth yn ei erbyn. ESGEULUSDRA MEWN GWAITH GLO.—Yn llys ynadon Ystrad, ddydd Llun, cyhuddwyd Thomas Rees a Henry Isaac, Dinas, o niwoidio rhai o gelfi y gwaith yn wirfoddol. Cydnabyddodd y ddau eu bod yn euog, a dedfrydwyd hwy i dalu fel y canlyn :—Rees, 40s. a'r costau Isaac, 10s. a'r costau, heblaw 50s. bob un o iawn. DEON LLANDAF.—Wedi bod am amser maith yn absenol o'r pwlpud oherwydd afiechyd, da genym ddeall fod y Tra Pharchedig Dr. Vaughan, Deon Llandaf, wedi traddodi pregeth yn ei Eglwys Gadeiriol brydnawn ddydd Sul diweddaf. Er nad yw wedi gwella gystal ag y gellid dymuno, bydd yn dda gan ei filoedd edmygwyr ddeall fod gobaith cryf y bydd wedi ei lwyr adferu yn fuan. EFFAITH MEDDWDOD.—Cyflawnwyd llofrudd- iaeth erchyll yn Lerpwl nos Sadwrn, mewn can- lyniad i eiddigedd. Ymddengys fod llongwr Rwsiaidd, Ernest Everstaldt,yn cadw cwmni gydag un Elizabeth Edwards, Anson-place, ac iddo ei thrywanu a dagr yn ei mynwes gan iddo ei gweled yn nghwmni dynion eraill. Bu y ddynes farw yn ddioed, a chymerwyd y llofrudd i'r ddalfa. MEUDWY Y SGOTAIDD.-Gwnaed darganfyddiad rhytedd yn Edinburgh ddydd Sadwrn. Anfonwyd am ddau feddyg i ddyfod at un claf, a phan gyr- haeddasant y ty canfyddasant ddyn yn gorwedd mewn gwely bychan, yn yr hwn yr oedd wedi treulio ei amser am y saith mlynedd diweddaf, ac ni siaradai A neb yn ystod yr amser maith hyny, ddim hyd yn nod a'i chwaer, yr hon oedd yn byw yn yr un ty. Yr oedd golwg ofnadwy arno, a'i wallt tua dwy droedfedd o hyd, a phan welodd y meddygon ymosododd arnynt gyda bwyall finiog, yr hon a ddygwyd oddiarno, a chymerwyd ef i wallgofdy. TERFYSGOEDD YN BRIGHTON.-Teimlir cryn at- gasedd yn erbyn Byddin yr Iachawdwriaeth yn Brighton, a thorodd terfysg dychrynllyd allan yno brydnawn ddydd Sul. Aeth yr heddgeidwaid i amddiffyn un dyn oedd yn cael ymosod arno, ond Iluchiwyd hwy a cheryg mawrion. Clwyfwyd lliaws mawr yn yr ymrafael, a chymerwyd pump o bsr- sonau i'r ddalfa. Dylai yr awdurdodau ystyried yn ddifrifol am ryw foddion effeithiol i roddi ter fyn ar y gorymdeithiau hyn sydd yn achosi cym- aint o gythrwfl bron ymhob man, gan fod llawer mwy o ddrwg nag o ddaioni yn deilliaw o honynt. Y WEDDW A'I HAIL WR.—Ychydig amser yn ol darfu i foneddwr Seisnig briodi gweddw ieuanc brydweddol, ac ymhen tnag wythnos yr oeddynt yn mwynhau eu boreufwyd pan sylwodd y bon- eddwr, Y fath wraig feddylgar sydd genyf yn gofalu cadw lludw fy cigars er fy nghynysgaeddu a phowdr i lanau fy nanedd. Can' mil o ddiolch i chwi, fy anwylyd. Boreu heddyw y dargan- fyddais ef. Onid yw wedi peri cyfnewidiad ben- dithiol ar fy nanedd, cariad ?*' gan agor ei enau er mwyn eu harddangos. Lludw cigars ? Powdr danedd ? Nid wyf yn eich deall, fy anwyl- yd. Yn mha le y cawsoch ef, fy anwylaf un ?" gofynai. Ond yn y llestr rhyfedd yna, fy angyles." Wrth glywed hyn, llewygodd y wraig ieuanc, a phan lwyddwyd i'w dadebru, gwaedd- odd allan, "0, Adolphus, sut y gallech wneyd y fath beth ? Lludw corff eich rhagflaenydd ydoedd 1" ORDEINIADAU--Cynlialiodd Arglwydd Esgob Llandaf wasanaeth ordeiniol yn yr Eglwys Gadeiriol ddydd Sul. Wedi i'r Parch. W. C. Bruce, M.A., caplan yr Esgob, draddodi pregeth, ordeiniwyd y boneddigion canlynol: Diaconiaid- David Arthur Burnett, B.A., Coleg Keble, Rhyd- ychain George Griffith, Coleg St. Dewi, Llan- bedr; Lew's Hughes, M.A., Prifysgol Glasgow; Martin Luther Jones, St. Bees Frederick Charles Williams, Coleg St. Dewi. Offeiriaid-Enoch Thomas, Coleg St. Dewi; John Jones, Coleg St. Bees; Samuel Jones, Coleg St. Dewi; Henry Morris (literate); John Rees, Coleg St. Dewi; Enoch Thomas, Coleg St. Bees; Herbert Edward Thursby, Coleg Cuddesdon, Rhydychain Thomas Tissington, Coleg Duwinyddol, Gloucester; George Griffith Williams, Coleg St. Dewi. Caniataodd yr Esgob yn ddilynol y trwyddedau canlynol:—Arthur David Burnett, B.A., i Roath, Caerdydd; George Griffiths i Nantyglo Lewis Hughes, M.A., i Rhymni; Martin Luther Jones i Aberdar; Frederick Charles Williams, B.A., i Aberafon a Baglan. Mr. G. Griffiths a ddarllen- odd yr efengyl.BANGoR.-Ordeiniivyd y rhai canlynol gan Arglwydd Esgob Bangor yr un adeg ;—Diacon—John Edwards, B.A., Coleg yr Iesu, Rhvdychain, trwyddedig i guradiaeth Conwy;- -Offciriaid-*P,,ichard Jones, Coleg St. Aidan's, Birkenhead, curad Bettwsylos; Llew- elyn Hughes, Coleg St. Dewi, curad Ffestiniog. DAEARGRYN YN AMERICA.—Teimlwyd ysgyt- iadau daeargryn yn Ohio, Indiana, a Michigan, ddydd Sadwrn, ond yn ffodus ni wnaed unrhyw niwed mawr i eiddo. MARWOLAETH GWR ENWOG.—Dydd Mawrth, claddwyd gweddillion marwol Mr. Thomas Cope, U.H., Lerpwl, yn nghladdfa Anfield. Yroedd yn un o brif aelodau cwmni y Meistri Cope, y mas- nachwyr tybaco adnabyddus. BWRIADAU Y FFENIAID.-Dywed gohebydd y Standard yn Brussels fod ganddo sail dda dros hysbysu fody Ffeniaid yn bwriadu cario allan eu cynlluniau dieflig ar raddau helaethach nag erioed ymhen ychydig wythnosau. Dywed y gwneir ceisiadau i gymeryd ymaith fywydau y teulu brenhinol yn Lloegr, ac i'r diben hwn mae shells dinystriol yn cael eu parotoi gan Nihiliaid yn Llundain. Gwneir ceisiadau hefyd i ddinystrio adeiladau neillduol ynghyd a swyddfeydd yr heddgeidwaid. Mae O'Donnovan Rossa wedi cynyg gwobr am y cynllun goreu i chwythu i lyny y Senedd-dai, ond nid yw un o'r ymgeiswyr hyd yma wedi anfon cynlluniau boddhaol. Bernir y ceisir chwythu i fyny adeiladau yn Llundain, Dublin, Manchester, &c., yr un adeg. Y CHOLERA.—Nid ydyw yr haint dinystriol hwn yn ymledaenu mor gyflym ag yr ofnid y buasai yn gwneyd yn Yspaen nac ychwaith yn gwneyd cymaint o hafoc yno. Ond yn Italy y mae yn dinystrio canoedd o fywydau yn ddyddiol. Yn ystod y pedair awr ar hugain a derfynai am wyth o'r gloch boreu Gwener diweddaf, cymerwyd 383 o bersonau yn glaf yn Naples, a bu farw 124. Yn ystod y Sul diweddaf. ymosododd y colera ar 320 o bersonau yn Naples, a bu farw 194. Dydd Sadwrn, bu farw un o'r prif Chwiorydd Elusengar, yr hon a lafuriodd yn gydwybodol fel nurse i'r cleifion ymhob tymor o haint yn y trefi cylchynol er y flwyyddn 1836. Uchel ganmolir dewrder rhyfeddol a theimladau dyngarol y Brenin Hum- bert, yr hwn sydd wedi bod ei hunan am bym- thegnos yn gweinyddu pob trugaredd o fewn ei allu i'r trueiniaid yn vsbyttai a heolydd isaf tref Naples. Mae y Pab wedi penderfynu agor ys- yn Rhufain pe y digwyddai i'r geri ymddangos yno. DIGWYDDIAD ERCHYLL YN LERPWL.—Dydd Mercher, deuwyd o hyd i gorph geneth fechan, deuddeg mlwydd oed, o'r enw Ann Pollard, yn nofio yn y Gamlas, ger Lightbodybridge. Pres- wyliai yr eneth gyda'i rhieni yn 8, Hornby-street. Pan godwyd y corph o'r dwfr yr oedd mewn sefyllfa sobr iawn. Dywed ei mham iddi anfon y ferch, oddeutu chwech o'r gloch prydnawn dydd Mawrth, ar neges i Great Howard Street, ond gan nad oedd yn dychwelyd mewn amser priodol, aeth yn bryderus, a gwnaeth ymchwiliad am dani. Dywedodd dau fachgen wrth Mrs. Pollard, pan glywsant am yr amgylchiad, iddynt weled yr eneth yn myned i gwch, oddeutu saith o'r gloch y noson hono, a buont yn ei disgwyl oddiyno am hir amser, ond ni ddaeth. Perthynai y cwch i hen ddyn o'r enw Owen, oddeutu 60 mlwydd oed. Aeth Mr. Pollard, tad yr eneth, at Owen, a gofynodd iddo a oedd wedi gweled ei ferch. Dy- wedodd yntau iddi fod yno ychydig amser cyn hyny. Cafwyd y corph yn y dwfi y dydd canlyn- ol, a dyma lie y gwelwyd hi gyntaf gan ei mham ar ol y noson flaenorol. Cymerwyd y cychwr i fyny, enw yr hwn ydyw Josiah Owen, ar am- heuaeth, ond rhyddhawyd ef yn ddilynol. DIGWYDDIAD HYNOD.—Cymerodd amgylchiad Ily rhyfedd le yn Bridgewater y dyddiau diweddaf. Mae yn ymddangos fod dyn o'r enw George Chil- cott, labrwr, ac yn byw yn agos i Eglwys Wemb- don, wedi syrthio i gwsg llewygol ar y 5ed cyfisol. Y mae gan y dyn wraig a phlentyn, a'r diwrnod y syrthiodd i'r gwsg llesmeiriol hwnw, meddyl- iasant ei fod wedi marw yn ddisymwth. Anfon- wyd am arch, a rhoddwyd y trancedig tybiedig ynddo. Yn nesaf aethant at offeiriad Wembdon, y Parch. A. Newman, yr hwn, wedi clywed yr holl helynt, a ddymunodd gael gweled y corff. Wedi ei weled, dywedodd nad oedd y corff yn ddigon oer i fod yn farw, ac os nodent y diwrnod i'w gladdu, na chydymffurfiai efe a'u dymuniad. Modd bynag, gosodwyd y corff tybiedig yn yr arch, a chymerwyd et i'r Eglwys, lie yr ymwelid ag ef yn fynych gan yr offeiriad ac eraill. Parhai y corff yn gynes, ac oddeutu 8 o'r gloch boreu dydd Llun yr wythnos ddiweddaf dechreuodd symud yn yr arch. Ar hyn meddyliwyd yn briodol symud yr arch a'r dyn o'r Eglwys i'w gartref, a chymerwyd ef o'r arch, er ei osod yn y gwely. Daeth ato ei hun yn araf, er yn hynod o wan. Galwyd Dr. Marsden i mewn, ac er wedi dadebru o'i lesmair, ni siaradodd air am dri diwrnod. Y mae yn awr yn dechreu bwyta ac yn codi hefyd o'i wely DRYLLIAD LLONG o ABERTAWE.—Dydd Llun, cyrhaeddodd llestr i Lerpwl o America Ddeheuol, ac ar ei bwrdd yr oedd Cadben Phillips, a bachgen, y rhai oeddynt ynghyd fig eraill yn perthyn i'r llestr Olano," perthynol i Abertawe, yr hon aeth yn ddrylliau yn Nghulfor Lemaire. Ymddengys fod y trueiniaid oedd ar y bwrdd wedi dioddef caledi ofnadwy mewn gwirionedd. Yr oedd yr Olano wedi bod ar daith o Abertawe i Rossario, ac yn dychwelyd o'r lie diweddaf pan ddigwydd- odd yr anffawd. Pan ydoedd yn Nghulfor Lemaire, tarawodd y llestr yn erbyn Yriys Staten, a chan nas gallai y dwylaw, er pob ymdrech, ei chael i'r dwfr, cymer- asant gwch a rhwyfasant tua'r lan yn ddiogel. Boreu dranoeth canfyddasant fod yr Olano wedi suddo, ac er eu braw deallaaant nad oedd dim ymborth ganddynt. Llwyldasant i wneyd pabell gyda darn o hwyl, gan fod y tywydd yn oer a'r ddaear yn orchuddiedig ag eira trwch. Deall- asant nad oeddneb yn trigianu yn yr ynys, a buont yn byw ar wystrys, cocos, &c., am 28 o ddyddiau, gan gymeryd eira i dori eu syched. Ar yr wythfed dydd ar hugain, daeth llong Ffrengig heibio yr ynys, a gwaredwyd y trueiniaid, y rhai a gludwyd i Valpariso. Yr oedd amryw o honynt mor wael fel y bu yn angenrheidiol eu rhoddi dan ofal y meddygon yn yr ysbytty. Perchenogid yr Olano gan y Mri. Phillips a Rees, Abertawe.