Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

FFESTINIOG A'R AMGYLCHOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFESTINIOG A'R AMGYLCHOEDD. Y DADGYSYLLTIAD.— Dywed Ffestinfab yn yr Herald Cymracg, "Mewn pwyllgor a alwyd ynghyd gan yr ysgrifenydd lleol, y Parch. T. R. Davies, nos Wener diweddaf, pasiwyd derbyn yjgynhadledd eleni yn Ffestiniog, yn mis Hydref nesaf. Mae y pwyll- gor wedi rhoddi ar yr ysgrifenydd i wahodd rhai o'r siaradwyr Cymreig goreu yn y deyrnas, y rhai os deuant a gynrychiolant yr holl enwadau." Felly ynte, y mae y rhyfel dadgysylltiol i gael ei hagor ar unwaith yn Blaenau Ffestiniog, a beth sydd ddoeth i Eglwyswyr wneyd dan yr amgylchiadau ? Cynhaliwyd cyfarfodydd y Feibl Gymdeithas yr wythnos ddiweddaf mewn gwahanol leoedd yn y plwyf, lie y mae nifer mawr o gefnogwyr aiddgar. Cyfranwyd y llynedd iddi £ 100 yn y Blaenau, a e25 yh y an, yn rhoddi on heblaw taliadau am lyfrau. A ydyw yn ddoeth i Eglwyswyr ymuno fel y gwnant yn yr ardal hon a'r Ymneillduwyr i gefnogi y Gym- deithas hon, pan y mae ganddynt y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol bron i'r un perwyl ? Tybiaf yn ostyngedig mai doeth ar y cyfan ydyw yrnlvnu wrthi cyhyd ag y gellir. Dydd Mawrth diweddaf, Medi 23ain, rhoddodd teulu Plas Tanybwlch eu gwledd flynyddol o dea bara brith i blant dwy ysgol ddyddiol plwyf Maen- twrog, yn gystal ag i gantorion yr Eglwys. Da genym ddeall eu bod yn cymeryd mwyfwy o ddydd- ordeb yn yr Eglwys a'i phethau, pa mwyaf y cyn- hyrfa ei gelynion yn ei herbyn. Felly y dylai pethau fod. Pan gyfartha y own, dylai y defaid fyned yn fwy at eu gilydd. Yr oedd yr Anrhydeddus Mrs. Oakeley a Miss Oakeley yn gweini yn siriol wrth y byrddau. Ar ol diwedd y wledd, cyfranwyd tyst- ysgrifau a medals i'r plant oedd wedi eu henill, trwy fod yn gyson yn yr ysgol neu trwy basio eu harholiad blynyddol. Gymaint mwy eu breintiau ydyw plant yr Ysgolion Cenedlaethol rhagor na phe byddai yr ysgolion yma ar y plwyf dan Fwrdd Ysgol. Y Parch. Ll. R. Hughes, B.A., a urddwyd yn offeiriad gan Esgob Bangor y Sul diweddaf, a gweddiwyd drosto ef yn arbenig, ymhob un o'r Eg- lwysi y mae efe yn gweinyddu ynddynt, am i fendith Duw orphwys ar ei waith. Cymer y cynulleidfa- oedd ddyddordeb neillduol ynddo, gan ei fod trwy ei ymdrechion diflino yn yr Eglwysi wedi enill serch cyffredinol. Y mae efe yn weinidog ieuangc addaw- ol iawn, ac yn hynod ddefnyddiol ymhlith pobl ieuaingc.—John Jones.

LLANDRINDOD.

ABERHONDDU.

HIRWAIN.

LLANBERIS.

----------I MOUNTAIN ASH.

CAERFYRDDIN.

BETHESDA.

CWMAFON.

ABERTEIFI.

PENBOYR.

BANGOR.

LLANFIHANGEL-GENEU'R-GLYN.

MERTHYR TYDFIL.

TREDEGAR.'